Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
Morfa

"Morfa." ——- DWY FLYNEDD YNOL. Mae tuedd ynghanol difrifoldeb y r.fel i beri i ni gau llygaid ar bob ffaitb arall o'n bywyd cenedlaetbol, ond da i ni adgoffa em hunain o'r fiaith fod deddf wedi ei phasio dwy flynedd yn ol, yn gwneyd anghyfieiider creulon a'r Eglwys yn Ngbymru. Nid yn fuan yr aughofir yr atn- gylchiadaudan ba rai y gwthiwyd ypeth drwyddo. Ond'daw yr amser i ail-agor y cwestiwn, a bydd yr amgylchiadau byny yu gwaeddi yn uchel am i'r Ddeddf gael ei throi yn ei hol Nis gellir ail- adrodd y peth yn rhy amlwg, sef y bydd, pan gyhoeddir heddwch, yr f, glwys yn Ngbymru yn cael ei hamddifadu o 2157,000 y flwyddyn. Anmbosibl credu y bydd i'r wlad gymeradwyo y fath gysegr yspeiliad i'w gymysgu a llawenydd hedd. Ac y mae'r Liberator' atn Hydref, 1914, wedi rhoi rhybudd i ni y bydd awch Ym- neillduaeth yn dyheu am ysglyfaeth yr Eglwys Gymraeg gynta byth yr a, y rhyfel drosodd. Am hyny ymbaratown ar gyfer ymosodiad bygyth- iedig ein gelynion gwleidyddol NEGES Y BEDXDDIWR. Wele ni yn agoshau at gychwyniad y Genhad- aeth Genedlaethol o Edifeirwch a Gobaith trwy neges agoriadol yr Archesgob yn Mynachlog Westminster ddydd Sul, Hydref 1. Ar ol i ryfel gael ei chytioeddi yn erbyn Germani, un peth oedd yn llanw meddwl pob dyn gwladgarol, pef ei ddyledswydd at ei Frenin a'i wlad. Dyna yspryd ddylai lanw pob Eglwyswr rwan pan mae yr Eglwys yn cyohwyn ar ei hymgyrch yu erbyn anghrefydd a difaterwch, a hyny er lies a budd dynoliaetb. Pob un i wneyd ei oreu, a bydded ei ran mor fach a bo na rwystred neb y symud- iad. Byddai byny yn greulon ac yn bechod. Pawb i wneyd a fedro i wneyd y symudiad yn llwyddiant fel y byddo benditb yn dilyn. Ar y cardiau ydynt yn cynwys galwad yr Eglwys i bob dyn a dynes roi eigyd i elynion Grist, maer Archesgob wedi cefnogi llun loan Fedyddiwr yn pregethu i fod arnynt. A beth allasai fod fwy eymwys na neges y Bedyddiwr-Edifarhewch I Er mai pregethwr edifeirwch oedd loan mewn un ystyr, mewn ystyr arall, dylai fod yn bregethwr gobaith, hyny oedd hefyd i'r graddau ei fod yn addef yr Arglwydd fel Messia. Ond yn y blynyddoedd diweddaf, wele amheuaeth yn trallodi ac yn cymylu ei feddwl rhyfeddai weith- iau ai Crist yn wir oedd y Gwaredydd addawed- ig, a bu farw yn ferthyr dros gyfiawnder her- sicrwydd o goron merthyr. Ymddangosai felly beth bynag, ond pwy sydd yn ameu am foment fod dydd marwolaeth y Sant yn ddydd o'i enedigaeth i fywyd tragwyddol. Beth oedd Neges y Bedyddiwrl Ai pregethu moesoldeb oeraidd,' yr hwn ni fedrai achub neb Mewn un ystyr, ie ona aen- ) gys y Beibl i ni tod yr ymdrech i ddilyn bucbedd IAn ac uniftwn yn ymbaratoad angenrheidiol i dderbyniad aldealltwriaeth o wirionedd uwch yr Efeneyl. Gair eyntaf ymron o eiddo Sant loan i'r Iuadewon yw cerydd am eu pechod o falchder cenedlaetbol, fel pe na fai Duw yn Dduw i neb ond yr Iuddewon. Nid yw'r pechod cenedlaeth- ol yr gyfyogedig i'r Iuddewon. Pa sawl cenedl heblaw'r Iuddewon sydd yn hawlio Dnw fel eu Duw hwy 1' Darllener cyfarwyddiadau Sant loan er gwellhad buchedd, fel y'u ceir yn Sant Luc, a cha pob dyn a'u darlleno fudd nid bychan iddo ei hun. Byddai cano allan yspryd yr ycbydig gyfarwyddiadau hyn yn ddigon i gyf- newid gwyneb y byd. Cymerer fel engraifft y cyngor i filwyr fod yn foddlon a'u cyflog. Gor- wedd yma wiricnedd mawr, y gallesid ei gym- wyso at feistriaid a gwaithwyr gyda mantais i'r naill a'r llall, sef ar iddynt fod yn foddlon ar yr hyn ddeuai i'w rhan trwy gyfalaf neu lafur yd- ynt yn deg yn eiddo iddynt. Sylwn hefyd ar ex etneor i'r publicanod, yr hwn gyngor allesid yn hawdd ei gymwyso at y 'publicans' (neu y tafarn. wyr !) heddyw. Gorchymyn loan iddynt fyddai, nid cau y tafarndai, ond gofalu fod trefn a aweddeidd-dra a sobreiddiwch yn eu nodweddu. Cofier mai nid pregethu yr Efengyl oedd loan, ond ymbarotoi ar gyfer yr Efengyl, paratoi'r ffordd i iawn dderbyniad o'r Efengyl. Mae gwahaniaeth rhwng y bedydd o ddwfr a bedydd yr Ysbryd Glân. Ceir rhai yn dal allan y dylai y Genbadaeth Genedlaethol ym- wneyd a gwahanol bynciau cymdeithasol. Y lleill yn dal mai digon i'r Genhadaeth yw tra- ddodi y Neges am Iesu Grist a Hwnw wedi Ei Groesboelio-gan adael y cwestiynau cymdeith- asol yma yn Ilonydd. Y gwir yw fod digon o angen y naill a'r llall. Ac nid ydynt yn groes i'w gilydd 'chwaith. Maehiyndyfodihyn. Rhaid gadael rhyddid i'r pregethwr apelio at gydwybod ei wrandawyr fel y gwdl ef fod yn oreu-bod yn bob peth i bawb-er enill rhai. Ma'r gwyntyn chwytho lie myno, a gall yr enedigaeth ysbrydol dd'od mewn amryw fiFyrdd. Gwelwn yn Acteu yr Apostolion y gall dawn yr Yspryd Gl&n ragflaenu Bedydd, oa rhynga bodd Ewyllya Duw--yn lie ei ddilyn ac nid oes llinell derfyn i weithrediad Dwyfol Ac felly gellir traddodi Neges y Groes ynghyd aIr ymbarotoad, neu heb yr ym- barotoad gofynol, yn ol gallu y pregethwr a'i wybodaeth o'r sawl sydd yn ei wrando. A chan mai yr un yw yr amcan mewn golwg, doeth a chall fydd goddef ein gilydd yn y mater, fel na fyddo neb yn tynu'u groes. Y peth mawr yw cael ynom y gobaith cryf y bydd i wirionedd y prynedigaeth trwy Grist gyraedd calon y genedl ac aros yno, a dwyn flfrwytb, pan fydd y moddion achlysurol yn y rhai y cuddiwyd y trysor, wedi myn'd 1 Y "CRAHOOD." Dyma'r enw r'wyf yn ei ro'i ar y pothau rhyfedd a elwir y Tanks' yn y rhyfel. A dyma rai o'r enwau Saespeg arnyntHuge shapeless Hulks,' Behemoth, Chimera, Toad Salamanders, Echidna-dragons, Mammoths, Monsters, Great Shapes, Things, Great Beasts, Leviathan, Ples- iosaurus, MaBtadon, Dreadnoughts, Terrestrial Monitors, Diabolical Machine. YMLAICN I Da yw'r newydd o Ffrainc. Y Germaniaid yn eael eu curo yn eu holau, yn eolli yn drwm, ac yn rho'i i fyny eu carcharorion wrth y miloedd. Byddinoedd yr I Allies' yn Salonica hefyd yn symud ymlaen, ac Itali yn tynu yn nes at Trieste. Teneu yw'r newydd o'r Dwyrain, ond amlwg fod Rwsia a Roumania yn panu ymlaen yn ddi-ilrftio. Ceir sicrwydd hefyd fod y gelyn wedi methu rvraadd y bont fawr bwysig hono ar y Danube, nid vrnhell o Constaaxa, ar y Black Sea Colled drom a difrifol fyddai colU'r bont fawr yma- Cernoya—i'r' Allies.' Nid oes amheuaeth bellach nad yw'r gelyn ymhob man yn gorfod bod ar yr amddiffynol. a'i fod yn colli yn drwm ar y Gor- llewin Mae'r ymosodol rwan wedi mynd I ddwylaw yr Allies.' Mae Byddinoedd Newydd Lloegr yn profi eu hunain yn fwy na match,' yn drech dynion na milwyr y genedl fil wrol fwyaf yn yr boll fyd. Ac y mae hyn yn ddeyd mawr. Dwy flynedd yn ol nid oedd felly. Wele Lloegr heddyw yn y rhestr o Alluoedd milwrol blaenaf Ewrob. Sut dygwyd hyuy i ben ? Trwy foddion milwyr y Fyddin Regular.' A saif byddinoedd Prydain beddyw yn gofadail bythol i gofladwr- iaeth Lord Kitchener. Bu iddo eu dwyn i fod- olaeth yngwyneb anhawsderau mawrion, a hyny mewn cyfnod brou anghredadwy fyr. Gwnaed 'mistakes,' do, wrth gwrs. Ond y wyrth yw fod cyn Heied o mistakes' wedi eu gwneyd, a bod y gwaith wedi ei wneyd o gwbl. Dyna sydd wyrtbioL Nid yw'r diwedd eto, ond ceir gwel'd yn union fod y milwr wedi gwneyd yr hyn fwr- iadodd. Saif Syr William Robertson, Chief yr Imperial General Staff, allan fel un o filwyr mawr hanes, a chanddo lwyr yrnddiriedaeth y wlad y tu cefn iddo. A hawdd gall y rhai nad ydynt filwyr na morwyr adael busnes y rhyfel ar faes yr ymladd i filwyr a morwyr wyddant eu gwaith i'r trwch blewyn. A phe b'ai Mr. Lloyd George yn ymgymeryd &'r gorchwyl caled o ofalu am y pensions' yma, cyflawnai waith mawr eto, a haeddai ddiolch cynes y genedl am dano. Efe o bob dyn yw'r dyn at y gwaith, a gorchwyl caled a dyrys yw hefyd. HOGIE R YSGOL. Pyramids are a range of mountains separa- ting France from Spain.' Cataract is the name of the mountain on which the Ark rested.' The Mediterranean is joined to the Red Sea by the Sewage Canal.' The hole in the top of a volcano, out of which the lather comes, is called the creator.' A bolt from the blue is a phrase employed by novelists to depict the escape of a burglar from a constable.' Rhetoric is where the rector lives.' At the synod of Whitby, held 654 A.D., the Roman monks had their tonsils (tonsures ?) cut, and the Welsh monks hadn't.' PETH OD Cofus genych y dydd y deuwyd â,'r Zeppelin hono i lawr yn gruglwyth o din. Wel, yn y Salmau boreuol am y dydd dilynol, wWe'r geir- iau hyn Dy law a gaiff afael ar dy holl elyn- ion dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion. Ti a'u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid yr Arglwydd yn ei ddigllonedd a'u llwnc hwynt, a'r t&n a'u hysa hwynt. Canys bwriad- asant ddrwg i'th erbyn meddyliasant amcan, heb allu o bonynt ei gwblhau. Am hyny y gwnei iddynt droi eu cefnau.' Ac yn y llith ddyddiol, tua'r un adeg, wele'r geiriau hyn-I Am hyny y tywelltais fy nigofaint arnynt, & thin fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu penau, medd yr Arglwydd Dduw.' Ac, yn ddiweddarach, yn un o'r llithoedd am yr un wythnos, y geiriau hyn—' Bwriaf di i'r llawr; o flaen brenhinoedd y'th osodaf, fel yr edrychont arnat. Trwy aml- der dy anwiredd, Ag anwiredd dy farchnadaeth yr halogaist dy gysegroedd am hyny y dygaf dan o'th ganol, hwnw a'th ysa a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yn ngolwg pawb a'th welant; y rhai a'th adwaenant oil ym mysg y bobloedd a synant o'th achos; dychryn fyddi, ac ni byddi mwy.' PERSONOL. Gwr y tt yn dal crwt yn ei goeden 'falau, ar ol colli }rawer o ddydd i ddydd. Tipyn yn dywyll oedd hi ar y pryd, a gwadu oedd y gwalch. 'No, sir,' meddai, I wasn't up the tree.' Oh yes, you were.' No, sir, really I wasn't, an' I'm in the choir, sir, so I couldn't tell you a lie.' Gollyng- wyd ef yn rhydd, beth bynag-y gwr ei hun, hefyd, yn aelod o'r cor.' Atebion yn yr Ysgol Sul—' A Job's comforter is a thing to give the baby the patience of Job. Eto, The Israelites were fed by mammon in the wilderness.' Un eto, 'A worshipper of Mammou means a bigamist.' Helynt y plwyf oedd—p'run ai helaethu y fyn- went oedd oreu, ynte cael cemetery.' A medde un Eglwyswr pybyr, I can tell you this, that for my part, as long as I live, I will never be buried in any of your cemeteries.' Dyn yn hoff o snishin yn gofyn i'w weinidog a oedd yna rywbeth yn y Beibl yn erbyn cy. meryd 'snuff.' 'No,' oedd yr aieb, I there is nothing AGAINST it indeed there is a text which commends it, "He that is filthy, let him be made filthy still. Pan ofynwyd i negro' sut oedd o yn leicio'r pregethwr newydd, dyma ddywedodd — 1 He bakes excellent bread Massa, but he puts it up on a high shelf where this poor nigger can't reach it.' Dameg dda i lawer o nonom 'Roedd steam-roller' y Cyngor Sir wrthi hi, y dydd o'r blaen, yn gwella tipyn ar y ffordd fawr, ac wrth aros i edrych ar y dyn yn ngofal y peiriant yn rhoi oil' yma ac acw, clywid ef yn chwiban, a dyma'r diwn oedd ganddo yn cysuro ei hun ar y pryd—' A few more years shall roll.' What is indigestion ?' I Indigestion is the failure to adjust a square meal to a round "d:nm,uh- Yr oedd Tomi ar goll, a'i fam mewn penbleth. j O'r diwedd daeth adref, "Where have you been, my pet V Playing postman,' medde'r 4 pet., 11 gave letters to all the houses in our road —real letters, too.' 'Where on earth did you get them ?' medde'r fam, a mawr ei braw pan yr atebodd y gwalch bach, They were those old ones in your wardrobe drawer tied up with ribbon.' Mae Lord Hugh Cecil yn dal a theneu. Pan wrthi hi yn anerch cyfarfod. yn yr hwn nid oedd pawb yr un farn ag ef, dyma ddyn yn gwaeddi, Go it, telescope.' A medde Lord Hugh yn 01-1 My friend is mistaken in applying that term to me. He ought to claim it for himself, for though he cannot draw me out, I can both see through him and shut him up.' Arferai yr Esgob Collins (Gibraltar) adrodd stori am un o'r brodorion yn y maes cenhadol yu dweyd wrth y cenhadwr ei fod wedi cyfansoddi emyn newydd. Llinell gyntaf yr emyn fel hyn —' Christian, go on, go on, gp Ion a'r ail linell, Go on, go on, go on a'r ddwy linell wed'yn, yr un fath a'r ddwy gyntaf. Dipyn yn un- donog,' meddai'r Esgob, 4 ond emyn reit dda, er hyny, a phs b'ai pawb yn gweithredu ami, byddai mwy o lewyrch ar bethau yn gyffredin.' Pan oedd Shackleton a'i barti wedi eu cau am y gauaf yn Elephant Island, dyma'r llyfrau oedd ganddynt i'w diddanu yn yr oriau meithion- Y Beibl, yr I Encyclopwdia Britannica,' Browning, French Revolution Carlyle, a Bacon's Essays.' Byddai Bacon a Browning yn change' bach go neis ar ol hir fwydo ar lygad myherin (' lim- pets') a gwymon y mor ('sea-weed') a cheid digonedd o stwff yn yr Encyclopaedia Britan- nica i lanw bol go lew. Hwyrach fod Shakes- peare wedi ei daflu dros y bwrdd i waelod y mor, oherwydd ei fod yn cynwys y Tempest,' a'r Winter's Tale,' gan fod Shackleton a'i griw wedi cael tnwy ria digon o storm ac eira. Yr oedd Tennyson, un diwrnod, yn rhodio hefo cyfaill mewn gardd. Gofynodd y cyfaill iddo beth oedd ei feddwl am ein Gwaredwr. Trodd Tennyson at flodeuyn hardd a dywedodd, What the sun is to that flower, Jesus Christ is to my soul.'

CEI NEWYDD AR CYLOH

CEI NEWYDD A'R CYLOH. CLADDEDIGAETHAUS—Dydd Gwener, 'Medi 22ain, claddwyd gweddillion marwol Mrs. Lizzie Probert, 44, Brook Street, Port Talbot, jn mynwent Llanllwchaiarn. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn. E. Lloyd a G. Williams. Traddodwyd y bregeth angladdol y Sul can- lynol yn yr Eglwys gan y Parch. 1:( Lloyd, rheithor. Dydd Mawrth, Medi 26ain, cladd- wyd yr hyn oedd farwol o Nurse Jane Evans, 245, Knightsbridge, Llundain (merch y diweddar Capten Evans. Ceredig, Cei New- ydd), yn Eglwys Llanllwchhaiarn. Cysured y teuluoedd a'r perthynasau oil yn eu galar. CRoxs INN.-Undeb Ysgolion Sul.-Cyn- haliwyd cyfarfod 0- Undeb Ysgolion Sul y cylch yn Eglwys Cross Inn ddydd Iau, Medi 28ain. Y gynhadledd yn y prydnawn, a'r Parch. J. D. Lewis yn y gadair. Cynrychiol- wyd y gwahanol Ysgolion Sul fel y canlyn :— Llanllwchaiarn, 5 Cross Inn, 6; Llanarth, 6; Mydroilyn, 5; Llandyssilio, 2; St. Mark, 1, a Talgarreg 1. Ar ol darllen y cofnodion am y ddau gwarter diweddaf, ail etholwyd swyddogion i'w swyddi am un flwyddyn eto. Yna, darllenwyd reports am y cwarter cyn y diweddaf. 'Report' Llanllwchaiarn gan Mr. L. Evans, Synod Stores Cross Inn gan Mr. Thomas Jones, Precentor; Talgarreg gan Mr. John Thomas, Gwaunryfelfach. Re- ports' y cwarter diweddaf Llanliwehaiarn gan y Parch. D. Evans, yn absenoldeb Mr. Dd. Evans, Crossheddyg Llanarth gan Miss Rees, Mydroilyn; Llandyssilio gan Miss Davies, Pantgwyn; Talgarreg gan Mr. L. Evans, Synod Inn, a Mydroilyn gan Mrs. Tom Jones, Emporium. Talwyd diolchgar- wch i'r ymwelwyr gan y Parch. E. Lloyd, yu cael ei eilio gan Capt. Davies. Yna, cafwyd ymdrafodaeth lied ddyddorol ar y pwnc pwyslg sut i wella Ysgolion Sul yr Undeb. Slaradwyd gan Parchn. E. Lloyd, J. D. Lewis, D. L. Jones, Capt. Davies, Mr. J. Thomas a Mr. J. Evans. Mae trefn yr ymwelladau am y cwarter nesaf fel y canlyn :—Un o Llan- arth i Llanllwchaiarn un o Llanllwchaiarn i Llandyssilio; un o Llandyssilio i Cross Inn un o Cross Inn i St. Mark; un o St. Mark I Mydroilyn un o Mydroilyn i Talgarreg, ac un o Talgarreg i Llanarth. Penderfynwyd fod y cyfarfodydd nesaf i'w cynal yn mhlwyf Llandyssilio ddydd Mercher, Rhagfyr 13eg, am 3 a 6, a bod y rhai canlynol i ddarllen papyrau.ar y 'testyn, I Dylanwad y rhyfel ar grefydd':—Parch. D. L. Jones, Mr. H. Evans, Penrallt; Capt. Davies, Cei Newydd Miss Davies, Pantgwyn. Ar ol terfyn y gynhad- ledd, gwahoddwyd pawb i dd ardderchog i Llwynhelyg gan Mr. a Mrs. Jones, a Mrs. Lewis. Dechreuwyd cyfarfod eyhoeddu 's yr hwyr am 6.30, a'r Parch. E. Lloyd yn y gadair. Darllenwyd pedwar o bapyrau gan y Parch. J. D. Lewis, Llanarth Mrs. Jones, North Parade; Mr. J. L. Evans, Synod Stores, a Mr. Thomas Jones ar y testyn, 'Samuel fel oymeriad.' Slaradwyd yn mhellach gan y Parchn. E. Lloyd, J. W. Rees, D. L. Jones, D. Evans, J. D. Lewis, D. Richards, Mr. Tom Jones, Capt. Davies a Mr. Thomas Jones. Ar ol y diolchladau arferol, terfynwyd trwy ganu emyn a dstganiad o'r Fouditb.-D.B.

LLANRUG

LLANRUG. GWYlI ST. MIHANOBL A'R HOLL ANGTLION. -Dydd Gwener, Medi y 29ain, dathlodd Eglwys St. Miehael wyl ei Nawdd Sant. Yr oedd trefn y gwasanaethau fel y canlyn -Am 8, gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid Am 10, gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid (oorawl), ynghyd & phregeth gan y Parch. H. Lunt, Nant Peris. Am 11.15, gweln- yddiad o'r Cymun Bendigaid (corawl) yn Saesneg, a phregeth gan y Parch. W. M. Wright, Valley. Am 2.30, Litani a phregeth gan y Parch. W. M. Wright. Am f.30, Hwyrol Weddl a phregeth gan y Parch. H. Lunt. Daeth cynulleidfaoedd da i'r oil o'r gwasanaethau. "COTTAGE MEETINGS."—Fel rhagbaratoad ar gyfer, neu yn hytraoh fel blaenffrwyth gwaith (parhaol, hyderwn) y Genhadaeth yn y plwyf hwn, cynhellr gwasanaethau mewn tal anedd bob nos Lun am 7.30. Daw cyn- rychlolaeth ragorol o Eglwys wyr ynghyd, a gwerthfawrogir y gwasanaethau yn fawr. GWASANABTH YN YR AWYR AGORID.—Nos Sadwrn, Medi 30aln, am f; o'r gloch, ar groesffordd y pentref, cynhallwyd y cyntaf o'r gwasanaethau awyr-agored a fwriedir eu cynal yn y pI wyf uchod. Cymerwyd y rhan ddefosiytiol gan y Parohn. Albert E. Lewis, rheithor. a W. H. Williams, curad, a tbra, ddodwyd anerchiad nodedig o sylweddol, amserol, a gafaelgar gan Mr. Elias Jones, Saron. Canodd Cor St. Michael amryw welthiau. Ymgynullodd torf gref at eu gilydd. A thystiolaeth pawb oedd mai da iddynt oedd bod yno. Bwriedir cynal gwas- anaeth cyffelyb eto nos Sadwrn nesaf. Ein teimlad fel Eglwyswyr yw, os ydym am gael y bobl i'r Eglwys, rhaid d'od a'r Eglwys I afael y bobl. Ac os ydyw'r Genhadaeth am I wyddo fel paratoad i gael y byd i Grist, fod yn rhaid i ni oil ddeffro fel un g*r, heb ofni gwg na gwawd neb i barotoi ar gyfer y Gen- hadaeth trwy fyned allan i'r prif ffyrdd a'r caeau, ac i wneuthur pobpeth yn ein gallu i rwyddhau y ffordd o'i blaen.

LLANGYNIEW

LLANGYNIEW. Cynhaliwyd gwasanaethau neillduol o ym- bil a diolchgarwch yn eglwys y plwyf ar ddydd g* Y I St. Mihangel a'r Sul dilynol. Dechreuwyd yn briodol trwy weinyddiad o'r Cymun Sanctaidd am 8.30, pan y canwyd (heb gyfeiliant) amryw o emynau addas, ynghyd a'r rhanau o'r gwasanaeth, fel y trefnwyd hwynt yn y llyfr sydd wedi ei ddar- paru ar gyfer y Genhadaeth Genedlaethol. Llyfryn addas i'r eithaf i gynulleidfaoedd bychain. Am 2.45, canwyd y gosper yn Saesneg, ynghyd a'r Te Deum ar ol y bre- geth, yr hon a draddtfdwyd gan Beriglor Forden. Am 6.30, goaper Gymraeg, pan y pregethwyd gan Beriglor Corris. Parhawyd y gwasanaethau y Sul dilynol gyda gwein- yddiad corawl o'r Cymun Sanctaidd am 10.30, y rheithor, y Parch. W. I.. Richards, yn gweinyddu ac yn pregethu, ao am 6, gosper Gymraeg, pan y pregethwyd gan Beriglor Llanfaircaereinion. Addurnwyd yr eglwys yn ddestlus, fel arferol, a rhoddwyd y dioloh- roddion i'r claf a'r clwyfedig yn y rhyfel.

Advertising

Gwasanaethau Diolchgarwch -0- YR UNIG WASANAETH AR GYFER Gwyliau Diolchgarwch am y Oynhauaf,- sydd wedi ei gymeradwyo gan y pedwar FAgob Cymreig. -0- LLAWLYFR GWYL Y OYNHAUAF, yn cynwys Trofn y Foreol a't Brydnawnol Weddi gyda'r cyfnewidiadau diweddaraf ynghyd a Ffurfiau arbenig o Ddiolch, Salmau, ae Emynau pwrpasol, etc. 6s. 6d. y Cant yn rhydd drwy y Llythyrdy RHAID ANFON TAL GYDA'R ARCHEB. ENGLISH EDITION. -0 HANDBOOK foe THANKSGIVING SERVICES with Morning and Evening Prayer t Prayer of Thanksgiving, Appropriate' Psauna, Hymns, etc. Hymns, etc. 6s 6d. per 100 poet free. CASH MUST ACCOMPANY ORDBR. DUOGLOT HANDBOOKS 9s. 6d. per 100, post free. CASH MUST ACCOMPANY ORDER. POSTERS for THANKSGIVING SERVICES Posters for Thanksgiving Services can be obtained at the following prices on application to the Manager:— Posters (Plain), with spaces for particulars about 11 x 9. 25 for Is. 6d. post free. 50 for 2s. Od. post free. CASH MUST ACCOMPANY ORDER. -0- Prompt attention given to all Orders. -0- Apply— MANAGER, CAXTON HALL, LAMPETER.