Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd 0

ffrynt Macedonia er mwyn cymeryd lie mil- wyr Germanaidd mewn manau ereill, a'u galluogi i fyned i ymosod ar Salonica, gan na fyn brenin Groeg ddim ond milwyr German- aldd yn ei diriogaethau. Ar hyn o bryd, y mae 250,000 o filwyr Cynghreiriol yn Salonica, a disgwylir y bydd can' mil arall wedi cyraedd yno erbyn yr wythnos nesaf, fel ag i gyfarfod unrhyw ymosodiad a wneir. > PENDERFYNOLRWYDD Y RWSIAID. Dywed adroddiadau a dderbyniwyd o Petrograd fod ymladd caled wedi bod y pythefuos diweddaf o amgylch Czarvitovisk, yr hyn derfynudd drwy ir Rwsiaid feddianu tref Volhynian, yr hon saif mewn rhan hwysig ar reiltfordd Kovel-Sarni. Collodd Lisingen yn drwm, gan ei fod yn rhuthro i ymosod lawer gwaith yn y dydd. Mae milwyr Germanaidd yn cyraedd bob dydd, ond nid mewn nifer digonol i lanw y gwag-leoedd. Ar hyn o bryd, nid yw Czartovisk ond adfeil- ion, ac nid rhyfedd, gan ei bod wedi newid dwylaw lawer gwaith. Yr oedd y Cadfridog Hindenberg yn ddiweddar yn Mitau, a rhan- odd nifer o groesau haiarn ymhlith ei filwyr, gan eu hanog i fod yn amyneddgar, ac i sefyll yn gadarn. Ar ffrynt Riga, mae y German- jaid wedi bod yn defnyddio tan-belenau nwyol newydd, y rhai adawant sawyr gwen- wynig ar eu holau am beth amser. AMSER CYTHRYBLUS YN NGHAER- CYSTENYN. Mae cudd-swyddogion Germani wedi dyfod o hyd i gynllwyn yn Nghaercystenyn, drwy yr hwn y bwriedid lladd Enver Pasha, y Gweinidog Rhyfel, dymchwelyd. y Llywodr- aeth bresenol, a gyru yr holl Germaniaid allan o Twrci. Dywedir mai swyddogion Tyrcaidd sydd with wraidd hyn, ac y mae amryw wedi eu cymeryd yn garcharorion. Ar y Haw arall, mae lie cryf i gredu mai cynllwyn Germanaidd yw wedi'r cwbl, wedi ei lunio ganddynt i gyfiawnhau y mesurau llym a fabwysiadwyd ganddynt i rwystro y boblogaeth Mussulmanaidd i beidio.. codi mewn gwrthryfel. DYDD LLUN. ENCILIAD Y TYRCIAID. Adroddir am frwydro caled rhwng colofn y Cadfridog Aylmer a'r Tyrciaid gerllaw Kut, a bu raid i'r Tyrciaid ffoj ar frys, yn cael eu herlid yn drwm gan y Cadfridog Aylmer a'i wyr. Ar ei daith i gynorthwyo y Cadfridog Townshend yr ydoedd y Cadfridog Aylmer, pan y daeth i gyffyrddiad &'r Tyrciaid, gyda'r canlyniadau a nodwyd. Mae gan y Cadfridog Aylmer 15,000 o wyr, tra yr oedd gan y Tyrc- iaid 45,000 yn ei wrthwynebu. Ymddengys i'r Cadfridog Townshend ymadael o Kut yn nghyfeiriad Bagdad yn mis Hydref, ond gwynebwyd ef gan allu cryf j) Dyrciaid yn Ctesiphon yn niwedd Tachwedd, ac ar ol ymladdfa galed bu raid iddo gilio yn ol i Kut, lie y mae yn gwrthwynebu ymosodiadau beunyddiol gan y Tyrciaid. GROEG MFSyN CYFYNGDER. Dioddefa Groeg yn enbyd mewn canlyniad i'r ffaith nad oes cymaint ag un agerlong wedi cyraedd glanau Groeg er's mis, nag un wedi ymadael oidiyno. Beth amser yn ol, ymadawodd canoedd o longau oddiyno i ym- ofyn cyflenwadau, ond nid oes dim newyddion wedi cyraedd yn eu cylch. Cyhoeddwyd amser yn ol fod y Cyngbreiriaid wedi gwa- hardd i unrhyw longau fordwyo i Groeg, ond cafwyd gwadiad swyddogol i hyn, a myneg- 0 wyd yn y Senedd hefyd nad oedd ,unrhyw waharddiad yn bod. Achwynir yn Groeg fod yr ymborth yn prinhau, ao os na cheir ym- wared buan bydd y wlad yn dioddef yn erwin. Y GERMANIAID YN GALW AM WIRFODDOLWYR. Mae yr awdurdodau Germanaidd yn Belgium wedi cyhoeddi proclamasiwn fod angen am wirfoddolwyr i ymladd o blaid y Germaniaid yn yr Aipht. Nid oes ond ychydig, pa fodd bynag, wedi cydsynio, na dim un o'r 500 gwylwyr ar y ffindir rhwng Esschon a Twmhont well ateb yr alwad. Mae yn amlwg fod y byddinoedd Germanaidd yn myned ar y goriwaered er gwaethaf yr holl ymffrost. LLWYDDIANT Y RWSIAID YN Y CAUCASUS. Mynegir o Petrograd fod y Rwsiaid wedi bod yn llwyddianus yn y Caucasus ddydd Gwener, ac wedi cymeryd 20 o swyddogion a 400 o filwyr Tyrcaidd yn garcharorion, heblaw meddianu chwech o fagnelau, wyth o beirnianau eaethu, cyflawnder o arfau, pylor, ymborth, &e. Y RWSIAID A'R AWSTRIAID YN I GALICIA. r Mae ymladd caled wedi bod yn Galicia a Bukoviuia rhwng y Rwsiaid a'r Awstriaid, ond y mae adroddiadau y ddau allu yn gwahaniaethu yn fawr gyda golwg ar y canlyniadau. Tra y dywed y Rwsiaid nad oes unrhyw gyfnewidiad wedi cymeryd He, haera yr Awstriaid eu bod wedi cyfrif mil o gyrff Rwsiaid, a bod dau swyddog a 240 o filwyr Rwsiaidd wedi eu cymeryd yn garchar- ion. WT- DYDD HAWBTH. | LLWYDDIANT Y RWSIAID. Mynegiad swyddogol o Rwsia neithiwr a ddywed fod y Tyrciaid wedi ceisio ddwywaith L i dori drwy y rhengoedd Rwsiaidd yn y Caucasus, er mwyn cyraedd ochr dde yr afon Arkare, ond bu eu holl geisiadau yn ofer, a bu raid iddynt encilio. Tra yn brwydro ddydd Sadwrn, llwyddodd milwyr Rwsiaidd i feddianu ystordy Tyrcaidd, a cbymerasant filiwn o ergydion ac amryw filoedd o dan- Ibeleuau. CYFLENWI Y GERMANIAID. Er gwaetbaf holl ofal y Llynges Brydeinig, mae yn amlwg oddiwith adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi fod Germani yn derbyn cyf- lenwadau heiaeth o yd, blawd, cig moch, esgidiau, cotwm, moduriaid, tfcc., drwy gyf- rwng gwledydd anmhleidiol. Yn 1913, an- fonwyd 19,000,000 o fwsieli o yd i Holland, Norway, Sweden, a Denmarc, tra erbyn 1915 yr ydcedd yr allfcrion wedi cyraedd 50,000,- 000 o fwsieli. Mae nwyddau ereill wedi dyblu a tbreblu yn 1915 o'u cymharu a 1913. Mae rhywbeth allan o le, a dylid defnyddio mesurau mwy celyd yn y dyfodol, gan fod Germani drwy ddichell yn derbyn y rhan fwyaf o'r allforion i wlsdydd anmhleid- iol, ac felly yn alluog i gario y rhyfel ymlaen. Rbaid ihoddi terfyn effeithiol ar hyn, a dylid gwneyd ymchwiliadau manwl. DINYSTRIO DEUGAIN MILLDIR 0 REILFFYRDD. Ddydd Gwener, dinystriodd y Cynghreir- iaid orsaf y rheilffordd yn Kilindir, ynghyd ag adeiladau ereill. Darfu iddynt hefyd ddin- ystrio yr oil o'r rheilffordd rhwng Kilindir a Dennis Hissai, pellder o ddeugain milldir, a thrwy hyn rhwystrant y gelyn i gludo eu magnelau mawrfon i Salonica. Ynglyn ag amddiffyniad Salonica, mae mil- C, wyr Cynghreiriol ychwanegol yn cyraedd yno bob dydd, ac amcangyfrifir y bydd yn rhaid iddynt wynebu 250,000 o'r milwyr gelynol. O'r Sul diweddaf, yr oedd y Cadfridog Sarrail yn ymgymeryd a. llywyddiaeth y byddinoedd Prydeinig a Ffrengig, ac y mae y penodiad wedi rhoddi boddlonrwydd i swyddogion a milwyr y ddwy deyrnas. Mae wedi enill en- wogrwydd anrhydeddus fel swyddog trefniad- 01 gwych, a bydd yn sicr o wneyd ei oreu yn yr ymgyrch agoshaol. a GERW1NDER Y TYWYDD. Achwynir fod y tywydd yn rhwystr mawr ar ffordd y milwyr Prydeinig ydynt yn ym- daith er estyn cynorthwy i'r Cadfridog Town- shend yn Kut, a hyderir y ceir cyfnewidiad buan er dwyn yr ymgyrch i derfyniad llwydd- ianus. DYDD MERCHER. GORCHFYGIAD MONTENEGRO. Yn ol yr hyn a gyhoeddir yn newydd- iaduron Vienna, telerau gorchfygiad Montenegro yw rhoddiad i fyny eu holl arfau, ymostyngiad yr holl wrywod, a rhoddiad i fyny bob tref, pentref, a rheil- ffordd. Nid oes unrhyw awgrym am dreth rhyfel, ond awgrymir fod merched Monte- negro wedi cymeryd rhan. flaenllaw yn y brwydro, a gadewir iddynt drigo yn rhai o'r pentrefi. Y BWLGARIAID WEDI EU BRAWYCHU. Dywedir fod y Bwlgariaid wedi eu dychryn yn fawr gan y newydd fod y Cynghreiriaid wedi glanio gerllaw Athens a lleoedd ereill, ond y mae yn debyg mai cario ymlaen ymchwiliadau y maent ar lanau y raor am ymguddfanau llongau ymsuddawl. I Y MESUR GORFODOL. Yn Nhy y Cyffredin nos Fawrth, mynegodd Mr. Walter Long ei fod wedi ei awdurdodi gan Arglwydd Kitchener i wneyd yn hysbys y byddai i'r ineow, drwy ddwyn i mewn ddynion dibriod, gylarPoi a'i ddymuniadau, a sicrhau buddugol- iaeth. Darfu i'r mynegiad hwn gyffroi Syr Ivor Herbert i'r fath raddau nee y datganodd fod Arglwydd Kitchener wedi bod yn fethiant ynglyn ag ymrestru o'r decbreu hyd yn awr. Cynygiodd Syr John Simon welliant i'r mesur, ond gwrth- odwyd ef drwy fwyafrif o 230.

DEONIAETH TWRCELYN

DEONIAETH TWRCELYN. LLANDYFRYDOG.—Ar yrlleg cyf., cynhal- iwyd gwasanaeth Mamau a Genetbod Cyfeil!- gar yn Eglwys Lhndjfrydog, am 3 p.m pryd yr ymgynullodd nifer dda o'r ddosbarth uchod. Darllenwyd y gwasanaeth gan y rheithor, y Parch. A. Davies, tra'r arweinid y canu gyda'r" harmonium gan ei gyd weini- deg, y Parch. H. Hughes, ac yr anerchwyd hwy gan Ficer Penrhosllugwy. Wedyn, cyfeiriai y rban fwyaf ohonynt am y Rheithordy, lie y cawsant eu gwala o do a darpariadau amrywiol a helaeth. Mae Mr. Davies yn nodedig am ei chroesaw dibrin a siriol ar achlysuron o'r fath hyn. Y dydd blaenorol, bu i'r Rheithor anrhegu mamau a genethod Llandyfrydog a llyfrau hardd a gwerthfawr; a'r dydd Gwener dilynol gwnaeth yr un gymwynas i famau a genethod Llacfi hangel-Trebeirdd. Hyderwn y bydd i ymddygiad haelfrydig y Rheithor, yn nghyd a gwestfa ddiamdlawd Mrs. Davies, auog y derbynwyr i fwy o eel ac ymroddiad yn eu cylch o wasanaeth, oherwydd teimlir beddyw yn ddwysach nag ar unrhyw adeg o'r blaen o fewn cof y tro presenol, y pwysigrwydd o arfer disgyblaeth a meithriniad Cristionogol ar yr aelwyd; yr aelwyd wedi't cwbl ydvw'r ysgol fwyaf effeithiol yn mywyd dyn. e

Clebap Cilrhedyn

Clebap Cilrhedyn. Pery penderfyniad Cyngres yr Undebau CretItol beth anesmwythder i'r Llywodr- aeth. Trueni fod y Weinyddiaeth Unedig yn cael ei hamddifadu o bresenoldeb cyn- nrychiolwyr Llafur. Deallir nad oedd raid i hyny fod drwy ddewisiad Pwyllgor yr Undebau. Yr oedd hwnw yn rhanedig ar y pwnc. Pe byddai y tri boneddwr- Meistri Anderson, Brace a Roberta, fel llawer ymgeisydd Ileol ar y hyrddau bach yma, wedi fotio drostynt eu hunain, byddai pobpeth fel o'r blaen. Fel ag y mae, nia disgwylir hwy i roddi i fyny eu seddau. Gwyr yr anfoddogion yn well na brysio etholiad. « Yr unig berygl yn y golwg yw y posibl- rwydd i rai o'r ysbrydoedd mwyaf tanllyd greu cynwrf bair golled gwaith ar adeg mor brysur. Ergyd trwm a fyddai atal- iad felly i Iwyddiant arfogiad ein milwyr a'n morwyr. Ond gyda threiglad amser gwel y mwyaf cyndyn o'r rhai fu yn gwaeddi uwchaf yn erbyn y Bil Gorfodol nad yn rhwydd y maddeua y wlad i un- rhyw ymyriad a'r gwaith oll-bwysig hwnw. Mae gormod yn y fantol yn awr i oddef chwareu plant o du pobl y dylasent o bawb helpu eu goreu yn erbyn y gelyn. Pan edrychir i mewn i bethau nid yw y bleidlais fawr yn erbyn y Bil mor ddi- frifol ag yr edrycha ar yr olwg gyntaf. I ddechreu, mae yna filiwll o aelodau yr Undebau Crefftol allan yn y ffosydd. Gwyddis yn iawn pa ochr a gymerai y rhai hyny pe baent gartref. Ond ar wahan i'r pwynt yna mae dull y Gyngres o fotio y fath nas gellir rhoddi gormod o ymddiried- aetli ynddi. Dyma, fan gwan y mudiad. Daeth i'r amlwg mewii llu o engreifftiau o'r blaen. < Cyfrifir pob cangen fel yn unfrydol wrth gymeryd cardiau y gynrychiolaeth yn y Gyngres. Bwriwch fod cyfrinfal a mil o aelodau ynddi. Yn y cyfarfod lleol efallai fod yno fwyafrif o bymtheg dros gynyg neillduol. Dyna ddigon. Pan elwir am y bleidlais yn y Gynadledd cyfrifir y gyfrinfa hono> fel yn unfrydol ar y mater. Mewn geiriau ereill dywedir fod mil dros y cynyg, tra mewn gwirionedd nid oes ond ychydig dros haner y rhif hwnw. Gwelir fod yma gyfle i gamddeall- dwriaeth. Ar fater dibwys na chymerir fawr o ddyddorcieb ynddo gadewir y peth i basio yn dawel. Ond ar unrhyw bwno sydd yn agor llifddorau teimlad cyffredinol mae yn walianol. Pan gaiff yr ochr a deimla ei hun yn orthrymedig siawns i gicio nid yw yn ol o'i chymeryd. Dyna etholaeth Merthyr Tydfil y dydd o'r blaen. Cy- nyddu fel caseg eira oedd pleidlais yr ym- geisydd swyddogol tra y cyfrifid yn y dull arferol. Goddiweddid Stanton o dan ben- tyrau Alpaidd o wrthwynebiad y cyfrinfa- oedd. Ystori arall yn hollol oedd hi pan gafodd pob un y cyfleusdra o osod marc i lawr drosto ei hun. Fel y mae yn hysbys i bawb wyr yywbeth am y parthau gwtithfaol, nid aiPr yw pob peth sydd yn disgleirio yn y mynegiad swyddogol. Dyrnaid o weith- wyr, fel rheol, sydd yn mynychu y cyfar- fodydd lie penderfynir materion y gwaith. Oymerir eu barn felly yn ddealledig gan y cwpl ewyddogion, yn ol eu golygiadau eu hunain. Gweithia y cwrs yn weddol os na fydd yno fawr o deimlad un ochr Ra'l' llall. Ond pan ddaw awel groes ar bwnc pwysig dyna y dreifn yn dflarnau. Gwaith Briand ar adeg streic y reilwe yn Ffrainc yn gorfodi y dynion i weith- redu fel milwyr wedi iddynt streicio fel gweithwyr sydd wedi ohwerwi undebwyr y gwledydd. Hyn gyda'r dybiaeth fod yna chwant o du ein cyfalafwyr i ddwyn gor- fodaeth i fewn i'r gweithfeydd. Ond gan fod sicrwydd swyddogol o'r ffynonell uwch- af wedi ei roddi ar y pwynt yma nid yw ond helpu y gelyn i wrthsefyll meslUrsydd yn angenrheidiol 1 amddiffyniad y wlad. Peryglu bywydau eu cydaelodau sydd yn barod yn y ffrynt mae y cynrychiolwyr wrth oedi dyfodiad y bil yn ddeddf. < Pa alw sydd ar weithwyr fel y syfryw i gysgodi slacwyr? Beth yw canolbwynt y sefyll allan yma a thraw o achos aimn- debwyr ? Y gwyn yn erbyn y giwaid hynv yw ei bod yn anghyfiawn i'r hwn sydd heb ymladd a gwneyd ei ran fel ei frodyr i gyfranogi yn y manteision a enillir gan ereill iddo. Reit iawn. Nid oes dim yn eglurach. Ond yn ngoleuni y ffaith hon beth sydd i'w ddweyd am y camwri o geisio amddiffyn coesau dtio,d y genedl Pa synwyr neu efengyl sydd mewn cefnogi y lhvfrddyn arosa gartref i fanteisio ar absenoldeb ei gyd-drefwr sydd yn ffwaedu drosto ef a'i debyg. Ar un olwg trueni fod Gibson Bowles wedi ymneillduo o etholiad Hanover Square. Yr oedd llwyfan yn iawn gan- ddo. Ei bwynt oedd gorfodi y Liywodr- aeth i roddi chwarew teg i'r llynges yn ei gwaith. Hyd yma teflir yma ffrwythau gwerthfwrocaf ein manteision moroi. Pa synwyr sydd i dclanfon deg neu' ddeuddeg o weithiau mwy o nwyddau nag arfer i Norway, Denmarc, Sweden, a Holland? Goddefir iddynt gael rywbeth fel elu eyfran arferol. Ni roddai Germani hyny iddynt pe bai hi yn digwydd bod yn ein lie. Peth eithaf da yw gweithredu yn fon- eddigaidd a'r gwledydd niwtral. Nid ydym ni fel gwlad wedi gwneyd dim yn wahanol. Ond y mae para i anfon ystoc- iau enfawr o nwyddau i fwydo ein gelynion yn ein gwneyd ni yn destyn crechwen y oenedloedd. "Ffyliaid fyddwch chwi bob amser, ac ni fyddwn ninau byth yn fon- eddigion," medde y swyddog Germanaidd. Ond mae yn bryd i ni orphen ein ffolineb bellach. Fel y saif pethau ar y maes wedi blwyddyn a haner o ryfela nid yw ein fthlineb wedi talu yn dda i ni. Rhy barod o hyd yr ydym o lanw ein hunain i fyny a. gwag obeithion. Yn awr, sefyllfa fewnol Germani yw potel sugno llaweroedd. Tebyg iawn naa gall fod pethau yn wych yno erbyn hyn. Ond nid oeddent yn wych yn Serbiai, gwlad llawer lai a gwanach, wedi blynyddau o ymladd. Eto fe safodd y fechan yno ys- garmes galed hyd y diwedd. Ofer, felly, fyddai i ni adeiladu ein gobeithion ar ystad fewnol yr Almaen. Rhaid ei churo ar faes y gad. Ac am fod y Bil Gorfodol yn'debyg o'n cynorthwyo yn y gwaith hwnw dylai pob gwladgarwr ei gefnogi. JAMES H. JENKINS.

Lloffion

Lloffion. Am wrthod cymeryd milwyr i fewn i letya dirwywyd Sidney Page, gyrwr modur, Andover, i 3p. Dydd Sul, yr 2il cyfisol, ymgynullodd y gweithwyr sydd yn gweithio ar Eglwys Gadeiriol Leirpwl, i'r Lady Chapel, lie yr anerchwyd hwy gan Dr. Chavasse, Esgob Lerpwl. Yn Llys Chwa-rterol Fflint diddymwyd wyth o drwyddedau tafarndai, ac mae iawn o 3606p. wedi ei roddi. Yn yr un Llys dedfrydwyd hen filwr, o'r enw John Currivan, o Gaer, i naw mis o grchar am gad symiau o arian trwy dwyll gan ei feistri. Y mae tua 600 o glwyfedigion a chleif- ion o'r Mediterranean wedi cyraedd Ply- mouth. Y mae Archesgob Efrog wedi trefnu fod i holl glerigwyr yr Esgobaeth mygynull i weddi a'r Cymun Sanctaidd yn y Minster nosi Lun a bore Mawrth, Chwefror 14eg a'r 15eg. Bydd o wyth i naw cant o glerigwyr yn bresenol. Y dydd o'r blaen cyrhaeddodd tua cant o Brydeinwyr y wlad hon o garchar Ger- manaidd Ruhleben. Edrydd y rhan fwyaf o honynt banes difrifol am eu dioddefiad- au, a chreulondeb a barbareiddiwch y Ger- maniaid. Tra yn clirio tywod oddiar reilffordd y Cambrian, ger Abermaw, i alluogi y ger- bydres fyned heibio, lladdwyd Edward Jones, platelayer. Gedy weddw a thri o blant bach. Y mae bywoliaeth Christ Church, Southport, yr lion aeth yn was; trwy farw- olaeth yr Archddiacon Madden, wedi ei chynyg i Canon Blakeney, ficer Melton Mowbray, a Deon Gwladol. Dydd Mercher, yn Northampton, bu farw Syr Herewald Wake, yn 64 mlwydd oed. Hawliai ei fed yn ddisgynydd union- gyrchol i'r enwog Hereward the Wake. Y mae ei fab hynaf yn swyddlog yn Ffrainc. Y mae y Parch. S. R. James, cyn-brif- athraw Coleg Malvern, wedi ei benodi yn Ganon o Worcester. Yn Kingstown, ddydd Iau, dirwywyd Ellen Byrne, i 5p. am geisio tywllo y Swyddfa Ryfel, trwy ddweyd y caniatai ei mhab lp. yr wythnos iddi cyn ymuntf, pryd na roddai ond 10s. yr wythnos. Y mae Capten David Lewis, o'r R.A.M.C., wedi rhoddi 1050p. er gwaddoli gwely yn Ysbytty y Brenin Edward VII., Deheudir Cymru, er cof am ei dad. Y mae Mr. R. S. Chamberlain, cyf- rmthnvr, Llandudno, wedi ei wneyd yn Ystus Heddwch dros Sir Gaernarfon, a chymerodd ei le ar y fainc yn y Llys Chwarterol ddydd Iau. Yn Llys Croesoswallt, ddydd Iau, an- fonwyd Sarah Jane OwenJ, 18 oed, i garchai- am chwech wythnos am ladrata het perthynol i'w mheistres. Tra, yn glanhau ffenestri Neuadd y Dref, Manchester, syrthiodd John Jones, 45 oed, dros 30 o drcedfeddi i'r llawr, a lladdwyd ef yn uniongyrchol Y mae Cronfa 'Gwaith i Ferched' y Frenhines erbyn hyn wedi cyraedd y swm o 168,073p. 17s. Yn Bettwsycoed, dydd Sadwrn, dirwy- wyd W. Jones, Watling Street, Llanrwst, i 10s. am lpdrata celyn o Gwydyr Park. Dydd Sadwrn, dinystriwyd ffatri y Mri. Barsley, Tomlinson, and Atkins, gwneu- thurwyr esgidiau, Cosley, yn llwyr gan dan. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Abergele siaradodd Syr Herbert Roberts, A.S., mewn cysylltiad ag ymddiswyddiad Mr. Rogers, yr hwn fu yn orsaf,feistr Aber- gele am yn agos i 35 mlynedd. Y mae Mr. Roberts, yr hwn fu yn orsaf- feistr Penygroes, Arfon. am 16 mynedd, wedi ei ddyrchafu i orsaf Bettwsycoed. Ymhlith y rhai aeth i weled y gwn Ger- manaidd yn Rochdale, yr oedd Mr. Dennis Ash worth, hen filwr fu yn CrnTea, yr hwn sydd yn 82 mlwydd oed.

Yn Nyffryn Teifi

Yn Nyffryn Teifi. (Gan JOHN Y GWAS). AMUYWIOL.—Nos Calan, cafwyd eisteddfod lwyddianus yn ysgoldy Felindre. Gall yr ys- grifenydd llafurus, Mr. D. Davies, Varteg, ddangos cyfrifon sylweddol am ei llwyddiant. Bu pwyllgor undebol ac anenwadol cyngerdd a the ardal Henllan yn ffodus iawn mewn cael elw sylweddol at ddibenion gwladgarol. Gwnaeth Eglwyswyr Llangeler dros driugain punt o elw oddi wrth y Christmas Tree, rhan o ba un gyflwynir at achos ein milwyr. Y Sul cyntaf o'r flwyddyn rhoddodd Eglwyswyr Penboyr eu casgliadau i Gymdeithas y Groes Goch. BANGOR TEIFI.—Noa Fercher, wythnos i'r diweddaf, cafwyd cyfarfod cystadleuol yma o dan lywyddiaeth fedrus Mr. Thomas Jones, Troedrhwch. Profodd Mr. Jones ei hun yn llywydd difyr, dymunol, a hynod o ddeheuig. Llanwyd swydd yr ysgrifenydd gan Mr. Evan Evans, Castell, a'r trysorydd oedd Mr. D. Jones, Llain. Cafwyd beirniad rhagorol yn mherson Mr. D. Bonner Jenkins, St. James, Llangeler. Enillwyd y gwobrwyon canlynol Darllen Cymraeg i blant dan 11 oed 1, Mary V zzie Jenkins, Henllan; 2, Mary Hannah Evans, Park, Henllan; eto i blant dan 16eg oed: I, Margaret Lewis, Abermach- nog; 2, Emrys Davies, School House, Aberbank; ateb holion ar Gredo'r Apostol- ion (i rai dan 11): 1, Gwilym Lewis, Aber- machnog; 2, Herbert Lewie, Abermachnog, a May Head, Horeb. Eto i rai dan 16 I, Margaret Lewis; 2, Herbert Lewis. Sketch: Evan Davies, Fron Herbert Lewis a Tom Thomas, DoHan Lodge. Araeth: Emrys Davies a M. H. "Evans. Ffraetheb: D. Jones, Bercoed-uchaf, a Herbert Lewis. Gwy- bodaeth gyffredlnol D. Emrys Rees, Aber- machnog, a R. Williams, Rectory. Darllen Dinah L. Jones, Lleinau, a John Jones, Caercadw. Cyfielthu: Dinah L. Jones, R. Williams, D. Emrys Rees, a D. Jones. Dad- ganwyd yn y cyfarfod gan M. H. Jones, Ber- coed-uchaf; M. L. Jenkins, M. H. Evans, Dinah L. Jones, H Van Lock, Ajah Jones, Penrhywprian. Cafwyd adroddiadau a dadl- euon gan D. Cerdin Davies, Cross Hill; Alice, Lizzie, a May Head, Sarah a Margaret Evans, Castell; leuan Jones, Garregwen Gwilym, Herbert, a Margaret Lewis, Annie Davies, Gilfachronw Evan Davies, Fron Johnny Jones, Blaencwm Merwydd Ajah Jones, M. H. Evans, Georgie Evans, Park R. Williams, Sarah Anne Evans, Johnny Griffiths, Plasy- dderwen'; Tom Thomas, Dollan; Mary Davies, Blaendyffryn, a M. H. Jones, Bercoed- uchaf. Y cyfeilydd oedd Master Willie Davies, Aberbanc School House. Cynyg- iwyd diolchgarweh gan y Rheithor, ac eil- iwyd gan Mr. D. Evans, Castell. Mae gair o glod yn deilwng i Miss Hannah Davies, Troedyrhwch, a Miss Mary Davies, Blaen- dyffryn, fel dwy foneddiges fuont mor gar- edig a rhoi gwledd ragorol odea bara brith i'r aelodau yn yr Ysgoldy. PKNBOTR.—Nos Sul diweddaf, yn Eglwys St. Barnabas, aeth y ddwy Ysgol Sul drwy eu gwaith ar gyfer y Calan Hen yn y drefn ganlynol:—Penboyr, pwnc, Actau xi. 1— 19. Anthem, Diolch i Tl,' o dan arweiniad Mr. Evan Davies, Llaingof. St. Barnabas, Actau xi. 19-xii. 3. Anthem, 'Not only unto Him,' o dan arweiniad Mr. D. Jenkins, C.M. Canwyd yr unawd gan Mr. J. B. Jones, Llainffald, a holwyd y ddwy yagol gan y Parch. D. Jenkins, rheithor. Lloagyfarchir Mr. John Griffiths, Waunfawr (Meiriogfab), ar ei waith yn enill y wobr gyntaf yn nghys- tadleuaeth Perl y Plant.' DIRWEST.—Yr wythnos ddiweddaf, yn Ys- tafell Eglwyslg Llanfair-orllwyn, cafwyd cyfarfod da o dan lywyddiaeth Mr. Samuel Jones, Trebedw Mills. Rhoddodd y Parch. Caleb Hughes, Ph.D., anerchiad gwych i gynulliad mawr. Ar gais y Parchn. W. J. Evans, rheithor, a rheithor Bangor Teifi, talwyd y diolchiadau arferol. PENODIAD.—Llawen oedd genym weled fod y Parch. J. J. Jones, B A., rheithor LJaufair- Caereinion, wedi ei benodi i fywoliaeth bwysig y Drefnewydd. Mae y penodiad yn un ffodus, a da fydd gan Eglwyswyr Dyffryn Teifi ddeall am ddyrchaflad mab henaf y Parch. Canon Jones, cyn-reithor Penboyr.

LLANYMAWDDWYT

LLANYMAWDDWYT CAROLAU.- Mae y plwyf hwn wedi enwogi ei hun am ganu carolau er's llawer blwyddyn, ac nid yw ei enwogrwydd yn lleihau. Eleni cafwyd nifer helaeth. Ar nos Nadolig canwyd tair ar-ddeg o garolau rhagorol, hen a newydd, gan bumpo lartiou, yr oil yn aelodau o gor yr Eglwys. Drachefn, ar yr hen Nadolig, sef dydd Gwyl yr YstwyIJ, yn ol yr hen arfer- iad, cynhaliwyd y Blygain flyiiyddol, pryd y cafwyd tair-ar-ddeg E t3 o garolau ardderchog. Ar ol y gwasanaeth hwn gwaLoJdwyd yr holl garolwvr i'r Rheithordy i gael swper gan Mrs. Hughes. YRHYlEla-Er nad oes ond un o'r plwyf, sef Mr. T. Oswel Hughe, y Rheithoidy, allan yn y rhyfel, eto mae vma weithio rhagorol tuagat ein milwyr. Yr wythnos o'r blaen gorphenwyd casglu o dy i dy tuag at wahanol gymdeithasau milwrol, a chafwyd y swm hardd o yn agos i X24. Drachefn yr wythnos 101 tnae Genym gyngherdd maw reddog yn cael ei gynaljn llwyr a hollol gan ddonian cerddorol y plwyf. Nid oesdim i'w glywed yma y dyddiau ar nosweithiau hyn ond canu, canu, ymhob cornel, mewn paratoad at v cyngerdd. Myner 'PERL Y PLANT' yn mhob 1t yn Nghymru.