Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Llytbyrau op Ffrynt

Llytbyrau o'p Ffrynt. ANNIOLCHGARWCH UN O'R GERMANIAID. Un o'r aelodau yn 3rd Worcester, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn Ysbytty Hale, a ad- rodda ddigwyddiad mewn brwydr yn Ypres:- Ar doriad gwawr un boreu, deffrowyd ni, a gorchymynwyd ini ymosod ar gwmni o 150 o Germaniaid, oeddynt ychydig on blaeuau Rhuthrasona aruynt gyda bidogau, a chan na ddisgwylient ymosodiad mor foreu yr oeddynt yn Bynedig, a lladdwyd bron yr oil o honynt. Yngbanol yr ymladd, canfyddais Germaniad $,,I, ar n yr hwn yr oedd clwyf, yr hwn a geislal ei rwymo A cbadachau. Teimlwn dosturi drosto, a chan feddwl y byddwn fy hunan ryw ddydd mewn cyffelyb sefyllfa, aetbum i estyn cynorthwy iddo. Gyda'm ev Bell, torais ran o lining fy siaced, gan ei ddodi ar ei 6n. Cyn myned tu cefn i'r Ger- maniad I rwymo y cJwt, edrychais er mwyn gweled a oedd ganddo ddryll ai peidio, ond ni welals un. Pan yr oeddwn yn troi ymaith, plygodd y Germaniad I lawr yn sydyn, gn godi i fyny ddryll oedd wrth ei draed, a'i anelu at fy nghorft. Yn ffodus, maglais, neu buaswn wedi fy lladd. Fel yr oedd, clwyf. wyd fi yn fy morddwyd, a syrthiais i lawr. Yr oedd y Germaniad yn wanllyd oherwydd colli cymaint o waed, a syrthiodd yntau i'r llawr. Daeth swyddog Prydelnig beibio, a gofynodd beth oedd yn bod. Wedi iddo gael y manylion, gorchymynodd i rui saethu y Germaniad, ac yna aeth ymaith. Deallai y Germaniad Saesneg, ae erfyniodd am drugar- edd. Nid oadd genyf ddewisiad, gan fod yn rhaid i mi ufuddhau i orcbymyn fy swyddog nwchraddol. Ymddangosai y Germaniad yn ddyn dymunol, a theimlwn dosturi drosto. Rbaid ei fod wedi colli ei synwyrau pan dan- iodd arnaf oherwydd cymaint o waed." GWAREDIGAETH GYFYNG. Swyddog yn nghatrawd Canadaldd y Dy- wysoges Patricia a ysgrifena :— Cawsom ychydig o ysgarmes y tro di- weddaf y daethom allan o'r ffosydd. Yr oedd yr adgyfnerthiou newydd gyraedd pan y tan- lodd y Germaniaid arnom. Saethwyd fy is- swyddog ychydig islaw y pen glin, pan y tor- wyd esgyrn, a phan oeddem yn ei rwymo, fcaflwyd fi i lawr. Nis gwyddwn beth oedd wedi digwydd, ond tybiwn fy mod wedi cael ergyd yn fy nghefn. Pa fodd bynag, teimlwn yn iawn cyn pen ychydig funydau, a chyfodais, a chymerasom yr ig-swyddog i'r ysbytty. Pan gyrhaeddasom yno, archwil- iasom fy kit, a ehanfyddasom fod bwled wedi myned trwyddo, ond ni wnaeth unrhyw niwed, gan i'r fwled daraw yn erbyn y celfi oddimewn. Yr wyf yn lletya yn awr mewn lie anghytforddus-yn llawn o ymnoddwyr Belgjaidd. Pa fodd bynag, Ilwyddant i gael digouedd o wyau ffres ac ymenyn, a ddoe marchogals i dref fawr, lie y cefais ddlgon o gyflenwadau blasus. Mae yn rhyfedd pa mor lleied o newydd- ion a gawn, a gwerthfawrogwyd y llwyddiant llyngesol yn M6r y Gogledd. Yr oeddem yn y flosydd pan ddaeth y newydd, a chyda llawenydd y pasiwyd ef o'r naill i'r Hall. Cymeradwyai y dynlon, ac yr oeddynt yn awyddus i ymosod ar unwalth ar y German- iaid, ond llwyddasom i beri iddynt ym- dawelu." CARCHARORION TYRCAIDD TRUENUS. Fel y canlyn yr ysgrifena awyddog yn y Manchester Regiment" o Cairo:— Yr ydym yn y prif luefity er's wythnos, ac y mae pethau wedi bod yn symud yn gyflym yma. flu ymosodiad ffyrnig ar y gamlas nos Fercber, a dydd Iau anfonodd y cadfridog am yr boll awyddogion trafnidiol, a dywedodd wrthynt am grynhol ynghyd eu holl ddefnyddiau saethu, asynod, a dynion, fel ag i symud yn nghyfeiriad y gamlas y noson hono, ond dywedodd mal ua swyddog o bob brig&d oedd yn angenrheldiol-yr hynaf. Yn allffodus, yr oedd un swyddog yn y brigid ag yr wyf yn perthyn iddi, dim ond tri mis yn hynach. Yr oedd hyn yn Biomedigaeth i mi- edrych ar fy nynion yn myned hebof fi! Bu bron a'm gwneyd yn claf. Wel, nid yw o un dyben achwyn, ond yr oedd yn anffodus. Ddoe, bu'm i lawr yn un o'r adelladau awyddogol, a gwelaia 300 o garcharorion Tyrcaidd yn cael eu dwyn i mewn. Yr oeddynt yn greaduriaid truenus yr olwg, ac ymddangosent fel wedi eu casglu o bob math o lwytbau-Tyrciafd, Arabiaid, Iudd- ewon, &e. Ymddangosent yn falch o gael bod yn rhydd o ymladd am gyfnod, ac ym- ddengys, fel y deallasom oddiwrth yr hyn ddywedai cyfieithydd, eu bod wedi eu gor- fodi i gymeryd rhan. Ie Neithiwr dracbefn dygwyd saith o iwyddogion a 400 o Dyrciaid ereill i mewn, y rhal osodwyd mewn Iluestal. Aethum i lawr boreu beddyw i gael golwg arnynt. Ym- ddangosent yn lin (mor Ida ag y gellid diagwyl iddynt fod ar ol treulio tri mis yn yr anialwch), ond wedi eu dilladu yn wael, ao yma drachefn yr oeddynt yn gymysgedig o wahanol lwythau. Ni cbollasom ond pedwar, mewn eanlyn- iad i safle ardderohog ein magnelau. Llwydd- odd y Tyrciaid i ddwyn magnelau droa yr anialwch, am y tro cyntaf mewn hanesiaeth. Yr ydym oil yn disgwyl yn bryderus am gael •in symud i'r ffrynt. Yr ydym oil mewn eyflwr da ac yn hollol barod, ac y mae y tywydd yn gwellel yn barhaus. Prynals lond braioh o rosynau am swllt heddyw i harddu ein hystafell yn y lluesty."

Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr Penmachno

Eisteddfod Gadeiriol Eglwyswyr Penmachno. CYFARFODYDD LLWYDDIANUS. Cynhallwyd Eisteddfod flynyddol G*yl Dewi yn y Public Hall ddydd Sadwrn, Chwef. 2Tain. Y prlf feirniaid oeddynt:—Cerddor- iaetb, Pencerdd Perio barddoniaeth, Isfryn traethodau ao adroddiadau, Parchn. O. G. Pritchard, Capel Garmon Daniel Williams, Penmachno, a Mr. J. S. Roberts, Pentrefoelas. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn am 1.15, y dan arweiniad y Parch. O. G. Pritchard. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhai canlynol -Ilaes Llafur (i bob oed), Llyfr yr Actau, Gwennie Jones. Canu, Iesu mwyn a thir- ion 1, Gilbert Hughes; 2, John Haydn Williams; 3, Mamie Williams. Adrodd, Y Rbosyn Olaf' (o'r Perl): 1, Cecil Jones; 2, Annie Hughes, Gethin Square, a Laura Ann Evans; 3, Blodwen Owen. Canu, Dennis' ('Telyn y Llan '): 1, Annie Owen 2, Dolly Jones; 3, Pricie Jones. Adrodd, Newid Gwlad 1, OLwen Roberts; 2, Eric Owen; 3, Jennie Owen ac Elizabeth Ann Jones. Canu, Rutherford' (Llyfr Gwyl Gorawl Cylch Eglwyslg Bettwsycoed): 1, Myfi Owen 2, Cecil Jones; 3, Lizzie Jones. Adrodd, Yr Hen Ddoli 1, Olwen Roberts 2, Dolly Davies; 3, Willie Davies. Canu, 'O! am Ras' (I Telyn y Llan'); 1, Myfi Owen; 2, Lizzie Jones. Object Drawing 1, Cecil Jones; 2, David Leslie Edwards; 3, Willie Hughes. Canu gyda'r Tannau (i blant): John Haydn Williams. Canu, 'Y Gwcw Fach:' 1, Lizzie Jones; 2, Cecil Jones. Adrodd, 'Cor y Wig:' 1, Pricie Jones; 2, Dolly Jones; 3, Annie Owen. Cor y Plant, Awn i'r Ysgol Stil I (Jones-Owen). Daeth dau gor ymlaen, sef cor Penmachno dan arweiniad y Rheithor, a ch6r y Cwm dan arweiniad Mr. J. W. Hughes. Canodd y ddau gor yn rhagorol, a dyfarnwyd y wobr i gor Penmachno. Ysgrifenu y Te Deum 1, Gwennia Jones; 2, David Leslie Edwards; 3, Cecil Jones. Dechreuwyd cyfarfod y hwyr am 5.30 o dan arweiniad y Prif-fardd Elfyn. Oherwydd absenoldeb y Parch. R. M. Jones, Bettws-y- coed, gohiriwyd arholiad maes llafur y plant. Canu 'Roadd mam yn cofieldio (People's Welsh Songs): allan o wyth o ymgeiswyr daeth pedwar ar y IIwyfan-Nellle Roberts, Bod Gwynedd. Penillion coffadwrlaethol i'r ddiweddar Mrs. Margaret Roberts Mr. Ellis Lloyd Williams, Fourcrosses. Traddododd Miss Evans, Benoar, ei beirniadaeth hi a Mrs. B. Jones ar y Ladies' Night Dress: Mrs. Roberts, Isfryn, Cwm. Daeth pedwar parti ymlaen i ganu Psalm, a rhanwyd y wobr rhwng partion y Rheithor a Mr. J. Wil- liams. Adrodd, CAn Gwraig y Pysgotwr' (Alun): rhanwyd y wobr rhwng Annie Hughes, Church View, a Hughie Jones, Gwydyr House. Unawd Tenor, 'Breuddwyd- ion Ieuenetyd (Wilfrid Jones): Evaa Roberts, Plas. Pencil Sketch, I Pont Oer- nant': rhanwyd rhwng Gwennie a Cecil Jones. Nesta oedd y fuddugol ar y 'Table Centre. Canu gyda'r Tanau cystadleuaeth ragorol, chwech yn ymgeisio-l, Gwlady* Jones, Cerrig Gellgwm, Ysbytty. Adrodd • Y Milwr CIwyfedig (Ap Ceredigion) saith yn ymgeisio—traddodwyd y feirniadaeth gan y Parch. Daniel Williams, ac enillwyd gan Mr. Owen Morgan Jones, Cwm. Allan o bed war o ymgeiswyr ar yr Englyn i'r I Drafel': enillwyd gan Perthog. Wele'r englyn buddugol:— Un gulfain, hynod gelfydd-I ollwng Cyllell ami beunydd, Yw Trafel y chwarelydd A chain raen ar lechen rydd.' Ymgelsiodd pump ar yr unawd Baritone, 1 Banerwr' (W. Davies). Enillwyd gan Mr. Owen Morgan Jones. Yna daethpwyd at brif stdyniad yr Wyl, sef Cadelrio y Bardd Buddugol, o dan gyfarwyddyd Elfyn. Galwyd y Beirdd i'r Llwyfan. Darllenwyd beirniadaeth Isfryn gan y Rheithor. Testun y bryddest eleni oedd, Ac ni ddysgant ryfel mwyach.' Pump yn ymgeisio, a dyfarnwyd yr anrhydedd i 'Hedd Molwynog.' Ynghanol distawrwydd gofynodd Elfyn a oedd Hedd Molwynog' yn bresenol: 08 oedd, archai iddo godi ar ei draed. Ynghanol y dorf gwelid ffurf eiddil y bardd ieuane Perthog yn araf godi ynghanol llefau o gymeradwyaeth. Anfonwyd Owaln Machno a'r Parch. Dan Williams i'w gyrchu i'r llwyfan, a chwareuwyd 1 See the conquering hero comes' ar yr offeryn. Wedi gosod Perthog i eistedd yn ofalus yn y Gadair, dadweiniodd Elfyn y cledd a llefai 'A oes Heddwch,' ac er gwaethaf y Rhyfel, unai rhai canoedd i ateb Heddwch nes yr oedd yr adellad yn diaspedain. Yna cafwyd anerchiadau gan y beirdd. Drwg genyf na chefais afael ond yn yr un ganlynol gan y Bardd Newydd,' Estyn dy hun i eistedd-mewn cadair Deilwng o'th ddawn a'th fonedd Yf yn hon hufen dy Hedd,' A neidia i anrhydedd Canwyd cAn y cadeirio, 'Gwlad y Delyn' gan y Contralto ieuane enwog, Miss Kate Morgan Jones, yn rhagorol, a choronwyd y cyfan drwy i'r dorf godi ar el thraed i ganu Hen Wlad fy Nhadau.' Yna deuwyd at y Brif Gyatadieuaetb Gorawl, • O Dduw, rho im' Dy hedd' (Gwllym James, Ferndale). Daeth tri o6r ymlaen, a chanasant yn y drefn ganlynol :—Cor y Cwm, dan arweiniad Mr. D. Ellis Jones; C6r Ysbytty, dan arweiniad Mr. William Ellis, a Ch6r Penmachno, dan arweiniad Mr. J. Williams. Fel y dywedodd Pencerdd Peris yn ystod ei feirniadaeth fanwl, yr oedd bon yn gystadleuaeth uwch- raddol iawn, ac yr oodd y tri c6r wedi cyr- aedd safon uchel iawn, ond dyfunal y wobr i Gdr Penmachno, ac wrth gwrs yr oedd y gymeradwyaeth yn fyddarol. Cyflwynwyd y wobr a'r Metronome i'r arweinydd gan Mrs. Jones, Rectory. Talwyd diolchiadau gan y Rheithor i Miss Hughes, yr Eagles, am fenthyg y piano'; i Mr. J. R. Williams, Bryn Awel, am gyfeilio drwy'r wyl (a vhoddodd y beirniad cerddorol deyrnged uchel iddo), ac i'r beirniaid oll am eu gwas- anaeth. Methodd y ddau gadeirydd a bod yn bresenol, sef Mr. R. Owen, Caergybi, a Mr. Thomas Griffith, Gwydyr Ucha, ond daeth y diweddaf i gyfarfod y prydnawn am Johy. dig, ond gorfu iddo ymadael cyn yr hwyr oher- wydd yr anwydwst. Bu i'r ddau yn haelfrydig danysgrifio at y drysorfa, a da genyf ddeaU y bydd elw sylweddol wrth law ar ol talu'r holl gostau. Y swyddogion oeddynt:- Ysgrifenyddion, Mr. J. Williams, School House, a Mr. Thomas Owen, Cwm; trysor- yddion, Mr. Ieuan J. Williams, Cwm, a Mr. John Williams, Machno Stores. Mae'r oil yn teilyngu clod am eu hymdrechion, yn enwedig felly Mr. J. Williams, yr hwn a weithiodd yn galed, a llongyfarchwn ef ar Iwyddiant yr eisteddfod gyntat iddo ef yn Penmachno. Achosaryd tipyn o siomiant oherwydd na eHid cael yr 'Action Song,' oherwydd i'r anwydwst ymledu fel tan gwyllt dros y plant yn ystod yr wythnos. Cododd llawer o honynt o'u gwelyau i ddyfod i'r eIsteddfod, ond yr oedd yr oil dan aafantais fawr, a rhyfedd iddynt allti gwneyd mor rhagorol.

Gweithred Annheilwng yn Sir Fon

Gweithred Annheilwng yn Sir Fon. Yn Mwrdd Gwarcheidwaid Caergybi, dygodd Mr. J. B. Parry, y rheidweinydd dros ddoabarth Bodedern, achos caled ymlaen-y gwaethaf ddaetb dan ei sylw am 30 mlynedd. Dywedodd ei fod er's tro bellach yn rhoddi cynorthwy plwyfol i weddw amaetbwr yn y sir. Yr oedd yn hollol analluog, wedi ei chaethiwo i'w gwely, ac yn dioddef oddiwrth y parlys, ac eto ni ddarparodd ei g*r yn oi ewyllys ddfm ond llog 900p. oedd wedi adael i ymddiriedolwyr capel Methodistaidd Tyny- maen yn Llanddeusant, yr hyn ddygai i mewn 9s. yr wythuos. Teimlai yn gryf y dylai ymddiriedolwyr y capel wneyd rhyw ddarpariaeth ddigonol ar gyfer y weddw, ond nid oeddynt wedi gwneyd dim. Dr. T. W. Clay, U.H., a sylwodd fod hyn yn achos ag y dylent anfon gwrthdystiad cryf yn el erbyn i Gyfarfod Misol Sir Fon, gan gondemnio eu gwaith. Yr oedd yn gywilyddus eu bod yn goddef i'r wraig dlawd bon fyned ar y pi wyf. Allan o'r 900p. a dderbyniasant, dylasent fod wedi gwneyd rhyw ddarpariaeth i gadw y weddw yn gysurus. Dr. Parry Edwards, U.H., a sylwodd yr ymddangosai fel pe b'ai y trancedig wedi gadael yr arian i'r trethdalwyr fel ag i sicr- hau mynedfa i'r nefeedd. (Chwerthin). Pa un a aeth y ffordd iawn ai peidio nid oedd yn wybyddus. (Chwerthin adnewyddol). Dywedodd Dr. Clay os oedd y gtfr wedi gwneyd rhodd anghrefyddol dros ei wraig, dylai y corff crefyddol wneyd rhyw ddarpar- iaeth ar ei chyfer allan o'r arian. Ystyriai fod y Cyfarfod Mi&ol wedi ymddwyn tuag ati yn gywilyddus. Dywedai Mr. Lewis Griffith y dylid gwasgu ar y Cyfarfod Misol ffurfio rhyw gynllun dan ba un y derbyniai y weddw gymorth sylweddol, ac y dylid penodi is-bwyllgor i gyfarfod yr ymddiriedolwyr er mwyn trafod y mater. Dr. Clay.-Mae y dull yr ymddygasant at y weddw dlawd a chlaf hon yn gywilyddus. Mae yr arian yn perthyn yn foesol iddi hi, ac eto goddefir iddi geisio cymorth plwyfol. Mr. R. D. Owen.—Os ydych am adael y pwnc i'w benderfynu gan y Cyfarfod Misol, gall y weddw fod wedi marw a'i chladdu cyn y gwelthredant. Dr. Clay.-Cynygiaf ein bod i ganiatau lp. yr wythnos Iddi fel benthyciad hyd nes y ceir penderfyniad y Cyfartod Misol. Mr. Lewie Griffith.-Bydd ein hachos yn gryfach fyth os na wnawn hi yn dderbynydd cynorthwy plwyfol. Nid oes unrhyw ddyled ar y capel. Cytuuwyd ag awgrymiad Dr. Clay, a phen- odwyd is-bwyllgor i gyfarfod yr ymddiriedol- wyr, y Clerc i ysgrifenu atynt i fynegu y ffeiihiau.

CRIBIN

CRIBIN. ENGLYN.—Dyma I Recruiting' Englyn a adroddwyd mewn cyfarfod yn Cribin ar Ddydd Gwyl Dewi Sant nos Lun diweddaf. Adroddwyd ef gan Mr. W. Barrow Griffith, ysgolfeistr Yegol y Cyngor yn Cribin, ei awdwr. Y mae Mr. Barrow Griffith wedi cael yr anrhydedd o weled 32 o blant fu dan ei ofal yn fecbgyn glewion yn ymuno a'r fyddin i ymladd yn wrol dros eu brenin a'u gwlad yn erbyn gormes Germani. Y mae ganddo hawl I gymell eraill ymhob man sydd eto heb ateb yr alwad i'r gâd. Hwn yw yr englyn' cyntaf a welais i eto yn C recruito '-er yn Saesneg y mae yn swnio fel englyn Cymraeg, yn llawn t&n ac yn gydnaws ag yspryd milwrol y dyddiau hyn. Dyma fe:— A Recruiting Englyn. Hark the drum, now chum, here'a a chance Win lasting remembrance, —enlist, Help RIGHT-without fright in France, Thy God will give thee guidance. Jiarrout.' Gobeithio yr ychwanegir llu eto at y 32 trwy'r englyn tarawiadol yma.-R.R.D.

Y Gorlan Dramorol

Y Gorlan Dramorol. PREIMAT YR IWERDDON. Mae yr Archesgob Crozier yn wybyddus i ni oil fel dadleuwr cryf yn erbyn Ymreolaeth ac yn erbyn Dadgysylltiad, &c. Mae ei olwg ar y llwyfan yn cynyrcbu cred ynddo. Nid rhyw fenyw o ddyn. Dyma fel y dywed am y Genhadaeth yn y dyddiau hyn Beth yw ein hymddygiad at yr alwad genhadol I A leihawn ni ein tanysgrifiadau i'r C. M.S. oherwydd ein bod yn rhoddi tuag at gynal gwragedd a theuluoedd ein morwyr a'n mll- wyr f' Atebaf y cwestiwn trwy ofyn un araJl-cwestiwn a ofynwyd gan Malachi pan oedd cymylau duon yn crogi uwchben ei wlad, 'A ysbeilia dyn Dduw ?' Nid yw llei- hau ein hoffrymau at waith Duw er mwyn roold\ at achosion ereill, yn hunanymwadiad ar ein r :an, ond mae yn beryglus o debyg i ymddyglad Heseciab pan y cymerodd yr aur o ddrysau Ty Dduw i roddi i Frenin Assyria: —' Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhy a phrofwob fi yr awrhon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, fel na byddo digon o le i'w derbyn.' Duw a roddo ras i ni i gyflawni yr amodau, fel y derbyniom y fenditb. Sut y medrwn ddiagwyl am oruchafiaeth os yr anghofiwn Ei orchymynion Ef ? TRI FIELD MARSHALL. Cydnebydd pawb mai Arglwydd Roberts, Arglwydd Grenfell, ac Arglwydd Methuen yw yr enwau mwyaf anwyl yn ein byddin. Yr ydym yn eu hanwylo, nid yn unig am eu gorchestion milwrol, ond hefyd am eu proffes gyhoeddus o grefydd Mab Duw, a'u hymlyn- iad wrth egwyddorion Cristionogaeth. Para- todd y tri hyn lythyr preifat (nid swyddogol), a rhoddwyd copi i bob swyddog milwrol a allan ar Foreign Service, yn eu hadgofio o'u eyfrifoldeb yn mhlith angbristlonogion. Dyma ddyfyniad o'r Ilythyr You will almost certainly come into contact with the representatives of various Christian mission- ary societies, whose special work it is to show to non-Christian peoples the love of Christ Whom we profess to serve. We commend these missionaries to you as a body of men and women who are working helpfully with the Government, and contributing to the elevation of the people in a way impossible to official action. Some object to Christian Missions in ignorance of their real value. We would suggest that you will use all opportunities of making yourselves personally acquainted with the work they are doing, and the character of the converts. Most Missions will bear looking into, and we are convinced that, if you will do this, you will never afterwards condemn or belittle them.' :ESGOB GORE, Nid oes yr un gyneddf ddynol mor ffrwythlon yn ei chyraeddion a gweddi. Pwrpas mawr Duw yw dwyn i fewn ei Deyrnas; dygir hyn oddimgylch mewn ateb- iad i weddi Gobeithio yr ymeflir yn y cyfleusdra i daflu o'r neilldu lawer o'n stiffrwydd a'n ffurfoldeb sydd yn andwyo ein Heglwys, ac y'n ceir yn barod i dderbyn bendithion sydd y deilliaw o gyfarfodydd gweddl.' Dyna dystiolaeth uohel o enau Uchel-Egl wy sw r. 0 FOR KING AND COUNTRY.' Medr y C.M.S. falchio yr rhestr ei gweision sydd wedi ateb i gorn y gad. Ceir rhai o bonynt yn gaplaniaid, saith yn feddygon, pump yn nurses, a phump-ar-hugain yn cario'r cledd Hefyd mae Dr. Tom Jays, ar gais y Y.M.C.A., weidi ei fenthycio i weithio yn yr Aifft yn mhlith y Territorials. Y PARCH. C. F JONES. Mae y Cymro uchod wedi gweitbio am ugain mlynedd fel Ysgrifenydd Trefniadol dros y C.M.S. Ya ychwanegol i'w waith fel Ysgrifenydd, mae wedi casglu i'r Gymdeithas dros 3,000 o bunnau trwy werthu e fereign stamps.' Mae hefyd yn fardd ac yn gerddor. Cenir llawer o'i emynau a'i donau yn nghyfarfodydd Cenhadol trwy y deyrnas. Ei brif bleser ydyw gwrando ar gynulleidfa Gymreig yn canu ein hemynau cysegredig. Bydd Mr. Jones yn rhoddi i fyny ei waith fel ysgrifenydd tua'r Pasg nesaf. COFIO'R TYLAWD. Yn yagol y C.M.S. yn Ashiya, yn Japan, dysgir y plant i gofio'r tylawd ar amser Nadolig. Y Nadolig diweddaf, casglwyd deg swllt ar hugain, ond gyda'r dymuniad y dan- fonid yr arian i gynorthwyo plant y milwyr Prydeinig. A ydyw y Genhadaeth yn talu ? TEYRNGED. Yn agoriad aden newydd prif awyddfa y C.M.S., dywedodd yr Archesgob, "No Arch- bishop of Canterbury would regard the Church's work other than crippled and ham- pered in what was vital to its life if it lacked the element which bad been and was contri- buted by that Society." TEYRNGED ARALL. Rhoddwyd Kaisar-i-Hfnd Medal o'r ail radd i'r Paroh. E. D. Price, o Maddla, yn yr India, ac hefyd i Miss Askwith, o Palamootta. Mae Mr. Price yn gweithio ymhlith y Gonds er 1892, ac y mae Miss Askwith wedi gweithio am ddeg mlynedd ar hugain yn Sarah Tucker's College ymhlitla y plant dall. Yr oedd Miss Tucker eisoes wedi derbyn y 1 Silver Medal' am ei gwaith ymhlith y gwragedd yn Madras. Fel y gwyddii, y Kaisar i-Hind Medal yw V.C. yr India, ond ma yn llwybrau heddwch yr enillir y eyntaf, tra ar faes y gwaed y ceir y V.C. ill! U Mae llawer un o geuhadon y C.M.S. wedi cael yr anrhydedd hon, megis Dr A. Neve 0 Kashmir am ei ymdrechion meddygol yn nyddiau y Cholera; Dr. T. L. Pennell o Bauuu j Canon Sell, Parch. E. Guilford o Tarn Taran Parch. C. E. Tyndale-Briscoe, a'r Parch. A. Outram. Gwellr felly fod y Llywodraetb yn cydnabod aberth y bobl hyn yn neffroad yr India. ESGAIR.

Marwolaeth y Parch W Owen Lerpwl

Marwolaeth y Parch. W. Owen, Lerpwl. Gyda gofid dwys yr ydym yn cofnodi am farwolaeth y gwr parcbedig uuhod, yr hyn a gymerodd le nos Iau diweddaf, yu 58 oed. Yr oedd wedi teimlo oddiwrth ryw anhwyldeb er's rhai wytbnosau, ond ni chredodd neb fod y diwedd mor agos. Ni fu yn gorwedd ond am ryw ddeg diwrnod, a huoodd yn dawel yn yr Iesu, fel y crybwyllwyd, nos Iau. Y chydig funydau cyn auadlu ei anadl oiaf, gofyuiidd i'w briod am ychydig bapyr a pheocil. Wedi edrych yr hyn a ysgrifenwyd, gwelwyd mai yr hyn a ysgrifenodd oedd y ddau air hyn Gwisg newydd." Yr oedd, yn ddiddadl, yn barod i dderbyn y wisg tiewydd' a roddid iddo ar ol croesi'r Iorddonen ddofn. Yn ystod y tair blynedd diweddaf, bu mewn gofal o Eglwys Gymraeg S. Asaph, Lerpwl, a mawr oedd ei barch yno. Cyflawuodd waith odidog ymblith Cynary East End, Lerpwi, ac yr oedd yr olwg lewyrcbus a welsom ar yr Eglwys o dan ei ofal yn adlewyrehu clod aid bychan arno, ac yn brawf diymwad o'r parch a'r edmygedd a goleddai ei braidd tuag ato. Bu yn rheithor dau blwyf yn Esgobaeth Bangor, Llaufrotheu a Llangelynin, ger Conway, a threuliedd 16eg o flynyddoedd yn y piwyfi hyn. Gwnaeth waith da iawn yno hefyd, a chaBglodd lawer iawn o arian tuag at wella bywoliaeth Llanfrothen. Yr oedd yn bre- gethwr Cymraeg ardderchog. Yn wir, pan yn ieuanc yn y weinidogaeth, ystyrid ef yn un o'r goreuon, a daliodd i bregethu y genadwri gyda nerth hyd y diwedd. Ca Eglwys S. Asaph golled nid bychan ar ei ol, ac nid gwaith hawdd fydd cael un i lanw y bwlch, oherwydd fel bugail a phregethwr nid oes posibl i gael ei well. Gadawa weddw ac wyth o blant i alaru ar ei ol &'r rhai yr ydym yn cydymdeimlo yn fawr. Y mae y pedwar bachgen yn dal awyddi anrhydeddus fel llongwyr. Daeth dau o honynt gartref y diwrnod cyn iddo farw. Ðllw a roddo gymorth iddynt i ddal i fyny o dan y brofedigaetb chwerw. Bydded iddo fod yn ol ei addewid raslawn yn Dad i'r amddifaid ac yn farnwr i'r weddw.' Cladd- wyd yr hyn oedd farwol o hono prydnhawn ddydd LIun yn mynwent Anfield, lie y gor- phwysa llawer o'i gyd-gcnedl. Cymerwyd y gwasanaeth yn Eglwys S. Affaph gan y y Parchu. J. W. Baker, ficer St. Ambrose, a G. Salt, rheithor Bodfean. Gweinyddwyd ar Ian y bedd gan y Parch. R. D. Hughes, ficer yr Eglwys Cymraeg. Daeth nifer mawr i'r ang- ladd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwelwyd hefyd ar lan y bedd yr Hybarch Archddiacon Spooner, y Parchn Dr. Devine y a B. Body- combe, a'r Parch. Mr. Evans, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Heddwch i'w Iwch hyd foreu yr Adgyfodiad mawr.

j Canlyniadau Hapus

Canlyniadau Hapus. Wedi gwneyd Liawer o Breswylwyr Lianbedr yn Frwdfrydig. Nid yw yn rhyfedd fod ein cymydogion yn arddangoe brwdfrydedd. Mae myneg- iadau fol y canlyn yn ddigon i wneyd un- rhyw un yn ddedwydd. Ar Ionawr 4ydd, 1913, dywedodd Mr. D. Davies, o'r Llythyrdy, Cwmann, LlaJl- bedr, fel y canly-n: Yn ddiweddar, blinid fi gan boonau llym yn fy nghefn ac ax draws yr elwlenod. Nid oes amieuaefch genyf na achoswyd y poenau gan anwyd. Gan fy mod allan ymhob tywydd, yn dilyn fy ngalwedigaoth fel llythyr gludydd, ri ellir synu at hyn. "Yr oedd anhwylder dyfrol hefyd teimlwn anhwylder yn fynych wrth gedeio rhydidhad. Yr oedd y dwfr yn gymylog, ac yn cynwys gwaelodion. "Ond y mae yn dda genyf dystioloothu am y budd a dclerbyniais oddiwrth Doan's backache kidney pills. Darfu i yohydig ddogna.u o'r fed-dyginiaeth fy rhyddhau o'r poenau yn y oefn, ac yn fuan yr oodd yr anhawader dyfrol wedi 4 symud ymaith yn nwyr. Mae genyf bob ymddiried yn mheJeaii Doan." (Arwyddwyd) D. DAVIES. Ar Chwefror 12fed, 1914, dros ddtau- ddeg mis yn ddiweddarach, dywedai Mr. Da.vies :-H Yr wyf yn dda iawn, ac y mae yn hyfrydwch genyf bob amser gymeradwyo peleru Doan, gan nas gall fod unrhyw am- heuaeth eu bod yn feddyginiaeth ar- dderohog at anhwylderau yr eJwlenod." Mae poenau yn y cefn, grafel, chwydd. iadau y dropsi, anhwylderau dyfrol, a chyf- nodau o syfrdandod yn ddigon i ameu an- hwylder yr elwlenod. Mae Doan's back- acre kidney pills yn hollol at yr elwlenod a'r yswigen, ao yn rhoddi iechyd a nerth i filoedd. Pris 2s. 9c. y blycihaid; chwe' blychaid am 13s. 9c.; ar werth gan bob masnachwr, neu i'w cael oddiwrth Foster McClellan Co., 8, Wella Street, Oxford Street, London, W. Peidwchi gofyn am back- ache and kidney pills,-gofynweh, yn btndamt am Doan's backache kidney pills, yr un fath. rai ag a gafodd Mr. Daviee.