Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
CWRS Y RHYFEL

(Parhud o tudalen 1.) Germaniaid eu bod wedi atal gwrthwyneb- iad y byddinoedd Rwsiaidd ar eu henciliad a Vilna. I bob dyben ymarferol, y mae y ffrynt o Dvinsk i'r Dniester yn awr yn liineil unionsyth. I GWEITJflO DA YN FFRAINC. Parheir yr ymladd gyda magnelau yn Ffrainc yn ddidor, ac y mae y Uynghreir- iaid wedi peri llawf'-r o golledion i'r Ger- maniaid drwy ffrwydro gweithfeydd ac ystorfeydd pylor perthynol iddynt. Gwan- aidd iawn ydyw ymdrt-ch y Germaniaid yn yr Argonne gyda'r magnelau. CRYNHOI BYDDIN ENFAWR YN BWLGARIA. Erbyn neithiwr, yr oedd 450,000 o Fwl- gariaid wedi eu galw allan i wasanaethu yn y fyddin, a chreodd y newydd deimladau dwfn drwy y deyrnas bono. Mao oedran y rhai alwyd allan yn amrywio o 18 i 48 wilwydd, ac yn cynwys 28 o wahanol ddos- barthiadau. Dywed cenadwri o Salonica fod poblogaeth Mussulmanaidd Kaxagatch a'r cwmpasoedd wedi eu meddianu a dychryn, gan fod y rhanbarlhau hyny i gael eu ti oeglwyddo yn ol i Bwlgaxia. Mae rhai canoedd o honynt wedi ffoi o'u car- trefi, gan grcesi pontydd y Maritza a'r Toundja, y rhai a arweiniant. o Karagatch i ganol Adrianpole. Mae pobl Adrianpole hefyd wedi eu meddianu a dychryn, ac yn pacio i fyny eu heiddo, gan fyned i Gaercys- tenyn. Y GERMANIAID A SERBIA. Bwriada y Germaniaid wneyd ymdrech i falurio Serbia, gan anfon byddin o 600,000 at y gwaith hwnw. Deallodd Serbia er's tro fod rhyw fwriadau o'r fath ar droed, ac yn y cyfamser mao. wedi gwneyd parotoadau helaeth i wynebu yr ymosodiadau pan ddeuant. Anhawsder penaf Serbia fydd cael gwybod o ba gyfeir- iad yr ymosodir arni. Gall Serbia ddwyn allan gan' mil o filwyr i'r maes, ond bydd gan y Genuaniaid fwy, a phan ymgyfar- fyddant bydd ymladd caled a cholledion trymion ar y ddwy ochr yn ddiau. BYGWTH YR AIPHTIAID. Gwneir1 parotoadau gan y Tyrciaid i ymladd yn erbyn yr Aipht tua mis Tach- wedd, ac y mae digonedd o arfau, pylor, etc., yn cyraedd i Syria bob dydd. Cesglir 3tiilwyr ynghyd yn ddiwydf ac y mao d,wy fl o swyddogion German aidd wedi eu penodi i'w hyfforddi. Cychwynir yr ym- ladd yn nhref henafol Beersheba, lie y mae gwaith dwfr anferth yn cael ei wneyd ar gyfcr y milwyr. DYDD SADWRN. GROEG YN GALW ALLAN EI MILWYR. Newyddion o Athens a fyn-egant fod gorchymyn wedi ei anfon allan gan Frenin Grocg ar fod i bob Groegwr perthynol i fyddinoedd y wlad hono ddychwelyd ar un- waith o ba le bynag yr ymgartrefant ar hyn o bryd, ac uno a'u hadranau milwrol. Mae y Groegwyr wrth eu bodd yn ateb yr alwad, gan eu bod yn ddigllawn wrth Bwlgaria, am y cwrs a gymerodd. Bu y llysgenhadwr Groegaidd yn Llundain yn y Swyddfa Dramor ddoe ddwy waith, lie y bu yn ym- ddiddan a. Syr Edward Grey. Bu Syr Edward hefyd yn ymddiddan a llysgen- badon Rwmania, Serbia, Ffrainc, ac Itali. RWSIAID ANGHREDINIOL. Anfonodd M. Gutchkoff, llywydd y pwyllgor Slafonaidd yn Moscow, frys- negcseuon at brif wladwoinwyr Bwlgaria i'r perwyl fod syndod wedi ei txhosi yn Rwsia pan ddeallwyd fod y Bwlgariaid wedi sy- meryd eu denu gan Germani i anghofio eu rhwymedigaeth i Rwsia., teyruas oedd wedi rhyddhau Bwlgaria odditan iau Moslem. Dywedai nas gallai Rwsia ddychymygu yr ymddygai Bwlgaria mor anniolchgar ag i gymeryd arfau yn ei herbyn, ac os gwnaent hyny y byddai yn droeedd erchyll yn ngolwg y byd. Disgwylir yn bryderus am atcbiad Bwlgaria i hyn. YMOSODIADAU GAN Y PRYDEIN- IAID YN FFRAINC. Hysbysir o Parig fod ymladd calod wedi cymeryd lie ddoe gyda magnelau yn rhan- barth Arras, a darfu i'r Germaniaid dderbyn colledion trymion, a llwyddwyd i ysgubo ymaith nifer o Germaniaid a ym- drechent gario un o'u safleoedd. Yn Champegne, gollyngodd y gelyn nifer aruthrol o dan-belenau yn cynwys sylwedd- au gwenwynig, a gwnaethant yr un peth yn St. Hilare, Souain, Perthes, a Beausejour. Buont yn aflwyddianus iawn yn Louaine, Ife y ceisient fecMianu rhai o'n safleoedd, a gorfodwyd hwy i ffoi. Cymerodd ymladd caled le ar uchelderau Linge (Vosges), pan y defnyddiwyd drylliau a bidogau. Y DARDANELLES. Llwyddwyd i lanio 110,000 o filwyr ychwanegol i'r Oynghreiriaid yn ynp Mudxos yn y Mor Acgaidd, a gellir disgwyl y gwneir rhywbeth eflFeithiol yn awr i wthio drwy y Dardanelles i Gaercystenyn, a phe gellid gwneyd hyn byddai asgwm cefn y rhyfel wedi ei dori. DYDD LLUN. BUDDUGOLIAETHA U Y PRYDEINVVYR A'R FFUANCOD. Enillodd y Frydeinwyr a'r Ffrancod fudd- ugoliaethau pwysig yn Ffrainc ddiwedd yr wythnos, yr hyn a lonodd galcnau pawb yn y wlad bon. Darfu i'r Frydeinwyr ymduith gymaiut a dwy filldir a haner mewn m-,iiitu ar hyd ffrynt o bum' milJdir, gan gymeryd 1700 o Germauiaid yn garcharorii.m, a medd. ianu wyth o t'agnelau. Ll wydJodd y Ffrancod i glirio y gelyn allan o'r arnddiffynfeydd o amgylch Souchez, ac yn Champ-tgne, ar livi ffrynt o bymtheng milklir a haner, ymdeith- iasant am ddwy fiildir a haner, gan gymevyd deuddeng mil o Germaniaid yn garchvivorion. Dywed Syr John French yn ei adroddiad eu bod wedi ymosod ar y gel)n i'r de o gamlas La Bassee, gan feddiauu y flosydd Germanaidd ar ffrynt o bum' milldir, a threiddio drwy liuellau y Germaniaid mewn rhai lleosdd gymaint a phedair iiii) o lathcni (^vmerasant feddianto amgylchoedd gorlle^ Inol Hullucb, pentref Looa, a'r mwnfeydd. Gwnaed ymosodiadau erefll i'r gogledd o gam las La Bassee, yr hyn a dynodd adgyfnerth- ion cryfion o'r gelyn tuag at y rhanau hyn o'r Ilinell, Ile y eymerodd yrhlad(i caled le drwy y d, dd. Min nos, meddianodd y milwyr i'r gogledd o'r gamlas y safleoedd a feddianont yn y boren. Ymosodasom drachefn gerllaw Hooge, i'r dwyrain o Ypres, ar bob ochr i ffordd Menin. Ar ochr isaf y ffordd, enillwyd tlla, 600 llath o liosydd y Germaniaid, ac y mae y tir a enillwyd genym yn ddiogeL n 0 YMLADD BUD HUGO LIAETflUS YN RWSIA. Mae y byddinoedd Rwsiaidd yn gweithio yn arddercbog gyda'u gwrthwynebiad i ym'os- (,diadau y Germaniaid a'r Awstriaid o am- gy ch Dvinsk, y rhai hyd yma sydd wedi bod yn waeth, gan fod colledion y gelyn yn aruthrol. Ar y ffrynt ddeheuol, mae y brwydran yn myned yn ol ac ymtaen, ond mae gan y Rnsiaid y fraint o fynegu eu bod wedi cymeryd 12,000 o Germaniaid yn garcharorion mewn dau ddiwrnod, yn cynwys chwe' mil yn Lutsk. Meddiatiwyd hefyd 21 o beirianau saethu. Newyddion o Petrograd a fynegant fod, o Medi 10fed hyd yr 20fed, 45,000 o garchar- orion Awstriaidd, yn cynwys deng mil o grleinon a chlwyfedigion, wedi myned drwy jKieff ar eu ffordd i Moscow a Voronesh Achosodd hyn syndod i'r preswylwyr, gan fod yr awdurdodau wedi eu hysbysu na anfonid ychwaneg o garcharorion drwy y lie. Un noson, darfu i'r Germaniaid gymeryd pob dyn allai ymladd yn garcharorion, a meddianasant yr holl wartheg a'r ymborth allent gael. Yn y pentref dinystriasant yr eglwya drwy dan, a chrogasant yr offeiriad oherwydd iddo wrthod rhoddi hysbysrwydd iddynt pa ffordd yr oedd y milwyr Rwsiaidd wedi myned. CYNDDEIRIOGRWYDD Y KAISER. Fel y gallesld disgwyl, mae y Kaiser wedi ei gynddeiriogi gan lwyddiant y Cyngbreiriaid, ac y mae wedi anfon lly thyrau cas at y cad- fridogion Germanaidd yu Ffraino. Dywed fod canlyniad llwyddianus y rhyfel i'r Ger- maniaid yn ymddibynu i raddau ar ddig- wyddiadau y ffrynt gorllewinol, a bydd un. rhyw Iwyddiant a gyrhaeddir gan y Cyng- breiriaid yn cael ei ystyried yn esgeulusdod ar ran y llywyddion Germanaidd, y rhai fyddant yn agored i gael eu cosbi yn drwm am eu diffyg. DYDD MAWRTH CALONDID. Derbyniwyd newyddion o Ffrainc fod y tir a'r safleoedd enillwyd yn y frwydr fawr yn cael eu meddianu yn ddiogel, a disgwylir clywed am ychwaneg o fuddugoliaethau rai o'r dyddiau nesaf. Da yw canfod fod y Prydeinwyr a'r Ffrancod yn cyflawni gwaith mor odidog, a boed llwyddiant pellach iddynt yw dymuniad pawb. YR AWSTRIAID YN ENCILIO. Derbyniwyd brysneges o Petrograd neith- iwr i'r perwyl fod y Rwsiaid wedi adfeddianu Kovel, a safle rheilffordd rbyw 76 milldir o Brest Litovoak, a bod yr Awstriaid wedi en- cilio ar frys o Brody, 50 milldir o Lemberg, gan daflu eu magnelau, drylliau, &c., i'r afon Styr. Hefyd dywed fod y Cadfrideg Ivanoff, yr hwn sydd yn arwain un o'r byddinoedd Rwsiaidd, wedi enill buddugoliaeth yn Ne Rwsia, ond nid yw y manylion wedi dyfod i law. Cerir ymlaen frwydr gated o amgylch Dvinsk, ac ymhlith pethau ereill adroddir fod y meirchfilwyr Rwsiaidd wedi gorcbfygu y gelyn yn Tchighing. Arweiniodd y Rwsiaid y Germaniaid i dir corsiog, gan eu hamgylchu ar dair oohr. Lladdwyd haner y Germaniaid, a chymerwyd y gweddill yn garcharorion. ERGYDION YN MOR Y BALTIC. Mynegir fod nifer o longau rhyfel a llong- au ymsuddawl perthynol i'r Germaniaid wedi eu canfod yn y Baltic, ac y clywid ergydion o gyfeiriad tueddau Sweden rhwng pedwar a phump o'r gloch foreu Llun. Creda trigolion trefydd y glanau mai Hongau ymsuddawl Prydeinig a eaetheot yn eu hymdreeh i dori drwodd. DYDD MERCHEK. BUDDUGOLIAETH BRYDEINIG ARALL YN FFRAINC. Bu ymladd caled ddoe o amgylch Lobo, a llwyddodd y Prydeinwyr i gymeryd tair t mil o Gennaniaid yn garcharorion, a. meddianu 40 o beirianau saethir. Maent yn gweithio i'it holl egni yn a-wi: yn 6Tbyn trydedd linell y Germaniaid. I'r dwyrain o Souchez, mae y Ffrancod yn dynesu at y mynyddoedd, aiNvf-di enill yno gorfoclir y Germaniaid i syrthio yn ol ar Lens. Mae ychwaneg o dir wedi ei enill yn Champagne, a defnyddir 1-1 i liynvyddo ymdaitli y Cynghreiriaid. YMLADD FFYRNIG YN RWSIA. Mae y Germaniaid wedi eu llanw a braw gan ffyrnigrwydd y Rw.-iaid yn ymladd, ac y mae y ddwy ochr yn bonderfynol. Mewn un pentref, lie yr ymladdwyd yn nghanol tai llosgodig, lladdwyd y Germaniaid oil -It deg. MAN ION. Mae amaethwyr Sir Gaer wedi casglu dros 2,000p. or mwyn cynorthwyo atnaethwyr tlawd yn Ffrainc, Serbia, a Belgium. 1-1 Hvd ddiwedd mis Awst, nifer gwyr y rheilffordd sydd wedi ymuno a'r fyddin ydyw 92,658. Casglwyd yn Awstralia 3,106,000p. mewn arian at wahanol achosion ynglyn a'r rhyfel hon. Penderfynwyd cyflogi gwragedd fel dis- y 11 ptn{en, ae ysgrifeuyddion yr ysbyttai milwrol. z, Nid oes prinder arian yn Manchester, oherwydd dengys yr ariandai ynglyn a'r yszoliot) dyddiol fod mil o bunau yn rhagor wedi eu rhoddi yn ngliadw gan blant yr ysgol- ion y dciau fis diweddaf na'r llynedd. Yn un o'r ysbyttai gorwedda milwr elwyf- edig o'r enw Alb. Ed. Allen; efe oedd y ieuangaf o saith. Mae ei chwech brawd wedi en 11 add naiil ai yn Ffrainc neu y Dardan- elles, a chlwyfwyd dwy o'i chwiorydd, y rhai oedd yn famaethod. Nid yw Cadben Felix Cassel, A.S. dros ran orllewinol Sant Pancras, wedi derbyn ei gyflog fel seneddwr oddiar yr amser bu yn derbyn ei gyflog fel Cadben yn y fyddin. Nid yw yn credu mai ia.wn ydyw derbyn dau gyflog am un qgruchwyliaeth. a Am fod y « Zeppelins' yn hedfan yn agos i High Wycombe, penderfynwyd diogelu yr Hen Eglwys rhag coHed trwy ergydion y gelyn. Swm y digollediad ydyw 60,000p. Rhag ofn iddo fod yu demtasiwn i lowyr golli eu gwaith, penderfynodd Cyngor Trefol Mansfield, Notts, ddirymu yr ochr bleserol o'r fleiriau yn misoedd Hydref a Tachwedd. L!ongyfarchwyd Mrs. Bull, Ventnor, Isle of Wight, gan y Brenin am fod ganddi wyth o feibion yn ymladd dros y wlad. Mae dros ddau cant o heddgeidwaid Leeds wedi ymuno a'r fyddin. Mae hyn yn cynwys dros y drydedd ran o'r nerth cyffredin. Penderfynodd Llywodraeth New Zealand ddanfon llong arall fel yapytty i'r wlad hon. Dyma'r ail sydd wedi dyfod o New Zealand.

Gan Llanbedr mae y goreu

Gan Llanbedr mae y goreu. Mae gan Llanbedr y prawf goreu yn bosibl, nid yn unig am ei fod yn cael ei ddwyn ymlaen gan ddrigianydd o Llanbedr, ond oherwydd fod blynyddoedd wedi myned heibio er pan roddwyd y prawf cyntaf, eto heddyw mae yn dal mor gadarn ag erioed, yn well mewn gwirionedd, gan pa brawf cryfach ellwch gael nag amser ? Ar Medi 6ed, 1911, tystiolaethodd Mrs. R IIlingswortb, o 8, Drovers' Road, gerllaw Capel y Wesleyaid yn Llanbedr :_U Mewn canlyniad i anwyd a gefais rai misoedd yn ol, dioddefaiB oddiwrth boenau llym ar draws fy nghefn, y rhai oeddynt yn flinderus iawn. Pwyntial arwyddion ereill at y ffaith fy mod yn dioddef oddiwrth anhwylder yr elwlenod hefyd. "Darfu i Doan'a backache kidney pills wneyd llawer iawn o lea i mi; gwnaethant fy nghefn yn gryfach, a theimlwn yn llawer iawn gwell ar ol cymeryd dognau o honynt. Gallaf gyflwyno y peleni gydag ymddiried- aeth i ereill, gan fy mod wedi profi eu gwertb." Ar Ebril 8fed, 1915-yn agos i bedair blynedd yn ddiweddamch-dwedodd Mrs. IUingsworthMae pe!eni Doan bob amser yn gwneyd lies i mi, a chredaf eu bod yn feadyginiaeth dda iawn. Yr wyf yn dweyd wrth ereill am roddi prawf ar y peleni os ydynt yn caei eu blino gan anhwylder yr elwlenod. Yr wyf yn dda iawn yn awr." Mae anwyd ac oerfel yn taflu baich trwm ar yr elwleuod, gan eu bod yn cau y chwys- dyllau, fel y mae yr anmhuredd ddylasai fyned allan drwy y croen yn gorfod cael ei waredu drwy gyfrwng yr elwlenod. Mae anwydau, felly, yn achosion cyffredin o an- hwylderau difrifol ar yr elwlenod a'r yawigen, ac y mae o'r PHYS mwyaf i gymeryd cwrs o'r peleni hyn pan yn gwella oddiwrth anwyd neu yr anwydwst. Bydd i hyn gynorthwyo yr elwlenod yn y gwaith mwy a osodwyd arnynt, a byddant yn rhagocheliadau rhag poenau yn y cefn, crydcymalau, grafel, dropsi, ac anhwylderau dyfrol difrifol. Pris 2s. 9c. y blyehaid; chwe' blychaid am 13s. 9c.; ar werth gan bob masnachwr, neu i'w cael oddiwrth Foster McClellai Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am backache and kidney pills,ofynweh yn bendant y n am Doan's backache kidney pills, yr un fath rai ag a gafodd Mrs. Illingsworth.

Y Llynges BrydeinigI

Y Llynges Brydeinig. I "DYDD Y PETHAU BYCHAIN." rODDIWRTII OIIEBYDD ACHLYSUROT.]. Dywedir yn fynych, ac y mae y dywediad yn wir, cnid yw, y dengys symudiad y I gwelltyn beth yw cyfeiriad y gwynt, Yn yr nn modd, iiferai Dr. Johnson dd'weyd nad oes rhaid bwyta yr holl clorth er profi ei chynwys: gwna un dafell y tro. Trwy ddrych nifer o ffeithiau 'bycbain' yn ami deuir yn ami o hyd i ddeddfau sydd yn llywodraethu trwy holl diriogaeth Natur. I Trwy ganfod a deall un amgyichiad syml y daeth Newton i ddirnadaeth o'r ddeddf anian- 01 sydd y tucefn i'r bydysawd anianol. Ond yn ami iawn y petbau bychain sydd yn dianc yn ddisylw ac yn amlach fyth pan fo darllenydd y newyddiaduron yn cael ei gyn hyrfu gan adroddiadau cyffrous parthed n '-symudiadau mawrion fe fydd y ffeithiau bychain '—er yn cynwys byd o ddyddordeb- mewn perygl o gael eu anghofio yn hollol. Ynghanol dwndwr mawr y rhyfel gadawer i ni edrych ar nifer fechan o ffeithiau arwydd- ocaol. Y chydig wythnosau yu ol yr oedd dines- vdd Americanaidd o'r enw Mr. Archibald ar gychwyn hwylio o New York i'r Cyfandir gxda'r bwriad o gynrychioli rhai o newydd- iaduron yr Unol Dalaethau ar faes y frwydr. Peth digon cyffredin yw cael gohebwyr Americanaidd gyda byddinoedd, ac, o ran hyny, gyda llyngesoedd y gwahancl wledydd. Yn wir, nid oes adroddiad mwy dyddorol wedi ymddangos yn ein holl bapyrau nag eiddo Will Irwin ar ol brwydr fawr Ypres. Nid oes gohebydd heddyw y gellir dibynu arno gyda mwy o sicrwydd nag y gellir dibynu ar Mr. Stanley Washburn—gohebydd Americ- anaidd sydd yn ysgrifenu i'r Times o Rwsia. Gohebydd Americanaidd o'r enw Mr. Palmer sydd wedi rhoddi yr adroddiad llawnaf partbed gwaith y Llynges sydd rhyw- le yn y M6r Gogleddol. Ac y mae ugeiniau ereill o ohebwyr o'r Unol Dalaethau mewn gwahanol ranau meusydd y rhyfel bresenol. Nid oedd y flaith fod Mr. Archibald am fyn'd o New York i Ewrop o un dyddor- deb anghylfredin. Ond y mae Llynges Pry- dain yn yr holl foroedd, ac yn effro i'w ry- feddu Pa'm y talodd ein Llynges sylw neillduol i'r Hong gludai Mr. Archibald ar ei bwrdd nid gwiw i ni yrnofyn; nac ychwaith paham y cymerai yr awdurdodau Prydeinig ddyddordeb yn y llythyrau a phapyrau ereill gaed yn meddiant Mr. Archibald. Ond felly y bu. Er ei fod yn ddinesydd Americanaidd, ac yn gyfaill i Brydain, fe gymerwyd Mr. Archibald yn garcharor droa dymor, ac fe aed yn fanwl trwy ei bapyrau. Gwyddom, erbyn hyn, beth oedd cynwys y papyrau dyddorol hyn. Y mae ein Llyw- odraeth wedi eu cyhoeddi er budd y byd, ac yn enwedig er bndd pob Americanwr demtir i ddynwared Mr Archibald. Eto ycbydig o ddyddordeb gymerir yn Mr. Archibald-y mae person llawer iawn mwy pwysig wedi ei wthio ef o'r golwg. Y mae un Dr. Dumba wedi cymeryd ei le yn llygaid y cyhoedd oblegid er syrthio o Archibald, Dumba gafodd y cwymp. Llys-genhadwr Ymerawdwr Awstria ydoedd Dr. Dumba, ao yn cynrych- ioli ei Ymerawdwr a'i wlad yn lIys yr Unol Dalaethau yn Washington. Fe ymddengys fod Dumba a Archibald yn deall eu gilydd, a chyfleus iawn i Dumba ydoedd gwneyd defn- ydd o Archibald, gan ei fod yn myned i Ewrop-i anfon papyrau cyfrinachol o Washington at Lywodraeth Awstria yn Vienna. Peth peryglus, yn y dyddiau hyn, ydyw danfon papyrau swyddogol o Lys-gen- adaethau Germani ac Awstria yn ol a blaen o'r America. Y mae pob siawns i'r cyfryw bapyrau swyddogol a chyfrinachol ayrthio i ddwylaw y gelyn Prydeinig f Eithaf cyfleus i Dumba ydoedd taith Mr. Archibald, yr hwn oedd yn sicr (!) iawn o fyned yn ddiogel, gan ei fod yn "gyfaill i Brydain Fawr, bid siwr. Ond fel y bu'r anffawd, fe syrthiodd Mr. Archibald a phapyrau Dr. Dumba i ddwylaw yr awdurdodau Prydeinig, ac felly y daeth y gath o'r cwd. 'Nawr yn ei adroddiad I cyfrinaohol I at ei Lywodraeth yn Awstria yr oedd gan Dr. Dumba ystori ddyddorol iawn i'w dweyd. Nid amgen na'r ffordd ddirgeJaidd yr oedd Dumba a'i weision wedi codi slreics mewn gwahanol ranau o'r Unol Dalaethau mewn gweithfaoedd oeddynt yn cynyrchu defnydd- iau rhyfel. Prydain Fawr a Ffraingc, gan mwyaf, a Rwsia, i fesur llai, sydd yn man- teisio ar gynyrch gweithfaoedd yr Unol Dal- aethau. Fedr Gormani nac Awstria ddwyn gwerth dimai o nwyddau Americanaidd dros V mor i Ewrob heb ganiatad Llynges Prydain Fawr. Felly at Brydain a Ffraingc a Rwsia yr anelai Dumba ei ergyd pan yn celsio codi strties yn America. Eitbaf gwaith i'n gelyn wrth gwrs, a chyn belled ag y mae â Phry dain a Dumba nid oes genym le i gwyno. Ond y mae gan yr Unol Dalaethau hefyd lais yn y mater, ac er fod yr America wedi dioddef llawer o bethau yn dawel iawn, ymddengys fod Llywydd y Talaethau wedi el gynyrfu i waelodion ei enaid gan y syniad fod Dumba wedi gwneyd y fath gamddefnydd o letygar- weh yr Unol dalaethau ag i ymyryd & llwyddiant masnachol y wlad trwy gosod streies ynddi. Felly fe gafod Dr. Dumba rybudd—er fod ei urddas fel Llysgenadwr Awatria yn fawr-fod yn rhaid iddo ymadael a'r Unol Dalaethau a myn'd adref i'w wlad ei hun. A bellach y mae yn rhaid i Dumba fyn'd Ond sut v medr ef fvn'd 1 Rhaid oedd iddo droi at Lywydd yr Unol Dalaethau a gofyn i'r Llywydd sicrhau id:o daith ddiogel.' Paham ? medd rhyw un. Wel, am y rheswm sym! fod mor mavrr a Uydan rhwng yr Unol Dalaethau a chartref Dumba yn Awstria, ac y mae Dumba yn ei adfyd yn syhve idoli gwir- ionedd anthem genedlaethol pob Prydeinwr. Tebyg iawn nad yw Dumba yn canu 'Britannia rules the waves,'ond y mae y ffaith yn gosod y dineod ar ei ddanedd. Rhai 1 hy t yn nod i Lywydd yr Unol Dalaethau ofyn caniatad Prydain Fawr cyn y medr sicrhau i Dr. Dumba daith ddiogel. Os bydd Prydain yn foddlon, pobpeth yn iawn fe 1 Dumba i'w le ei hun yn Awstria, ond os teimla yr awdur- I dodau Prydeinig fod yn rhaid rhoi gwersych- wanegol i'r Llysgenhadwr ymyrgar, druan o hono, rhaid iddo aros yn yr America er gor- fod ymadael o'r Unol Dalaethau, Fel yna y mae Llyuges Prydain Fawr yn Uywio'r Hi'. Nid yw papurau 'cyfrinachol' Mr. Archi- bald mewn un modd yn cytFwrdd a'r Count Bernstorff yr hwn sydd yn cynrychioli Ger- mani fel Llysgenhadwr yu Washington. Ond y mae un o'r un hil-o'r enw Cadben Von Papen—yn fath o was cynorthwyol iddo. Ac ymhlith y papurau 'cyfrinachol' wele rhal o adroddiadau Von Papen. Dywedai hwn wrth lywodraeth Germani ei fod wedi bod yn brys- ur iawn yn y gorchwyl o brynu i fyny ddefn- yddiau arfau rhyfel. Po fwyaf y prynai ef llai fyddai i gyfarfod ag anghenion Prydain, Ffrainc, a Rwsia. Felly ei waith ef ydoedd gwario miliynau o anr Germani er gwneyd y farchnad yn galetach yn erbvn gelynion of w lad. A bellach, meddai Von Papen, y gorchwyl nesaf ydyw cael gan rywun i brynu y defnyddiau sydd ar ei law. Gobeithiai dumpio y cyfryw ddefnydd ar Norway, a gwledydd eraill nad ydynt yn y cweryl. Pur ddigalon yw Von Papen yn ei gyffes nad oes modd yn y byd gyru y defnyddiau hyn i Ger- mani, yr hon sydd mewn mawr angen am danynt. Pam na wna yr hyn a ddymuna ? Wei, fe wyr Von Papen yn ogystal a Dumba mai Llynges Prydain Fawr sydd yn feistres ar y mor, a phe ceisioi Von Papen anfon llwyth o ddefnyddiau rhyfel i Germani buan iawn y syrthiai y llwyth i ddwylaw ein mor- wyr dewr. Fel hyn y celdw Llynges Prydain lwybrau y moroedd. Ac y mae y ffeithiau bychain hyn yn bur hyawdl, onid ydynt? Darllenwn yn ein newyddiaduron fod Hongau rhyfel Prydain yn cymeryd rhan yn y rhyfel-fod y gynau yn taranu on llongau ar luoedd Germani yn Belgium ac ar y Twrc yn Gallipoli, ac hyd yn nod yn Mesopotamia ar gyrrau Gardd Eden ei hnn, tra y mae Syr John Jellicoe yn dal Llynges Germani yn garcharor yn Kiel. Ond wrth sylweddoli fel y mae y moroedd yn gauedig i. fasuach y gelyn tra yn hollol rydd i ni a'n eyfeillion, y sylweddolwn yn Hawn beth yw gwerth Llynges Prydain Fawr i ni. Hyn sydd y deilliaw o wladgarwch y gwyr lafuriasant i gadw ein Llynges yn gryf ao yn barod." Hyn sydd yn deilliaw o waith cym- deithas fel Cynghrair y Llynges yn Llnn- dain, sydd wedi bod o ddifrif am flynyddoedd yn gwneyd y cyfryw waith gwladgarol. Ac heddyw y mae yr holl wlad yn medi lie yr hauodd yr ychydig.

LLANWRIN

LLANWRIN. AFIKCHYD.—Drwg genym fod Mr. Richard Hughes, Clochydd, a dosbarthwr ffyddlon y LLAN, wedi ei gyfyngu i'w wely gan afiechyd trwm er ys wytbnosau bellach. Eiddunwn iddo adferiad buan.

LLUNDAIN

LLUNDAIN. BGLWYS ST. BBNET, QTJHFIN VICTORIA ST., B C. Cynhaliwyd ein Gwyl o Ddiolchgarwch ar y 26ain a'r 27ain o Fedi. Dechreuwyd fel arfer gyda ein Gwasanaeth uwcbaf. sef y Cymun Bendigaid, pryd y daeth nifer galonog ynghyd. Yn dilyn cawsom y Weddi Foreol a phregeth. Yn y prydnbawn, llafarganwyd y Litani, a thraddodwyd pregeth Seisnig. cl 9. Yn yr hwyr am (j 30, y Weddi Brydnhawnol a pregeth. Daeth cynulliadau campus yngbyd yn enwedig ;ios Sul, pryd yr oedd pob maino a chadair yn llawn, a defnyddiwyd grisiau y Gallery i eistedd amryw wrandawyr. Nos Lun etc, cawsom wasanaeth melus, a chynulleidfa gref. Llafarganwyd gwasan. aethau y Sul gan y fieer, y Parch. J. Crowle Ellis, a nos Lun gan y Parch. W. Griffith, St. Padarn. Darllenwyd y llithiau ddydd Sul gan y Mri. Thomas Jones, C.M., a W. Owen, a nos Lun, gan y Parch. H. Watkins, St. Rbystyd. Ein pregethwr neillduol eieni oedd y Parch. W. liar Edwards, Caerfyrddin. Cawsom dri o unawdau melus, awynol ac add as gan Madame Teify Da vies, Mrs. Gwilym Thomas, a Mr. W. Emlyn Edwards, L.R.A.M. Rhoddasant i ni o'u taJentau goreu, ac mae hyny y siarad llawer. Gwnaeth y cor eu rqan hwythau fel arfer yn gatnpus; canwyd Haleliwia i'r Goruchaf' yn dda. Yr oedd rhyw deimlad dwfn o eueiniad Dwyfol yn rhedeg drwy yr oil o'r gwasanaethau. Cyn- orthwywyd Clwydian, yr organydd, gan Mr. S. Brown fel arfer. Ni ameanwyd elenl i addurno yr hen Eglwya hardd yn y modd arferol, ond edrychai yr hyn wnaed yn ardderchog. Diolch i'r ychydig aelodau ffyddlon a wnaethant hyn. Gofynwyd am gasgliadau da eleni, a llawenydd mawr geoym hyspysu ddarfcd i bawb oil gyfranu yu hael fel dangoseg eglur o'u gwir ddiolchgarwch drwy i ni gael y casgliadau goreu a gafwyd erioed ar yr wyl hon. Sylwasom hefyd ar y Parchedigion W. Davies, D. Griffiths, St. Mair, a T. Smith, Dewl Sant, yn yr Eglwys.