Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

VR HAUL. cyNWYSIAD AM IONAWB. j r Mis. Cynog, Sant a Merthyr. j Y Llyfr Gweddi Gyffredin. j P Prifatbraw Bebb (gyda ( Darlun). Efe a Yf o'r Afon ar y Ffordd. Apel y Cadfridog. Qwyr eich Tad." Dyledswydd Eglwyswyr. Emyn G*yl yr Holl Saint. At y Beirdd. 0'r Arsyllfa. Bwrdd y Golygydd. < Nodion Eglwysig. Y Gongl Ddifyr. j Adolygiadau. j Manion. j

Advertising

PERL Y PLANT. CYNWYSIAD AM IONAWR. j Gweddi Plant y Pel." Esiamplau o Dduwioldeb. | Y Dyn a'r Wasgod Wen. Mary Jones a'r Feibl Gymdei thais ( (gyda Darlun). I Y Ddwy Flwyddyn. Diddanion. Dalen Dirwest. f leitheg i Ieuenctyd. Cyfeillgarwch. Y Diweddar Lieutenant Vernon E. Owen. Parchu Prophwydi Duw. Maes Llafur yr Ysgol Sul yn Nghymru. Barddoniaeth. Ieuan Glan Geirionydd. Y Paganiaid Bach Duon. Beth mae yr Eglwyø yn ei Wneyd. Y Gystadleuaeth. Perlau y Perl.' Llithiau Priodol am y Mis.

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd 0

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. 0 OWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. FFARWELIO A'R DARDANELS. NEWYDDION DRWG. HAERLLUGRWYDD DIGYMAR. Cymerodd tri digwyddiad mawr a phwysig le yn Nghwra y Rhyfel er pan ys- grifenais yr erthygl am yr v/ythnos ddi- weddaf. Ca pob un o'r tri yn ddiamhcu ddylanwad amlwg ar gwrs dyfodol y rhyfel. FFARWELIO A'R DARDANELLES. Y cyntaf o'r digwyddiadau oedd enciliad byddinoedd Prydain a Ffrainc o'r Dar- danelles. Tetstyn syndod holl awdurdod u milwrol y byd yw amgylchiadau a llwydd- iant yr enciliad hwn. Ni thybiai neb y medrai ein byddinoedd ddianc o Galipoli- gorynys glanau'r Dardanelles-heb golli o leiaf 20,000 o'n milwyr. Un milwr yn unig a glwyfwyd; ni laddwyd neb; ni chymerwyd neb yn garcharorion; ni adawyd dim yspail ar ol i'r gelyn. Mae llwyddiant digymar y weithred wedi codi talent filwrol a beiddgarweh byddin Pryd- ain, yn uwch nag erioed yn syniad y byd. Ond er i ni ddianc o'r fagl yn y diwedd yn ddianaf, ymgyrch a gostiodd yn ddrud i ni oedd ymgyrch y Dardanelles. Cost- iodd i ni dros 200,000, sef 23,000 wedi eu lUadd. 73,000 wedi eu clwyfo. 10,000 wedi eu carcharu. 100,000 mown yspytai gan afiechyd. Dyna yr hyn a gollasom yn yr ymgyrch. Pa, beth ynte a enillasom ? Rhaid cyd- nabod nad yw ein henillion ond bychan iawn o'u cymharu a'r gost. Enillasom glodi milwrol nad angliofir tra pery hanes rhyfeloodd byd. Yr oedd llwyddiant y glaniad, cyndYllrwydd ein gafael yn y tir a enillwyd, dewrder dihafal a dioddeifaint ofnadwy ein milwyr yno, un ac oil yn enill clod ac edmygedd y byd cyn coroni ohonom yr oil yn llwyddiant yr enciliad. Fel enill y rhaid cyfrif hefyd y ffaith ddarfod i ni gadw byddin fawr Twrci, a gyfrifir yn chwarterr miliwn (250,000) yn ymaitfeirol Tllwyni yn G-alipoli lam dros naw mis o amser. Oni bae am ein byddin ni ger y Dardanelles, buasai'r fyddin fawr Dyrcaidd o bosibl wedi ymosod arnom yn yr Aipht, neu wedi difodi byddin Gardd Eden. Methasom yn amcan mawr yr ymgyrch, sef enill y Dardanelles a ffordd glir i'n llongau i'r Mor Du a glanau Rwsia. Methasom gael y gwenith sydd wedi ei ystorioi yno, gwenith dau gynhauaf tor- eithiog, a'r hwn, pe y llwyddasem i'w gael a fuasai wedi gostwng pris y bara yn y wlad hon, Methasom enill Caercystenyn. Meth- asom rwys-tro German! i ddanfon cymorth cyfarpar i fyddin Twrci yn Asia. Yiigwyneb y colledion trymion, yr enill bach a'r methu mawr, onid camgymeriad dybryd, gotfyna'r darllenydd, oedd Ym- gyrch y Dardanelles o'r dechreu. Atebaf nage. Nid camgymeriad oedd yr ymgyroli. Yr oedd amcanion yr ym- gyrch mor fawr ac uxor bwysig fel ag i gyfiawnhau yr anturiaeth. Ynniffygion yr mvdvrdodau ynghyn a'r ymgyrch 11 bu ?/ camgymeriad.. Dau ddiffyg mawr a fu, a chostiodd y ddau hyn fwyafrif mawr ein colledion i iii. Dyma hwynt 1. Yr ymgais i enill Dardanelles drwy longau rhyfel yn unig, heb gymorth byddin. Buasai cydweithrediad byddin o 50,000 gyda'r llynges pan ymosodwyd gyntaf, wedi sicrhau llwyddiant yr ym- gyrch. Byrbwylldra'r awdurdodau a ddanfonasant y llynges heb roddi iddi gymortli byddin yn gweathredu ar y tir, sydd yn unig yn gyfrifol am fethiant yr ymgyrch ar y cyntaf, ac am yr holl goll- edion a ga.fwyd mewn canlyniad. Yr oedd y gelyn yn anmharod y pryd hwnw, a gallasem yn gymharol rwvdd fod wedi enill y Dardanelles, a llwybr agored i Gaercystenyn a'r Mor Du. Ond wedi methu o'r llynges, deallodd y gelyn ein liamcart, a cha,fodd ddigon o amser i godi amddiffynfeydd, ac i ddanfon byddin gref a chyflegrau mawrion yno i'n gwynebu e,rbyn y caem fyddin yn barod i gydweith- redu a'r llynges. 2. Diffyg un o'r Maeslywyddion yn yr ymosodiad mawr yn Suvla Bay yn mis Awst diweddaf, oedd yr ail gamgymeriad drud. Yr oeddem yn ymarferol wecli enill ?/ fvddvgoli-aeth. Yr oedd adran o'n byddin wedi cyraedd copa'r bryniau rhwng Suvla a'r Dardanelles- Pe medrent ddal eu tir yno buasent wedi gallu ysgubo holl fyddin Twrci a.'i liamddiffynfeydd ar lanau'r Dardanelles, i'r mor. Ond—ac "ond" oedd a gollodd filoedd o filwyr ar ol Ilaw-methodd un o'r Mae, lywycldion gario allan orchymyn y Pen Llywydd Milwrol, Syr Ian Hamilton. Ni ddaeth yr adranau o dan awdurdod y Maeslywydd hwnw i fyny i gynorthwyo'r bechgyn ar ben y bryn mewn pryd. Coll- wyd y cyfle. Gyrwyd hWYllt yn ol. Ac ni fedrid byth wed yu gyraedd y safle a gollwyd. Ac yn awr, ymhen pum mis ar 01 i'r peth ddigwydd, yr ydym yn cael clywed gyntaf am y gwir ffeithiau, ac enw'r Ma,eslywydd a ddelir gan y Pen- llywydd yn gyfrifol am y methiant. Ond, eto ond, er cymaint ein siom a'n colled, gallasai fod yn llawer gwaeth. Pe baem wedi ymueillduo o'r Dardanelles rai misoedd yn ol, cyn sefydlu ohonom fyddin yn Salonica, buasai yn ddrwg iawn arnom. Buasai gwjedydd y Dwyrain oil yn edrych i lawr aruoju fel gwlad wedi ei gorchfygu. Buasai yn gymhelliad uniongyrchol i Rumania i ddilyii esiaii-ipl Bwlgaria, ac i daflu ei choelbren i mewn gyda Germani i n herbyn. Ond wedi sefydlu ohonom yn Salonica, heb fod yn nepell o'r Dar- danelles, yr ydym yn dal i beryglu bydd- inoedd Germani ac hyd yn oed eiddo Twrci, yn fwy nag a wnaem hyd yn oed yn Galipoli. Mae eill byddin oedd yn y Dardanelles yn awr yn rhydd i weithredu pa le arall y myno yr Awdurdodau Milwrol. A da yw eu bod yn rhydd—er rhyddhau ar yr un pryd fyddin fawr Twrci. AT EIN DEWISIAD. Yn y frawddeg olaf uchod ceir un o'r camgymeriadau liyny y mae yr anystyriol neu yr anwybodus mewn perygl o syrtliio iddynt. "Os," meddant, "y bydd ein henciliad ni o'r Dardanelles yn gosod byddin Dyrcaidd o 250,000 yn rhydd i weithredu mewn lie arall, nid ydym yn enill dim, ond yr ydym yn gosod ein hunain mewn perygl mewn lie arall-o bosibl yn yr Aipht, neu yn Mesopotamia, nid oes neb a wyr ymha le!" Mae dau atebiad i hyn:— (1) Yr oedd safle byddin Twrci ger y Dardanelles o dan yr amgylchiadau yn ymarferol anorchfygol. Yr oedd ein byddin ninnau yno mewn enbydrwydd mawr bob dydd. Disgwylid cyflegrau mawr o Germani gan fyddin Twrci a'i galluogai i chwythu ein gwersyll a'n byddin ni yn deilchion i'r awyr neu i'r mor. Enciliasom yn ddianaf cyn i hyny gymeryd lie. (2) Pa Ie bynag arall y deuwn wyneb yn wyneb a byddin y Twrc, bydd yr am- gylchiadau yn dra gwahanol. Os deuant atom yn Salonica, nyni fydd yn y lie cryf, a hwythau yn gorfod ymosod. Ond mwy na hyn. Gan ein bod ni yn ymarferol yn meddianu'r mor, gallem symud ein byddin i'r fan a fynom—ac ni wyr y gelyn i ba le yr awn. Rhaid iddo aros ar wyliadwriaeth barhaus. Os try efe ar y llaw ddphau, gan dybied mai yno y deuwn, dichon mai ar yr aswy y tarawn ni. Ni feiddia efe ddanfon corff mawr ei fyddin ymhell o gvffiniau Caercystenyn rhag mai pan fo'r fyddin ymhell yr ym- osodwn ni. A chyda hyn oil, gall ein byddin ni symud yn gyflymacli bum' waith nag a eill byddin y Twrc. am y rlieswm syml mai dros y mor yr a ein byddin ni, tra, ei eiddo ef ar y tir—ac mewn gwlad heb ond ychydig, os dim, rheilflyrdd. I'r cyfarwydd mewn mudiaedau milwrol amhvg yw fod ein henciliad o'r Dardan- elles, o dan yr amgylchiadau, wedi ein gosod mewn safle- rhagorach o lawer i daro'r gelyn yn y man ac ar yr amser a farnom yn oreu. ENBYDRWYDD BYDDIN GARDD EDEN. Nid newydd drwg felly, yw yr enciliad diogel o'r Dardanelles. Ond ceir newydd drwg am fyddin Gardd Eden. Os try y darllenydd at yr ysgrif ddiweddaf, ac at y Map o. Wledydd y Beibl y sonir am dano yno, geill ddeall yn well beth yw seafyllfa ein byddin yn Mesopotamia. Canolbwynt y perygl yw Kut-el-Arama, ar lanau r Afon Tigris. Cymerodd brwydr fawr le yn y fan hono rai wyth- nosau yn 01 o'r blaen, pan ddaeth ein byddin ni, fel Abraham gynt, o Ur y Caldeaid i fyny i gyfeiriad gwlad Assyria. Yn Kut (i ddefnyddio'r euw byr) y pryd hwnw y Tyrciaid oedd yn amddiffyn a ninau yn ymosod. Enillasom y frwvdr. Gyrasom y gelyn ar ffo, ac erlidiasom ef jlyd at gyffiniau Bagdad. Ond erbyn cyraedd yno yr oedd adgyfnertliion mawr wedi dod i'r gelyn, ac ar ol brwydr Stesi- phon, rai milltiroedd o Bagdad, enciliodd ein byddin drachefn i Kut-el-Arama. Yno, yn ol y newyddion diweddaf, am- gylchynir ein byddin heddyw gan y gelyn, yr hwn erbyn hyn sydd yn rhifo pump neu chwecli am bob un ohonom ni. Ym- osododd yn gryf yNadolig, ond methodd a n gyi'u oddi yno. Gan fethu ein gorch- fjg111 drwy ymosodiad ceisia warchae arnom an gorclifygu felly. Danfonwyd adgyfnerthion o'r India i'n cynorthwyo. Cyrhaeddodd y fyddin hono hyd o fewn i ryw 25 milltir i Kut, ac ym- laddasant yno frwydr fawr a'r gelyn gan ei yru ar ffo. Ond ar ol y frwydr yr oedd eiii byddin yn rhy luddedig i'w herlid. Oni bae hyny o bosibl y buasem wedi cyraedd y fyddin sydd genym yn Kut, a buasai'r ddwy gydVu gilydd yn ddigon cryf i wrthsefyll pob ymosodiad. Dyna yn fyr y sefyIlfa. yn ol y newydd- ion ddaeth i law ein byddin gyntaf. yn Kut yn cael ei hamgylchu gan v gelvn yr ail fyddin yn Sheik Saad, 25' milltir yn is i lawr ar Ian yr afon, a'r gelyn mewn nertli mawr rhyngddi a Kut. Amcan amIwg y gelyn yvv difodi ein byddin yn Kut yn nghvntaf oil, ac yna bydd yr ail fyddin yn Sheik Saad yn rhv wan i v ymlaen. Ein hamcan ninau yw uno ein dwy fyddin yn un os medrwn cyn gorch- fygu o'r gelyn y naill neu'r llall. Dichon y medrai ein byddin yn Kut dori trwodd, er yn dioddef colledion wrth wneyd, gan yniuno a'r ail fyddin yn Sheik Saad. Ond golygai hyny* golli Kut-el- Arama, ac nil alljwn fforddio colli'r lie hwnw. Cysylltir y Tigris ar y naill law a'r Euphrates ar y llall, gan gamlas fawr fordwyol. Saif Kut-el-Arama ar y Tigris yngenau'r gamlas hon. Felly wrth gadw Kut yn ein dwylaw, yr ydym yn gallu defnyddio'r ddwy afon, fel dwy reilffordd fawr, i ddwyn adgyfnerthion a chyfarpar o'r India i'n byddin yn Mesopotamia. Pe collem feddiant o Kut, collem hefyd ein tramwyfa i'r Euphrates, a byddai yr afon fawr hono yn ymarferol ddiwerth i'n byddin ar lan y Tigris. Hyd heddyw (ddydd Gwener) nid oes dim newydd drwg pellaich wedi dod o Kut nac o Sheik Saad. Gallwn gasg-lu felly fod ein dwy fyddin yn dal eu tir. ANFFAWD Y MYNYDD DU. Yr enill pwysicaf i'r gelyn, a'r golled fwyaf i achos y Cynghreiriaid oedd i'r Mynydd Du (Mount Lovchen), ar laixa,u Mor yr Adriatic, syrthio i ddwylaw Awstria. Oddiwrth y Mynydd Du y cymer yr holl wlad oddiamgylch ei hellw,- Monte Negro, Y Mynydd Du. Fel y gwyr y darllenydd mae teyrnas fechan Montenegro wedi bod yn ymladd yn ddewr o'n plaid o'r cychwyn, ac wedi bod oi gynorthwy mawr iawn i Serbia. Ceir gwerth a phwysigrwydd y Mynydd Du i Awstria ar y naill law ac i ninau ar y llaw arall, yn s.afle"r mynydd. Ar y naill du i'r mynydd mae porthladd Cataro, ar lan yr Adriatic; ar yr ochr arall i'r mynydd saif Cetinie, prif ddinas—pe dinas hefyd—Montenegro. Rhyw bentrnf gwledig a gwladaidd. mawr yw Cetinie, ac edrychai ami i sgweier yng Nghymru gyda dirmyg ar balas y Brenin fel preswylfod gan mor ymddangosiadol ddinod ydyw. Ond drwy'r cwbl Cetinie yw'r "brif- ddinas" yno. Mlaie'r Mynydd Du ei ihun yu 6,000 troedfedd o uchder, ychydig yn llai na phe gosodid Mynydd Cader Idris neu Bumlu- mon i sefyll ar ben y Wyddfa. Gorwedd porthladd Cataro- wrth ei draed-fel Llan- beris wrth draed y Wyddfa. Mae Awstria a'i bryd ar wneyd Cataro yn borthladd llynges; a geill y neb fo'n dal y Mynydd Du gyda chyflegrau trymion lywodraethu Cataro a'r mor o'r tu allan iddo; a bydd meddianu Cataro yn golygu llywodraeth dros yr Adriatic—fel y golgya meddianu Gibraltar lywodraeth dros y culfor o For v Canoldir i'r Wervdd. Dyma'r ddyrnod drymaf a gafodd yr Eidal hyd yn hyn. Canys, er mai eiddo Montenegro oedd y Mynydd Du, eiddo Awstria ydyw yn awr, a thra y deil Awstria'r Mynydd Du, ac iddi hefyd lynges gref yn Cataro, hi fydd meistreisi yr Adriatic.) Or, Mynydd Du, dracliefn, geill Awstria gymeryd nid yn unig Citinie, ond hefyd wneyd ei ffordd i lawr i Al- bania. drwy yr hon wlad y cceisia byddin yr Eidal wneyd ei ffordd i Serbia i ymosod yno ar Germani a'i chefnogwyr o Bwl- garia. HAERLLUGRWYDD DIGYFFELYB. Cafwyd yr wythnos ddiweddaf wybúd- aeth am haerllugrwydd digywilydd na welodd y byd erioed o'r blaen ei gyffelyb. Mae India wedi bod yn faes cenhadol i Germani yn ogystal ag i ni yn y wlad hon. Preswyliai nifer o Awstriaid hefyd, a'u teuluoedd, yn yr India cyn dechreu'r rhyfel. Gosodwyd hwynt yno, fel y gwnaed a'u cyffelyb yma, o dan warcheid- iaeth pan dorodd y rhvfel allan. Trefn- wyd, er's ychydig wythnosau yn ol, i'w gyru gartref i'w gwlad eu hun. Darpar- odd Pyrdain long teithwyT fawr i'w cludo dros y mor i Ewrop. Pan ddaeth hyn i glustiau Awstria. danfonodd y wlad hono genadwri at Lywodraeth Piydain trwy Lywodraeth yr America, yn galw ar Lyw- odraeth Prydain i gymeryd pob rhagofal fel na byddai bosibl i un o suddlongau Ger- mani neu Awstria ymosod ar y llong a'i suddo ar y dybiaeth mai teithwyr Pryd- einig ac nid Germanaidd oedd ar ei bwrdd! Rhybuddia. Awstria ni yn mhellach, "y delir Llywodraeth Prydain yn gyfrifol" os boddir y teithwyr Ger- manaidd ac Awstriaidd gan un o sudd- longau Germani neu Awstria ei hun! Braidd na chynhyrfir dyn i ddweyd mai da fyddai pe yr ymosodai suddlong Ger- manaidd neu Awstria arni, a suddo o bob Germaniad ac Awstriad ar ei bwrdd i ddyfnder y mor, modd y gall y barbariaid brofi iddynt eu hunain beth yw effaith eu creulonderau hwy eu hunain! Atebodd Syr Edward Grey yn swta na chymerwn yr un rhagofal dros y teithwyr Gennanaidd na chymerid genym eisoea dros ein pobl ein hunain! DYDD IAU, IONAWR 13. Y LLYWODRAETH GORFODAETH. Fel yr hysbyswyd yn ein rbifyn diweddaf, pasiwyd ail ddarlleoiad y mesur uchod gyda mwyafrif o 392. Rhoddwyd Mr. Asquith ei air na ddefnyddid y mesur er niwed i Iowyr ac ereill, ac y mae hyn wedi rhoddi eemwythSd i'r gweithwyr, y rhai oeddynt yn bygwth sefyll allan. Mae y gweinidogion oeddynt wedi amlygu eu bwriad I ymddi- swyddo mewn canlyniad wedi tynu ea rhybuddion yn ol. Y BRWYDRO YN RWSIA. Mynegir o Petrograd fod y brwydro gerllaw Czartorysk wedi bod o nodwedd ffyrnig o'r ddwy ochr, a bod ymosediadau y Rwsiaid wedi syfrdanu y Germani: I a'r Awstriaid. Yn Volotchisk'a manau ereill mae 10,000 o garcharorion yn cael eu cadw gan y Rwsiaid, ao y mae nifer fawr o Germaniaid ac Awstriaid clwyfedig ar hyn o bryd mewn clafdai Rwsiaidd. Ar ffrynt Bukovina yn unig, rhifa olwyfedigion y gelyn 100,000. DYDD GWENER. YR YMOSODIAD BWRIADEDIG AR SALONICA. Yn ngwyneb y bygythiad i ymosod ar Salon- ica, penderfynodd y Cynghreiriaid roddl cym- aint o rwystrau ar ffordd y gelyn ag oedd bosibl, ac un o'r rhai hyn ydoedd dinystrio y bont reilffordd enfawr ar draws yr afon Struma yn Demuhissai, ar y ffordd rhwng Salonica a Chaercystenyn. Yn ddilynol, dinystrlwyd amryw bontydd treill gan y Cynghreiriad. Y GELYNION YN CAEL EU TALU YN OL. Gwnaed ymosodiad fFyrnig gan y German- laid ddoe rhwng yr Argonnes a'r Mease, pan y gwnaed defnydd helaeth o din-belenan nwyol, y rhal, pa fodd bynag, na wnaethant unrhyw niwed i'r Cynghreiriaid, gan i'r gwynt chwythu y nwy yn groes at y Germaniaid, y rhai a ddioddefasant yn enbyd. Bu hyn yn llesol iawn i achos y Cynghreiriald. AFIECHYD Y KAISER. Cyhoeddir adroddiadau gwahanol am effaith yr anhwylder yn ngwddf y Kaiser. Tra y mynega rhai nad oes unrhyw berygl, ceir ereill yn dadleu yn gryf fod yr anhwylder yn anfeddyginiaethol, a bod ei blant wedi eu gwysio I ystafell y claf. Yn mhellach, dy- wedir fod ei chwaer (Brenhines Itali) hefyd wedi myned I weled ei brawd. Amser a ddengys pa un o'r ddwy blaid sydd yn dweyd y gwir. DYDD SADWUN. MEDDIANIAD COTTINJE. Myneglr fod yr Awstriaid wedi cymeryd meddiant o Cottinje, prifddinas Montenegria, yr hon syrthlodd yn rhwydd wedi i uchelder- au Loveen gael eu cymeryd. Dyma y bed- waredd brifddinas sydd wedi syrthio i ddwy- law y gelynion y tair arall oeddynt Brussels, Warsaw, a Belgrade. NEWIO MILWYR. Newyddion o Bucarest a awgrymant y symudir y milwyr Bwlgaraidd a Thyrcaidd o