Teitl Casgliad: Dinesydd Cymreig

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 8
Full Screen
20 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

DYDD LLUN I BUDDUGOLIAETH FAWR

DYDD LLUN. I BUDDUGOLIAETH FAWR. Y mae'r Rwsiaid wedi ennill budd- ugoliaeth bwysig yn y Caucas- us. Y mae brwydr Kara-Urgan, yr hon a barhaodd am dri diwrnod ynghanol ystorm eithafol o eira,, wedi I terfynu mewn buddugoliaeth lwyr i'r Rwsiaid. Y mae nerth y Twrciaid yn y lie hwnnw yn awr wedi ei ddinistrio, a diangodd gweddillion torredig eu byddin o'r maes. Wrth encilio ceis- 'I iwyd achub prif ran y fyddin drwy i gatrodau fyned y tu ol iddi, a cheisio gwrthsefyll yr erlidwyr, ond ysgub- wyd hwy i lawr gan dan difaol, a chy- merwyd tua mil yn garcharorion. <& DIFODI CATRODAU. I Ymladdodd y Twrciaid yn bender- fynol tra parhaodd y frwydr, ond caw- sant golledion aruthrol. Nid oedd ond ychydig iawn yn weddill o rai o'u cat- rodau cryfaf, a .chrwydrent hyd y wlad, gan ddian rhag y Rwsiaid. Cafodd hanner un o'u catrodau eu lladd neu eu clwyfo, a chymerwyd yr hanner arall yn garcharorion; a chaf- odd dwy gatrawd arall eu difa yn llwyr. Yr oedd cyflwr y tywydd yn echrydus, a dioddefai'r Twriciaid yn ddifrifol yng nghanof eira'r mynydd- oedd. Ni feddai llawer ohonynt ddim ond sandalau am eu traed. Gwaeth- ygwyd eu sefyllfa drwy fod llynges Rwsia wedi cau i fyny lan y mor yn y rhanbarth hwnnw, fel na allai Twrci obeithio am ddim oddiwrth ei llynges. -V- &I V 7'Iõ I L BRWYDR AR Y VISTULA. Enillodd y Rwsiaid ran o lanau y Vistula. Yn y lie hwn gwna'r Ger- maniaid ruthriadau cryfion a phar- haus, ac un diwrnod gwnaeth chwe catrawd saith o gyd-ymosodiadau, a'r cwbl a enillasant ydoedd rhan o ffos yn y rheng flaenaf, wedi cael colledion difrifol. Tanbelenodd yr Awstriaid dref Pamow, ond gynted ag y dechreuas- ant tawelwyd hwy gan gyflegrau y Rwsiaid. Yn Bukovina enillodd v Rwsiaid fwlch pwysig ym mynydd- oedd y Carpathians. 7r TANBELENU YN BELGIUM. Y mae eira trwchus wedi disgyn yn y maes gorllewinol. Bu'r Cyngreir- wyr yn llwyddianus mewn tanbelenu a difetha rhai o safleoedd y gelyn ar Ian y mor yn Belgium, a gorfu i'r Ger- maniaid gilio yn ol. Yn La Bassee y mae nifer o'u ffosydd wedi eu dinistrio gan danbelenau y Prydeinwyr. Cy- merodd y rhuthriadau arferol gan y gelyn le mewn gwahanol fanau, y rhai a daflwyd yn ol. JC. # JL n HAFOC MAGNELAU Y FFRANC. WYR. Y mae cyflegrau y Ffrancod yn cael effaith ddinistriol ar rai o safleoedd y gelyn. Ger Soissons a Rheims, bu'r magnelau yn nodedig o brysur. Caf- odd catrawd o'r gelyn ei niweidio yn drwm pan gyda'r gorchwyl o ym- gasglu ar gyfer rhuthriad. Disgyn- odd tanbelenau i ganol un o'u bat- teries, a chymerodd ffrwydriad fawr ie ynddi, gan ei gwneud yn garnedd. Hefyd gorfodwyd adran o'r gelyn i adael safle bwysig ar lechwedd bryn ger Clemery oherwydd effeithiolrwydd y magnelau. ..v.v. A T TV RHUTHRIAD TIRIOGAETHWYR Y mae'r Tiriogaethwyr Prydeinig wedi ymenwogi drwy gymeryd rhan gyda'r milwyr eraill mewn rhuthriad- au beiddgar ar safle Germanaidd ger La Bassee. Yr oedd y frwydr yr un fwyaf ffyrnig a welwyd yn y rhyfel. Rhuthrai y Prydeinwyr a'r German- iaid bob yn ail gyda'r bidogau am ddwy awr. Yn y diwedd, er fod eu nerth niferol yn llawer mwy, ymdodd- odd v Germaniaid o flaen bidogau y Prydeinwyr. Rhuthrasant i fyny llcchwedd bryn, gan waeddi a chanu, a dangos anwybyddiacth hvyr o dan difaol a dywelltid o ynnau a magnel- au y Germaniaid. Llwyddasant i wthio'r Germaniaid o'u safle, ac ennill y dydd. Daeth pellebr ddiweddarach yn hysbysu fod y gelyn wedi gorfod ymadael yn llwyr o La Bassee, oher- wydd y difrod wneid i'w haindiliffyn- feydd gan gyflegau'r CyngreirwVr. j 1 ———— -000-

iDYDD MAWRTHI

DYDD MAWRTH. I RHODDI PENTREF AR DAN. I Y mae adroddiadau o Paris yn hollol foddhaol, ond ni chymerodd digwydd- iadau pwysig le. Mewn canlyniad i ffrwydriad adeilad o ddefnyddiau rhyfel a achoswyd gan. danbelendu aeth rhan o bentref La Boisslle ar dan, a rhaid oedd i'r Cyngreirwyr ymadael oddiyno. Ond ad^feddianwyd ef gyda rhuthriad benderfynol. TANBELENU PENTREF. 1 J Fore ddoe, bu'r gelyn yn brysur yn tanbelenu pentref St. Paul, ger Sois- sons. Y mae hynny yn ddanghosiad eglnr fod y Ffrancwyr wedi dal y gel- y yn ol yn y rhanbarth hwnnw. I SYMUDIAD PWYSIG. I Hefyd v'mae'r Germaniaidwedi eu gorfodi i ilio o'r unig safle a feddent yn Bois-le-Pretre. Y mae'r Ffranc- wyr yn a\\T wedi dod a'u magnelau mawrion o fewn cyrraedd caerfeydd fcllanol Metz, a bydd i'r fuddugolaeth a nodwyd fod yn gymorth pwysig idd-I ynt symud ymlaen tuagat eu nod. AWYRENWYR Y GELYN. I Ehedodd nifer o awyrenwyr Ger- mani dros linellau'r Ffrancwyr yn Champagne. Cyfarfyddwyd hwy gan gawodydd o fwledi a thanbelenau, a disgynodd dau ohonynt i ganol y llin- ellau. L> ADRODDIAD Y "LLYGAD-DYST.' Ymddengys fod gan y Ffrancwyr lygad-dyst yn ogystal a'r Prydeinwyr, ac anfonodd y ddau adroddiadau di- ddorol ar y safle. Y nol y Prydeiniwr, dyfais hollol ydoedd y newydd i'r mil- wyr Prydeinig drwy ruthriadau, fedd- ianu safle Germanaidd yn La Bassee, dywed ef na chymerodd brwydr o gwbl le yno. Adrodda ar yr un pryd i gyflegrfeydd y Prydeinwyr fod yn llwyddiannus mewn amryw fanau.

I SEIRI COED ABERGELE

SEIRI COED ABERGELE. C'WEITHWYR GWERSYLL PARC KINMEL. I Nos Wener, IonawT 15, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus o'r holl weithwyr sydd yn gweithio ym Mharc Kinmel, sef y gwersyll newydd adeiledir ar gyfer y milwyr. Amcan y cyfarfod ydoedd ceisio sefydlu cangen leol o Undeb y Seiri Coed, pryd y daeth Mri George, Ler- pwl, a Parry. Bolton, yno fel cynrych- iolwyr yr Undeb,a chymerwyd y gad- air gan Mr T. H. James, Manceinion, un o'r gweithwyr. Wedi i'r Cadeirydd gyflwyno i sylw y gweithwyr y cynrychiolwyr, galw- odd ar Mr George i'w hannerch. Dy- wedodd mai dyledswydd pob gweith- iwr ydyw bod yn Undebwr. Tynodd sylw at y swm mawr delir mewn buddiant gan yr Undeb. Talwyd o fuddiant yn y gwahanol adrannau gan yr Undeb y swm o 4,ooo,ooop. An- ogodd y gweithwyr yno i fod yn bur i'w gilydd ac i uno am eu hiawnderau. Galwodd Mr Parry, Bolton, sylw at y ffaith fod Abergele i fod yn rhan bwysig o'r deyrnas yn y dyfodol, ac awgrymodd y pwysigrwydd i'r gweith- wyr ar y dechreu feddiannu y safle. Yr oedd amgylchiadau presennol v gwaith yn dangos iddynt pa mor bwysig yd- oedd bod yn un a chael Undeb yn gefn I i weithredu gyda hi yn erbyn pob trais. Dyna'r unig- ffordd i arbed sef- yll allan a chloadau parhaus. Pasiwyd i gael cangen o'r Undeb, ac ymunodd nifer o'r newydd y noson honno, a chafwyd cyfarfod da. Dis- gwylir y gwelir Ilewyrch ar yr achos yn fuan. Diolchwyd i'r rheithor am fenthyg yr ystafell, ac hefyd i'r wasg am roddi sylw i'r cwynion.

I I EI RHYBUDDIO MEWN PRYD

I I EI RHYBUDDIO MEWN PRYD. Dywedir ystori gampus yr arferai I Arglwydd Minto ei dweyd gyda bodd- had am yr hyn ddigwyddodd iddo pan oedd yn Llywodraethwr yr India. Un bore, yn Simla, yr oedd arno eis- iau siarad a prif gadfridog y Fyddin Indiaidd cyn i hwnnw ddechreu ar ei waith am y dydd. Cychwynodd i ffwrdd gyda'r bwriad hwnnw yn bur fore, heb neb i'w ganlyn. Pan gyr- haeddodd i drigfod swyddogol y cad- fridog, canfyddodd ei ffordd wedi ei atal rhyngddo gan wyliwr, yr hwn yn amlwg na adnabu yr ymwelydd. Eglurodd Arglwydd Minto ei fod eisiau gweled y prif gadfridog, ond gwrthododd y gwyliwr ganiatau iddo basio. "Ond myfi yw v llywodraethwr," protestiodd ei arglwyddiaeth. Edrychodd y gwyliwr arno gyda gwen deimladol. "A," ebe, yn feddylgar, "yr ydym yn cael pob math yma. Yr wythnos ddiweddaf cawsom greadur a ddywed- a ei fod yn daid i'r Frenhines Buddug. Fe roisom y wastgot am dano yn ddi- atreg, ac felly gwell i chwi ddianc i ffwrdd!"

CAFODD ARCHEB

( CAFODD ARCHEB. l Yr oedd perchenog y masnachdy > dilladau wedi ei syfrdanu un dydd gan nifer y trafaelwyr masnachol a alwodd yn ei siop. O'r diwedd, pan ddaeth un arall i me\vn, edrychodd yn ffyrnig arno, a dywedodd "Ddyn ieuanc, a welwch chwi y cloc yna ar y pared?" "Gwelaf, syr," atebodd y trafael- iwr, gan edrych i'r cyfeiriad hwnnw. "Wel, o fewn pum munud ar y cloc yna yr ydwyf am saethu pof traf- aeliwr a ganfyddaf )"11 y siop." "Mewn pum munud ?" "Dyua ddywedais." fe ddaethum mewn pryd i I, wcrthu ychydig linellau o nwyddau i chwi," cbe y trafaeliwr, gan agor ei baciau yn ddiymdroi. Ac fe'u gwerthodd hwynt. ———— ———

TEIMLAD BRAWDOLI

TEIMLAD BRAWDOL. I Atliraw: Yn awr, cofiwch, er eich galluogi i ddod yn ganwr perffaith, y rhaid i chwi feddu amynedd. Mari: Yn hollol felly; a chymydog- es y drws nesaf yr un modd.

BRAWDLYS ARFONI

BRAWDLYS ARFON. I EI OLLWNG YN RHYDD. I Cynhaliwyd y Frawdlys yng Nghaernarfon ddydd Llun, o flaen y Barnwr Lush, pryd nad oedd ond un achos o drosedd i'w wrandaw. Galwodd y Bamwr sylw at y ffaith yn ei anerchiad i'r Uchel Reithwyr, ac fod Gogledd Cymru ymron yn rhydd o droseddau difrifol. Nid oedd yr un achos ym Mrawdlysoedd Meirion a Threfaldwyn, ac.yn y tair sir arall yng Ngogledd Cymru nid oedd ond tri achos. Llawenhai ddeall am atebiad rhagorol Cymru i alwadau'r Fyddin, ac yn ol datganiad swyddog yn y fyddin, Cymru ydoedd y blaenaf mewn ymrestru yn yr holl deyrnas; ac nid yn unig hynny, ond yr oedd ymddyg- iadau y dynion ieuainc yn rhagorol. Cyhuddwyd Patrick Sweeney, 34 oed, Bangor, o roddi tystiolaeth an- wireddus o flaen ynadon Bangor ar Rhagfyr 8fed diweddaf. Erlynai Mr Xrtemus Jones ar ran yr heddlu, a Mr Ellis W. Roberts (yn cael ei gyfar- wyddo gan Mr Thornton Jones) ar ran y carcharor. Wedi ymneilltuo dyfamodd y rheithwyr ei fod yn ddieuog, ac wrth ollwng y carcharor yn rhydd, sylwodd v Bamwr yr hyderai y byddai'r achos yn wers iddo mewn sobrwydd yn y dyfodol.

I YMWELIAD Y CANGHELLOR I I

I YMWELIAD Y CANGHELLOR. Darllenwyd llythyr mewn cyfarfod o Bwyllgor Rhyfel Bangor, ddydd. Gwener, yr hwn a dderbyniodd Syr Henry Lewis oddwrth Gangtiellor y Trysorlys, yn hysbysu y gwnai ei ore i ddod i anerch cyfarfod ym Man- gor cyn i'r Senedd ail-gychwyn.

I NAW MILIWN Y DYDD

I NAW MILIWN Y DYDD. Amcangyfrifa y papur Sosialaidd Gennanaidd, y "Vorwaerts," oddi- wrth ystadegau swyddogol y gwled- ydd hynny sydd yn cymeryd rhan yn y rhyfel ofnadwy presennol, fod yr ymgyrch yn costio yn yr oil tua 9,20o,ooop y dydd! Mae hyn tua dwy flliwn y dydd yn fwy nag amcangyfrif y Proffeswr Wolff, a gyhoeddwyd eisoes gennym. Yn ychwanegol at hyn, wrth gwrs, rhaid ychwanegu y dinistr ofnadwy fu ar eiddo, a'r coll- edion mawr fu ar ddiwydiannau. Mae'r colledion fu ar eiddo ymhell tu- hwnt i gost cario yr ymgyrch ymlaen.

IGWEINIDOG MORIAH CAERNARFON

I GWEINIDOG MORIAH, CAER- NARFON. EI RYDDHAU HYD DERFYN Y Y RHYFEL. Yr wythnos ddiweddaf rhyddhaodd eglwys Moriah, Caemarfon, yn un- frydol, eu gweinidog, y Parch D. Hoskins, M.A., o'i fugeiliaeth, yr hwn fu yn Northampton yn gaplan gyda'r Royal Welsh Fusiliers, ond sydd yn awr wedi ei benodi yn gaplan y Fyddin Gymreig yn Llandudno. Penderfynwyd hcfyd rhoddi ioop yn y flwyddyn iddo at yr hyn gaiff yn y fyddin er mwyn ei ddigolledu. Bydd i'r Parch D. O'Brien Owen weithredu yn ei le nes y delo'n ol.

I MARW IOAN GLAN MENAI

I MARW IOAN GLAN MENAI. I UN 0 DDYNION GLEW CAER- NARFON. Fore dydd Iau yn Llys Menai, Har- lech, bu farw y bardd-bregethwr Mr J. P. Jones (loan Clan Menai) yn 84 mlwydd oed. Yng Nghaernarfon y ganwyd ac y magwyd ef, a bu yn wr defnyddiol gyda'r achos Wesleaidd yn ei dref enedigol. Dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol yn gynar ar ei fywyd, a bu yn gwasanaethu fel "lay agent" yn Rhos Llanerchrugog, ac am gyfnod maith yng Nghylchdaith Caernarfon gan ymgartrefu yn Rhos- tryfan. Ym mis Chwefror diweddaf bu farw ei briod, a bu hynny yn loes drom iddo, a dywedodd yn fawr ar ei ysbryd a'i iechyd, gan eu bod wedi cael oes faith a hapus gyda'u gilydd. Claddwyd ef ddydd Llun, a chafodd angladd urddasol a phendefigaidd, pryd y gwasanaethwyd gan amryw o weinidogion. Mae ein cvdymdeimlad a'r tculu yn eu trallod, sef y mab a'i ddwy ferch.

I BELGIAID FEL FFERMWYRI

I BELGIAID FEL FFERMWYR. PRAWF YMARFEROL PWLL- HELI. Dydd Gwener, daeth 17 o ffoadur- iaid Belgium i Bwllheli. Derbyniwyd hwy yn yr orsaf gan y Faeres ac eraill. Ymddengys fod yn y cwmni hwn rai ag ydynt yn wyr profiadol mewn garddwriaeth farchnadol, a gweithio allan y man-ddaliadau, ac y mae'r Pwyllgor Trefol gyda chydsyniad y Gymdeithas Drefniadol Belgiaidd wedi sicrhau tir da iddynt i'w drin a'i ddat- blygu er mwyn i amaethwyr y rhan ddeheuol o Sir Gaernarfon gael dysgu rhai o ddirgelion y llwyddiant anar- fcrol sydd ynglyn a garddwriaeth farchnadol a man-ddaliadau yn Bel- gium. Disgv.ylir y ceir mantais an- arferol oddiwrthynt yn y cyfeiriad hwn.

DAIARGRYN FAWR YN ITALI I

DAIARGRYN FAWR YN ITALI. I JIItOEDD WEDI EU LLADD. I Yn gynnar fore Mercher, ymwelodd daiargiyn ddinistriol a'r Eidal, ac ad- roddir am golledion trymion ar fywyd- au ac eiddo. Cymerodd yr ysgydwad le yn Rhufain tuag wyth o'r gioch y [)Ore, a pharhaodd am tua 20 eiliad, gan ymledu i gyfeiriad dwyreiniol a gorllewinol cyn darfod. Ymddengys i'r ysgydwad fod yn fwyaf nerthol rhwng Rhufain ac Aquila. Daw adroddiad o Tivoli yn hysbysu fod tref Avezzano wedi ei dinistrio, ac ofnir na does ond tua mil yn fyw allan o boblogaeth o 9,000. Gwnaed difrod difrifol hefyd yn y trefi cylchynol. Disgynai adeiladau uchel yn garnedd; cafodd ysgolfeistr a disgybl eu lladd yn un o'r ysgolion, ac anafwyd nifer eraill o'r disgyblion. Rhuthrai'r trig- olion i'r heolydd, ac anafid llawer ohonynt gan furiau'n disgyn. Achosodd y ddaiargryn fwy o ddif- rod yn Rhufain nag y tybiwyd ar y dechreuad, a gwnaed niweidiau trym- ion i hen adeiladau gwerthfawr. Caf- odd cerfddelw pres o'r Apostol Paul ei niweidio; ac yr oedd rhan o eglwys hardd yn y ddinas mewn perygl mawr o ddod i lawr, gyda'i muriau wedi eu cracio. Mewn llawer o'r tai anafwyd trigolion drwy i'r nenfwd ddisgyn ar- nynt,-nifer fawr ohonynt yn eu gwelyau, a rhuthrasant i'r heolydd yn eu dillad nos. Yr oedd y Pab yn myned drwy wasanaeth crefyddol pan ddigwyddodd yr ysgydwad, ond saf- odd yn hollol dawel a diddychryn. GWAETH NA MESSINA. Yn ol adroddiadau diweddarach, ymddengys fod y ddaiargryn yn fwy dinistricfl hyd yn oed nRr ysgydwad fawr a ddinistriodd Messina. Y mae'r doll ar fy wydau yn llawer gwaeth nag y tybiwyd ar y dechreuad; ac hysbysir fod cymaint a 12,000 wedi eu lladd, a 20,000 wedi eu hanafu. Teimlwyd ys- gydwad arall fore Iau yn rhanbarth Sora, yr hwn a wnaed yn gameddau gan yr ysgydwad gyntaf. Canolbwynt y ddaiargryn Ivdoedd Llyn Cucino, ger tref Avezzano. Bu'r llyn am rai blynyddau yn darfod yn araf gan fod ei wely yn gorwedd uwch- ben agorfa mynydd tanllyd. 0 am- gylch y llyn yr oedd nifer o drefi bychain llwyddiannus a phrysur, i'r rhai y deuai cannoedd o ymwelwyr. Dywedai teithydd a gyrhaeddodd i Rufain mewn cerbydres o lannau'r Adriatic, fod y tren yn myned heibio'r llyn pan ddigwyddodd y ddaiargryn. Clywyd un ysgydwad fawr i ddechreu, ac yna dilynwyd hi gan dair arall. Taflwyd y tren oddiar y rheiliau, ac anafwyd nifer o'r teithwyr. Neidiodd ef allan ohoni, a syllodd ar yr olygfa. "Lle'r oedd trefi ychydig funudau cynt," meddai, "ni welwn ond cor- wyntoedd anferth o lwch a mwg. Yr oedd v I Trefi wedi Diflanu." Daeth tren arall i'r lie, yr hon a gych- wynodd yn araf hyd y llinell, a gwel wyd fod y gorsafau a'r adeiladau eraill ar hyd y rheilffordd wedi eu dym- chwel. Llwyddodd milwyr a anfonwyd o Rufain i achub rhai o'r trueiniaid, ond clywid gwaeddiadau am gymorth o'r malurion ymhob cyfeiriad. Credir fod 4,000 o bersonau wedi eu claddu dan yr adfeilion yn Avezzano yn unig. Mewn un rhan ohoni, dymchwelodd ysgol, gan gladdu 200 o blant; yr oedd rhai ohonynt yn fyw drwy'r nos, ac yn gwaeddi am gymorth. Mewn gorsaf filwrol yn y dref, arhosai 4,000 o filwyr; dymchwelwyd yr adeilad, a chladdvvyd yr oil yn y malurion ac eithrio pedwar. Y mae'r olygfa yn y dref yn ddychrynllyd, —nid yw ond tyrrau o falurion, a thomenydd mawr o gerrig wedi ymdvrru ar eu gilydd, gyda gwaeddiadau am gymorth yn codi o'u canol. Yr oedd gwaith ach- ubol y milwyr a'r meddygon yn nod- edig o anodd. Ymhlith yr adeiladau a ddymchwel- wyd yr oedd Athrofa Golegawl uchel, lie y lletyai tua 140 o ferched ieuainc, a chlywyd eu gwaeddiadau calon- rwygol dnvy'r nos. Gweithiai milwyr a heddlu yn galed i geisio eu tynu allan. I, I Cyfiwr y Rhai Achubwyd. -1 Dywed un o weithwyr Cyngor Tref- ol Avezzano, yr hwa a ddacth yn ddi- anaf, ei fod yn yr heol pan gymerodd yr ysgydwad le. Dymchwelai popeth o'i gwmpas, tra v cododd cwmwl an- ferth o lwch a mwg o'r adfeilion. Rhedodd v dyn i'w dy ei hunan, ac achulxxld ei fodryb a'i forwyn, ac aeth a hwy i ddiogelwch. Ymhlith y rhai laddwyd y mae Maer y dref gyda'i dculu, holl aelodau'r Gynghorfa a swyddogion y Llywodraeth, yr holl Gynghorwyr Trefol, milwyr, a hedd- weision. Dinistriwyd yr holl ffatri- oedd a'r castell enwog yn ymyl. Y noswcitliiau dilynol yr oedd yr ychydig gannoedd a achubwyd yn I gwersyllu yn y prif farchnadfeydd. Ymddanghosant wedi colli eu syn- hwyrau, ac yn analluog i roddi cyn- orthwy i'r rhai geisiant achub y di- oddefwyr. Treuliasant y 110swaith yn eistedd yn y farchnadfa, fel pe wedi eu syfrdanu, ac nid ymddanghosent yn teimlo o gwbl oddiwrth yr oerni eithafol. I

CELL Y LLYTHYRAU

CELL Y LLYTHYRAU. [Nid ydym gyfrifol am syniadau'r go hebwyr; ond rhoi'r cyfle iddynt draetbn eu barnau.] AWDURIAETH ENGLYN. (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr, —Oddiwrth lythyr un a eilw ei hun "Nid yr Awdur," ymddangosod i yr wythnos ddiweddaf, gellid casglu fy mod un ai yn llenleidr neu fy mod wedi arfer englyn awdur arall heb ei gydnabod. Pa un bynnag o'r ddau ddewisir byddai yn well gennyf i'm henw fod mewn dinodedd tragwyddol nac i hynny fod yn wir yn fy hanes. Mae stori gwneuthuriad yr englyn yn hysbys i amryw. Ar gais cyfaill i mi oedd wedi colli priod ei ieuenctyd tua chwe mlyncdd yn ol y gwnaethum yr englyn er mwyn ei roddi yn fedd- argraff iddi, a cheir ef wedi ei gerfio ar garreg ei bedd yn un o "fynwent- ydd harddaf cia gwlad," a'r enw syml W. Owen odditano, ac nid Try- fanog Owen fel yr arferaf fy enw yn awr. Yn y flwyddyn 1909 ymddang- osodd yn y "Trefnydd," cyhoeddiad qhwarterol y Wesleaid Cylchdaith Caernarfon. Fel mater o ffaith ni wel ais yr englyn o'r blaen, ac ni chlywais neb yn adrodd dim tebyg iddo, fel y teimlwn fod gennyf berffaith hawl i'w roddi ar ddiwedd yr ysgrif-goffa am mai englyn o'm gwaith fy hun ydoedd. Hyderaf y gwel "Nid yr Awdur" fod hyn yn ddigon o eglurhad ar y mater ac yn diogelu i minnau fy anrhydedd fel tipyn o brydydd.—Yr eiddoch, W. OWEN (Tryfanog). I CRONFA TYWYSOG CYMRU. (At Olygydd y "Dinesydd.") Syr,—Ym Mhwyllgor Angen Dos- barth Gwyrfai fore Sadwrn diweddaf fe basiwyd penderfyniad neu ddau y dymunai'r Pwyllgor roddi arbenig- rwydd amynt, a gofynwyd i gyn- rychiolwyr y Wasg eu gwneuthur mor gyhoeddus ag a fyddai'n bosibl. Mae'n ddiameu gennyf y croniclir yr hanes yn y. "Dinesydd," ac fe garwn innau alw sylw arbennig rhai o'ch darllenwyr at bwynt neu ddau, sef i. Os oes gweithwyr yn gweithio llai nag wythnos lawn, oherwydd y rhyfel, ac yn ennill mewn mis lai na digon i gadw'u teuluoedd uwchlaw angen (yn ol y Safon isod), fe ddylent wneuthur cais at y Pwyllgor Angen am gynhorthwy o Gronfa Tywysog Cymru. 2. Os oes gweithwyr yn gweithio ymhell oddicartref, ac ar ol talu am eu llety yn methu anfon adref ddigon o arian i gadw'u teuluoedd uwchlaw angen (yn ol y Safon isod), dylai'r teuluocdd apelio at y Pwyllgor Angen am gynhorthwy. Wrth reswm, ni all Pwyllgor y Dos- barth sicrhau y derbynir y ceisiadau hyn gan Bwyllgor y Sir, ond fe'u han- fonir i'r Pwyllgor hwnnw gyda chy- meradwyaeth Pwyllgor Dosbarth Gwyrfai tu cefn iddynt. Y mae Graddfa'r Cynhorthwy a roddir gan Bwyllgor Angen Sir Gaer- narfon ar hyn o bryd fel y canlyn. Dyma'r symiau uchaf y gall tuluoedd eu derbyn, ond fe allant dderbyn llai na hyn, yn ol fel y byddo'r amgylch- iadau. Un person ar ei ben ei hun, 8s yr wythnos. Un arall mewn oed yn byw gydag ef, 2s yr wythnos. Ar gyfer pob plentyn, is 6c yr wythnos. Y swm uchaf y gall un teulu et dderbyn, 16s yr wythnos. Yn awr, cymerwch weithiwr a gwraig a phedwar o blant-y swm uchaf a ganiateid fyddai 16s. Tyb- iwch nad yw yn gweithio ond pedwar diwmod yr wythnos oherwydd y rhyfel, a'i fod trwy hynny yn ennill llai na 16s yr wythnos am y mis. Byddai gan y dyn hwnnw le i ofyn am gymorth o Gronfa Tywysog Cymru. Cymerwch weithiwr arall yn gweithio ymhell am 21s yr wythnos, ac yn talu 13S yr wythnos am lety, ac yn anfon 8s adref. Yn ol y Raddfa uchod, fe allai gwraig a phedwar o blant dderbyn 14s yr wythnos, a byddai ganddynt le felly i ofyn i'r Pwyllgor Angen, o bosibl, am wneu- thur y gwahaniaeth rhwng 8s a 145 i fyny. Amcan y llythyr hwn ydyw cyfar- wyddo pobl i wneud ceisiadau; ond wedi i'r ceisiadau ddod i law, bydd rhaid barnu pob un yn ol ei deilyng- dod.—Yr eiddoch yn bur, DAVID THOMAS.

7ANNIBYNWYR MANCEINION

7 ANNIBYNWYR MANCEINION. Nos Sadwrn a'r Sul cynhaliodd An- nibynwyr Manceinion Gymanfa bre- gethu yn yr oil o'r eglwysL Nos Sadwrn, yn Booth Street, cynhaliwyd seiat gyffredinol, tan lywyddiaeth y Parch Morgan Llewelyn. Y gweini- dogion wasanaethent yn yr wyl oedd- ynt y Parchn J. Howell, Ponciau; Proffeswr J. Morgan Jones, M.A., Bangor; T. Ogwen Griffith, Aberafon; Rhys T. Williams, Lerpwl; a T. E. Thomas, Coedpoeth.

Advertising

LLWYDDIANT PAKHAOL Yr un cri o bob cyfeiriad. GRONANTFARM OATCAKES. Gwerthwyd Allan Anfoner Yctoaneg Brys I'w cael mewn pacedi 2c. a 3c. gan holl Grocer- Bakers, a Confectioners. PRIF YSTORFA:— LAKE & Gompany, Limited, CAiiMYCN

PWYLLGOR ANGEN GWYRFAI I

PWYLLGOR ANGEN GWYRFAI. I ) CYFLOGAU ANNIGONOL A DIM CYMORTH. Cynhaliwyd cyfarfod o'r pwyllgor uchod fore Sadwm, dan lywyddiaeth Mr R. 0. Williams. Rhodd yr Amerig. I Galwodd Mr David Thomas sylw at y ffaith fod Pwyllgor y Sir wedi can- iatau un ran o bedair o'r rhoddion o flawd, salmon, a chaws o Canada i ddosbarth Gwyrfai; ond cafwyd na dderbyniai'r dosbarth ei chyfran deg, gan y dylai yn ol rhif y boblogaeth gael ychydig yn ychwaneg nag un ran o bedair, ond nid, oedd y gwahaniaeth ond bychan. Et hynny cynhygiai alw sylw Pwyllgor y Sir at y ffaith. Pasiwyd hynny, er gwneud yr ad- drefniad erbyn y deuai'r rhodd nesaf. Rhanwyd y nwyddau i'r gwahanol ddosbarthiadau fel y canlyn Llan- dwrog, 10 bag o flawd ac un cosyn; Llanllyfni, 9 bag o flawd ac un cosyn Llanwnda, 8 bag o flawd ac un cosyn; Llanddeiniolen, 5 bag o flawd ac hanner cosyn; Llanfairisgaer a Waen- fawr, yr un fath; Llanrug, 4 bag o flawd ac hanner cosyn; Llanberis, 2 fag o flawd; Clynnog, i bag; a Bont-, newydd, i bag, gydag un cosyn rhwng y tri lie. I Symiau y Cymorth. Argymhellid talu y symiau a gan- lyn i'r nifer canlynol o ymgeiswyr ymhob dosbarth Llanddeiniolen, ip 13s i 6 ymgeisydd; Llanrug, 10s i 2 ymgeisydd; Llanfairisgaer, 3P 10s 6c i 9 ymgeisydd; Bontnewydd, 7s 6c i 2 ymgeisydd; Waenfawr a Bettws Garmon, 3p 2s i 8 ymgeisydd; Llan- llyfni a Nantlle, 7P is i 23 ymgeis- ydd; Llanwnda, 7p 12s 6c i 20 ym- geisydd; Llnandwrog, 8p os 6c i 24 ymgeisydd. Deuai hynny yn gyfan- swm 0 3ip 17S i 93 0 Ymgeiswyr. I Gweithio Pedwar Diwrnod. Danghosodd y Clerc fod llawer o'r rhai a dderbynient gymorth yn y dos- barth ar y dechreu wediVlwyddo i gael gwaith. Gwrthodid cymorth i rai a weithient ran o'r wythnos, ac i rai dderbyniant gymorth o gronfeydd er- aill. Codai anhawster mawr i'r is- bwyllgor ynglyn a rhai dderbynicnt gymorth o gronfeydd oedd yn llai nag a roddid o gronfa'r sir; ac eraill a* wrthodid oherwydd eu bod yn gweithio, ond ni dderbynient ddigon o gyflog o gryn lawer i gadw eu tculu- oedd. Hefyd caffai'r dynion a weith- ient mewn cyrrau eraill i'r wlad gyf- logau gweddol, ond erbyn talu 145 am eu llcty, amhosibl ydoedd iddynt an- fon digon i gadw eu teuluoedd gartref. Gofynai'r Is-bwyllgor am gyfar- wyddiadau pa fodd i ddelio a'r achos- ion. Sylwodd Mr W. T. Williams fod dynion a weithient yn gyson ar y ffyrdd yn ei ddosbarth cf, ond oher- wydd gerwinder y tywydd ni allent ennill ond ychydig o gyflog, ac yn ami byddai yn is na'r hyn a ganiateid o'r Gronfa. Gwyddai am deuluoedd a thri neu bedwar o blant, lie nad oedd ennillion y gwr yn cyrraedd 10s yr wythnos. Cyfeiriai at y rhai a feth- entgael cyflogau am na weithient ond tri neu bedwar diwrnod yr wythnos. Yn sicr achosid eu liangen yn union- gyrehol oherwydd y rhyfel, a dylent gael eu cynorthwyo. Cynnygiodd Mr W. Roberts (Rhiw- las) eu bod yn gofyn i bwyllgor y sir roddi sylw arbennig i achosion o'r fath. Credai Mr J. E. Williams y dylent ar yr un pryd anfon protest at y cyf- logwyr, y rhai ddylent roddi cyflogau mwy rhesymol i'r gweithwyr. Sylwai Mr H. Jones y rhoddid gor- mod o bwys ar y tywydd; y ffaith ydoedd na chawsant weithio amser llawn, yr hyn a achosid yn union- gyrchol gan y rhyfel. Credai ef fod llawer rhagor o ddioddef yn y dos- barth nag a amlygid. Meddai llawer o'r bobl ormod o falchder i ddangos eu hamgylchiadau, a chawsai eu balchder ei gyffwrdd wrth gynghori iddynt fyned i geisio cymorth plwyf- ol, ond rhaid oedd i'r rhai na chaff- ent gyflogau digonol wneud hynny. Sylwodd Mr Griffith Williams, fel un a weithiai yn y chwarel, fod llawer yn dod o'r chwarel gyda chyflog nad oedd yn hanner digon i bwrcasu bwyd yn unig; a phan ddywedent hynny wrth y gosodwvr, atebid hwy fod yr amgylchiadau yn gyfryw na allent roddi ychwaneg iddynt. Cafwyd allan pan rennid y rhoddion o Canada fod llawer mwy o ddioddef nag y tybid yn y dosbarth. Yr oedd llawer o'r bobl yn falch o dderbyn chwe phwya o flawd a thua 6 owns o gaws. Sylwodd Mr David Thomas y gellid rhoddi cymorth i'r rhai a dderbynient gyflogau o dan safon y cymorth. Pasiwyd wedi dadleu pellach i hys- bysu'r dioddefwyr anod-A-yd eu bod i anfon eu cardiau i'r pwyllgorau lleol, y rhai a anfonid i Bwyllgor Gwyrfai i'w hargymell i sylw Pwyllgor y Sir.' Graddfa Cymorth. Pasiwyd penderfyniad i'r perwyl eu bod yn gofyn i Bwyllgor y Sir godi invchsafon (maximum) y cymorth a delid i deuluoedd drwy roddi'r tal- iad o is 6c ar gyfer pob plentyn, pa faint bynnag fydd nifer y plant mewn tculu. Yn brescnnol, y safon yw 8s i'r gwr, 2S i'r wraig, a is 6c ar gyfer r pob plentyn nes cyrraedd uwchsafon o 16s; golygai hynny na wneir darpar- iaeth ar gyfer rhagor na 40 blant. I Y CANGHELLOR FEL RHIF- YDDWR. Bu Mr Lloyd George ym maes y frwydr yn Ffrainc. Dywedir iddo ofyn i'r swyddog oedd yn ei arwain o gwmpas ac yn dangos lie yr oedcl ei ddyn ion, "Lie yr ocddych chwi yr adeg liwn fis yn ol?" "Yn y ffosydd y fan acw, syr," oedd yr ateb. Nid oedd ond ychydig latheni yn ol o'r man y safent. "0, rwy'n gweled," cbai y Canghellor. "Ac yn ol y radd- fa y symudwch, byddweh yn Berlin yn 1950." Dywedir fod v Canghellor bob amser yn gyflym gyda ffigyrau, i'i-i profiad ni yw ei fod yn gyflym gyda. phopeth yr ymafio ynddo i'w wneu- thur.

No title

Y n ol un meddyg y mae pobl y dyddiau liyn yn rhy brysur i fod yn wael, hynny yv. gyda man gwyr.ion.

Advertising

ENGINE TROUBLE. f You know what happens when a few grains of sand find their way into your watch. The works become clogged and the movement gets erratic. The same things happens when you let a lot of grit get into your system —times are not the same afterwards. A chichen requires a certain quantity of grit to assimilate its food pro- perly; but, dear reader, you are no chicken, and you want to be careful about what you eat. You are, doubtless, fond of sweetmeats, and you should know that these often contain impurities which play havoc with your system. There is one, however, on whose purity you can ahvays "rely- EDMONDSON'S IDEAL TOFFEE is made from the finest sugar and the purest butter under conditions which ensures its absolute w,olmeness. Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace- Street, Caernarfon. <