Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL.1 CYHWYSIAD AM MAWRTH. y Mix. Yr Eglwys a'r Cymdeithasau a elwir Eglwysi.' Dewi Sant. Glewder Cymru yn y Glorian. Y Testament Cymraeg a'i Gyf- ieithwyr. 0 Lygad y Ffynon. Gohebiaeth. 0'r Arsyllfa. Goleuni yn yr Hwyr. Y Cymro Oddicartref. Nodion Eglwysig. Gwell Marw am Ryddid na Byw i sarhad. Bwrdd y Golygydd. At y Beirdd. PERL Y PLANT CYNWYBILD AH MAWRTH. Dadleuon Magi Jones. Ail Golect Gwener y Groglith. Drylliad Melin Wynt Berw. Llythyr o'r Rhyfel. Wits." Morwyn Henaf yr Eglwya gyda Darluniau. Bettws Bledrws. Pregeth Fach. Yr Aiphtwys. Ton—Galwad yr Eglwys. St.Martin,Scarboro, gyda D&rlun Gofyniadau ac Atebion Plant y Ffyddloniaid yr Yagol Sul. [Pur. Helynt Fawr Dechreu Byw, gyda Bwrdd y G&n. [Darluniau Yr Hyacinth Penderfynol. Y Paganiaid Bach Duon. Cystadleuaeth y Derbynwyr Dalen Dirwest. [Newyddion. Beth mae yr Eglwys yn ei Wneyd. Y Gystadleuaeth. Perlau y Pe&, Barddoniaeth. Llithiau Priodol am y Mis.

Y Rhyfel o Ddydd i Ddvdd o

Y Rhyfel o Ddydd i Ddvdd. o TAN-BELENIAD Y DARDANELLES. ATAL LLONGAU TRAFNIDIOL I FYNED I GERMANI LLWYDDIANT Y OYNGHREIRIAID. DYDD IAli, Chwefror 25. YCHWANEG 0 GOLLEDION AR Y MOR. Erbyn heddyw yr oedd newyddion am suddiad llestri gan longau tan-euddawl y Germaniaid, Un o honynt ydoedd yr 'Harpalion,' pryd y collodd tri o'r dwylaw Chineaidd eu bywydau. Suddodd y Hong Americanaidd, 'Carib, ar y glanau Germanaidd drwy ddyfod i gyffyrddiad a. mwnfeydd ffrwydrol. Tra ar ei thaith o Lundain i Llvnlleif- iad, suddwyd llong, 'Western Hope,' yr hon oedd yn llwythog o nwyddau, ond ni wyddis pa un ai mwnfa neu leetr tan- suddawl fu yr aohos o hyny. Tra yr oedd o fewii wyth milldir i Beachy Head, cy merodd ffrwydrad Ie. a suddodd y llong o fewn ychydig funydau, ond ni chollwyd bywydau. Suddwyd llong yn llwythog o lo ger Scarborough drwy ffrwydrad, a glaniwyd y dwylaw yn ddiogel yn South Shields. PRINDER GWEITHWYR AMAETH- YDDOL. Ar bob Haw, achwynir fod amaethwyr yn methu cario eu gwaith ymlaen oher- wydd prinder llafurwyr. Y mae y Llyw- odraeth wedi bod yn ystyried y cwestiwn, ac amryw gymdeithasau amaethyddol wedi bod yn trafod y pwnc. Awgrymai amryw o'r cymdeithasau hyn ar fod i ddefnydd ga-el ei wneyd o'r Belgiaid oeddynt yn y wlad hon; ereill fod plant dros ddeuddeg oed i gael caniatad i lafurio ar ffermydd, tra yr oedd ereill o'r farn y gellid defn- yddio milwyr oeddynt wedi eu hanalluogi i wasanaethu yn y fyddin i gael eu cyflogi Mae y pwnc yn un dyrus xiros ben, ac yn galw am ystyriaeth bwyllog, gan fod y cynhauaf nesaf yn ymddibynu i raddau mawr ar yr hyn wneir yn bresenol. Mae rhai aelodau Seneddol, ac yn eu plith Mr. eir Hardie, yn anfoddlawn i blant fyned i wasanaethu mewn ffermydd. Anogid yn Nhy y Cyffredin ar fod i amaethwyr gynyg cyflogau mwy fel ag i ddenu y dynion o'r trefi, a cheisio cael gan lafurwyr Gwydd- elig i ddyfod drosodd i'r wlad hon rai wythnosau yn nghynt nag arferol. DYDD GWENER. LLWYDDIANT Y RWSIAID. Mae y Rwsiaid wedi llwyddo yn anghy- ffredin yn Nwyreinbarth Prwsia, ac yn y frwydr fawr sydd yn cael ei chario ymlaen yn bresenol, ymddangosant fel yn alluog i ddal i fyny eu safleoedd, ac wedi llwyddo i roddi terfyn ar ymdrechion y Germaniaid i droi eu hochr dde, a chroesi y Niemen a'r Bobr. Nid ydynt wedi goddef i'r Ger- maniaid eu gwthio i safle anffafriol, yr hyn fuasai yn galluogi y Germaniaid i alw yn ol filoedd lawer o ddynion o'r ffyrnt ddwyreiniol, a'u hanfon i'r gorllewin. Ymosododd y Rwsiaid ar Stanislau (Galicia Ddwyreiniol), a bu yinladd law- yn-llaw caled yn yr heolydd. Cyrhaedd- odd y Rwsiaid yno o'r golgedd nos Iau, ac ymosodasant ar unwaith. Parhaodd y frwydr drwy y nos a'r dydd canlynol. Rhuthrwyd gan y traedfilwyr gyda bid- ogau, a chiliasant yr heolydd y naill ar ol y 11 all. Cymerodd ymladd le hefyd yn nghyffin- iau Kolomea, yr hwn le a adfeddianwy 1 gan y Rwsiaid. Mae y Rwsiaid yn teimlo yn fywiog a gobeithiol, a chredant y llwyddant i orchfygu yr Awstriaid yn y Bukovina. MIL 0 GERMANIAID WEDI YMOSTWNG. Newyddion o Paris a fynegant fod mag- nelwyr Belgium wedi Uwyr ddymchwelyd rhai o weithfeydd y Gormaniaid. Medd- ianodd eu traed-filwyr fferm ar ochr dde yr afon Yser, a gollyngodd un o'u hawyr- longau dan-belen ar orsaf borthladdol Ostend. Mae y Germaniaid wedi tan-belenu Rheima unwaith eto. Gollyngwyd tri ugain o dan-belenau, ac anelwyd eu haner at yr Eglwya Gadeiriol. Gwnaed cryn gynydd yn rhanbarth Champagne, a llwyddwyd i ddinystrio rhai weithfeydd y gelyn yn nghyfeiriad Perthes a Beausejour. Enillwyd tri hefyd rhwng y ddau-bwynt uchod, ac i'r gogledd. orllewin o Perthes cymerwyd dau gant o'r Germaniaid yn garcharorion. Yn ystod y deng niwrnod diweddaf, mae mil o Ger- maniaid wedi ymostwng. DYDD SADWRN. TAN-BELENIAD Y DARDANELLES. Parhawyd tan-beleniad amddiffynfeydd mewnol y Dardanelles heddyw, pryd y cy- merwyd rhan gan ugain o ryfel-longau, a Ilwyddwyd yn well na'r disgwyliad. Ys- osodwyd ar Gulfor Saroa, i'r gogledd o'r Dardanelles, lie yr oedd gallu cryf o'r Tyrciaid wedi yingaaglu. Llwyddwyd i fyned bellder o dair milldir i'r culfor, gan dan-belenu yr amddiffynfeydd mewnol, y rhai a atebasant yn wanaidd. Rhoddwyd terfyn ar y saethu yn amddiffynfa Dar- danos. Aeth rhyfel-long am ychydig i fyny y culfor, gan aros yno ei hunan am awr, a hyny rhwng amddiffynfeydd ar y ddwy oehr, ond ni thaniwyd arni o gwbl. Bodola cynwrf mawr yn Nghaercystenyn, lie y cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyfrin- Gyngor, a phenderfynwyd symud y Llyw- odraeth i Broussa, Asia Leiaf. Mae Iluaws o brif breswylwyr y ddinas wedi symud o Gaercystenyn, ac ofnir y bydd i helynt blin dori allan. Taniodd llongau y Cynghreiriaid tua mil o dan-belenau ddoe, y llongau Pryd- einig yn tanio o bellder oil milldir. Dy- wedir fod gweithrediad ardderchog y Hong Ffrengig, 'Gaulois,' yn deilwng o ran fawr o'r clod a'r anrhydedd am ddinystriad Seddul-Bahr. Heddyw aeth 40 o longau mor bell a Ilortari, gan ysgubo y gwersylloedd Tyrc- aidd, tan-belenu Intepe, yr hwn a ddinys- triasant., a chyraeddasant gerllaw amddi- ffynfa Porth Dardanus. Aeth yr yegwad- ron dan yr amddiffynfeydd ar y fynedfa i' Dardanelles, y rhai a lwyr ddinystriwyd. Gwanaidd iawn ydoedd tanio y Tyrciaid. ac ni chafodd unrhyw effaith. DYDD LLUN. LLWYDDIANT Y CYNGHREIRIAID. Yr oedd y newyddion a dderbyniwyd wahanol ranau o faes y gad ddiwedd yr wythnos yn hynod o foddhaol. Gwneir gwaith ardderchog ar y Dardanelles, lie y mae y Llyngesoedd Prydeinig a Ffrengig. Erbyn hyn mae amddiffynfeydd yno, am bellder o dair milldir ar ddeg, yn dioddef oddiwrth y saethau o'r Llynges unedig. Mae Hong newydd ysblenydd, y 'Queen Elizabeth,' wedi uno a hwy. Mae ganddi ddeg o fagnelau 15 modfedd ar ei bwrdd, y rhai ydynt yn ddigon nerthol i anfon saethau am o leiaf ugain milldir o bellder. I Cymro c Llangranog, Sir Aberteifi, sydd yu ei llywyddu, sef Cadben George Hope, Pigeonaford) a dywedir ei fod yn swyddog medrus yn ei alwedigaeth. AD-FEDDIANU TREF GAN RWSIA. Adroddir am lwyddiant parhaol y Rws- iaid yn Poland, ac y maent yn gwthio ymlaen yn aiddgar a gobeithiol. Dro yn ol, llwyddodd y Germaniaid i gymeryd tref Przasnysz, ond erbyn hyn mae y Rws- iaid wedi llwyddo i'w hadfeddianu. Chwalwyd gwrthwynebiadau y Gennan- iaid drwy ddefnyddiad penderfynol 0 ddrylliau a bidogau, a hysbysir yn swydd- ogol iddynt ffoi mewn annhrefn gyda choll- edion trymion mewn dynion, gynau, a defnyddiau. Oddiar ddechreuad y rhyfel, mae y fyddin Rwsiaidd, dan lywyddiaeth y Cadfridog Broussiloff, wedi cymeryd 1900 o swyddogion a 186,000 o filwyr German- aidd yn garcharorion yn Poland.

3rd Welch Temperance Company

3rd Welch Temperance Company. SATISFACTORY RECRUITING RESULTS. A further aeries of meetings in connection with the raising of a Temperance Company for the 3rd Battalion Welch Regimenthas been held during the week, resulting in a great accession of recruits. Young men are coming in, we are informed, every day from different parte of the country to the Headquarters at the Cardiff Castle, and there is every pros. pect of the first Company being completed very shortly. Among the speakers on behalf of the Com- pany during the past week has been SurgeonJ General Evatt, C.B., one of the greatest soldier-surgeons of the day, who has seen service on many a battlefield, and the support of this distinguished General has been of great assistance in the obtaining of recruits. The 3rd Battalion Welch Regiment con- tinues to send drafts to the Continent (the Battalion being known as "the quickest route to the front,"), the last, numbering 50, having gone on Tuesday last. The Com-1 manding Officer (Lt-Colonel Marwood-Elton) has attended all the meetings for the pur- pose of enrolling young fellows, either for the Temperance Company, or in the Battalion in the ordinary way. All recruits joining the Temperance Com- pany will be kept together, and brothers and friends are joining in batches, knowing that they will not be separated during train- ing, and this has proved to be a great induce- ment to many who otherwise would have held aloof from enlisting. The gaps in the 1st and 2nd Battalions are made good from the 3rd Battalion, and it is of the highest importance that the Colonel should be in a position to send as many soldiers as are demanded of him to keep the 1st and 2nd Battalions in full fighting strength at the seat of war. The Secretaries of the Company state that they are well satisfied with the progress to date, but that there are still some vacancies, and they will be glad to hear at their Offices, Royal Chambers, Park Place, Cardiff, from any young men desiring to enrol. It should be stated that the age for this Regiment is 18-45, and the minimum height 5 feet 2 inches.

GWEITHRED YSGELER

GWEITHRED YSGELER. Nid oes derfyn ar gynllwynion melldi- gedig y Germaniaid, a dyma un arall at y rhestr!:—Yn Yiilaiicourt, gosodwyd gwlybwr tanllyd mewn ffos Ffrengig, gyda'r canlyniad fod yn rhaid i'r rhai oeddynt ynddi ffoi am eu bywydau, ond nid cyn i rai o honynt gael eu llosgi yn drwm. Pa fodd bynag, daeth y Cynghreir. iaid i'r fan, ac yn fuan yr oeddynt wedi dialu y cam ysgeler a gyfiawnwyd.

IDAL Y 11 DACIA

I DAL Y 11 DACIA." Nos Sadwrn, hysbyswyd fod y llong Dacia, y bu cymalnfc helynt yn ei chylch yn ddiweddar, wedi el chymeryd gan long ryfel Ffrengig yn y Sianel, a chymeryd hi i Brest. Percbenogir y Dacia gan Americanwr sydd a chysylltiadau teuluol Almaenaidd yn ddiogel 01 arhosant yn y porthladdoedd Anaerican- aidd, ond unwaith yr hwyliant y maent yn agored i gael eu dal. Prynwyd y Dacia, a berchenogid gan Almaenwr, a hyny ar ol y rhyfel. Yr oedd hyn yn groes i gyfraith rhyfel. Cotwm oedd yn y Hong. Y mae yn burion peth mai Hong Ffrengig a'i daHodd ac nid un Brydeinig, rhag y gallasai hyny greu teimladau drwg rhwng y wlad hon a'r America.

DYDD MAWRTH

DYDD MAWRTH. YMWELIAD CANGHELL YDD Y TRYSOR- LYS A LLANDUDNO. Ddoe bu Canghellydd y Trysorlys ar ym- weliad k Llandudno, lie yr arolygodd y gwa- hanol gatrodau ydynt yn gwersyllu yno. Cafwyd golygfa ardderchog ar y milwyr tra yr ymdeithient heibio esgynlawr a gyfodasid gerllaw yr Imperial Hotel, a chafwyd digon o sicrwydd fod y milwyr yn hollol barod i fyned allan i ymladd dros eu gwlad. Yr oedd y dref yn llawn o ymwelwyr, y rhai a ymgasgl- asant yn yr heolydd erbyn deg o'r gloch y boreu. Cymerodd yr arolygiad le ar y rhodfa ysblenydd. Yr oedd y Cadfridog Syr William Mackinnon, K.C.B., yr hwn a lywydda y rhanbarth orllewinol, y Cadfridog Ivor Phillips, y Cadfridog Owen Thomas, Mr. D. Lloyd George, y Cadfridog Ivor Herbert, larll Plymouth; ae ereill ar yr esgynlawr, a chawsant groesaw brwdfrydig pan wnaethant eu hymddangosiad, yr hyn a ragflaenwyd gan yr udganwyr. Cyn dechreu ar y gweithred- ladau, cyflwynodd yr Arglwyddes Boston gleddyf drudfawr i'r Cadfridog Owen Thomas arran boneddigesau Sir Fon, cartref y Cadfrid- og. Cafodd pawb eu boddhau yn fawr yn yr ymdaith, a dyrchefid banllefau ogymeradwy- aeth fel yr elai y gwahanol gatrodau heibio. Dyrchafwyd bloeddiadau am araeth gan y Canghellydd, end dywedodd mai nid dyna yr adeg na'r lie i wneyd araeth. Yn ddilynol, aeth cwmni urddaloll fwyahau byr-bryd yn y George Hotel, lie y traddodwyd rhal anerch- iadau. Arolygodd Mr. Lloyd George rai miloedd o filwyr ereill hefyd yn Rhyl heddyw, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi ei foddhau yn hollol yn yr hyn a welodd ac a glywedd.

Y PRIF WEINIDOG A THRAFNIDIAETH I GERMANI

Y PRIF WEINIDOG A THRAFNID- IAETH I GERMANI. Yn Nhy y Cyffredin neithiwr, mynegodd y Prif Weinidog fwriadau y Llywodraeth gyda golwg ar gludiad nwyddau i ac o Germani, ac y mae yn amlwg oddiwrth yr hyn a ddywed- odd Mr. Asquith na oddefid yn hwy ystranoiau Germani. Byddai rhyddid i lestri anmhleid- iol fordwyo fel o'r blaen, ond rhwystrid llong- au i fyned i Germani gyda llwythl o nwydd- au a waherddid,, a chymerid gofal wneyd pobpeth yn drefnus a gweddaidd ynglyn a llongau nad oedd amheuaeth yn eu cylch. Gyda golwg ar y rhyfel yn gyffredinol, dat- ganodd Mr. Asquith y byddai i Brydaln lynu wrth y Cynghreiriaid hyd y diwedd. Gyda golwg ar y sOn am delerau heddwch, cyffelybal ef i awn gwanaidd aderyn ynghanol awn a dwndwr tynahestl oedd yn ysgwydd seiliau y byd.

DYDD MERC HER

DYDD MERC HER. YR YMDRECH YN Y DARDANELLES. Yn y gobaith o atal ymdaith y llongau Prydeinig a Ffrengig yn y Dardanelles, mae pob magnel perthynol i Twrci wedi eu han- fon i Gaercystenyn, ac y mae y milwyr goreu yn Syria ac Armenia wedi derbyn gorohymyn- ion I ymadael am Gaercystenyn yn ddioed. Nt fydd i'r Llynges Dyrcaidd gymeryd rhan yn erbyn Llyngesoedd Prydain a Ffrainc, ond yn y Mor Du yn erbyn Llynges Rwsia. Mae prinder cyflenwadau ar gyfer y magnelau Tyrcaidd, ond dlsgwyHant y bydd i Awstria eu eynorthwyo gyda chyflenwadan.

COLLEDION TRYMION IR AWSTRIAID

COLLEDION TRYMION I'R AWSTRIAID. Yn y Carpathians mae y Rwsiaid wedi peri colledion trymion i'r Awstriaid, a'u gorfodi i roddi i fyny y bwriad o ymosod ar Galicia I Ddwyreiniol. Mae arwyddion o ymdaith newydd ar ran y Rwsiaid yn Bukovina, lie y maent wedi adfeddianu Sadugora.

YMOSODIAD NEWYDD AR CALAIS

YMOSODIAD NEWYDD AR CALAIS. Mae y Germaniaid yn gwneyd trefniadau helaeth i geisio myned i Calais, ac y mae byddinoedd yn cael eu casglu ynghyd yn ddyddiol. Gosodir nifer fawr o filwyr yn Belgium, 20,000 yn Liege, tra y mae rhan- barthau ereill wedi derbyn gorchymynion ar gyfer lletya milwyr.

MANION

MANION. Ganwyd y seithfed mab ymnoddwr o Belgium yn Llundain, ae mae Branin y Bel giaid wedi addaw bod yn dad-bedydd iddo. Can' milldir o geiniogau ydyw yr hyn mae Lady Roxburge a Mr. C. Arthur Pearson yn ymdrech. gasglu tuag at gronfa y Fren- hines at ddosbarthu gwaith ymhlith gwragedd anghenus. Rhoddwyd yr enw 'Y Parch. John Tar' i gaplan y Llynges gan ohebydd un o newydd- iaduron Llundain. Bwriedir cynal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Mangor. Ni cbynhaliwyd hi llyn- edd oberwydd y terfysg oedd yn y wlad, Danfonodd un o drigolion Hawke Bay, New Zealand, lOOp. i'r gweinidog amddiffynol, gan ofyn iddo eu dosbarthu ymhlith morwyr ar fwrdd yr H.M.S. 'Sydney' ao H.M.S. New Zealand,' fel arwydd o'i edmygedd o'u gwroldeb a'u Uwyddiant ar y mor. Mae'r 'South Metropolitan Gas Co.' yn bwriadu rhoddi ychwanegiad o dri swllt bob wythnos i'r gweithwyr sydd yn enill llai na 30s. yr wythnoe, a dau swllt i'r rhai sydd yn enill droa 30s. Gwneir hyn tra parkao y rhyfel. Bwriedir galw liylw y Senedd at y ffalth fod brawddegau Cymreig yn cael eu blotio allan o lytbyrau milwyr o Gymru pan yn ys- grifenu o'r Cyfandir. Rboddodd y Bwrdd Milwrol ateb i'r Duo o Portland, yr hwn oedd yn ceisio cael rhai o beirianau rhyfel Germani er mwyn eu gosod yn Mbarc Mansfield, fel y canlyn Ni wneir dosbartbiad o honynt hyd nes fod y rhyfel wedi terfynu.' Yr ydym yn cael gwasanaeth bob wyth- nos, ac nid oes neb yn absenol, oblegid troa ein meddyliau yn gyntaf at gartref ac at Dduw pan yr ydym yn myned i'r trenches/ Dyna ddywed un o'r Grenadier Guards.' Prydnawn ddydd Sadwrn diweddaf cyn- haliwyd gwasanaeth Conffirmasiwn arbenig yn Eglwys y Plwyf, Llandeilofawr. Conffirm- iwyd gan yr Esgob ddau filwr oedd ar fyned i'r Cyfandir. Cymro yw llywydd un o longau rbyfel mwyaf ein gwlad, sef Cadben George Hope, 1ryr y diweddar Cadben Jordan, o Pigeons- ford, Llangranog, Sir Aberteifi, a brawd i Mr. C. Hope, Pigeonsford. Enw y Ilong ydyw Queen Elizabeth.' 'Byddwn yn dra diolchgar am unrhyw gyngor allwch roddi i ni,' meddai aelod o'r Cyfrin-Gyngor wrth Arglwydd Kitchener. Cyngor,' oedd ei ateb, dim ond gorchymyn- ion yr wyf yn roddi.' Yn Gillingham, Kent, oauwyd yr ysgolion oherwydd prinder glo. Mae'r rheilftyrdd yn cael eu defnyddio gymaint nes bod yn an- mhosibl dwyn glo yno. Nid oedd yna ddim ond 25 o ymgeiswyr yn arholiad y gyfraith yn Nghaergrawnt eleni; llynedd yr oedd yoa 79, ac mewn rhan arall 6 o'u cydmaru k 58 y llynedd. Y rhyfel sydd yn atebol am y gwahaniaethau hyn.

EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG

EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG. Bydd yn bleser gan y Manager anfon coplau o'r LLAN, Yr Haul a'r Perl, i'r milwyr sydd ar y maes, Dell yn parotoi, am ddim ond pris y papur a chost y cludiad, sef y "LLAN" am Chwarter, 1/7!, „ am Haner Blwyddyn, 3/3. H Haul" am Chwarter, 1/. am Hauer Blwyddyn, 2/- Port am Chwarter, 4ic. am Haner Blwyddyn, 9c.