Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
Morfa

"Morfa." MERCHED AR Y FFERMTDD. 86n sydd y bydd raid cael merched i weithio ar y tir yn union deg oherw)dd prinder dynion Eisoes maent wrth y gwaith yn Lloegr. Clywch un o honynt yn adrodd ei phr..fiad :—1 Bang bang bang! tri chnoc trwm wrth ddrws fy 'stafell wely. Deffroais. I Beth sy'n bod ?' meddwn. 'Time to get up,' medde llais awdurdodol o'r tu allan. Amser i godi ?' meddwn, ma' hi yn dywyll eto Ma' hi yn chwech,' medde'r llais, a rhaid bod ar y ffarm erbyn saith.' Neidiais o'r gwely. Cyrhaeddais y ffarm gyda thoriad y wawr oer, rewllyd. Fy ngorchwyl cyntaf oedd gollwng yr ieir allan, a'u bwydo. Yna rhoi Haw befo godro'r gwartheg, a gyru rhai o honynt i g- e bellder ffordd. Wyth o'r gloch, brecwast; ac ni fwynheais bryd o fwyd yn well erioed. Naw o'r gloch, i 'nol IJ wyth o wair i ffarm ddwy neu dair milldir o ffordd. Ar ol dyfod yn ol, gyru twrf o ddefaid o un cae i gae arall, a than haner dydd gwneyd bwyd i'r ieir, a rhyw f&n 'jobiau.' Yn y prydnawn, cario maip a'u malu i'r gwartbeg a'r defaid, hefo peiriant wrth gwrs. Chwech o'r gloc y gwaith am y dydd ar ben. Nid oes alwad i ni droi y tir, er y medrwn wneyd byny pe b'ai galwad. Arddydd iau gwlyb, nid oes rhyw lawer i'w wneyd, ond yn y gauaf pan yn sych a tbipyn o rew yn yr awyr eir drwy gryn dipyn o waith, ac yn ei fwynhau. Y PRWYDR YN Y GORLLSWIN. Yr ydym ni yma yn Lleegr yn edrych gyda phryder a Ffrainc yn awr ei pherygl yn ddiogel, er ymosodiad mileinig y gelyn. Mae hi bellach wedi bod yn ymladd yn galed dros ddeunaw mis ar ei tbir ei hun yn erbyn gelyn cadarn, ac er hyny mae ganddi ei hadnoddaii a'i dewrder fel o'r blaen Mae hi wedi ymladd, ac yn dal i ymladd, yn ddygn fel Cristion yn Nglyn Cysgod Angau, eto heb rwgna'-h na gruddfan, nag och na gwae, ond ambell waith yn ymladd gyda gwon ar ei gwyneb. Cenedl o gelfyddydwyr yw y Ffrancwyr, ac nid ydynt yn anghofio mai celfyddyd ydyw rhyfel, ac ymladdant yn ol y rheol a'r wybodaeth hono. Mae ganddynt fel cenedl feddwl tawel a digyffro a digryh yn yr awr dduaf, neillduol felly. Ond tra yn edmygu Bydd n Ffrainc a'i dewrder, ofer i ni gau llygad i'r ffaith fod yua ymosodiad ofnadwy o ffyrnig yn cael ei wneyd arni gan Germani er dydd Llun diweddaf. Hawdd iawn i rai pobl gysuro eu hunain trwy son am golliadau Germani fel hyn ac fel arall. Ond pan welir gelyn yn ymosod ar le cadarn gyda byddin gref, nid arwydd o wanychiad yw byny. Yn ol pob arwydd a welir, mae Qermani eto yn aruthrol gadarn mewn dynion a defnyddiau ryfel. Yn ol pob hanes, wele hi yn hyrddio yn agos i dri chan' milo ddynion y dyddiau yn erbyn y gaerfa Verdun. heb aon am y magnelau trymion. Hawdd iawn son am wallgofrwydd Qermani yn treio cymeryd lie mor gadarn. N d gwallgofrwydd mo bono ond callineb miniog-yn gwel'd ymhell. Ac am y rheswin fod y lie cadarn yma yn gorchuddio mangre ac ardal bwysig i'r gelyn gael meddiant o hono Mae'r wobr a'r enill yn ol y I fenter,' Dengys banes dro ar ol tro hyd gwymp Erzerum mae ycbydig iawn o leoedd caerog ac amddiffyn- feydd geir heddyw yn y byd nas gellir eu cymeryd. Am hyny, 'peidiwn a gwawdio y Germaniaid am dreio yr hyn feddyliwn ni sydd yn amhonibl, cyn i ni wybod yn gyntaf fod y peth yn amhosibl. Ac os metbu wna Germani, gwell fydd i ni ganmol Ffrainc am drechu y cynyg na gwawdio'r Germaniaid am wneyd y cynyg. Mae'r Germaniaid yn treio gwneyd rwan yn Ffrainc yr byn fu iddynt wneyd yn llwyddianus yn Galicia ac yn Belgium, sef cymeryd lie cadarn trwy hyrddio tunelli ar danelli o 'feteloedd' a dynion at wrtbrych gyda holl yni a llwyrdra ymenydd milwyr goreu Ger- mani. Ein cred yw y metha hi y fan yma rwan, a hyny am fod Ffraiw yn barod, ac yn ymladd gyda'r fath ddewrder na fu ei debyg yn ei hanes. Amcan Germani yn gwneyd yr ymosodiad ofnadwy yma yn treio diweddu'r rhyfel ag un ergyd, ac os methu wna hi, bydd yn ergyd cas indi ymhob ystyr o'r gair. Gwir eu bod wedi enill tir lawer ac wedi peru colledion trymion ar Ffrainc. Ond mae'n eglur nad ydynt eto wedi tori drwy llinell Ffrainc, yr hon sydd wedi myn'd yn ol er mantais iddi ei hnn, ac i oagoi colledion di-alw-am-danynt. Pe torai Germani drwyddo, yna byddai perygl iddi rowlio byddin Ffrainc yn ei holau, a gweithio o'r tu cefn iddi. Ond nid oes ddisgwyliad y cymer hyny le, a gallwn fentro y gwna ein Byddin ninau ei rhan i ysgafn- hau y dirwasgiad, y gwnawn bob path yn ein gallu, a'u cred yw y cyfyd Ffrainc yn anrhydedd- us i gwrdd d'r argyfwng pwysig hwn yn ei thynged, 0 € LEBER WAST. Mae llawer o'r farn mai melldith y wlad yma yw siarad gormod—clebran. Yn nesaf at drigol- ion yr America, dywedir mai Prydain Fawr y genedl fwyaf cleberllyd ar wyneb v ddaear. Am bob un cyfarfod cyhoeddus gyuhéUr ar y Cyfan- dir, cynhellr nes i fil yma. Nid oes ben draw ar ein 'cymdeithasau' a'n 'leagues' a'u pwyllgorau.' Rhaid i'r pwyllgorau gyfarfod wrth gwrs, a dyna lie byddeot yn clebran ac yn clebran, ac awydd pob dyn yw bod yn aelod o rhyw bwyllgor neu'i gilydd. Golyga hyny ei fod yn rhywun' yn yr ardal, a dyna fo l' A mae rhai offeiriaid mor hoff a neb o fod ar y Comitis' yma byth a hefyd, yn enwSdig o fod yn Gadeirydd. A gwastreiffr wmbredd o'u hamser yn mynychu y 4 Comitis' yma, ac i- wrando ar glebar wast hwn a'r llall. A mae y boneddigesau ar bron bob Comiti' y dyddiau hyn, gwastraff amser eto! Nid arc fod y merched yma yu clebran mwy na'r dymon, ond maent yn cyfranu eu rhan yn ffyddlon at glebereiddiwch y genedl. Ac os gofynir, pa ni wed a wna yr boll gleber ar yr boll bwyllgorau ? gellir dweyd-dim niwed neillduol, ond y gallesid yn hawdd dreulio'r amser ar bethau llawer mwy defnyddiol. Ond pan ddaw y gleber wast yma i gylch uwch na'r pwyllgorau, neu i godi ei ben yn y driniaeth o faterion bywyd y genedl yma mae'r gleber yn glefyd. peryglua, ac ma'r wlad yn gyfiawn yn anemwytho, yu enwedig wrth ystyried ein bod ynghanol rbyfel ofoadwy a gofyniad am weithrediacf cyflym a chryf, ac nid cleber a chleber. Gormod o'r haner o siarad yn y Senedd, ac hefyd yn y Confocasiwn, yu ddigon i flino neb rhencian ar yr un pethau o hyd ac byd, ilawer o hono yn gleber wast. Gwir f o dau D yu y Senedd—T £ y Cyffredin a Thy od Arglwyddi, ond yu y Confocasiwn mae ynyr bedwar, a dau Dy y Lleygwyr heblaw hynya Cyfundrefu wastrafflyd iawn o lywodraeth yw gyfuudrefn yma o ymddadleu. I gteber wast ysbryd plaid yr ydym yn ddyledus i radd helaeth am hyd a chost ofnadwy y rh frl bresenol. Clebran fuom ar hyd y bhnyddoe id am 'wasanaeth cenedl&^thol,' a gwneyd dim. Troi clust fyddar i rybuddion dynion fel Lord Roberts, y rhai ceddynt yn eglur yn cmfod arwyddion yr amserau. Gwell oedd gandd\'nt glebran ynghlych pethau dibwys persoriol ^>hleidiol. Pe byddai gf-nyra fyddiu itwti i i fyddai i ni yr eHciliad o Mons, a thebygol yw na fyddai rhyfol. Pe cawsai y I fyddin glebrog' eu ffordd newynent y Fyddin a'r Llynges pe medrent. Mae i siarad ei le, mae'n wir, ond lie is-raddol yw. Gwnaed dyti i waith-i bender- fyniad cyson i gario allan anturiaethau mawr. Gobeithio pan y byddom wedi dwyn y rhyfel yma i ddiwedd llwyddianus, bydded fuan, bydded hwyr, y byddwn wedi dysgu meddwl yn fwy clir, clebran llai, a gweitbredu yn fwy pafod a gyda mwy o benderfyniad ymddwyn yn fwy tebyg i ddynion a llai fel 'peirianau clebran.' PIGION OR "GOLEUAD." Sicrha Esgob Birmingham Mr Kensit fod y Parch. R. J. Campbeli yn hollol union-gred. Y mddengys iddo fyned dan arholiad manwl gan bedwar o glerigwyr ac iddynt gael eu boddhau yn ei atebion. Cryn amser cyn ymuno âg Eglwys Loegr galwodd ei lyfr ar y Dduwiuyddiaeth Newydd' yn ol. Y mae Mr. Campbell yn bregethwr mawr, ond prin y gellid ei alw yn feddyliwr mawr nac hyd yn oed yn feddyliwr aefydlog. Y mae'n debyg y bydd yn rhaid i bawb ohonom foddloni ar bipurau newydd llai maes o law. Ni ddaw ond hyny a ganiata'r Llywodraeth o ddefnydd papur i'r wlad, a rhoddir pawb sy'n defnyddio papur 'ar eu lawans-' Beth bynag arall a ddaw o'r rhyfel, fe'n dysgir i gynilo mewn llawer cyfeiriad. Y mae llyfrau rhad eisoes yn dechreu codi yn eu prisiau, ac nid yw hyny ond drwg digymysg. Tri rhifyn o'r Beirniad' a gyhoeddwyd y llynedd yn lie pedwar. Pa le mae'r pedwerydd, tybed ? Y mae oediad fel hyn yn gwneutbur niwed i gyhoeddiad, ac ni hoffem weled y 'Beirniad' yn dioddef. Y mae'n llenwi lie pwysig yn ein llenyddiaeth gyfnodol ac wedi gwneuthur gwaith rhagorol. Yn ei lyfr diweddar In Slums and Society,' y mae gan Canon James Adderley rai ystraeon dyddorol i'w hadrodd. Dywedodd gwr sydd yn awr yn Esgob un ohonynt wrtho. Galwyd arno i bregethu yn St. Paul's, Llundain, un noson. Yr oedd newydd fod yn darllen un o bregethau Dr. Liddon (oedd y pryd hyny yn fyw) a hono a hono a bregethodd, yn ei ffordd ei hun. Yn anffodus, yr oedd Liddon, heb i'r Esgob dyfodol wybod hyny, wedi pregethu yr un hen bregeth yn yr un lie brydahawn yr un diwrnod. Wrth gwrs, yr oedd rbyw gyfaill caredig yn barod wrth law i hysbysu'r ail bregethwr, a meddyliodd yntau mai'r peth goreu i'w wneuthur oedd cydnabod y cwbl wrth Liddon ar unwaith. Gwnaeth hyny, a throdd y pregethwr mawr ato, gyda gwda yn nghongl ei lygaid. Gyfaill anwy],' meddai, 'pleser mawr yn y dyddiau hyn ydyw clywed dau glerigwr yn dywedyd yr un peth.' Yr oedd I hyn ar adeg pan oedd llawer iawn o wahaniaeth barn yn Eglwys Loegr. Dywed Canon Adderley hefyd fod Dr. Gore, Esgob Rhydychen yn awr, unwaith wedi 0 dywedyd am llawer o'u pregethau oedd, Och fi I cauys benthyg oedd.' Y RHYFEL AR Y MOR. Mae colli cymaint o longau mawr yn ddiwedd. ar yn naturiol yn destyn ystyriaeth ddifrifol pob dyn ystyriol. Yn ystod y mis a aeth heibio mae haner cant o longau wedi eu suddo, neu eu dal Sweden un, Holland dair, Norway un, pump o longau neutral,' Itali dwy, Belgeum pedair, a Ffrainc un, y gweddill yn perthyn i Brydain Fawr. Er dechre'r rhyfel mae Sweden wedi colli 38 o longau, a Norway 82. Am y colliadau Prydeinig yn ystod Chwefror, r'oedd y Moewe' (y Hong gymerodd yr 'Appam ') yn gyfrifol am 13. Mae'n debyg mai dianc o Kiel neu Wilhel- mshavre wnaeth y Moewe' yma a, bwrw ei flordd ar noson dywyll drwy'r North Sea. Ond nid yn hir y bydd hi cyn ei dal. Ond mines' a submarines' ydynt achos penaf y colliadau. Mae gan Gormani rwan submarines' newydd yn gallu gosod I mines' pan dan ddwfr-yr hyn sydd beth anbawdd ei ganfod. Mae gan y Morly. (Admiralty) ffordd i ddelio & 'submarines' a ffordd i glirio'r mor o'r'mines' yma. Gall y wlad fod yn dawel ar hyn. A mae ein morwyr tu hwnt i gamoliaeth yn eu gwaith. Ychydig w £ r dynion y tir am gyflyrau arswydus pethau yn y North Sea ar adeg rhyfel, lie y chwythar temhestloedd am wythnosau yn ddidor, heb son am eira a gwlaw—a lie nas gellir gwel'd ymhell- ach na pnm' milltir neu chwech. Ceidw y Llyn- ges y maes enfawr o'r cefnfor stormllyd hwn yn rhydd o longau y gelyn-ond tu hwnt i ddyfais dyn yw ei gadw yn hollol rpdd o longau tan ddwfr, er fod hyny bron wedi ei gvflawni. Mae i Gerfljaqi arun ochr iddi Baltic Fleet Rwsia-yr hon sydd israddol i Lynges Germani ac ar yr ochr arall nerth Llynges Prydain, yr hon sydd ymhob ystyr yn uwchraddol i Lynges Germani. Gwyr Germani erbyn hyn mai anmhosibl iddi trwy mines' na 'submarinss' obeithio byth aUu gcstwng y Llynges Brydeinig i delerau cyfatal. Hi wel hefyd na fedr lwyddo gau fawr o'r Ynys- oedd trwy submarines er y gall hi wneyd Uawer o niweid. A chymeryd pob peth at eu gilydd- nid yn hir y bydd hi yn llonydd bellach. A beth bynag fydd ei chynyg, gallwn fentro y gwna hyny gyda'r egni a'r nerth arutbrol a phenderfynol ydynt yn nodweddu ei hymosodiadau. Mewn rhyfel nid oes dim yn sicr, ond gwyddom hyn- sef fod morwyr Prydain yn drech na morwyr Ger- mani. Gwyddom hefyd fod gan y Llynges ar- weinwyr diail-a bod gan y llongau bob cyflan- wad. Am hyny, mae yn aros, amynedd. 30SIA.LAETH A'R RHYFEL. Mae pethau mawr yn bosibl i'r wlad yma ar ol y rhyfel. Gall fod yn nefoedd fach yma, a gall yn hawdd fod yn beth arall. Os a cyfalaf (capital) a llafur i ymladd &'u gilydd, yna y peth arall ellir ei disgwyl. Dywed rbai mai y meiatradoedd' yw'r drwg-mai y cyfalafwr (capitalist) yw'r gelyn, ac mae'r unig feddyginiaeth yw ei ddinyst r'lio, ac i'r Wladwriaeth gymeryd peiriant cynyrchiad mewn law. I gadarnhau eu gosodiad dywedant fod theilffyrdd y wlad eisoes wedi eu cymeryd l gan y Wladwriaeth, rhan fawr o'r llongau beb son am y fasnach siwgr, ac ymyraeth y Llywodraeth yn marchnad y gweuitb, ac felly yn y blaen. A phe byddai a/nl'un y Sosialiaid eyn cael ei gario allan ni cbeid ond y Wladwriaeth ar y naill law a'r gweithiwr ar y llaw arall, heb neb rhwng- ddynt, ac am hyny does dim angeu am y meiatr, eled. Y cynllun felly yw, trosglwyddo buddiau- au personol i'r Wladwriaetb, a dyna'r mater wedi

Morfa

ei setlo. Mae byn yn swnioyn esmwyth, ond nid mor esmwyth cario hyny allan. Ceir gwallau poenus yn y cynllun. Honir gan rai ydynt yn gwybod fod gwastrati y Llywodraeth yn y cyfeir- iad yma a'r cyfeiriad -irill yn cbwanegu miliwn y dydd at gostau y rhyfel. Dyma dystiolaeth dyn oedd gand-lo ddwy long. Cymerwyd un gan y Llywodraeth, a chadwodd.y llall yn ei law ei hun. Gwastraffwyd gau long y Llywodraeth 56 y cant mewn "cargo sp,tee' ac amser; tra na wastraff wyd gan ei long ei hun ond 6 per cent, vr hyn a i brofi mai sil yw'r Llywodraeth am fusnes. Yr un peth am reilffordd. Dywedir mai y rbt-swm fod tryciau mor brin yw y ffaith, nad yw swyddogion y Llywodraeth yn deall eu gwaith. A dywedir fod yna wastraff ofnadwy yn myd y siwgr. Beth hynag gymero le, rhaid cael y gweithiwr a'r rneistr ar delerau cyfeillgar- web-neu tbâl hi ddiua-deled a ddelo-Llyw-od- raeth neu beidio. Peth arall. Ar ol y rhyfel- bydd y Wladwriaeth wedi ei gwanychu a'i tbylodi gymaint -a baicb dyled aruthrol arni y cyfryw fel nas gall fforddio cymeryd ar ei hysgwydd y baich o gyfundrefa weithfaol y deyrnas Gormod iddi fydd ac felly mae hi yn dyfod i hyn, sef y bydd masnach a gweitbfeydd y wlad eto yn nwy- law y meistr a'rgweithiwr. A bydd y fath tlodi o gwasgfa ar ol y rhyfei, fel y byddo'r pwys mwyaf i'r meistr a'r gweithiwr ddod i ddealltwriaeth a'u gilydd, neu os ymladd a'u gilydd a wnant ynghylch manylion oriau a chyflog, bydd i wled- ydd fel America a Germani fachu ein masnach yn hollol, a'n gyru allan o farchnadoedd y byd ar y rbai yr ydym yn byw. A gall ein gweithfeydd gartref gael eu parlysu hefyd. Mae yma berygl ofnadwy—ac nid yw y wlad fel cyfangorff yn sylweddoli hyny. Rhodded y meistr i'r gweith- iwr delerau teg a sicrwydd o waitb a chyflog, a daw petbau i'w lie. Nid heb hyny. Rhodder lie a llais i'r meiftr ar y trade unions,' a lie a llais i'r gweitbiwr ar undebau y meistriaid, ac undeb a ddealltwriaeth rhyngddynt, a bydd go- baith y cedwir ein gwlad rhag myned i bwll hyll anghydgordiad a chwyldro id ofnadwy a biawych- us. Mae'r perygl yn fawr. YR "HAUL" AM MAWRTH. I law yn brydlon. Campus. Yr ysgrif dryma (a gwir afaelgar yw, hefyd,) yw eiddo'r Gwatcba ar Y Delwau Disgred.' Bydd darllen ar hon, n hi a agora lygaid y deillion. Dyma fel y caf Ap Ceredigion' i Dewi Sant- Offeiriad o Dy Ddewi Ydoedd Dewi Sant, Haedda ef ei foli Gan bob un o'i blant.' Nodiadau y Mis yn fyw a darllenadwy, yn ym. wneyd a phrif destynau y dydd. Mae yr hyn ddywed y Golygydd ar I &rchesiob Pabaidd i Gymru I yn haeddu sylw. Gyda golwg ar yr hyn ddywed ar y dymunoldeb o benodi Cymro yn Brifathraw Coleg Dewi Sant, Llanbedr, mae'n amheus genyf a oes Cymro ar gael sydd wedi graddio ddigon uehel i lanw gofynion y swydd. Beth am Ficer Llanidloes ? Efe sydd un o'r ys- golheigion mwyaf gwych feddwn am wn i. Newydd i lawer o honom yw clywed fod symud- iad ar droed i ladd y Geuinen,' am ei bod hi yn rhoi lie i ysgrifau yn cadarnhau safla yr Eglwys, yn lie ei tbynu lawr. GAlIwn ddweyd Amen i'r hyn ddywed yr adolygydd-" Parhaed y I Genitien' i ddilorni rhagrith ymhob cylch a chyfundeb." Blasus yw, Ai Hyd Seithwaith,' gan Glynfab. Rhydd hon ddifyrwch i lawer, a mentraf ddweyd y darllenir hi bob gair. Lies i'r Haul fydd mwy o ysgrifau tebyg i'r eiddo y Parch. S F. Da vies ar Evan Thomas Rees.' Yr wyf wedi dal, ac yn dal, fod Mr. Davies yn un o'r ysgrifenwyr Cymraeg mwyaf llithrig sydd genym a y pa demi allan o'i gragen yn amlach. Y Gongl Ddifyr yu gwella. Cofion at y Caplan. PEBSOXOL. Yr 'inspector' yn croesholi'r plant of nus- And now, boys, who wrote Hamlet 1" I P-p- please, sir, it wasa't me Yr un inspector' y noson hono wrth wr y t £ — scweier y pentref- Most amusing thing happened to-day. I was questioning the class and asked a boy Who wrote Hainlet ?' i),nd he answered tearfully, I P-p-please, sir, it wasn't me II A dyna'r scweier yn rhoi harti laff dros y fan, ac yn dweyd —' Ha ha That's good and I suppose the little beggar had done it all the time.' Offeiriad yn anerch cyfarfod Beiblau. Dyn yn ei aflonyddu trwy ofyn a oedd yn credu fod Jonah wedi ei lyncu gan forfil. When I go to heaven,' medde'r ofteiriad, 'I will ask Jonah.' But supposing,' medde'r dyn, be is not in heaveu 1' 'In that case,' medde'r pirchedig foneddwr, 'you will have to ask him, I Eglwys wladol yn Essex. Y clochydd dan notis i f'adael, ond nid bawdd cael dyn i lanw ei le Y Ficer a'r wardeniaid yn panderfynu fod i'r ddau warden ofyn i'r hen fachgen aros yn ei Ie. A medde yntau yn olI have buried three churchwardens since 1 have been here, and I don't mind stopping to bury one or two more.' A phan ofynwyd iddo p'run o'r ddau warden oadd am gladdu, atebodd, Both.' Now, my son,' medde'r tad, tell me why I punished you?' 'That's it,'medde'r gwalch, first you pounded the life out of me, an' now you dou't know what you did it for. Your husband is quite a speaker. Very eloqueut after dinner.' You ought to hear him bafore breakfast, when it's five minutes late Rhoddir i filwyr Ffrainc ddimai am bob lly- goien leddir ganddynt. ini-ir llygod yn bld. yn y 'trenches' Cymer Mr. Balfour lasied o lemon-juice' a dw'r bob bore cyn brecwast. Nid oes ddanedd gan forfil. Megir cathod yn Holland er mwyn eu crwyn. Gall camel arogli dwfr filldir o ffordd. Nid French' mo I Freach beans.' Deuant o 'South America.' Medde Mrs. Garw-am-holi So you took a trip to Brazill"st summer Did you go up the Amazon ?' A medde Mrs. Newydd-fyn d-yn- Gyfoethog Higbt up to the very top. What a splendid view there 4s from the summit ?' le. Tw bi shiwar I understand you have a new motor-car 7 Yes.' Do you drive it yourself 7 Nobody drives it, but father coaxes it Dywedir fod y Kaiser William yr Ail yn rhag- farnllyd iawn ac yn talu sylw mawr i arwyddion. Dyddorol iddo yw gwybod mor anffortunus yw y rhif dau (2) i frenhinoedd. Lladdwyd Harold yr Ail mewn brwydr, yn Crtdw draw oresgyniad ei wlad. Llofruddiwyd | William yr Ail yn y New forest tra yn hela. Gall y bydd y Kaiser, Wilhelm yr Ail, yn cadw draw oresgyniad ei wlad yn union, ac mae yn hoff o hela. Llofruddiwyd Edward yr Ail, befyd Richard yr Ail, ar ol ei ddiorseddu. Collodd Iago yr Ail ei oisedd, ac anedwydd iawn oedd teyrnasiad Henry yr Ail. Bu yn agos i Charles yr Ail gael ei lofruddio, a thruenus iawn oedd teyrnasiad George yr Ail. A cban fod y Kaiser, Wilhelm yr Ail, yn fab hynaf i blentyn hynaf y d iiweddar Frenhines Victoria, ae yn ol ei farn ei hun, efe ddylai fod yn Frenin Lloegr, naturiol ddigon iddo edrych am arwyddicrn a nodau y rhif dau (2) yn hanes Lloegr. A maent yno Pwy tiyr 1 Mae Tywysog Cymru yn dad-bedydd i chwech o blant. Oriawr aur sydd gan Mr. Walter Long, a hono yn 7U mlwydd oed. Mae gan Esgob Llundain dri o secretaries,' ac Archesgob Caergaint bump. Gall Mrs. Lloyd George siarad French yn dda iawn. Nid oes defaid yn Japan. Dywedir fod incwm Etnprwr Rwsia yn gweithio allan yn olpymtheg puot bob munyd. Mae tir yn nghym'dogaeth y I Bink of 0 England' yn werth deg swllt y fodfedd. Yr unig w'eiydd yn Ewrob y rhai nid ydynt yn talu cyflog i'w Haelodau Seaediol ydynt Itali, Spaeo, a Thwrci. Medde'r offairiad (wrth diosbarth o hogie bach): Now would aoy boy like to ask me a question V Piease, sir, have you any cigarette pictures ? Medde'r 'gentleman farmar' wrth ei arddwr —' Will you have ona of my old hats to make a scarecrow with?' A madle'r g,%rdd vvr If it's all the same to you, sir, I'd rather have one of the mistress's, It would scare 'em more.' Well, my little mm, how old are you ? 4 Five.' And what are you going to be ?' Six.' Medde'r teacher Now, George Bright, supposing I say, I have a hundred pounds, what tense would that be ?' A maide Wil Trwyn- pwt, Pre-tence, sir.'

Advertising

11 I — ■■ ■■ r: LLOYDS BANK LIMITED I HEAD OFFICE-91 LOMBARD ST -B-C. CAPITAL SUBSCRIBED- i. 3 1,304.200 CAPITAL PAID UP. 5.008,672 RESERVE IFUND,&&.ft & 3.600,000 DEPOSITS, ETC.- 130.504.400 I ADVANCES. ETC. 55.008,883 FRENCH AUXILL\Ry-LLOYDS BANK (FRANCE) LIAMTED I

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney. TRINIAETH RAD. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymaiau, effaitb gormod o uric acid yn y cyfansoddlad a methodd yr elwlod (kidneys) el symud fel y bwriadodd natur; gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig.. A'r acid hwn yw'r achos a boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwylder y dfrr, carreg, grafel, a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau eralll o anhwylder yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a thrwy hynny symudir achos yr anhwylder, yr hyn o anghenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg o ddeillia o hono ae mae wedi iachau achosion dirifedigwedimethiantmeddyglriiaethauerelll, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn brysur gy meryd lle'r meddyglniaethau hen ffasiwn a werthiram brislau sydd allan o gyrraedd bawb ond y cyfoethog, ac sydd yn fynych syrthio mor fyrr o'r honiadau rhyfeddol a wneir, fel y mae ffydd ynddynt wedi mynd ar goll. I brofi fod Tabled! Estora yu llawn deil- yngu y deagjifiad ohonytit-meddyglniaeth onest am brls gOLiest-anfonir un blychaid llawn o 40 Tab ed I Ddarllenwyr y LLAN fel aampl rhad, ar dderbyniad y rhybudd bwn a So. mewn llythyrnodau i dalu'r cludiad, y pacio, &c. Ar werth gan Fferyllwyr am 1/3 y blwch o 40 Tabled, neu 6 blwch am 6/9. Am sampl- flwch llawn, cyfeirier Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. HOWELL MORGAN, MEDICAL HALL, CARDIGAN AGENT. 4052-929p

ILLANGEINWEN A LLANGAFFO MON

I LLANGEINWEN A LLANGAFFO, MON Bidtdd.—Dydd Sul, Chwefror 20fed, der- byniwyd i arok Eglwys Criat yn Eglwy. Llaa- gaffo, Margaret Eira, merch Mr. a Mrs. Thompson, Hen Shop. Eira yw ei henw, a ohan mai gwyn yw lliw y min-blu prydfertb, gwyn fyddo ei chymeriad hithau ydyw. dy- muniad a gweddi pawb o honom, hyd y dydd pan y gwisger hi yn ngynau gwynion gwlad y gogoniant. Ukcbb y Mamau.—Parhau yn ei wres hyd yn hyn wos'r gangen ntwydd o'r undeb uchod, a haedda Mrs. Prichard, Dinam, elt diolchgarwch am ffurfio oymdeithai o'r fa' yn Llangaffo. Yr ydym yn edrych ymla- i'n gwasanaeth defosiynol ar ddydd Gw Fair. CANON Huapt ROBERTS.—Er mal genedigc o blwyf Niwbwrch oedd yr ymadawedig, un o blant Eglwys Llangeinwen ydoedd, 800 yo un o'r pedwar o ofIeiriafd godwyd yn y plwyf o fewn cof y preswylwyr presenol, a gall y plwyf ymftrostlo yn ngweinidogaeth y ped- war. Nid oes ond un yn aros heddyw, sef y Parch. Ban Jonas, rheithor Penmachno, a golygydd gweitbgar yr I Haul,' cylchgrawn sydd yn gwella bob ergyd yn el danbeld- rwydd, ac hir y pery i ddisgleirio yn ffurfafen llenyddiaeth yr Eglwys. Na fachluded yr Haul' hyd oni ymlidir y tywyllwoh caddugawl o'n gwlad. Bu farw y Parch. Hub Owen pan yn ddyn ieuanc. Am y Parch. John Owen, afraid I mi ymhelaethu, canys adnabyddid ef trwy yr ynys fel offeir- iad gweithgar a duwiol, a phan fu farw fel Ficer Llaufihangel-y-Pennant, claddwyd Efengylydd mwyn, dyn cywir a dirodres, yo fawr ei barcb yn ngolwg dyn, a theimlwn yn hyf i ddweyd ei fod hefyd yn un o favour- ites' y nefoedd. Wele eto y newydd fod Canon Roberts, Colwyn Bay, yn ei fedd. Pwy yn debyg iddo ? Dyn distaw, ac eto wedi cyflawni gwrhydri yn Mrymbo a Chol- wyn Bay. Dyn distaw, yn euddio ei hun, ac eto ynddo ddigon o ysprydiaeth i greu brwd. frydedd a gweithgarwch mewn canoedd o bobl. Dyn distaw, ond cadarn yn ei ddaliad- au yn Eglwyswr selog, ac eto iddo baroh gan Ymneillduwyr. Dyn distaw yn y pwl- pud, ond yn dylanwadu ar ddynion. Bu lief ddistaw fain Canon Roberts yn fwy hyawdl na brefiadau oanoedd o gwrdd-deirw Basan ein Uwyfanau cyhoeddus. Cod- ed Llangeinwen eto ddynion tebyg i'r pedwar a nodwyd—dynion sydd yn foddlon aberthu eu bywyd er lies yr Eglwys, ac nid defnyddio yr Eglwys fel cysgod i'w cuddlo rhag haul a gwres y dydd. Nid rhyfedd i'r pedwar yma, ac yn enwedig y tri a fuont dalm o amser yn y weinidogaeth, nid rhyfedd iddynt drol allan yn weithgar, canys codwyd hwy mewn awyrgylcn iach o dan weinidog- aeth y diweddar Canon Williams, Menaifron, ac ar ol hyny o dan ei fab, sef y Parch. W. Wynn Williams. Mae ea coffadwriaeth yn felus hyd heddyw, ac yn brawf o anfarwoldeb enw da. Mae ein cydymdeimlad yn fawr ¡'r teulu. Mae Mrs. Thomas, Ty'nbuarth, yn chwaer i'r ymadawedig, yr hon ynghyd a'i theulu ydynt aelodau gweithgar yn EglwYI Llangaffo. GWYL Ditwi.- Darfu i blant Yagol Genedl- aethol Llangaffo, yn ol eu harfer, ddathlu gwyl ein Nawdd Sant trwy roddi cyngerdd, pryd y canwyd ao yr adroddwyd daman gwladgarol. Yr oedd y dull a'r modd meis- trolgar y darfu i'r plant arddangos yn llew- yrchu clod ar Miss Hughes, yr ysgolfeistres, yngbyd &r ddwy is-athrawes. Anhawdd dycbymygu am well ysgol wledig nag a geir yn Llangaffo. Ceir yma ddisgyblaeth, ond nid trwy- ddefnyddio Haw halarn. Ni welir gwialen, ac eto ceir yma ufudd-dod, a hwnw yn ufudd-dod oalon. SAif yr ysgol yn uchel ar restr y sir, ac hawdd credu hyny. Ni welsom erioed well ysgol. Po gwelsai y Kaiser waith y plant yn y Kindergarten, gwelsai ar unwaith fod y Ger- man trade ar ben. Dysgir y plant yma Jyn hynodd deheuig, a gweithiant a'u bysedd deganau mwyaf celfydd. Mawr yw ein bralnt fel plwyf.—Ap Caffo.

TREH ARRIS

TREH ARRIS. Cynhaliwyd gwasanaeth arbenig Cytnreig i ddathlu Gwyl Dewi Sant yn Eglwys y plwyf, Treharris, ar ddydd Mercher, Mawrth laf. Gweinyddwyd y Cymun. Bendigaid yn y boreu, ac yn yr hwyr cafwyd Gwasanaeth Corawl, sef y Gosper. Llafarganwyd y gwasanaeth gan y ficer, y Parch. James Thomas, yr hwn a gynorthwywyd gan y Parch. J. J. Davies, M.A., curad. Darllenwyd y llithiau gan Mr. H Ll. Evans (Darllenydd Lleyg), a chwareuwyd ar yr organ gan Miss M. E. Edwards, Fox St. Yr oedd y Cdr o dan arweiniad Mr. John Daniels, ac yr oedd yn bresenol hefyd yn ei wenwisg, Mr. Eynon Wil- liams (Darllenydd Lleyg). Cafwyd hwyl neillduol yn y caniadau, y salmau a'r emyn- au dewisedig, ao ymhith yr olaf yr oedd yr emynau 424, 394, 65, 330 o lyfr 'Hymnau yr Eglwys I yn darawiadol dros ben. Canwyd x hen alawon poblogaidd Cymreig i'r cyfryw, sef 'Elwy,' 4 Ffigysbren,' 4 Meirionydd,' a'r Delyu Aur,' ac yr oedd pleser, gwres, a bywiogrwydd yn y canu o ddeehreu i ddi- wedd. Cafwyd pregeth ardderchog hefyd gan y Parch. E. R. Davies, B.A., ficer Cyfarthfa, Meithyr Tydfil, yr hwn a gymer- odd yn destyn Esaiah lii, 1. Terfynwyd y I wasanaeth gyda'r Fendith a thrwy ganu yr. Anthem Genedlaethol. I ARGRAFFU RHAD, CYFLYM, A DESTLU8 j YN SWYDDFA'R "LLAN."