Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
CWRS Y RHY FEL

iai'r gelyn ein milwyr dinesig dibrofiad. Dyma ddydd prawf Bechgyn Prydain-a gogoneddus y daliasant y prawf. Rhodd- wyd diwedd ar sail boat y milwr wrth alwedigaeth, y "professional soldier" uchelffroen a fyn edrych i lawr ar "citizen soldier." Bu Bechgyn dibrofiad Prydain yn drech na milwyr mwyaf profedig Ger- mani,-y Prussian Guard ei hun! Enillwyd a chollwyd y tri lie dengwaith drosodd yn olviiol-ond heddyw maent yn ddiogel yn ein meddiant! Na wawdier byth mwy wirfoddolwyr Prydain! Gwnaeth bataliwn o'r Welah Fusiliers, beohgyn Cymru, gweithwyr, clercod, siop- wyr, ysgolfeistri, wronwaith a enillodd glod arbenig y Maeslywydd. COLLEDION TRWM, CLWYFAU YSGAFN. Bu ein colledion yn drymion iawn. Ddydd ar ol dydd syrthiodd canoedd o'n dewrion, bechgyn goreu ein gwlad. Un cysur y sydd, sef fod y meddygon yn tystio na bu mewn unrhyw frwydr o'r blaen gyfartaledd mor fawr o glwyfau ysgafn, ac o rai y gellir eu gwella. yn hollol ac yn fuan, ag a welwyd vmhlith y mil oedd a syrfchiodd yn y frwydr fawr hon. Yr ydym wedi tori trwy linell cyntaf y gelyn, ac yn parotoi i ymosod eto ar ei ail linell. Rhaid disgwyl colledion mawrion etc y dyddiau—a'r wythllooau-nesaf. Y SUDDLONG GROESODD Y WERYDD. Gwna y papurau dyddiol lawer gormod o waith y suddlong Germ an aid d "Deutsch- land" yn croesi'r Werydd o Germani i'r America. Llong masnach y'i gelwir, a ohario nwyddau a theithwyr oedd ei gwaith. Talai'r teithwyr fil o bunau yr un am y fordaith. Cyfrifir fod a,r ei bwrdd nwyddau gwerth tri miliwn o bunau. Gellid meddwl wrth ddarllen y papurau dyddiol na bu y fath beth o'r blaen yn hanes y byd ag i suddlong wneyd mordaith mor bell. Anghofient fod suddlong rhyfel wedi croesi'r Werydd o Canada i Brydain, a bod un arall wedi dod yr holl ffordd o Awstralia i adgyfnerthu Llynges Prydain yn Mor y Canoldir. Llong gymharol fechan yw y "Deutsch- land," gan na fedr gario end 11wvth <> fil o dunelli. Mae yn gwestiwn a gyrhaedda adref yn ddiogel. Collwvd chwaer iddi ar y fordaith tuag America. DYDD GWENER, Gorphenaf 14. BRWYDR Y SOMME. Mae y brwydro yn parhau i fyned ymlaen air y ffrynt Prydeinig, ond am y trydydd dydd yn olynol nid oes unrhyw ddadblygadau yn ganfyddadwy ar y ffrynt Ffnengig. Adrodda Syr Douglas Haig fod y traedfilwyr wedi bod yn ymladd yn galed ddydd Ian, a llwyddasant i fyned ymlaen yn dda. Mewn un man, llwyddodd ein dynion i feddianu nifer o fagnelau Ger- manaidd a chyfarpar, y rhai ddefnyddir yn erbyn y gelyn. Or diwedd, mae yr awdurdodau yn Berlin wedi addef iddynt golli Contalmaison. TAN-BELENU YN NGHYFFINTAU VERDUN. Cariwyd ymlaen dan-belenu trwm ar amddiffynfeydd y Ffrancod i'r dwyrain o'r afon ddydd Ian, ond ni fu dim ymosod- iadau ar ran y traed-filwyr. Y rheswm dros adnewyddiad ymosodiaclau y Ger- maniaid yn y parth hwn vdyw rhwystroi yr ymdaith ar y Somme, yr hyn, medd cen- adwri Ffrengig, na sylweddolir byth. Y SEFYLLFA YN RWSIA. Mae y Cadfridog Von Bothmer yn defnyddio ei holl alluoedd i ddal ei afael o ffrynt y Strypa, gan y bygythir ef yn erwin gan ymdaith Latchitsky ar ei oohr dde. Dywedir fod Bothmer wedi gwneyd amryw ymosodiadau mewn gwahanol fanau, a hawlia Berlin fod y Rwsiaid, ar oil myned i ffosydd yr Awstriaid a'r Ger- maniaid, wedi derbyn colledion. Hysbysir fod y Rwsiaid wedi cymeryd dwy fil yn ychwaneg o garcharorion. Y BRWYDRO GERLLAW CONTAL- MAISON. I'r dwyrain o Contalmaison, mae ean milwyr wedi meddianu yn llwyr goedwig Mametz, ac wedi cyraedd ffordd Longu- evaL Mae safle y Germaniaid gerllaw Poeieres mewn perygl dirfawr. Boreu Iau, derbyniodd y Germaniaid a'r Pry- deinwyr adgyfnerthion cryfion, ac ni fu yr olaf yn hir cyn gorfodi y Germaniaid i ffoi o'r coedwigoedd. DTDD SADWRN. GWRHYDBI Y MILWYR PRY- DEINIG. Dechreuodd ail ran brwydr y Somme ar doriad gwawr foreu Gwener, y 14eg diwrnod, pan ymosododd Syr Douglas Haig a'i wyr ar ail linellau y gelyn, gan feddianu tri pentref, sef Longueval, Bazentin-le-Petit, y rhai oeddynt yn ben- trefi wedi eu cadarnhau gan y gelyn. Cyr- haeddai y ffrynt am bedair milldir, a gor- fodwyd y Germaniaid i vmadael .o'u ffosydd ar hyd yr holl linell, gyda'r can- Iviiiscl fod v pentrefi n rtodwvc!. choedwig Trones, yn awr yn ein meddiant. Mae v safleo°dd ucliod tua milldir i'r gogledd o'r llinellau Prydeinig fal yr oedd- ynt ddydd Iau ar ol meddianu coedwig Mametz. Mae y llineill vmdeithiol ar hvd ffordd o ddeuddeng milldir, sef o Albert i I Bapaume, a rhaid fod y cynydd sydd eisoes wedi ei wneyd wedi peryglu yn ddi- frifolj safle y Germaniaid yn Pozieres a Guilemont, ger Comblen. Desgrifir y lie diweddaf fel cadarnle, ac v mae yn rhwystr ar ffordd y Prydeinwyr i gyraedd Bapaume, er y coleddir gobeithion y gellir symud hvd vii nod y rhwystr hwn. Gwnaed ymdrechion egniol gani y Ger- maniaid i adfeddianu y pentrefi, a llwydd- asant ig ymeryd Bazeneir-le-Pelit, ond gyrwyd hwy allan yn ddiymdroi gau ein traedfilwyr gyda bidogau. Cafwyd ad-, roddiadau fod y Prydeinwyr wedi derbyn colledion ysgafn, ond llwyddasant i gy- meryd llawer iawn o garcharorion, ac yn eu plith amryw swyddogion. Yr oedd swmni o'r "Royal West Kent Regiment" wedi ei amgylchynu gan y gelyn yn nghoedwig Trones, ond newidiwyd v sef- yllfa pan gyrhaeddodd ein milwyr yno i'w gwaredu. TAN-BELENIAD AMDDIFFYNFA SOUVILLE. IMvnegir fod y Germaniaid unwaith to wedi ymosod gyda ffyrnigrwydd ar am- ddiffynfa Souville, gerllaw Verdun, ond ni ddarfu iddynt wneyd defnydd o'u traed- filwyr, gan y dywedir eu bod yn anfon adgyfnerthiol1 lielaeth o Verdun i'r Somme y dyddiau hyn, ac felly nis gallant fforddio golli dim obonynt. Y FFRYNT RWSIAIDD. Parha Von Bothmer i ymosod ar y llinellau Rwsiaidd i'r gorllewin o Strypa, er cymaint y colledion a ddioddefodd. I yma, mae y brwydro yn y rhanbarth hwn wedi rhoddi i'r Rwsiaid 3200 o gnrchar- ion (Germaniaid ac Awstriaid), a chafwyd hefyd ddwy fagnel a 19 o beirianau saethu. YR ITAT.IAID A'R AWSTRIAID Drwy ymdrech galed a phenderfynol, llwyddodd yr Italiaid i feddianu llinellau yr Awstriaid ar uchelder yn llywyddu y ffordd i'r Dolomites. Chwythwyd i fvny Rafleoedd vr Awstriaid ar ben Cn^telMto drwy gyfrwng mwnfa. gan gladdu y rhai a'i hamddiffynent dan y malurion. DYDD LLUN. BRWYDR Y SOMME. I Hysbysir fod byddin Syr Douglas Haig wedi cyraedd trydedd linell amddiffynol y gelyn, bedair milldir or tu ol i'w 1iosydd gwreiddiol yn Friecourt a Mametz. Mae yr ymosodiad newydd, yr hwn a ddech- reuodd foreu Gwener, wedi dwyn ein llinellau tudraw i Bazenlin-le-Pelit a Longueval i goedwig Belville ar y dde a Pozieres ar y chwith. Darfu i un cwmni dreiddio nT bell a ohoedwig Foureaux, yr hon saif ar uchelder gerllaw Martinpuich, heb fod ymhell o ffordd Albert-Bapaume, lie y buont yn gwylio am beth amser er mwyn sicrhau diogelwch y catrodau ereill yn eu gweithrediadau. Nodwedd ddy- ddorol yn ngweithredadau ddydd Sadwrn ydoedd defnydd iad meirchfilwyr, y rhai liaddasant 16 o'r Germaniaid ac a gymer- asant 34 o garcharorion. Daw y 2000 caroharorion ychwianegal a gymerwyd gan y milwyr Prydeinig oddiar Gorphenaf laf a'r rhif dros 10,000. Cymerodd y Ffranood 12,000, yr hyn a wna gyfanrif y ddwy wlad yn 22,000: Dywed Mr Marcel Hutin fod y Prydeinwyr, yn ol ei wybodaeth ef, wedi atal dros 70,000 rhag cymeryd rhan yn y rhyfel. Nid yw y cyfanrif hwn yn cynwys oolledion y Germaniaid yn yr ymosodiad newydd. Ar y ffrynt Ffrengig, i'r de o'r Somme, darfu i'r Germaniaid nos Sadwrn, gan gymeryd mantais ar y niwl trwchus, ymosod ar La Maisonette a Biaches, y rhai aafant o fewn miHdir i Peronne. Pa fodd bynag, llwyddodd v Ffrancod i'w hymlid yn llwyr. MEDDIANIAD BAIBURT GAN Y RWSIAID. Ar ol adfeddianu Mamaklun, llwyddodd y Rwsiaid i gymeryd tref Baiburt, yr hon saif ar y brif ffordd o Trebizond i Erzerum. 1 Mae Baiburt- fwy na 60 milldir o Erzerum, a phan fydd y Rwsiaid wedi dyfod i fedd- iant o'r oil o'r ffordd i'r mor, byddant yn alluog i ddefnyddio yn Ilawn Trebizond fel porthladd oyflenwadol i fyddin y Caucasus. Gorchfygwyd y Tyrciaid gerllaw Mush, a chiliasant yn nghyfeiriad Diarbukr. Mae ymdaith y Rwsiaid yn y rhan hon o'r wlad yn beryglus i'r eithaf i Gaercystenyn, a'r tebygolrwydd yw y bydd diwedd yn cael ei wneyd ar symudiadau y fyddin Dyrcaidd yn Mesopotamia. YMOSTYNGIAD Y TYRCIAID YN MECCA. Dywedir fod y gweddill o'r amddiffvn- wyr Tyrciaidd yn Mecca wedi rhoddi eu hunain i fyny i'r awdurdodau. Oddiar gyhoeddiad y proolamasiwn o annibyn- iaeth yn El Hadjaz, mae 2750 o Dyrciaid wedi eu cymeryd yn garcharorion. DTDD MA WRTH. LLWYDDIANT PARHAOL Y RWSIAID. Addefa vr awdurdodau vn Berlin fod y Cadfridog Vou Linsingen yr hwn a aiii- ddiffvnai ffrynt Kovel yn erbyn ymosod- iadau y Cadfridog Bruniloff, wedi ffoi. Yr oedd dydd Sul yn ddiwrnod nodedig i'r Rwsiaid yn v rhanbarth hwnw. gan iddynt gymeryd dim llai na 12,954 o garcharorion, I a meddianu 30 o fagnelau. Mae yr Awstriaid a'r Germaniaid wedi eu gyru tu hwnt i'r afon Lipa, afon a red i'r Styr. Bydd i barhad ymgynch y Rwsiaid yn y cyfeiriad hwn beryglu Kovel a Brody, ac effeithio yn ddifrifol ar ddiogelwch Lem- burg hefyd. YR YMLADD YN Y SOMME. Mae y gagendor yn ail linell y German- iaid rhwng Bazentin-le-Petit a Longneuval wedi ei ledu yn mhellach gan feddianiad safleoedd y gelyn ar ffrynt o 1500 o latheni gerllaw y lie cyntaf a nodwyd a'r tan- beleniad llwyddianus ar fferm Waterlot, rhwngLongeu val a Guillemont. Bodola pellder o dair milldir rhwng Bazertin a'r fferm. Yn mhellach i'r gorllewin. mae yr amddiffynwyr Germanaidd yn Ovillers, sef tri o swyddogion a 124 o ddynion, wedi ymostwng. Llwyddodd Syr Douglas Haig i feddianu adroddiadau Germanaidd, a ysgrifenwyd gan nifer o Germaniaid oedd- ynt mewn cyfyngder, ac a fwriedid anfon i gatrodau ereill, yn mynegu am golledion tryrnioji, dioddefiadau y rhai oeddynt wedi eu gadael ar ol y tan-beleniad, y rbagol- ygon am eu llwyr ddifodiad, ac yn eITyn am i adgyfuerthiom gael eu hanfon yn ddioed. Nid oedd yn ngweddill o un batalIiwn. a gynwysai dros fil o wyr, pan ysgrifenwyd yr adroddiad, ond tri o swydd- ogion a 21 o ddynion. I fyny i'r adeg I bre- senol, mae y Prydeinwyr wedi enill fel y canlyn yn mrwydr y Somme:- CARCHARORION. Swyddogion 189 Milwyr cyffredin 19,779 Cyfanrif 19,968 ARFAU. Magttelau trymion 20 Maes-fagnelau 37 Ff os-fagnelau 30 Peirianau saethu 56 Y FFRYNT FFRENGIG. Llwyddodd y Ffrancod i ddal nifer o garcharorion a meddianu peirianau saethu gerllaw Fleury, ar ffrynt Verdun. Ymos- odwyd ar y Rwsiaid yn Champagne, ond llwyddasant i yru y Germaniaid ymaith. DyJn MERCHER. YMOSODIADAU GERMANAIDD AR Y SOMME. Mae v Germaniaid wedi dechreu ymos- odiad ffyrnig ar sa,fleoedd y Prydeinwyr o amgylch Longueval a choedwig Belville er ddydd Gwener diweddaf, ac yn ei gario ymlaen yn egniol. Nos Fawrth, tan- belenasant ein llinellau, gan ddilyn gydag ymosodiadau traed-filwyr. Ymdrechodd y Germaniaid adfeddianu Biaches a La Maisouettei oddiar y Ffrancod, ond meth- iant fu eu holl ymdrechion. Y FFRYNT RWSIAIDD. Ymddengys fod llwyddiant y Cadfridog Sakha,roff yn Lutsk yn fwy cyflawn nag a dybid. Meddianwyd 30 o fagnelau, a chymerwyd 13,000 o Germaniaid ac A wstriaid i'r ddalfa, ac y maent wedi llwyr ymlid y gelyn ar lanau yr afon Lipa, y rhai a ffoisant, gan adael swm mawr o gad-ddarpariadau ar ol. Yn y Caucasus mae y Rwsiaid wedi llwyr ysgaru y Tyrc- iaid, a dydd Llun yr oedd milwyr Coesach- aidd yn eu hymlid o'u safleoedd.

Rhagoriaeth yr Eglwys

Rhagoriaeth yr Eglwys. TYSTIOLAETHAU GWEINIDOGION ANGHYDFFURFIOL YN LLANDRINDOD. Mae Llandrindod, er's blynyddoedd bellaoh, yn gyrchfan llawer o gynhad- leddau a chyfarfodydd crefyddol a gwledd- yddol, ac yn gwasanaethu i'r Cymiry fel ag y mae Mecca. yn fan cyfarfod Mahometaai- iaid. 0 dro i dro, mae llawer o bethau rhyfedd wedi eu trin a'u trafod yno, ond miae yr hyn gymerodd le yno yr wythnos ddiweddaf wedi peri ayndod na ddarfydda yn fuan. Cynhelid cynhadleddau crefydd- ol yno gan Anghydffurfwyr, a thraethwycl rhai gwirioneddau yno a syfrdanodd rai o'r gwrandawyr, gwirioneddau fyddant yn rhwyni o wneyd lies, ac a ysgubant ymaith lawer o fursendod a rhagrith sydd yn nod- weddu llawer o gynulliadau crefyddol. Dadlenwyd rhai pethau yn ddiamwys ac eglur, a ohanfyddir fod eithriadau anrhyd- eddus i'w cael hyd yn nod ymhlith Anghydffurfwyr, fel y profwyd lliawer gwaith o'r blaen. Dyna yw melldith gul a chrobachlyd, a thra y mae rhai ohonynt yn gwahan- iaethu ar rhyw bynciau, unant i ddifrio a dylorni yr Eglwys, er nas gallant egluro paham pe nid iddynt. Yn marn rhai o ho»ynt, nythle drygioni ac aflendid yw yr Eglwys, ond er eu hol^ ddifrio a'u an- miharch dal i gynyddu a llwyddo y mae yr Eglwys ymhob cyfeiriad, ac yn myned yn mlaen yn ddistaw gyda'i gwaith. Cafwyd agoriad llygaid rhyfedd yn Llandrindod yr wythnos ddiweddaf, a chaiff darllenwyr y LLAN weled yr ochr arall i'r ddalen, nid rhyw ddychymyg o'm heiddo i. ond tystiol- aeth l>e.ndant pregethwyr AnghydflFurfiol o safle uohel yn y byd. Ynglyn a'r Gyngres Feiblaidd a gyn- helid yn Llandrindod yr wytlmos ddiwedd- af. cafwyd prege.tha.il gan v Parch. G. Campbell Morgan (y llywydd) ac anerch- iadau gan y Parch. Dr. Selbie, prifathraw Anghydffurfiol Coleg Mansfield, Rhyd- ychain. Mae Dr. Selbie yn foneddwr di- radres a diofn, ond synwyd ei wrandawyr gan ei iaith blaen yn. ei ddadleniad o wen- didau yr Anghydffurfwyr. Nid yw efe yn un o'r Anghydffurfwyr dall a chul nad yw yn gweled dim daioni yn yr Eglwys o'i gwaith. I'r gwrthwyneb, ymhob un o'i ddarlithiau mae wedi tynu sylw yr Anghydffurfwyr at esiampl odidog Eglwys Loegr, ac weithiau at ragoroldeb yi-Eglwys Babyddol hefyd. Dadleuai dros gyfun. drefn o guradiaid gan yr Eglwysi Rhydd- ion, a chrybwvllodd am y gwaith mawr a gyflawnid gan glerigwr mewn plwyf eang yn ngogledd Lloegr, lie yr oedd y ficer yn eyf arwvdcl o. ei guradiaid fel cadfridog yn y fyddin yn rheoleiddio gwaith ei swyddog- ion. Anogai ar fod i'r arferiad a fodolai yn yr Eglwya, sef "Diolwch Gwragedd," gael ei ddefnyddio mewn capelydd, a rhoddi ychwaneg o bwvsigrwydd i fedydd babanod. Dywedodd wrthynt nad oedd Anghydffurfwyr yn meddwl yn ddigonol am gysegredigrwydd eu hadeiladau, ac o'i ran ei hun na chaniatai gymeradwyaeth i gael ei arddangos yn y capelydd, ac ce byddai raid i'r adeiladau gael eu defn- yddio at ddybenion secularaidd. mynai ef iddynt gael eu dechrou gyda gweddi. Cynghorai ar fod i fwy o ddifrifoldeb gael ei arddangos ynglyn a, gweinyddiad o'r Cymun, ac mewn priodasau. Wrth siarad am bwysigrwydd gweddiau teuluaidd, cyf-edriodd gyda boddlonrwydd at Genhad- aeth Grenedlaethol odidog yr Eglwys i'r dyben o adfvwio yr arferiad hon. Cyd- nabyddodd yn rhwydd nad oedd ganddo wrthwynebiad o gwbl i ffurfwasanaethau, ac os defnyddid hwy. gwell ganddo y rhai oeddynt wedi eu sancteiddio drwy eu harfer am ganrifoedd meithion, ac nid efeJyohiadau gwael y dyddiau hyn. Peth amll a, dcdmlid ddylid gael ydtodd doo- barthiadau holi ar ddull dosbarthiadau y conffirrnasiwn, a gwelai efe. fantais neill- duol mewn gweinidogaeth ddibriod, ac ar lawer o achlysuron bu yn canmol gwaith defosiynol y tadau Pabaidd. Mae yr Anghydffurfwyr fuont yn Llandrindod yn parhau i rwbio eu llygaid, ac yn rhvfeddu os, wedi'r cwbl. y dylid dirmygu Eglwys, yn ol barn eu prifathraw mawr, a allai ddysgu cymaint iddynt, ac a ydoedd yn iawn ci dadgyaylltu a'i dadwaddoli, ac oni fyddai gwneyd hyny yn amddifadu y genedl o un o'i meddianau penaf vn y brwydro gyda'r byd, y cnawd, a'r diafol. Noson arall bu y Parch. J. H. Shakes- • Noson arall bu y Parch. J. H. Shakes- peare, M.A., D.D., llywydd Cyngor vr I Eglwysi Rhyddion, ac ysgrifenydd Undeb I y Bedyddvryr, yn eu hanerch. Siaradodd yntau yn ddifloesgni ar waith yr enwadau yn gwthio ymlaen eu cynlluniau, gan -ddweyd eu bod drwy hyny tu allan i awyr. gylch y Testament Newydd. Yr oedd dynion colledig yn cael eu caru, a beth ydoedd y ffwlbri a glywid yn ami fod dynion colledig wedi eu damnio. Rhaid iddynt uno ar y genadwri o ras, a myned I yn ol at-betihau yr oedd pwys ynddynt. I STLWEDTDD.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth Awst 16eg a'r 17eg. ga.nlyn sydd restr o'r ymgeiswyr ar y I gwahanol destynau:— YR AD RAN GERDDOROL. Y brif gystadleuaeth gorawl: Ffarest- I fach Choral Society, C6r Undebol Rheidol. Oorau Merched: Nottingham, Barry, Rheidol, Oarno. Corau Plant: Llanelli, Cymer a Porth, Bettws, Ammanford, Mountain Aah Aberystwyth (Shiloh), Mochno, Pwilholi. 1\ Caneuon Gwerinol: Llanelli, Dyfi. Pedwarawd: 3. Unawd i ferched, 18; unawd contralto 17; unawd baritone, 13; unawd tenor' 16; unawd baas, 6 unawd i Snethod, 17; eto, i fechgyn, 6. Canu penillonj 7. Unawd ar y 

EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG

EIN CYHOEDDIADAU EGLWYSIG. Bydd yn bleser gan y Manager anfoa copiau o'r LLAN, Yr Haul a'r Perl, i'r milwyr sydd ar y maes, nen yn parotoi, am ddim ond pris y papur a chost y cludiad, sef y LLAN am Chwarter, 1/71. „ am Haner Blwyddyn, 3/3. Haul am Chwarter, 1/- „ am Haner Blwyddyn, 2/- Perl" am Chwarter, 4!c. am Haner Bwyddyn, 9c