Teitl Casgliad: Dinesydd Cymreig

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
15 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

THE HWELSII CITIZENPI i. thl OFFICIAL ORGAN of the NORTH WALES QUARRYMEN'S UNION. PRODUCED BY TRADES UNION LABOUR.

Advertising

uy i>INfcSY01> CYAUUBiO." ydyw yr ORGAN SWYDDOGOL a UKDEB CHWARELWYR GOGLEBI CYMRU. CYNYRCHWYO GYDA LLAFUIt UVWEBOL.

CYDNABOD GWASANAETH

CYDNABOD GWASANAETH. 1 Ynghanol y. berw a'r cythrwfl yr ydym ynddo fel teYTllas safwn yn y perygl mawr o anwybyddu y rhai sy'n cadw ynnom ysbryd hyderus a go- beithiol. Ni allwn feddwl gormod o'n morwyr a'n milwyr sydd yn cyflwyno eu hunain yn ddyddiol yn cbyrth drosom ar faes y gwaed. Iddynt hwy yr ymddiriedwn y gwaith o'n ham- ddiffyn an diogelu, ac y maent yn ei wneud gyda dewrder ac hunanaberth hawlia edmygedd a pharch pob Pry- deiniwr teilwng c'r enw. Er fod yr anagen am ychwaneg yn cael ei ddad- leu'n barhaus, credwn fod yr atebiad i'r alwad yn wirioneddol dda; yn wir, mae'n llawcr iawn gwell nag y tyb- iodd mwyafrif pobl ein gwlad y buas- id yn gwncud yn wirfoddol a dirwg- nach. Mae'r atebiad mor lwyr a chalonnog i'r Wys i'r Gad gan ddyn- ion a mcrched ieuainc ein gwlad yn wrthrych edmygedd pawb, ac yn peri iasau twymn o serch gwladgar tuag- atynt. Ond, yngwyneb hyn oil, mor oer yw serch y Llywodraeth, ac mor ddifeddwl ydynt o'u rhwymedigaeth foesol i gydnabod yn deilwng yr hyn wneir gan ein milwyr ar faes y gwaed. Qwaeddent am ychwaneg o filwyr, a dywedant mai po fwyaf o ddynion geir cyflymaf yn y byd y daw'r rhyfel i ben ac yr ydym yn credu yr un fath a hwynt. Mae'r dynion i'w cael, ac yn barod at eu gwasanaeth; ond, a yw'r Llywodraeth yn tybio y bydd i'r gri barhaus am ychwaneg o filwyr foddi y gri sy'n codi oddiwrth y mil- wyr a'r rhai sy'n dibynnu arnynt am gydnabyddiaeth deilyngach? Peid- ied y Llywodraeth a chamgymeryd, y mae'r wlad tu cefn i'r milwyr, ac yn teimlo'n angerddol drostynt, ac ni all yr un Llywodraeth fforddio i an- wybyddu y teimladau hyn. Pe buas- ai'r wlad yn brin yn ei hadnoddau darpariaethol gallesid cyd-ddwyn a'r polisi o gadw'n dynn ar y god gyll- idol; ond mewn gwlad mor gyfoethog a Phrydain Fawr y mae'r dull yr ym- ddygir tuagat y milwyr dewr ac ym- roddol yn anheilwng ac anheg. Heb- law hyn, y mae'r Llywodraeth yn rhwymedig drwy addewid i edrych i mewn i'r achos; ond yn lie mynd at y gwaith hwnnw y maent yn parhau i gadw i fyny y waedd am ychwaneg o filwyr er nnvyn ceisio cadw hawliau y milwyr a'r gwragedd a'r plant ddi- bynnant arnynt o'r neilltu. Ar hyn o bryd nid yw gweddw y milwr a leddir yn y frwydr, neu un a fyddo farw mewn canlynad i glwyfau dder- byniodd ar faes y gwaed yn derbyn dim ond pum swllt yn yr wythnos. A thrachefn, pan fo dyn wedi ei anallu- ogi drwy y niweidiau dderbyniodd yn y rhyfel nid oes ond y 5s wyth- nosol yn ei ddisgwyl wedi'r holl aberth a gwasanaeth dros ei wlad. Meddylier eto am y tal prin dderbynir tra yn brwydro, a'r gydnabyddiaeth anheilwng roddir yng nghyfran y teulu i'r gwragedd. Dywedir fod yna lawcr o filwyr wedi dychwelyd o faes y frwydr yn canfod eu cartrefi wedi eu dinistrio a'u chwalu gan na allai eu gwragedd oherwydd prinder yr ad- noddau at eu galwad eu cadw wrth eu gilydd. Mae'n ddyledswydd ar y Llywodraeth i edrych i mewn i'r am- gylchiadau yn llwyr a buan. Dylent fod 3-11, falch o'r dynion sy'n cyf- lwyno eu hunain a'u hamgylchiadau i'w gwasanaeth. Mae'r wlad ben- bwygilydd yn eu hedmygu a'u clod- fori; ond yn enw pob dynoliaeth dy- lent gad eu cydnabod yn deilyngach ac yn fwy anrhydeddus. Addawyd rhoi gwelliant; ond nid yw'r addewid yn cael ei chyflawni gyda'r llwyredd dyladwy. Pa reswni sydd dros fod rhoddi 12s 6c yn wythnosol i'r wraig yn golygu tynnu 3S 6c yn wythnosol o gyflog y milwr? Cynnwysa yr 2s 6c delir ar gyfer pob plentyn dynu 7 c oddiar y milwr. Drachefn, canfydd- wn fod y modd y delir gyda'r pen- siynau yn hollol anfoddhaol. Telir yn! awr i rai analluogir o swllt i fyny, i iianner coron yn y dydd, yn oi iei byddo'r clwyt. v-aiir gwraig weadw bum SWlltYll yr wythnos, a deunaw yr un am bob plentyn. Ai tybed ua wel Llywodraeth y wlad gytoetnocal yn y byd ffordd i gydnabod gwasan- aetn ei iiarwyr yn cieiiyngach na hyn? Pa wraig adevvir gyda tnyaid o biant, a'i chalon wedi ei dryllio'n ddwy yng ngholliant ei phriod, fedr frwydro yn erbyn anhawsterau bywyd gyda'r tath ddogn anigonol? Buasai yn or- mod gorchwyl i'r un Canghellor fcdru gwasgu amgylchiadau teulu i'r fath gyfyngder a chadw bywyd i fyny yn deilwng ac anrhydeddus. Faint ddy- lid ei roddi? Mae'n anodd pender- fjTiu'r swm; ond nid oes gormod hael- ioni yn bosibl yngwyneb yr aberth a'r wasanaeth wneir. Nid yw y bunt wythnosol argymhellir gan rai yn ddigonol. Hwyrach y gallai gwraig weddw ddiblant fyw yn weddol dda arlli; ond y mae magu teulu yn briod- ol yn y blynyddoedd hyn ar bunt yr wythnos tuhwnt hyd yn oed i allu mam. Paham na all y Llywodraeth ddelio gyda'u milwyr fel ag a wneir gyda gweithwyr yn gyffredinol dan Ddeddf Cyfrifoldeb Cyflogwyr. Pan ddigwydda damwain i weithiwr mae'r ddeddf yn ei amddiffyn ef a'r rhai sy'n dibynnu amo. Onid yw y milwr a'i deulu yn hawlio hyd yn oed well ac aamgenach ymdriniaeth na hwy? Pe gwneid hynny cawsai pob milwr a'r rhai ddibynnai amo eu talu yn ol cyf- artaledd eu cymhwyster blaenorol, a'r hyn oedd ei allu i ddod a chymorth teuluaidd i'r aelwyd. Yn wir, dylai fod yn fwy, oherwydd rhaid i'r aberth wneir gyfrif am rywbeth yn y ddar- pariaeth gyfrenir. Yr ydym yn synu at gyndynrwydd ac oerfelgarwch y Llywodraeth ynglyn a'r cwestiwn pwysig hwn. Mae'r wlad yn disgwyl iddynt ymddwyn yn deilwng ac yn barod i wneud popeth posibl er eu cefnogi i ofalu yn briodol am y mil- wyr a'u teuluoedd. Waeth heb galw am wTolder ac aberth dros y wlad, os nad yw'r wlad yn barod i aberthu dros y rhai gyflwynant eu hunain drosodd i'w gwasanaeth. Nid yw y cwestiwn o ddarpariaeth briodol yn un i'w adael i'r dyfodol, y mae'n rhy bwysig i'w ymddiriad i hynny. Os na cheir ef yn awr, welir mohono fyth. Bydd yn ddianrhydedd amom fcl gwlad os y gadawn ein bechgyn glewion a thwymgalon heb amddi- ffyniad priodol, oherwydd wedi'r cwbl ein diogelwch a'n cysur ni sy'n peri eu perygl a'u anghysur hwy. Mae'r Llywodraeth ar ei phrawf, a rhaid iddi ddod allan yn ddioed, neu fe'u gwarthruddir hi am byth ar ) ddalennau hanes. Nid oes raid iddi ond tynnu ar ei hadnoddau na ellir dod allan yn anrhydeddus; mae po- peth o'i thu ond cael calon ac ewyllys i wneud. Rhaid dal i gurro wrth y drws yn ddibaid nes y ceir ef wedi ei agor led y pen.

CROP GOTWM AMERICA I

———— CROP GOTWM AMERICA. I CEISIO DOD DROS YR ANHAWS- I TER. Ceir diddordeb anghvffredin ym myd cyllid a masnach yn y cynhad- leddau sy'n cymeryd lie cydrhwng Syr George Paish a Mr Basil Blackett, yn cynrychioli y Llywodraeth Bry- deiuig, a Dr Wilson, Mr McAdoo, aelodau o'r Federal Reserve Board, a bancwyr cynrychioliadol. Credir fod Syr George Paish wedi awgrymu plan trwy yr hwn y byddai i Loegr gydsynio i gymeryd rhan o'r hyn fo dros ben o grop cotwm yn dal am y ddyled sydd ar yr Unpl Daleith- iau i Loegr. Disgwylir datganiad pwysig ymhen ychydig ddyddiau, ac y mae ail-agoriad y Stock Exchange yn cael ei ystyricd fel canlyniad pos- ibl i'r cyniladleddau.

GOSTWNG RHENTI

GOSTWNG RHENTI. Mcwti atebiad i'r Cynghorydd Kcn- (LlafurwT) yng N ghyngclr Trcfol Glasgow, datganwyd mai y Sencdd yn unig allai drefnu i ostwng rhenti siopau lie yr oedd tenantiaid yn cael eu heffeithio gan y rhyfel, ar yr un llinellau ag a gymhwysid at denantiaid tiroedd.

IORIAU TAFARNDAI YN SIR GAERNARFON

I ORIAU TAFARNDAI YN SIR GAERNARFON. I "RHYFEL LWYRYMWRTH- ODOL." I Cynhaliwyd cyfarfod o Buyllgor Unedig Heddlu Caernarfon, ddydd lau, pryd yr adroddai'r Prif Gwn- stabl i oriau gwerthu diodydd medd- wol mewn tafamdai yng Nghaernar- fon, Pwllheli, Porthmadog, Bangor, Bethesda, a Llanfairfechan gael eu cwtogi o awr bob nos, mewn canlyn- iad i ddarpariaethau'r Ddeddf, ac yng Nghaernarfon cwtogwyd yr oriau ddwy awr yn y bore. Ni wnaed un- rhyw gamrau yng Nghonwy, ond gan y byddai i 2,500 o filwyr ddod i Lan- dudno, ar wahan i wcrsyll yng Nghonwy, byddai'r cwtogi yn debyg- ol o fod yn llymach nag mewn rhan- nau eraill. Llongyfarchodd Mr J. Jones Mor- ris y Prif Gwnstabl ar y defnydd wnaed o'r ddeddf, ond yr oedd y ddeddf yn anfoddhaol, oherwydd am y waith gyntaf yn hanes deddfwriaeth trwyddcdol, fe gyfyngid hawl a barn yr ynadon. Cydnabyddid yn gyff- redinol fod y rhyfel hon yn rhyfel lwyrymwrthodol; beth bynnag bydd- ai i'r Germaniaid am oesau i ddod ddymuno pe byddai wedi bod felly, gan yn ddiamheuol yr oedd -nan fwyaf o'r barbareiddiweh a dcianghor- wyd yn Belgium i'w briodoli i wirod- ydd. Yr oedd yn bryd iddynt symud yn y wlad i wella'r ddeddf honno fel ag i roddi hawl lwyr i'r ynadon i weithredu ynglyn ag oriau, &c. Bydd- ai yn fendith i'r wlad pe gallent gau'r tafamdai am gyfnod mwy nag yn bre- sennol. Yr oedd y ffaith i Rwsia bob amser gyfyngu gwerthiant gwirodydd i fod yn eiddo'r Llywodraeth, yn wers ddifrifol i Brydain. Meddent yn y sir ymddiriedaeth lwyr yn y Prif Gwn- stabl, ond gwell gan rai ohonynt fydd- ai rhoddi'r awdurdod i'r ynadon. Cynhygiodd y penderfyniad canlynol, -HFod y pwyllgor hwn, tra'n cymer- adwyo'n gryf amcanion Deddf Gwir- odydd, o'r farn y gellid cyrraedd yr amcanion yn fwy effeithiol pe rhoddid i awdurdod yr ynadon weinyddiad y ddeddf, yn ol gofynion pob ardal neilltuol, a hydera'r pwyllgor weled gwella'r ddeddf yn fuan. Cefuogodd Mr J. R. Pritchard. Merched yn Ymyfed. I Sylwodd Mr Maurice Jones nad meddwdod gormodol ddylai fod yr unig sail dros roddi'r ddeddf mewn gweitlfrediad. Codai drwg llawer dif- rifolach o'r ffaith fod gwragedd mil- wyr a morwyr yn defnyddio eu der- byniadau ariannol,—mewn rhai ach- osion yn ainrynt bunnoedd-yn y modd mwyaf gwastraffus. Sylwodd y Prif Gwnstabl na chy- merodd ond ychydig o gynnydd le yn nifer achosion o feddwdod. Gwyddai i'r awdurdodau a weinyddent gyn- orthwy i ddioddefwyr gwyno oher- wydd yr ymyfed difrifol ymhlith merched, ac nid oedd amheuaeth nad acthai hynny ar gynnydd. Hysbys- odd hynny i'r Swyddfa Gartrcfol fel rheswm dros gau'r tafarndai rhwng 6 ac 8 o'r gloch y bore, gan y gwneid mwy o niwcd ymysg merched yn ys- tod yr oriau hynny nag unrhyw ran afall o'r dydd. Pasiwyd y penderfyniad, a gorch- ymynwyd anfon copiau i'r Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Cartrefol, Canghellor y Trysorlys, a'r aelodau Sencddol lleol. .—————— ————— r

UNDEBAU LLAFUR AU CYMORTH

UNDEBAU LLAFUR A'U CYMORTH. Nid yw'r Undebau Llafur yn fodd- 1011 ar y driniaeth o berthynas i rodd- ion y Llywodraeth ynglyn a chronfa budd allan o waith. Nid yn unig ys- tyrir y cymorthdal yn annigonol, ond y mae'r amodau ynglyn a hwy yn cael eu hystyried yn rhai heb fod eu heisiau, ac yn ormesol gan amryw Undebau, y rhai sydd wedi pasio pen- derfyniad ar y mater.

I CYNGOR GWYRFAI

CYNGOR GWYRFAI. I MARW'R CLERC. Cynhaliwyd cyfarfod y Cyngor ddydd Sadwrn, dan lywyddiaeth Mr R. 0. Williams. Galwodd y Cadcirydd sylw at y golled fawr dderbyniodd ycyugor yni marwolaeth y Clerc, y diweddar Mr J. H. Thomas, yr hwn fu'n swyddog rhagorol ac ymroddol i'r Cyngor am flynyddau maith. Teimlent eu bod wedi colli Cristion cj'wir, arweinydd j da, a boneddwr caredig. I Sylwodd Mr W. Owen, fel un o ael- odau hynaf y Cyngor, i'r Clerc fod o werth amhrisiadwy i'r Cyngor yn ys- tod ei oes ac ni welodd ef Glerc mewn unrhyw gylch mor alluog a docth. Pan ffurfiwvd y Bwrdd gyn- taf, cynhwysid ef yn gyfangwbl o ffermwyr, y rhai oeddjoit yn llawer llai gwybodus na'r to presennol, a chafodd Mr Thomas gryn drafferth i egluro'r gweithrediadau, ond llwydd- odd i wncud gwaith y Cyngor yn llwyddiant. Cyfeiriodd Mr T. J. Lloyd, Llan- rug, yr hwn fu mewn cysylltiad a Mr Thomas am dros 20 mlynedd, ato fel trefnydd rhagorol, ac ni wyddai am neb oedd yn llythyrwr cystal ag ef; gallai dynnu cynllun o lythyr allan o'r mater mwyaf dyrus. Pasiwyd yn unfrydol bleidlais o gydymdeimlad a Dr Thomas (mab), y Misses Thomas, a Mr Howell Thomas (brawd). Syr Robin Duff. I Cynnygiodd y Cadeirydd bleidlais o I gydymdeimlad â I Lady Duff, Lady Assheton Smith, a'r Anrhyd. Ar- glwydd Vivian, ar farwolaetli Syr Robin Duff ar f y rhyfel. Dcuai, pe wedi byw, i gysylltiad agos ac un- iongj-rchol a'r dodbarth. Cefnogodd Mr Lloyd Williams, a phasiwyd. Olynydd i'r Clerc. I Rhoddwyd ystyriaeth i'r camran gynierid i lanw swydd y diweddar Glerc i'r Cyngor. Cynnygiodd Mr T. H. Griffith gan nad oedd brys, eu bod yn penodi pwyllgor bychan i dynu allan bob manylion ynglyn a'r swydd cyn hys- bysebu. Pasiwyd fod y pwyllgor i wneud y trefniadau erbyn y Sadwrn nesaf, pryd y trcfnid ynglyn a Chlerc y Gwarcheidwaid. Pcnodwyd y Mri Meiwyn Jones, T. H. Griffith, J. Lloyd Williams, R. G. Roberts, 0. Evans, ac R. 0. Jones. Pasiwyd fod Mr J. Roberts Wil- liams, yr Is-glerc, i arw vddo talebau, &c., i aros penodiad Clerc. Ysbyty i Filwyr. I Dcrbyniwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Lleol yn gofyn am fanylion ynglyn a gwelyau mewn ysbytai at wasanaeth achosion o "En- teric fever" allai ddigwydd ymysg milwyr, sef, Pa nifer o welyau allai'r Cyngor gynnyg, yn cynuwys medd- yg, gweinyddesau, &c., a pha faint fyddai pris dyddiol y Cyngor am bob gwely. Trosglwyddwyd y mater i Ysbyty Clanrafon. Ffordd Beryglus. I Darllcnwyd llythyr oddiwrth Mr Issard Davies yn galw sylw'r Cyngor at gyflwr peryglus y ffordd ger Gwes- ty Dinas Dinlle, yr hon a chwelid yn araf gan y mor. Awgrymai ef ei sy- mud yn ol gryn bellter, gan ei bod yn adcg amscrol i wneud hynny. Sylwodd Mr J. E. Williams fod yn rhaid rhoddi costau uchel, gan na ol- ygai gwaith bycban arni end costau parhaus. Sy 1 w-odd/I-Eames y galwai'r lie am welliant ovian, gan fod y mor yn prysur ddifa'r ffordd. Cynhygiai eu bod yn symud ymlaen, i arbed costau ychwanegol yn y dyfodol; neu ym- gynghoii a'r perchenogion. Golygai ef eu bod yn ei symud yn ddigon pell, fel na byddaf augen ei hail wella. Mr W. Owen: Ni ddylem ni fel trethdalwyr wario i ddiogelu eiddo tir- feddianwyr. Awgrymaf ein bod 5^1 cyfarfod y perchenogion i ddechreu; uid yw'n deg i ni wneud gwelliannau ar diroedd pobl eraill ar draul treth- I dalwyr. Sylwodd Mr David Thomas ei fod yn gyfie da i ddarparu gwaith ar gyfer nifer fawr o'r di-waith, a meddent hawl i ofyn am arian gan y Develop- ment Commissioners, gwaith y rhai ydoedd diogelu tir a ffyrdd. Cynnyg- I iai anfon atynt, a phasiwyd hynny. Cyflenwad Dwfr Penyffridd. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Lleol yn gofyn am syl- wadau'r Cyngor ar ddeiseb dderbyn- iasant oddiwrth 100 o drethdalwyr dosbarth Penyffridd, plwyf Llanwn- da, >11 gofyn i'r Bwrdd ddylanwadu ar Gyugor Gwyrfai i ddarparu cyfien- wad dwfr i'r dosbarth. Nid oedd un- rhyw ddarpariaeth i gyfienwi dwfr i'r ardal, ac yr oedd y cyflenwad preifat roddid i 20 o dai yn hollol afiach. Cyn- nyddai'r boblogeth yn barhaus, ac yr oedd digon o ffynnonellau dwfr ar y mynydd cyfagos. Dyfarnodd Cyngor Gwyrfai tua blwyddyn yn ol ei fod yn achos rhesymol, ond ni cymerasant unrhyw gamrau. Galwodd Mr J. E. Williams sylw at gydweithrediad addawyd gan y Pwyllgor Addysg ynglyn a cliyflenwi dwfr i'r ysgolion. Cawsant gyflen- wad preifiat i ysgol Rhosgadfan am is yn y flwyddyn, ac ni fyddent yn deb- ygol o wario swm mawr am gyflenwad arall. Ond yr oedd ysgol ac ardal Rhostryfan heb ddim, a dylcnt symud ymlaen yn ddioed. Gadawyd y mater am fis. Y Cigydd a'r Cyagor. I: Adroddai'r Arolygydd Mr D. Price I: iddo yng N gorffenllaf gymeryd ym- aith o ladd-dai yn y dosbarth swm o gig anghymwys fel ymborth. Ni chaf- odd y mater sylw dyladwy gan y Cyngor ar y pryd, ond erbyn hyn an- fonodd un cigj-dd fil o ip 135 i'r Cyng- or, am 72 pwys o gig, yn 01 51c y pwys. Tybiai'r Arolygydd mai ym- gais ydoedd hynny i atal y swyddog- ion gyflawni eu dyledswyddau, fel y bygythiai cigydd wneud pan yr ym- welodd ef a'r lladd-dy. Ond ni wnai hynny ond ci symbylu i edrych i mewn yn llwyrach i ansawdd ym- borth. Credai'r Arolygydd y dylas- ai'r drosedd gael ei gyflwyno i'r Ilys, gan i'r cigydd gael cyfle digonol i an- fon meddyg anifeiliaid i weled y cig cyn iddo ei ddinistrio. Cadwodd ef y cig am ddau ddiwmod i'r pervvyl hyn- ny. Sylwodd Mr T. H. Griffith y dylent ddangos i'r dynion yma na wnaethant eu gwaith yn briodol, ac y dylent uf- uddhau i'r swyddogion. Yr oedd yn bwysig i'r Cyngor gymeryd sylw o'r mater. Dywedodd Mr Price na fuasai wedi gwneud sylw pcllach o'r mater onibai am y bil anfonwyd. Pasiwyd, ar gynnygiad Mr David Thomas, eu bod yn galw sylw'r cy- hoedd fod y Cyngor bob amser yn barod i gefnogi en sv. yddogion. ————

MARW GWEINIDOG CYMREIG

MARW GWEINIDOG CYMREIG. Ddydd lau, yn Abertawe, bu farw y Parch W. Emlyn Jones, gweinidog eglwys Annibynol Tabernacl Tre- forris, yr hwn oedd yn un o weini- dogion mwyaf adnabj ddus a thalent- og yr Annibynnwyr. Ganwyd ef yn 1841, a bu am bedair blynedd yn bu- geilio yn Ceinewydd, ac yn 1869 pen- odwyd ef yn weinidog eglwys Liba- nus, Treforris. Gwnaetli Mr Jones waith effeithiol ynglyn a cherddor- iaeth gysegredig, a bU'l1 arweinydd poblogaidd mewn Cymanfaoedd.

GWELLIANNAU I BWLLHELI

GWELLIANNAU I BWLLHELI. Mewn cyfarfod arbcnnig o Gyngor Trefol Pwllheli, yr wythnos ddiwedd- af, penderfynwyd yn unfrydol ar gyn- Uun i adeiladu morglawdd a parade rhwng y South Beach a'r West End, ar draul heb fod dros 4,ooop. Eglur- odd y Clerc i Fwrdd y Ffyrdd addaw grant o i,8oop tuagat y cynllun. Add- awodd perchenogion yr eiddo ymgy- mcryd a gweddill y costau, ac ni ddeuai cyfraniad y Cyngor ond i 50P am ddeng mlynedd.

Advertising

¡ SHOP TRYFAN STRYf) Y LLYM eVRHESRWYDD iTTGMMF MAE GAN RICHARD WlUlilS GYFLAWNDER 0 RAINPROOFS ac OVERCOATS, CRYSATJ, SINGLETS, a THRONSUS. TRalb i neb ofnt oerni 12 (Baeaf, mae popetb i'w gael i gabw gwres n SHOP TRYFAN. Die Rhos. Caernarfon.

BWYDO PLANT YN SIR FON I

BWYDO PLANT YN SIR FON. I "BARA, YMENYN, A THE." I Ar awgrymiad Miss Davies, Tre- borth, darparodd Pwyllgor Addysg Sir Fon adroddiad o'r boll ysgolion ynglyn a nifer y plant a fwytaent eu ciniaw yn yr ysgolion, ac ynglyn a'r darpariaethau wneid yn yr ysgolion tuagat sychu dillad y plant ar dyw- ydd gwlyb. Sylwodd Miss Davies fod 545 o'r plant yn cerdded dros fill- tir a hanner i'r ysgolion, a 345 dros ddwy filltir. Mewn llawcr o'r ysgol- ion ni allai'r plant gynhesu bwyd na I diod, hyd yn oed wrth dan yr ysgol, oherwydd bychander y lie. Mewn llawcr lie yr unig ffordd o sychu dillad gwlybion ydoedd eu crogi o fiaen y tan yn ystafellocdd yr ysgol, yr hyn oedd yn nodedig o afiaeh, ac mewn achosion eraill cymerai'r ysgol- feistriaid y dillad gvvlybion i'w tai eu hunain i'w sychu. Anfonid plant j oeddynt wedi gwlychu'n drwm yn eu holau gartref, ac felly golygai diffyg lie i sychiir dillad golled i'r pwyll- gor. Deuai awgrymiadau o nifer o ysgolion, y dylid rhoddi "stoves" yn y "cloakrooms." Dywedid fod y ciniaw ymron yn ddieithriad yn golygu dim ond bara ac ymenyn, gyda the yn ddiod. Dar- perid potes neu "cocoa" mewn rhai ysgolion yn ol ceiniog y pen, ac mewn dwy ysgol eyflen-A-id cinio am bris isel Y11 ystod tymor y gaeaf. Ffurfiwyd pwyllgor i wneud argym- hellion i gyfarfod y ffeithiau a ddad- lenwyd yn yr adroddiad.

PRYSURDEB CHWARELI CALCHFAEN

PRYSURDEB CHWARELI CALCHFAEN. Ymddengys fod diwydiant calch- faen yn Sir Ddinbych yn nodedig o brysur y dyddiau presennol, ac yinron yn yr oil o'r gweithfeydd gweithia'r dynion amser llawn. Apeliodd Cwm- ni Chwarel Llandudno i Fwrdd Mas- nach am ganiatad i wneud gwellian- nau yn y chwarel.

YMDDISWYDDIAD YMGEISYD0 RHYDliFKYDOL

YMDDISWYDDIAD YMGEISYD0 RHYDliFKYDOL. EI ECLURHAD. Yr wythnos ddiweddaf anfonodd Mr Caradog Rees, bargyfreithiwr, yr hwii oedd yr 3Tngeisydd Rhyddfrydol dros Fwrdeisdrefi Dmbych, ei ymddi- s\\yddiad i'r Cyngor Rhyddfrydol. Yn yr etholiad ddiweddaf, cofir i Mr Ormsbj: Gore ddod yn ilwyddiannus yn ei crbyn gyda mwyafrif bychan, a bwriadai Mr Rees ymgeisio yn yr etholiad nesaf. Anfonodd lythyr yn egluro ei ym- swyddiad i'r Cyngor, a rhoddodd an- erchiad yn yr hon y sylwodd i'r rhy- fel gyfnewid ei fwriad i ymladd yr ctholiad ddyfodol. Daeth i'r pender- fyniad yr effeithiai'r sefyllfa ar ei berthynas a'r etholaeth; teimlai ef tnr. byddai ei wrthwynebydd yn aelod o'r fyddin ac yn analluog i fod yn yr eth- lolaeth, byddai'n hollol annheg iddo ef (Mr Rees) wneud unrhyw waith gwlcidydtioI yn y BwTdeisdrefi yn ystod y rhyfcl. Credai ef y bwriedid parhau Llywodraeth bresennol dros dymor y rhyfel, a hynny ydoedd y cynllun goreu. Mor bell ag yr aeth- ai ef, os y digwyddai gwagle yn yr etholacth, fe aethai'r cynrychiolydd Ceidwadol i mewn yn ddiwrthwyneb- iad, gan na ddymunai ef unrhyw ang- hydfod pleidiau yn ystod y rhyfel. Diolchodd y Cyngor i Mr Rees am ei wasanaeth, ac yn argymell i'r Gym- deithas beidio cyn-leryd unrhsrw gam- ran ar hyn o bryd i benodi ymgeisydd, 1 gyda'r gobaith y byddai Mr Rees pan I ddeuai galw yn barod i ymladd y I sedd.

I I CYMDEITHASAU LLAFUR GLASGOW

I I CYMDEITHASAU LLAFUR GLASGOW. Mae Cymdeithasau Llafur Glas- gow wedi penderfynu peidio g-Amoud dim a changen leol Cymdcithas Teulu y Iorwyr hyd nes y caiff y dosbarth gweithiol fwy o ystyriaeth gan y, Gymdeithas.