Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
o OWRS Y RHYFEL

(Parhad o tudalen 1). tuag at Calais, ac yroedd cyflenwadau helaeth | oddarpariadau at y rhyfel wedi cyried(i Ghent. DYDD GWENER. SUDDIAD RHYFEL-LONG ITALAIDD. Newyddion o Rhufain a fynegant fod y rhyfel-long Italaidd, Aaralu," wedi ei suddo gan long ymsuddawl Awstriaidd foreu ddydd Iau yu yr Adriatic Uchaf. Suddodd y liestr oyn pen haner awr, ond llwyddwyd i achub pum'cant o'r dwylaw, rhai yn eu eyehod en hunain, ac ereill gan longau oeddynt yn myned heibio. MEDDIANIAD GORSAF DIWIFRAU GERMANAIDD GAN YR UNOL DALEITHIAU. Hysbysir o Washington fod llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi cymeryd meddiant o orsaf diwifrau Sayville, yn nhalaeth Efrog Newydd, yr unig gyfrwng uniongyrchol rhwng yr Unol Daleithiau a Germani. Perthyna y tir ar ba un y saif yr orsaf i farsiandwr Germanaidd, a Germaniad yw yr arolygwr sydd yn gofalu am dani. Dywedir fod y cenadwriaethau a anfonid oddiyno yn rhoddi hysbysrwydd i lywodraeth Germani am symudiadau llongau, ond mae teifyn wedi ei roddi ar hyn bellach. SYMUDIADAU MILWROL YN GERMANI. Newyddion o Zurich a hysbysant fod dwy dwy fil o gerbydresi, yn cynwys milwyr Ger- manaidd, wedi croesi y Rhine yn Coblenz, Mayence, Mannheim, gan gyfeirio at Calais. AWGRYMIAD GERMANAIDD f'R UNOL DALEITHIAU. Nid yw Germani hyd yma wedi anion un- rhyw atebiad j lywodraeth yr Unol Daleithiau gyda golwg ar ei defnyddiad o lougau ymsudd- awl, ond mae wedi anfon ymholiad, drwy Mr. -Gerard, y llysgenhadwr Americanaidd yn Berlin, gyda golwg ar yr hyn wna yr Unol Dalaethau pe ceisid dyfod i delerau. Ceisia Germani gael gwybod bwriadau yr Unol Dalaethau cyn gweithredu, oud y mae yr holl ohebwyr yn Berlin wedi eu hysbysu fod yn well gan Germani wynebu digllonedd yr Unol Dalaethau yn hytrach na rhoddi heibio ddefnyddio llongau ymsuddawl. Nid yw chwaith, dan unrhyw amgylchiadau, am wneyd archwiliad i gynwys uurhyw longau oyn eu dinystrio, fel yr hawlid gan yr Arlyw- ydd Wilson, ond y mae yn barod i ganiatau i Americaniaid deithio mewn llongau ar dder- byniad sicrwydd nad yw y llongau hyny yn cynwys unrhyw nwyddau anghyfreithlawn. cm DYDD SADWRN. BUDDUGOLIAETH ARDDERCHOG YN NE-ORLLEWIN AFFRICA. Ddoe, derbyniodd Mr. Bonar Law, Ysgrif- enydd y Trefedigaethau, frys neges oddi wrth Arglwydd Buxton, Llywodraethwr Cyffredinol Undeb Deheudir Affrica, yn mynegu fod y Llywodraethwr Germanaidd Seitz wedi rhoddi i fyny ei hunan a'i lu yn Ne- Orllewin Affrica. Darfu iddynt roddi i fyny yn ddiamodol mewn atebiad i rybudd a dderbyniwyd oddiwrth y Cadfridog Botha. Dechreuodd Botha ymladd a'r Ger- maniaid ynglyn i meddianiad y diriogaeth yn mis Rhagfyr, 1914, ac yn mis Mai II wyddodd i fyned a'i filwyr i Windhoek, er fod y ffyrdd yn anhygyrch a bron yn ddi-ddwfr, ac yr oedd y dwfr oedd ar gael wedi ei wenwyno. Rhifai y milwyr Prydeinig wyth mil, a llyw- yddwyd hwy mewn modd ardderchog. Medd. ianwyd y drefedigaeth gan y Germaniaid yn 1884. Mae yn cynwys 332,000 o filldiroedd yogwir, neu yn agos i dair gwaith cymaint a'r Deyrnas Gyfunol. Ameangyfriifd ei phoblog- aeth cyn y rhyfel yn 181,000, o'r rhai yr oedd 12,935 yn bobl wynion, a 10,226 yn Germaniaid. Cyflawnodd y Cadfridog Botha wrhydri canmoladwy drwy yr oil o'r brwydro gymerodd le rhyngddo a'r Germaniaid, a heddyw y mae ganddo y boddhad o deimlo ei fod wedi II wyddo yn ei ymgyrch. Mae wedi bod yn deyrngarol iawn i Lywodraeth Pry- dain, a chludir ei enw gydag anrhydedd am genedlaethau i ddyfod fel un o arwyr penaf y byd. Cymerodd ddeng mil o Germaniaid yn garcharorion, ac y mae llawenydd mawr yn cael ei arddangos yn Johannesberg a lleoedd ereill, ond galar a gruddfanau sydd i'w clywed drwy Ymherodraeth Germani. CYNHADLEDD BWYSIG YN CALAIS Cynhaliwyd cynhadledd bwysig yn Calais, pryd yr oedd yn bresenol ar ran Prydain y boneddigion canlynol :-Mr. Asquith. Ar- glwydd Crewe, Arglwydd Kitchener, Mr. Balfour, a Syr John French, tra yr ymddang- osodd y rhai canlynol fel cynrychiolwyr Ffralnc:—M. Viviani, M. Delcasse, M. Miller, M. Augagneur, a'r Cadfridog Joffre. Ni wyddis y manylion, gan fod y gweithrediadau yn cael eu cario ymlaen yn ddirgelaidd. ADRODDIAD SYR JOHN FRENCH. Yn ol adroddiad Syr John French, darfu i'r Germaniaid wneyd llawer o ymdrechion i adfeddianu y ffosydd i'r gogledd o Ypres oddiar pan ysgrifenodd o'r blaen, ond Ilwydd- odd y cyflegrwyr Prydeinig a Ffrengig i roddi atalfa effeithiol ar y Germaniaid, y rhai a enciliasant ar hyd y gam las, gan ychwanegu at ein henillion. Mae lie cryf i gredu fod oolledion y Germaniaid yn drymion iawn. COFRESTRIAD CENEDLAETIIOL. Yn y Guildhall, Llundain, ddydd Gwener, cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig er ceisio anog rhai i ymuno a'r fyddin, pan yr oedd y neuadd eang yn orlawn, ond y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn gynwysedig o wyr oedranus a merched. Cafwyd araeth gan Arglwydd Kitchener, yr hwn a apeliai am ychwaneg o ymrestrwyr. Dywedodd fod angen difrifol am ychwaneg o cldynion ieuainc i uno a'r fyddin, ond nad oedd llawer yn dyfod yn mlaen. Hysbysodd pan fyddai y cofredriad cenedlaethol wedi ei wneyd y gallent apelio at bob dyn rhwng 19 a 40 (dynion dibriod yn benaf) i uno a'r fyddin. Anerchwyd y cyfarfod hefyd gan b Syr Edward Carson, Mr. Walter Long, ;:c Arglwydd Derby, y rhai fynegent fod y gyfundrefn bresenol yn annheg i'r dynion a'u cyflogwyr. Rhoddwyd derbyniad brwd- frydig i'r awgrymiadau o blaid gorfodaeth gan y dorf. Dywedodd Mr. Walter Long fed trefniadau wedi eu gwneyd ar gyfer y cofrestriad, yr hwn gerir allan yr ail wyth- nos yn Awst. DYDD LLUN. Y FYDDIN BRYDEINIG YN GWTHIO Y GERMANIAID YN OL. Noa Sadwrn, llwyddodd y Prydeinwyr i wrthscfyll yn tffeithiol ymosodiad gan y Germaniaid, y rhai oeddynt wedi sicrhau safle ragorol, ond bu raid iddynt symud oddiyno. I'r gogledd a Arras darfu i'n milwyr gwblhau y gwaith drwy yru allan y Germaniaid o ffosydd oeddynt wedi fedd- ianu cr dydd lau. I'r gogledd o orsaf Souchez, gwnaed ymosodiad arall gan y Germaniaid yn ystod y nos, ond llwyddwyd i'w ata.l. Ar ranau ereill o'r ffrynt mae y magnelau wedi bod wrthi vn brysur, yn enwedig yn rhanbarth Nieuport, Aisne, Lorraine, Boise le Pi-ete, a gerllaw pout Moncel. Y LLYWODRAETH A'R CADFRIDOG BOTHA. Mae Arglwydd Kitchener wedi anfon brysneges longyfarchiadol i'r Cadfridog Botha, gan ddatgan y rhoddid idclo groes- awiad cynes pe deuai ef a'i wyr drosodd i'a cynorthwyo yn y rhyfel. Y RWSIAID YN PARHAU I YMOSOD Parha y Rwsiaid i ymdeithio ymlaen i'r de, ac i'r dwyrain i'r Vistula, ac weli gwrthsefyll ymosodiadau gaii Mackensen i'r de o Cholm. I'r gorllewin o Warsaw, maent wedi llwyddo i ail-feddianu y ffosydd yn Gumine, y lhai oeddynt wedi eu cy- meryd oddiarnynt drwy gyfrwng ymosod- iad nwyol gan y Germaniaid. HAERLLUGRWYDD LLYWODR- AETH GERMANI. Mewn atebiad i Nodyn yr Arlywydd Wilson, gyda golwg ar suddiad y "Lusi- tatila," mae llywodraeth Germani wedi anfon llythyr, ymha un y gosodant i lawr gyfres o reolau y rhaid i'r Unol Daleithau er cario allan, ac yn eu plith fod arwydd- nodau. gwahaniaethol i gael eu gosod ar y llongau a anfonir o'r America, i roddi digon o rybudd i Germani o'u hymadaw- iad, ao i roddi sicrwydd nad oes unrhyw ddarpariadau rhyfel ar y bwrdd er atal unrhyw berygl. Oa boddlona i wneyd hyn, caniateir iddi ddefnyddio pedair o agerlongau Prydeinig, a dim mwy, i gario teithwyr dan ei baner, ar y dealltwriaeth na fyddo y llongau hyny yn cludo arfau. Mae y telerau haerllug hyn yn naturial wedi cyffroi yr Americaniaid. ARGLWYDD HALDANE A MR. LLOYD GEORGE. Mae anghydwelediad difrifol wedi cy- meryd He rhwng Arglwydd Haldane a Mr. Lloyd George. Ymddengys fod Arglwydd Haldane, pan yn Ysgrifenydd Rhyfel, wedi penodi y Cadfridog von Dunlop yn ben ar yr adran oedd i gyfienwi tan-belenau ac arfau rhyfel. Yn Nhy y Cyffredin, cynyg- iodd Syr Henry Dalziel fod yr adran hon i fod dan ofal Mr. Lloyd George, Gwei'l- idog y Cad-ddarpariadau, ac yn ystod yr ymdriniaeth a ddilynodd dywedwyd fod y bai am y diffygion yn y cyflenwadau hyn yn ddyledus i'r Cadfridog von Dunlop. Ni wadwyd hyn gan un o'r Gweinidogion oeddynt yn bresenol, ond mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan y Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol, dywedodd Arglwydd Hal- dane nad oedd hyn yn wir, a heriodd Mr. Lloyd George neu rywun arall i gael gwar-ci o'r Cadfridog von Dunlop, gan y byddai ei ddiswyddiad yn golled anadferadwy. Dy- wedodd Arglwydd Haldane y gallai ddad- lenu rhai o weithrediadau dirgelaidd y Cyfrin Gyngor ynglyn a. hyn. Mor fita,,i ag oedd bosibl atebodd Mr. Lloyd George, gan ddatgan fod mynegiad Arglwydd Hal- dane yn anghyflawn ac anghywir, ac y gallai etc wlleyd mynegiad gwahanol. liae, yr anghydwelediad wedi creu syndod yn v byd gwleidyddol, ac ofnir mewn rhai cylchoedd y daw yr adeg pan fydd raid i'r Llywodraeth ddewis rhwng Mr. Lloyd George a'r Cadfridog von Dunlop, gan fod y mater wedi dyfod yn un cyhoeddus, c naa gellir ei derfynu heb ddadleniadau pellach. DYDD MAWETH. LLWYDDIANT GERMANAIDD. Adrodda yr awdurdodau Ffrengig fod y Germaniaid wedi meddianu claddfa Souchez, yr hon sydd wedi bod yir destyn llawer brwydr, ac am frwydro caled gyda than-belenau i'r de o Neuville St. Vaast, i'r gogledd o Arras. Hyd yma, yr oedd y Germaniaid ar yr ochr amddiffynol, ond maent yn awr wedi mabwysiadu arddull ymosodol, fel y credir eu bod wedi cael adgyfnerthion. MEDDIANIAD FFOSYDD RWSIAIDD Ha era y Germaniaid eu bod wedi medd- ianu dwy filldir a haner o ffosydd per- thynol i'r Rwsiaid rhwng Kalvaria a Suvalki, lleoedd i'r de o gyffindir Prwsia ddwyreiniol, lie y inethas-ant am fisoedd wneyd dim. Mae ymosodiad nerthol o'r fath yn profi fod y Germaniaid yn ceisio amgylehynu Warsaw. M ddynodir un- rhyw gyfnewidiad gan y naill ochr na'r ZIY llall ar yr aden ddeneuol yn ffrynt Warsaw. Credir fod Mackensen, y llywydd German- aidd, yn gwneyd uiwed i'w wlad drwy oedi yn rhy hir, a cheir g^veled ffrwyth ei oediad yn fuan: YMGAIS I LADD SULTAN YR AIPHT. Newyddion o Cairo a. fynegant fod ym- gais arall wedi ei gwneyd i ladd Sultan yr Aipht dr\vy gyfi^wng ffmd-belen, ond yn I ffodus pallodd ffnvydro. Dyma yr ail y waith i fywyd y Sultan gael ei achub. Nid oes neb wedi ei gymeryd i'r ddalfa. MR, ASQUITH A GOFYNIADAU YN NHY Y CYFFREDIN. Yn Nhy y Cyffredin ddoe-, yr oedd llawer o ofyniadau, drwy y rhai y disgwylid cael goleuni ar rai pethau pwysig ynglyn a'r rhyfel, ar y papyr, ond gwrthododd Mr. Asquith yn bendant roddi atebiad i un o honynt, gan ddatg-an nad oedd yn credu y byddai unrhyw ymdrafodaeth arnynt o unrhyw ddyddordeb i'r cyhoedd. Dydd MERCHER. ATAL STREIC Y GLOWYR. Bwriaxlai glowyr Deheudir Cymru sefyll allan ddydd Iatt (yfory), ond y mae y Llywodraeth wedi mabwysiadu mesurau effeithiol i roddi atalfa ar hyny. Mae yn resynus meddwd fod pobl yn barod i daflu y wlad i benbleth flin ynghanol yr ar- gyfwng difrifolaf y bu cin teyrnas ynddi erioed, gan na ellir cario dim ymlaen yn } fyddin a'r llynges heb gyflenwad digonol o t-,Y lo. Pwy bynag geir yn euog o fyned ar streie, gofala y Llywodraeth fod cosb drom yn dilyn. BYGWTII ROUMANIA. Mae Germani ao Awstria. wedi bod yn bygwth Roumania ynglyn a chludiad arfau i Twrci drwy y wlad hono. Aeth Awstria yn mhellach drwy gynyg llwgrwobrwyon am y caniatad hwn, yr hyn a ddengys fol y Tyrciaid mewn cyfyngder mawr am gyf- lenwadau rhyfel. Ni chredir y cydsynia Roumania a'r cais. YMOSODIADAU GAN AWYR- LONGAU. Foreu lawrth, cyflawnodd 35 o awyr- longau perthynol i Ffrainc waith ar- dderchog yn y Woevre drwy ollwng 171 o ffrwd-belenau ar orsaf rheilffordd, gio wneyd llawer o ddifrod. Yr oedd llawr;r iawn o nwyddau wedi eu hystorio yn yi orsaf hon, ac acliosodd y tan-beleniad i amryw danau dori allan. SEIBIANT YN Y DWYRAIN A'R GORLLEWIN. Ychydig wneir y dyddiau hyn yn y dwyrain a'r gorllewin, ond ofnir fod brwydrau mawrion ar gael eu hymladd. M ANION. Am waeddi 'Hir oes i'r Eidal" condem- niwyd un o drigolion Gratz i 15 mlynedd o garchar. Credir fod 350,000 o weithwyr masnacn- dai ein gwlad wedi ymuno a r fyddin. Daeth 180 o ddoctoriaid a mamaethod i'r wlad hon o A wstralia i gynorthwyo yn v gwaith o weinvddu ar gleifion ar y Cyfan- dir. Deohreuwyd ar y gwaith o gasglu arian er mwyn cofTau marwolaeth y diweddar Mr. W. G. C. Gladstone. Bu yn Arglwydd Raglaw Sir Fflillt am dair blynedd. Mae chwech o offeiriaid Caerbaddon yn avh" yn gwa&anaetliu gyda'r byddinoedd Danfonwyd Geo. Ames i garchar am dair wythnos am iddo gynorthwyo mil.vr oedd yn ffoi oddiwrth ei galrawd yn Ash- ford, Kent. Bu y Brenin yn ymweled a'r Llynges a'r LlyngeswT Jellicoe yr wythnos ddiwedda'. Ni chyhoeddir pa le y mant ar hyn o bryd. Yn ol newyddiaduron y gelyn mae dros 1700 o far-gyfreithwyr Germani wedi en liadd ar faes y gwaed. Ohenvydd cvnhyrfiad a llawenydd trwy weled ei mab yn dyfod gartref o'r Cyfan- dir avrthiodd mam Private Barber, o Wilmslow, i lawr yn farw. Mae dros bum' mil o heddgeidwaid neillduol wedi ymuno a'r fyddin, ac mae'r nifer yn cynyddu yn feunyddiol. Bwriedir cynal cyfarfodydd gwladgar01 ZD trl ar y 4ydd o Awst nesaf. Dyna y dydd v cyhoeddwyd rhyfel rhyngom a'r Geyani i- iaid.

Fy Ewyrth Owenj

Fy Ewyrth Owen. [Gan EUPIIELET. ] Fe goti,' ebai fy Ewyith Owen, 1 ni i gael ymgom y nos o'r blaen ar yr anerchiad a draddodwyd gan weinidog yn nghyfarfod mawr y Bedyddwyr yn Tondu?' Yr ydwyf yn cofio eich sylwadau chwi ar y mater,' ebai finau, I ond nid ydwyf yn gwybod dim pellach.) 'Wei,' meddai fy ewyrth, os ydyw y pethau a ddywedwyd gan y gwr parchodig yn wir, y mae Cymru o ran ei safle foesol ac ysprydol wedi syrthio i gyflwr truenus ofnad- wy Fe led awgrymodd y siaradwr, er na ddywedodd hyny yn bendant, fod dweyd y gwir a dello yn onest yn bethau tra dyeithr yn Nghymru y dyddiau hyn. Braidd na ellid casglu oddiwrth ei eiriau nad ydyw geir- wiredd a goneatrwydd yn cael fawr o sylw gan neb end gan y Cwaceriaid a'r Undodwyr. Y maent wedi myned allan o arferiad ymhlith yr enwadau. Nid ydwyf fi yn bersonol wedi dyfod i gyffyrddiad ddigow agos a'r Cwacer- iaid a'r Undodwyr fel ag i fod yn alluog i ffurfio baru ynghylch eu cyflwr moesol hwy, ond yr ydwyf bron a chredu fod y pethau hyn, sef geirwiredd a gonestrwydd, yn nwyddau prin iawn ymhlith aelodau yr en- wadau ereill yn ein gwlad.' Pa beth am Eglwyswyr, fy owyrth 'ebai finau. A ydych yn barnu ein bod ni yn rhydd o'r beiau hyn 1' Fe adawn yr Eglwyswyr yn llonydd heno/ meddai fy ewyrth mewn atebiad. Nid wyf fi yn bwriadu bwrw fy llinyn mesur dros Eglwyswyr yn bresenol. Paid a meddwl, er hyny, fod Eglwyswyr yn hollo! ddibechod. Y mae gan y goreuon o honom le i wella. Ar yr un pryd, gad I mi ddweyd cymaint a hyn, rbag ofn i ti i dynu caagliad anghywir oddi wrth fy ngeiriau. Y mae genyf fi ffydd gref mewn Eglwyswr. Ond cael Eglwysw,—a sylwa di ar y pwyalais yr ydwyf yn ei roddi ar Eglwyswr, oherwydd y mae rhagor rhwng Eglwyswr ac Eglwyswr,—ond cael Eglwyswr egwyddorol, Eglwyswr o'r lawn stamp, fel rheol fe ellir dibynu a'r hwnw. Y mae y fath beth yn bod a chymeriad Eglwysig yr ydwyt wedi cyfarfod &g ef lawer gwaith, y mae yn ddiau genyf, ac ond cael dyn yn fedd- ianol ar y cymeriad Eglwysig yna, fe elli ddi- bynu dy fywyd ar bWllW.' Ond,' meddwn lnau, 'pa ham na fyddai pob Eglwyswr yn feddianol ar y cymeriad Eglwysig yna yr ydych yn son am dano V I Fe gymer fwy o amser nag sydd genyf fi i'w hebgor beno i ateb y gofyniad yna o'r eiddot,' meddai fy ewyrth, ac y mae yna berygl wrth i mi dalfyru fy atebiad i ti dder- byn argraff cyfeillornus. Gofyn y cwestiwn i mi eto, pan y byddo genyf ragor o hamdaen, a cheisiaf roddi i ti eglurhad mwy cyflawn, ond gallaf ddweyd cymaint a hyn wrth fyned heibio, fod rhan helaeth o'r bai yn gorwedd wrth ddrws gweinidogion yr Eglwys. Nid L, ydyw pob gweinidog yn ddigon gofalus i ddysgu i'w bobl yr athrawiaeth Eglwysig yn ei holl gyflawnder a'i phurdeb. Y mae yn ddrwg calon genyf orfod ei gyfaddef; y mae rhy fach o lawer iawn o bwysigrwydd yn cael ei roddi gan rai o'n gweinidogion ar ddya- geldiaeth yr Eglwys, ar yr athrawiaethau hyny sydd yn cael eu desgrifio yn gyffredin fel athrawiaethau Eglwysig. Y mae gwell pregethu heddyw ynyr Eglwys nagerioed,ond y mae hefyd ormod o lawer o debygolrwydd 0 rhwng pregethau yr Eglwys a phregethau y Capel. Nid wyf am i ti feddwl fy mod i yn condemnio gweinidogion yr Eglwya, ac yn dwjeyd eu bod yn dynwared gweinidogion yr Ymneillduwyr, ond ar yr un pryd y mae gormod o debygolrwydd rhwng llawer o bre- gethau a draddodir yn mhwlpudau yr Eglwys a'r pregethau a draddodir yn mhwlpudau y Capeli. Y mae gwahaniaeth hanfodol rhwng dyso,eldiaeth yr Eglwys a dysgeidiaeth y Capeli, ond nid yw pob Eglwyswr ddim yn gwybod pa beth ydyw y gwahaniaeth, am nad ydyw ei weinidog yn pwysleisio digon ar y pethau gwahanol, am nad ydyw y gweinidog yn dweyd yn ddigon croew o'r pwlpud pa beth ydyw athrawiaeth bendaut yr Eglwys, a chydmaru yr athrawiaeth hono ag athraw- iaethau a ddelir gan y gwahanol enwadau. Yn y plwyfydd hyny lIe y pregethir athraw- iaetbau Eglwysig o bwlpudau yr Eglwys y cyfarfyddir fel rheol a'r cymeriad Eglwysig y bu'm yn siarad am dano,' Oud dyna,' ychwanegai fy ewyrtb, gad y mater yna yn y fan yna heno, a g&d i ni fyned yn ol at y cwestiwn oedd genym mewn Haw, pan gychwynasom, a ydyw geirwiredd a gonestrwydd yn betbau prin yn Nghymru heddyw ? Neu gan fod y boueddwr parch- edig wedi tystio eu bed yn bethau prin, g&d i ni ymholi yn mhellach paham y maent felly ? Fe adawn, fel y dywedais, Eglwyswyr allan heno, a gofynwn pabam y mae geirwir- edd a gonestrwydd yn gwywo ac yn raarw ymhlith yr enwadau yn Nghymru y dyddiau hyn, ag eithrio y Cwaceriaid a'r Undodiaid ? Pa beth ydyw dy farn di 1' Wel wir, fy ewyrth,' ebai fi, wedi cael fy ngwthio i gornel braidd, nid oes genyf fi ddim un farn ar y mater.' Fachgen, dywed rywbeth,' ebai yr hen wr yn guchiog. Na, mewn gwirionedd, fy'ewyrth,' meddwn inau, I nid oes genyf fi ddim un gair i'w ddywedyd.' Fel rheol byddai fy ewyrth yn lied hir- ymathouii gyda mi, ond y tro hwn collodd ei amynedd yn lan. O'r ynfytyn ebai. O'r gwirlon A fedri di dim ffurfio barn dy huti ar gwestiwu mor syml a hyn yna 1 Pe buasai rhyw gymalnt o synwyr yn dy glop, fe allesit roddi rhyw fath o atebiad o leiaf, ond gan dy fod mor dwp gad i mi ddweyd wrthyt. Old ddarfu i ti erioed i glywed yr hen ddywediad, Tebyg i ddyn fydd ei I wdn,' neu os myni di, I tebyg i arweinydd fydd yr hwn a arweinir. Ymba nwyddau, dywed i mi, y mae arv.ein- wyr Ymneillduol Cymru wedi bod yn delio yn I ystod y blynyddcedd diweddaf yrria ? Ai nid yn y nwyddau hyny, celwyddau ac anonest- rwydd ? Pa nifer o gelwyddau noeth sydd wedi eu traethu o bwlpudau Ymneillduol Cymru yn ystod yr haner canrif ddiweddaf yma am yr hen Eglwys anwyl 1 Pa nifer o gelwyddau goleu sydd wedi eu bloeddio oddiar lwyfanau Ymneillduaeth Gymraeg yn ystod yr un cyfnod ? Pa nifer o gelwyddau digywilydd sydd wedi en hargraffu drosodd a throsodd filwaith yn ngwasg Ymneillduol y Dy wysogaeth yn ystod yr amser yna ? A pha. beth ydyw amcan a bwriad yr oil ? Ai nid yr amcan ydyw cvflawtii yr anonestrwydd mwyaf beiddgar a chywilyddus yr amcanwyd ei gyflawni erioed, sef yw hyny, lladrata eiddo a gysegrwyd i wasanaeth crefydd ? 11 In Pwy sydd wedi bod yn pregethu, ac yn traddodi ac yn cyhoeddi y celwyddau maleisus hyn ? AI nid arweinwyr Yniiieilldtiaoth ? A chan fod yr arweinwyr wedi ymddwyn mor ddiegwyddor,—wedi traethu cynifer o gel- wyddau, wedi amcanu at gymaint o drais ac anghyfiawnder, a ydyw yn syndod fod llawer o'r werin wedi eu hefelychu. ac wedi cofleidio a mynwesu celwydd ac anonestrwydd i radd- au mor helaeth nes gorfodi y gweinidog parchus yn Tondu i lefain yn groch Y mae y Cwacer yn eirwir, y mae y Sosin yn gyf- iawn, ond am danoch chwi Fedyddwyr a Sentars, Calfiniaid ac Arminiaid, nid oes ond y celwydd a'r lladrad yn eich dilyn.' Tebyg i ddyn fydd ei lwdn weli di ? Gresyn meddwl fod Cymry Ymneillduol wedi syrthio i gyflwr moesol ac ysbrydol iseled a hwn, ond wrth ddilyn arweinwyr na falient pa gel- wyddau a ddywedent er mWYR lladrata 157,000p. y flwyddyn oddiar yr Eglwys, nid yw ryfedd fod y werin Ymneillduol wedi gwyro.'

D EON I AETH TWRCELYN

D EON I AETH TWRCELYN. NODDI'R LLAN.—Bu adeg pan feddal Eglwyswyr Bro'r Morrisiaid ddigon o rysedd, neu hwyrach yn ddigon ehud i herio gwyr Rhosybol i gadgyrch agored a. hwyut mewn eatyn oortynal1 y LLAN yn y ddeoniaeth. Ond erbyn heddyw mae gwyr y Rhos fel ceiliogod ar ben y domen yn uchel gethlu eu buddugoliaeth, Wei, nid ydym na moni nac yn gwarafun iddynt hyn o elwch haeddianol. Na, gwell f'ai genym daflu iddynt ddyrnaid neu ddau o yd llawndwf fel cydnabyddiaeth o'u rhagoriaeth. Yr oedd yna rai pethau nad oeddym wedi eu hyatyried yn dyladwy, a dichon mai'r gwall penaf oedd, nad oeddym wedi rhoi pwys digonol ar y ffaith fod gan y Rhosiaid Mr. D. Davies i arwaiti y gad, gwr, fel y deallwn, a ofyn fwy o yni a phenderfyn- iad i'w drechu nag a dybid yn y buiydd hyu o'r blaen. Llongyfarchwn y gwron pybyr yn galonog. Amlwg yw ei fod ef a'r ficer hyglod yn deall eu gilydd i drwch y blewyn. Gresyn, os nad rhywbeth mwy anolygus, fyddai i ni fethu cynal hoedl y LLAN, yr unig uewyddiadur Cymraeg a feddwn. Gwyddom fod wythnosolion lleol yn fwy poblogaidd, ond nid ydynt hafal i'r LLAN am feithrin giau a chyhyrau Eglwysig yn ein ffyddlon- C) iaid. Gall y syrth peth o yspryd Mr. D. Davies ar ryw rai eraill yn y ddeoniaeth, beth wybod; tuedd sy' mewn brwdaniaeth fel hyn lledaenu, hed gwreichion weithiau nes flaglu hen aelwydydd fyddent wedi hir oeri. lNr. away, hogia.

Ymddiddan Difrifol am Bethau Difpifolx

Ymddiddan Difrifol am Bethau Difpifol.x Pan yn gwella ar ol anwyd, clefyd, neu afiechyd o unrhyw fath, byddwch yn ofalus i gadw eicii ehvlenod rhag tori i lawr. Bob dydd, mae miloodd yn gwell a ar ol rhyw afieohyd neu gilydd, a thra yn "adgyf- nerthu" dyna yr adeg pan y mae gofal mawr yn angenrheidiol i ymogelu rhag syrthio i afaelion anhwvlderau vr elw- lenod. Yr elwlenod, pan yn iach, ydynt. yr or- ganau a weithir galetai yn y corff. Nid rhyfedd pan y mae y gwaed yn orlwythog gan wenwynau dyfrol fod gwaith yr elw- lenod yn cael ei ddyblu. Mae anhwyl- Ijerau yr elwlenod yn dilyn mor naturiol a'r nos yn dilyn y dydd. Ar ol yr anwydwst, anhwylderau y ddwyfron, clefydon, ac hyd yn nod an- wydau cyffredin, gwyliwch rhag anhwylder yr elwlenod, a pheidiwch esgeuluso y fath arwyddion a phoen yn y oefn, cur yn y pen, syfrdandod, anhwylderau gieuol, a'r teim- lad swrth, blinedig, pa mor ddibwys yr ymddangosant i chwi. Bydd angen ar eioh elwlenod am gy- northwy dros amser. Nid oes dim mor liniarol, dim gwell na Doan's Backache Kidney Pills. Mae y feddyginiaeth hon ar gyfer yr elwlenod a'r yawigen yn unig, ac nid yw yn gweithredu o gwbl ar y col- uddion. Gyda ohynorthwyo tymhorol Peleni Doan, gofal ynglyn a. bwyta, ychwaneg o oi-phwysdra a chwsg, ac ymar- feriadau yn yr awyr agored gallwch yn hawdd fyned yn ol i'ch sefyllfa arferol o iechyd. Bydd i bob un a ddarlleno y mynegiad plaen hwn ddeall paham y mae cymaint yn Llanbedr yn meddu ymddiriedaeth yn Doa.n's Backache Kidney Pills. Ar werth gan, yr holl !asna.chu'.IIT am 2s. 9c. y blychaul, blychnid am 13s. 9c., oddinvrth Foster-McLellan Co., 8, Wells Street, Orford Strtet, London, IF.