Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

YR HAUL. I OYWWYSIAB AM IICBRILL. Y Mis. Odlig Hiraeth. 0 Lygad y Ffynnon. Bwrdd y Golygydd. Golygwyr Yr Haul "-Y Parch, Ganon W. Williams, B.D., Jeffreyston. Y Gongl Ddifyr. Pregeth. Emyn 499 (Ancient & Modern). "Iauo yn Anghydmarus"_(2 Cor. vi. 14.) Ymdaith y Cristion. O'r Arsyllfa. 'I Congl y Cywrain, 1 Amynedd. Kodion Eglwysig. j Manion. < om

Advertising

PKIiL Y PLAN I | CYKWYSIAD AM EBRILL. > Y PERL" heb ei G6t. Dadleuou Magi Jones. EtAiauipltsu o Dduwioldeb. Ffyddloniaid yr Yagol Sul. Diolcbgarwch Gwlad gwedi Rhy- fel. "Pat" yn Pysgota. Maes Llafur yr Ysgol Sul yn Nghymru. Stori o Serbia. Y Lamp. Awr y Plant a Phobun. leitheg ilrleuenctyd-Lladin. Dalen Dirweat, Bwrdd y Gin. Ystradgynlais a'i Nawddsaut. Saut Augustine a Gweddi ei Fam Llythyr oddiwrth Gath ar Llong Rhyfel. YlGyntadieuseth. Beth mae yr Eglwya yn ei Wneyd. Y Paganiaid Bach Duon. 1 Perlau y 11 Perl.11 Barddoniaeth. Llithiau Priodol am y Mia.

OWRS Y RHYFEL

OWRS Y RHYFEL. BETH AM HOLAND? BETH AM AMERICA? Y DDYRNOD YNG NGARDD EDEN. GWALLGOFRWYDD VERDUN. Y SEFYLLFA YN RWSIA. Rai wythnosau yn 01 rhybuddiwyd dar- Menwyr y LLAN yn yr ysgrifau hyn i gadw Uygad ar GERMANI A HOLAND. Awgry.mwyd y pryd hwnw fod yr amser yn agoshau pan y ceid Germani o bosibl yn ymosod ar Holand, fel ag a wnaeth ugain mis yn ol ar Belgium. Ymddang- osai yr wythnos ddiweddaf fe pe bai y bro- ffwydoliaeth hon ar gael ei chyffawni. Bu cynwrf mawr yn Holand. Galwyd y Senedd ynghyd yn sydyn i eisteddiad dirgel. Galwyd holl Aelodau'r Fyddin a.t y Human. Ymgasglodd Byddin gref ar y cyffiniaiu rhwng Holand a Belgium. Tybiai pawb fod Holand ar ymfyddino yn erbyn rhywun. Ond yn erbyn pwy? A phaham ? Edrycher yn bwyllog ar yr amgylchiad- au. Er canol mis Mawrth yr oedd sudd- longau Germani wedi bod yn ymosod yn ddirybudd ar longau teithwyr a masnach Holand yn Mor y Gogledd. Tybiai rhai mai amcan Germani wrth wneyd hyn oedd cynhyrfu Holand i gymeryd mesurau mor gryf nes r1 oi esgus i Germani i gyhoeddi rhyfel i'w herbyn. Tybiai eraill fod Holand yn ofni y buasai Byddin Germani, wrth encilio o flaen ymosodiad disgwyliedig Prydain yn Flan- ders, yn croesi'r ffin i Holand. Yn ol deddf y gwledydd rhaid fuasai i Holand y pryd hwnw gymeryd pawb o'r estroniaid hyny yn garcharorion, gan eu diarfogi ar unwaith—neu gael ei chyfrif fel yn cyd- weithredu a Germani yn erbyn Prydain a'i Chynghreiriaid. Seilid tybiaeth arall ar weithrediadau y Gynhadledd Gydgenedlaethol a gynhaliwyd yn Paris, ac y soniwyd am dani yn yr ysgrif ddiweddaf. Dywedid fod y Gyn- hadledd hono wedi galw ar Holand i gy- meryd mesurau pendant yn erbyn Ger- mani, a fuasent yn arwain y wlad i ryfel. Mynai ysbiwyr, a goruchwylwyr cudd Germani yn Holand, drachefn, i'r bobl gredu fod Byddin o Brydain ar gael ei danfon i lanio yn Holand, ac y peryglid ei hanibyniaeth drwy hyny. Dyna y prif dybiaethau a goleddid mewn gwahanol gylohoedd. Erbyn heddyw gellir dweyd gyda sicrwydd: 1. Na fydd i Brydain na'i Chynglireir- wyr dan unrhyw amgylchiad dori ar draws amhleidgarwch Holand. Tra y parhao Holand i gadw telerau anmhleidgarwch, perchir ei thir a'i hanibyniaeth genym ni. 2. Os troseddir ar ei hanmhleidgarweh, gan Germani yn unig y gwneir hyny. Os gwna Germani, gwna o dan un o ddau gymhelliad, sef naill ai- (a) Er mwyn cadw ei Byddin rhag ildio yn garcharorion i Brydain, pan yn encilio o flaen ein hymosodiad mawr agoshaol yn Flanders, neu (b) Er mwyn ceisio gosod Germani ei hun mewn gwell mantaig i ymosod arnom ni yn y wlad hon. Y FANTAIS I GERMANI. Nid oes angmi ond edrych ar y Map er gweled gymainta. fyddai Germani ar ei mantais pe y caffai feddianu Holand fel y T .1 meddianodd Belgium. Cymerer i ddechreu y ffin deheuol. Saif Antwerp ar yr afon Scheldt. Mae yr afon yn fordwyol hyd y porthladd. Mae'r porthladd yn nwylaw Germani er's mis- oedd l'awer. Bwriedid gwneyd y porthladd yn noddle ac yn gartref i suddlongau, ac i adran gref gref o Lynges Germani. Pah am na wnaed ? Os edrychir ar y Map eto fe welir fod tiriogaeth Holand rhwng Antwerp a'r mor. Trwy diriogaeth Holand y rhed yr afon ar ol gadael Antwerp. Byddai rhaid felly i liongau Germani fordwyo afon yn Nhiriog- aeth Holand, cyn myned ohonynt i'r mor, nac o'r mor i Antwerp. guasai caniatau iddynt wneyd hyny yn golygu fod Holand yn tori ei hanmhleidgarweh, ac yn ymuno a, Germani i'n herbyn. Felly, hyd nes y tyr Holand ei hanmhleidgarweh, neu y'i torir gan arall, nid yw Antwerp o nemawr werth i Germani. Cymerer eto rhan ogledd-orllewin Holand, yr arfordir. Gwelir rhes o ynys- oedd yn cydredeg a llinell yr Arfordir. Tu ol i'r rhai hyn gall Llynges fawr lechu yn ddiarwybod i neb y tu allan. Byddai eu meddianu yn fantais amhaethol i Ger- mani. Edrycher eto ar y map, a chydmarer y pellter o Holand i lanau dwyrain Lloegr a'r pellter o'r Kiel Canal a Wilhelms- haven i Loegr. Gwelir fod yr olaf yn ym- arferol ddwbl1 pellter y blaenaf. Hyny yw, rhaid i (a) Longau Rhyfel Germani, (b) Suddlongau Germani, (c) Zeppelins ac Awyrenau Germani fyddont yn cychwyn o Ga 1 las Kiel neu Wilhelmshaven, deithio gymaint ddwy- waith o fFordd i ymosod ar lanau dwy- rain Lloegr a phe baent yn cychwyn o arfordir Holand. Pan gofiwn mor dda yw gan Lynges Germani gael man diogel a chyfleus i ffoi pan ddaw Llynges Prydain i'r golwg pan gofiwli mai y pelltei- sydd gan y Zeppelins i deithio yn ol a blaen rhwng Germani a Phrydain sydd yn cyfrif am na bai mil- oedd o wragedd a phlant yn y wlad hon wedi cael eu Iladd am bob dwsin a ladd- wyd dan yr amgylchiadau presenol, gwelir maint y temtasiwn i Germani i geisio meddianu Holand a'i harfordir. Nid yw y ffaith fod Germani wedi addaw parohu tir Holland fymryn fwy o ddiog- elwoh i'r wlad hono rhag cael ei threisio, nag ydoedd cyffelyb ymrwymiad i barchu tir Belgium yn ddiogelwch i'r wlad an- ffodus hono yn Awst, 1914. Nid parch i gytundebau ac ymrwymiadau difrifol, eithr ofn Byddin gref yn unig a geidw Ger- mani rhag rhuthro ar Holand—os ceidw rhvwbeth y Kaiser a.'i lu rhag gwneyd. BETH AM AMERICA? Disitaw a thawel—ar y wyneb—yw pethau rhwng Germani ac America. Eto eglur yw na all pethau barhau yn hir fel y maent. Nid oes wythnos yn myned heibio nad yw Germani yn tori pob add- ewid ar a wnaeth i'r Arlywydd Wilson ynglyn ag ymgyrch y suddlongau. Nid oes: wythnos yn pasio na pheryglir bywydau Americanwyr diniwed pan yn teithio yn 0 t heddychlon ar fusnea cyfreithlon ar y cefn. for. Ni all yr Arlywydd Wilson, er ei holl awydd am gadw'r heddwch, barhau i anwybyddu y ffeithiau hyn. Un o'r pethau mwyaf gwaradwyddus a wnaeth- y suddlongau erioed oedd ymosod ar yr Ysbytty-Iong "Portugal" yn y Mor Du wythnos yn ol. Yr oedd ar ei bwrdd ganoedd o filwyr Rwsiaidd Clwyfedig, a nifer o nyrses a meddygon yn gweini arnynt. Ond er fod arwyddion n-lai-clud- long cleifion ydoedd yn ddigon amlwg arni i bawb eu gweled, eto ymosododd suddlong y gelyn arni ganol dydd, gan ei gyru i oigion y mor. Ni bu er pan suddwyd y 'Lusitania,' un- rhyw ddigwyddiad a yrodd y fath ias o ddychryn, ac a gododd y fath don o ddi- gofaint cyfiawn, drwy yr holl fyd gwar- eiddiedig, a'r digwyddiad hwn. Er mai suddlong Dyrcaidd mewn enw a wnaeth yr anfadwaith, gwyddis mai criw Germanaidd 'oedd yn llywodroothu. Y DDYRNOD YN NGARDD EDEN. Yn raddol maa'r byd yn dod i sylweddoli pwysigrwydd gweithrediadau Byddin Pry- dain yn Ngardd Eden. Ond daw yn am- lycach y naill wythnos ar ol y Hall. Haner gair i gall eto. Cadwed y dar- llenydd ei lygad ar y datblygiadau yn y dyfodol agos yn y dwyrain pell yn y rhan- ba/th rhwng Mesopotamia a Phalestine, a'r cyffiniau. Os nad wyf yn camgymeryd gwelir pethau pwysig iawn, a thra synfawr, yu cymeryd lie yn y parthau hyn heb fod yn hir. Yehydig amser yn ol ymgyrch Byddin Rwsia yn erbyn y Tyrciaid i enill Erzerum oedd yn tynu sylw'r byd. Heddyw mae'r dyddordeb eto yn nghyffiniau Gardd Eden, a'r ymgais gan Fyddin Prydain i symud ymlaen a chodi'r gwarchae ar Kut el Amara,. Newyddion da a gafwyd yr wyth- nos hon oddi yno. Mae yr anhawsterau, oherwydd natur y wllad, yn ddirfawr. An- hawdd yw eu hegluro heb gymorth Map. Ond gellir dweyd fod y Tyrciaid wedi cy- meryd meddiant o le cul ger glanau'r Afon Tigris, lie nad oes modd eu hamgylchu. Maent megys rhwng Pihahirod a Baal- zephon—ond mai dwfr a chorsydd ac nid mynydd-dir a chreigiau ydynt. GorfFwysa un pen i'w llinell ar yr Afon Tigris, a'r pen arall ar ymyl corsydd eang. Rhaid felly yw ymosod arnynt o'r ffrynt,-ac mae hyny bob amser yn waith peryglus. Ond ar waethaf yr anhaw&terau enill- wyd rai milltiroedd o'r ffordd tua Kut gan ein Byddin yr wythnos ddiweddaf, rhaid peidio disgwyl iddynt wneyd fwy na'u gallu eto codir ein disgwyliadau yn uchel gan yr adroddiadau swyddogol. Y SEFYLLFA Y.N RWSIA. Dyddorol iawn yw y sefyllfa yn Rwsia. A siarad yn gyffredinol eto mae yno ddau faes brwydro, y naill yn y gogledd yn ymestyn hyd lanau r Baltic, a'r llall yn y deheu yn cyraedd hyd gyffiniau Rumania. Cymerodd cyfnewidiad Ie yn ddiweddar yn Maeslywyddiaeth Rwsia ar y ddau faes, a gellir barnu beth i'w ddisgwyl oddiwrth gymeriad y ddau faetslywydd newydd— canys ceir cymaint gwahaniaeth rhwng nodweddion milwrol maeslywyddion enwog ag a welir rhwng cudd-der nerth pregeth- wyr poblogaidd. Enillodd Maeslywydd newydd Byddin y Gogledd yn Rwsia ei enw fel un digymhar mewn amddiffyn; enillodd Maeslywydd Byddin y Deheu ei glod drwy ei allu i ymosod. Gellir felly disgwyl, os na, chymer rhywbeth anisg-wyl- iadwy le, y bydd Byddin y Gogledd, fel rheol, yn amddiffyn ei llinell yn erbyn ymosodiadau Germani. Mewn cyffelyb fodd gellir disgwyl mai ymosod a wna Byddin y Dehau fel rheol. Amser a ddengys ai cywir y dybiaeth hon. Yn wir, mae ymosodiadau diweddar Byddin y Gogledd yn Rwsia yn myned i brofi mai parotoi i amddiffyn ei llinell yr oedd wrth ymosod. Yr oedd Germani yn dal safleoedd manteisiol i ymosod ar Rwsia pan sycho'r ddaear ar ol i'r eira doddi yn y gwanwyn. Ymosododd y Rwsiaid arnynt er mwyn eu hamddifadu o'r maiiau man- teisiol hyn. Llwyddodd yn hyny cyn i'r rhew ddadmer. Anmhosibl fydd i'r Ger- maniaid yn awr ymosod mewn nertli cyn y caledo'r ddaear. Pan ymosodant egiit y Rwsiaid yn barotacb a galluocach i'w gwrthsiefyll nag oeddent yr haf diweddaf. Amlhau a ohynyddu a wnaeth aiahawsterau Germani yn Rwsia y misoedd diweddai. YNFYDRWYDD VERDUN. Parhau y mae y brwydro yn nhyffiniau Verdun. Mae wedi bod yn ymladd ymron ddidor yno bellaeh er's chwech wythnos. Cyfrifir colledion Germani yno tua chan' mil bob wythnoe, neu 600,000 er dechreu'r frwydr fawr, yr hon sydd eto yn myned ymlaen. Buasai chwarter yr hyn a dalodd Ger- mani eisoes mewn bywydau milwyr yn mrwydr Verdun, *yn bris mawr i'w dalu am enill Verdun ei hun—ac nid yw Bydd- inoedd Germani heddyw o fewn defig milltir i'r lie, a phob milltir o'r deg hyny ,,n. y yn anhawddach i'w heniU po agosaf y deuir at y ddinas ei hun. Teimlad cyffredinol awdurdodau milwrol Ffrainc a Phrydain yw mai anmhosibl a fyddai i'r Kaiser yn awr enill Verdun pe y dygai holl Fyddin- oedd Germani gyda'u gilydd i'w herbyn. 0 bob ynfydrwydd a wnaeth Germani o'r dechreu ymosod ar Verdun a thywallt yr holl afonydd gwaed hyn yn ofer yn sicr yw yr ynfydrwydd mwyaf. Enillodd y Germaniaid ambell i lecyn ac ambell i bent-ref yn y cylcli o'r tu allan i Verdun. Ond ni elwodd ddim drwy hyny. Met-hu dal ami i lecyn wedi ei enill unwaith a wnaeth efe. Mae methiant Germani i gario Verdun drwy ymosod, er aberthu canoedd o filoedd o filwyr, yn gwneyd i'r pwyllog ar ys- tyriol yn y wlad jion amheu ai doetli fyddai i unman ymosod ar y Germaniaid yn Flanders er cymaint cryfacb yw ein Byddin ni na'r eiddynt hwy. Ond gwan- hau y mae y gelyn belloch bob dydd, a disgwylia llawer glywed banes am ym- osodiadau mawr a chyffredinol ar byd yr holl linell yn Ffrainc cyn hir. CYMRU AR RHYFEL. SAFLE'R GWR PRIOD. YR ESGOBION A HAWLIAU CYD- WYBOD. Cyn ceisio nodi allan beth yw safle'r Gwr Priod ynglyn a'r Fyddin heddyw, nid anmhriodol fydd dweyd gair pollwli. ar gwe,stlwii pw-yslg HAWLIAU CYDWYBOD. Mor bell ag y mae a fyno'r wasg a'r cwestiwn bu'm am wythnosau megys lief un yn lie-fain yn y diffaethwch yn erbyn gormes, a chamwri y Tribiwnalau lie yr oedd cydwybod yn y cwestiwn. Un peth oedd yn cyfrif o bosibl am hyn oedd y ffaith fod dynionach di-gydwybod yn ffugio cydwybod dyner er mwyn ceisio dianc rhag eu rhwymedigaeth fel dinasyddion i am- ddiffyn eu gwlad. Cafwyd llawer o'r cyfryw ysywaeth yn Nghymru. Creadur- iaid dirmygus a ddylent fod yn ddirmyg- edig byth yw y cyfryw. Ni welwyd achos da erioed na cheid rhai pobl sal yn ceisio manteisio arno er eu budd a'u lies per- sonol. Ond camgymeriad dybryd a fyddai condemnio'r da am fod rhai gwael yn eu plith. Gresyn fuasai collfarnu yr un dysybl ar ddeg am fod un Judas yn gyd- ymaith iddynt. Gwell fyddai i Judas gael dianc, na bod yr un ar ddeg yn cael di- oddef barn condemniad am ei drosedd ef. Eithr nid felly y gwna Tribiwnalau Pryd- ain, canys y maent yn ymarferol yn coll- farnu pob un a fo il gwrthdystio ar dir cydwybod am fod rhai twvllwvr i'w cael yn eu plith. Dangosais yr wythnos ddiweddaf fod y Tribiwnalau a wnant hyn yn troseddu'r ddeddf, ac yn anwybyddu y cyfarwydd- iadau swyddogol a. nodwyd iddynt o Lun- dain. Maent- wedi enill senn Mr. Long, Llywydd Bwrdd Llywodraeth Lleol, am wneutliur o honynt hwy. Ond er y senn swyddogol a gawsant parhau i gyfeiliorni ou ffyrdd a wna'r Tribiwnalau, a chafwyd dan Dribiwnal Sir Gymraeg, un yn v Gog- ledd a'r llall yn y De, yr wythnos ddi- weddaf i wneutliur eu hunain yn ddir- mygus drwy ddirmygu o honynt. hawliau cydwybod, r anwybyddu cyfarwvddiadau Mr. Long a thori rheolau v Swyddfa Rhyfel. YR ESGOBION A HAWLIAU CYDWYBOD. Da genyf weled yr wythnos hon fod eraill, mwy na myli, yn dod allan bellach yn wrol i amddiffyn hawliau cydwybod. Yn eu plith ceir Esgobion Eglwys Loegr a Gweinidogion Ymneillduol o bob enwad. Ynghyntaf oil cyhoeddwyd gwrthdystiad cryi yn erbyn arferiad rhai Tribiwnalau o wawdio cydwybod. Arwyddwyd hwn gan ddwsdn o arweinwyr crefyddol Lloegr, gan gynwys Esgob Rhydychain, Dr. Clifford, Dr. Horton, Mr. Campbell Morgan, ac eraill adnabyddus. Wedi oondemnio o honynt yn ddifloesgni yr arferiad gwrthun, dywedant:— "Gan nad pa mor g-anisyniol y di- chon cydwybod fod, ni ddylid byth ei gwneyd yn gyff gwawd i'r cyhoedd. Amlygwn ein hargyhoeddiad fod am- ddiffyn Rhyddid Cydwybod yn eg- wyddor grefyddol hanfodol." Cydsynia mwyafrif darllenwyr y LLAN a'r gosodiad teg yna. Ond a. ESGOB LINCOLN ymhellach na hyn. Mewn llythyr cryf o'i eiddo yn y Times, papur nas gellir ei gy- huddo o fod yn or-selog dros hawliau cyd- wybod, dywed Esgob Lincoln:— "Mae ymddygiad rhai Tribiwnalaa at y gwrthdystwyr cydwybodol yn peri i mi ofni. Darpara'r Ddeddf, a dan yr hon y gelwir y dynion hyn i fyny, yn bendant fod y neb a fo'n gwrthwynebu o gydwybod yn rhydd rhag cael ei orfodi i ymuno a'r Fyddin. Nid oes ynwyf awydd i gysgodi y llwyfryn, na'r hwn a fyno ddianc rhag cyflawni ei ddyledswydd oe oedr felly, datguddier hwynt. Ond cytuna pawb fod yn ein plith wrth- dystwyr gonest ar dir cydwybod. Mae y Crynwyr felly, ac maent yn rhydd o dan y Ddeddf. Ond mae eraill o'r tuallan i'r Crynwyr. Ceir rhai felly er engraifft yn Eglwys Loegr-ar wiaethaf y Deugain namyn un Erthygl. A raid i neb gywilyddio am ddehongli ohono yr Efengyl megis ag a wnaeth Tolstoy? Dichon mai difudd a, fyddai y cyfryw un i'r Fyddin, ond geill fod yn ddinesydd gwerthfawr. Mae arnom angen proffwydi a gweledyddion, a bydd mwy o'u han- gen eto. Nid yr unig elfen mewn dinasyddiaeth dda yw y dymuniad a'r gallu i ladd y gelyn. Amddiffyna'r ddeddf y gwrthdystiwr gonest; gad- awer iddo fwynhau yr amddiffyn hwnw. I y "A yw y genedl, yn.ei sel filwrol, yn llithro i'r hen bechodau,-anoddef- garweh ac erlid ? Peth sanctaidd yw cydwybod. A raid i'r farn bersonol gael ei hysgubo yn llwyr o'r neilldu yn adeg rhyfel. "Pan ddarllenaf hanees (y Tri- biwnalau) hyn gorfodir fi i feddwl am y driniaeth arw a gafodd Ffyddlon yn Llys Ffair Gwagedd fel y'i desgrifir gan John Bunyan; ac am y profi hereticiaid gan yr Inquisition gynt. "Ysgrifenai Mabel Dearmer yn chwerw o Serbia, gan ofyn 'Pa, siawna a gaffai Crist ? Buasai ei groeshoelio yn farwolaeth rhy esmwyth i wallgof- ddyn mor beryglus., "Pes t-eimlaswn fod yr hyn a ys- grifenais yn debyg o luddias y Llyw- odraeth yn y gradd lleiaf i gario y Rhyfel ymlaen i derfyniad buddugol- iaethua nid ysgrifenwn ef. "Ond peth peryglus sarnu cyd- wybod. Rhaid i ni beidio ceisio am- ddifadu'r gwrthdystiwr gonest o'r am- ddifFyn a roddir iddo gan gyfraith y tir. Yr wyf yn tynu fy het i'r Esgob da,. Geiriau gwirionedd a sobrwydd dyn dewr a fyn barchu dyn am ei fod yn parchu Duw ydvnt. Perchir Esgob Lincoln am ei lytliyr gonest ac amserol gan bob cydwybod dda o bob enwad drwv'r Devrnas. Y DEYRNAS-I GYMRU. Mae llanw cydw-vbod eiso-es yn dechreu codi yn Nghymru. Gwelaf wrth y newyddiaduron fed Cylchgrawn Misol Cymraeg Anenwatlol ar ddyfod allan.