Teitl Casgliad: Dinesydd Cymreig

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 8
Full Screen
31 erthygl ar y dudalen hon
YMCHWILIAD I FWNFEYDO A CHWARELAU

YMCHWILIAD I FWNFEYDO A CHWARELAU. ADRODDIAD Y COMISIWN BREtfHINOL. TELERAU GWEITHIO MWNWYR A CHWARELWYR. Yr wythnos ddiweddaf rhoddasom am- linelliad o brif argymhellion ymchwiliad y Comisiwn Brenliinol i Fwnfeydd a Chwar- elau'r Deymas, a bwriadwn gyhoeddi sylw- adau manylach y Comisiwn ar bob un o'r argymhellion hynny. Y cyntaf ydoedd:- Dylid diddymu'r darpariadau a gym- hwysent Ddeddf y Ffatrioedd i "pit banks" mwnfeydd meteloedd, a chwar- elau, a gwnud daerpariadau priodol yn delio a chwestiwn oriau gweithio merch- ed, personau ieuainc, a phlant, diogelu peirianau (fencing), a rhwystro llweh; ynghyda materion eraiU a reolid yn awr gan Ddeddf y Ffatrioedd, y rhai ddylid eu cynnwys yn y Deddf newydd. Argymh ellir fod ystyr y gair "mwnfa" i'w eangu, fel ag i gynnwys unrhyw weith- fa yn y mwnfa, neu a, berthyn iddo, yn yr hwn y cerid ymlaen unrhyw waith i gy- aorthwyo cynhyrchiad y meteloedd. Dylai y gorohwYlo archwilio unrhyw leoedd o'r fath fod yn ddyledswydd benodol Arolyg- ydd Ffatrioedd, a byddai i unrhyw gwes- tiwn a godai pa un ai "mwnfa" ynte -"ffatri" a elwid unrhyw le neilltuol, gael ei benderfynnu gan yr Ysgrifennydd Car- trefol. Gan nad oes unrhyw ddarpariaethau yn Neddf y Mwnfeydd i reoli oriau gweithio (ar wyneb y ddaear), merched a pherson- au ieuainc-diffyg gyflenwid gan Ddeddf y Ffatrioedd—bydd yn angenrheidiol, os y cerir allan yr argymhellion hyn, i ddelio a'r mater mewn deddf newydd, ae argym- hellwn fod adranau i'w cynnwys, er rheoli cyflogiad merched, personau ieuainc, a phlant. Gellir amlineilu'r darpariadau fel a gan- lyn:— Ni ellir cyflogi unrhyw fachgen neu eneth dan 13 oed, oe na chyflogid hwy yn yn gyfreithlon cyn pasio'r ddeddf. Ni ellir cyflogi unrhyw fachgen rhwng 13 a 16 oed, na'r un eneth na dynes (a) Ar y Saboth; (b) Ar ddyddiau'r wythnos, ond yn ystod y cyfnod nodir ar y rhybudd rodd- id i fyny yn y mwnfa. Ni ddylai'r cyf- nod hwnnw ddechreu cyn 5 y bore, na therfynu ar ol 9 yr hwyr (ar y Sadwrn ar ol 2 y prynhawn). Ni ddylai'r cyf- nod fod yn fwy na 10 awr ar unrhyw ddiwrnod (heb amser bwyta), a'r cyfan- swm am yr wythnos i beidio bod dros 54 o oriau. 12 awr o amser i'w ganiatau rhwng terfyniad amser gwaith un diwr- nod a. dechreuad amser gwaith y dydd canlynol. (c) Yn barhaus am dros bum awr heb seibiant o'r fan leiaf hanner awr; ac am ragor nag wyth awr mewn diwrnod heb seibiant o'r fan leiaf awr a hanner. Rhaid nodi'r scibiant ar y rhybudd a roddir i fyny yn fwnfa. Getllir sefydlu cyfnodau a seibiant gwahanol i wahanol bersonau ar wahanol ddyddiau, ond ni ellir eu cyfnewid yn amlach nag un- waith mewn tri mis. (d) Ar wagenau symudol, neu mewn gorchwyl o godi, cludo, neu symud un- rhyw beth all fod yn ddigon trwm i achosi niwed. Credwn hefyd y byddai'n llawer mwy priodol i godi'r oed presenol (13) i 14 mlwydd, fel yr hwn y rhwystrir cvflogiad bechgyn dan y ddaiar, fel y gwnaed gyda glofeydd. Os y diddymir yr adran a gymhwysa Ddeddf Fatrioedd i "pit banks," rhaid cynnwys yn y Ddeddf newydd ddarpar- iaethau yn delio a thelerau iechydol ar y wyneb, a diogelu peirianau; ac hefyd faterion eraill yn cynnwys rhwystriad llwch, arolygiaeth berwedyddion, &c. Y DDEDDF NEWYDD A CHWARELAU. Yr ail argymhelliad ydoedd- "Fod y ddeddf newydd i'w chym- hwyso i'r holl chwarelau He y cyflogir personau, gydag awdurdod i'r Ysgrifen- nydd Cartrefol adael allan (exempt) y dosbarthiadau a chwarelau nad oedd yn angenrheidiol eu harchwilio; ao mewn achosion o chwareli a berchenogir gan awdurdodau cyhoeddus neu leol, i ben- odi'r personau ydynt gyfrifol am ddio- gelwch y chwarel. Golygir yma y cwestiwn o adael allan fwnfeydd lle cyflogir llai na 12 o bersonau. Fel engraifft, ni chvmhwyair yr adran a orfoda roddi rybudd i'r Arolygydd, o agor- iad mwnfa neu rybudd o'i rhoddi i fyny, i unrhyw fwnfa lie cyflogir llai na 12 o ber- sonau. Y mae'n annodd cyfiawnhau dar- pariaeth o'r fath, gan yr ymddengys o fcwysigrwydd mawr fod yr Arolygydd i dderbyn rhybudd o bob mwnfa a agorir neu a roddir i fyny; gan y gall dwfr ymgasglu yn y fwnfa a adewir, a'i boddi. Y mae'r angen am ddiddymu'r darpar. iaethau hyn yn amlwg, gan yr achosant anhawsterau parhaol, a gallant achosi damweiniau difrifol a cholli bvwydau, ac argysahellir na chaniateir hwy mewn unrhyw ddeddf yn y dyfodol. Ceir hefyd y cwestiwn o adael rhai mwn- feydd allan o ddarpariaethau y ddeddf yn gofyn cyflenwi ystafelloedd gwisgo, yr hyn a ymdrinir ag ef mewn adroddiad pellach ynglyn a thai bwyta, baddonau, &c. ———— I

I ATEBIAD I AP CREIGIWR i

I ATEBIAD I "AP CREIGIWR." i Yn ei lythyr yr wythnos ddiweddaf, cyhudda "Ap Creigiwr" fi o fod yn an- Undebwr, ac yn pregethu an-Undebiaeth fel moddion i sicrhau gwell telerau na 3s 4c y dydd i'r labrwr, a noda frawddeg o'm llytfcyr i gadarnhau y dyb honno. Pe byddai y frawddeg nodwyd yn dweyd fy mod yn gobeithio mai hyn fyddai y rhes- wm dros iddo beidio, cawsai le i gredu yr hyn a ddywed; ond yn hollol i'r gwrth- wyneb y mae, sef fy mod yn ofni. Na, nid cyhoeddi an-TJndebiaeth yr wyf, ond ceisio gan yr Undeb, o'r hwn yr wyf yn aelod ers blynyddau, well cydraddoldeb o'i aelodau, neu lai o'r tra-arglwyddiaeth y sonia ef am dano. Pe na buaswn yn aelod o'r Undeb, ofer fuasai i mi ddisgwyl yr un ffafr ganddo; ond, gan fy mod, hawl- iaf yr un breintiau oddiar ei ddwylo a phob dosbarth arall, bydded chwarelwr neu rhywun arall o'i wahanol ddosbarthiadau. Pe byddai y labrwyr oil yn Undebwyr, meddai, gallasant godi a mynnu gwell tel. erau, a chyflogau mwy sylweddol. Eithaf posibl; ond cyfrin-gyngor Undeb y Chwar- elwyr fyddai eu gelyn gwaethaf. A am- heuo hyn darllener eu siafter. Cytunaf ag ef pan y dywed mai'r bottom dogs a fydd- ent tra allan o Undeb, ond a gytuna ef a mi tybed pan y dywedaf mai yr un peth fyddwn hefyd tra fyddo Siarter Undeb y Chwarelwyr yn ffaith. Na, does yr un gradd o ysbryd y "Not Guilty" ynddo.—Yr j eiddoch, I UN O'R BOTTOM DOGS. —— 81&

I CHWAREL DINORWIG

I CHWAREL DINORWIG. Ym Mhonc y Muriau, Chwarel Dinorwig, ar yr awr giniaw ddydd Mawrth diweddaf, cynlxaliwyd cyfarfod gan weithwyr y bono uchod a Sine Bach y Muriau, i'r diben o gyflwyno anrheg o lygad-wydrau aur i Mr John W. Hughes, Gwyndre, Segontium Terrace, Caernarfon, ar ei ymadawiad o'n plith, wedi treulio rhyw 50 mlynedd yn y gwaith; ac yn awr ymadawai i dreulio gweddill ei ddyddiau yn nhawelwch ei gar- tref clyd a hardd. Ym mherson Mr Robt. Morris, Celynen House, Cwmyglo, cafwyd llywydd doniol a phert ei ddywediadau, yr I hwn a alwocld am y peth cyntaf ar y rhag- len, sef pedwarawd gan Mr Charlie Coster Owen, Llanberis, a'i gyfeillion. Yna caf- wyd annerchiad gan y llywydd yn rhoddi ei hanes ef a Mr W. T. Williams Glasgoed (yn mwynhau caredigrwydd Mr a Mrs Hughes, Gwyndre), yn nwylaw y rhai y rhoddwyd y gwaith o bwrcasu y gwydrau, yr hyn a wnaed ym masnachdy y Mri Ro- berts and Owen, Pool Street, lie yr ar- ddangosir ,y cyfryw yn ffenestr eu mas- nachdy. Yna cafwyd can swynol fel arfer gan Mr Elias Pritchard, Llanberis. Galwyd ar y beirdd i annerch, ac ymddangosodd un, sef Mr Harri Roberts (Llew Eryri), Waenfawr, ar ben y mden llog, a chafwyd ganddo gyfres o benillion gwreiddiol, don- iaJ, da. Ardal enwog beirddion byd yw y W-aen, a dilys sylwi fod Harri ar eu sodlau. Gresyn fod y prif-fardd W. W. J. yn ab- sennol oherwydd amgylohiadau anorfod; ond er yn absennol o ran y corff, deallwn f od ei dekvn -.v n f, fod ei delyn yn fywiog fel arfer, ac y ceir gweled y cynyrchion yn argraffedig yn fuan, ac y rhoddir copi i holl weithwyr y bone yn rhad gan Mr Arthur Gwenlyn Evans, Caernarfon, yr argraffydd llwydd- iannus, yr hwn oedd yn bresennol, ac a fawr fwynhaodd y cwrdd a'i ymweliad cyn- taf a'r chwarel. Galwyd ar Mr R. Griffith, Disgwylfa. Terrace, Llanrug, i gyflwyno yr anrheg ar ran ei gydweithwyr i Mr Hughes, yr hyn a wntaeth yn fyr mewn ychydig o eiriau. Mewn araith fer cyflwyn. odd Mr Hughes ei ddiolch puraf ef a'r teulu i'w hen gyfeillion am eu harddangos- iad o'u teimladau da tuagato. Yn dilyn, i bwrpas fel arfer, cafwyd annerchiad wresog gan Mr Robert Jones, Nazareth, Pontrug, yn annog yr ieuenctydi i fod yn gynnil a darbodus, fel y bu Mr John Hughes, fel y caenthwythau ymneilltuo i dawelwch a hyfrydwch hapus prynhawnddydd bywyd. Gdwyd ar Mr David Roberts (Dewi Dwy- thweh), Llanberis, i roddi adroddiad, a chafwyd ganddo adroddiad meistrolgar o'r darn hwnnw, "Allan i'r Heol ag Ef." Y peth nesaf ar y rhaglen ydoedd annerchiad gan Mr Thomas H. Williams, Llanberis, ond lluddiwyd yntau i fod yn bresennol gan amgylchiadau. Cafwyd cyfarfod pur dda, a chynulliad rhagorol.

GYRIEDYDD YN SAETHU EII WRAIG i

GYRIEDYDD YN SAETHU EI I WRAIG. i APEL Y WRAIG. f Ym Mrawdlys Caer, ddydd Iau, bu prawf Edward George Williams (40 oed), gyried- ydd peiriant, Crewe, ar gyhuddiad o saethu at ei wraig, Lydia Williams, yn Crewe, Mai 30, gyda'r bwriad o'i Iladd. Mae'r hanes wedi ymddangos yn Uawn yn barod yn y "Dinesydd." Yn y treial, ddydd Iau, plediwyd nad oedd y carcharor yn iawn yn ei bwyll. Dy- wedodd meddyg y carchar iddo wylio y car- charor o Mehefin 18 i 30. Credai nad oedd y carcharor yn iawn ei bwyll ar y cyntaf, ond. yr oedd yn awr mewn llawn feddiant o'i eynnwyr. Wedi i'r wraig roi tystiolaeth aeth o foes y tystion, ond dychwelodd yn uniongyrchol a dywedodd: "Gobeithiaf y byddwch mor dyner wrtho ag y gellwch. Gwyddoch fy mod wedi di- oddef, ac jy ydym oil wedi dioddef." Y Barnwr Lawrence: Ie. ie. Y Wraig: Yr ydym wedi dioddef gyda'n I gilydd, nid yn unig yn awr ond era blwydd- yn neu ddwy. Yr ydym ill dau wedi bod mewn ystad wan o iechyd, ac y mae wedi cymeryd punnoedd i'n cadw. Pe bai fy ngwr heb fod yn ddyn trwsiadus a dar- bodus, yr ydwyf yn Bier y buaswn ar yr ystryd. Y Barnwr: O'r gore. Y Wraig: Gobeithiaf y byddwch mor dyner ag y gallwch. Nid wyf yn gryf iawn, ac ni allaf weithio i'n cadw. Hiraf yn y byd y bydd i ffwrdd oddiwrthyf, caletaf yn y byd y bydd arnaf. Y Barnwr: Gwir iawn. Dychwelodd y rheithwyr reithfarn fod y carcharor yn euog, ond nad oedd yn ei iawn bwyll ar yr adeg, ac felly nad oedd yn gyf- reithiol gyfrifol am y weithred. Y Barnwr: Rhaid ei gadw hyd nes gwel y Brenin yn dda ei ryddhau.

AILGYFLOGIAD GYRIEDYDD I

AILGYFLOGIAD GYRIEDYDD. I Am wrthod gadael ei beiriant ar ddiwedd ei waith yn L-lantrisant, trowyd y Gyriedydd Reginald Wil- liams, Llinell y Great Western, ym- aith. Parodd hyn deimlad ymhlith ei gydweithwyr, a bu bron iddynt fyned ar streic er dangos eu cydymdeimlad ag ef, ond gwelodd yr awdurdodau yn dda roi ei le yn ol i Williams.

HANES PRUDD 0 WAENFAWR

HANES PRUDD 0 WAENFAWR. ] CHWAER YN CANFOD EI BRAWD YN FARW. Dydd Iau, brawychwyd yr ardal yn Waenfawr gyda'r newydd too Morgan Jones, 45 mlwydd oed, chwarelwr oedd yn byw gyda'i chwaer a'i frawd yn Bronallt, Waenfawr, wedi cyflawni hunanladdiad. Canfyddwyd ef gan ei chwaer yn ei ystafcll wely gyda'i wddf wedi ei dori. Dydd Gwener, cynhal- iwyd cwest ar ei gortf gan reithwyr dan lywyddiaeth Mr J. Pentir Wil- liams, Crwner. Mynegwyd fod y trancedig yn di- oddef oddiwrth glefyd siwgwr, ac yr oedd dan driniaeth feddygol, ac oher- wydd ei afiechyd aeth yn isel ei ys- pryd. Adnabyddid ef fel dyn siriol a charedig, a phob amser cyn ei waeledd mewn ysbryd uchel a rhadlon. Fore Mercher, cafodd forebryd yn ei wely, ond ymhen ychydig cafodd ei chwaer ef ar lawr yn gwaedu oddiwrth archoll yn ei wddf, a bu farw mewn llai nag awr o amser. Wrth ei ochr yr oedd cyllell boced, gyda'r hon mae'n ddiamheuol y torodd ei wddf gan ddat- gysylltu y bibell wynt a'r wythien. Yr oedd wedi tyllu ei ochr hefyd gyda'r gyllell. Dygwyd rheithfarn o "Hunanladd- iad tra mewn cyflwr o orffwylledd." Pasiwyd cydymdeimlad a'r teulu yn eu trallod a'u profedigaeth. 10

IMARW CERDDOR CYMREIGI

MARW CERDDOR CYMREIG. AWDUR TONAU POBLOGAIDD O'R RHYL. Dydd Iau diweddaf rhoed gweddill- ion Mr David Owen, y Rhyl, i orwedd ym mhriddellau y ddaiar, yn 61 mlwydd oed. Dechreuodd weithio yn hen chwarel blwm Meliden; ond wedi dod i drigianu yn y Rhyl datblygodd i fod yn ageiladydd pwysig, a bu yn ymgymeryd a chontracts adeiladu mawrion o dro i dro. Bu yn aelod ar y Cyngor Dinesig fel cynrychiolydd dros y rhanbarth ddeheuoL Ystyrid ef yn gerddor gwych, a bu yn arwein- ydd Seindorf Rhyl am flynyddoedd, ac amryw o gorau. Efe oedd arwein- ydd y gan yng nghapel Spar (W.), Rhyl. Dygodd allan lyfr yn cynnwys hen donau Cymreig wedi eu trefnu a'u cyfaddasu ganddo ef. Cyfansoddodd amryw o donau grymus a phoblog- aidd, ac y mae wedi anfarwoli ei hun fel cerddor Cymreig yn ei don "Soar" ar y mesur 8, 7, a 4. Yr oedd David Owen i'r corff Wesleaidd yr Hyn yd- oedd William Owen, Prysgol, i'r Methodistiaid Calfinaidd yn seren ddisglair ar ei ben ei hun, ac wedi an- farwoli ei hunan gyda th6n ar yr un mesur ag yntau, ac i raddau yn yr un arwedd o gerddoriaeth. Yr oedd fel William Owen yn hoff iawn o'r "fugal movements," ac fel rheol y mae y rhai hyn yn apelio at y Cymry. Ni fu cymdeithas a byd yn garedig iawn wrtho, a bu farw fel ami i ath- rylith o'i flaen heb gael ei weld na'i gydnabod yn ol ei haeddiant.

ICYFARFOD YSGOL MC DOSBARTH CAERNARFON

CYFARFOD YSGOL M.C. DOS- BARTH CAERNARFON. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Sul yn Salem, Bettws Garmoii, dan lywydd- iaeth Mr W. Gwenlyn Evans, Caer- narfon. Dechreuwyd y cyfarfod cyn- taf gan Mr J. Rowlands, Engedi. Penderfynwyd fod i'r cynrychiolwyr gyfarfod yng Nghaeathraw am 7.30 nos Iau, Gorff. 30, i drefnu ar gyfer y Gymanfa nesaf. Etholwyd Mr T. O. Hughes, organydd Siloh, Caernarfon, yn arvveinydd cerddorol y, Gymanfa. Pasiwyd cenadwri o ysgol Pontrhyth- allt ynglyn a dewis tonau o lyfr tonau y eyfundeb. Rhoddwyd hanes gweddol gysurus am yr ysTgol yn Salem. Cyn- helir y Cyfarfod Ysgol nesaf yng Nghroesywaen, Medi 6. Dechreuwyd y cyfarfod cyhoeddus gan Mr Hum- phrey Owen, Waenfawr. Adroddwyd rhan o'r Ysgrythyr mewn modd can- moladwy gan bedair o enethod. Agrrwyd y drafodaeth gyda phapur rhagorol ar "Y Saboth Cristionogol" gan Mr Hugh Jones, A.T.S.C., Caer- narfon. Cafwyd sylwadau pellach gan y llywydd, y Parch John Owen, M.A., Mri Rhys Jones, Bontnewydd; Owen Owens, Ceunant; John Owen, Thos J. Roberts, J. Tudno Roberts* a Wm. Jones, Caernarfon. Canwyd ddwywaith yn hynod swynol gan y cor. ——— ———

STREIC WOOLWICH ARSENALI

STREIC WOOLWICH ARSENAL. I Y GWEITHWYR YN DYCH- I WELYD. Mewn canlyniad i hysbysiad y Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos ddiweddaf, dychwelodd yr oil o'r 12,000 o weithwyr aethant ar streic yn Woolwich Arsenal, oherwydd gweithred y cyflogwyr yn anfon ym- aith beirianydd o'r enw Entwistle, am wrthod defnyddio darn o beiriant a wnaed gan lafur "coesau duon." Mewn canlyniad i araith Mr Will Crooks yn y Senedd, addawodd y Prif Weinidog benodi pwyllgor yn cyn- nwys cynrychiolwyr y cyflogwyr a'r gweithwyr, dan lywyddiaeth Syr George Ask with, i gynnal ymchwil- iad i'r holl fanylion, ac hysbysodd y gallai'r holl weithwyr, ac hefyd Mr Entwistle ei hunan, ddychwelyd yn ol yn ddiamodol. Beth bynnag fydd canlyniad yr ymchwiliad, ystyria y gweithwyr Undebol y digwyddiad fel buddugoliaeth awgrymiadol, gan y dengys y ffaith i Entwistle gael ei ddychwelyd yn ddiamodol, na orfodir Undebwyr yn y dyfodol i wneud gwaith an-Undebwyr.

CASGLIAD AT YR YSBYTAI I

CASGLIAD AT YR YSBYTAI. GAIR BACH 0 GYNGOR. I Mae y cwestiwn drafodir dan y pen- awd hwn yn un peryglus, oherwydd gellir niweidio achos teilwng wrth ei wyntyllu. Beth bynnag all fod syn- iadau "Idris" ar y mater, fe ddylai gofio fod yr achos yn fwy na'i syniad- au ef na'r un dyn arall; ac os oes rhai yn ceisio "twyllo Simon," yr unig beth all Simon wneud ydyw bod yn ddigon call i gadw draw. Nid ydym yn gweled y gellir gwella dim gyda'r llythyr a anfonodd yn atebiad i Mr Robert Jones, Ty Capel Sardis, ac oherwydd hynny yr ydym yn ymatal rhag ei gyhoeddi. Boed heddwch yn ffynu, a gadawer y mater yn Honydd er mwyn yr achos; oherwydd credwn na fuasai "Idris" yn hoffi gweled yr ysbytai yn dioddef oherwydd ymyr- iadau y Wasg.GOL.

TRYCHINEB YR EMPRESS OFI IRELAND

TRYCHINEB YR "EMPRESS OF I IRELAND." I Y "STORSTAD" I'W BEIO. I Ddydd Sadwrn cyhoeddwyd dyfarn- iad y Comisiwn Ymchwiliadol, dan ar- weiniad Arglwydd Mersey, ynglyn a'r trychineb uchod yn yr Afon St. Law- rence ar Mai 28, pryd y collwyd 1,014 o fywydau. Dyfarnodd y Comisiwn mai achos y gwrthdarawiad ydoedd esgeulusdra Tuftenes, prif swyddog y "Storstad," yn new id cwrs yr agerlong yn y niwl; a dyfament mai ef ydoedd yn gyfrifol am y trychineb. Dyfament fod Capt. Kendall wedi gweithredu yn ddi-fai cyn ac ar ol y gwrthdarawiad, ond y dylasai fod wedi cadw ymhellach oddiwrth y "Storstad." Daethant i'r casgliad mai'r achos i'r agerlong suddo cyn gynted ydoedd fod y "port-holes" yn agored; a'i bod wedi ei tharaw ger adrannau'r peir- iannau; rhaid fod blaen y "Storstad" wedi myned digon i mewn i lwyr ddinistrio y "water-tight compart- ments. Er ceisio rhwystro tychinebau cy- ffelyb, awgymai'r Comisiwn fod yr holl ystafelloedd "water-tight," ac hefyd y "port-holes," i'w cau mewn tywydd niwliog, hyd nes y cliriai'r niwl. Hefyd, i ystyried y priodoldeb o roddi "rafts" yn y lath sefyllfa ar y dec, ac y byddent yn nofio pan sudd- ai'r Hong. Argymhellent hefyd i'r Llywodraeth ddarparu "pilots" ar Wa- hanol bwyntiau ar yr Afon St. Law- rence, er rhoddi arweiniad i agerlong- au.

CYNGOR I McKENNA I

CYNGOR I McKENNA. I GWEITHIO MEWN MELIN. I Dywed Pwyllgor Undeb Gwehydd- ion Stockport: "Os oes ar Mr McKenna eisiau hysbysrwydd person- ol llwyr a chywir awgrymem iddo un ffordd: Deued i gylch y, melinau heb yn wybod i neb, a chael gwaith mewn melin am tua mis." Dyna'r ffordd iawn, o ran hynny, ymhob diwydwaith. Cyngor da yw dod "heb yn wybod," yn y fan yna y gorfiwys dirgelwch gwir wybodaeth, ynte? Canfod pethau fel y maent. I' Pan dalodd Mr McKenna ymwel- iad a'r melinau yn ddiweddar, yr oedd holl papurau dyddiol y deyrnas wedi gwneud y peth yn hysbys, a bu paro- toi mawr ar ei gyfer. Meddylier am Arolygydd y Llywodraeth yn anfon cylchlythyr i gyflogwr o'i fwriad i ymweled a'r lie er. edrych i mewn i gwynion neilltuol. GWyddom beth fyddai y casgliad. Rhoddai y cyflog- wr ei "dy" mewn trefn, a gofalai na chai yr Arolygydd weled ond yr hyn a ddymunai y cyflogwr.

CEISIO CHWYTHU TY BARDDI CENEDLAETHOL

CEISIO CHWYTHU TY BARDD I CENEDLAETHOL. Yr wythnos ddiwcddaf gwnaed ym- gais benderfynol gan ddwy o Ferched y Bleidlais i chwythu i fyny y bwthyn lie y ganwyd Robert Bums, bardd cenedlaethol Ysgotland. Daliwyd y merched yn y weithred o oleu "fuse" oedd yn gysylltiedig a dau foes teisen- au yn cynnwys ffrwydron. Ceisiodd y gwyliwr eu dal, ond cymerodd ym- drechfa ffyrnig le, a diangodd un ohonynt ar feisicl, ond daliwyd y llall. Gwisgent hosanau am eu hesgidiau rhag gwneud twrw. Cynhwysai'r bwthyn gannoedd o hen drysorau henafol i'r bardd, gwerth tua 1,700P.

DAMWEINIAU MEWN FFATRII OEDD A GWEITHDAI

DAMWEINIAU MEWN FFATRI- I OEDD A GWEITHDAI. Yn ei adroddiad am 1913' dywed y Pr; f Arolygydd fod ganddo dan ei ofal 120,000 o ffactrioedd, 154,000 o Aeith- dai, a 5,127,109 o bersonap. yn gwcithio ynddynt. Ymwclodd ei reolwyr 425,000 o weithiau i wneud ymchwiliadau, an- fonwyd 200,000 o rybuddion, a gwnaed 3,872 o erlyniadau. Daeth 1,309 o ddamweiniau angeu- ol dan. ei sylw, a rhifai y damweiniau eraill 176,852. O'r damweiniau hyn bu 162,653 i'r rhyw wrywaidd, a 15,508 i ferched. Bu 146,631 i ber- sonau dros 18 oed, 31,133 i bersonau rhwng 13 a 18 oed, a 397 i blant rhwng 12 a 14 oed.

CANFOD CORFF I

CANFOD CORFF. I Dydd Mercher deuwyd o hyd i gorff Mrs Hughes, merch Mr Bevan, Gwesty y Vernon, Briton Ferry, Mor- gannwg, mewn pwll cyfagos. Bu yn wael ei hiechyd yn ddiweddar.

MR McKENNA A BWYDO GORFODOL

MR McKENNA A BWYDO GOR- FODOL. ATEBIAD I DDEISEB FEDD- YGOL, Anfonodd Mr McKenna, yr Ysgrif- ennydd Cartrefol, yr atebiad canlynol i ddeiseb a anfonwyd iddo gan nifer o feddygon enwog ar y cwestiwn o fwydo merched yn orfodol:— "Ymddengys i'r ddeiseb gael ei seilio ar y dybiaeth y defnyddir bwydo gorfodol fcl cosb. Nid oes un- rhyw sail i'r honiad ac ni ellir cyfiawn- hau'r dybiaeth oddiar unrhyw beth a ddywedais. Ni ddefnyddiwyd bwydo gorfodol ond pan fyddai'n angen- rheidiol cadw yn fyw garcharorion a wrthodent gymeryd ymborth, ac nid i unrhyw bwrpas arall. Tybiaf na ddymunai'r deisebwyr i'r merched hyn gael eu gadael i newynu eu hun- ain i farw<,laetli yng ngharchar, a gofynant am eu rhyddhad. Golygai hynny y byddent cyn pen wythnos neu ddwy yn y ddalfa drachefn am losgi tai a malurio eiddo. "Dan yr amgylchiadau, barnaf ei fod yn anghyson a'm dyledswydd i'r cyhoedd, i ryddhau'n uniongyrchol y troseddwyr; ond os y gall y deiseb- wyr, dn\;y gyfryngau meddygol, aw- grymu unrhyw gynllun ymatferol drwy yr hwn y gellid cadw bywydau ac iechyd y merched a geisiant new- ynu eu hilnain gyda'r fath benderfyn- iad, byddaf yn falch o'i ystyried."

AI ADDA OEDD IW FEIO

———— ———— AI ADDA OEDD I'W FEIO? DAMCANIAETH NEWYDD I ATHRO. Parodd Dr Stephen Langdon, Coleg Iesu, Rhydychen, syndod mawr i ddi- winyddion y byd drwy wrth-ddweyd yr hen draddodiad mai Efa fwytaodd y ffrwyth gwaharddedig yng Ngardd Eden. Wedi blynyddau o astudiaeth, llwyddodd Dr Langdon i gyfieithu casgliad o "tablets" clai yn Athrofa Pennsylvania, a dywed ar awdurdod y rhai hynny mai Adda oedd v tros- eddwr. Pa un bynnag ai yw hyn wedi sicr- hau dieuogrwydd Efa, methwn a gweled ei fod ronyn -o wahaniaeth i ddynion na merched fel bodau dynol, gyda'r eithriad efallai o destun dadl mewn ambell gymdeithas lenyddol. ———

NAID TARW ODDIAR BONT I

NAID TARW ODDIAR BONT. I Ddiwedd yr wythnos cacd golygfa gynhyrfus yn Trent Bridge, Notting- ham. Diangodd tarw bychan o wagen yng ngorsaf y rheilffordd, a rhedodd tua banner milltir, pryd y daeth at bont. Neidiodd i ben y clawdd, ac vna i'r afon, 30 troedfedd o ddyfnder. Nid oedd ronyn gwaeth, ac wedi nofio ychydig i lawr yr afon aeth i'r lan, lie yr oedo. nifer o heddlu ac eraill yn ei r05. Rhuthrasant i'w aros. Rhuthrodd i'w canol, gan eu dymchwel i bob cyfeiriad, a chaed au- hawscer mwr i'w ddal.

ANGLADD BOREOLI

ANGLADD BOREOL. I Yr wythnos ddiweddaf cymerodd angladd Mrs Edwards, priod Ficer Pwllheli, le, yr hon fu farw y dydd Llun blaenorol, yn 42 mlwydd oed. Cymerodd yr' angladd le yn Bassaleg, Casnewydd, Mynwy, a gadawodd yr angladd Bwllheli gyda'r tren 6 y bore, a chynhaliwyd gwasanaeth angladdol am 5 o'r gloch y bore yn Eglwys St. Pedr, lle'r ymgasglodd cynhulliad mawr, er gwaethaf cenllif o wlaw. Anfonwyd dros 50 o ilodeudych-un oddiwrth Esgob Bangor. ————————————

MALURIO PENGLOG CI I

MALURIO PENGLOG CI. I Yn Ynadlys Porthmadog, ddydd Gwener, cyhuddwyd dyn o'r enw Ro- bert Thomas o greulondeb tuagat gi bychan "pomeranium." Dywedai Arolygydd y Gymdeithas i'r ci gerdd- ed o gwmpas ci'r diffynydd, pryd y tarawodd y dyn ef gyda'i ffon gan fal- urio'i benglog. Dywedai'r diffynydd na cheisiai niweidio'r ci, ond yn. unig ei ymlid i ffwrdd. Dyfarnodd y fainc nad oedd creulondeb bwriadol yn yr achos, a thaflent yr achos allan, gan wrthod caniatau'r costau i'r Gym- deithas.

UNO YR UNDEBAU I

UNO YR UNDEBAU. I Yn dilyn Undeb mawr Gwyr y Rheilffyrdd, daw hysbysrwydd yn awr fod 26 o Undebau Llafur ynglyn a llaf- urwyr yn gyffredinol a throsgludwyr, yn rhifo 400,000 o weithwyr, wedi penderfynu ymuno yn un Undeb cryf. Dyna wna y cvfiogwyr. Er cyfar- fod gallu mawr cyfalaf, rhaid i'r gweithwyr ymarfogi ac ymbarotoi, ac mae uno man Undebau yn un Undeb cryf y ffordd effeithiolaf at wneud hynny. ——— ————

CAERFEYDD Y DARFODEDIGAETH

CAERFEYDD Y DARFODEDIG- AETH. Y11 ol Syr William Osier, athraw ffisigwriaeth ym Mhrifathrofa Rhyd- ychen yng nghanadledd Leeds, prif gaerfydd y darfodedigaeth ydynt: Tlodi, tai afiach, a meddwdod. ———

RHODDION AT BRIFFFYRDD I

RHODDION AT BRIF-FFYRDD. I Yn ystod y tri mis diweddaf, rliodd- odd Bwrdd y Ffyrdd 34o,ii2p i wa- hanol awdurdodau v-ffyrdd.

Advertising

LLWYDDIANT PARHAOL Yr un cri o bob cyfeiriad. GRON liN FAIRM. OATCAKES. Cwerthwyd Allan Anfoner Ychwaneg Brys I'w cael mewnspacedi 2c. a 3c. gan holl Grocers, Bakers a Confectioners. PRIF YSTORFA:— LAKE & Company, Limited, CARNARVON

TIROEDD Y GORON I

TIROEDD Y GORON. I PWY BIA'R TIR? I Yng nghyfarfod Cyngor Sirdi Arfon, aidroddai'r pwyllgor ynglyn a'r uchod i atebiad gael ei dderbyn oddiwrth y Prif Weinidog, yn hysbysu nad ystyriai'r Llyw- odraeth fod yn angenrheidiol cynnal ym- chwiliad gan Swyddfa Gwaith i weinyddiad Tiroedd y Goron, ond y byddent yn foddlon i ystyried unrhyw achosion arbennig o gwynion roddid i'w hystyriaeth. Pasiodd y pwyllgor bendeffyniad y gof- idient ddyfarniad y Llywodraeth, ac ar- gymhellent bwyso'n gryf ar yr aelodau Cymreig a'r Aelodau Llafur Seneddol i sicrhau y rhoddid ystyriaeth briodol i gwestiwn Tiroedd y Goron, yn unrhyw bo- lisi o Ddiwygiad Tirol gyflwynid i'r Senedd yn y dfodol agos. Yn y Cyngor, protestion Mr C. E. Breese yn gryf yn erbyn dyfarniad y Llyw- odraeth ar gwestiwn oedd yn ddiamheuol yn un difrifol i'r cyhoedd. Yr oedd yr amser wedi dod pan y dylid ystyried fod y cyhoedd yn dioddef oddiwrth gamwein- yddiad dybryd o'r tiroedd hynny. Cyfeii*- iodd at engreifftiau lie y gwerthid y tir- oedd i bersonau unigol, heb roddi unrhyw gyfle i awdurdodau trefol a gwledig. Yng ngwyneb y cwestiwn o ddefnyddiad y tir- oedd hynny i amoanion cyhoeddus, an yr awdurdodau, cymierent lagwedd ddifrifol iawn ar yr hyn a wneid. Cawsant gyd- weithrediad y Blaid Gymreig a Llafurawl i gynnal ymchwiliad i'r mater, ond gwrth- odwyd hynny. Hefyd gwelid tenantiaid neu berchenogion yn meddianu tiroedd y Goron, clarganfyddodd yr Arolygwyr am- ryw engreifftiau o hynny; ond yr hyn a wnaethai'r Goroni yn lie cosbi'r bobl, yd- oedd rhoddi cynnyg iddynt ei bwrcasu am bris o lp 8s i 2p 8s yr acer. Yr oedd hyn- ny yn hollol anheg tuagat y cyhoedd. Yr hyn a ofynent ydoedd cael ymchwiliad er setlo'n derfynol y cwestiwn dan sylw, a chael cofnodiad o'r gwahanol diroedd a'r terfynau. Daeth yr adeg i ddod a'r ewes- tiwn i sylw'r Llywodraeth yn y fath foddl fel na allent ei anwybyddu, ac os y sior- hant y gwahanol Gynghorau Sirol i dalu ychwaneg o sylw i'r mater cawsant fwy o ddylanwad. Yr oedd y Goron yn berchen. ogion, ar ran y cyhoedd, o lawer o dir, alu dyledswydd ydoedd eu defnyddio. Clywid y Llywodraeth yn son am gynlluniau tai i weithwyr amaethyddol, ond eto ni adeil- adodd?y Llywodraeth yr un ty ar y tiroedd cyhoeddus yn Sir Gaernarfon. Yr oedd yn h .J.tOy ,I gwestiwn a gynhwysai lesiant Cymru'n gyffredinol. Aethai arian y pwrcasiad i ddwylaw'r Llywodraeth, ond ni wariant ddim ohonynt yng Nghymru, ond defnydd- ient hwy i wneud gwelliannau yn Llun- dain (cym.). Pasiwyd argymhelliad y pwyllgor.

YR ETHOLIADAU I

YR ETHOLIADAU. I Dydd Gwener, gorchymynodd Ty'r I Cyffredin i etholiadau gymeryd lie yn Nwyreinbarth Swydd Worcester (ar farwolaeth Mr J. Chamberlain). Ar y pryd nid oedd aelod o deulu y Cham- berlainiaid yn aelodau o'r Senedd am gyfnod o dros genhedlaeth. Cafodd Mr Austen Chamberlain ei ethol yn ddiwrthwynebiad i lanw sedd ei ddiweddar dad. Penderfynodd y Bhid Lafur beidio gwneud etholiad am y tro. ——— ———

CAU GLOFA I

CAU GLOFA. I DROS 200 YN DDIWAITH. I I Hysbyswyd yn swyddogol ddydd Mercher gan Gwmni Glofeydd Brym- bo y byddis y cau y Blast Pit ddiwedd v mis hwn. Dywedent mai'r rheswm ydoedd fod y lofa yn golled iddynt ers peth amser yn ddiweddar, yn rhanol oherwydd deddfau diweddar. Mewn canlyniad bydd dros 200 o lo- wyr allan o waith. ——— ————

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL I 1916

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL I 1916. Yng nghyfarfod Pwyllgor yr Eis- teddfod Genedlaethol ddydd Mercher, er ystyried y cwestiwn o gynhaliad yr Eisteddfod yn 1916, dywedodd yr Ysgrifennydd na fyddai unrhyw dref yn debygol o wrthwynebu Birken- head. Sicrhai yn bendant na fyddai i Gaernarfon na Chaergybi ei gwahodd. Felly dewiswyd Birkenhead heb un- rhyw wrthwynebiad.

HWTIO TYWYSOGES I

HWTIO TYWYSOGES. I Dydd Mercher yr oedd y Dywysog- es Frenhinol (chwaer y Brenin Sior V.) yn gosod carreg sylfaen Neuadd Drefol newydd Marylebone (Llun- l dain, a hwtiwyd hi gan y gweithwyr 1 glowyd allan gan yr adeiladwyr.

MARCHNADOEDD

MARCHNADOEDD. GWENITH. Lerpwl, Gorffennaf IO.Cododd futures gwenith i raddfa uchel, yn cau yn dawel; maize yn dawel ar gynriydd sylweddol ar y dydd. Gwenith spot yn gadarn, a di- gyfnewid i raddfa ddrutach. Blawd yn dawel; maize yn sefydlog, a digyfnewid o ddydd Mawrth. Awstralaidd, 7s 7c i 7s 72o; No. 2, winter caled, 7s Ie i 7s 2c; Manitoba, No. 1, 7a c i 7s 5Jc; No. 2, 7s 3c i 7s 3!e; Hurachee, gwyn detholedig, 7s 3c i 7s 31e; Rwsiaidd, 6s 8c i 7s; River Plate, 6s 10c i 7s Ie. I CIG. Llundain, Gorffennaf 10.—Biff: Ysgot- aidd, ochrau byrion, 5s i 5s 2c; eithafol, 58 4c; hirion, 4s 8c i 4s lOc; Seisnig, 4s 2c i 4s 5c; Gwyddelig, 4s 2o i 4s 4c; Argen- tine (chilled), chwarteri ol, 48 i 4s 4c; chwarteri blaen, 2s 3c i 2s 6c; New Zea- land, chwarteri ol, 3s i 3s Ie; chwarteri blaen ,2s 3c i 2s 4c; River Plate (rhew- edig), chwarteri ol, 3s; chwarteri blaen, 2s 3c i 2s 4c. Myton: Defaid Ysgotaidd, 5s 6c i 5s 10a; mamogiaid, 3s 6c i 3s 10c; defaid Seisnig, 4s 8c i 5s 8c; mamogiaid, 3s 4c i 3s 10c; defaid Is-Ellmynaidd, 4s 80 i 5s Ie; mamogiaid, 3s 4c i 3s 8c; New ZeaJand, 2s 7c i 3s; River Plate, 2s 5c i 2s 8c. Lamb: Seisnig, 5s 8c i 6s 8c; Is- Ellmynaidd, 5s 4c i 6s; New Zealand, 4s i 4s 4c. Veal: Seisnig ac Is-Ellmynaidd, 4s 4c i 5s 4ct Pore: Seisnig ac Is-Ellmyn- aidd, 3s 10c i 4s 2c yr wyth pwys. YMENYN. Cork, Gorffennaf 10. Firsts, 95s; seconds, 92s; goreu, 101s; ymenyn ffres, o 97s. ———— ————-

MESUR YMREOLAETH YN NHYR ARGLWYDW

MESUR YMREOLAETH YN NHY'R ARGLWYDW. DINISTRIO'R MESUR. Yr wythnos ddhveddaf, bu Mesur (Gwen iannol) Ymreolaeth dan ystyriaeth Ty'r Arghvyddi fel Pwyllgor, a daeth allan mewn cyflwr pur wahanol i'r hyn yr aeth i mewn,—mewn gwirionedd nid yw ond Mesur Ymreolaeth mewn enw yn unig. Cynnygiodd Arglwydd Selborne ddiddym- iad Adran 1 y Mesur, yr hwn ddarparai i, Siroedd yr Iwerddon bleidleisio ar y cwes- tiwn o fyned allan o Y mreolaeth am chwe mlynedd. Fel rheswm dros hynny, honai na fyddai i'r Mesur fel yr oedd wneud dim tuagat, osgoi rhyfel gartefol. Ni chafodd y cynnygiad ond gwrthwyn- ebiad llipa gan gefnogwyr y Llywodraeth, ac wedi dadl fer rhwng Arglwydd Crewe (yr arweinydd Rhyddfrydol) a'r cynnyg- ydd, diddymwyrl adran pwysicaf y Mesur gyda. 158 o bleidleisiau yn erbyn 36. Wedi hynny cafwyd trafodaeth ar gynnygiad gwelliant o eiddo Arglwydd McDonnell i ddarparu Hunan-lywodraeth i Ulster ei hunan,—"Ymreolaeth mewn Ymreolaeth," yr hwn oedd wedi gweithio'r oynllun allan yn ofalus. Danghosodd Arglwydd Crewe gydvmdeimlad mawr a'r cvnllun, a bu un- waith yn ei ffafr, meddai ef; ond erbyn hyn ofnai na dderbyniai Ulster y cynllun. Wedi i Arglwydd Salisbury hysbysu y gol- ygai'r cynllun y byddai Ulster er hynny dan veolaeth Dublin, collfamwyd y cynllun hwn. Cyn i'r Arglwvddi noswvlio .llwydd- asant i basio gwelliant arall o eiddo Ar- glwydd Lansdowne i adael allan Ulster yn gyfangwbl o'r Mesur, ac nid am dymor o chwe blynedct; a'r diwrnod canlynol aeth- ant ymlaen gyda'r gwaith o basio "gwell- iannau" i fan-adrannau'r Mesur. Dyfodol y Mesur. Dywedir fod cefnogwyr y Llywodraeth mewn ystad o bryder oherwydd y sefyllfa achoswyd gan anfoniad y Mesur Gwellian- nol i Dy'r Arglwyddi, a'i- cyfnewidiadau di- nistriol wnaed iddo gan Arglwydd Lans- downe a'i gyd-arglwyddi. Amhosibl, oher- wydd y Mesurau Arianol, yw trafod y Mesur yn Nhy'r Cyffredin am wythnosau lawer. Fodd bynnag, pan ddaw yr amser hwnnw, ni ellir delio o gwbl a, gwellian- nau'r Arglwyddi i'r Mesur hyd nes y pesir darlleniad cyntaf ag ail-ddarlleniad y Mesur gan y Llywodraeth. Bydd y Mesur yr adeg honno yn y ffurf y gadawa Dy'r Arglwyddi, a bydd y sefyllfa yn hynod o ddyryslyd. Yna pan aiff y Mesur i bwyIl- gor Ty'r Cyffredin bydd rhagolygon am ddadleuon hirfaith ar adeg y caiff y Llyw- odraeth anhawsteT dybryd i gadw ei chefp- ogwyr yn Llundain. Yn ddiameu, yr an- hawsterau ynglyn a'r gweithrediadau ay- fodol gyda'r Mesur Gwelliannol yw prif achos yr anhawster a gaiff y Cyfrin Gyngor o drefnu'r gweddill o raglen y tymor. Argraffwvd P chyhoeddwyd gan Gwrnni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace SVeet, Caernarfon. rt ♦>* ■"