Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
18 erthygl ar y dudalen hon
Parhad o tudalcn 1

(Parhad o tudalcn 1). Tyrciaid, a hyny yn ngwyneb yr erchyllderau a ddangoswvd tuag at ddeiliaid distaw a heddychol teymas arall. Dywedodd Ar- glwydd Crewe nad oedd unrhyw fanylion -yddogol wedi eu derbyn, ond nid oedd arn- heuaeth nad oedd cyflafau erehyll wedi ei chyflawni, a cnyfeiriodd at adroddiad y llys- genhadwr Prydeinig fod lioll breswylwyr Sarum wedi eu difodi. Yr oedd yr ymosod- iadau wedi eu cauio allan drwy yr holl wlad, ac ychydig a ddiangodd. Derbyniodd un dir- iogaeth 160,000 o ymnoddwyr yn dioddef oddi- wrth afiechyd, ac yn newynu, a dywedid eu bod yn marw yn ol cant y dydd. Dywedid fod goruchwylwyr Germanaidd yn dystion o'r oigydd-dra, oe nad yn anog y mileiniaid a garient ymlaen yr erchyllwaith. Mynegodd Arglwydd Bryce nad oedd yn ameu gwir- ionedd y ffigyrau, a'i fod yn wfr i 800,000 o drueiniaid golli eu bywydau oddiar mis Mai diweddaf. Amgylchynwyd 11u mawr o Armen- iaid, ag wedi i'r dynion oil gael eu saethu, a, gorymdeithiwyd y gwragedd a'r plant i'r dwy- rain o Aleppo ar draws y diffaethwch. Ni roddwyd unrhyw ymborth fddynt, a bu llawer farw o newyn. Tynwyd ymaith ddilladau y gwragedd, y rhai a luchiasant eu plant, gan nas gallent eu cario yn mhellaeh, ac yr oedd y flyrdd yn orchuddiedig a chyrff. Der- byniwyd gorchymynion o Gaercystenyn fod yr holl Armeniaid i gael eu hymlid o'u car- trefi, eu gosod mewn llongau yn Trebizond, eu cymeryd beth pellder i'r Mor Du, a'u taflu i'r mor. Yn y modd hyn, dinystriwyd o 8000 i 10,000 mewn un prydnawn. Yn ym- arferol, mae yr holl genedl wedi ei hysgubo ymaith, ac ni chyflawnwyd y fath erchyll- waith erioed o'r blaen.

Y GERMANIAID WEDI CROESI Y DANUBE

DYDD GWENER. Y GERMANIAID WEDI CROESI Y DANUBE. Dywedir fod y Germaniaid wedi dechreu ar eu taith yn nghyfeiriad Caercysteynn, ac wedi croesi y Danube, gan sicrhau safle gadarn yn Serbia. Er's rhai dyddiau, mae awyrenwyr y gelyn wedi bod yn fywiog iawn mewn gwahanol ranau o Serbia, ac wedi ehedeg droe Nish, y brifddinas bresenol, ac ymlaen i Bwlgaria. Brysneges ddoe a hysbysa fod milwyr Pryd- einig wedi glanio yn ddiogel yn. Salonica dydd Mercher, ac y mae llawer ereill i gael eu hanfon yno eto.

Y GERMANIAID A BWLGARIA

Y GERMANIAID A BWLGARIA. Gan fod Bwlgaria wedi gwrthod yn b' ndant gydymffurfio a. chais y Cynghreiriaid i dori eu cysylltiad a Germani, mae llysgenhadon Jtali, Rwsia. Ffrainc, a Phrydain, a Serbia. yn ymadael o Sofia. Fel arler, dywedir nad oes unrhyw -wyddogion Gcrmanaidd gyda'r I Bwlgariaid.

DYDD SADWRN

DYDD SADWRN. YMLADD YN SERBIA. Brysneges o Nish a hysbysa fod y German- iaid wedi croesi yr afon Save yn Zarak, ynys Proparska yn Zabrej, ac ynys fawr Cigaulia. Ar y Danube, glaniasant gerllaw amddi- ffynfa Belgrade, ac hefyd yn Ram. Gyda .golwg ar y blaen-filwyr Germanaidd a groes- asaiit yn Belgrade, lladdwyd rhan fawr o honynt, tra y cymerwyd y gweddill yn gar- eharorion." Yn Zarak a Zabiej, ac yn ynys Progarska, ar ol llawer o ymosodiadau ffvrnig, gwthiwyd y gelyn i lanau yr afon, a d iocldefa.sant golledion trymion. Cymerwyu Uuaws o Bwvddogion a chant o filwyr Ger- manaidd yn garcha.rorion yn Belgrade.

MEDDIANIAD BELGRADE GAN Y GERMANIAID

DYDD LLUN. MEDDIANIAD BELGRADE GAN Y GERMANIAID. Dengys adroddiadau y Germaniaid ,u bod wedi meddianu Belgrade, prif ddinas y Serbiaid, ynghyd a'r uchelderau i'r de-ddwy- rain a'r de-orllewin. Yn mhellach i'r dwy- rain. mae y Germaniaid yn gwthio ymlaen i'r de o'r Danube, ar y gwastadedd niae'n debyg a red bob ochr i'r afon Morava. Wrth ddilyn cwrii yr afon hon, cyrhaeddir Sofia a Chaercystenyn. Am tua chan' rnilldir. yn y rhan hon mae Serbia yn wlad hawdd iawn i gario brwydrau ymlaen, ond i'r de-ddwyram Serbia mae y ffyrdd yn anhygyrch, a llawer o anhawsderau i'w gorchfygu. Adroddir yn swyddogol fod Mackensen a Gallwitz, y rhai ,-Iclaethant o'r ffrynt Rwsiaidd, yn llywyddu y gweithrediadau.

GLANIAD MILWYR YN SALONICA

GLANIAD MILWYR YN SALONICA. Nid oes manylion ychwanegol wedi cyraedd am laniad y Cynghrei tiaid yn Salonica yn ddiweddarach na ddydd Iau, pan y glaniwyd .12,000 yn ddiogel, a'r unig newyddion a dder- byniwyd ynglyn a byddin Bwlgaria yw eu bod yn vmgaisglu yn barhaus i ganolbarth Serbia.

CYNLLWYNION Y GERMANIAID

CYNLLWYNION Y GERMANIAID. Mae Syr Francis Elliott, y llysgenhadwr Prydeinig yn Athens, wedi datguddio man- ylion cytundeb dirgelaidd y daethpwyd iddo rhwng Germani a Bwlgaria, drwy yr hwn, ymhlith pelhau ereill, y trefnid fod i Groeg gael ei hamddifadu o'i thiriogaethau yn Macedonia, yn cynwys Salonica a Kovala. Gwnaed y datguddiad, mae'n debyg, wedi i Groeg ddatgan i'r Cynghreiriaid fod ei an- mhleidgarwch arfog i barhau, a'i chyfaddasu yn ol yr hyn all ddigwydd. Sylwa un o nt v-rddiaduron Paris fod y Germaniaid yn gwelthredu tra y mae y galluoedd Cynghreir- iaid yn ymdrafod.

YR YMLADD YN FFRAIATC

YR YMLADD YN FFRAIATC. Rawlia y Germaniaid eu bod v. e i adfedd- ianu rhai ca.noedd o latheni o uir gerliaw Tahure, yn Champagne, ar ffryr.t o ddwy filldir a. haner. I'r de o Souchez ymffrostiant eu bod wedi adfeddianu rhai ffosydd oddiar y Ffrancod. O'r ochr arall, dywed Syr John French fod ein milwyr dewr wf di gw..tl)- weithio yn hollol ymosodiadau y Germaniaid ar yr oil o'r ffrynt yn La Bassee, gan fedi y Germaniaid i Jawr, a pheri colledion alaethu.s iddytit. Yn ychwanegol at hyn, llwyddodd y Cynghreiriaid i feddianu tua mil o latheni o dir i'r g2gledd-ddwyrain o Loos.

YMLADD CALED YN RWSIA

YMLADD CALED YN RWSIA. Adroddir fod ymladd caled yn cael ei gario ymlaen er's wythnosau o amgylch Dvinsk, ar ffrynt ogleddol y Rwsiaid. Mae y Rwsiaid wedi arddangos dewrder dihafal ar hyd yr holl amser. Yn Volhynia a Galioia mae y Rwsiaid yn ymosod yn egniol, ac wedi 811ill amryw safleoedd oddiar y gelyn. Hefyd maent yn gwneyd yr oil a allant i atal y Germaniaid a'r Awstriaid i anfon ychwanog o filwyr i Serbia.

COLLEDION GERMANAIDD YN LOOS

DVDD NfAw;trfi COLLEDION GERMANAIDD YN LOOS. Cadarnha adroddiadau Ffrengig fod colled- ion y Germaniaid, ar ol eu hymosodiadau ar y byddinoedd Prydeinig a Ffrengig yn Loos, yn aruthrol. Ameangyfrifir eu bod wedi gadael wyth mil o gyrff ar ol. Gwasgarwyd y gelyn a ymosododd ar Tahure Hill. Bu ymosodiadau gyda bombs a thorpedos awyrol yno. Adfeddianodd y Ffrancod y gwarchffosydd ar ffrynt Reillon Cintrey yn Lorraine Dywed y Pencadlys Germanaidd fod ym- osodiadau cryfion y Prydeiniaid i'r gogledd- ddwyrain o Vermelles wedi bod yn fethiant, a'u bod wedi llwyddo i wrthsefyli ymosod- iadau y Ffrancod yn Champagne a Lorraine.

Y SEFYLLFA YN RWSIA

Y SEFYLLFA YN RWSIA. Honid yn Berlin fod y Rwsiaid wedi methu yn eu gwahanol ymosodiadau, a'u bod hwythau wedi cymeryd pymtheg can o gar- charorion.

MILWYR SERBIA YN YMLADD YN DDEWR

DYDD Mercher. MILWYR SERBIA YN YMLADD YN DDEWR. Mewn arat;th a draddododd yn Senedd Firainc dydd Ma wrth, hysbysodd M. Viviani, y Prif Weinidog, fod y llywodraethau gor- llewinol wedi pendeifynu cymeryd mesurau egniol i gynorthwyo Serbia. Bydd i Rwsia hefyd gynorthwyo, a gwneir pob ymdrech i ddarostwng y Germaniaid, Awstriaid, a Bwl- gaxiad. Daw yr hysbysrwydd calonogol hwn ar adeg ddfrifol iawn yn banes Serbia. Ar hyn o bryd, ymosodir ar Serbia ar ddau ffrynt, a dydd Llun ymosod wyd ar y Serbiaid gan y Bwlgariaid i'r gogledd- ddwyrain o Nish, ond ni pharasant unrhyw niwed.

MEDDAINIAD SEMENDHIA GAN Y GERMANIAID

MEDDAINIAD SEMENDHIA GAN Y GERMANIAID. Adroddir fod y Germaniaid wedi meddianu tref ac amddiffynfeydd Semendria. Mae y Serbiaid yn rhoddi profion eglur o'u galluoedd milwrol, a llwyddasant i yru y Germaniaid yn ol i gyfeiriad y Danube, ac ar yr uchel- derau i'r de o Belgrade gyrasant y German- iaid ar ffo gyda cholledion trymion.

GORUCHAFIAETH IR RWSIAID

GORUCHAFIAETH I'R RWSIAID. Derbyniwyd y newydd calonogol fod y Rwsiaid wedi enill buddugoliaeth ardderchog ar yr afon Strypa. yn Galicia.

MAN ION

MAN ION. Penderfynodd ma?nachwyr Walton-on- Thamc-s i gau y masnachdai yn ystod yr awr giniaw tra parna y rhyfel. Derbyniodd Cymdeithas Carnival Hamp- stead 'asyn' fel rhodd. Rhoddwyd yr enw Kaise-r' iddo., a bwriedir ei ddefnyddio i ddwyn milwyr clwyfedig oddiamgylch. Mae yna yn agos i haner cant o feddygon o ardal Brighton yn gwasanaethu mewn rhyw fod neu gilydd ynglyn a'r rhyfel. Danfonwyd cheque am 400p. gan Gymdeithas y Maenseiri Rhyddion yn Hull tuag at sicr- hau 'ambulance car' at wasanaeth y byddin- oedd. Mae Mat.res Oldham, Mrs. Lees, wedi pen- derfynu gweithio fel arweinydd ar y trams yn ystod^yr alllery bydd ei gwr yn faer y ddinas. Mae gan Mr. R. A Gumey, 29, Northgate Street, Aberystwyth, saith o feibion yn gwas- anaefhu eu Brenin a.'u gwlad, a thri o wyrion. Gwelir un ar ddeg o ferched ieuainc wedi e* cyflogi i gario llythyron yn ardal Wimble- don. Mae plant yr ysgolion dyddiol yn Rhyd- ychain wedi cytuno mai buddiol fydd rhoddi yr arian a ddefnyddir yn flynyddol at wobr- wyon yn y 'War Loan.' Pan ddygwyd Arthur W. Peyman gerbron .9 yr ynadon yn Llys Greenwich am fod yn ab- senol oddiwrth ei gatrawd yr oedd ei fam yn alluog i brofi mai dim ond 14 mlwydd oed oedd efe, er ei fod wedi rhoddi ei oedran wrth ymuno fel 19. Casglodd Esgob Stephens 56 o adfilwyr ddydd Sadwrn unveddaf ar faes y bel droed, Clapton Orient. Gwr da yw Dr. Paget, yn cael ei addoli bron gan drigolion yr East End. Bwriedir ffurfio catrawd o amaethwyr yn ngogledd Lloegr. Adnabyddir y gatrawd fel I 'Y Yeoman Rifles,' o dan awdurdod Due Faversham. I Iviaje'r Pab wedi danfon neges at y gwledydd sydd yn ymladd a'u gilydd, gan ofyn iddynt beidio gorfodi'r carcharorion milwrol i weithio ar y S iil. Dygwyd Janh's Rowlands o flaen ynadon Bangor am fod yn ahsenol o'i gatrawd heb ganiatad. Rhoddodd fel rheswm ei fod wf'di I gofyn am ganiatad i i'yned i weled ei wraig, ond gwrthodwyd ei gais am fod gafr y gat- rawd yn ei ofal.

Y Gorlan Dramorol

Y Gorlan Dramorol. DYDD SANT LUC, EFENGYLYDD A PHYSIGWR. Ar y d leunawfed o'r mis hwn detblir gan yr Ey:lw\ 8 goffadwriaeth Sant Luc, a naturiol yw i'r adran feddygol gysylltu ei gwaith mewn gweddi ac ymbil ar y dydd hwnw. LlYliedd, pan syrthlodd y dydd ar y Sul, cafwyd gau 400 o Eglwysi i wneyd sylw riibenig o'r gwaith, ac i roddi casgliad, pe ond easgliad yn y Cymun y bore. Gobeithio y ceir mwy o sylw elenl, canys gorfu i'r General Fund dalu dros .£2000 i'r adran hon. Eleni, naturiol yw talu mwy o sylw pan gofiwn am waith ein meddygon a'n mamaethod yn y rhyfel. Yr wythnos ddiwedclaf darllenwyd am aberth un nurse Gymreig, ssf Miss Mary Gwendolen Davies (iechyd i'w chalon a henditb y Nefoedd ar ei phen) yn rhoddi ei chorff er mwyn treio experiment newydd sut i rthladd effeithiau y nwy gwenwynig a ddefnyddir gan y Germaniaid. Dyma aberth yn deilwng o'i restru ar lyfrau'r nefoedd. Canmolwn hi, efelychwn hi, ond onid oes, yr un ysbryd yn cael ei ddangos gan ein medd- ygon a'u nurses ar y maes cenhadol 1 Aberth- ant eu bywydau ar allor gwasanaeth i'w Dnw a'u cyd ddynion. Rhoddant o'r neilldu y syniad am safleoedd uchel yn y wlad yma, unt allan i dywyll leoedd y ddaear—gwyneb- ant oerni a gwres, llafur a lludded, afiechyd ac angau, er mwyn enw ein Meistr a Physig- wr Mawr enaid. MeddyHwn am danynt ddydd Sant Lue nesaf.

ErN PRIF AGHENA OE8 MODD IW DDIWALLU

ErN PRIF AGHEN-A OE8 MODD I'W DDIWALLU? (L) Mae goruchafiaeth yn sicr yn y pen draw. 0 dan gymylau duon mae gwas Duw yn sicr yn ei galon; yn nydd trallod a chysgod gorfoledda yn ei Dduw. Pob peth a ddar- ostyngir iddo. Efe a deyrnasa. I Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y mor.' Ond, pa bryd, 0 Arglwydd, yr ymddangosi gyda Ilewyrch dy ddyfodiad ? Pa bryd y deui yn dy nerth i deyrnasu ? Popbeth a ddisgwyl- iant wrthyt Ti. Ti yn unig wyt Awdwr tangnefedd a phob bendith yn y byd gortbrymus hwn. Hebot Ti nid oes i ni yr un gobaith. 0 Arglwydd, pa hyd pa hyd? Gyda'r fath ddeisyfiadau ac erfyniadau yr edrychwn ymlaen at ein gwaith y gauaf hwn. Pa betb a d iigwydd? A ydym yn myned i lafurio ddydd ar ol dydd, disgwyl am yr un fath i ddigwydd ag yn y gorpbenol, neu a oes yna amlygiad newydd o nertb yspryd Duw i'w ddisgwyl, rbyw ddatguddiad o'r presenol- deb Dwyfol ymhith ei bob!, fel y gorfodir y byd i ddweyd, I Wele, dyma lie mae Duw.' Hyn a wnaeth Duw Amcanwn yn yr ysgrif hon i ystyried ein prif angen, ac a oes modd i'w ddiwallu. (ii). Nid oes ond priu angen ein hadgofio o'r sefylla, canys yr ydym yn byw mewn amser- oedd na welodd y byd mo ei gyffelyb. Cynefindra a'r sefyllfa yw ein perygl mwyaf, felly tra ein bod yn gwynebu'r cwestiwn gweddiven am galonau fo'n teimlo a llygald fo'n gweled. Yr ydym yn byw tnewn amser lie gv.elir cyfnewidiadau. Yr oedd hyn yn wir cyn y rhyfel. Symudiadau mawrlon yn llawu o bosiblrwydd anherfynol er drwg neu I er da yn gorlifo dros y byd cenedloedd yn codi ae eraill yn cael eu darostwng; yr hen vn myned heibio a phobpeth yn newydd. Oiid a yw y byd newydd i fod yn well byd ? A ydyw teymas Dduw yn myned i ddyfod yn ei uerth 1 Awr ydyw yn hanes y byd pan mae pobpeth yn y glorian. Yn feddyliol, mae'r hyd yn deffro. Mae gwybodaeth y gorllewin yn gorlifo dros y Dwyrain, ac y mae eisoes fel afonig fechan wedi cyraedd yr Affrig ac yn eyflym ymchwyddo. Ceir ysgolion, colegau a sefydliadau addysgol ereill yn ymddangos yn mhob man-a beth fydd y canlyniad ? A ydyw gwybodaeth o hono ei hun yn myned i achub y byd ? neu yn hytrach onid yw yn myned i ychwanegu peryglon ? Meddylier am AfFrica ac Asia yn cael eu diwyllio o ran meddwl ond heb eu hail eni—yn bercbenog ar lawer o wybodaeth ond beb yr un path angenrheldlol,' sef ofn Duw, yr hyn ydyw dechreuad doethlneb. Ar y Haw arall bydd addysg wedi ei drwvtho & dvsgeidiaeth Iesu Grist yn I godiad pen' iddynt, ac yn allu i'w puro. Gwelir gobeith- ion a dyheadau newyddion yn mhlith menywod llawer o genedloedd. Mewn gwlad ar ol gwlad canfyddir anesmwythdra a phen- derfyniad i ymryddhau oddi wrth hen lefeth- eiriau a'u cadwasant yn y gorphenol mewn anwybodaeth ac anobaith. Ceir yn eu plith awyddfryd i gymeryd eu lie yn y bywyd newydd. Rhaid i hyn fod felly yn ol natur pethau, canys crewyd benyw i fod yn gydym- aith i ddyn ac nid ei forwyn. Yn y symudiad hwn ceir elfenau yn llawn o obafth ac o an- obaith. Ceir yn y mudlad hwn bosibilrwydd er daioni, a cheir ynddo hefyd elfenau dinystr- iol. Nis gall neb ddiwallu ond Efe, yr hwn er ystalm a ddywedodd, Wraig, paham yr wyli ? Pwy wyt ti yn ei geisio ? Yn Nghrist yn unig y cyrhaedda y aymudiad hwn ei hafan. Eisoes mae pobloedd wedi sylweddoli beth yw hunan-ymwybyddiaeth cenedlaethol. Daw cenhedloedd fu gynt yn anghysbell trwy am- gylchiadau daearyddol ac ieithyddol, yn agos at eu gilydd. Mae oes y meudwyaeth cenedl aethol wedi myned am byth. Ceir gobeith- ion a dyheadau newyddion, ceislant ymgyfath- rachu yn mrawdollaeth y cenhedloedd. Yn y symudiad cenedlaethol hwn ceir galluoedd, y rhai, os arwelnir hwynt gan ddelfrydedd Cristionogol, a fyddant yn gynorthwy i gario ymlaen Deyrnas Dduw fel ar frig ton rymus, tra, ar y Haw arall, heb ddylanwad Crist a'i ddysgeidiaeth gallant rwystro oynydd y deyrnas. Nis gelllr rhwystro mudiadau o'r fath hyn yn myd y meddwl a bywyd, a rhaid iddynt gynyddu, ond os na ellir eu rhwystro, gellir eu puro a'u harwain. Medr symudiad gwerinol arwain I ddyryswch cyuadeith- asol ac i chwyldroad. Medr y symudiad benywaidd arwain i beryglon moesol, a medr symudiad cenedlaethol arwain i anghydgord a rhyfel. Heb eu trwytho gau alluoedd ysbrydol, medr y symudiadau hyn ddwyn y byd i annibendod nas gellir ond prin ei ddirnad. Fel yr edrychwn i'r dyfod,)l a cheisio darllen ei hanes, gwelir nn o ddau beth Crist yn teyrnasu ynte y byd yn ben- ben ac yn Babel o ddyryswch. Onid oes yn hyn her (challenge) i Eglwys Iesu Grist ? (Hi.) Sut mae symudiadau o'r fath hyn yn effeithio ar fywyd crefyddol ymhlith cenhedl- oedd anghristionogol 1 Fel y meddienir y cenhedloedd hyn gan ddyheadau newyddion, cryfaf i gyd ydyw eu Langen am grefydd po mwyaf y taenir gwybodaeth gwanaf i gyd ydyw }or afael sydd gan yr hen grefyddau ar eu deiliaid. Golygfa bruddaidd mewn llawer ystyr ydyw gweled arweinwyr meddylgar y cenhedloedd hyn yn sylweddoli yr angen am alluoedd moesol i'w harwain yn eu deffioad, gan wybod nad oes yn yr un o'r hen grefydd- au ddim a fedr gyfateb ac a all ddiwallu y sycbed newydd greir gan y defFroad. Mewn amser o'r fath gwelant "glwys Crist yn eu gwlad, bach mewn nifer o bosibl, ond yn llawn bywyd. Gwelant fod ganddi allu ys- brydol, i alluogi dynion i fod yn anrhydeddus a sefydlog, pur, ac anhunanol, ac i feithrin cymeriad sydd yn angenrheidiol* er dadblygu eu gwlad. (Iv.) 0 na allem orphen yma Gyda dlolch garwch rhaid i ni gydnabod fod gwaith y cenbadwr yn y fath le yn ami yn cael ei ad- gyfnerthu trwy fuchedd a thystiolaeth llawer i reolwr Cristionogol, neu filwr, neu far-, siandiwr. Ysywaeth, nid yw hyn yn wir bob amser. The work of our Missions is not only under manned, but is also under mined. Tystiolaeth gymysg ydyw eiddo yr Eglwys Gristionogol mewn gwledydd anghristionogol, ac mae gwaith y cenhadwr yn ami yn cael ei niweidio gan ei gydwladwyr. Mwy na hyn, edrycha arweinwyr y gwledydd hyn i'r wlad o ba le y daeth y cenhadon. Mae Prydain ar y Hwyfan, barnant nerth Cristionogaeth fel yr amlygir hi yn ein bywyd eyhoeddus, cymdeith- asol a gwleidyddol, esiampl Prydain yw y dyst- iolaeth a dderbyniant o Efengyl Iesu Grist. Mae angen adfywiad ysbrydol yn yr Eglwys, nid yn unig er mwyn adyfnerthu ein gallu- oedd cenhadol, ond hefyd fel y dadorchuddir nerthoedd y gorchfygedig Iesu yn ein bywyd cedediaethol, Arweinir ni felly ar bob Daw i ergyd ein neges mai angen arbenicaf y byd yw adfywiad yn mywyd ysbrydol yr Eglwys. (v.) A ellir cyflenwi yr angen hwn ? A ydyw yn rhan o walth cymdeithas genhadol i geisio eyfarfod &'r angen1 Dyma gwestiwn calon- rwygol i bob un yn bersonol, ac i'r Eglwys fel cyfangorff I'w wynebu. Os ydym yn credu fod pob enaid sydd heddyw yn gyr- aeddadwy i Efengyl ei ras yn werthfawr yn ngolwg ein Tad nefol, ac o fewn poslbilrwydd I gael ei lanhau a'i dderbyn trwy yr Un Aberth iawnol; os yr ydym ni yn y C.M.S. yn credu yn ddiysgog fod Duw yn disgwyl i ni fel Gymdeithas i gymeryd cin rhan i gario allan fwriadau Ei gariad os yr ydym yn credu fod mesur gallu Eglwys i gyflawni am- can Duw yn y byd yn gymesur i'w bywyd ysbrydol, yna nid yn unig y mae yn ddoeth, ond yn ddyledswydd arnom i ganolbwyntio ein holl feddwl a'n gweddiau, ein ffydd ac holl amcan ein bywyd ar yr un peth hwn— adfywiad yn mywyd ysbrydol yr Eglwys. Beth a olvgir wrth "adfywiad ysbrydol "cynydd gwir grefydd t" Dirn Ilai na dy- hldllad neu arllwyslad o'r Ysbryd Glan yn unol ag addewid Duw Ei Hun. Gwaith yr Yøbryd ydyw argyhoeddl o bechod, agorlad llygaid y pechadur fel y gwelo Groes y Gwaredwr a byw, a sancteiddhad. Gwaith El ddwylaw Ef ydyw sancteiddio ein holl berthynasau dynol—bwrw allan ddrygioni a dwyn i fewn heddwch a cbyfiawnder,-ys- brydiaeth a nerth i gyflawni gorchymynion yr Arglwydd hyd derfynau eithaf y ddaear. (vi.) Betb, tybed, ydyw yr amodau angenrheid- iol os yw yr Eglwys i dystiolaethu gyda nerth trwy yr Ysbryd ? Gydag ymostyngiad isel yn y llwch rhaid i ni gyfaddef y gwydd Dm yr amodau, ac eto mor lleied ydym wedi eu eyf- lawni. Ni wnaf ond adgofio fy bun a'r dar- llen wyr o dri o henynt, pob un o honynt, trwy ras Duw, yn bosibl i'w cyflawni (a) Giveddi.-Nid oes angen pwyaleisio ar I hyu,-nid oes an £ n ysgrlfenu ar gyraedd- iadau gweddi, ond yn unig sylwi (fel un yn bersonol wedi methu" llawer). Gawn ni, o ddydd i ddydd, YL ystod y gauaf hwn geisio gOSOf ,weddl yn ei le priodol yn eiro bywydau -go ac yn ein gweithgarwch Eglwysig ? (\¡7.d yw yn hosibl i gael cynhadledd blwyfol o'r cymun- wyr i ymdrin a'r gwestiwn o'r fath hwn Sut i ddadblygu bywyd gweddi yn yr Eglwys.' Mae y rhyfel wedi creu dymuniad angerddol yn y bobl am hyn. Disgwyliant am arweiniad. Gelllr gwneyd llawer o ddefnydd on gwasanaethau ymbiIiadol nen gyfarfodydd gweddi. Symlrwydd y cynllun hwn yw yr anhawsder penaf. Hefyd yswil- dod a'r ymwybodolrwydd o fethiant yn y gorphenol. Hyn sydd sicr: mae adfywiad ysprydol yn cael ei ragflaenu bob amser gan weddi. (b) Cariad.— Mae chwertfder, anghvdfod ac yspryd barnllyd yn tristhau ac yn diffodd yr Yspryd. Gwir nas gall pawb edrych ar bethau o'r un safbwynt. Gyda'u gwahanol dymherau, addysg a dygiad i fyny, ceir lIawer o amrywiaeth mewn dynion. Rhydd Duw wahanol ddoniau i ddynion ar gyfer gwahanol gylchoedd. Ni fwriadwyd I ni feddwl yn hollol yr un fath, ond medr unigolrwydd pob aelod gryfhau yr holl gorph pan y byddwn yn addvsgu ac yu oryfhau ein gilydd. Ar y llaw arall, os ceir diffyg ymddiriedaeth, anealldwr- iaeth a diffyg cydymdeimlad y naill tuag at y Hall, mae yna berygl yn ein gwahaniaethau. Cariad yw ein gobaith a'n aryfder; tra rhag- farn a diftyg ymddiriedaeth yw ein gwendid a'n hanobaith. Lie bo cariad medr yr Yspryd fyw a gweithio. (0) Ufudd-dod.—Rhydd Duw el Yspryd i'r rhai sydd yn ufuddhau Iddo. Disgwylia Crist i ni fod yn dystion i'w enw. Nid yw eyfritnu i gymaeithasau fel y gallo eraill dystio yn gwneyd i ffwrdd a'n cyfrifol- deb personal o dystio. Y rhai hyny sydd yn teimlo en cyfrifoldeb dros eneidiau o'u ham- gyluh a deimlant hefyd eu cyfrifoldeb dros eneidiau yn ngwledydd pellenig. Onid yw yn bosibl i ni yn ystod y gauaf hwn lwyr ym- roddi ein hunain i weddi am dywalltiad o'r Yspryd Glan-ceisio cynal yspryd tangnefedd a cbysegru ein hunain o'r newydd i fod yn dystion dros Iesu Grist ? Felly y'n ceir yn dwyn i ben brif angen y byd, sef adfywiad I ysprydol yn yr Eglwys. (viii). Mae adfywiad ysprydol yn yr Eglwys yn y el ymddibynu ar adnewyddiad yn yr unigolion. Mae pwe'au gras Duw yn cael eu rhyddhau trwy fncheddau dynion a gwragedd sydd yn credu ynddo ac a ildiant en hunain Iddo. Pa ran sydd i ni fel cymdeithas yn hyn ? Fel rhai sydd mewn cysylltiad a'r byd anghrist- io ogol ac a'r Eglwys Gristionogol rhaid i nl dvstiolaethu yu bendant, yn ddifrifol a dyfalbarhaol wrth bawb am anghenion y byd sydd yn gorwedd mewn tywyllwch. Tystio fod miloedd heddyw yn gyrhaeddadwy i'n cenhadon, a bod meusydd mawrion yn wynion i'r cynhauaf. Rhaid i ni gelsio dwyn adref I ddynion beth yw gogoniant galwedigaeth yr Eglwys, a'u braint a'n dyledswydd ogymeryd ein rhan yn y gwaith hwn. Yn fwy na'r cyfan, rhaid i ni geisio hyr- wyddo yr amodau hyny a arweinlant yn tin- iongyrchol at arllwysiad o allu Duw a dad- orchuddlad o'i ogoniant. Anhawdd dirnad gwerth arweiniad yn hyn. Amser ydyw pan mae llaweroedd yn disgwyl arweiniad. Gawn nl ddisgwyl yn ofer? Mae y C M.S. yn aw- grymu cytiliadieddtti neu Ddydd Tawel i offeiriaid a swyddogion cenhadol, pryd gyda'u gilydd y gellir disgwyl wrth Dduw a cbeisio gwybodaeth newydd o'i amcanion, gweledig- aeth newydd o hono Ei Hun, a chyflenwad newydd o'i Yspryd. (viii.) Y chydig eiriau wrth derfynu. (I.) Gawn ni yn ein gwabanol gylchoedd geisio byrwyddo yr amodau hyny a arweiniant i ddim llai na datguddiad o Grist yn gorch- fygu yn ei Eglwys. Rhaid i ni gredlt fod y fendith ysprydol uchaf yn ymarferol ac yn gyrhaeddadwy i'r rhai hyny a bwrcaswyd trwy Ei waed, y rhai eisoes a dderbyniasant ernes yr yspryd, ac i'r rhai yr ymddiriedwyd y gorchwyl uchaf ag a roddwyd erioed I angylidn a dynion, sef gwneyd yn hysbys ym- hlith dynion anchwiliadwy olud Crist. (Ii.) Medrwn ddiolch i Dduw fod arwydd- ion eisoes fod bywyd ysprydol yr Eglwys yn cael ei ddyfnhau. Bydded iddo, o'i rasol ddaioni, oddef i'r Gymdeithas Genhadol Eg- lwysig i gael rhan yn y gwaith hwn. (iii.) Gweddiwn fel y bo i yspryd Duw, fel tiin ysol, ddifa pob dymuniad iselwael ao y'n ysgoger yn uuig gan, un sanctaidd a phur ddymuniad, sef Gogoniant yr Anfeidrol Dduw. 01nodyn.—Gellir cael copiau o'r uchod yn Saesneg, ac os ceir dymuniad am rai yn Gym- raeg treiwn ein goreu i wneyd hyny. Na archeber ond am y nifer angenrheidiol, er ar- bed costau. Penmaenmawr, ESGAIR.

LLANBEDRPONTSTEPHAN

LLANBEDR-PONT-STEPHAN. Dychweliad Y Ficer.—Llawenydd mawr i'r holl blwyfolion ydoedd gweled y fleer, y Parch. Ganon Camber-Williams, wedi gwella mor dda fel ag i allu dyfod yn ol ddydd Iau, y 7fed cyfisol. Hyderir y bydd 1 orphwysdra .ei hvyr adferu i'w gynefiol lechyd. Coleg Dewi SANT. Llwyddodd y rhai einlynol i basto yr arholiad am fynediad i mewn i Joleg Dewi Sant :-Mri. Davis James Davies, David Rees Evans, H J. B. Hallam, Thomas Maurice Hughes, Alfred Thomas Jenkins, J. Idwal Jones, J. E. LI. Lewis, David Morgan, James Olive, Charles Rees, Rhys Havelook Roderick, John A. Slme, Sydney Tossell, Deohreuant ar eu gyrfa golegawl heddyw (dydd Gwener), a dymunir pob 11 "rddiant lddynt.-X. Myner y PERL ymhob ty yn Nghymru.