Teitl Casgliad: Dinesydd Cymreig

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

THIB WELSH CITIZEN" is tht 0FFICIAL ORGAN of the KORTH WALES QUARRYMEN'S UNION. PRODUCED BY TRADES UNION LABOUR.

Advertising

##Y DINESYBD CYMRiBMi." ydyw yr CHGAN SWYDDOGOL A UKEE8 CHWARELWYR GOGLEBI CY1RU. CVVY HCMWYU QYOA LLAFUa uivoCBOL..

I DIRWEST i I

DIRWEST. i I Gan fod y Sul nesaf yn Sul Dirwest ol priodol fyddai galw sylw at y ddiod feddwol a'i heffeithiau niweidiol ar ein gwlad a'n teyrnas. Da gennym fod llwyryniwrthodiad wedi dod yn bwnc mor losgol yn y dyddiau hyn, ac fod pobl oreu pob gwlad yn teimlo cymaint o ddiddordeb yn achos sobr- wydd. Mae wedi bod yn destun syn- dod i lawer sut y bu'r wlad mor hir yn dod i deimlo yn ddigon byw ac aiddgar ymhlaid dirwest, pan yn gweled y fath alanastra a dinistr gyn- yrchir yn feunyddiol drwy y fasnach feddwol. Nid ydym heb fod yn teimlo, ac yn gweled o ran hynny, fod yna waith mawr yn cael ei wneud gan wahandl gymdeithasau o du sobrwydd; ond nid yw y filfed ran i'r hyn ddylni fod. Teimlwn fod eg- lwys Crist a'r Senedd yn rhy glaiar ac amhenodol pan yn ymwneud ag achos dirwest, ac i raddau mawr y mac achos y claiarineb a'r amhen- dantrwydd yn y ffaith fod y fasnach feddwol yn dod ag elw sylweddol i eglwys Crist a'r wladwriaeth. Mae gwelediad y naill a'r llall yn rhy gyf- yng, a llygaid eu cydwybodau wedi eu llenwi gyda llwch yr aur fel na allant weled y golled anaele y mae'r eglwys a'r wladwriaeth yn ei gael drwy noddi yn y modd leiaf y fasnach felldigedig hon. Ofnir gweinyddu yn llym, a chaethiwo yn dynn, rhag i'r golled ariannol beri arafwch ym mheiriannau yr eglwys a'r wladwr- iaeth heb ystyried y golled a'r dif- rod wneir ar aelwydydd, encidiau, a chyrff y genedl. Dylai yr Eglwys a'r Wladwriaeth gofio .mai dynion ac en- eidiau ydyw gwir olud y byd. Pe gellid argyhoeddi y ddau allu mawr yma sy'n ein gwlad fod sicrhau I llwyddiant uwchaf a phennaf dyn I drwy symud anhawsterau ei dyfiant a'i effeithiolrwydd corfforol ac ys- brydol yn golygu sicrwydd pendant i weithrediad cyson eu peirianwaith hwyrach y gellid eu cael i fod yn fwy egniol i roddi atalfa ar rwysg a dvlanwad y fasnach feddwol. Credwn mai dyma ydyw gwaith mawr caredig- ion driwest heddyw, ac y dylid trethu pob migwrn a chymal i ddod a'r argy- hoeddiad yma i bwyso'n drwm ar gyd- wybodau arweinwyr yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Dylai y ptvlpud, yr hwn sy'n parhau yn gymaint o ddy- lanwad yn ein gwlad, fod yn fwy pen- dant a chroew ar y mater; ac y mae'r Sul Dirwestol yn gyfle arbennig i gario y genadwri adref. Gyda gofid i lawer sy'n caru'r achos y gadewir i'r Sul fYlld heibio heb i amryw o bre- gethwyr pwlpud Cymru wneud sylw arno ac ami i bregeth ddirwestol dra- ddodir ag y mae'll rhaid wrth chwydd- wydr eithriadol gryf i ddarganfod hyd yn oed yr egwyddor ddirwestol yn- ddi. Ai tybed nad yw drygedd meddwdod, a'r effeithiau torcalonus ddaw i mewn i fywyd teuluaidd a chenedlaethol ein gwlad drwyddo, ddim yn ddigon o reswm dros i gennad Crist fod yn eofn a didderbynwyneb i brotestio yn ei erbyn, ac i argymell pawb i lvvyrymwrthod a'r ddiod? Mae'r pwlpud all anwybyddu hawliau plant bach troednoeth a charpiog, ie, hanner newynog ein gwlad, drwy beidio codi ei lef yn erbyn y fasnach sy'n rlioi cyfleusterau i'w tadau a'u mamau wario eu dillad a'u bwyd ar felus chwant, yn euog o'r trosedd mwyaf anfad. Ni fu erioed adeg ag y mae'r wlad yn hawlio mwy o deyrn- garwch i achos sobrwydd na.heddyw. Cyfle arall geir yn yr Ysgol Sul. Caiff yr athraw a'r athrawes fantais neilltuol ar y Sul Dirwestol i ddod a'r mater i sylw y plant, ac nid anfuddiol fycTdai treulio y rhan gyntaf o'r Ysgol y Sul nesaf i wasgu y genadwri adrcf i'r rhai fyddo o dan eu gofal; a chy- meryd y rhau olaf i'w hannerch yn (gyffredinol. Alae gan yr Eglwys ei gwaith, a dylai ar bob cyfrif gymeryd mantais ar y cyfleusterau osodir yn ei chyrraedd. Credwn hefyd fod yna waith arbennig i'r cyfeiriad yma gan y Wladwriaeth, oblegid fod ganddi allu lly wodraethol allai wneud gwerthiant y ddiod feddwol fel diod cyffredin yn amhosibl. Ond y mae'n amheus gennym a geir y Llywodracth fytli i gymeryd camrau o'r fath heb i'r Eglwys Gristionogol eu gwasgu i wneud lynny. A all yr Eglwys ei wneud? Gall yn ddios. Pe byddai Eglwys Crist ym Mhrydain Fawr heddyw gydag unftydedd trylwyr Y11 rhoi ei hwyneb fel callestr yn erbyn y fasnach feddwol, ac yn dweyd gydag un llais mawr cyffredinol fod yn rhaid i'r Llywodraeth roi pen ar werthiant y ddiod feddwol, nid oes ddadl na cheid pen y cawr dan draed yn ddioed. Mae'r Eglwysi y gallu cryfaf ym Mhiydain, ac ond iddi fod yn unol, nid oes a all ei gwrthsefyll. Son am ryfel gyfiawn yn wir, dyma ryfel y gall hglwys Crist fentro myned iddi yilg ngrym cytiawnder, oblegid rhyfel i ladd er mwyn bywyd yw. Ceir yr eglwysi yn un yn yr ymgais i gael dynion ieuainc i ymrestru ym Myddin Prydain. Mae'r Egiwyswyr a'r Ang- hydffurfwyr yn un ar lwyfannau'n gwlad gyda'r symudiad hwn. Fe ddy- lent fod yn unol ym Myddin Dirwest yn denu dynion allan o fagl y diafol i restru ym Myddin Crist a Sobrwydd. Dylai yr Eglwys fod yn rym anorch- fygol i gael y Wladwriaeth yn fwy pendant yng nghaethiwo gwerthiant y ddiod feddwol. Calonnogol iawn yd- yw gweled y symudiad mawr sydd yn Rwsia, o bob man ar y ddaiar. Mae'r neges anfonwyd gan y Tsar at Gym- deithas Ddirwestol Rwsia yn datgan "ei fwriad i wahardd am byth werth- iant gwirodydd gan y Llydodraeth," yn ddigon i beri gwrid i arweinwyr Prydain. Yr oedd gwerthiant diod- vdd yn nwylo'r Llywodraeth yno, ac amcangyfrifir y byddai yr arian ddeuai i'r gyllid y flwyddyn hon drwyddo yn cyrraedd y swm aruthrol o 95,ooo,ooop. Fe welir fod y Rwsiaid yn fwy o gaethweision i'r "vodka" na hyd yn oed y prydeinwyr i'w cwrw a'u gwirodydd; ond y mae'r Tsar a'r Ivlywodraeth wedi canfod fod y ddiod yn gwneud mwy o niwed i'r wlad fel ag y maent yn aberthu cyllid o 95 miliwn o bunnau yn flynyddol. Dylai gwaith y Tsar arwain Prydain i feddwl a gweithredu i'r un cyfeiriad. Mae lleisiau dynion fel Archesgob Caergaint, Dr Davidson, ac Arglwydd Kitchener yn haeddu cael lie dwfn yn ein calonnau, oherwydd teimlant fod y ddiod yn difetha ac yn cancro pob peth da ym mywyd dyn a chenedl. Goreu po gyntaf er llwyddiant uwchaf y deyrnas, iddi gael ymwared llwyr a'r fasnach, oblegid v mae yn un o'r galluoedd cryfaf sy'n milwrio yn er- byn cynnydd gwareiddiad a moes. Rhaid i bawb sy'n caru llwyddiant Prydain fod a'i wyncb yn gryf- yn ei herbyn, ac i annog a pherswadio dyn- ion i gad\v yn glir oddiwrth y ddiod.

No title

Prawi y "Tuberculin." Y "tuberculin" yw yr arbrawf wneir ar anifeiliaid er canfod a oes ol- ion y darfodedigaeth ynddynt. Os pesir yr arbfawf hwn ystyrir yr anifail yn iach. Ondynolyr "Yorkshire Post," mae lie i ofni nad yw y prawf yn un an- ffaeledig. Yr oedd gan y Parch C. H. Brocklebank, Bartlow, darw byrgom o'r enw "Lord of the Ware." Yn ei arwerthiant ym mis Mehefin diweddaf gwerthwyd y tarw hwn am 120 gini. Pedwar niwmod wedi'r arwerthiant gwnaed arbrawf amo gan Mr J. Runciman, M.R.C.V.S. a dywedodd ef fod y tarw yn dioddef oddiwrth y darfodedigaeth Modd lymiag, yr oedd Mr Brocklebank yn argy- hoeddedig fod y tarw yn iach, a cheis- iodd gan Mr J. B. Manuel ei arbrofi. Gwnaed hyn, gan ddefnyddio arbrof- ion y llygad a'r "hyperdermic," a methodd y tarw a phasio yr arbrawf. Ond eto, nid oedd Mr Brocklebank yn fodlon. Rhoddodd orchymyn i'r tarw gael ei ladd, a gwnaed arbrawf mewn- ol llwyr arno gan Mr Sidney Smith, M.R.C.V.S., Lowestoft, yr hwn a ys- grifena, "Bydd yn dda gennych ddeall fod yr arbrawf ar y tarw yn hollol foddhaol, hynny yw, yr oedd yr holl organau yn iach, ac ni chafwyd olion dim tebyg i ddarfodedigaeth arno." Ychydig flynyddau yn ol, methodd tarw o fri a phasio arbrawf "tuber- culin," ond pan laddwyd yr anifail cafwyd ei fod yn glir oddiwrth ddar- fodedigaeth." ———— ————

LLOFRUDDIO TRIGOLION I

LLOFRUDDIO TRIGOLION? I Ymddengys nad yw'r Germaniaid am geisio gwadu y cyhuddedidau ddygir yn eu herbyn o lofruddio trig- olion diniwed, ond yn hytrach gy- huddo milwyr y Cyngreirwyr o gyff- clyb weithredoedd. Dywedai'r new- yddiadur Germanaidd "Kolaische Zcitung" wrth drafod cyhuddiadau 1 yn erbyn milwyr Germani:—"A yw'n ddyngarol i glwyfedigion y gelyn saethu milwyr Germanaidd ddeuant i rwymo eu clwyfau, neu i'r Ffrancwyr gludo ymaith o dref Laal wragedd a phlant s\vyddogion Germanaidd, ac ysbeilio'r dref. Ni ddarllenasom yn y chwedlau celwyddog gyda'r rhai y ceisia'r Cyngreirwyr cin gVvarad- wyddo gerbron y byd, yr un gair o son am yr anfadwaith hwn."

TRYCHINEB SENGHENYDD

TRYCHINEB SENGHENYDD. Mae Swyddfa Cartref wedi gwneud apel yn erbyn dcdfryd yr ynadon yn taflu allan dwy wys yn erbyn rheolwr a'r cwmni yn coddi odfliar y drychin- eb ddiweddaf.

No title

Mae awdurdodau addysg yr Almaen mewn anhawster i gario allan eu plan- iau addysgol gan y; ffaith fod tua 40,000 o athrawon y wlad yn ymladd yn y ffrynt.

I MARW MARCHOG CYMREIG

MARW MARCHOG CYMREIG. DIWEDD SYR T. MARCHANT WILLIAMS. UN 0 WYR MAWR CYMRU. Yn Llandrindod, ddydd Mawrtb, Hydref 27, bu farw Syr '1'. Marchant Williams, ynad cyflogedig Merthyr Tydfil ac Abcrdar, yn 69 miwydd oed. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1845, a dygwyd ef i fyny yn Aberdar. Add- ysgwyd ef yn Ysgol y Pare yno, lie y bu yn gwasanaethu fel athraw. Oddi- yno aeth i'r Coleg Normalaidd ym Mangor. Wedi dwy flynedd yno ap- wyntiwyd ef i ofal yr Ysgol Brydeinig yn Amlwch. Gadawodd Amlwch i gymeryd gofal Ysgol Brydeinig Garth, Bangor. Wedi ychydig flyn- yddoedd apwyntiwyd ef yn athraw yn y Coleg Normalaidd ond ymhen ych- ydig symudodd i Goleg Aberystwyth fel efrydydd. Yno yn y flwyddyn 1874 y cymerodd y radd o B.A. (Llun- dain), gydag anrhydedd ac apwynt- iwyd ef Yl1 fuan wedi hyn yn arholydd dan Fwrdd Ysgol Llundain safle a ddaliodd am gryn nifer o flynyddoedd. Yn y cyfamser cyfaddasodd ei hun yn fargyfreithiwr, ac apwyntiwyd ef yn ynad cyflogedig i Merthyr ac Aberdar. Apwyntiwyd ef yn Ddirprwywr Cynnorthwyol Elusenau Sir Gaer- fyrddin a Sir Drefaldwyn. Bu am ddeng mlynedd yn gadeirydd Cyngor Cenedlaethol Dirwest. Yr oedd yn aelod o Lys Prifysgol Cymru, ac 3-11 aelod o fwrdd llywodraethol Coleg y Brif Ysgol Gogledd Cymru. Yr oedd yn ynad heddwch dros Sir Faesyfed a Sir Forgannwg, ac yn aelod o Gyng- horau yr Amgueddfa a'r Llyfrgell | Gcncdlaethol. I Uwchben pob peth gellir dweyd fod | Marchant yn Gymro twymgalon, ac I yn eisteddfodwr aiddgar. Yr ocdd yn fardd a llenor gwych, ac ysgrifenodd lawer o ysgrifau, a chyhoeddodd am- ryw lyfrau yn ei ddydd. Cafodd am- ryw frwydrau 11 ym yn ystod ei oes ar lwyfan a lien, yng nghyhoedd ac. mewn pwyllgorau. Yr oedd yn ddyn o argyhoeddiadau dwfn, ac nid oedd dim a'i lluddiai i'w datgan. Nodwedd amlycaf ei gymeriad ydoedd angerdd- olrwydd a phenderfynolrwydd. Mag- odd drwyddynt lawer o etynion, ond sicrhaodd gyfeillion pur yr un modd. Bydd ei fanv yn golled genedlaethol.

CYNGOR GWYRFAI1

CYNGOR GWYRFAI. -1 ANGEN YSBYTY NEILLTUEDIG I Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r Cyngor fore Sadwm, dan lywyddiaeth Mr R. 0. Williams, pryd y gwnaeth Dr Parry Edwards (Swyddog Medd- ygol y Sir) gais i'r Cyngor ymuno a'r Cyngor Sir a'r Cynghorau lleol eraill i ystyried y cwestiwn o sicrhau ysbyt- ty neilltuedig i Sir Gaernarfon. Syl- fodd fod angen ysbyty i bum dosbarth yn neheudir y sir. Nid oedd ysbyty vn Nosbarth Gwyrfai, ac awgrymai ef y priodoldeb i'r dosbarth ymuno i gael dwy ysbyty neilltuedig, neu wneud yr oil yn un rhanbarth gydag un ysbyty ganolog ger Pwllheli neu Fourcrosses. I Cyfeiriodd at gylchlythyr gylioedd- wyd gan Fwrdd Llywodraeth Lleol yn galw sylw at y perygl o doriad allan y frech wen, a'r angen o ddarparu ysby- ty arbennig. Plediai ef y priodoldeb o gael un rhanbarth ysbytol, gyda dwy ysbyty, ac un ar gyfer y frech wen. Pe llenwid un ysbyty, gellid symud y cleifion i'r ysbyty arall, yr hyn fydd- ai'n orchwyl hawdd gyda'r "ambu- lances" modurol presennol. Fe gostiai ysbyty newydd yn neheu- dir Arfon o 5,ooop i 6,ooop. Costiodd ysbyty Caernarfon 2,200p, ac ysbyty Glanrafon tua 3,ooop. Foe atebai ys- byty Glan'rafon yr holl angenrheidiau fel ysbyty'r frech wen, ac yr oeddynt yn barod i'w chymeryd drosodd ar brisiant teg. Golygai'r holl gynllun tua ic neu Itc o dreth. Golygai fuddiant mawr i'r sir. Gwyddai am blant ddioddefent dan "diphtheria," ac a aejhant i'r ysgol- ion, pryd v gallent eu cymeryd i'r ys- byty. Bu 8 o blant fanv yn Llangybi, pryd y gallai cfarpariaeth ysbyty arbed eu bywvdau. Yr oedd vn hollol an- obeithiol iddynt hcb ysbyty rwystro ymlcdiad afiechydon heintus. Wedi ymdrafodaeth, pasiwyd fod y Cyngor Y11 barod i syrthio i mewn a'r cvnllun ar yr ainod fod y Cyngor Sir yn barod i gymeryd Y sbyty Glanrafon ar ei phrisiant presennol. ——— 8.

I DIM PWYSIGRWYDD

I DIM PWYSIGRWYDD! Wele newydd am y rhyfel ym- ddangosodd mewn newyddiadur yn Philadelphia yr wythnos ddiweddaf "Nid oedd dim o bwysigrwydd yn y datganiad swyddogol o faes y rhyfel heddyw, heblaw fod ychydig filoedd o ferched a phlant wedi eu gwneud yn weddwon ac amddifaid. Dyna'r oil.

GWARCHEIDWAID CAERNARFON I I

GWARCHEIDWAID CAERNARFON. I j DEWIS COFRESTRYDD. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r Bwrdd uchod ddydd Sadwrn, i'r am- can o'ddewis Cofrestrydd Arolygol i'r Undeb, fel olynydd i'r diweddar Mr J. H. Thomas. Cydymdeimlad. Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau ar farwolaeth y Cler, a'f wsanaeth iIr Gwarcheidwaid fel clerc. Ac ar gyn- hygiad Mr Charl< £ Jones, a chefnog- iad Mr T. J. Lloyd, pasiwyd pleidlais I. o gydymdeimlad a'r teulu. 4. 1- Y Penodiad. Daeth jrhybudd ffurfiol oddiwrth y Cofrestrydd Cj-ffredinol, yn galw ar y Gwarcheidwad i benodi Cofrestrydd o fewn 14fkniwmod wedi i'r gwagle gy- meryd lie, neu tynnid yr hawl o ben- nodi oddiarnynt i'r Cofrestrydd Cyff- redinol. Gwnaeth yr Is-Gofrestiydd (Mr J. Roberts Williams) ddyled- SY\yddau'r swydd i aros penodiad par- haol. Sylwodd yr Is-Gofrestrydd mai'r G warcheidwaid fyddent gyfrifol am gadwraeth y swyddfa allan o'r trethi, ac yn niffyg hynny gwnai'r Cofrestr- ydd Cvffredinol y gwaith, gan hawl- io'r costau oddiar y BWTdd. Nid oedd cyflog yn perthyir i'r swydd, oddi- gerth taliadau oddiwrth y cyhoedd, ond byddai'r hwn benodidmewnfla i flwydd-dal fel swyddogion eraill y bwrdd pan gyrhaeddai 65 oed. Sylwodd y Cadeirydd na anfonwyd ond un cais am y swydd, sef Mr J. Roberts Williams, yr hwn fu yn Is- gofrcstrydd am flynyddau, a'r hwn oedd yn hollol gymwys i'r swydd. Cynhygiodd y Cadeirydd ei benodi, a chefnogodd Mr Henry Parry, Caer- narfon. Sylwodd Mr C. A. Jones wrth ategu y gobeithiai y rhennid y gwahanol swyddi cysylltiedig, ac nid rhoddi monopoli o'r penodiadau i un per- son. Yr oedd nifer fawr o ddynion proffeswrol yn y dref heb feddu'r un swydd, ac yr oedd yn hen bryd iddynt wneud ymaith a' monopoli swydd- ogol (clywch, clyjgch). Penodwyd Mr Williams i'r swydd r yn unfrydol, a diolchodd yntau i'r Bwrdd. Clerc i'r Gwarcheidwaid. I Caed trafodaeth ar y camrau i'w cy- meryd i benodi Clerc i'r Gwarcheid- waid. Eglurwyd fod cyflog y swydd yn flaeuorol yn i6op fel Clerc y Gwar- cheidwaid, 40P fel clerc Pwyllgor Ar- drethol; 20p fel clerc Pwyllgor Byrdd- io allan a 5p tuagat dreuliau'r swydd- fa. Penderfvnwyd fod y mater i'w drafod gan y Bwrdd. Cymygiodd Mr Charles A. Jones fod hysbysiad i'w roddi yn y newydd- iadtiron lleol am Glerc i'r Bwrdd. Yr oedd yr ymgeiswyr i fod yn gyfreith- wyr proffeswrol, am y rheswm y tal- ent yn flaenorol yn ychwanegol i gyf- reithiwr, ac yr arbedai penodiad cyf- reithiwr arian y trethdalwyr. Y cyf- log i fod yn 2 bop yn cynnwys yr holl ddylcdswyddau, ac i roddi gwasan- aeth gyfreithol yn rhad, ynghyda gof- alu am swyddogion. Cefnogodd Mr R. James Jones, gyda'r ychwanegiad fod Cymraeg yn anhebgorol. Cynhygiodd Mr J. Jones nad oedd- ynt i rwymo'r vmgeiswyr i fod yn gyfreithwyr, a chefnogodd Mr J. E. Williams, a phleidleisiodd mwyafrif dros y gwelliant. Cynhygiodd Mr R. Foulkes Ro- berts fod y cyflog yngw^Tieb amgvlch- iadau presennol y wlad, i fod yn 150P yn cynnwys yr holl ddyledswyddau, ac nad oedd oed yr ymgeiswyr i fod dros 40. Sylwodd Mr C. A. Jones, yngwyn- eb y penderfyniad nad oedd y clerc i fod yn gyfreithiwr, ei fod yn foddlon i'r cyflog fqd.,yn T75p; a chyfnewid- iodd Mr R. Foulkes Roberts ei gyn- hygiad i gyflog o 1600. Caed mwvafrif o dri dros liSP, y rhai a renid fel y canlyn 12op fel Clerc y Bwrdd, 40P fel Clerc Pwyll- gor Ardrethol, 15P fel Clerc Pwyll- gor Byrddio Allan. Pasiwyd hefvd nad oeddynt i gvfv-nsru'r oed, ac fod y sw.vddi i fod yngofal tin person. ————

IYSTAD Y FAENOL

YSTAD Y FAENOL. Gadawodd y diweddar Syr Charles Assheton Smith eiddo gwerth 170,29IP ar ei ol. Gadawodd cynnyreh arwerthiant ei geffylau, ond Jerry M., a'i bleserlong, cwpanau rhedeg, model ei bleserlong, rhai darluniau a dodrefn, hanner y gwinoedd* ac 20,OOOp i'w wraig, gan ddweyd ei f;t.d wedi darparu ymhell- ach ar ar ei ýfer mewn gweithred briodasol. Gadawodd hanner arall y gwinoedd, ei yliau, moduron, Chwarel Dinorwic, &c.. i'w fab. Syr Robert John Vivian Duff, ynghyda gweddill o'i eiddo. Fel yr hysbyswyd eisoes, mae y mab wed ei ladd yn y rhyfel, a gad- awa YTItan weddw (merch larll Lons- dale) a dau o blant-mab a merch. I

I PWYLLGOR ANGEN SIR I GAERNARFON

PWYLLGOR ANGEN SIR I GAERNARFON. RHANNU R CYMORTH. ¡ PWY SYDD WEDI CYFRANNU? I Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Angen y Sir ddydd Sadwm, dan lyw- I 37ddiaeth Air T. \V. Griffith (cadeir- ydd) I Dosbarthu Cardiau. Rhoddodd y Clerc adroddiad yr is- bwyllgor ynglyn a'r uchod. Derbyn- iwyd cannoedd o'r cardiau, a phas- iwyd fod cardiau cymorth i'w hanfon bob mis (5 wythnos), os na nodid yn wahanol, ac fod pob achos i'w ail ys- tyried y Sadwrn olaf ymhob mis. Rhoddid y cymorth yn wythnosol ymlaenllaw, a chyflenwid y cardiau yn y dyfodol gan ysgrifenydd y pwyllgor lleol. Ni ystyrid yr un achos heb ei gymeradwyo gan y pwyllgor lleol, ac heb lanw'r cerdyn yn briodol. Rhannu'r Arian. CyfiWYllodd y pwyllgor eu hargym- hellion ynglyn a rhannu'r "Emer- gency Grant" o 2Cop a dderbyniwyd. Yr oedd cyfanswm wythnosol yr arian a delid i'r gwahanol ddosbarthiadau fel y canlyn :—Criccieth, 18s yr wyth- nos; Ogwen, 5s; Gwyrfai a Llanberis, 4s; Llandwrog, 6p 16s; Llanllyfni, 2p 7s; Llanwnda, 4p 8s; Nantlle, 4s 6c; a WaenfawT, 8s yr wythnos. Deuai yn gy fan swm o 15P 7s 6c yr wyth- nos. Gohiriwyd yr holl achosion o Bwllheli vngwyneb cynllun bwriaded- ig yn y dref a ddarparai waith i nifer o'r bobl. Dymunai'r pwyllgor alw sylw at y ffaith fod amryw o'r ymgeiswyr am gymorth yn ddynion abl i weithio, ac heb ddibynyddion, ac ystyriant y dy- lai'r personau hynny chwilio am waith mewn lleoedd eraill, megis Deheudir Cymru. Hefyd gwnaeth nifcr o am- aethwyr tychain, man-ddalwyr— gais am gymorth, ond ni roddid cy- morth mewn achosion o'r fath, ag eithrio mewn achosion eithriadol o angen. Ni roddid cymorth ychwaith i bersonau dderb3 niant waith. Dat- ganai'r pwyllgor y dylai'r cardiau gael eu cvhoeddi yn yr iaith Gymreig. Gwrthodwvd eraill am mai nid y rhyf- el achosodd eu dioddefaint, megis gwaeledd yr ymgcisydd neu aelod o'i deulu, yr hyn na achosid o gwbl gan y rhyfel. Gwasanaeth Feddygol. I Darllenwyd llythyr oddiwrth y pwyllgor cyfrifol am weinyddiad y cynllun ddarparai wasanaeth medd- ygol, fferyllau, &c., rhad, yn argymell y Pwyllgor Angen i gymeryd trefn- iant y pwyllgor mewn Haw, ac i ofyn i Fwrdd Llvwodraeth Lleol a wrth- wynebent i'r Cyngor Sir gyflogi dau glerc, ac i dalu i'r clerc ychwanegol o'r Gronfa Gynorthwyol. Sylwodd y Clerc os y cytunal Bwrdd Llywodraeth Lleol i'r cynllun, eto gallai Pwyllgor y Gronfa Gynorthwy- ol wrthwynebu i'r ariah gael eu def- nyddio i bwrpas arall. Mr D. Thomas Dywedodd Arolyg- ydd Bwrdd Llywodraeth Lleol mai'r Tywysog sydd yn gyfrifol yn bersonol am gostau gweinvddiad y Gronfa. Sylwodd y Clerc ei bod felly yn am- hosibl talu cyflog clerc ychwanegol o'r gronfa. Gwaith ac nid Elusen. Darllenodd y Parch W. Morgan lythyr oddiwrthllwyllgor y Gronfa Gynorthwyol, yr hwn alwai sylw at 3* pwysigrjvydd mawr fod pob ymdrech i'w wneud i gyfarfod yr angen dn"y ddarparu gwaith, ac y dylai cyfran- nu'r elusen arianol gael ei gyfyngu gymaint ag yn bosibl. vSyhvodd JNIr George fod y pwyll- gor i'w longyfarçh ar ystad foddhaol pethau, gan fod y cymorth ariannol yn nodedig o isel. Y11 sicr gwaith yd- oedd y cymorth goreu, ac ni chredai ef y gwneid y defnydd priodol o'r Cyf- liewidfcydd Llafur. Yr oedd diffyg gwaith difrifol yn nosbarth N antlIe, ond Yl1 rhanau amaethyddol y sir yr oedd prinder gweithwyr. Dylid dod a'r^C37flenwad a'r alv.ad yn nes i'w gil- ydd. Mr J. J. Morris: Y mae dosbarth neilltuol yn edrych ar yr elusen, ac awgrymaf gyhoeddi'r llythyr fel y cant wybod nad ydynt i gael elusen oddiar y pwyllgor hwn. Eisiau Rhestr o Gyfranwyr. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Bwyllgor y Gronfa, Genedlaethol yn datgan eu gofid nad oedd yn bosibl iddynt ddarparu rhestr o'r cyfranwyr i'r Gronfa. Golygai y byddai raid idd- ynt fyned trwy tua 80,000 o lythyrau. CYllhygiodd ISIr Maurice Jones ben- derfyniad :■—"Fod y gwahanol ddos- barthiadau a 3-mgyinerasant i gasglu arian tuagat Gronfa'r Tywysog i gyf- lenwi clerc y pwyllgor gyda chyfan- swm y cyfraniadau, ymhob ardal, ac fod pob dosbarth i gyhoeddi rhestr o'r i cyiranwyr yn y newyddiaduron." Sylwodd y Clerc y golygai waith Cll- J fawr iddo ef gael allan pa ie y gwnaed y casgliadau, gan iddynt gael eu gwneud mewn eglwysi, a. nifer lawr o ieoedd eraill ymhob rnnabarin. Yr oedd amcan priodol i'r C3iiilun, set rhwystro i'r un personau gaei eu gofyn i gyfranu niter o weithiau. -Alr Jones -Nlorns: Y mae llawer yn y sir na wnaethant eu rhan mewn cyf- I ranu, ac ymguddiant y tu cl i eraill; a byddai rhestr o danysgrifwyr yn gyi> llun rhagorol i'w dangos allan. Mr Hugh Pritchard Beth am y bobl a p-fraliasant bunnoedd efallai i yn ddienw mewn blychau. Mr J. J. Morris: Fe gant eu talu'n ddcublyg mewn lie arall (chwerthin;. Mr R. T. Jones: A fyddai'n an- hawster cael y swm a gyfranwyd yn yr holl sir, sef sicrhau pa faint anfonwyd o'r sir i'r Gronfa. Y mae pobl a rodd- ant symiau mewn blychau heb falio dim a fydd eu henwau i lawr ai peidio. Byddai rhestr o gyfranwyr yn anheg- wch tuagat y personau hynny. Cyn- nygiai ofyn am y cyfanswm ga,-frail- wyd o'r sir. Sylwodd Mr Eliis W. Roberts pe gallent gael pob aelod o'r pwyllgor i roiladroddiad o'r hyn wnaed yn ei ar- dal ei hunan, na olygai ond ychydig drafferth i sicrhau'r manylion; a chynhygiai eu bod yn apelio i holl ael- odau'r pwyllgor i wneud eu gw aith yn lleol. I Pasiwyd anfon am gyfanswm y cyf- j raniadau, a gofyn i'r aelodau ymchwil am fanylion yn eu dosbarthiadau eu I hunain. 1 I 1 Swm y Gwaith. 11 Sylwodd Mr David Thomas fod manylion eraill angentheidiol heb- law'r arian a gasglwyd yn y sir, gan iddo gael ei bwysleisio nad ar elusen y dyiai'r bobl ddibn-nnu, ond ar waith, a chrcdai mai eu dyleds\vydd fel pwyllgor ydoedd cefnogi'r awdurdod- j au lleol i ddarparu gwaith. Cynnygiai j ofyn i'r Clerc sicrhau gan y gwahanol awdurdodau yn y sir pa faint o waith a ddarparwyd, ac i ba nifer o ddynion. Sylwai Mr Hugh Pritchard y. cefnogai'r cy-nnygiad, gyda'r cymed- roliad fod y man\'lion?i'w sicrhau yn y lleoedd y bodolai angen, a'r lleoedd a wnaethant gais am gyfran o'r gronfa gynorthwyol. Mr R. T. Jones: Cefnogaf y cyn- nygiad heb y cymedroliad. Yna rhoddodd Mr Pritchard ei gy- medroliad fel gwelliant, ond pasiwyd y cynhygiad gwreiddiol.

Advertising

.i'' RHUS WUUK R'MSM SHOP TRYFAN STRVBMiVN  Y PENTYMOR A'R BAEAF Waeth faint yw'r waedd a'r dwndwr, Sydd yn y byd, Na faint y swn a'r mwstwr, A geir o hyd; Pan ddaw Pentymor yma, A'r boys i gael cyfiog-a'. A'u cyfri' bob yn ddima, Wei dynar pryd Bydd pawb yn hel yn ghvstwr At yr un stryd, Ni fydd y rhyfel yn y sgwrs Yr adeg hyn, Bydd pawb yn lion, wrth gwrs, A neb yn synn; Y dyrfa wrth y cannoedd Fel rigment o deuluoedd A phyrsau yn Jlawn punnoedd Yn Stryd y Llyn, I Tryfan House y bydd y cwrs Mdwn coch a gwyn. 0 gwmpas un masnachdy hardd Sef Siop Die Rhos, Sy'n denu llygaid mun a bardd Fel ser y nos, Maetynfa 'roll heb eithriad, Mewn osgo a cherddediad Yn ceisio cael edrychiad I Ar Siop Dic Rhos, Yr hwn sy'n llunio'r He fel gardd Yn llawn o ros. Die Rhos. Caernarfon.

Y LLYFRGELL GYMREIG

Y LLYFRGELL GYMREIG. CEFNOGAETH GALONNOG. Dydd Gwener yn Aberystwyth, cynhaliwyd cyfarfod o lywodraerl1- "-)-r yr nchcd, dan lywyddiaen Mr Herbert Lewis, A.S. Pasiwyd lileld- lais o gydN-mdeirolad a tlieul-ioedd Syr Ed-ward Anwyl, Argiwydd Murth- yr, a Syr T. Marchant Williams. Adroddai y Cadeiiydd mai fel hyn y safai y gronfa adeiladu Hydref 20. Yr oedd y tamTsgrifiadau yn 47 ,o95P; ond yr oedd 3,ooop eisiau cyn y gellid axel ail gyfran y Trysorlys. Yr oedd eisiau 6,ooop yn 3'chwanegol i dalu y gontract bresennol. Felly y mae'n rbaid cael g,ooop cyn y gellir cwblhau y gontract. Hyderid y gellid cael y swm hwn cN-n mis lawrth nesaf; ond yr oedd yn amhosibl parhau i apelio dan yr amgylchiadau presennol. Yr oedd yn galonnogol meddwl am y gefnogaeth gafwyd yn ystod y flwyddyn gan fyrddau llywodraeth lleol, a threfniadau y dosbarth gweith- iol, ac eraill. Yr oedd y rhai hyn yn cynnvys pedwar Cyngor Sir, saith Cyngor Trefol, 37 o Gynghorau Dinesig, a 15 o Gynghorau Gwledig. Mewn rhai lleoedd yr oedd dynion cyflogedig mewn glofeydd wedi gwneud "levies," ac yn achos Glofa'r Great Western, Trehafod, codwyd 151P yn Cyminer, Porth, 115P; mwn- wyr Penrhiwceiber, io6p; Glofeydd Dyffrvn Ebbw, 105P; Mardj-, loop. lac llawer o glybiau a phethau eraill wedi gwneud yn dda. Casglwyd yn Lerpwl i,347p. Wrth gynnyg diolch am yr oil dy- wedodd Mr Lleufer Thomas eu bod wedi derbyn 32P Y bore hwnnw o Aberdar, ac yn addo yehwaneg. Dyvvedai Mr Ballinger fod dros 32,000 o lyfrau wedi eu hychwanegu yn ystod y flwyddyn. Yr oedd y Cyngor wedi pwrcasu casgliad o Law- ysgrifau Panton, yn cynnwys 92 o lyfrolau, y rhan fwyaf yn llawysgrif leuan Brydydd Hir. Mae y Trysor- lys wedi rhoddi 2oop at bwTcasu llyfrau ar amaethyddiaeth, a bydd y rhai hyn yn cael eu rhoddi yn fen- thyg i efrydwyr mewn amaethydd- iaeth a chlybian amaethyddol.

No title

Er pan dorrodd y rhyfel allan, mae Llandudno wedi cyflen"d 400 i Fyddin Kitchener. Mae tri teulu wedi cyf- lenwi pedwar o frodyr, ac amryw er- aill wedi cyflenwi tri.