Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
Morfa

Morfa." DARNIO DEDDIAU. Mae dinystriad bwriadol Eglwys Gadeiriol Rheims gan ynaa trymion Germani wedi rhoi sdl ar ddull melldigedig Germani o gario rhyfel ymlaen. Addfefir mai rhai gwael gydmarol yw y Germans hefo'r 'rifle,' ond tystiolaeth pawb yw mai bytigd fedrus ydynt gyda'r artillery.' Gan fod tyrau y Cathedral' fyd-enwog yn ddigon amlwg am Alldiroedd lawer, medrai y Germans yn hawdd gadw eu peleni yn glir o'r adeilad pe mynent. Ond nis mynent. Dinystrio a lladd yw eu hoff waitb, ac i'r pedwar gwynt a phob elfen o ddyngarwch a thosturi. Er fod y Red Cross yn weledig iddynt o d*r y Cathedral,' ac er fod ynddi garcharorion Germanaidd yn gystal a Ffrancaeg, beth oedd hyny iddi ? Dim. 0 ran hyny, ofer disgwyl i'r meddwon barbaraidd yma barehu Baner y Dioddefwyr,' pan nad oes ganddynt ronyn o barch tuag at ddynes a phlentyn. Nid oes gan Germani ronyn o barch at reolau rhyfel—dim, na chwaith at ddeddf cenedlaethol—dim, ond ymorchesta i gyflawni erchyllderau creulon, annynol, a hofl ganddi y gorchwyl. Mae'r byd bellach yn argyhoeddedig fod byddin fel hon y tu allan i gylch gwareiddiad, yn hollol felly. Er pob anmharodrwydd i gredu yr adroddiadau am ymddygiad bwystfilaidd a dieflig y milwyr yma o Germani, rhaid yw hi arnom rwan, yngwyneb y tystjioiaethau cadarn, gredu hyny. Gobeithio y dygir y swyddogion i gyfrif, ac i gyfiawnder gael ei ffordd arnynt. Mae ymddygiad erchyll milwyr Germani ar rai diniwed yn galw yn groch am ddial ie, mae pechodau byddin Germani heddyw yn esgyn i'r nefoedd ac yn gwaeddi am ddial. Gwir mai hawlfraint y Duw Goruchel yw dial ie, ond disgyn y dial hwnw yn amlach na dim trwy law rhyw offeryn dynol a luni wyd ac a fwriadwyd i'r perwyl hwnw. Ac mae y llaw hon o 1 ddial y nefoedd' eisoes ar ei ffordd i gyflawni ei gwaith. Yn ol pob tebyg, bydd i'r frwydr faith o'r Aisne orphen fel brwydr y Marne, ac y gyrir Germani yn mhellach yn ol. Bydd ymladd caled eto yn Belgium ac yn Luxemberg, ac ofnir y derbynia yr olaf driniaeth tebyg i Belgium. Yn ddiameu bydd enill a cholli, ar dir a mor, cyn daw'r fusnes waedlyd i ben. 'Does dim yn Bier mewn rhyfel, a thrist i ni oedd colli y tair long rhyfel, yn enwedig y bywydau. Ond ardderchog iawn y gwnaeth y Llynges ei gorchwyl ar y dyfroedd, er pob anhap. Hi a'n cadwodd ni rhag y perygl o oresgyniad hi an galluogodd ni i lanio dros ddau cant o filoedd o ddytiion yn Ffrainc, heb son am eu harfau, eu bwyd, a'u I bavledi' hi a ddiogelodd ein masnach, ac a ddygodd i'n byrdd- au ein bara beunyddiol, yr hwn, yn union, a fydd yn brin iawn iawn ar fyrddau ein gelymon. Ac eithrio gweithfeydd milwrol a ffactris dillad i'r Fyddin, mae masnach yn Germani ac Awstria, ar ben, yn sefyll yn stondin lonydd, wedi ei pharlysu law a throed. Mae yr elfen fasnachol yma yn fwy tebyg na dim o fod yr elfen bwysicaf i ddwyn y gelyn i' v liniau, er ein bod ni yma yn naturiol yn meddwl fawr am ddim ond yr ymladd yn Ffrainc a Belgium, Galicia, a therfyn- au Rwsia a Phrwsia. Mae y rhyfel hon yn wahanol i bob rhyfel arall yn hyn o beth, sef mai ymgodymiad ysprydol yw hi. Ymgyrch ydi hon rhwng materoideb anifeilaidd a chreulon ar y naill law, a delfrydau urddasolaf y ddynoliaeth ar y llaw arall. Ymladdfa dros ryddid dros gysegrwydd hedd weh dros yr anrhydedd a erys mewn gair wedi ei roddi o ddifrif; dros hawl- fraint cenhedloedd, mawr neu fach, i weithio allan eu tynged heb eu cloffi gan rai ydynt wedi gwneyd rhyfel ormesol yn dduw iddynt eu hunaiu, a'u hunig Dduw. Mae Germani heddyw y wlad fwyaf mater ol yn Ewrob. Mae y teyrnasoedd yn eu herbyn hi, ddigon materol ddigon tebyg, ond ynghyd a. hynymae ganddynt (yr hyn uid oes gan Germani-ddim gronyn) adran fawr yn eu meddiant o ymwybodolrwydd crefyddol. Mae Ffrainc heddyw yn wahanol iawn i'r hyn fu unwaith. Mae hi heddyw megis wedi ei thanio a'i hysprydoli gan adfyd, yn wenfflam gan ddyheadau uchel, Ie, ymladdfa ydi hon rhwng yr ysprydol a'r barbaraidd, ac nid oes i'r ymladd- fa ond ein cred yw pan ddaw y dydd i setlo tolerau heddwch, ac y symudir ymaith o lwyfan y byd y rhai ydynt gyfrifol am yr anfadwaith presenol (RHAID gwneyd hyny), y bydd y telerau osodir lawr yn Berlin yn gychwyn newydd yn hanes y byd, ac y rboddir eiddo Duw i Dduw, pan o'r blaen y meddylid gormod o hawliau Cesar. Anmhosibl i'r byd fyned drwy y fath godwm a hwn, a bod yr un byd ar ol ag oedd gynt. FIGION O'R CYMRO." Hy lref. Cadwaf fy ngwyl, medd bywyd, Galwaf fy ngwrdd yn ol. Casglaf fy mlodau adref O'r mynydd, yr ardd, a'r ddol Clybu y maes a'r prenatl, A rhybryd rhwng hwyra gwawr Cyfododd y gwersyll blodau,- Mae'r pebyll yn Ilwyd hyd lawr. Eifion Wyn. Cauir tafarndai dosbarth Caergwrle yn y dyfod ol am naw o'r gloch y nos, a bydd hyn yn help i enill yn ol enw da i'r gymydegaeth. Pur wlyb yw ei hanes wedi bod. Er fod poblogaeth Cymru yn ddwy filiwn yn rhagor nag ydoedd gant a haner o flynyddoedd yn ol, mae y trefniadau milwrol yn hollol yr hyn oeddynt pan oedd Howell Harries byw. Mae papur newydd Cymraeg arall wedi dyfod &Ilan yn y Wladfa, Y'Gwerinwr.' Nid oedd Y Drafod' wrth fodd pawb, ac felly daeth un arall allan. Mewn amlder papyrau newyddion y mae diogelwch. Mae y Parch. D. Edwardes, M.A., yr hwn a fu am 25an mlynedd yn brif-atbraw Coleg Den- stone, wedi cyhoeddi cyfrol o atgofion. Ganwyd Mr Edwardes yn Crynfryn, Nantcwnlle, a chasgl- odd lawer o bethau dyddorol ynglyn & hanes Daniel Rowlands. Bu gwr heb lawer i'w wneyd yn cyfrif yn fanwl, a dywed fod yn Ngogledd Cymru bregeth- wr ar gyfer pob 125 o'r boblogaeth, ac ynad ar gyfer pob 620. Fe ddywedir, er fod yr Efengyl yn llwyddo, fod rhif yr ynadon hefyd yn myned ar gynydd. Siaradodd Canon Roberts, Colwyn Bay, yn chwerw yn ertyn Deddf Dadgysylltiad o'r pulpud y Sul o'r blaen. Dywedai mai yr Eglwyswyr sy'n eyfranu mwyaf at ysgafnhau dioddefiadau y rhyfel, a byddai Dadwaddoliad yn rhoi beichian trymach arnynt.

Morfa

Er gwaethaf ealedi yr amseroedd, cwyoir fod cryn lawer o feddwi yn y wlad. Mae'n ddirgel- wch sut y mae pobl yn cael avian i'w gwario ar ddiod pan y mae gwaith yn brin a'r cyflog yn isel. Dywedir fod hyn yn bod yn ardaloedd y chwareli yn y Gogledd lawn cymaint ag un man. 0 Yng nghyfarfod pwyllgor gweinyddol Athrofa Bala-Bangor, dygodd y Prif-athro T. Rees i sylw y cais a wnaed at y myfyrwyr i ymrestra yn y fyddm. Pasiwyd penderfyniad yn mynegu nad oedd y Pwyllgor yn credu y dylai efrydwyr sydd yn myned i'r weinidogaeth ymuno a'r fyddin. Mae tua 2,800 o garcharorion Germanaidd yn Queensferry, heb fod ymhell o Gaerlleon, dan ofal catrawd o filwyr Cymreig. Ymhlith y carcharor- ion y mae Barwn von Trutsschier, boneddwr adnabyddus iawn i'r dosbarth sydd yn dilyn yr helgwn yn siroedd Caer a'r Amwythig. Cymer- odd y Lly wodraetfi feddiant o'i geffylau a'i gerbyd modur, ond dihangodd ef i ymladd dros ei wlad. Erbyn hyn mae'n garcharor yn ngolwg y wlad lie bu yn treulio rhan fawr o'i amser y blynyddoedd diweddaf yn hela, Clywais fod awdurdodau un o Golegau Cenedl- aethol Cymru wedi bod yn brysur yti ceisio cael cauiatad i athraw Germanaidd ddyfod yn ol. Dywedir fod llawer iawn o Germaniaid yn dal trwyddedau i werthu diodydd meddwol yn y wlad hon mae'r amser wedi dyfod i was- tadhau pethau, ac i ddanfon y Germaniaid yn ol i'w gwlad. Wrth edrych dros restr etholwyr Meirion, un o'r pethau cyntaf ddaeth dan sylw Mr. T. E. Morris ydoodd enw John Roberts, Penrhyndeud- raeth. Er mai enw Cymreig ydoedd yr enw, Germaniad ydoedd y gwr a'i gwisgai. Priododd ferch ieuanc o Gymraes, ac o barch iddi fe newid- iodd ei enw Er rhagored ei deimlad tuag at ei wraig, colli ei bleidlais wnaeth John. Dywed Mr. Caradog Rees fod Cymru yu cael cana pan y sonir am amharodrwydd ei meibion i ymrestru. Paentir pethau yn rhy ddu. Am bob 24 o blith y Saeson, ymrestra 19 o Gymru, ac ystyria Mr. Rees fod hyny yn dda wrth ystyr- ied fod lluaws o Gymry ieuainc yn croesi drosodd i Loegr, ac hefyd nad oes cynifer o feistri llafur yn Nghymru yn medru addo talu eu cyflogau yn llawn i'r rhai ymrestrant. Os gwir y gair, sibrydir fod Aberystwyth i fan- teisio i fesur ar y rhyfel, canys sonir am ddanfon catrawd o filwyr yno i gael eu disgyblu, ynghyd & nifer o garcharorion y gelyn i gael eu diogelu, a nifer o floedigion Belgium i gael eu noddi Da iawn. Dywedai Mr. 0. M. Edwards yn nghyfarfodydd ymrestru Meirion mai Howell Harries oedd y dyn mwyaf welodd Cymru ond Owen Glyndwr. CONYFIRMASIWN, Neu Arddodiad Dwylaw. Gair at Ymgeiswyr gyda Ffurf o Ymholiad,'gan y Parch. E. Lorimer Thomas, M.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr. Pris swllt a thair y dwsin, yn rhydd drwy'r Post, ac i'w cael o'r Welsh Church Press, Lampeter. Mae mwy nag un o'r llawlyfrau bach yma ar Gonffirm- asiwn eisoes wedi eu cyhoeddi, pob un o hgnynt yn dda a phwrpasol. Ac nid buddiol yw lluosogi llyfrau bach fel yma ar yr un pwnc, Dengys yspryd cystadleuaeth ei ben, yr hyn sydd yn tori dan wraidd amcan da yr awduron, ac yn y pen draw yn parlysu y neges, gyda'r canlyniad fod cylcbrediad y llyfrau bach yn lleihau, a'u defn- yddioldeb yn cael eu chwalu i'r pedwar gwynt. Mae cynwysiad llyfr bach y Proffeswr Thomas dipyn allan o'r cyffredin Ond pa'am na fuasai wedi rho'i 4 Trefn Conffirmasiwn' yn ei lyfr bach 1 Coll yw hyn. Byddai cyfeirio at y gwa- hanol ranau fel y rhydd Mr. Thomas bwyslais arnynt, yn help mawr. Dywedais fod cyuwys- iad y llyfr bach yma dipyn aUan o'r cyffredin. Gadewch i mi esbonio fy hun. Dyma i ni y rhan gyntaf, yn ymwneyd a Thystiolaeth Gair Duw' (fel y mae & wnelo & Chonffirmasiwn) Esponiad yr Eglwys Gatholig Eglurhâd ar y Gwasanaeth yn y Llyfr Gweddi, a Gair at yr Ym- geiswyr pob penod yn llawn o bethau da, a phob un o'r pethau da' yn cael eu cadarnhau gan benod ac adnod o'r Beibl. Y Gymraeg yn bur ac yn loew, fel y gellid disgwyl. O'r goreu. Ge'lir yn hawdd, gyda budd ac adeiladaeth, arfer y Rhan Gyntaf yn yr Eglwys pan yn holi'r plant ar ol yr Ail Lith, yr hyn beth wneir yn gyson mewn ambell Eglwys, ond a esgeulusir mewn gormod. Yn wir &f ymhellach, trwy ddweyd mai cyfreithlon a llesol fyddai i'r offeiriad ddar- llen darnau o'r rhan gyntaf yma yn y gwasan- aeth wythnosol yn lie. pregeth. Yn yr ail- ran, mae yr awdwr yn agoshau at yr Ymgeiswyr mewnyspryd neillduol o ddymunol a tharawiadol, c vn sicr o gael argraff ddofn ar feddwl y bobl ieuainc. Ond, yn fy marn i, y drydedd ran yw y rhan sydd yn tra-rhagori. Mae y gofyniadau ar ol y Gorchymynion yn NEILLDUOL yn eu haddas- rwydd, yn eu hymarferoldeb, yn eu gallu i dreiddio, yn eu symbyliad, yn eu dynoethiad di- weniaith o budoliaethau byd, cnawd, a diafol, yn eu rhybuddion gochelgar, yn cyraedd at y mer a'r esgyrn, ac yn arfogaeth gref, loew, newydd i fobl ieuainc i'w diogelu rhag saethau y gelyn, a rhwydau twyllodrus y byd, ac yn gymorth allan o'r cyffredin i gynorthwyo bachgen a lodes i ad- nabod eu hunain, eu gwendidau a'u ffaeleddau, heb s6n am y oyfarwyddyd a'r tywysiad roddir iddynt i rodio y llwybr uniawn sydd yn arwain i'r bywyd. Haedda y llyfr bach sylw manwl a chefnogaeth. YR YSGOL SUL. Dyma Adranau o Rhif IV. y Gwerslyfr am Adfent 1914—1915 i law. Anodd dych'mygu dim gwell. Vn faeth i gyd. Ac yn flasus hefyd, heb son am yr awgrymiadau. Yn wir, mae yma ddefnydd digonedd o bregethau campus, mor darawiadol a llawn o bethau yw y gwahanol nod- iadau. Waeth i mi heb amlhau geiriau am wn i, rbag i chi feddwl mai seboni wyf. Da chi, gofalwch am gopi mewn pryd, a chewch wel'd fy mod yn llygad fy lIe, ac na ddywedais mo'r haner o'r rhagoriaethau. A gaf ro'i darn bach o'ch blaen fel engraifft (tudalen 18. S. Marc. iv. 35 -v. 20):—1 (2) Yr Eglwys mewn anhawsterau. Darlunir yr Eglwys yn fynych fel Hong mewn tymestl a cholomeu ar y MAST. Y fath ystorm- ydd gurasant ar yr Eglwys yn ein gwlad ni er pan bregethwyd yr Efengyl gyntaf i'r hen Gymry, ein cyndadau goresgyniad Angl- iaid, Saeson, Daniaid, cynwrf y Diwygiad, gwrthryfel Cromwell; marweidd-dra mewn rhai cyfnodau. Teimlai dynion ar brydiau duedd i ameu a oedd y Meistr yn gofalu. Yn ein ham- ser ni eto mae tymestl enbyd yn euro a'r cymyl- au yn dduon uwchben. Mae y mwyaf gobeith- lawn yn llawn pryder ac ofn. Ac yr ydym oil mewn perygl i ddigaloni am ddiogelwch y llestr.' Eto—Tawelu'r Dymestl. (1) Gall Crist dawelu'r dymestl. Dengys Ei gwsg ei fod yn DDYN, ond dengys Ei awdurdod ar y gwynt a'r tonau Ei fod yn DDUW. (2) Gwna Crist dawelu'r dymestl. Gwnaeth hyny i'r disgyblion. Gwna hyny dros Ei Eglwys a'i blant. Na fydded i ni ameu na gwangaloni, Ein Tad sydd wrth y llyw.' Tawel- odd y mor, gostegodd y gwynt, a chyrhaeddodd y Hong i'r lan draw. Gwawriodd y bore.' Hoffus iawn hefyd yw y gwersi i'r dospartbiadau ieuengaf— maeot yn wirioneddol dda, ac yn cyffwrdd a'r teimlad i'r byw. Pris deunaw— 'postage' yn 'extra,' ac i'w gael o'r S.P.C.K. Depot. Jarvis and Foster, Bangor, neu y Parch. J. D. Jones, Lluesty, Holyhead Road, Bangor. PIGION O'R GOLEUAD.' Nid yw'n amhosibl i'r Almaen geisio gwneuth- ur ymgais i lanio milwyr ar lanau Prydain. Geilw gohebydd y Times' sylw at hyn, a byddai yn eithaf i ni gadw'r posibilrwydd mewn cof, rhag ymollwng i ormod diofalwch a difrawder. Y mae'r rhyfel yma yn myned i drethu ein holl ad- noddau a'n cynheddfau fel gwlad, ac y mae gofyn i ni wynebu posibilrwydd y gwaethaf yn ogystal ag ymdrechu a gobeithio am y goreu. Dywedir, a hyny ar sail dda, mai cynllun yr Almaeniaid o ymosod ar Brydain oedd glanio un fyddin yn Hull, ac un arall yn Sir Gaernarfon. Gorfodai hyny i fyddinoedd Prydain ymranu yn ddwy adran, ac ni byddai'r ffordd ymhell i fyddinoedd y gelyn gyrhaedd trefi mawr a phwysig ciinolbarth Lloegr, megis Manchester a Birmingham. Pe llwyddasai'r cynllun yma, yr un fuasai hanes sir Gaernarfon a rhanau erelll o Gymru a hanes Belgium heddyw. Y mae tri mab Dr. Rowland Jones, Bangor, yn y fyddin, dau yn y Welsh Fusiliers, ac un yn y Second Dragoon Guards. Gadawodd Dr. Gomer Lewis ddarlun o hono ei hun i Fwrdd Gwarcheidwaid Abertawe, ar yr hwn y bu'n gadeirydd am flynyddoedd. A ydys yn sylweddoli nad oes Ymneilltuwyr yn Nghymru bellach ? Nid ellir ymneillduo heb rywbeth i ymneillduo oddi wrtho, ac nid oes Eglwys Sefydledig yn -Nghymru yn awr. Nid ellir defnyddio y term Eglwysi Rhyddion ych- waith megis cynt, canys y mae pob eglwys mor rydd a'i gilydd oddi wrth hualau'r Wladwriaeth. Y mae gofyn cael enw newydd, os oes eisiau cadw'r gwahaniaeth, ond y mae'n debyg y bydd yn hir cyn y peidier a defnyddio yr hen enwau. I PIGION O'R 'HAUL' AM HYDREF. Yr ydym lawer tro wedi teimlo gwir angen am Lyfr Adroddiadau cymwys ar gyfer ein cyf- arfodydd Plant a'n Cyfarfodydd Llenyddol. Mae llawer o lyfrau cyffelyb yn y farchnad, ond mor bell ag yr ydym yn gwybod nid oes un o'r cyfryw wedi ei ddethol gan Eglwyswyr. Da genym hys- bysu fod Cymdeithas Traethodau Esgobaeth Bangor wedi ymgymeryd a'r gwaith o gyhoeddi un dan ei nawdd, ac y mae pwyllgor cryf eisoes wedi ei ddewis i ddethol darnau addas. Y mae Deon Bangor, Dyfrig, Berw, Gwynedd, Isfryn, Odwyn, Ap Ceredigion a Golygydd yr HAUL yn gweithredu ar y pwyllgor hwn Ysgrifenydd Cymdeithas y Traethodau yw Canon Edwards (Gwynedd), Aber, Bangor. Tra'n son am gynhildeb, nid wyf yn gwybod am unrhyw gofeb mor ddiwastraff a hon :— E. T. Crydd. 1752. 38. Yr alwedigaeth yn fwy pwysig na'r enw priodol. Ar gareg fedd trulliad a gladdwyd drigain mlynedd yn ol darllenwn y llythyr canmoliaeth, < Who for fourteen years was Butler at-which office he filled honestly and faithfully to the Entire Satisfaction of His Employers,' fel pe yn gofalu fod ei destimonial gydag ef wrth newid byd. Un o atgas bethau llenyddiaeth llawer myn- went yw y gorfoli y meirw. Yn sicr un heb ronyn o humour yn ei enaid a ieuodd y Lladin a'r Gymraeg anghydmarus eu syniadau hynynghyd ar garreg fedd :— Mors Ianna Vital Cofia mae (?) llwch ydym.' J. Wheldon Griffith ■ J U Ol UUVU1W W — — yn Mynwent Llangian.' EMAU. The Inner side of every cloud Is bright and shining, I, therefore, turn my clouds about, And always wear them inside out, To show the lining. The best mirror is an old friend. Let us stand by our duty fearlessly and eflec- tively. God's benison go with you and with those That will make"good of bad and friends of foes. In life's earnest battle, They only prevail Who daily march onward, And never say fail. There is no lack of good maxims in the world all we need is to apply them. Do all the good you can, In all the ways you can, To all the people you can, In every place you can, At all the times you can, In the quietest way you can, As long as ever you can. Start some kind word on its travels. There is no telling where the good it may do will stop. It's the common virtues that make uncommon saints. Speak gently it is better far to rule by love than fear. Find your purpose and fling your life out to it; I and the loftier your purpose is, the more sure you will be to make the world richer with every enrichment of yourself. PERSONOL. I Look here,' medde dyn y bus, where's the fare for the boy 1' 1 Vy,' medde r tad, Izri Jacobs, vy, he ain't five- Five Go on he's I fourteen if he's a day.' Och, no. He can't be five. He I Well, he looks a great deal older.' 'Certainly,' medde Jacobs, I certainlly. Vy shouldn't he ? He's had a lot of trouble 1 We gotta new brudder to our house to-day You have. Where did you get him 1' Ob, Dr. Goldberg fetched him.' Gyda hyny, dacw grwt bach—un o ddeg—yn dweyd, Teacher, we take of him, too Y gweinidog newydd yn ciniawa yn nh" un o'i blwyfolion, ac yn gofyn bendith. Gyda ei fod wedi dweyd Amen,' dacw hogen fach y tetilu yn dweyd, Well, my papa don't know their piece Who can make a sentence and use the word 'income' correctly?" medde'r teacher. 'You may tell us, Johnny,' ychwanegai, gan bwyntio at Johnny Bach LIwynscwarnog. 'In come a rat,' medde John yn fuddugoliaethus. I count myself fortunate,' medde'r gweinidog, 'in numbering among my parishioners several who invariably tell me the truth about myself. Of a certain worthy, but uneducated woman of my flock, I asked whether she liked best my written or my unwritten sermons. She reflected for a moment, and then replied-" I like you best without the book, because you keep saying the same thing over and over, and that helps me to remember." 'I've just been having a tussle with the dentist.' Ah Who came off best ?' Oh- er, it was a draw Medde hi, Mrs Oichôfawr-' Are you a man or mouse ?' A medde yntau, y gwr druan, The question is auperfluous, my dear. If I were a mouse, you'd be up on a chair screaming.' Medde dyn o bellder pella'r Merice wrth esgob —' Bishop, I do not refuse to believe the story of of the ark. I can accept the ark's great size. its odd shape, and the vast number of animals it contained but- when I am asked to believe that the children of Israel carried this unwieldy thing for forty years in the wilderness, I must confess that my faith breaks down.'

Advertising

LLOYDS Bffl LIMITED. Ohairman: R. V. VASSAft-SMITH. aj Deputy Chairman: J. W. BEAiiiV'iOftiT PEASE. f B T" Capital Subscribed £ 31,304,200 H Capital paid up 5,008,672 ||! yl Reserve Fund 3,600,000 Advances, &c. 58,039,921 fo .1 M Deposits, &c. 107,321,851 WajA Bf"| J THIS BANK HAS OVER 850 OFFICES IN ENGLAND AND WALES. J' j3 I I ) | | |fl Colonial and Foreign Department; 63, Lombard St., E.G. -< PARIS AUXsL?«.SY: i! | LLOYDS BANK (FRANCE) UMITED, 26, NIUHJE DE L'GPERA.. | I

PENTIR BANGOR

PENTIR, BANGOR. BEDYDD .—Dydd Sul diweddaf, bedydd- iwyd dau fachgenyn bychan i fod yn aelodau yn Eglwys Crist, sef Johnnie, mab bychan Mr. a Mrs. John Roberts, yr Allt, a Robert Enilyn, mab Mr. a Mm. T. J. Michael. Aber Cottage, Pentir. Maent yn awr wedi dechreu cerdded ysgol bywyd ysprydol, a hyderwn weled i'r ddau gael nerth ac iechyd i gyraedd oedran i'w con- ffirmio. Yn ddiau bydd y meichiafon yn edrych ar eu hoi. Gwasanaethwyd gan v Parch. W. J. Williams. CYFARFOD RHEOLWYR YSGOL G-ENHEDL- AETHOL GLASINFRYN .-N os Lun, am 7.30 o'r gloch, y Paroh. Herbert Jones, ficer, yn y gadair; Meistri. William Lewis, David Williams, R. T. Roberts, a'r ysgrifenydd yn bresenol. Darllenwyd y oofnodion a chadarnhawyd hwynt. Hysbyswyd fod y pr if athraw, Mr. H. Lloyd Pierce, F.E.H.S., wedi ymuno, drwy alwad, fel Sub.-Lieut. R.F.A. a'i fod yn Glasgow. Dymunwyd iddo Iwyddianti nerth ac an- rhydedd. Cymerir ei le gan Mr. D. J. Rowlands, boneddwr adnabyddus yn y eyloh. Daeth oddi wrth Miss Bessie Wil- liams, High Street, Bethesda, i gynal dos- barth gwnïo yn yr hirnos gauaf. Pasiwyd yn unfrydol iddi ddechreu, ac i'r rheolwyr roddi pob cefnogaetli i'r athrawes. Bydd ysgol nos Waen, Pentir, yn deohreu yr wythnos nesaf, ac ynxgynullodd y pwyllgor nos Fawrth i drefnu ao i gofrestru enwau y sawl a ewyllysiant ymuno. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.—Mae genym orchwyl pruddaidd, sef cofnodi marwola.th ein brawd, Mr. Evan Roberts, yr hwn a drigai gyda'i chwaer, Mrs. Wil- liams, Ynys Iago. boreu Gwener, pan yn 74 mlwydd oed. Yr oedd yn ddistaw ac o gymeriad glan. Brodor oedd o Abercegir, Darowen, Trefaldwyn, a'i ddymuniad oedd cael ei gladdu yn mynwent Eglwys y plwyf lie y magwyd ef, ac felly y bu. Boreu Mawrth, am 7.30, cynhaliwyd gwasanaeth byr wrth y ty gan y Parch. W. J. Wil- ) dan deimlad J dwys i Gaernarfon a Mach- ynlleth, ac oddi yno i Darowen, pryd YJ gwasanaethwyd gan y Parch. John Morgan Richards, B.A. Cydymdeimlwn a'r chwi- orydd, nithoedd, perthynasau, ymhell ac agos yn eu galar anisgwyliadwy. Duw flyddo yn noddfa ac yn amddiffynwr iddv oil.

BLAENAU FFESTINIOG

BLAENAU FFESTINIOG. SWN Y RHYFEL.—Gwn mai bylchog ydyw ein colofn ohebyddol oddi yma, eto cyn- hyrfir yr ysbryd i'w chadw i fyny. Eto profiad cymysg ydyw goruchwyliaeth o'r fath. Ychydig ddyddiau yn ol, yn un o ddyfFrynoedd prydferth Arfon cwrddais a. dyn y rhyfel ac opiniwn y LLAN tu 01 i'w opiniwn grefyddol a gwlad ol. Gwnaeth aylw fod y lie uchod yn fyr o groniclo i'r LLAN. Ni wyddai wrth. gwrs ei fod yn ym- ddiddan a'ch gohebydd, posibl os gwel hwn o nodiad y gwel hefyd fod ei awgrym wedi cyraedd adref. O'r ardal hon aetli rhyw haner cant o diriogaethwyr, ac yn ol cyfar- taledd enwad a phlaid saif bechgyn ein Heglwys yn flaenllaw. Daeth llythyr y dydd or blaen o faes y gwaed oddiwrth Mr. Bennett Lloyd, gynt arweinydd galluog y Cor Cymraeg. Dywedai Lloyd ei fod ef a'i ddau gyfaill trwy yr holl ymgyrch yn ddi- anaf hyd yn hyn gyda'r g-wn mawr. Un o Bethesda, Arfon, sydd gydag ef, a,c yn becrthynas i'r Parch. T. Llechid Jones. Ynghanol yr helynt erfyniai am i'w ad- gofion gael eu cyflwyno i gor S. Dewi. Cor bychan ydyw y cor Seisnig a fedd S. Dewi, eto cawn bump allan, tri brawd, y pedwer- ydd hefyd wedi ymuno yn Llundain. W. H. Pritchard, selog yn y cor a'r Y sgol Gymraeg, a welais yn myned; D. J. Griffith, Eglwyswr eto ac yn fab i hen arwr o'r Crimea. Bendith, fechgyn, ar eich taith, ac esgyned gweddiau yr Eglwys trosoch. Ymhlith bechgyn yr Eglwys WladoI anrhydedd oedd eu teimladau tra yn eu gTvisg filwrol. Druan o fechgyn dewr aeth o'r capeli, mwy o ofn i'r blaenor a'r pregethwr weled eu diwyg, na'r German. Dirmygodd y wasg ac arwyr llwyfan ein hardal waith y Parch. Benjamin Thomas, B.D., jgynt 'gurad S. Dewi, yn codi y Church Lada Brigade yma. Lladdodd y dylanwad piwritanaidd y cylch allanol y smvad fechan hardd yma yr adeg hyny. Pa gapel yn y plwyf all ddweyd fod dwsin allan heddyw ? Grall Eglwys S. Dewi. Yr wythnos or blaen bu cyfarfod mawr yn y Neuadd i anog ymrestru a'r fyddin. Lie, os gwn, oedd y boneddigion yma a'r parch- edigion oedd yn y cyfarfod adeg codi tiriog- aethwyr. N a. dynion na wrelant lwyfan yn ami a siaradasant yr adeg hyny. Dyn- ion na chymysgai llawer o'r sawl sydd yn arwain yn y cyfwng hwn a hwy. Ond mentraf ddweyd fod y rhai hyny yn siarad j o'u calonau, ac ofnaf fod llawer o ragrith yn y sawl a welir heddyw ar Iwyfanau CSmiru yn anog ymfyddino. Ond na. les- teiriwn eu hymdrech yn y dyddiau blin yma. Pan y mae hyd yn nod Mr. Lloyd George ei hun yn galw milwyr i gadw baner Prydain i gyhwfan, ein dyledswydd fel Eglwyswyr ydyw cynorthwyo ei ymdreoh. Ac fel Eglwyswyr nid diegwyddor fydd arnom dynu y cleddyf allan er clirio allan. yr ysbotyn du deddf y dadgysylltu yr Eglwys oddiar lyfrau cyfraith Prydain, ac ymreolaeth hefyd. Lie mae Meirion heddyw, llai na, neb ydynt am gadw baner y wlad i fyny, a mwy na neb oeddynt am dynu baner ein Heglwys i lawr. Ond ta waeth, mae rhagrith oenedl Gymreig yn dod yn amlwg i'r golwg yn y cyfwng yma. Y dynion redodd ein milwyr i lawr sydd yn galw am danynt heddyw. Yn 1870 dywed hanes fod y Germaniaid yn peidio yn Ffrainc a difodi Ffrancwyr oedd mewn gwisg filwraidd, canys credent mai y bobl oedd yn erbyn milwriaeth yn Ffrainc oedd i ymosod arnynt. Pa fodd bynag, o dan y Llywodraeth bresenol mae chwarelwyr wedi dioddef amser caled, ond boddlon ydym i ddioddef caledi y dydd presenol os gailwn lwyddo i orchfygu y Germaniaid. Chwarddodd Cymru am y syniad fod Ger- mani wedi gorchfygu masnach gwlad Cymru, ond wele pan mae ei wlad wedi bod mewn perygl mae wedi sobri llawer. YMADAEL.—Mae y cor Seisnig wedi colli eu harweinydd, ac mae wedi ymadael am le arall i enill ei fywoliaeth. Bu yn ddi- dwrw yn cadw oerddoriaeth yr adran Seis- nig i fyny. Ni fu i ddim ei ddigaloni er'a naw mlynedd, er pan y mae yn ein plith. Byddai cerddoriaetli y Cymun, y Credo, a'r canticlau, y foreuol a'r hwyrol anthemau yn cael eu holl ofal. Un oedd Mr. David Morgan na achosai dramgwydd i neb ac ni chymerai dramgwydd am ddim. Pan yn ieuengaoh bu yn aelod o gor Eglwys Gadeiriol Bangor, a bu yn canu yn nghor Westminster. Dygodd berffeithrwydd yn: mhob unigolyn o'i gor yma, ac mae y cor wedi casglu swm anrhydeddus fel tysteb iddo am ei wasanaeth. Diameu y cyf- lwynir ef yr wythnos hon. Pa ardal bynag y sefydla ynddi bydd o fantais fawr i'r Eglwys. Mae yn gerddor medrus, a chantor tenor swynol iawn. Brawd iddo sydd yn canu ynghor Eglwys Gadeiriol Dublin, Iwerddon. Hwn eto, dro yn ol, a anrhydeddwyd a'r swydd o ficer oorawl yn yr Eglwys hono.—D. D. Roberts. ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLT73 | YN RWYDDFVR LLAN