Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 7 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
Gwasanaethau Diolchgarwch am y Cynhauaf

Gwasanaethau Diolchgarwch am y Cynhauaf. IRudd yn dda genym clderbtiit adro 7diadait am y gwasanaethau hyn o bob photjf and taer eriyn- iwn ar i'n gohcbwyr fod yn brydlawn, b!l)-, a chryno.—Gol. EGLWYS ST. MARC, CABALFA.—Saif yr Eglwys hon yn ymyl y Barracks yn Nghaerdydd, ac wrth weled y milwyr yn ymbarotoi ar gyfer y rliyfel sylwasom fod rheswm neillduol dros ddiolch i Dduw am gynha uaf da yr amser presenol. Cynhal- iwyd y gwasanaethau nos Fercher, Medi 23ain, a'r Sul canlynol. Arwisgwyd yr Eglwys yn ddestlus, a phregethwyd gan y Parchn. Watkin Davies, Abertawe; Lloyd Jones, Caerdydd, a Henry Williams, Whit- church. Cynorthwyid yn yr oil o'r gwas- anae.thau gan y Parch. R. W. Evans, ficer. ST. MICHAEL, AMMANFORD. CynhaL iwyd yr wyl hon ar y Sul a'r Llun, 27ain a'r 28ain o'r mis diweddaf, pryd y pre- gethwyd gan y Parchn. W. liar Edwards, 'Caerfyrddin, a. D. Ambros Jones, Cid- weli. Arweiniwyd y canu gan Mr. B. Price Jones, a chwareuwyd yr organ gan Mr. E. Williams. Addurnwyd: yr Eglwys yn hardd gan y boneddigesau canlynol:— Mrs. Jones, Ficerdy; Mrs. Jones, Meurig Villa; Mrs. Williams, Old Vicarage; Mrs. Evans, New Road; Miss Jones, Henllan House; Miss Jones, Heol Las; Miss Evans, Ty'rdail, a Miss Hiram Williams, Panyffy 11011. Cyflwynwyd yr offrymau tuag at gronfa'r curadiaid. EGLWYSWRW. Cynhaliwyd gwasan- aethau i ddiolch am y cynhauaf ddydd Gwener, yr 2il cyfisol. Cafwyd veinydd- iad o'r Cymun Bendigaid am wyth, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. I. Morgan, ficer. Am haner awr wedi deg, darllen- wyd y gwasanaeth gan y Ficer, a'r llith- -b oedd gan y Parch. T. M. James, rheithor Meline, a chafwyd pregeth gan y Parch. H. Williams, rheithor Manordeifi. Am haner awr wedi -da,u, intonwyd y Litani gan y Parch. E. P. Jones, ficer Moylgrove, a phregethwyd gan y Parch. E. W. Evans, ficer Tremain a Blaenporth. Am saith yn yr hwyr, intonwyd y gwasanaeth gan y Parch. T. M. James, darllenwyd y didw, lith gan y ficer, a phregethwyd drachefn gan y Parch. H. Williams. Yr oedd y gwasanaeth hwyrol oil yn gorawl, a chan- wyd y Psalmau 29 a'r 97. Yr oedd y canu o dan arweiniad Mr. D. J. Edwards, Y.H., Glaiidwrganol, a chyfeiliwyd yn fedrus wrth yr harmonium gan Miss Evans, Pantyderric. Cafwyd gwasanaethau 1 gwresog, a chanu da drwy y dydd. Yr oedd y easgliadau yn myned at y treuliau [ lleol, ac at y genhadaeth. Yr oedd yr Eglwys yn llawn drwy y dydd, ac yn or- lawn yn yr hwyr, llawer yn gorfod sefyll allan. Arwisgwyd yr Eglwys yn hardd ga,n amryw o'r lie.—B.W.P. ST. lOAN, CWMBACH, LLECHRYD (BUILTH IIOAD.-Dydd Mercher, y 30ain o Fedi, cynhaliwyd y gwasanaethau diolchgarwch yn y plwyf hwn. Yr oedd y diwrnod yn braf a'r haul yn tywynu ac yn siriol wenu arnom. Cafodd yr Eglwys eleni, fel arfer, ei gwisgo yn hardd iawn. Bu Mrs. Col. Lindsay mor garedig a danfon llawer iawn Q flodau, a garddwr i'w rhoddi yn ddestlus yn yr Eglwys. Yr oedd y canlynol yn cynorthwyo hefyd :—Miss Bryans, Vicar, age; Miss Gwyneth Evan-Thomas, Miss Kathleen Evan-Thomas, Miss Cora Evan- Thomas, Cae'rwnon; Miss Anderson, Vicarage Mrs. Jones, Miss Jones, School Hbuse; Parch. J. L. Bryans, Parch. J. Williams, Mr. Hill, Pencerrig. Yr oedd yr Eglwys yn edrych yn odidog ar ol gor- phen yr addurno. Y pregethwyr eleni oedd y Parch. F. W. B. Ward, Abbey Cwm Hir, yr hwn a bregethodd yn y boreu. am 11 eg o'r gloch, pryd hefyd y gweinydd- wyd y Cymun Bendigaid. Yr oedd y gwas- anaeth yn gorawl, y Ficer yn ei gymeryd, yn cael ei gynorthwyo gan y Curad; a'r Parch. J. Y. Evans, Eglwys Oen Duw, yn yr hwyr am 7.30. Yr oedd y gwasanaeth hwn eto yn gorawl, aeth y Ficer drwy y rhan gyntaf a darllen yr ail lith, a'r Curad drwy y gweddill o'r gwasanaeth a darllen y llith! gyntaf. Canwyd yn hyfryd yn y gwasanaeth hwn yr anthem 'Great is the Lord.' Nos Sul diweddaf cafwyd 'Harvest Home Echo,' pryd y cafwyd pregeth gan y Ficer. LLANGENNECH. Cynhaliwyd gwasan- aethau diolchgarwch yn Sant Cennech, dydd Sul a, nos Lun diweddaf. Fel arfer, dechreuwyd yr wyl gyda gwasanaeth y Cymun am 8.30 boreu Sul, gwasanaeth Saesneg am 11 o'r gloch, gwasanaeth i'r plant yn y prydnawn, a gwasanaeth Cym- reig yn yr hwyr am 6 o'r gloch. Am y waith gyntaf cawsom y pleser mawr o wrandaw ar y Parch. R. Williams, M.A., Ficer Llandilo, ac Archddiacon Caerfyrdd- in. Cawsom gynulleidfaoedd1 lluosog iawn trwy'r oil o'r gwasanaethau. Cawsom wasanaethau gwresog, a'r ganiadaeth o dan arweiniad medrus Mr. J. H. Beynon Hop- kins, B.A., yn rhagori ar unrhyw wasan- ae.thau blaenorol ar achlysur o'r fath. Addjurnwyd yr Eglwys ar gyfer yr wyl hon yn ddesitluB i'r eithaf gan y boneddigesau canlynol:—Mrs. Roberts, Persondy; Mrs., H. M. G. Evans, Plasi Isa; Miss John, Brony garth, Mrs. Hopkins, Misses Thomas, Miss F. La vies, Miss Letcher, Miss Roberts, ac amryw ereill. Nos Lun, cawsom bregeth gan y Parch. E. J. Davies, Ficer Brynaman. Teimlad pawb oedd ein bod wedi cael gwasanaethau rhagorol. CAERDYDD.—Cynhaliwyd gwasanaethau o ddiolohgarwch, yn Eglwys Dewi Sant dydd Mercher, Medi 30ain a'r Sul, Hydref 4ydd. Dydd Mercher, am 11, gweinydd- iad o'r Cymun Bendigaid, a llawen oedd genym weled cynifer wedi ymgynull i gyf- ranogi o'r Sanctaidd Wledd; 7.30, pryd- nawnol weddi a. phregeth, a phregetwyd gan y Parch. E. Aldred Williams, B.A., Ficer Golden Grove, Caerfyrddin. Dad- ganwyd yr anthem 'Dyrchafaf Di' (Eos Llechid) gan y cor. Boreu Sul, am 8, gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid; 11, Boreol Weddi a phregeth; 3, Gwasanaeth y plant; 6.30, Prydnawnol Weddi a phre- geth. Pregethwyd yn y gwasanaethau hyn gan y Parch. D. Jones, B.A. (Efrog), b Ficer AbereJch. Cawsom wledd fendi- gedig. Gwnaeth y cor eu rhan yn ar- dderchog dan arweiniad Mr. T. Thomas. Dadganwyd yr anthem 'Nac ofna di ddaear' (T. Edwards) nos Sul. Cymerwyd rhan yn y gwasanaethau gan y Parch. T. Twynog Davies, ficer; H. Howell, B.A., curad; Mr. Evan Davies a Mr John Jones. Rhoddwyd ffrwythau, blodau, etc., gan lawer o'n haelodau, ac addurnwyd yr Eglwys yn hardd ac yn ddestlus gan amryw o'n boneddigesau parod eu cymwynas, fol arfer. LLANGAR, COHWEN. Dydd Mercher, Medi 30ain, cynhaliwyd gwasanaethau diolchgarwch. yn y plwyf hwn hen blwyf Edward Samuel, y cyfieithydd dihafal, yr hwn oedd yma yn rheithor o'r flwyddyn 1721 hyd 1748, blwyddyn ei farw, ac yma, ger hen Eglwys y Plwyfi, y mae ei fedd a'i gof-faen i'w gweled hyd heddyw. Mae'r hen eglwys erbyn hyn yn myn'd drwy gyfnod o dawelwch; aid oes ond rhyw un gwasanaeth yn cael ei gadw ynddi yn y flwyddyn. Mae Eglwys, newyddl hardd, a mwy cyfleus, wedi ei chodi ym mhentref Cynwyd yn lie yr hen eglwys. Dyma lie y cynhelid y gwasanaethau uchod. Yr oedd yr eglwys wedi ei haddurno yn bryd- ferth iawn gan garedigion y lie. Am 8.30 cafwyd gweinydiad o'r Cymun Sanctaidd. Am 3 y prydnawn gwasanaeth Saesneg, yr hwn gymerwyd gan y Parch. A. Abel, B.A., rheithor y plwyf, a'r Parch. G. Williams, B.A. Ficer Corwen; y Llith- oedd gan y Parchn. T. LI. Williams, M.A., Gwyddelwern (Deon Gwladol), a C. Williams, B.A., Corwen, a phregethwyd gan y Parch. T. Llechid Jones, B.A., Fioer Yspytty If an. Am 7 yr hwyr, gwas- anaeth Cymraeg, yr hwn eto gymerwyd gan Reith-or y Plwyf a Fice,r Corwen, a phregethwyd drachefn gan Ficer Yspytty Ifan. Gwnawd casgliadau yn yr oil o'r 19w:aanaethau tuag at Gymdeithasau yr Esgobaeth. YNYSCYNHAIARN.- Dydd Gwyl Mihangel a'r Holl Angelion, Medi 29ain, cynhaliwyd gwasanaethau o ddiolchgarwch yn Eglwys St. Cynhaiarn, yn y drefn a ganlyn 11. 30 a. m., Gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid; 2.30 p.m., gwasanaeth a phregeth gan y Parch. W. G. Jones, St. Martha, Tyddyngwyn, Ffes- tiniog, a 6.30 p.m., Gosper a phregeth gan y Parch. Daniel Jones, Abererch. Yr oedd cynulleidfaoedd da y prydnawn a'r hwyr. Chwareuwyd yr offeryn gan Mr. D. Frowden Jones, Eisteddfa, gyda pha un y bu y clerig- wyr yn ciniawa, a huliwyd byrddau llawn o ddanteithion blasus ode a theisenau i'r oil o'r dyeithriaid fel arferol drwy haelioni Mrs. Ignatius Williams. Addurnwyd yr Eglwys yn chwaethus, a rhanwyd y casgliadau rhwng y Gymdeithas Genhadol Dramorol, a hefyd Cenhadaeth Gartrefol yr Eglwys.^—Gestianwr. PENRHOSLLUGWY.—Ar ddydd St. Mihangel a'r Holl Angylion, caed yn Eglwys y Plwyf wasanaethau yn y drefn a ganlyn Am 10 yn y boreu, gweinyddiad o'r Cymun Bendi- gaid, ac anerchiad gan y Parch. B. Jones, rheithor Penmachno; am 11 a m. (Saesneg), Boreuol Weddi a phregeth gan Reithor Pen- machno; am 2.30. p.m., gwasanaeth a pbre- geth gan y Parch. A. Davies, rheithor Llan- dyfrydog; am 6.30., p.m., Gosper, a phregeth gan Reithor Penmachno. Caed hin ddymun- ol, a chynulliadau lluosog. Addurnwyd yr Eglwys yn ddestlus gan aelodau o deulu Llig- wy, yn cael eu cynorthwyo gan,Arglwydd ac Arglwyddes Boston. Anfonwyd hefyd flodau a ffrwythau gan Mrs. Williams-Mason, Bod- afon. Chwareuwyd yr harmonium gan Mr. T. W. Rowlands, Ysgol Sirol, Llangefni. Yr oedd hefyd yn bresenol Lieut. Williams. Mason, o'r rhyfel-long anffodus Crcssy' yr hwn a waredwyd megis o safn angau. Elai'r offrymau at y Genhadaeth Gartrefol a Thra- mor. ST. CTNGAR, BORTHYGBST.—Cynhaliwyd yr wyl o ddiolchgarwch yn yr Eglwys hon ddydd Mercher, Medi 30ain. Gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid yn Saesneg am 8 y boreu, a gwasanaeth a phregeth gan y Parch. Ellis H. Griffith, Llangadwaladr, ac yn Gym- raeg am 10 y Cymun Bendigaid, ac am 6.30 yn yr hwyr, Gosper a phregeth gan y Parch. E. H. Griffith eto. Yr ydoedd yr addurn- iadau yma yn ddymunol lawn, a chyflwyn- wyd y casgliadau i Genhadaeth Gartrefol yr Eglwys.—trestianw". ST. IOAN, PORTHMADOG.— Cynhaliwyd yr wyl yn Saesneg ar Sul, Medi 27&in. Y Cymun Bendigaid am 8, a gwasanaeth a phregeth gan y Parch. C. L. Owtram, a dydd Iau, Hydref laf, am 8, y Cymun Bendigaid yn Saesneg, ac am 10 eto yn Gymraeg, a Gosper a phregeth yn Gymraeg am 6.30., pryd y pregethwyd gan y Parch. E. H. Griffith, Llan- gadwaladr, Sir F6n. Daeth cynulliad da # ynghyd i'r gwasanaeth hwn, a datganwyd yr anthem, 'Arglwydd ein lor ni' (W. M. Griffith) yn dra rhagorol, a chafwyd casgliad- au sylweddol, y rhai a gyflwynir i Genhad- aeth Gartrefol yr Eglwys er Cynorthwyo Plwyfi Gweiniaid yr Esgobaeth. Yr ydoedd yr addurniadau yn ddymunol, ac heb fod yn ormodol, a'r canu yn dda yn ystod yr wyl. —Gestianivr. PRENTEG.—Dydd Iau, Medi 28, cynhaliwyd gwasanaethau yn Eglwys St. loan. Am 10 caiwyd gwasanaeth a phregeth a gweinyddiad o'r Cymun Sanctaidd gan y Parch. J. Davies, Penmorfa. Am 2, gwasanaeth a phregeth gan y Parch. J. Davies, rheithor Llanfrothen, ac am 7 pregethwyd gan y Parch. D. Jones, ficer Abererch. Aed drwy y gwasanaethau gan y Parchn. Collwyn Morgan a J. Davies. Cyfeiliwyd gan Mr. J. Allen Jones, Criccieth. Arwisgwyd yr adeilad yn hardd gan Mr. R. Williams, Garddwr, Aberdinant; Mr. Tommy Griffith, Tynygro; Mrs. Griffith, a Mr. a Mrs, J. Allen Jones. Darparwyd ar gyfer yr offeiriald ac ereill gan deuluoedd y Llythyr- dy, Tynygro, a Tynewydd. LLANDEGWNING. Nos Wener diweddaf cynhaliwyd gwyl o ddiolcbgarwch am y cyn- hauaf yn Eglwys y plwyf uchod. Darllenwyd y gwasanaeth a phregethwyd gan y Parch. J. Bangor Jones, Edeyrn. Daeth cynulliad da ynghyd. Yr oedd y canu fel arfer o dan arweiniad Mr. Richard Thomas, Talsarn, yr hwn sydd yn ffyddlon iawn yn yr hen Eg- lwys uchod. LLANEDI,—Cynhaliwyd y gwasanaethau o ddiolchgarwch yn y plwyf hwn eleni fel y canlyn :-Dewi Sant, Hendy, dydd Sul, Medi 20fed, am 8 a.m., gweinyddiad o'r Cymun; I I a.m., gwasanaeth a phregeth; 2.30 p.m., Y Litani a phregeth Gymraeg; am 6 p.m., gwasanaeth a phregeth. Nos Lun, am 7 p.m., gwasanaeth a dwy bregeth, Saesneg a Chym- raeg. Yn Ysgol-Eglwys Tycroes, dydd Sul, Medi 27ain, am 10.30 a.m., 2.30 p.m., a ".30 p.m., ac ar y nos Lun canlynol am 7 p.m. Yn Eglwys y plwyf, ar Wyl Mihan- gel, am 10.30 a.m., gwasanaeth a phregeth a gweinyddiad o'r Cymun. Am 2.30., y Litani a phregeth, ac am 6.30 p.m., gwasanaeth a dwy bregeth, un yn Saesneg. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan offeiriaid y plwyf, a phregethwyd gan y Parchn. Anthony Britten, Gorslas liar Edwards, Caerfyrddin I J. J." Evans, Walton East; D. A. Jones; It. W. Jones, Gorseinon; E. Jones, Llany- cafn, ac R. H. Roberts, Llangennech. cn Casglwyd yn yr Hendy tuag at yr A.C.S. yn Tycroes at y gronfa adeiladu, ac yn Llanedi tuag at y rhodd o all or dderw hardd i Eg- lwys Newydd Tycroes. Yr oedd y gwahan- ol eglwysi wedi eu gwisgo yn ddestlus gan y gwahanol wragedd caredig, a chafwyd te rhagorol rhwng y ddau wasanaeth olaf yn Llanedi. Gwnaeth y gwahanol gorau eu gwaith yn ganmoladwy iawn, a chafwyd gwasanaethau gwresog, a chynulleidfaoedd mawrion yn yr holl eglwysi. RHUDDLAN.— Cynhaliwyd gwasanaethau diolchgarwch yn Eglwys y Piwyf ddydd lau a dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf. Gweinyddwyd y Sacrament Bandigaid wyth o'r gloch boreu ddydd Mercher, pregethwyd yn y prydnawn gan Ddeon Llanelwy yn Saesneg, ac yn yr hwyr yn Gymraeg gan y Parch. John Owen, rheitheor Tryddyn. Nos Iau drachefn, pregethodd rheithor Llanrhos, y Parch. J. F. Reece, yn Saesneg. Addurn- wyd yr Eglwys yn ddestlus. Rhoddwyd rhan o'r casgliadau i Ysbytty Dinbych. Gwnaeth y cor eu rhan yn ganmoladwy yn yr oil o'r gwasanaethau. Mae arwyddion ar bob Haw fod y werin yn sylweddoli eleni yn fwy nag erioed fod ganddynt destyn diolch. Ni welwyd erioed nifer mor luosog yn myn- ychu gwasanaethau diolchgarwch, S yl wodd un o'r pregethwyr fod pobl i'w gweled yn ein heglwysi oeddynt ddyeithriaid t dy Dduw cyn i'r argyfwng presenol eu sobreiddio o'u dyled- swyddau. » LLANGEITHO.—Cynhaliwyd ein gwasanaeth- au yma ddydd Llun, y 5ed cyfisol, pan y caf- wyd cynulliadau mawrion a gwasanaethau godidog. Am ddau o'r gloch, llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. M. Davies, Nantcwnlle, a phregethwyd gan y Parch. R D. Rees, Cilcenin. Am 6.30,, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. G. Davies, Bhen- pennal, a phrtgethwyd drachefn gan ficer Oilcennin. Yr oedd y canu yn y ddau was- anaeth yn hynod o dda. PENTRAETH A LLANBEDRGOCH, M6N. Dechreuwyd y gyfres o wasanaethau gyda'r gwasanaeth Seisnig am 11.30 dydd Sul, y 27ain o Fedi, pryd y gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan y Parch. E. P. Howell, rheithor, ac y pregethwyd gan y Parch. H. W. Jones, curad. Y nos Lun dilynol cafwyd Gosper a phregeth gan y Parch. J. T. Phillips, curad Caernarfon. Boreu dydd Mawrth am 10 o'r gloch, gweinyddwyd y Cymun gan y Rheithoi, a phregethwyd gan y Parch. J. T. Phillips. Yn y prydnawn am 2 o'r gloch, y Litani a phregeth gan y Parch. 0. R. Owen, Llanddanlelfab. Yn yr hwyr am 7, Gosper a phregeth gan y Parch. J. T. Phillips. Ddydd Mercher cafwyd cyffelyb wasanaethau yn Llanbedrgoch, y Parch. O. R. Owen yn pre- gethu am 10 ac am 2, a'r Parch. D. E. Hughes (Esgair), Penmaenmawr, yn yr hwyr am 7 o'r gloch. Cafwyd hin hynod ddymun- ol, gwasanaethau gwlithog, a chanu gwresog. Yr oedd y ddwy Eglwys wedi eu harddwisgo yn hynod brydferth gan Mr. Shellard, Plas- gwyn, yn cael ei gynorthwyo gan Mrs. Howell, Rheithordy, ac eraill. Elai y diolch- offrymau at y Genhadaeth Gartrefol a Thra- morol. Derbyniwyd blodau prydferth o erddi Plasgwyn, trwy garedigrwydd Captain Vivian. LLANBEDR PONT STJSFHAN. Cynhaliwyd gwasanaeth Seisnig yn y Neuadd Eglwysig nos Sul, pryd y cymerwyd y gwasanaeth gan y Parch. Gimon Camber-Williams, ficer, a phregethwyd gan y Parch. W. J. E. Jones, Silian. Yr oedd y canu yn dda iawn dan gyfarwyddyd Mrs. Bebb, Coleg Dewi Sant. Yr un adeg, yn Ngholeg Dewi Sant, cynhal- iwyd gwyl ysgolheigion ysgol y Coleg, pryd y cymerwyd y gwassanaeth gan y Parch. G. P. Black, ac y pregethwyd gan y Parch. W. Ll. Footman, ptifathraw. Arrweinid y canu gan Mr. W. Lewis (Arfryn). ac yr oedd yn ddefos- iynol ac effeithiol. CSRRIG CEINWEN, MON.—Ddydd Gwener, Hydref 5ed, y Rheithor ei hun yn y boreu. Am 2 p.m., intoniwyd y Litani gan y Parch. W. Jenkins. rheithor, a phregethwyd gan y Parch. J. Jones, curad Llangefni. Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch. W. Morgan 0 Wright, curad newydd Valley. Gwasanaeth c' corawl, a'r Eglwys yn orlawn.—Ivor.

YSTRAD

YSTRAD. GWASANAETHAU DiOLCii.-Unwaith eto a'r tro olaf dyma drefniad y gwasanaethau diolchgarwch am y cynhauaf yn mhlwyf Ystrad. Dechreuir yn Eglwys y Piwyf nos Sul, I leg, am 6 p.m. Pregethir gan y Parch. Ganon E. T. Davies, Bangor. Dydd Llun 10 a.m., gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid. Am 2 p.m., pregeth Saesneg gan Canon Davies, a Chymraeg gan Rheithor Llangeitho. Yn yr hwyr am 6 p.m. pregethir yn Gymraeg eto gan y ddau offeiriad uchod. Gwneir casgliadan ymhob gwasanaeth tuag at lanhau y fynwent, &-c. Bydd ymborth i bawb ar ol y gwasanaeth prydnawnol yn yr Ystafell Eglwysig gerllaw-a chroesaw i bawb. CRIBIN.—Yn Eglwys Cribln am 2 p.m., pregethir gan y Parch. W. J. E. Jones, ficer Silian, ac am 6 p.m. gan Ficer Silian a'r Parch. Ganon E. T. Davies. Gwneir easgl- iadau ymhob gwasanaeth. LLYFRAU.—Ychwanegwyd at rif llyfrau emynau a Llyfrau Gweddi Gyffredin yn seddau Eglwys y Plwyf ac Eglwys Cribin y Sal diweddaf. Dyma ffrwyth Ileol cyntaf yr 1 envelopes' yn y ddwy Eglwys. Gcbeithio y bydd yr ychwaneglad angenrheidiol hwn yn peri i'r gwasanaethau yn y ddwyEglwys gael eu porthi yn well, gan gofio yr hen ddlareb Gymreig, er eu bod yn cael eu porthi yn dda yn awr, Nid da lie gellir gwell.' Ni fydd eisieu i neb dewi mewn gweddi a mawl o eisieu llyfrau. A chydag amser disgwyliwn weled lawer o welliantau eraill drwy gyfrwng yr envelopes yn enwedig yn Eglwys Cribin, lie mae angen am adnewyddu a phrydferthu dodrefn ac addurniadau y Ty. Y mae y cynllun yn gweithio yn galonogol iawn yn y ddwy Eglwys—y rhan fwyaf o lawer yn syl- weddoli buddioldeb y mudiad newydd, ac yn ewyllysgar yn cyfranu yn ol eu gallu. YMBIL.—Gwasanaethau ymbiliadol yn cael eu cynal bob wythnos yn Ystrad a Cribin, dros y rhai sydd ar faes y rhyfel. Y ffydd- loniaid yn ymgynull yn dda yn y ddwy Eg- lwys-er budd a lies eu hunain ac ereill gobeithiwn yn hyderus. Er y gofyn rhai braidd yn anghredinlol—pa les gweddio- gweddiom o'r blaen dros yr Eglwys, ond nis 0 gwrandawyd ni. Yr ateb i beth fel hyn ydyw -fe allai yr atebir ni ynglyn &'r Eglwys eto y ID —ac fe allai na atebir ni yn ol ein dymuniad, ond fe atebir nl yn unol a'n lies uwchaf. Fe weddiodd Crist am i'r g.wpan fyned heiblo —ond nid hyny oedd ewyllys Duw, ac ateb y Tad oedd cryfhau y Mab i yfed y gwpan chwerw i'r gwaelodion. Hyn ddywedwn ni wrth bob anghredadyn Pob duwiol a weddia,' ac f Agoshau at Dduw sy' dda i mi,' ac fe awn i'r gwasanaeth ymbil yn ddewr ein hyspryd i weddio Duw dros y claf a'r clwyfus, brenhin a swyddogion, milwyr a morwyr, physigwyr a gweinyddesau, a phawb sydd mewn angen- octid a thrallod. MAENOR MABWNION.- Fe gynhallodd y Deputy Steward, sef Mr. D. F. Lloyd, LJan. bedr, el lys ynglyn a'r Faenor uchod dydd Mercher diweddaf, y 30ain cynfisol, yn y Brynog Arms. Daeth amryw ynghyd i'r llys, a dewiswyd y swyddogion canlynol am y flwyddyn hon :—Beadle, Mr. David Richards, Brynog Arms foreman, Mr. D. Davies, Lloydjack; homagers, Mri, D. Davies, Lloyd- jack, a D. Davies, Cefnystrad afferors, Mri. Evan Jonathan, Tynygwndwn, a John Davies, coal merchant, Ystrad. Cafwyd cyfarfod cysurus pawb yn foddlon ar eu swyddi ac yn barod i'w gwaith. Wn i ddim yn iawn beth yw ystyr enwau mawr y swyddi o Beadle, Homagers, ac Afferors. Mae'r olaf yn swnio yn debyg iawn i fel y swniai Cockney half heroes—'alf 'eroes. Ond nid half heroes yw un o afferors newyad Ystrad. Y mae enw mawreddog hefyd i'r llys,—Lordship or Manor of Mabwnion. Court Leet and View of Frankpledge. Fe gefais esboniad ar y cyfan unwaith gan y 'genial Deputy Steward'; ond mae pum' mlynedd agos er hyny, ac ofnaf fy mod wedi anghofio mwy na'r esboniad hwn yn yr amser sydd wedi myned heibio. TORI'R FTKWENT.—Hyny yw, tori'r glas- wellt a glanhau y Fynwent—wy'n feddwl. Gwnaed hyn ddydd Gwener. Daeth y gwyr a'r bechgyn da hyn ynghyd 1 wneyd y gwaith, a gwnaethant ef yn rhagorol :-Mri. David Jones, Maeslan David Jones, Troedy- rhiw; Rees Williams, Fronfelen Arms; Jenkin Morgan Davies, Tynyfron; John Evans, Rhydygwin; Daniel Evans, Ystrad House Dd. Thomas, Maesgoleu Nathaniel Jones, Trafle John Jones, Bryngoleu; Wm. Price Jones, Rhydygof; Edward Davies, Llwynderw Evan Evans, Bwlchperson; E. Davies, Pencaelyfri; D. Davies, Cwrt (Green- grove) J. Garfield Davies, Tynyfron; a W. E. Davies, Ficerdy. Pawb yn cannjol y gwaith da dydd Sal, am fa1 pawb yn -va gweled mynwent lan. Talwyd rhyw yebydig i bob un, a rhoddwyd pryd ode i'r gwei :th wyr oeddynt deilwng o'u bwyd. Gobeithio y cofia y sawl sydd a rhai yn gorwedd yna am y gwaith da yn y casgliad ar Wyl y diolch, neu am flwch y fynwent wrth ddrws yr Eg- lwys. Pos Y I PRARs.Dim ond dau atebiad oddi wrth ddwy ferch ddaeth i law—'roedd y pos hwn yn ormod o job i'r bechgyn sound, er mai bachgen a'i rhoddodd. Mae'r ddwy feroh yn gywir, ond boi un yn fwy gramadeg- ol na'r llall yn ngeiriad ei hateb, ac felly iddi hi yr anfonwyd y llyfr :— Miss E. Maddox, The Farm, Llannon, Carmarthenshire. Pos Y CLWYDI.—Pa fodd daeth hwn i fod mewn lie ar neu cyn dydd Sadwrn, Hydref 3ydd, sydd ddirgelwch mawr i mi. Dydd Sadwrn, Hydref y lOfed, own i yn golygu i'r atebion ddod i law. Yr oedd y 3ydd yn ddi- reswm o gynar. Er hyny fe ddaeth tri i law, ac un ar y 3ydd. Ond er mwyn mwy o chwareu tg fe roddaf y pos eto, ac i fod 1 law R.E.D., Felinfach, Cards, erbyn dydd Sadwrn, Hydref 17eg. Dyma fe :— Os gellir cau 100 (cant) o ddefaid i mewn gyda 18 o glwydi: pa sawl clwyd fyddai yn angenrheidiol i wneyd corlan i 200 (dau gant) o ddefaid ? 0, Ie, dylaswn fod wedi rhoddi y pos o'r blaen gyda'r atebiad a dyma fe A man with no eyes saw pears on a tree. He took no pears off and left no pears on. How can that possibly bel A dyma'r ateb:— A man with one eye (no eyes) saw two pears. He took one pear (no peat's) off and left one pear (no pears) on. So that's how it could possibly be-meddai Miss E. wrth R.E.D.

Marchnadoedd

Marchnadoedd. CAERNARFON.—Ymenyn ffres, Is. Ie. y pwys wyau, 9 am Is. DINBYCH.—Ffowis, 3s. i 4s. Go. y ewpl; jhwyaid, 4s. i 5s. y cwpl; wyau, 10 am Is; ymenyn ffres, la. i Is. Ie. y pwys; tybiau bach, Is. y pwys; biff, 7c. i lie; mutton, 8c. i 10c lamb, 10c. i lie. y pwys; mosh tewion (yn fyw), 4to. i 5c. y pwys gwlan Saesnig, Is. i Is. Ie. y pwys; gwlan Cym- raig, 10c. i 10i.c. y pwys; cwningod, Is. 2c. y cwpl. RHUTHYN.—Ffowls, 2s. 6c. i 3s. y cwpl; hwyaid, 4s. 6c. y cwpl • ymenyn, Is. Ie. y pwys; wyau, 10 am Is; eirin damson, y chwart; afalau coginio, 2s. 6c y 120; ewn- ingod Is. 6c. y cwpl. PWLLHELI. Y men yn ffres, Is. y pwys; wyau, lis. y 120; pore, biff, veal, a mutton, 7c. i Is. y pwys moch Lewion, 40 y pwys perchyll, 13s. i 21 s. yr un. LLANGEFNI.—Ymenyn ffres, Is. Ie. y pwys; wyau, 10 am Is.; biff, 8c. i 9c y pwys mutton, 8e. i lie. y pwys cig oen, 10c. i Is. y pwys veal, 7c. i go y pwys pare, lle. y pwys; moch tewion, 4:o. y pwys; perchyll, 14s. i 18s. yr un cywion, Is. 3c. i Is. 6c. yr un. ANIFEILIAID. PRESTON, Medi 30ain. Cyflenwadau mawrion, ond y fasnach yn siomedig. Prisiau:-Biff goreu 7ie y pwys; eto 71e 4 y pwys; gwartheg a theirw ieuainc 6fc; eto 6c; hoggs ac wyn goreu 9-c y pwys; mamogiaid 7c. WAKEFIELD, Medi 30ain.- Cyflenwadau mwy, ond y fasnach yn arafacb. Biff goreu yn gwerthu o 7tc i 7c y pwys eto 7c i 71c; garw 6c i 6fc defaid ieuainc 9fc 4 i 10s; canolig 9ic i 9ic; trvmion 81c i 9c; 4 y mamogiaid a tups 6c i 8c. BIRMINGHAM, Hydref laf.—Cyflenwad bychan o anifeiliaid a defaid, a masnach weddol. Gwerthid biff 6ic i 8c y pwvs mutton 8c i 9c WYll 9e i 10c. Cyflen- 4 wad bychan o foch, a galw bywiog am facwn. CIG. LLUNDAIN, Medii 30aiii.-Galw gweddol gaed yn y farchnad hon. Prisiau: Beef: Scottish short sides 4s 10c i 5s, extreme 5s 2e, long 4s 8c i 4s 10c, extreme 4s 4c i 4s 7c; Irish, including Birkenhead killed, 4s 3c i 4s 6o; Argentine chilled hind- quarters 4s 10c i 5s, forequarters 3 s 9c i 3s lie; New Zealand hindquarters 4s 6c i 4s 8c, forequarters 3s 9c i 3s 10c. Mutton Scottish wethers 5s i 5s 4e, ewes 3s 6c i 3s 8e; English wethers 4s 6c i 5s, ewes 3s 6c i 3s 8c; Irish wethers 4s 2c i 4s 6c, ewes 3s 6c i 3s 8c; Dutch wethers 3s 8c i 4s 2c, ewes 3s 6c i 3s 8c; New Zealand 3s 9c i 3s 10c; River Plate 3s 6c i 3s 7c Austral- ian 3s 5c i 3s 6c. Lamb Scottish 58 4c i 5s 8c; English 5s i 5s 4c; Dutch 4s 4c i 5s; New Zealand; 4s 6c i 4s 8c. Veal: English and Dutch 3s 8c i 4s 4c. Pork: English and Dutch 4s i 4s 8c yr -wyth pwys.

MARCHNAD CAERFYRDDIN

MARCHNAD CAERFYRDDIN. CAERFYRDDIN, Dydd Sadwrn, Hydref 3.—Daeth Cynulliad da ynghyd. a, gwnaed masiiach dda. A ganlyn oeddynt y pris- iau:—Ymenyn, yn bwysi, Is 3c y, pwys; eto, mewn casgiau Is lie i Is 2tc; ieir, 2s 6c i 3s 6c yr un; cywion, Is Ie yr un; gwyddau a hwyaid, Is i Is lc y pwys; wyau, 7 am 1. caws, 439 y canpwys.