Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. t — f GYNWYSIAD AM MAT. j Y Mis. I Daw'r Gwanwyn eto'n ol. J Lledaeniad y Bibl yn Nghymru. Y diweddar Barch. Peter Jones j (Pedr Arfon), rheithor Llan- ddona, M6n (gyda Darlun). j Y gongl Ddifyr. Esgobyddiaeth. Adolygiad. Myn'd am Dro. O'r Arsyllfa. Yfg&rwch. j Bwrdd y Golygydd. | Nodion Eglwysig. | Yn Ei Waed. At y Beirdd. | Manicn. { "IiII!

Advertising

PERL Y PLANT CYNWYSIAD AM MAI. Dadleuon Magi Jones. Darllen fel 'Ffeiriad.' Thomas Peters, Cilgerran. Diolchgarweh gyda'r 1 Church Army' (gyda Darlun). Y Paganiaid Bach Duon Pregeth fer. [luniau, Cenhadaeth Canada (gyda Dar- Ton-St. Mael. [ydd Gwiagoedd Gwynion yn y Bad, Voltaire. Dalen Dirwest. Y Parch. Evan Evans, LlanMd- wrn, M6n (gyda Darlun). Wythnos Sanctaidd Esgob LlUD- dain (gyda Darlun). Dealldwriaeth Anifeiliaid. Darluniau ar Feddau. Gwaith yr Eglwys droa Addyag j Grefyddol. Barddoniaeth. J Beth mae yr Egiwys yn ei Wneyd. Ffyddloniaid yr Ysgol Sul. Y Gystadleuaeth. Perlau y 'Perl'

Y Rhyfel o Ddydd i Ddvdd o

Y Rhyfel o Ddydd i Ddvdd. o CWRS Y RHYFEL. DYDD BARN GERMANI. OONDEMNIAD uLYS CYDWYBOD Y BYD, OWRS Y RHYFEL AR Y CYFANDIR. BETH A WNA AMERIOA. Diamheu mai y peth pwysicaf ynglyn a'c rhyfel yr wythnos a aeth heibio yn ei ddy- lanwad ar farn y byd gwareiddiedig yw dyfarniad Llys Barn ar greulonderau Ger- mani yn benaf yn Belgium, ,1< DUW A DDWG BOB GWEITHRED I FARN." Pan ddaeth yr hanes gyntaf i'r cyhoedd am erchyllderau milwyr Germani yn Bel- gium ddiamddiffyn, yr oedd llawer yn amheu a oedd y cyhuddiadau yn wir; yr oedd llawer mwy yn credu na allesid byth eu profi; ac yr oedd yn ymarferol bawb o'r farn na ddygid byth mo'r creulonderau liyn adref at y gwir dd rwg weithred wyr. Erbyn hyn mae LIya wedi eiatedd ar yr achos, Llys Barn ag y mae gan fyd cyfan 0 t71 bob ymddiried ynddo. Ae mae'r Llys hwnw yn gwirio'r ysgrythyr sydd yn dweyd "Duw a ddwg bob gweithred i farn a phob peth dirgel." Yn y man gwireddir hefyd yr aralleiriad a'r ddihareb o'r un gwirionedd Hir yr erys Duw cyn taro, Llwyr y dial pan y deIo Y chydig a dybia-i Tywysogion Coroi.- Germani a Bavaria. y deuai gwaed y gwir- ion a laddwyd drwy eu gorchymyn hwynt yn codi i'w herbyn yngwyneb byd cyfan, ac y pesid barn eondemniad arnynt hwy am eu hanfadwaith. Cysur yw meddwl fod y Prif Weinidog yn Nhy'r Cyffredin, ac Arglwydd Crewe yn Nhy'r Arglwyddi. wedi hysbysu ar goedd byd y gelwir y mileiniaid hyn, gan nad pa mor uchel eu safle yn y byd, i gyfrif ac i farn ar ol y rhyfel am eu gweit hred oedd ysgeler ac anfad yn y rhyfel. Y LLYS AI DDYFARNIAD. Cyiansoddir y Llys o nifer o wyr enwocaf y deyrnas hon, dynion ag y mae eu henwau yn adnabyddua drwy'r byd fel dynion pwyllog ac o farn aeddfed, gan amlaf yn gyfarwydd a phwyso a mesur gwerth t- iolaethau, yn ddynioll na fyuent er dim wyro barn, na gwneuthur cam a. gwr yn ei fater. Nid gcrmod dweyd fod gan y byd gwareiddiedig bob ymddiried yn y Llys hwn, llywydd yr hvrn yw yr Is-iarll Bryc cyn-Lysgenhadydd Prydain yn yr Unol Daleithau ac yn eistedd gydag ef ddynion fel Syr Frederick Pollock, Syr Edward Clarke, Mr. Harold Cox, a'u cyffelyb. Cawsant lu o dystiolaethau. Chwiliasant hwy yn fanwl a gofalus. Gwrthodasant, bobpet.h amheus. Seiliasent eu dyfarniad ar dystiolaethau anwadadwy a phrofedig. Yn eu dyfarniad dywedant:— 1. Fod milwyr Germani mewn gwaed oer ac ar drefniant helaeth, wedi llofruddio yn fwriadol nifer fawr o'r boblogaeth gyffred in. 2. Fod y Fyddin Germanaidd, fel rhan o gwaith milwrol, wedi lladd yn ddiarbed pobl hollol ddiniwed, wedi treisio merched a gwragedd, ac wedi llofruddio babanod. 3. Fod swyddogion uchel yn y fyddin wedi gorchymyn i'w catrodau ladd, a llosgi. a difetlia, a lladrat.a y ffordd yr elent er creu arswyd a braw ynghalonau'r bob!. 4. Fod rheolau cyfTredin a chydnabydd- edig rhyfel wedi cael eu hanwybyddu gan- ddynt yn fwriadol ac yn barhaus; a'a bod, ymhlith twseddau eraill, wedi gorfodi gwragedd a phlant i orymdeithio o flaen byddin Germani, pan fuasai hono yn ym- osod, er rhwystro Byddin. Prydain a Ffrainc i danio ar y Germaniaid hyd nee y deuent yn ddigon agos at ein milwyr i'w rhuthro eu bod yn defnyddio cerbydau ac arwyddnodau Yspytai Meddygol y Groes Goch fel cochl i'w milwyr i gael gweil mantais i ymosod neu i ddiane; eu bod yn defnyddio y faner wen yn rheolaidd fel arwydd eu bod yn rhoi eu hunain i fyny yn garcharorion, ac yna pan y nesa. ein milwyr atynt i gymeryd eu harfau, eu bod yn La-ethii arnynt yn llechwraidd a di- rybudd eu bod yn lladd mewn gwaed oer y clwyfedigion ar faes y gwaed, a'r milwyr Prydeinig a ildient yn garcharorion. Ebe dyfarniad y Llys:— "Llofruddient, treisient, ac anrheith- ient ar raddfa na welwyd mo'i chy- ffelyb mewn unrhyw ryfel rhwng gwledydd gwareiddiedig era 300 mlynedd! Mae y manylion a gofnodir gan y Llys, Iawer ohonynt, yn rhy ofnadwy o erchyll i'w cyhoeddi mewn papur newydd. Nis gall dychymyg dyn feddwl am erchyllderau gwaeth nag a gyflawnwyd gan y milwyr, nid o'u dewisiad eu hunain, ond drwy orchymyn pendant eu swyddogion, a'r rhai hyny drachefn drwy orchymyn eu Maes- lywyddion, rhai ohonynt yn Dywysogion ac yn Etifeddion y Goi'on. A gwnaed hyi oil nid o ddialedd, ond fel rlian fwriadol o gynllun yr awdurdodau milwrol o gario y rhyfel ymlaen. 1 PA IIYD. ARGLWYDDr Nid rnyfedd fod dynion da pob gwlad yngwyneb ffeithiau mor ofnadwy a hyn yn gofyn Pa hyd, Arglwydd, nad ydwyt yn barnu, ac yn dial gwaed y diniwaid hyn ? Codir cri am ddwyn y rhyfel ofnadwy yma i derfyniad buan. Myn rhai i Brydain a'i Cliynghreiriaid wneuthur heddwch yn fuan a Germani. Ond y cwestiwn y rhaid ei ofyn yw: ai doeth, ie, ai iawn, a fyddai gwneyd heddwch a gwlad sy'n torri pob amod, pob cytundeb, pob deddf, a'i g.ada-el mewn cyflwr, a gallu, a cliyfleustra. i gyf- lawni eyifelyb ysgelerderau yr un chwant yng-wledydd heddychol y ddaear? A oes rywun heddyw a amheua pe na bai Pryd- ain wedi cymeryd rhan yn y rhyfel ar y dechreu, a phe bai Germani felly wedi meddianu—fel y buasai yn sicr o wneyd— glanau Belgium a Gogledd Ffrainc,—-7 caffai'r wlad hon, Lloegi- a Chymru, ddianc rhag cyffelyb creulonderau ? Mewn atebiad i'r gofyniad, "Pa cyhyi y pery y rhyfeU" dywedodd Mr. Lloyd George yn Llundain yr wythnos ddiwedd af: "Hyd nea bo Kaiser a Byddin Germani wedi cael eu gorchfygu au hanalluogi i wneuthur cyffelyb erchyllderau yn y dy- fodol." Dyna farn y gwledydd gwareidd- iedig oil. Pan ddeffry Prydain i'r ymwy byddiaeth o'i pherygl ofnadwy ei hun, ac y cryfha ar y cyflenwa ei Byddin a. phcb cyfarpar rhyfel, bydd gobaith gorchfygu rmani-ond dim cynt. DAL YN BERSONOL GYFRIFOL. Un o ddyledion Prydain i'r Maeslywydd Botha yn y rhyfel presenol yw y wers a ddysgwyd ganddo iddynt y rhaid d&l per-, aonau unigol mewn safleoedd uchel yn ber- sonol gyfrifol am droseddu deddfau dynol- iaeth. Yr oedd y Maeslywydd German- aidd yn Ne Affrica yn gwenwyno y pydewau dwfr yn yr anialwch ffordd y teithiai y Prydeinwyr pan yn erlyn byddia Germani yn ol i'w thiriogaeth. Pan ddanfonodd Botha wrtlidystiad atebodd y Maeslywydd Germanaidd ei fod yn gwedth

Y Rhyfel o Ddydd i Ddvdd o

redu ar orchymynion pendant o Berlin. Atebodd Botha yn ddioed gan nad pwy oedd yn gorchymyn y daliai efe y Mae- lywydd Germanaidd a'l swyddogion yn y He yn btrmnol gyfrifol am unrhyw drosedd pellach a gyflawnid gan y milwyr o da.n eu liawdurdod. Yr wythnos hon gwnaeth Syr Edward Grey yn gyffelyb. Yr oedd Twrci wedi anfon Prydeinwyr a Ffraneod (a ddaliwyd yn y wlad hono pan dorodd y rhyfel allan) i Orynys GalJipoli ar lan y Dardanelles gan ddisgwyl na thaniai llyngee Prydain a Ffrainc arnynt hwy, ac felly y dihangai byddin Twrci yn eu cysgod—yn union felli y gwnaeth y Germaniaid a thrueiniaid Belgium. Gyrodd Syr Edward Grey yn ddioed i ddweyd y daliai efe y Maeslywydd Tyrcaidd, Enver Pasha, a'r Tywysog Habin Pasha, ac Aelodau y Weinyddiaeth Dyrc- aidd, a'r Swyddogion Milwrol yn bersonol gyfrifol am unrhyw niwed a achosid i bob Prydeiniwr a Ffrancwr drwy y cyfryw weithred. Pan ddygir adref i feddyllau maes- lywyddion a tywysogion oreulawn ac uchel- ffroen Germani, y gelwir pob un o honynt ar ddiwedd y rhyfel i gyfrif perlonol am bob anfadwaith agyflawnwyd drwy eu gorchymyn hwynt, sicr yw yr ymbwyllant. GWARTHNODI'R CAISAR, Nid oes un rheswm dros ganiatau ilr (3alsar, a'i fab y Tywysog Coronog, ac eraill mewn safleoedd ucnel, ddianc rhag eu cosp haedd- ianol am yr erchyllderau a orchymynwyd ganddynt. Cafodd Napoleon Bonapart el gospi &g alltudiaeth dros ei oes wedi ei ddal ar ol brwydr Waterloo. Geilw cydwybod a chyfiawnder byd am gospi'r Caisar a'i Dywysogion am y drygau anfad a gyflawn- wyd drwy eu gorchymyn. Da y gwnaeth y Brenin Sior V. i roi bias blaenffrwyth y gosp ddyfodol iddynt. Y Rarhad mwyaf y gellir el osod ar swyddog milwrol yw cymeryd arwydduodau ei swydd oddiarno, a'i ddarostwng yntau i safle milwr eyffredin. 0 boll urddau y byd yr uchaf ei pharoh a'r un a chwenyebir fwyaf hyd yn oed gan Ymerawdwyr, yw Urdd y Gardas Aur. Ni roddir hon ond i fawrion fydd yn meddu teilyngdod ymhell uwchlaw'r cyffredin. Brenin Prydain yw Penllywydd yr Urdd. Mae'r Brenin yr wythnos hon wedi cymeryd Urdd y Gardas Aur oddiar y Caisar, ac Ymerawdwr Awstria, Brenin Wurtemberg, Tywysog Coronog Germani, a phedwar Tywysog Germanaidd arall, ar y tir nad ydynt mwyach deilwng I'w cyfrif ymhlith urddasol- ion anrhydeddus byd. Ni amddifadwyd ond yn unig dri o Farchogion y Gardas Aur o'r anrhydedd o'r blaen er's chwe' chan' mlynedd. CWRS Y RHYFEL. Yr ydym yn agoshau at, os nad ydym wedi cyraedd eisioes, amseroedd mwyaf enbyd y Rhyfel, y dyddiau pan y penderfynir ai ymlaen ymhellach yn ei rysedd yr a y Caisar a'i fyddin, non ynte a orfodir hwynt i gilio yn ol tuag adref, ac y caffo gwlad a phobl Ger- mani ddechreu teimlo peth o wir galedi y Rhyfel. Hyd yma mae tir Germani wedi bod yn ymarferol rydd oddiwrth ddrygau mawr y Rhyfel, y drygau a'r bliufyd o gael y goresgyuwr a byddin y gelyn yn tramwyo yn fuddugoliaethus drwy y wlad. Er cymaint ein ffydd mai enill buddugoliaeth a wnawn yu y pen draw, nid ydym hyd yn hyn wedi cael y trechaf ar y gelyn. Ceir byny yn fuan bellach, neu ynte bydd Germani yn gosod ei throed yn drymach a chadarnaoh ar y byd am gyfnod pellaoh. Mae pob arwydd fod dyfarniad tynged y Rhyfel am fisoedd eto i dd'od yn awr yn I ymyl. Da fydd oymeryd golwg eang ar yr holl faes. FFRAINC A BELGIUM. Enillodd y Germaniaid dir yr wythnos ddiweddaf yn ardal Ypres. Gorfodwyd y Prydeinwyr i gHio yn ol, er ua thorwyd drwy eu rhengoedd. Adenillwyd yr wythnos hon ran o'r tir a gollwyd, ao enillwyd mwy yn nes. i'r de genym. Enillodd y Ffrancod dir gwerthfawr iawn yn y gorllewin ac yn y dwyrain. Nid gormod yw dweyd fod y brwydro y dyddiau hyn yn ffyrnicacb, a'r collediou yn drymach yn Ffraine a Belgium, nag a fuont un amser er dechreu y Rhyfel. Os Uwydda'r Prydeinwyr yn eu hamcan presenol, celr ymosodiad penderfynol ar safleoadd y gelyn yn fuan. RWSIA. Dengys y manylion diweddaraf fod Rwsia wedi cael ergyd trymach yn Galicia nag a dybid ar y cyntaf ei bod-a hyny ymron yn unig am fod iddi brinder cyfarpar rhyfel o bob math, ac yn enwedig mewn cyflegrau mawr. Mae gweithfeydd Krupp, yn Essen, Germani, wedi llwyddo i roi i'r Kaiser gyflen- wad o gyflegrau mawr newydd ar raddfa helaeth. Defnyddir hwynt yn erbyn Rwsia draw, ac yn erbyn Ffrainc a Phrydain yr oohr yma. Methodd Rwsia gael cyflenwad newydd digonol i'w cyfarfod. Pan agorir y Dardan- elles gwneir eu diffyg i fyny o'r wlad hon— rheawm ychwanegol dros i bob gweithiwr wneud el oreu yn y wlad yma. Ond er cael o honi ergyd trwm o herwydd yr anfantaia yma, mae Rwsia yn dal yn gadarn, a gellir disgwyl yn fuan newydd gwell. Ymladd ffyrnig ddydd a nos sydd hyd lanau'r Dardanelles. Er trymed ein oolledion enill tir yr ydym yn raddol. Gweithiodd un o sudd longau Prydain ei ffordd i For Mar- mora, gan suddo yno ddwy long ryfel o eiddo Twrci, a transport yn carlo milwyr. Collasom ninau'r Goliath,' hen long ryfel fawr, drwy gael ei tharo gan torpedo. Collwyd 800 o fywydau. Dyna'r drwg a'r da yn gymysg. AFFRICA. Newyddion da a geir o Dde Affrica. Mae Botha wedi meddianu prifddinas y German laid yno, a dlsgwylir yn fuan yr ildia holl fyddin Germani yno eu hunain yn garchar- orion iddo. Dynaaddewid dda am yr hyn y gobeithia Prydain, Ffraino, a Rwsia wneud yn y man a Berlin. YN GYFFREDINOL. A chymeryd golwg gyffredinol aramgylch- iadau a safle presenol y Rhyfel, er nad oes genym achos i wan galoni, rhaid yw telmlo yn bryderus. Pe bae yr byn a hawlir ya adroddiadau swyddogol Germani yn wir, neu yn agos i wir, buasai y pryder yn fawr. Hawliaut hwy eu bod wedi 11 wyr orcbfygu'r Rwslaid yn Galicia, a bod eu blaen fyddin eiBoes yn gwarchae Prseuiyzl, y dref Awstriaidd fawr a gyuierwyd gan y Rwslaid ar ol ei gwarchae am chwe' mis. Y pryd hwnw cymerwyd 130,000 o filwyr Awstria yn garoharorion pan syrthiodd y ddinas 1 law Rwsia. Myn adroddiadau'r Germaniaid i ni gredu eu bod ar fedr enill y dref yn ol, ae wedi cymeryd eisoes 140,000 o Rwslaid yn garcharorion yn y brwydrau y deng niwrnod y buont yn gwthio eu ffordd ymlaen tua Prsemyzl. Ond clywsom storiau gas Germani o'r blaen am fuddugoliaethau enfawr" pan y gorfodwyd hwynt 1 ffoi en hunain am eu hoedl. Dywedant yn awr mat 500 o wyr a gollwyd ganddynt yr wythnot hon yn ymyl Arras, pan mewn gwirionedd y lladdwyd fwy na deng waith byny ohonynt gan y Ffrancod buddugoliaethus. Gellir disgwyl yr wythnos Desaf am newyddion pwyslg fel canlyniad symudiadau newydd Joffre a French ydynt yn awr yn ymosod yn ffyrnig ar y Germaniaid ar hyd y llinell yn Ffrainc. BETH WNA AMERICA f Cwestiwn a ofynir gan bawb yw Beth wna America Yn ol cyfraith gwledydd gwaraidd y byd, mae personau ac eiddo can- hedloedd anmhteidgar adeg rhyfel yo ddioget oddiwrth ymosodiadau y naill ochr a'r Hall. Ond mae'r Germaniaid wedi taflu ffrwydbel enau o'r awyr ar un Hong Americanaidd wedi chwythu un arall A thorpedo; ao yn awr dyma dros gant o ddinasyddion America wedi cael eu llofruddio mewn gwaed oer wrth suddo'r I Lusitania.' Mae y Llywydd Wilson wedi gyru llythyr swyddogol at Lywodraeth Germani yn gofyn am eglurhad, am ymddi- heurad, am iawn, ac am sicrwydd boddhaol na wneir cyffelyb ddrygau eto. Mae'r llytbyr, mewn rhai ystyron, yn un cryf. Dywed mewn geiriau plaen fod suddlongau Germanf yn troseddu pob deddf gydnabyddedig hyd yma gwrthyd gymeryd fel ergusawd droa suddo'r LUlitania I fod rhybudd wedi cael ei gyhoeddi ymlaen Haw yn mhapyrau yr America o'r bwriad i'w euddo. Ond andwyir y liythyr, i raddau pell, gan yr or-ganmol- iaeth a roddir ynddo i ystyriaeth Germani am hawliau'r gwledydd, a i ddyngarwcb German a'i hawydd i ymladd yn deg 1" Syna'r byd at eiriau o'r fath yn ngwyneb adroddiad ymchwiliad Arglwydd Bryce a nod- wyd uchod. Nid oes neb a all ddweyd befch wna'r America os gwrthyd Germani roi sier- wydd na fydd iddi gyflawni'r oyftelyb ddryg- au eto. Cred llawer sydd mewu cyfle i wybod fod Germani am orfodi America i gymeryd rhan yn y rhyfel yn Ewrop. Ceir gweled.

Advertising

IT o T I Your Kini and Country Need Yon. o A CALL TO ARMS An addition of 300,000 men to His Majesty's Regular Army are immediately necessary in the pre- sent grave National Emergency Lord Kitchener is confident that this appeal will be at once res- ponded to by all those who have the safety of our Empire at heart. TERMS OF SERVICE. General Service for a period of 3 years or until the war is concluded. Age of Enlistment between 19 and 35. HOW TO JOIN. Full information can be obtained at any Post Office in the Kingdom, Or, at any Military Dep6t. GOD SAVE THE KING