Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
8 erthygl ar y dudalen hon
ADOLYGIAD YR WYTHNOS

DYDD SADWRN. DWY FUDDUGOLIAETH RWSIAIDD. Mae tref bwysig Brody, ar y rheilffordd o Dubno i Lemberg, wedi ei meddianu gan y Cadfridog Sakharoff a'i wyr. Dyga hyn y Rwsiaid o fewn 53 milidir i Lemberg, a rhwyddba y daith i amddiffynfa enwog Galicia. Gyda Brody yn rueddiant y Rwsiaid, mae yn anhawdd gweled pa fodd y gall y gelyn osgoi ftoi i linell y Bug, tra y bygythir lafie Von Bothmer a'i luoedd ar y Strypa, gan fod eu eymundeb i'r de-orllewin eisioes wedi ei dori. Yingyfarfydda nifer o ffyrdd pwysig yn Brody, un o'r rbai arweinia o'r tu- cefn i'r gelyn yn Strypa. Am nifer o wyth- nosau bu y Rwsiaid ya analluog i symud o'u safle o fewn chwe' milidir i'r dref, ond llwydd- wyd i ymdaith ar hyd y rheilffordd. Gorch- fygwyd y gelyn ar byd yr boll Hnell, gyda'r canlyniad a nodwyd uchod. Cofnodir am fuddugoliaeth Rwsiaidd arall i'r gorllewln o Lutsk. Yma llwyddodd y Rwsiaid i chwil- frlwio holl ffrynt y gelyn, gan el orfodi I ffoi. Cymerwyd dan gadfridog, Bwyddogion ereill, a naw mil o filwyr cyffredin yn garcharorion, tra y meddianwyd 48 o fagnelau. MEDDIANIAD SAFLE BWYSIG YN FFRAINC. Llwyddodd y Prydeinlaid a'r Ffrancod i fedd- ianu yr oil o goedwlg Delville, ac er i ym- osodiadau ffyrnig gael eu gwneyd yn ddilynol arnynt gan y Germaniaid, ni chawsant un- rhyw effaith. Mae meddianiad y goedwig o bwys annhraethol i'r Cynghreiriaid fel cych- wynfa ymosodiadau ereill fwriedir wneyd. Yn Champagne, cliriwyd ffos Germanaidd gan lu o Rwsiaid, y rbai a gymerasant lawer o garcharorion. Cyhoeddir adroddiadau hollol wahanol gan y Germaniaid, y rhal fynant I bawb gredu fod y Prydeiniaid wedi eu gorch- fygu ymhob ymosodiad Y MILWYR SERBIAIDD AR BWLGARIAID. Ymddengys i nifer o'r fyddin Fwlgaraidd fyned I dirlogaethau Groegaidd i'r gogledd o Vodena, ond bu raid iddynt ymadael yn fuan, gan I gwmni o Serbiaid eu hymlid yn ddiym- droi, a cbymerwyd eu Ueoedd gan y Serbiaid. LLONGAU YMSUDDAWL Y GERMAN- IAID YN Y MOR GOGLEDDOL. Ymddangosodd Hong ymsuddawl fawr perthynol i'r Germaniaid yn Mor y Gogledd ddydd Gwener, a dechreuodd yn ddlymdrol ymosod ar y llongau pysgota yno. Adroddlr. fod wyth o'r llestrl pysgota wedi eu suddo drwy ddefnyddiad tan-belenau. Glaniwyd dwylaw pump o honynt yn Shields yr un dlwrnod. Yr oedd dwylaw pedair o longau ereill wedi eu cymeryd ar fwrdd y Hong ymsuddawl. TROSEDD YSGELER ARALL AR RAN GERMANI. Newyddion o Berlin a hysbyeant fod y Cadben Charles Fryatt, o'r llong Brussels,' perthynol i gwmni rheilffordd y Great Eastern, wedi oael el saethu drwy orchymyn yr awdurdodau Germanaidd, ar y oyhuddiad o ymosod ar long ymsuddawl yn mis Mawrth dlweddaf. Meddianwyd ellong gan y gelyn ar Mehefin 23aln, a chymerwyd hi I Zebrugge. Rywbryd wedi hyuy, saethwyd ef am droaedd a honld iddo gyflawnt yn mis Mawrth. asswow" DTDD LLUN. MEDDIANU FFOSYDD YN FFRAINC. Adnewyddwyd yr ymosodiadau* gan y milwyr Ffrengig i'r gogledd o'r Somme foreu Sul, a llwyddasant I gymeryd nifer dda o ffoBydd y Germaniaid ar ffrynt o bum' milltir. Meddianasant hefyd goedwlg a chwarel i'r gogledd o Hem, ynghyd A fferm Monaou, ac ymdelthiasant ymlaen mor bell a Mauepas, pentref dwy filldir a haner i'r de-ddwyraln o Gulllemont. Ymleddir yn galed am fedd- laniad yr uohelderau a safant rhwng eln milwyr ni a Bapaume. Can fod y German- laid yn teimlo yn erwin oherwydd eln medd- ianiad o goedwlg Delville, maent yn gwneyd ymosodiadau parhans er celslo ei adfeddianu, ond hyd yma maent wedi bod yn aflwydd- ianus. Yn y cyfamser, mae ein milwyr yn gwneyd cynydd da I'r gogledd-ddwyrain o Pozieres. VERDUN. Newyddion o Verdun a hysbysant fod y mllwyr Frengig yn dra llwyddianus yn eu hymgyrch yn Thlaumont, He y moddianasant ranau o ffosydd, ao y gwrthwynebasant yn llwyddianus yr ymonodiadad ffyrnig wnaed arnynt. LLWYDDIANT PELLACH Y RWSIAID. Dengys adroddiad a dderbynlwyd heddyw fod y R wstald wedi Ilwyddo tuhwnt i'r dis- gwylladau penaf rhwng Brody a Kovel. Dlnystriasant linall rheilffordd y gelyn ar ffrynt o 80 milidir, a rhwng y dyddlau Gwener a Sadwrn oymerasant 13,000 o gar- charorion, heblaw dau gadfridog a 651 o swyddogion ereill. Mae y Rwsiaid wedi crossly Stokhod yn Gullevltchi, ac yn ead- arnhau eu hamddiffynfeydd ar y glanau gor- Uewinol. Yn ol pob argoel, mae y gelyn wedi cilio yn ol i'w amddiffynfa olaf gerllaw Kovel. Yn ne Rwsla, mae y frwydr rhwng milwyr y Cadfridog Letehitsky a milwyr Yon Bothmer wedi el hadnewyddu. Mae y blaenaf yn awr yn bygwth Stanislau, medd- ianiad yr hyn sydd yn anhebgorol angen- rheidlol er rhwyddhau yr ymdaith I Lemberg a'r de-ddwyrain. Bygythir y dref eisoes o'r dwyrain i'r gogledd-ddwyrain mewn can- 0 lyniad i'r fuddugoliaeth Rwsiaidd yn Brody. AWYRLONGAU AR Y GLANAU PRYDEINIG. Bu tair o awyriongau Germanaidd yn gollwng tan-belenau yn awyddi Lincoln a Norfolk foreu Gwener, ac er iddynt ollwng 35 o dan-belenau, ni acboswyd unrhyw niwed pellaoh na lladd dwy fuwch a phump o adar. DYDD MAWRTH. Y CYNGHREIRIAID YN FFRAINC. Gan gymeryd, mantais o'r hyn enillwyd ddydd Sul, treuliodd y byddinoedd Prydeinig a Ffrengig y noson hono i gadarnhau y safle- oedd newydd. Darfu i'r Germaniaid wneyd ymdrech egniol ond aflwyddianus 1 adenill yr hyn a gollasant ar ffrynt y Ffrancod, ond gadawyd y Prydeiniaid yn llonydd ganddynt. Mae y Cynghreiriaid erbyn hyn wedi cyraedd y ffyrdd a arweiniant i Givichy, Guillemont, a Maurepas. Mae amddiffynfeydd wedi eu gwneyd yn seleri y tai yn y tri pentref hyn. Gwneir pob ymdrech i rwyatro gweithrediad- au y Germaniaid drwy gyfrwng tan belenau o awyrlongau, a dydd Llun gollyngodd y Prydeiniaid saith tunell o'r peleni hyn, gan ddinystrio cerbydres a gosod ystorfa cyfarpar rhyfel ar dân. SYMUDIADAU Y RWSIAID. Adroddir fod y Rwsiaid wedi cario allan ymgyrch pellach yn nghyffiniau Brody, a bod milwyr Rwsiaidd wedi cyraedd yr afon Sereth. Erys Von Bothmer yn Tasnopol, ond credir y bydd yn rhaid iddo symud ei letty yn fuan, gan na oddefir iddo aros yn hwy gan y Rwsiaid. Ymdeithia y Rwsiaid o ddau gy- feiriad, ac y mae y milwyr yn gwthio ymlaen yn nghyfeiriad Vladimer Volynsk, pellder o bymtheng milidir. Dywed gohebydd nas gall Kovel ddal yn hir heb gwympo. Ar hyn o bryd mae y Rwsiaid o fewn 37 milldii i Lem- berg, a diagwylir y llwyddant i gymeryd y drsf a'r amddiff nfa bono yr wythnos hon. COLLEDION GERMANAIDD TRYMION. Hysbysodd Syr Douglas Haig o'r Pencadlys Prydeinig fod y gelyn, ar ol ymladd ffyrnig iawn, wedi metbu enill yn ol Goedwig Del- ville, a'i fod wedi cael ei guro'n ol gyda choil- edion mawr. Y mae'r ymladd law-yn-llaw yn parhau i fyned ymlaen i'r gogledd-ddwyrain o Pozieres, ae yn nghymydogaeth Coedwig Foureaux, ond Uwyddasom i fyned ymlaen mewn tri lie, er gwaethaf gwrthwynebiad y gelyn. Y mae dwy neu dair o gatrodau perthynol i'r gelyn wedi cael eu difa'n llwyr. DYDD MBRCHER. Y BRWYDRO AR Y SOMME. Gyda'r eithriad o ymosod ar ein llinellau i'r gogledd o Bazentin-le-Petit, ni ddarfu i'r gelyn ymyraeth o gwbl nos Lun na nos Fawrth gyda'n henillion diweddaraf. Llwydd- odd y Ffrancod i feddianu fferm Monaou ddydd Sul, ao er t'r Germaniaid ymoBod chwe' gwalth i geisio ei hadfeddianu, methiant fu yr oil. Y SEFYLLFA YN VERDUN. Mae y Germaniaid yn amlwg wedi eu braw- ychu gan gynydd a llwyddiant y Ffrancod ar y dwyrain i'r Meuse, a dydd Mawrth ymosod- asant arnynt gyda ffyrnigrwydd. Bu pob ymdrecb yn ofer, ond drwy ymoaod yn mhellach i'r dwyrain, llwyddodd y German- laid i enill safle fechan. YMDAITH Y RWSIAID. Newyddion o Petrograd a fynegant fod y Rwaiaid wedi ymdaith yn mhellach na Stok- hod yn nghyfeiriad Koval. Mae y gelyn yn ymdrechu ei oreu i rwystro y Rwsiaid i gyr- aedd Kovel. YMOSODIADAU AWYRAWL YCHWAN. EGOL. Gollyngwyd tAn-belenau mewn saith o air- oedd Seisnlg nos Lun, ond ni hysbysir fod neb wedi ei ladd, nac unrhyw ddifrod wedi ei wneyd ar eiddo. Fel arfer, cyhoedda y Ger- mantaid eu bod wedi ymosod yn llwyddianus ar Lundain, ac wedi perl niweldisu trymion ar y glanau. Nid oes sill o wirionedd yn eu mynegiadau.'

ST MAIR CAMBERWELL

ST. MAIR, CAMBERWELL. Derbyniaaom gopi o adroddiad blyn- yddol yr Eglwys uchod, a dengys ol llafur a diwydrwydd didwyll y swyddogion aIr aelodau. Buasai yn hyfrydwch genym weled darluniau y Caplan a'r Wardeniaid, yr ysgrifenydd a'r trysorydd ar y daflen, fel y gwneir gan eglwysi ereill,* ond y mae ein parchus Gaplan yn hynod am gynildeb, ac nid yw yn foddlon gwastraffu dim ar yr hyn nad yw fuddiol. Y peth cyntaf a welir tu fewn i dudalenau y daflen ydyw adroddiad y Oaplan yn datgan ei ddiolch- garwch gwresocaf i'r swyddogion, y Cyngor Eglwysig, yr ystlyswyr a phawb oil. Er mai byr yw ei anerchiad, y mae yn wir gynwvsfawr. Ar ol nodi amryw bethau ynglyn a r Eglwys, ceir y balance-sheet a rhestr o'r tanysgrifwyr. Swm y tanys- grifiadau yw £ 114 12a 6c, mwy na'r blynyddau blaenorol. Swm y casgliadau am y flwyddyn oedd C60 19s lc, tra. yr oedd y derbyniadau oll yn zC314 16a 91e. Ar ol talu y treuliau, y mae 14s 9s yn Haw y trysorydd. Da. gennym weled fod St. Mair yn cofio am achosion teilwng tu allan i'r Eglwys. Mae casgliadau sylw- eddol wedi eu rhoddi i'r Hospital Fund, Red Cross Fund, Church Army Hut Fund, a'r S.P.C.K. Rhoddwyd anrheg o Y,5 5s i'r organydd, a chan fod y Caplan yn cael llai o gyflog na chaplaniaid Cymreig eraill y brifddinas, rhoddwyd anrheg o £ 5 5s iddo yntau, gydag addewid o roddi S 10 yn ychwaneg o gyflog iddo yn y dyfodol. Y ma,e yn siarad yn uchel am y teimladau da sydd yn bodoli rhwng y bugail a'i braidd. Er mai Eglwys wan yw St. Mair, y mae yn Eglwys weithgar, ac y mae clod yn ddy- ledus i'r swyddogion a'r aelodau am eu lIafur diffuant, yn ngwinllan yr Arglwydd. Drwg iawn genym ddeall nad yw St. Maif yn freehold, ac fod yn ofynol i dalu rhent am y tir mae yr eglwys a'r ty arno yn hyn mae yn wahanol i holl eglwysi Cym- reig eraill y brifddinas. Onibai hyn, buasai y Caplan llafurus yn cael gwell cyflog. Y wardeniaid am y flwyddyn eleni ydynt: Mr. William Hughes, Brock- ley, a Mr. J. Oliver Wynne, Dulwich. Llawen genym weled y bechgyn ieuainc yn gwneyd eu rhan. Mab yw Mr. Wynne i Sergt.-Major Wynne, yr hwn a fu yn warden parchus yn St. Mair am lawer o flynyddau. A chymeiryd i ystyriaeth fod St. Mair, fel pob Eglwys arall, wedi anfon llawer o'i meibion i'r fyddin, yr ydym yn wir ddiolohgar am adroddiad mor rhag- orol.—Hen Aelod.

LLUNDAIN

LLUNDAIN. EGLWYS ST RENET, QUEEN VICTORIA ST., ItC. MTLWROL.—Mae bron yr oil o'n hael- odau gwrywaidd ag sydd gymwys o ran oed, iechyd, etc., yn awr wedi ein gadael am y fyddin, wedi eu gwasgaru yn ngwahanol ranau o'r byd, ac yn yr am- rywiol adranau o'n byddin newydd. Y diweddaf i ymuno ydoedd Mr. Timothy I y Emlyn Davieg, Hackney, yn awr yn Kinmel. Daeth ein verger, Signaller J. O. Morioe, i fyny o Winchester am ychydig seibiant, a Ilawen oedd genym oil ei weled yn edrych mor rhadlon a da ei wedd. Mae dau fab ein fleer yn awr yn 'rhywle' yn Ffrainc gyda'r 14th Royal Welsh Fusi- liers, sef y Captain J. Crowlei Ellis a, Sec.- Lieut. D. Crowle Ellis. Mawr hyderwn y dont drwy y fflamau tan yn ddiogel. Yr un modd eiddunwn lwyddiant ein cyfeill- ion ieuainc eraill i gyd. COLL.-Ar ol afiechyd byr mewn cym- hariaeth, mae yn orchwyl prudd genym orfod ysgrifenu am farwolaeth ein di- weddar chwaer, Mrs. Elizabeth Roberts, o King's Square, Goswell Road. Ar ol bod o dan law y meddygon preifat ac Ysbyttv Middlesex, cynghorwyd hi i fyned i lawr i'r hen wlad, ac aeth cyn belled a Tylorstown, a thra yno gyda pherthynasau daeth y wys yn ei galw adref ar ol selni byr foreu Mwarth, y 18fed o Orphenaf. Y dydd Mawrth canlynol, hebryngwyd ei chorph i'w gladdu yn myn- went Llancynfelyn, ei zn hen gartref. Gadawa wr a mab i alaru ar ei hoi. Nos Sul diweddaf, cawsom emynau a phregeth addas i'r amgylchiad, ac ar y diwedd chwareuwyd y 'Dead March' in Saul gan y I yr organydd. Yr oedd Mrs. Roberts vn hen aelod o'r Eglwys, yn ffyddlon dros ben, pared ei chymwynas yn wastad, un o'r gweithwyr distaw, hael ei chyfraniad, diwyd yn ei chynorthwy gyda'r socials, addurno yr eglwys, etc. YMWELIAD.-Nos Sul. Gorphenaf 30airi, bu ein cyfaill ffyddlon, y Parch. J. Evans Hughes, B.A., o St. Paul, Dock Street, mor garedig a rhoddi i ni bregeth hyawdl ac amserol iawn, tra y cymèrwyd y gwas- anaeth gan y floor, y Parch. J. Crowle Ellis.

TOWYN

TOWYN. BEDYDDIADAU.—Prydnawn dydd Sul, Gorphenaf 16eg, derbyniwyd yn aelod o'r Eglwya trwy y Sacrament o Fedydd, Frederick, baban bychan Private a Mrs. Roberts, Athelstan Road, Towyn. Hefyd, prydnawn dydd Sul, Gorphenaf 23ain, bedyddiwyd Elsie Elizabeth, merch fechan Private and Engineer Ford, Royal Flying Corps, a Mrs. Ford, Idris Villas. Gweinyddwyd ar y ddau aohlysur gan y Parch. D. R. Pugh, ficer. anarferol iawn yn Towyn ydyw gweled angladd ar ddydd Sul, ond gwelwyd un ar y 9fed o Orphenaf, pan y cludwyd gweddillion marwol Mrs. Jane Davies, Frankwell Street, i'w claddu yn y gladdfa. Bu farw yn sydyn iawn y boreu Iau blaemorol, a hi yn 65 oed. Gwasa.n- aethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. D. R. Pugh, ficer.—Yr wythnos ddiweddaf daeth y newydd trist i'r ardal fod Private John Morris, Frankwell Street, wedi ei ladd ar faes y gwaed. Yr oedd yn fab i Mr. a Mrs. John Morris, Pentre Poeth, y rhai ydynt eisoes wedi colli un mab arall yn y rhyfel presenol. Nos Sul, cynhaliwyd gwasanaeth coffa- dwriaethol i'r ymadawedig yn Eglwys S. Cadvan, pryd y pregethodd y Parch H. T. Williams ar dangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall. Canwyd yr emyn, 'Now the labourer's task is o'er,' a chwareuodd Mr. R. O. Jones A.R.C.O., L.T.C.L., y 'Dead March' in Saul. Y mae ein cydymdeimlad llwyraf yn myned at ei rieni, a'i wraig a thri o blant bach, sydd yn galaru ar ei 0.1\ Nodded y nef fyddo drostynt yn eu profedigaeth lem.— N. ARGRAFFXJ RHAD. OYFLYM. A DKSTLU8 YN SW'YDDFAR T.I.A N t.

GOLDEN GROVE

GOLDEN GROVE. Dydd Sul, y 23ain o Orphenaf, cynhal- iwyd Gwasanaethau Blynyddol yn y Church Hall, Carmel, yn mhlwyf Golden QrOiV. Pregethwyd gan y {Parch. Twynog Davies, ficer Dewi Sant-, Caer- dydd, a chymerwyd rhan yn y Gwasan- aethau gan Mr. Philip Roberts, Glyn, Henllan, a Mr. James Davies, Llandebio. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, y gwasan- aethau yn hwylus, a Ficer Dewi Sant yn traethu'r genadwri yn hynod o effeithiol. Gweinyddwyd wrth yr offeryn oerdd gan Mr. D. J. Roberts, Dderweli, yr organ- ydd, ac yn absenoldeb y ficer (Parch. Aldred Williams), yr hwn oedd yn Nghaerdydd yn cymeryd lie Mr. Daviee, yr oedd y trefniadau i gyd yn Haw Mr. T. Rees, Post Office, a Mr. D. Wat-kins, Gwndwn. 'Melus, moes eto.'

LLANRHAIADRMOCHNANT

LLANRHAIADR-MOCHNANT. EGLWYS BRITHDIER.-Dydd Sul diweddaf gweinyddwyd y Cymun Bendigaid yma gan y Ficer. Yr oedd y gwasanaeth hefyd o natur coffadwriaethol am Evan, mab ieuengaf Evan ac Elizabeth Jones, Ty- brith. Mae Mrs. Jones yn un o'r ffydd- loniaid yma, ac wedi bod yn gofalu am yr Eglwys am lawer o flynyddoedd. Cydym- deimlir yn ddwys a'r rhieni ar golli eu mab, yr hwn a laddwyd yn y rhyfel ofnadwy hwn. Gwnawd cyfeiriadau addas gan y Ficer ac hefyd gan Mr. D. H. Evans, darllenydd lleyg, yn yr hwyr. Yn yr un gwasanaeth hefyd bedyddiodd y Fioer Trevor, mab Mr. a Mrs. Owens, Penrallt. Miss Roberts, Abernaint, oedd y fam-fedydd, a Mri. Evan Owens a Richard Davies, Llety'rheilyn, y tadau bedydd. Yr oedd cynulleidfaoedd neill- duol o dda ddwy waith y Sul diweddaf EGLWYS Y PLWYF.—Sul diweddaf bed- yddiodd y Ficer John Tanat, mab Mr. a Mrs Richards, Wynnstay Arms Hotel.— Yr wythnos hon cynhelir gwasanaethau neillduol o weddi ac ymbil bob dydd, a thair gwaith ar ddydd Gwener, Awst 4ydd, dyddiad cyhoeddiad rhyfel yn 1914. —Nos Sul diweddaf pregethodd y Fioer ar y testyn, Micah vi. 9, 'Gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd,' a chyf- eiriodd yn arbenig at y Genhadaeth Genedlaethol. ANRHEG BRTODASOL.-Nos Wener cvf- Iwynwyd anrhegion priodasol gwerthfawr i Mr. Charles ar adeg ei briodas. Oafwyd cyfarfod lluosog o'r tanysgrifwyr, a llyw- yddwyd gan y Fioer, yr hwn hefyd a, ddar- llenodd enwau y 192 oedd wedi cyfranu. Dewiswyd Mr. Watkin Parry i gyflwyno yr anrhegion, sef oadair freichiau a 'set o cutlery' costus. Cafwyd anerchiadau gan Mr. Parry, Mr. D. H. Evans, lay reader; Mr. Evans, Park, a Mr. T. Cadwaliadr.

PENRHYNDEUDRAETH

PENRHYNDEUDRAETH. GWASANAETHAU BLYNYDDOL.- Cynhaliwyd gwasanaethau blynyddol Eglwys y Prindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth, nos rau a dydd Gwener, Gorphenaf 27ain a'r 28ain. Nos Iau, am 7.30 yr hwyr, llafarganwyd y Gosper gan y Parch. John Hughes, ficer, darllenwyd y Hithoedd a phregethwyd gan y Parch. Evan Davies, rheithor Llangadwaladr, Croesoswallt. Ddydd Gwener, Gorphenaf 28ain (cysegrwyd yr EgIwys Gorphenaf 28ain, 1858), gweinydd- iad o'r Cymun Bendigaid yn Gymraeg am 8 a.m., ao eto yn Saeaneg am 8.45. Am 11.15, llafarganwyd y Foreol Weddi gan ficer y Penrhyn, a phregethwyd gan y Parch. D. J. Basil Jones, yr hwn hefyd a bregethodd yn Gymraeg. Am 7.30, llafarganwyd y Gosper gan y Parch. John Davies, Llan- frothen, a darllenwyd y Hithoedd a phregeth- wyd drachefn gan y Parch Evan Davies, Llangadwaladr. Trosglwyddwyd y casgliad- au at gostau yr wyl ac at adgyweirladau. I FANOY FAIR.' Cynhallwyd y 'Fancy Fair' yn Cae Canol, Minffordd, Penrhyn- deudraeth, rhyw dair wythnos yn ol. Agor- wyd y ffair ar ddlwrnod hafaidd (dydd Mercher) gan Lady Williams o Gas tell Deudraeth, a gwnawd eIw odros ll7p. wedi talu y costau, a rhoddwyd ef i gronfa y I French Wounded Emergency Fund tuagat ba achoB ymae Miss Alice Williams wedi bod yn foddion i gasglu cronfa dda iawn drwy gynal cyngerddau yma a thraw drwy ororau Cymru ben-bwy-gilydd.—Qntiaiwrr.

LLANWENOG

LLANWENOG. DTRCHAFIAD EOLWTSIG.—Llongyfarchwn y Parch. T. H. Davies, Penpompren, o'r plwyf hwn, ac sydd ar hyn o bryd yn gurad yn Ammanford, Sir Gaerfyrddin, ar ei benodiad i fod yn Minor-Canon yn Eglwy. Gadeiriol Tyddewi. A ohymeryd i ystyriaeth yr amser byr y mae Mr. Davies wedi bod yn y welni- dogaeth, ac hefyd y ffaith mal ychydig fis- oedd y mae wedi bod yn yr Esgobaeth hon, y mae ei ddyrohafiad yn siarad cyfrolau am el allu cerddorol ynglyn a gwasanaeth yr Eglwys. CYNORTHWYO Y FICKR —Er pan ymadaw- odd Mr. Thomas, ein curad, i gymeryd i fyny ei ddyledswyddau fel caplan milwrol, y mae ein ficer, fel llawer ebrwyad arall yn yr amser presenol, wedi el adael i gario y gwaith ymlaen el hunan, ond y mae wedi bod yn ffodus hyd yma i gael cynorthwy ar y Suliau I gario ymlaen y gwasanaethau yn y ddwy Eglwys. Dydd Sul, Gorphenaf 30ain, cyn- orthwywyd ef gan y Parch. T. T. Davies, ficer Dewl Sant, Caerdydd, a'r ddau Sul blaenorol gan y Parch. T. Thomas, curad Llanelli, y ddau foneddwr ar eu gwyliau. Diolch iddynt am eu gwasanaeth. Gobeithio y gwna eraill ddilyn eu hesiampl yma yn offvstal ag mewn plwyfi eraill.