Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd o

aberthu ar adeg rhyfel!" Mae hyn yn gymhelliad i'r cyhoedd i holi pa faint a aberthwyd gan rai o Aelodau f Tribiwn- alau hyn eu hunain? Nid oes modd camgymeryd amcan a bwriad y Llywodraeth yn y mater hwn. Mae cyfarwyddiadau Mr. Long, Llywydd Bwrdd Llywodraeth Leol, i'r Tribiwnalau yn ddigon clir a phendant. Dywed:— 'Os gellir dangos y bydd y weddw yn waeth allan yn ei hamgylchiadau, ac y bydd heb foddion cynhaliaeth priodol; neu "Os bydd y weddw yn wael ei hiechyd, ac, er na fuasai yn dioddef llawer yn ei hamgylchiadau pe gelwid y mab i fyny; eto, os mai efe yw yr unig blentyn iddi a adawyd adref, ac os bydd ei chysur hi yn dibynu i raddau pell arno ef." Yna, medd Mr. Long, mae ganddi hawl i gael ei mab yn rhydd. Daet-h i mi lu o lythyrau yn dangos pa mor ddidrugaredd a digywilydd yr anwy- byddir y cyfarwyddiadau pendant hyn gan rai Tribiwnalau. Nid trwy weith- redu ohonynt felly y megir parch y cy- hoedd at y Tribiwnalau, nac y sefydlir syriiad eu bod yn ymddwyn yn deg, na hyd yn oed yn gyfreithlawn. Y RHAI A WRTHODWYD GAN Y MEDDYG. Cefais yr wythnos. ddiweddaf eto lu o lythyrau yn profi fod rhai o'r Awdur- dodau Recriwtio yn anwybyddu yn hollol ddyfarniad Swyddfa, Rhyfel yn achos pawb a wrthodwyd gan y Meddyg Re- griwtio. Mae llu o lythyrau wedi myned o Gymru i Mr. Tennant, Is-Ysgrifenydd Rhyfel, yn amlygu'r ffeithiau. Ymhoh amgylchmd a ddygwyd i'm sylw i mae Mr. Tennant wedi cadarnhau yr hyn a ddy- wedais yn y LLAN ar y mater, a'r llythyr swyddogol a gyhoeddwyd genyf yr wyth- nos ddiweddai. SAFLER gwr PRIOD HEDDYW. Ymddengys oddiwrth y llythyrau a dderbyniais yn ddiweddar fod amheuaeth gan amryw wyr priod ynghylch eu safle ar hyn o bryd. Ceisiaf egluro:- 1. Nid oes neb gwyr priod hyd yma yn dod o dan Ddeddf Gorfod. Os na ddy- munant atestio ni ellir ar hyn o bryd eu gqrfodi i wneyd. Ond mae Cyfundrefn Group Derby yn agored iddynt os dewis- ant ymuno. 2. Gall y neb fo wedi atestio wneyd cais at y TribiwnaJ, Lleol am ryddhad (a) hollol, (b) amodol, neu (c) dros amser,—yr un modd ag a wnaed gan y dynion dibriod. 3. Os yw ei Group wedi cael ei alw i fyny, ac yntau heb nodi ar ei bapur atestio i ba Gatrawd neu Fataliwn y dymuna fyned, dylai, pan a i Bencadlys y Re- criwtio, wneyd cais ff urfiol fel Cymro i'r Swyddog fydd yno yn ei holi, am gael i "bostio" i'r Gatrawd a ddymuna. GwnaNl hyny yn Gymraeg pa un byiigg ai Cymro ai Sais fo'r Swyddog fyda yn ei holi. GofeJir, fel rheol, fod yno Gymro a fedr siarad a'r Recriwt yn Gymraeg. Os na fydd y Gatrawd neu'r Fataliwn a ddewisir ganddo yn llawn eisoes, tebyg yw y cania- teir ei gais. Ond gaJI y Swyddog wrthod. ,to Eto, gall y Cymro hawlio catl ei benodi i ryw Gatrawd neu Fataliwn Gymreig. 4. Os yw ei Group heb gael ei alw fyny gall sicrhuu ei Gatrawd neu ei Fataliwn, drwy enlhtio i'r Gatrawd neu'r Fataliwn hono cyn y gehvir ei. GrOtlp i fyny. Gall enlistio felly, fol rheol, yn y Recriwting Office agosaf ato. 5. Os gwrthodir iddo (o dan 3 uchod) gael myned i Gatrawd Gymreig, dylai ddanfon y ffeithiau mewn ysgrifen i'w Aelod Seneddol, neu at Mr. Ellis Davies, A.S., Chwip y Blaid Gymreig, Ty'r Cyffredin, Llundain. 6. Os cyfyd y Recriwting Officer (o dan 4 uchod) arohawsterau, ysgrifenser at y Prif Swyddog Rocriwtio dros y Sir, ac at ei Aelod Seneddol, ac at Mr. Ellis Davies. Gellir ysgrifenu yn Gymraeg at yr Aw- durdodau Rscriwtio, ac fel rheol gwell yw gwneuthur felly. DYDD IAU, Mawrth 9. Y RHAGOLYGON YN VERDUN. Hysbysid heddyw nad yw y German- iaid wedi llwyddo i wneyd unrhyw gynydd yn Dtouaumont nac yn yr ymosodiadau a anelasant at safleoedd y Ffrancod yn Verdun. Mae y llinell Ffrengig yn rhedeg yn ddidor o drefedigaethau an- mhleidiol i'F mor, a methodd y German- iaid wneyd Unrhyw niwed iddi, er cymaint eu hawydd a'u penderfyniad.. Ni adaw- sant ddim heb ei wneyd er. gorchfygu y Ffrancod, ond bu eu holl ystrywiau yn ofer, ac yr oedd ydraul mewn bywydau yn enfaw riddynt. DYDD GWENER. YR YMOSODIADAU AR Y MEUSE. Gweithiodd y Ffrancod yn ardderchog yn gwrthwynebu ymosodiadau ffymig y Germaniaid i'r gorllwein o Meuse, ae y maent hefyd wedi rhoddi terfyn arnynt ar yr ochr arall i'r afon. Ychydig ddywedir yn yr adroddiadau Germanaidd am y gurfa gawsant. SYMUDIADAU Y RWSIAID. Yn ol newyddion a dderbyniwyd, mae rhai o fyddinoedd Rwsia yn y Caucasus yn symud ymlaen yn nghyfeiriad Alexan- dretta, sef porthladd ar gangen o'r rheil- ffordd i Bagdad, lie una Asia Leiaf a Uhliieddlau Syria;, i350 millilir o Bitlfis. Hwn yw y porthladd agored agosaf i'r Caucasus Rwsiaidd. Os llwyddir i fedd- ianu y porthladd hwn, torir Twrci yn Asia yn ddau. BRWYDRO AR Y TIGRIS. Daifu i'r Cadfridog Aylmor symud ymlaen ar hyd glanau y Tigris ar y 6ed cyfisol, a ohyrhaeddodd Es-Sinn, tua saith milldir o Kut-el-Amara. Ymosododd ar y Tyrciaid yno, gan beri colledion trym- ion, ond ni lwyddodd i wneyd i'r gelyn ymadael oddiyno. Llwyddodd y Cad- fridog Aylmer i nerthu ei safle, ac nid oedd y colledion ond ysgafn. Disgwylia allu gwaredu y Cadfridog Townshend yn fuan. YMOSODIAD AWYRENOL AR BELGIUM. J Aeth chwech o awyrlongau Ffrengig i Belgium, a gwnaiethant ddifrod mawr ar y rheilffyrdd ac ystorfeydd y Germaniaid. DYDD SADWRN. YSTRYWIAU Y GERMANIAID. Yn gymaint a bod y Germaniaid wedi derbyn colledion arswydus yn mrwydrau Verdun, maent yn brysur wrth y gwaith o ddwyn camdystiolaeth yn erbyn y Ffrancod er mwyn twyllo trigolion Ger- mani. Honant yn awr mai Ffrainc a gychwynodd y brwydro, pan y gwyr pawb mai yn hollol fel arall y bu. Nid oes derfyn ar gyfrwysdra a dichellion y Ger- maniaid, a mynant i bohl gredu eu bod yn hollol ddiniwed. COLLEDION Y GERMANIAID. Amcangyfrifir fod cyfanswm colledion y Gemaniaid ar y tir yn, cyraedd 2,667,000 o filwyr, o ba rai y lladdwyd 600,000. Mae y rhai ar goll yn rhifo 213,000, a'r carcharorion yn 117,000. DYDD LLUN. BRWYDRO YN NWYREINBARTH AFFRICA. Mae y Cadfridog Smuts yn gweithio yn egniol yn nwyreinbarth Affrica, ac wedi symud y Gennaniaid o Taveta. Yn nglyn a hyn, mae y Germaniaid wedi cy- hoeddi rhyfel. yn erbyn Portugal, a cheir ychwaneg o fanylion yn ddiau am y symudiad hwn. GWRTHSAFIAD DEWR Y FFRANCOD YN VERDUN. Mae brwydr Verdun wedi cyraedd ei phedwaredd wythnos, ond nid yw y Ger- maniaid, er eu holl- ymdrechion, ddim nes ymlaen nag ar y dechreu, ond wedi colli miloedd lawer o'u gwyr. Yr unig enillion all y Gemaniaid hawlio yn ystod y dydd- iau diweddaf ydyw meddianiad rhan o bentref Vaux, mynediad o ychydig ffordd ar dir coediog, a meddianiad ffos fechan. I enill y rhai hyn collodd ddegau o filoedd o fywydau. Dywedir eu bod yn cael eu hysgubo i lawr fel pladurwyr yn tori gwair, a bod y golygfeydd yn ofnadwy. Brwydr Verdun yw y fwyaf ymladdwyd eto, ac os deil y Ffrancod fel y maent yn bresenol bydd yr oruchafiaeth ar y Ger- maniaid yn llwyr. Y CYNGHREIRIAID. Bu cynrychiolwyr y Cynghreiriaid yn cynal cynhadledd yn Paris ddydd Sadwrn, pan yr ymgynghorwyd ynghylch y dull goreu o gydweithredu yn erbyn y gelyn. TERFYSGOEDD YN BWLGARIA. Hysbysir fod terfysgoedd blin yn cy- meryd lie yn feunyddiol yn llgwahanol drefi Bwlgaria, y rhai y methar yr hedd- geidwair eu hatal. Mae amryw wedi eu lladd. yn Sofia ynghyd a thros gant wedi eu clwyfo. Bydd yn rhaid i awdurdodau Bwlgaria ofalu am eu deiliaid eu hunain yn hytrach na chynorthwyo Germani gyda'i herchyllwaith. DYDD MAWRTH. Y BRWYDRO YN NWYREINBARTH AFFRICA. Oddiwrth y newyddion a dderbyniwyd o Ddwyreinbarth Affrica, ymddengy& fod y Cadfridog Smuts yn gorthrechu y G°r nxaniaid ar bob Haw, ac yn eu gorfodi i ffoi. Mae ymladd caled wedi bo J, ojid credir fod y Cadfridog Smuts wedi caci y Haw uchaf ar y Germaniaid yn awr. CYNYGION HEDDWCH GAN GERMANI. GERMANI. Hysbysir yn swyddogol fod y cynygion heddwch canlynol ar ran y Germaniaid wedi eu cyflwyno i Dr. Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau:—■ Dychweliad ei threfedigaethau 1 Germani. Hunan-lywodraeth i Poland. Rhyddhad Groeg a. Thwrci o ddy- lanwad Prydeinig. Persia i gael ei llywodraethu gan Rwsia. ) Y Germaniaid i ymadael o Ffrainc a Belgium. Lloegr ddim i fod yn enillwr na cholledwr. Sicr yw na fydd i'r Cynghreiriaid ym- 0 oatwng i dderbyn y telerau hyn, ond ym- ladd ymlaen nes llwyr ddarostwng Ger- mani. DYDD MERCHER. Y SAFLE YN VERDUN. Oddigerth ychydig saethu yn ngor- llewinbarth y Meuse gan y Germaniaid, mae pethau wedi bod yn dawel yn Ver- dun, ond credir fod ymladdfa ofnadwy ar fin tori allan, ar gyfer yr hon y mae y Ffrancod yn hollol barod. Er gwaethaf holl ystrywiau y Germaniaid, methiant llwyr fu eu hymosodiadau yn Verdun,. ac y maent wedi colli o leiaf ddau can' mil o filwyr. Dywedir fod gan Germani filiwn a haner o filwyr yn Ffrainc. BYDDIN SERBIA. Mae byddin Serbia, yn rhifo 150,000 o wyr, yn barod i gymeryd eu rhan gyda'r Cynghreiriaid. GWENDID Y TYRCIAID. Ymddengys fod y Tyrciaid wedi eu meddianu gan lwfrdra ac ofn, ac nad oes unhyw obaith y gallant wrthwynebu mwya h y Rwsiaid yn Asia Leiaf.

Llythyr Llundain

Llythyr Llundain. MR. CHURCHILL. Ar bob llaw clywir condemniad o Mr. Churchill am ei araeth yn y Senedd yr wythnos diwoddaf, yn enwedig pan ddywed- odd y dylai Arglwydd Fisher gael ei wahodd yn ol fel prif Arglwydd y Llynges. Pe byddai Mr. Churchill wedi traddodi ei araeth mewn rhyw neuadd gyhoeddus, ac nid o dan aden amddiffynol Westminster, byddal mewn perygl o gael ei gospi o dan y mesur adnabyddir fel The Defence of the Realm Act.' Anmhosibl ydyw cyfiawnhau yr araeth. Os oedd Bwrdd y Llynges yn y fath gyflwr ag y dywedodd Mr. Churchill ei fod, dylasai roddi ei farn i'r Prif Weinidog, oherwydd fe gredaf y eawbal ei farn yr lawn gydnabydd- iaeth gan Mr. Asquith, ac ni fyddai y werin yn cael eu cythryblu. Wele efe yn dyfod drosodd o Ffrainc a thaflu I bomb' o'r fath yma yn Westminster. Cred rhal ei fod wedi blino ar fod allan yn Ffrainc, a'i fod am ddyfod yn ol i'r byd politicaidd, a cheislodd wneyd hyny trwy alw am Arglwydd Fisher er mwyn iddo ef ei bun ddyfod yn ol yn ei gysgod J Trwy el araeth hefyd dangosodd i'r gelyn nad oedd pob peth yn dda (yn ol ei farn ef) a'r Llynges, a phwy wyr gwerth rhyw belydr o obaith i'r gelyn. ARWYDDAIR I'R CYNGHREIRIAID. Nid yw Germani yn haeddu dim oddiar ddwylaw y Cynghreiriaid ond i fwyta bara gofidiau." Dyna ddywedodd Mr. J. M. Robertson, A.S., y Masuachwr Rhydd enwog. Sterch hyny, ofnai y byddai Lloegr yn dl- oadef rhyw ychydig drwy gau y drws mas- nachol yn wyneb eu gelyn, ond gwell ydyw dioddef rhyw gymaint na gadael y cancr i masnachol fwyta ein masnach ni fel y dy- wedodd Mr. Hughes, Prif Weinidog Awatralia. Rhaid i ni benderfynu cadw Prydain i'r Pry- deinwyr o hyn allan. ARWR VERDUN. Un o filwyr dewraf Ffraino ydyw y Milwr- lad Petain, yr hwn sydd yn ymladd mor ar- dderchog yn Verdun. Nid yw yn credu yn ymladd pob brwydr yn ol traddodiadau y Ffrancod, ond ystyria bob ymdrech ar ei phen ei hun. Er's mlsoedd lawer, cadwodd rai catrodau allan o'r ffosydd, a dyma'r rhai sydd yn awr yn enill cymaint o glod yn Verdun. Ar ddechreu'r rhyfel, yr oedd y Milwriad Petain wedi ymddiswyddo-wedi enill ei seiblant, ac oddiar y dechreu, mae wedi cerfio He anrhydeddus iddo ei hun yn nheimladau ei gydwladwyr. Bu yn ymladd ochr yn ochr a'r Prydeinwyr yn Loos. Diljnai ei filwyr ef hyd eitbaf y byd. SANT PATRICK. Dydd Gwener, sef y dydd y cyhoeddir y rhifyn hwn o'r LLAN, ydyw dydd gwyl Nawdd Sant yr Iwerddon, a chofir am dano yn neillduol gan ein milwyr dewr tu hwnt i'r mor. Ni A-yr pawb mai br6dor o Scotland oedd y Sant. Ganwyd ef yn Kilpatrick, yn Sir Dumbarton, vn 373. DvweUr iddo farw a'i gladdu yn Saul, ger Downpatrick, yn 493, ac felly yr oedd yn 120 mlwydd oed. Gwisgir y shamrock pan bob gwladgarwr e'r Ynys Werdd, ac nid oes neb mwy twym- galon dan haul na'r Gwyddel. • » » TRETHI. Ar bwy fydd pwysau y trethi newydd yn gorwedd ydyw cwestiwn mawr yr awr. Ceir y gwr priod yn cyhoeddu y dylai y dynion sengl gael eu trethu yn drwm, yn enwedfg am fod cynifer o honynt yn aros tu allan i'r fyddin trwy ganlyn rhyw orchwyl svdd wadi ei serenn gan yr awdurdodau. Credir hefyd y bydd yr hvsbysleni cyhoeddus yn gorfod cyfranu rhvwfaint, a phan gofivvn eu maint yn y brifddinas, sicr yw fod arian mawr i gael o'r cyfeiriad vma. Yn Ffrainc a gwled- ydd erelll ar y Cyfandir, ceir cyfanswm syl-j weddol oddiwrth y fath dreth. (

Lloffion

Lloffion. Yn nghyfarfod blynyddol Oymdeithas Ysv/iriol y Refuge, gynhaliwyd yn Man- ceinion ddydd Iau, dywedwyd fod y Cwmni wedi cyfranu dros filiwn obunau i'r War Loan yn ystod y flwyddyn. Yn Llys Marliebone, ddydd Mercher, dirwywyd Mr. Godfrey Isaacs, brawd ^Arglwydd Reading, i lp am ganiatau goleu rhy ddisglaer yn ffenestr ei dy. Y mae Cadben L. R. Burnett, yr hwn fu yn Brif-Gwnsta,bl Wolverhampton am 25 o flynyddau, wedi ymddiswyddo. Caniata\y}Td 'war bonus' ychwanegol o 3s yr wythnos i'r 2000 gweithwyr ar Gor- phoraeth Hull ddydd Iau. Gadawodd Cadben Richardson, o'r Canadian Force, yr hwn laddwyd yn Ffrainc, 6000p er addysgu plant milwyr ei gatrawd a laddwyd neu a glwyfwyd. Yn Vadley End, Chobham, ddydd Llun, bu farw Henry Snooks yn 104 mlKvydd oed. Y mae nifer o fechgyn ieuainc o'r Wladfa Gymreig (Patagonia) wedi dod trosodd i ymuno a-'r r yd din. Tri o honynt o Sir Gaemarfon, a'r oil yn saeth- wyr penigamp. Rhydd Cwmni y 'Daily Mail' 100p i bob milwr a morwr cnillant y V.C. yn ystod y flwyddyn hon, 1916. Cymerodd Mr. Pemberton-Billing, A.S., yr aelod newydd dros North Herts, ei Ie yn y Senedd ddydd Mawrth. Mewn cyfarfod o Warcheidwaid Black- burn: dywedwyd fod eu costau yn ych- waneg o 2000p mewn canlyniad i'r codiad yn y nwyddau. Dywed Lady Sibyl Grey, yr hon sydd yn Rwsia, fod y clwyfedigion yn awyddu& iawn i ddysgu yr iaith Saesneg. Anfonwyd haner tunell o ddail Sham- rock o Belfast ddydd Sadwrn i'w rhanu rliwiig milwyr adran Ulster. Cymaint ydyw prinder gweision mas- nachwyr yn Doncaster fel y mae y mas- nachwyr wedi penderfynu cau eu mas- nachdai yn ystod yr awr giniaw. Pan y dirwywyd llongwr yn Llys Llun- dain i 5s am fod yn feddw ac afreolus dy- wedwyd ei fod yn rhanu nodau punt, ac fod ganddo wyth ar ei berson. Y mae tua .100 o fyfyrwyr Prifysgol Reading gyda'r Fyddin. Yr oedd gan Jabez TyldesJey, o Leigh, cl zn yr hwn oedd yn 94 mlwydd oed ddydd Gwener, ewythr yn 107, taid yn 101, tad yn 90, a mam yn 85. Y mae ei cliwaer yn91. Tra yr oedd dyn a'i fachgen chwe' mlwydd oed yn rhuthro i lawr grisiau oedd ar dan yn Sligo, ddydd Iau, Iloogw a y ddau i farwolaeth. Addurnwyd deugain o swyddog-ion a gweinyddesau a bathodau gan y Brenin o yn Mhalas Buckingham ddydd Meu'her, Nid oea arholiadau ynglyn a'r 'Civil Service' i'w cynal yn ystod y rhyfel. Mewn canlyniad i'r ystormydd mawr o eira y mae mynachlog enwog St. Bernard wedi oi chau o'r byd tuallan er's yn agos i bythefnos, ac ofnir fod bwy<^ yn brin yno erbyn hyn. Am ddweyd mai llv/fr-ddynion vdyw miliwyn Prydeinig dirywy Cleveland Gunter, Americanwr, i 5p yn Glasgow ddydd Mercher. ° Mewn trengholiad ar gorph Amelia M. Bomerley, yn Westminster, pasiwyd iddi gyflawni hunanladdiad trwy drywanu ei chalon a. nodwydd. Cyrhaeddodd Mr. Wiliam Hughes, Prif Weinidog Awstralia, i Locgr ddydd Mercher ar neges bwysig yngJyn rhyfel. 0

Yn Nyffpyn Taiti

Yn Nyffpyn Taiti. (Gan JOHN Y GWAS). I L WI, MawEOL.—Mae Mr. Robert Williams, Iteinant, Felindre, wedi ymuno a'r Fyddin. Bellach mae tri mab a mab-yn- lighyfraith i Mr. Wm. Williams yn ligwasanaeth ein gwlad, ac mae tri ohon- ynt wedi cael rheng y tan. Dyma esiampl deihvng o gyflawni dyledswvddau gwlad- garol. 0 ANGAU.—Blin genym groniclo marwol- aeth y ddiweddar Mrs. Hannah Jones, 5, Railway Terrace, Henllan, yu 76 mlwydd oed. Eglwyswraig bur fu drwy ei hoes ac un o deulu Penlon Nantllin, Penboir, yd oedd. Dynea dawel, ddiymhongar, yn llawn o vsbryd paredig fu gydol ei hoes. Aelod o Eglwys Llandyfriog" oedd. Dydd Meichei, wythnos ir diweddaf, cymerodd y gladdedigaeth le yn mynwent Castell- newydd Emlyu. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parchn. H. Jones, Llandyfiog, a E. J. Davies, Henllan. Ar lan y bedd gwasanaethwyd gan y Parchn. H. Jones a Gruffydd Evans, Deon Gwladol, Castfell newydd Emlyn. Y prif alarwyr oeddynt Mr. Thomas Jones (priod), Mr. Tom. Jones, Llundain (mab); Mr. Ben. a Mrs. Mary Evans, Aberbanc; Misses Hannah Jones. ac Elizabeth Jones (plant), Mr. Thomas Evans, Penlon. Penboir (brawd); Mr. a Mrs. James Davies, Penrhywfieer; Masefcer Tommy Evans, Aberbanc (iiai); Miss Getta Evans (nitli). Methodd merch iddi (Mrs. Pegg, Canada), a chwaer (Miss Elizabeth Evans, Ponloii) a bod yn bre- senol. Estynir y cydymdeimlad llwyraf a'r perthynasau yn eu galar.

ST THOMAS LLANDWROG

ST. THOMAS, LLANDWROG. LLONGYFARCHIAD.—Yr wythnos diweddaf cyrhaeddodd Mr. William Ellis, ysgolfeistr Penfforddfelen, ben ei 28ain mlwydd o lafur llwyddianus yn y plwyf. Bu am bum mlynedd cyn hyny yn ysgolfeistr yn Ysgol yr Eglwys yn y rhan isaf o'r plwyf. Mae 61 llafur Mr. Ellis i'w weled yn amlwg ar gymer- iad yr ardal, & niferus iawn yw rhif yr ysgol- heigion o Benfforddfelen Bydd wedi dringo ysgol dyrchafiad a chlod. Nid oes dim a rydd fwy o foddhad i'r athro na gweled ei hen ysgolheigion yn talu ymweliad a'r ysgol pan ar eu gwyllau. Mae Mr. Ellis wedi rhoddi yr un cyfnod o wasanaeth i Eglwys St. Thomas, ac am dros 20 mlynedd mae wedi cyflawni y awydd o Warden Eglwysig, heblaw gweithio yn egniol fel athraw yn yr Ysgol Sul, ysgrifenydd Clwb Cynilo, ac am ran o'r cyfnod fel organydd ac arwelnydd y gân. Llongyfarchwn Mr. Ellis ar ei well- had ar ol y weithred law-feddygol ar ei lygaid, a dymunwn iddo iechyd a phob rhwyddineb i orphen ei yrfa ddisglaer fel ysgolfeistr, ac i fwynhau egwyl ddymunol wedi hyny yn rhydd o ofalon a phwysau swydd gyfrifol.-Cyfaill.

YSTRADMEURIG

YSTRAD-MEURIG. Y DDADLBIFA GYMREIG.—Cynhaliwyd dadl- eufa o dan nawdd y gymdeithas uchod, nos Sadwrn Mawrth 4ydd, pryd y llywyddwyd gan Mr. A. T. Lewis. Cyn dechreu & gwaith y ddadleufa, ymdrinwyd a materion cyfrinachol perthynol i'r ysgol. Yna darllenodd yr ysgrifenydd gofnodion y cyfarfod blaenorol, y rhai a gawsant eu derbyn. Y pwnc i ddadleu arno y noson hon oedd, "A ddylid cadw yr laith Gymraeg i fyny". Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Titus Jones Hughes, yr hwn a brofodd ei hun yn hollol feistrolgar ar y pwnc dan iylw. Yna y galwodd y llywydd ar Mr. D. Meurig Davies, (y prif ysgolor) i siarad ar yr ochr nacaol. Profodd yntau hefyd ei fod yn feistr ar y cwestiwn dyrus hwn. Yna rhoddwyd y tt yn agored, a daeth amryw o'r aelodau ymlaen i roddi eu barn ar y naill ochr neu'r llall. Pan ranwyd y ty, cafwyd fod y mwyafrif dros y cadarnhaol. Terfynwyd drwy ganu yr Anthemau Cenedlaethol; cymerwyd yr alawon gan Mr. T. W. Arch a Mr. T. M6n Williams.

NANTCWNLLE

NANTCWNLLE. CYWIRIAD GWALL.-Trwy ryw amryfusedd syrthiodd gwall i mewn i'm hadroddiad di- weddaf, trwy i ml adael allan eow un o'r gwragedd a fu'n gweini yn I Cwrdd Clebran J Llangronw, sef Mrs. Edwards, Plough and Harrow. CYNGERDD. — Nos Wener, cynhaliwyd gwledd flynyddol yr Yagol Sul yn Nantcwn- Ile. Am haner awr wedi tri, cafwyd pryd o de a phob math o ddanteithion i aelodau yr Ysgol Sul, yr hon a ddarparwyd gan y bon- eddigesau canlynol:—Miss Evans, Lletty'r- pwl; Mrs. Davies, Tanrallt, a Mrs. Jones, College. Yn yr hwyr cafwyd concert: ao yr oedd rhaglen ardderchog wedi el pharotoi. Nid wyf am drethi'ch amynedd, Mr. Gol., i'w roddi i lawr yma. Rhanwyd gwobrwyon i ffyddloniald yr Ysgol Sul yn y lie gan yr ar- olygwr, sef Mr. Evan Jones, College, o ba rai yr oedd pump wedi cadw yn llawn. Terfyn- wyd trwy ganu yr Anthemau Cenedlaethol.

ST MAIR GELLI LLANDEGAI

ST. MAIR, GELLI, LLANDEGAI. Nos Gwyl Dewi, Mawrth 1, 1916, cynhal- iwyd cyfarfod cystadleuol y plant yn Ysgoldy y lie uchod. Cadeirydd, Parch. D. Andrew Jones, ficer Llandegai; arweinydd, Mr. Melancthon Williams; beirniaid, Parch. R. R. Roberts, ficer St. Thomas, Groeslon; Mr. Emmanuel Davies, Bodfeirig, a Mr. T. H. Griffiths, Llandegai, ysgolfeistriaid y lleoedd uchod; Mrs. Andrew Jones a Mrs. Hughes Jones,.ysgrlfenyddes Miss Davies, Tregarth. Gwerthfawrogwyd gwaaanaeth yr oil. Caf- wyd oyfarfod llwyddianus ymhob ystyr, yr Ysgoidy yn llawn o bobl, yr adran arianol yn llwyddiant, ac uwchlaw y cwbl y llafur mawr ag yr awd iddo gan y plant ymob cystadleu- aeth. Yn ystod y cyfarfod cafwyd gair gan y Parch. R. R. Roberts, Ysgrifenyddd Dir- westol a Darbodol yr Esgobaeth. Ei anog- aeth oedd ar i ni fel Eglwyswyr arfer ein doefchineb yn wyneb y gelyn ofnadwy sydd yn myned rtiagddo, meddwdod, sydd yn an- rheithio ein gwlad, a darbod yn yr argyfwng pwysig ag yr ydym ynddo drwy y rhyfel presenol. Drwg genym na chauiata gofod i gyhoeddi y rhaglen.

Advertising

THEYJGROW WELL IN WALES, 50,000 TESTIMONIALS. 1,000,000 Copies of Gibbs' large i (Iuslrated Catalogue for 1916 Now READY lri-f This Valuahle Book wlil -be sent Post free to all of" LLAN," on application. GREAT FREE GIVTS & Special Discounts to early Buyers E. T. GIBBS, F.R.H.S., THE PRIZE SEEDSMAN, EAST FINCHLEY, N. THEY GROW WELL IN WALES, 50,000 TESTIMONIALS. 3386-939