Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
29 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

t YR HAUL. OYNWYSIAD AM MEDI. j Y Mis. Prydain, Awst, 1914 I Llyfr y Barnwyr. Dyhuddiant j At y Beirdd. 5 Henry Vaughan, Silurist, 1621 — 1695 Newyddiaeth. Huw Morys. > John Jones j "Yr Hwyr a fu a'r Bor fu. Or Arsyllfa. Adolygiadau. | Nodi on Eglwysig. | Bwrdd y Golygydd Manion. | ¡

Advertising

PERL Y PLANT CYNWYSIAJD AM MEDI. | Dadleuon Magi Jones. Dyn yn Gwerthu ei Enaid am j haner coron. Ieuan Gwynedd. 11 Yn y Mynyddoedd (Darluniau). Dalen Dirwest. | Y Gorlan Dramorol (Darlun). < Y Pagan Bach Du. | Ton—' Huna, Blentyn Iesu.' ( Seryddiaeth (gyda Darlun). Emynwyr Cymru. { Thomas Aquinas. | Y diweddar Harold Jones, Glan- | ogwen (gyda Darlun). Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd. j Y Gystadleuaeth. Perlau y I PerL' | Llithiau Priodol am y Mis. ) Barddoniaeth.

ADRODDIAD CALONOGOL GAN SYR JOHN FRENCH

ADRODDIAD CALONOGOL GAN SYR JOHN FRENCH. Y FRWYDR FAWR AR YR AISNE. CREULONDERAU Y GERMANIAID. ADRODDIAD SYR JOHN FRENCH. Mewn adroddiad a dderbyniwyd ddydd Gwener oddiwrth Syr John French, ceir manylion cyiTrous af y brwydro ar yr Aiane o'r lleg hyd y 13eg o Fedi. Mae yn hanes a ddyry glod anrhydeddus i'r cat- rodau Prydeinig. Ataliwyd ymdaith y Prydeinwyr gan wlawogydd trymion, ond gwthiasant yinlaen yn wrol dan gawodydd o beleni, gan daflu pontydd dros yr afon mewn tri lie, a'i chroesi. Ni fcont yn hir wedi hyny cyn gwynebu y gelyn, a gwnaethant golledion trymion i'r Ger- maniaid. Dydd Gwener, yr oedd y frwydr wedi parhau am saith wythnos, a phan geir manylion am y gelanedd onfnir y bydd yn ofnadwy.

YR YMLADD AR YR AISNE

YR YMLADD AR YR AISNE. Cydnabyddir fod y brwydro ar yr Aisne yn ystod y dyddiau diweddaf yn ffyrnig iawn ar y ddwy ochr oddiar ddechreuad y rhyfel. Dywed gohebydd fod y German- iaid wedi galw am seibiant ar foreu y 14eg o Fedi, ond yn y prydnawn cariwyd y frwydr ymlaen yn egniol gan y ddwy ochr. Y diwrnod canlynol, nid oedd y frwydr mor egniol, ac yr oedd yn eglur fod y German- iaid yn disgwyl am ladgyfnerthion, y rhai yn amlwg a ddaethant, gan i'r Germaniaid wneyd ymosodiad ffyrnig y noson hono ar yr aswy, ond gwynebwyd hwy yn ddewr gan y milwyr Prydeinig a Ffrengig, gan orfodi y Germaniaid i encilio ddeg gwaith gyda oholledion trymion. Ymdrechodd y Germaniaid yn galed i atal ymdaith y mil- wyr unedig, ond methasant. Pan dorodd y wawr, cafwyd fod y Prydeinwyr a'r Ffrancod nid yn unig yn dal eu sa,fleoedd, ond wedi enill ychydig dir. Foreu yr 17eg, yr oedd brwydro caled yn myned ymlaen, a llwyddwyd i yru y Germaniaid chwe' milldir a chwarter yn ol, gan gymeryd 600 o honynt yn garcharorion, ynghyda medd- ianu lluaws o beirianau saethu.

TYWYSOG CYMRU AR RHYFEL

TYWYSOG CYMRU A'R RHYFEL. Mae Tywysog Cymru, yr hwn sydd yn swyddog yn y 'Grenadier Guards,' yn awyddus iawn i fyned gyda'r fataliwn i r rhyfel,-olid y mae Arglwydd Kitchener wedi gwahardd hyn yn bendant, gan nad yw y Tywysog wedi cwblhau y tymor gof- ynol mewn ymarferiadau milwrol.

ITALI AR RHYFEL

ITALI A'R RHYFEL. Hyd yma, mae Itali wedi bod yn hollol anmhleidiol ynglyn a'r rhyfel, ond y mae deiliaid y deyrnas hono yn awyddus iawn i fyned allan i ryfela yn erbyn Germain.

YMLADD CALED

YMLADD CALED. Ymddengys oddiwrth adroddiad Ffrengig swyddogol fod y frwydr ar yr Aisne yn parhanu ar raddfa eang, heb unrhyw gan- lyniadau penderfynol i'w croniclo. Dydd Sul ydoedd y degfed diwrnod er pan ddecli- reuodd y frwydr hon, heb ddim ond can- lyniadau lleol i'w cyhoeddi. Ceir arwydd- ion fod rhywbeth pwysig at ddxgwydd gan fod y milwyr undebol yn ceisio amgylchu y Germaniaid yn Noyon.

DINYSTRIAD EGLWYS GADEIRldL IRHEIMS

DINYSTRIAD EGLWYS GADEIRldL RHEIMS. Newyddion o.Bordeaux a fynegant fod Eglwys Gadeiriol enwog Rheims wedi ei dinystrio gan ffrwd-bdenau y Germaniaid. Cyfrifid yr Eglwys Gadeiriol yn un o brif wrthddrychau y byd, ac un o gofadeiliau penaf Ffrainc. Am lawer blwyddyn, yma y coronid brenhinoedd Ffrainc, ond y mae y rhan fwyaf o'r adeilad henafol hardd wedi ei ddinystrio gan y Germaniaid.

LLWYDDIANT Y RWSIAID

LLWYDDIANT Y RWSIAID. Mae y Rwsiaid wedi bod yn llwyddianus iawn eto yn y dwyrain. Maent wedi tori ymaith Jaroslan, gan orfodi yr Awstriaid i ymadael oddiyno. Mae Jaroslav yn wersyll amddiffynedig pwysig, ac yn orsaf o nod ar y rheilffordd i'r gogledd, ac y mae ei chwymp wedi gosod yr Awstriaid yn Przemysl mewn cyfyngder difrifol. Mae y Rwsiaid wedi llwyddo i fyned rhwng dwy o brif fyddinoedd yr Awstriaid —un dan lywyddiaeth y Cadfridog veil Auffenberg, yr hon sydd wedi cael ei gwthio i Przemysl, a'r Hall dan lywydd- iaeth y Cadfridog Dankl, yr hon sydd wedi ceisio encilio i Cracow.

BWRIADAU ROUMANIA

BWRIADAU ROUMANIA. Dywedir fod Roumania wedi pwrcasu can' miliwn o cartridges yn Itali, a chredir y cymer ran yn fuan yn y rhyfel. Mae cydymdeimlad Roumania yn gryf gyda'r galluoedd unol, ond drwy ddylanwad y brenin mae y milwyr hyd yma wedi ym- gadw rhag myned i'r rhyfel. Pan ddeallir fod tair miliwn o ddeiliaid Roumania yn yr ymerodraeth Awstraidd, y rhai ydynt er's blynyddoedd wedi dioddef gorthrymder a chaledi, ac yn dyheu am ryddhad o'r iau, mae digon o reswm drosi y grediniaeth na fyddant yn anmhleidiol mwyach. Medda Roumania ar fyddin o 260,000, ac os cymer ran nis gall dim alchub ymerodraeth Awstria rhag llwyr ddifodiad.

BUDDUGOLIAETH ARALL I SERVIA

BUDDUGOLIAETH ARALL I SERVIA. Dydd Sadwrn, ymosododd ugain mil o Awstriaid ar nifer fechan mewn cymhar- iaeth o filwyr Servia, ond y diweddaf a orthrechasant, gan beri colledion trymion i'r Awstriaid, a'u gorfodi i ffoi.

BRWYDR YR AISNE YN PARHAU

BRWYDR YR AISNE YN PARHAU. Mae y lluoedd aneirif ar yr Aisne yn parhau i ymladd yn ffyrnig, a cheir ar- wyddipn fod y milwyr undebol yn enill yn raddol. Ar yr ochr amddiffynol y ceir y Germaniaid yn benaf, a phan gymerir i ystyriaeth y nifer ar,uthrol o Germaniaid sydd wedi ymadael am y dwyrain, rhaid fod eu galluoedd yiha yn llawer llai na'r milwyr undebol. Amcan penaf y milwyr hyn ydyw cadw y Germaniaid hyd nes y cyrhaedda adgyfnerthion i rwystro eu hym- daith. Amoangyfrifai y Germaniaid y Ily byddent wedi enill yr hyn geisiellt, cyn pen chwech wythnos, ond mae y rhyfel wedi parhau am wyth wythnos, ac y mae Ger- mani mor bell ag erioed o gyraedd yr amcan, sef gorthrechiad Ewrop, ac nid oes unrhyw argoelion ar hyn o bryd y llwydda.

BRWYDRO AR Y MOR

BRWYDRO AR Y MOR. Hysbysodd y Press Bureau nos Sul fod Y sgrifenydd y Morlys yn cyhoeddi'r new- yddion caiilyiiol:-AVedi, cyhoeddi'r rhyfel; bu'r rhyfelong Brydeinig Pegasus, o dan lywyddiaeth John A. Inglis, R.N., yn mordwyo a gwmpas Zanzibar a gwnaeth waith da yno. Llwyddodd i ddinystrio Dar Es Salaam ac i suddo rhyfel-long Ger- manaidd o r enw Mowl. Yn gynar fore Sul fodd bynag, ymosodwyd arni gan y rhyfel-long Germanaidd Kanigsberg, tra yn angori yn mhorthladd Zanzibar. Cy- merodd y Germaniaid oedd ar fwrdd y Pegasus fantais ar hyn a gwnaed y Pegasus yn hollol analluog. Or lOfed hyd y 14eg cyfisol daliodd rhyfel-long Germanaidd o'r enw Emden chwech o longau Prydeinig. Suddodd bump olionynt, ac anfonodd y chweohed i Calcutta gyda'r dwylaw. Ar y 14eg cyfisol aeth yr agerlong adnabyddus y Carmania, fu'n mordwyo rhwng y wlad hon a'r America, ond sydd yn awr wedi ei gwneyd yn rhyfel-long, i wrthdarawiad a cruiser Germanaidd, Cae Trafalgar neu'r Berlin. Bu'r ddwy long wrthi yn tanio ar eu gilydd am tua awr a haner. Or diwedd suddwyd y llong Germanaidd, ond achub- wyd y dwylaw gan long yn cludo glo oedd yn digwydd mynd heibio. Lladdwyd naw, ac anafwyd tua deg ar hugain o ddwylaw y Carinania.

TEYRNGED UCHEL I SYR JOHN FRENCH

TEYRNGED UCHEL I SYR JOHN FRENCH. Nos Iau traddododd Arglwydd Kitchener araeth bwysig yn Nhy'r Arglwyddi ar y sefyllfa filwrol. Yr oedd yn cael ei nod- weddu gan sylwadau calonogol iawn. I ddechreu talodd deyrnged uchel i Syr John French fel Cadlywydd; ac i'r swyddogion a'r milwyr yn gyffredinol am eu dewrder a'u hyni dihafal ar y maes. Y mae y llanw wedi troi, meddai Arglwydd Kitchener. Yr ydym wedi derbyn newyddion calonogol fod byddinoedd Germani yn gorfod encilio. Yr oedd y colledion yn cael eu gwneyd i fyny a lluoedd cryfion yn dbd o'r India a'r Tal- aethau. Yr oedd yr alwad i'r gad yn cael ei hateb yn frwdfrydig, a'r dynion o ran

TEYRNGED UCHEL I SYR JOHN FRENCH

rhif a phobpeth yn addaw yn dda. Yr oedd yn hyderus erbyn y gwanwyn y byddai genym fyddinoedd yn barod i'r gad wedi eu disgyblu yn dda, y rhai a allent brofi eu hunain yn wrthwynebwyr cryfion i'r gelyn. Y maent yn cael eu nodweddu gan ysbryd aruchel a brwdfrydig, yn barod i ymladd ac os bydd raid i roddi eu bywyd i lawr er mwyn sicrhau yn y pen draw lwyddiant ein harfau, a dwyn yr helynt blin yma i der- fyniad buddugoliaethus.

Advertising

YN AWR YN BAROD. LLAWLYFR AT WASANAETH Y CONFFIRMASIWN, GAN Y Parch. E. LORIMER THOMAS, M.A., COLEG Dewi SANT. Iris iic., neu 1/3 y dwsin, yn rhad drvjy'r post.: CYHOEDDEDIG GAN GWMNI Y WASG EGLWYSIG GYMREIG, LAMPETER.

COLLEDION DIRFAWR Y GERMANIAID

COLLEDION DIRFAWR Y GERMAN- IAID. Ysgrifena G. F. Steward, gohebydd y 'Daily News,' o Rotterdam, i ddyweyd ei fod wedi clywed o le cyfrinachol ond ar yr un pryd o le dig-on diogel fod y Germaniaid wedi colli ar gyfartaledd tua 3000 bob dydd yn ystod y pythefnos diweddaf. Golyga hyn golled o tua 45,000 o ddynion. Dy- wedir fod 14,000 o'r rhai hyn wedi eu lladd.

RHYFELLONGAU GERMANAIDD YN TANIO AR EU GILYDD

RHYFEL-LONGAU GERMANAIDD YN TANIO AR EU GILYDD. Dywed pellebyr o Petrograd fod y new- yddion am golledion Llynges Germani yn Mor y Baltic yn hollol wir. Nid oes am- heuaeth na ddarfu i'r rhyfel-longau Ger- manaidd danio ar eu gilydd. Y mae y stori fod adranau o Lynges Germani a Llynges Rwsia wedi bod yn brwydro yn anghywir. Dywedir i adran fawr o'r Llynges Germanaidd, pan yn saethu at I rhyw agerlong fechan gamgymeryd eu b oy llongau eu hunain am longau eu gelynion a saethu atynt. Ni wyddis yn awr faint o'r llongau sydd wedi eu niweidio ond cyr- haeddodd nifer o cruisers a destroyers Ger- manaidd i Kiel wedi eu niweidio yn fawr. Glaniwyd nifer fawr o glwyfedigion o'r 0 llongau hefyd.

DINYSTRIO DWY GERBYDRES

DINYSTRIO DWY GERBYDRES. Pan ddeallwyd fod dwy gergydres, yn cynwys adgyfnerthion Germanaidd mewn lie rhwng Peronne a St. Quentin ddydd Sul, penderfynodd swyddog Ffrengig y mynai eu dinysrtrio. Galwyd y milwyr yn nghyd, a llwyddwyd i lwyr ddinystrio y cer- bydresi a phawb oedd ynddynt.

BRWYDR AISNE

BRWYDR AISNE. Mae gobaith cryf y clywir newyddion calonogol cyn pen ychydig oriau am lwydd- iant y gaUuoedd undebol ar yr Aisne.

TAIR RHYFELLONG BRYDEINIG WEDI EU DINYSTRIO

TAIR RHYFEL-LONG BRYDEINIG WEDI EU DINYSTRIO. Drwy weithrediad y mwnfeydd tan- forawl, llwyddodd y Germaniaid i ddi- nystrio tair rhyfel-long Brydeinig, foreu ddydd Mawrth, sef yr 'Aboukir,' 'Hogue,' a 'Cressy,' a chollwyd llawer o fywydau, er fod y mwyafrif wedi eu hachub. Llwyddodd y milwyr undebol i gymeryd meddiant o amryw Iwythi o ymborth per- thynol i'r Germaniaid, a bu y llynges BrydeinigLyn foddion i ddal agerlong Ger- manaidd fawr, a dwy long arall yn llwythog o lo—chwe' mil o dunelli.

GOLYGFA ARSWYDUS

GOLYGFA ARSWYDUS. Ymadawodd y Germaniaid o Peronne ychydig ddyddiau yn ol, gan adael miloedd o gyrff yn y ffosydd, y rhai oeddynt yn naw milldir o hyd. Gorchwyl caled ydoedd cael gwared o'r Germaniaid, ond llwydd- wyd i'w wneyd drwy rym bidogau llym, a bu ymladd caled yn ddilynol yn yr hoolydd, pan y collwyd amryw fywydau o'r ddwy ochr.

SUDDIAD TAIR 0 LESTRI GERMANAIDD

SUDDIAD TAIR 0 LESTRI GERMANAIDD. Daeth agerlong Rwsiaidd ar draws tair o lestri y Germaniaid tra wrth y gwaith o osod mwnfeydd ffrwydrol, a rhoddodd derfyn buan ar eu gwaith drwy eu suddo.

Y RWSIAID YN MEDDIANU AMDDIFFYNFA

Y RWSIAID YN MEDDIANU AMDDI- FFYNFA. Adroddir fod y Rwsiaid wedi meddianu amddiffynfa Jaroslav.

TANBELENU 0 AWYRLONGAU

TANBELENU. 0 AWYR-LONGAU. Dydd Mercher, aeth Mr. C. II. Collet, awyrenwr enwog, yn ei awyrlong i Dussel- dorf, a disgynodd o fewn 400 Hath i ad- t,Y eilad lie cedwid nifer o awyrlongau din- ystriol a elwir 'Zeppelin,' gan ollwng tair o dan belenau ffrwydrol arno. Ciliodd yn 01 yn ddioed, ond nid cyn gweled fod yr adeilad ar dan.

AWSTRIA AC ITALI

AWSTRIA AC ITALI. Mae Awstria wedi ymgymeryd a gwaith ychwanegol, sef amgylchynu Itali, a'i gorfodi i ymladd. Gwell i Awstria ym- bwyllo rhag y rhyfyg hwn.

CANLYNIAD DYLAN WAD

CANLYNIAD DYLAN WAD. Tra yn siarad mewn cyfarfodadfilwrol yn Petiniiienmawr adroddodd v Pr< ffrswr Lewis Jones, Bangor, yr hanesvn dyddorol a ganlyn. Aeth amaethwr yn Sir Fon at un o'i weision, yr hwn a, weithiai yn y cae.. y pryd, a dy- wedodd wrtho am losa:iad Louvain ac am y driniaeth warthus dderbyuiodd y trigoliou. Gofynodd y gwas, A ydyw hyna yn wir, meistr?' Yd\'w yn bern';uth wir,' medjai'r amaethwr. 'We],' meddai'r gwas gan daflu ei gaib a'i raw o'r neilldu, 'yr wyf fi yn myn'd yno ac ymaith ag ef ar unwaith ar ei draed bob cam i Menai Bridge, yr orsaf adfilwrol agosaf, lie yr ymunodd a'r Royal Welsh Fusiliers. Diolch fod carlad at ei anwyl wlad yn parhau i losgi yn nghalon y Cymro.

TEULUOEDD MILWYR

TEULUOEDD MILWYR. Mae'r Llywodraeth wedi penderfviiu can- iatau ychwanegiad yn y swm a ganiateir i denlnoedd y milwyr. H. d l gwm avian o è ganiateir i deuluoedd yn cael ei benderfynu yn ol y swm a roddir gan y dyn ei huu. Y swm lleiaf a ganiateir ydyw 12s 6c. yr wythnes. Mae'r swm a ganiateir yn ol y trefuiadau di- weddaf (yn eyu-wys y swm a neillduid gan y milwyr) fel y canlyn :— Un dibynydd 12s 6g. yr wythnos ar gyfar lis. lc. yr wythnos flaenorol. Gwraig ac uu blentyn, 15s. (o'r blaen 12s; loc.) Gwraig a dau blentyn, 17s. 6c. (o'r blaen 14c. 7 c.) Gwraig a thri plentyn, 20s. (o'r blaen 16a. 4c.) Gwraig a phedwar o blant, 22s. (o'r blaen 17s. 6c.) Caniateir hefyd arian i wragedd a phlant y Uyngheswyr, a thelir yr faoll arian, fel gyda'r pensiwn i'r hen, drwy'r Llythyrdy.

MANION

MANION. Mae Rwsia wedi penderfynu dirymu pob breint-ysgrif agored (paent) Germanaidd. Ceir saith o frodyr yn perthyn i Gatrawd Norfolk; meibion Mrs. Clabburn, Norwich. Dangosir tipyn o frwdfrydedd gan wyr British Columbia. Mae dwy gatrawd ar eu ffordd i'r cyfandir, yn cynwys hen fllwyr fu yn ymladd yn Neheudir Affilca. Dywedir fod rhagor i ganlyn. Pan mae'r Cossacks yn eich gwrthwynebu, mae. t yn disgyn fel corwynt. Dyma dystiol- aeth un o'r Auatrians pan gymerwyd ef yn garcharor. Mae'r Frenhines wedi rhoddi allan lawer o'r gwaith gwnio i ddosbarth y Salvation Army sydd yn edrych ar ol y menywod. Ymunodd dros bum' mil o wirfoddolwyr a byddin Kitchener yn Belfast yn unig. Yr oeddynt yn rhan o fyddin Syr Edward Carson. 0 herwydd pris uchel gwdr, penderfynodd Cynghor St. Pancras roddi y gwair gawd yn monwent y gorfforaeth i'w ceffylau. Derbyniodd Gweinidog y Belgians yn Llun- dain rodd o 10,000p. oddiwrth faer Mel- bourne, Awstralia, tuag at gynorthwyo y dioddefaiut ymhlith trigolion Belgium. Dywedir yn ami ar y Cyfaudir mai gwyr oerllyd ydyw y Saeson, ond gallaf ddweyd yn gydwybodol fod hyn yn hollol anghywir' Dyna ddywedodd Cardinal Mercier p-tn yn Uefaru ynghyloh ei arosiad yn y wiad hon. Ymhlith y carcharorion clwyfedig yn y i wlad hon, mae yna un y dywedir ei fod y gwr mwyaf yn myddin y Germaniaid. Mae dros chweeh troedfedd a haner mewn uchder. Yn eu llawenydd am gyraedd tir cyfeillgar, penliniodd tua chwe' chant o Rwsiaid amy llawr yn mhorthladd Caerdydd, gan gusanu cerig mur y porthladd. Penderfynodd Pwyllgor Cerddoriaeth Llun- dain ddiswyddo pob proffeswr o Germany, Austria, a Hungary, sydd yn ngwasauaeth i Ysgol Gerddorol Guiidhall, a phenderfynwyd, hefyd, i ddefnyddio dim ond eilioneg o'r wlad hon. Mae dros 10,000 o wyr y Salvation Army wedi ymuno a byddin Arglwydd Kitchener, ac o un man, sef Bermondsey, mae dros 400 wedi ymuno. Yn Cefn Forest, Sir Fynwy, daeth 300 o blant yr ysgol ddyddiol allan ar streic, am fod eu rhieni yn gorfodi y pwyllgor addysg i adeiladu ysgol amstrol er mwyn cadw y plaut rhag cerdded pellder maith i'r ysgol. Good-bye, boys,' dyna eiriau olaf y Mil- wriad Dykes, pan darawyd ef yu mrwydr Le Cateau. Ceir yr hanes hyn oddiwrth dri milwr clwyfedig yn perthyn i Gatrawd Lan- caster. Bydd yr arian newydd sydd yn cael eu gwneyd yn Ffraiuc ar yr adeg bresenol yn dwyn argraff fydd yn dyst o'r ffaith eu bod wedi eu gwneyd yn ystoj y rhyfel. Cafodd Johu Williams, Pentre, Rhondda, brofiad cyffrous yn y rhyfel. Saethwyd daa geffyl oddi tano cyn iddo gael ei glwyfo ei 'hun, ac onib'ai dewrder ei uch-gadben, byddai wedi ei ladd. Achubwyd ef allan o'i sefyllfa peryglus, lie yr oedd yr ergydion yn diøgyn o'i amgyleh. Mae swyddog adnabyddus wedi datgan el benderfyniad i roddi 100,000p. tuag at Gronfa Tywysog Cymru os bydd yn llwydd- ianus i ddal un o awyrlonjrm Germanaidd y Z