Teitl Casgliad: Llan

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 7 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
lodion Hen Bysgotwr

lodion "Hen Bysgotwr." Yr wyf yn deall fod rhai yn meddwl fod yr 'Hen Bysgotwr' yn ngwaelod y mor, hyny yw, fod un o'r Submarines German- aidd wedi suddo ei gwch, ac ei fod yntau wedi myned yn fwyd i'r pysgod, ond y mae yn dda genyf allu dweyd ei fod ar dir y rhai byw. Yr ydym ni fel 'pysgod- wyr' yn cymeryd dyddordob neillduol yn y Genhadaeth Genedlaethol. Dyma'r pwnc fyddwn ni yn drafod yn fynych iawn gyda'n gilydd, ac yr wyf fi yn credu mai arwydd dda iawn ydyw gweled un- rhyw ddosbarth o bobl yn trafod pwnc mor bwysig a'r Genhadaeth. Y mae rhai yn credu mai methiant fydd y Genhadaeth, ond yr wyf fi yn credu yn hollol wahanol, canys y ,mae yna arwyddion amlwg fod y ILeygwyr mewn rhai plwyfi wedi deffro at eu dyledswyddau. Yr wyf yn hollol gredu tOO. y lleygwr yn barod i weithio ond cael an i'w arwain, a dyma lie mae y pwysig- rwydd yn dyfod i mewn o gael arweinydd- ion priodol. Gwyddys fod Negeswyr yr Esgob i ddyfod i bob plwyf Gwaith pwysig neilJduo1 sydd gan y Negeswyr yma, ac yr wyf yn deall fod rhai ohonynt yn sylweddoli eu bod wedi ymygmeryd a. swydd a chyfrifoldeb mawr yn perthyn iddi. Ar ol i'r Negesydd droi ei gefn ar y plwyf, bydd y plwyfolion yn edrych am y ffrwyth, ac o bosibi y bydd llawer un yn meddwl y daw y ffrwyth yn union- gyrchol, ond rhaid i ni beidio disgwyl for mod gan y Negesydd, canys ddaw y ffrwyth ddim hob i ni feithrin had y Neges- ydd. Rhaid fydd i ni weithio; ie, gweithio yn galed os ydym am gael ffrwyth. Y cam cyntaf ynlyn a Ilwyddiant y Gen- hadaeth fydd cariad brawdol, fel y dywed y Parch. T. R. Davies, Llanfihangel-y- Creuddyn, yn ei lith yn y LLAN: "Un o wersi mawr y Genhadaeth ydyw ein dwyn ni oil vn nes at Dduw ac at ein gilydd, ac i ddweyd, 'Nyni oil brodyr ydym.' Peidio barnu ein gilydd cyn adnabod ein gilydd, a gwybod yr amgylchiadau yn iawn cyn rhoddi barn." Y mae yr 'Hen Bysgotwr' yn hollol gydweled a'r dyfyniad uchod. Nis gallwn ddisgwyl dylanwadau yr Yspryd Glan heb gariad brawdol. -t-t- Llongyfarchwn ein cyfaill y Parch. D. E. Hughes (Esgair) ar ei ddvrchafiad i ficeriaeth Dewi Sant, Lerpwl. Yr ydym ni oil yn gwybod ei fod wedi gwneyd gwaith rhagorol yn ystod y tymor byd y bu efe yn ysgrifenydd y Gymdeithas Gen- hadol Eglwysig. Yr oedd ei ysgrifau yn y LLAN yn werth eu darllen bob amsier, ac yr wyf yn deall eu bod yn cael eu darllen yn fanwl gan lawer. Bu yr 'Hen Bysgotwr' mor ffodus a chael amryw lyfrau gwerthfawr gan 'Esgair' am iddo gyfeirio at y Genhadaeth. yn ei lithoedd yn y LLAN. Dyma ddywed y Paroh. Morris Roberta, Rhosybol, yn y 'Clorianydd':— "Llongyfarchwn Gymry Lerpwl ar eu ficer newydd. Cant yn Engair Gristion, Eglwyswr, Cymro, bugail, pregethwr, a chyfaill. Bendithied Duw ef a'i deulu ag iechyd a phob dawn angenrheidiol i lwydd- iant Dewi Sant a'i hapusrwydd yntau." Bu yr 'Hen Bysgotwr' yn un o eglwysi Mr. Hughes yn Lerpwl, sef St. Asaph, ar wyl diolchgarwch am y cynhauaf, pan oedd y Parch. J. Bangor Jones. Edem, yno. Y pregethwr nos Sadwrn oedd y Paroh. Jaoob Hughes, Birkenhead, a boreu a nos Sul pregethwyd gan Mr. H. Jonee, Penrhoe- garnedd; a'r Parch. J. Bangor Jones yn ihoddi ei bregeth ymadawol prydnawn Sul. Cofus genyf fod Mr. Bangor Jones wedi dweyd *pothau plaon iawn wrth ym- adael. Yr oeddwn yn edmygu ei wroldeb ar y pryd. A ydyoh chwi yn cofio y ferogeth hono. Mr. Jones? —M— Fel hyn y canodd 'Rhosgar' y dydd o'r Iblaen:- "Mae pysg y mor mewn dyehryn Wrth woled fflamajw tan, I'r gwaeiod ant i lechu Ar wely'r tywod man; Fe gyfyd pris'y pysgod Tra peru'r rhyfel flin, A gwelir dydd bydd Caasar Yn ddigon hawdd ei drin." HEN BYSGOTWK.

Yn Nyffryn Teifl

Yn Nyffryn Teifl. (Gan Jon: v GWAS). ISGAIR.-Da, oedd gan ei anil gyfeillion z,Y ideall fed y Parch. D. E. Hughes (Esgair) we,di ei ddyrchafu yn ficer Eglwysi Cym- reig Lerpwl. Erys adgofion melus am daiio yn Nyffryn Teifi er y blynyddau y bu vn gurad Llangeler. Mae ef yn un o offeiriaid llengar yr Eglwys, ac nid oes ball ar ei ffyddlondeb a'i gefnogaeth i lenydd- iaeth Gymreig yr Eglwys. Yr ydym yn synied yn uchel am bob un o'r fath. IJwydd iddo etc i fod o wasanaeth mawr i'r Cymry Eglwysig ar lan y Mersey a rhodded i ni fynych damaid melus o len e,i feddwl yn y LLAN. MTLWROL.—Myned ynalaen yn rhagorol wna'r trefniadau yn mhlwyf Penboyr ar gyfer anfon ypynau. i'r carcharorion mihvrol. Achos gwir deilwng ydyw. Oyn- helir cyngerdd clasurol yn Neuadd Henllan •r cael' b darpariadau i'r gwreniaid lleol ydynt yn nwasanaeth ein gwlad fel milwyr a niorwvr. Ar y cyfan mae nifer dda wedi ymreptru o Ddvffryn Teifi. a gwna eu henwau restr hir o wyr glewion dwy ochr y Teifi. LLANGYNLLO.—Dydd Sadwrn diweddaf, yn mynwent Sant Cynllo, claddwyd gweddillion miarwol y ddiweddar Miss Hannah Jane Rees, merch Mr. a Mrs. John Rees, Ffynonlas. Yr oedd oddeutu deunaw mlwydd oed, ac wedi dioddef hir a blin gystudd, ac er pob gofal a thirion- deb vmadaei ioedd 'raid. Un o blant ffyddlon yr Ysgol Sul ydoodd, ac yr oedd ei chyd-aelodau yn yr angladd yn talu teyrnged o barch hiraethlawn i'w ohoffa- dwriaeth. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. E. O. Jones, rheithor. Yr oedd wifer fawr o flodaudyrch prydferth wedi eu goaod ar ei harch, ac ymgysured y tad a'r fam a'r teulu galarus yn y meddwl prydferth o fraint plentyn cystudd o gael huno yn yr Iesu. 0 ing y byd i wlad yr hedd, Arsveinia'r ffordd tuhwnt i'r bedd; Rhai anwyl, ant i lawnaf fraint Gwir deulu Duw, Gorphwysfa'r Saint. LLANFAIRORLLWYN.—Yn ein banes o wasanaet-hau diolchgarweh yr Eglwys yr wythnos ddiweddaf dylem ddweyd mai y rhai canlynol fuont yn harddu yr Eglwys a'r Ystafell Eglwysig :—Mrs Evans, Fioer- dy; Miss Williams. Glyn-noddfa, Mrs Ri- chards, Mae&llan; Mrs Jones, Llwynglas; Misses May Jones, Pencnwc, a. Hannah Davies, Pantelen. Cafwyd blodau a. ffrwvthau oddiwrth Mrs. Newland, Dol- haidd; Evans, Fioerdy; Evans, Pen- rhywaber; Richards, Maesllan; Jones, Llwynglas; Davies, Penrhiw, TreJbedw; Williams, Greengrove; Morris, Penrallt; Griffiths, Lla-iii; Williams, Woodville; Jones, LIwynceJyn; Davieg, Penrhiw- gotta; Nos. 2 and 3, Orllwyn Terrace Misses Williams, Gdvn-noddfa M. Jones, Pencnwc; H. Davies, Pantelen: Mary Davies, Ddol, a Master Benjie Thomas, Penty. RHODD. Mae Mr. John Hazelby, Churchwarden, wedi eyflwyno 'Framed Roll' of Honour' brydferth i Eglwys Llan- fairorllwyn, a gwerthfawrogir hi gan vr aelodau. HENLLAN.—Dydd Sul diweddaf. pre- gethwyd yn Henllan gan y Parch. J. Williants, curad Ammanford, ac yr oedd gair da iddo gan yr holl aelodau.

DEONIAETH LLANBADARN FAWR

DEONIAETH LLANBADARN FAWR. (0 dan arolygiaeth y Parch. T. R. DAVIES, Llanfihangel-y-Crelldd yn). 'Y LLAN.'—Y mae yn dda genym ddeall fod yn agos i ugain o'r LLAN yn cael eu dosparthu yn mhlwyf Llanfihangel-y- Creuddyn bob wythnos yn awr. Yr ydym wedi cael dosparthwr da, sef Mr. W. Evans, Caegwyn. Y mae y derbynwyr yn cael y LLAN ganddo bore Gwener, mor gynted ag y byddo'r sypyn yn cyraedd Caegwyn. Dyma esiamp] ragorol i blwyfi Cymru. Ni fyddai yn ormod i bob plwyf dderbyn dwain o'r LLAN, etc. Mantais fawr i'r Eglwys ymhob plwyf yw lledaenu llenyddiaeth Eglwysig. Wel, hai ati gyf- eillion gyda'n gilydd. Y FINANCE.—Y mae y 1 lyfrau i ddyfod i fewn i Dr. Roberts, Penywern, erbyn y Sul nesaf. Bydd y peiriant mawr esgobol newydd hwn yn fantais fawr i gwrdd ag anghenion yr Eglwys yn y dyfodol, ac y mae Dr. Roberts yn foneddwr sydd yn teimlo dyddordeb mawr mewn pob mudiad fyddo yn llesoli yr Eglwys. Y mae teulu Penywern yn gymorth mawr i'r plwyf hwn. Y mae Mr. Jenkins. Tanllan, a Mr. Richards, Blaencynon. y ddau warden, a isainau yn gobeithio y bydd y casgliad yn llaw Dr. Roberts erbyn y Sul ncsaf, a.c y bydd yn gpgliad da, at achos gwir deilwng. Y GENHADAETH.—Y Sul diweddaf pre- gethwyd ar y Genhadaeth Genedlaethol yn Llanflhangel-y-Creuddyu y hnr". ac "1 Llantrtaant yn y prydnawn, a chychwyn- wyd yr Ysgol Sul yn Llantrisant y Sul di- weddaf. Nos Sul yr oedd eglwys fawr Llanfihangel-y-Creuddyn yn llawn, pryd y pregethwyd pregeth angladdol i Miss Rattray, Bryngibdda. Y geiriau diweddaf a lefarodd ein chwaer ymadawedig oedd, • lean. Grist ddoe a heddyw yr un ae yn dragywydd,' a phregethwyd yma nos Sul ar y geiriau yna gan y Parch T. R. Davies, fieer, Chwareuwyd y Dead March' gan Miss Wright, Post Office. Dangoswyd cydrmdeimlad mawr a'r teulu ""an yr holl bob! dctaeth i'r bregeth angladdol yma nos Sul. LLANJWAN.—Buom yn yr wyl ddiolch- garwch yma nos Luu a. dydd Mawrth di- weddaf." Pregethwyd nos Lun gan y Parch. T. R. Davies, ficer Llanfihangel-v- Cvewddyn ac bofyd air 10 her-, ->f,rt:, am 11.30 pregethwyd pan yr Hvbarch Archddiacon Williams, Aberystwyth; am 2, gan y Parch. 1. Harries Williams, I Manordeifi, ae am 6 nos FawTth gan y Parchn. I. Harries Williams a T. R. Davie8. Cafwyd gwyJ dda, y eanu yn swynol o dan arweiniad Mr. John Jones. Dolau-afan, a Miss Parry a Mrs. Thomas a wnaethant eu gwaith yn rhagorol wrth yr organ. Cymerwyd y gwasanaethau gan ficer Llanafan a'r Deon Gwladol o'r Gwnws. hen ficer y phvyf am flynyddan. Da oedd genym. weled Mrs. Williams ag yntau yn mwynhau eu hunain ynghanol efu hen gyfeillion. Diolch i Mr. a Mrs. Thomas a'u pobl am dderbyniad mor serchus yn Llanafan. PENRHYNCOCH.—Dydd Mcroher drvvend- afiif bucm. yn yr wyJ. yn PenrhYlIcrch. DechreuwATd nos Fqw-rth, pryd y y>res;eth- wvd gan y Parch. E. Teifv Evans, Cwm- llynfell, a'r Parch. J. Phillips, Llangyn- felin, a dydd Mercher pregethwyd gan y Parchn. N. L. James. Aberystwyth; T. R. Davies, Llanfihangel-y-Creuddyn; E. Teify Evans, a E. J. Davies, Bangor Teify. Yr oedd gweinyddiad o'r Cymun ymhob un o'r lleoedd yma. Hefyd yn Penrhynooch cawsom serchawgrwydd- a mwynhawyd eu cwmni: Y Parchn. R. Williams, ficer y plwyf; Z. M. Davies, Llanfihangel-geneu'r-glyn; J. Sinnet Jones, Elerch, a T. D. Thomas, Llan- gorwen. Cafwyd gwyl dda, a chynulleid- faoedd cryfion. Bendith ar y gwasan- aethau hyn.. LANILAR.-Buom yn Llanilar dydd Iau diweddaf. Daeth cynull gref ynghyd nos Fercher, ond methodd y pregethwr dyeithr o'r de gyrhaedd yno oblegid fod y tren ddwy awr yn ddiweddar, ond clwysom i Ficer Llanilar esgyn i'w bwlpud, a phre- gethu, a chafwyd gwasanaeth da. Boreu dydd Iau bu gweinyddiad o'r Cymun Ben- digaid; am 2.30 cymerwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. F. Lloyd, ficer, a phre- gethwyd yn Sac&neg gan y Parch. J. Rhys Davies, Llanbadarnfawr, ac yn Gymraeg gan y Parch. T. R. Davies, Llanddewi- brofi; yn yr hwyr darllenwyd y gwasan- ( aeth gan Ficer Llanychaiarn. a phregeth- wyd ga.n Ficer Llanfihangel-y-Creuddyn. Hefyd cafwyd gwasanaeth cenhadol yn Eglwys Llanilar nos Woner diweddaf. Dyma'r g-enhadaeth gyntaf yn y Sir, ac yn Nghymru mor bell ag y gwyddom ni, ac yr oedd yn wasanaoth arbonig. Yr oedd bron ddeg o'r gloch arnom yn dyfod allan o'r heneglwys gysegredig. Gwcdi gwas- anaeth neillduol dda, galwodd Ficer Llan- ilar ar dri i siarad a'r bob ar bynciau y genhadaeth, ac yr oedd yr eglwys eang yn llawn. Yn gyntaf galwodd ar Ficer Llan- rhystyd i siarad ar weddi. Efe gafodd yr anrhydedd i agor y Genhadaeth yn y sir, a I hyny yn ei le gencdigol, ac anerchodd ei gyfoedion yn ddifrifol gan eu hanog i'r weddi ddirgel, deuluaidd, a chyhoeddus. Galwyd ar Ficer Llanfihangel-y-Creuddyn i siarad ar ei ol ar 'Edifeirwch.' Sylwodd am fod gaIwad arnom i edifarhau, fod hyny yn tybied fod trosedd yn bod. Dangosodd y pethau y dylem edifarhau am danynt, a hyny mown sachlian a lludw. Dangoswyd allan beohodau v byd, yr eglwys, a'r unigolion. Yna galwyd ar Brifathraw a Ficer Ystradmeurig in hanerch ar 'Obaith,' ac eglurodd yn ddysgodig y pothau uchel y dylem obeithio am danynt yll y dyfodol. Yn wir, cafwyd gwasanaeth i ddihuno y bobl o'u cysgad- nvydd. Y mae son am y gwasanaeth \vr--ij cyraodd eisoes ymhell. Bu Ficer Llanilar a Mrs. Lloyd yn hynod garedig i'r con- hadon. Yr oedd yn dda genym gaol cv/mni Mr. Loxdale a Miss Parry, Llidiardau, gyda ni ar lunch. Ch.\7c.reuwyd ar yr organ gan Miss Marjoric- Lloyd a Miss Dx.isy Headley. Dywedodd y Ficer wrth- ym fod Miss May Headley wedi ymadael n' o Llanilar, a'i fod wedi cael colled arbonig ar ei bol. Yr oedd yn hynod ffyddlon gyda'r eglwys. Y mae, mewn bane yn Dow- lais. Gwnaed Eglwyswyr Dowlais sylw o honi. Un o ddiffygion yr Eglwys yw peidio galw sylw at y bobl fyddo yn myned i le dyeithr. Y mae yr Eglwys yn Nghymru yn colli llawer drwy'r esgoulusd1;a hwn.

LLANLLYFNI

LLANLLYFNI. Y GENHADAETH GENEDLAETHOL.—Pryd- nawn Sadwrn, Modi 30ain, yn Eglwys Crist, Penygiroes, am 2.30 p.m., cynhal- iwyd gwasanaeth oedd wedi ei drefnu ar gyfer y Cashadaet-h (Genedlaethol. Cy- merwyd y gwasanaeth gan y Parch. Henry Morris, Liandwrog Isaf. Daeth nifer dda o gynrychiolwyr ynghyd o blwyfi y cylch. Ar ol y gwasanaeth bu ymdrafodaeth ar y moddion goreu i gynal y genhadaeth, a chredwn fod yr Yspryd yn ein plith. Mae offeiriaid y cylch wedi cyfarfod ymhob un o'r plwyfi cyn hyn, wedi bod yn gweddio, a cheisio trofnu o dan gyfar- wyddyd yr Yspryd, ac erbyn hyn mae y gwaith a ofynir gan y lleygwyr i'w. gyf- fawni yn hynod o bwysig. Gofynodd y rheithor, y Parch. R. R. Hughes, a oedd pob un oedd yn breeenol yn foddlawn i wneuthur yr hyn a ofynid iddo ei gyf- lawni ayda, gwaith y genhadaeth, a chaf- odd atebiad cadarnhaol. O! am i bob Eglwyswrac Eglwyswraig ofyn iddynt eu hunain: 'Beth a allaf fi ei wneuthur; beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig," yna bydd i'r genhadaeth gael ei heffaith briodol. Cynhelir y gwasan- aeth undebol ncsaf yn Eglwys Crist, Peny- groes, Hydref 21ain, pryd y rhoddir gwaihoddiad i bawb sydd am weithio gyda'r genhadaeth yn y plwyfi i fod yn bresenol. Ciywais fod Cadeirydd y Free Church Council wedi erfyn am iddynt hwythau weddio ar ran y genhadaeth. MARW YN WINCHESTER.—Gyda gofid dwys yr ydwyf yn cofnodi marwolaeth ein cyfaill ieuanc, Mr. Sachariah Jones, mab Mr. a Mm. Ben. Jones, Eifion Ter- race, Talysarn, yr hyn gymerodd le ddydd Iau, Medi 28ain, ac efe yn ugain oed. Yr oedd wedi ymuno a'r Horse Artillery tua blwyddyn yn ol. Cafodd ei daraw yn waeli o'r 'appendicitis,' a dydd Llun, Medi 24ain, aeth o dan weithred lawfeddygol. Dydd Mawrth, prysurodd ei anwyl dad yno i edrych am dano, a chafodd ei fod yn dyfod ymlaen cystal ag y gellid disgwyl. Dydd Iau, yr 28ain, bu raid myned dra- chefn dan y weithred lawfeddygol, ond yn lie gwella ehedodd ei yspryd prydferth at ei Dduw, yr Hwn a'i rhoes, wedi trigo yn y corph hardd am ugain mlynedd. Rhaid i bawb a adnabu e,in cyfaill a'r Egl\vv-:wr ffyddlawn hwn ddweyd, 'Yr hyn allodd hwn efe a'i gwnaeth.' Pan adref am ychydig soibiant gwelid ein cyfaill bob amser yn ei le yn y cor. Daethpwyd a'r rhan farwol ohono gartref i Talysarn ddydd LIun, Hydref, 2il, a r hwynt y dydd Mawrth canlynol yn Eglwys henafol St. Rhedyw, Llanllyfni. Gwas- anaethwyd wrth y ty ac yn yr Eglwys gan y rheithor. y Parch. R. R. Hughes. Nawdd y nef fyddo dros y teulu trallod- edig oil, a huned ein cyfaill iouanc yn dawel hyd y bore y bydd beddau y byd ar un gair yn agoryd. Dydd Mawrth, yr oedd Cenhadon yr Archesgob yn Bangor, a chlywom fod llu- oedd o'r plwyf wedi darparu i fyned yno. Sicr i angladd ein cyfaill ieuanc, Saohariah Jones, luddias llawer i fyned yno, ond aeth rhai ohonynt i Porthmadog ddydd Iau, yn lie Bangor. 'Wel done,' chwi Eglwyswyr Llanllyfni.—H. J.

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney

Rhiwmatic ac Anhwyldeb y Kidney. Y mae Rhiwmatic yn ganlyniad uris acid orystau yn y llywethau a'r cynialau, effaith gormod o uric acid yn y cyfanaodd- iad y methodd yr olwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur; gyda hya y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o boon yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y djftr, carreg, grafel, a dropay. Mae Ilwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu yr elwlod i woithrodu'n natuiiol, a thrwy hynny symudir achos yr anhwyldeb, yr hyn o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia o hono; ac mae wedi iaehau achosion dirifedi gwedi meth- iant meddyginiaethau ereill, yr hyn ay'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir &8 brisiau sydd allan o gyraedd pawb ond y cyfoethog. Mae Tabledi Estora yn llawn deilyngu y desgrifiad ohonynt-meddy-,iniaeth onest am bris gonest—Is. 3c. y blwch o 40 dabledi, neu chwe' blychaid am 6c. 9c. Ar werth gan Fferyllwyr ymhob man, neu'a rhad trwy'r post, am y prisiau hyn, oddi- wrth Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. MERCHED. Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argraff em bod yn ebyrth i afiechydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg, ond yn amlach nag i'r gwrthwyneb y mae i'w briodoli i'r elwlod (kidneys), ac mewn achosion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA TABLETS eu llwyr adferu! 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyddweh a Ilwyddiant meTch ar hyd ei hoes yn di- bynnu yn hollol ar ei hiechvd.

Advertising

A- J GENHADAETH GENEDLAETHOL 0 EDIFEIRWCH A GOBAITH. THE NATIONAL MISSION OF REPENTANCE AND HOPS. "Atolwg, Arglwydd, acbub yn awr; atolwg, Arglwydd, par yn awr lwyddiant" (Psalm cxviii. 25). DEONIAETH ARLLECHWEDD—BETTWSYCOED A'R PLWYFI CYLCHYNOL. CYNHELIR Y GENHADABTH Nos Lun, Dydd Mawrth, a Dydd Mercher, Hydref 30, 31, a Tachwedd 1 (Oct. 30, 31, and Nov. 1). Cenhadon.-PLit,chri. W. MORGAN, St. Ann's ;.W. EVANS JONBB, Llanfechell; JAMES SALT, Llandinorwic; T. E OWEN, Aberdaron R. R. ROBIRTS, Liandwrog. Plwyfi. iDyddiati.1 Bettwsycoed .Llun iMawrfch [Mercher Trefriw !Llun jMawrth jMercher Doixvyddelml iLluIl j ^lawrth j iMeicher Penmachno .Llun t jMawrth .M.erelier Bore. W. Morgan (Eng.) J. Salt T. E. Owen W. Morgan (Eng.) J. Salt T. E. 0 a sjn W. Evans Jones R. li. Roberts I Prydnawn. I J. Salt W. Morgan (Eng.) W. Morgan (Eng.) R. R. Roberts T. E. Owen '0' W. Evans Jones R R Roberts J. Salt rsgrifenydd B. JONES Hwyr. R. R. Roberts i. salt T. E. Owen T. E. Owen W. Evans Jonee R. R. Roberts J. Salt 'T. E. Owen NV. Evans Jones W. Evans Jones !R. R. Roberts |J. Salt 3, Penmachno.