Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

W.WilliamssCo. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea Specialities I§ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEM (1;N"I RINGS. 22ct. GOLD WEDDfNG RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCI IES, Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur, Oriaduron ac awrleisiaa, Gemau a chadwynau claer: Yspeotol gelfydd, bin-fyn dd, Gwres-fesurydd, Cwmpawd m6r Geir gan Williams, Heol y Castell Trowch i mewn i wel'd ei stôr. j

Y RHYFEL I

Y RHYFEL. .i GAN BIN GOHEBYDD AR- BENNIG. Mawr y dyfalu y sydd ynghylch beth wna y Llywodraeth ynglyn a'r diodydd meddwol. Dywedodd Mr. Lloyd George ein bod yn ymladd a thri gelyn —Germani, Awstria, aLr Ddiod Fedd- wol, ac mai y cryfaf o'r gelynion mar- wol nyn yw yr olaf. Ni fu erioed fwy o gyffro* yngwersyll Syr John Heiddyn. Y mae Dirwest heddyw yn rhodio yn ei sandalau arian. Nid oes eisieu iddi ddweud dim. Ymddengys fod pawb, ac eithrio bragwyr, distyllwyr, tafarn- wyr a'u bath, yn unfryd, unfarn fod yn rhaid gwneud rhywbeth i atal difrod y ddioden. Aeth ei Fawrhydi y Brenin a'i holl dy yn ddirwestwyr dros dymor y rhyfel. Canlynwyd ef yn hyn gan Iarll Kitchener. Hysbysa y Due o Portland ei fod yntau o nifer efelychwyr y Brenin. Ymwelir a Mr. Lloyd George gan ddirprwyaeth ar ol dirprwyaeth o wyr mawr masnach y wlad, a'r un gan geir gan bawb "I lawr a'r Ddiod Feddwol." Crochlefa gwyr y fasnach am eu hiawnderau ac am ryddid y dinesydd Prydeinig. Tybed beth wneir? Medd rhai: rhodder atalfa ar wiriodydd poethion a chaniataer gwerthu cwrw ysgafn; rhyw beth fel diod-fain y dyddiau gynt. Medd ereill: diddymer gofynion y Llvwodraeth sydd yn hawlio i whisci a brandi a gwirodydd o'r fath fod o gryfder neilltuol, yna gellir eu dyfr- hau a'u gwneud yn ddiniweitiach. Clywir rhai wedyn yn dadlu ymhlaid gwinoedd na ddylid eu rhestru hwy gyda gwirodydd- cVviWigr.- Ym- welodd dirprwyaeth gref oddiwrth wyr y Fasnach Feddwol a Changellydd y Trysorlys dydd Gwener, ond am ryw resymau ni roddwyd hysbysrwydd pa beth a ddigwyddodd neu beth oedd baich yr ymddiddan. Yn unig dywedir eu bod yn dadlu yn daer dros gadw y Fasnach yn fyw, a'u bod yn foddlon i unrhyw delerau. Ymfoddlonent ar bumswllt arall y galwyn o dreth ar y gwirodydd, a hefyd i gyfyngu mewn unrhyw fodd ar yr oriau gwerthu. Nid gormod yw dweud fod y wlad yn Idisgwyl yn aiddgar wrth y Llyw- odraeth ar iddi wneud rhywbeth a gafael ynddo, ac os siomir hi bydd yn warth oesol i rywrai. Crewyd cryn gyffro yng Ngogledd Cymru nos Lun a dydd Mawrth pan ddeallwyd fod dau garcharor Ger- .manaidd wedi dianc o afaelion yr awdurdodau yn Nyffryn Aled. Nos Sul yr oeddynt yno yn ateb i'w hen- wau. Cyn wyth o'r- gloch bore dydd Llun ni cheid siw na miw am danynt o fewn y gwersyll. Nid oedd na bar na bollt wedi ei symud na ffenestr ychwaith wedi ei thorri. Holir ,gut y dianghasant, ond nid oes na llef pa neb yn ateb. Yn unig gwybyddir eu bod wedi dianc. Y mae un o honynt, yr Is-gadben Von Sauders Leben, yn 24ain oed; tra'r llall, yr Is-gadben Hans Audler, yn 28am oed. Medr yr olaf Saesneg yn bur dda. Awyrwr yw Audler, yr hwn a ddaliwyd dro yn ol ym Mor y Gogledd, wedi i'w beiriant ehedeg fethu gweithio, ac iddo felly syrthio i'r mor. Pa le y maent? Ni fu erioed fwy o ddyfalu. Tybia rhai mai cuddio yn y carchar maent eto. Sibrwydir rhai wedi eu gweled mewn modur yn teithio tua Lloegr. Sonid eu bod wedi teithio hyd Hull, lie y disgwylient gael eu cipio adref dros y mor. Aw- grymir fod dealltwriaeth cydrhyng- ddynt a rhai o'r tuallan; eu bod wedi teithio tua glan y mor, ac wedi eu cymeryd ar fwrdd un 0 "submarines" Germani. Nid oes ball ar ddyfalu. Gosodir gwyliadwriaeth ddyfal ar ein porthladdoedd oil, ac anodd gennym gredu y gallant fod yn hir ynghudd. Bron nad yw allan o'r cwestiwn iddynt ddianc allan o'r wlad. Nid oes amheuaeth am lacrwydd anrhyd- eddiis os annc,(,O-h y wlad hon gyda'i Ch.rC;larorion. Caniateir graddau helaeth o ryddid iddynt mewn llawer lie. Heblaw hyn caniateir rhyddid i liaws o Germaniaid eto yn y wlad, y rhai ydynt yn dilyn eu gal- wedigaethau arferol yn ein plith. Gallwn ddeall penbleth y Llywodraeth yn wyneb hyn oil. Gresyn fyddai cyfyngu ar ryddid y diniwed. Eto i gyd atebir ni yn bur barod gyda'r dywediad y gall fod yspiwr yn llechu dan grocn pob Germaniaid sydd ym Mhrydain heddyw. Cymerwyd tri i'r ddalfa yn Llun- dain ddydd Gwener ar y dybiaeth mai vspiwyr oeddynt. Honnai y prif un o'r tri ei fod yn ddinesydd Ameri- canaidd. Bu o dan lygaid swyddogion y Brenin am fisoedd. Teithiai o Lun- dain i Lerpwl ac oddiyno i'r Iwerddon, a chadwai ohebiaeth barhaus a'r Cyfandir trwy yr America. Dywedir ei fod yn defnyddio ine anweledig i'r amcanion hyn, ond fod yr ystryw wedi ei gwneud yn hysbys. Profir y tri cyhuddedig o flaen yr Arglwydd Brif Farnwr o dan Ddeddf Amddiffynol y Deyrnas, neu yn hytrach dan delerau y gwelliant diweddar wnawd ar y Ddeddf honno. Dichon hefyd na fydd y prawf yn un cyhoeddus. Edrych yn ddu y mae pethau mewn rhai cyfeiriadau. Clywsom fod trigain o longau llwythog yn gorwedd yn segur yn Birkenhead am fod y gweithwyr ar y streic ac yn gwrthod eu dadlwytho. Yr oedd nifer fawr o'r lloiigau hyn wedi dod i fewn a ffrwythau o wledydd tramor, a'r ffrvvythau hynny yn pydru o eisieu eu defnyddio. Sonir am droi adrannau o'r fyddin at y gwaith o ddadlwytho. Onid yw yn resynus na chawsai rhes- wm deyrnasu weithiau? Parhau yn brysur mae "sub- marines y gelyn a sudda long ar ol Hong yn barhaus. Y syndod er hynny    d i (i?,f-od i yw fod rnwy o longa • *di ^yfod i borthladdoedd Prydain yn ystod yr wythnos ddiweddaf nag a ddaeth mewn unrhyw wythnos er dechreu y rhyfel. Cyfrifir fod difrod y gelyn yn golygu suddo un llong o bob pedwar cant o'r rhai a fordwyant i borthladd- oedd yr Ynysoedd Prydeinig. Ceisia Germani ymesgusodi am suddo y Falaba, trwy ddweud fod Lloegr yn torri deddfau rhyngwladwriaethol trwy osod megnyl ar longau masnach- ol. Hysbysir yn bendant yn ateb i hyn nad oedd fagnel o fath yn y byd ar fwrdd y Falaba. Cyst suddiad y Hong honno lawer i Germani eto, oblegid nid oes ganddi -vsgod esgus o fath yn y byh am yrru llong a gludir for-deithwvr i'r dyfnder. Ac uwchlaw popeth paham y taniwyd ar y truein- iaid diamddiffyn gan geisient fyned i'r badu ar archiad cadben y "submar- ine?" Erys Germani yn hollol ddiesgus yn wyneb y fath ddyhirweh. Unwaith eto dywed Syr m John French nad oes ganddo ddim i'w draethu ynghylch gwaith y fyddin Brydeinig sydd dan ei ofal. Deallwn fod y gelyn wedi gwneud ymosodiadau arnom dydd Iau diweddaf a dydd Gwener. Daw, er hynny, gyfresi newyddion yn barhaus vn dwyn enwau lladdedigion a chlwyfedigion Neuve Chappeile. Erbyn hyn cawn ryw syn- iad am y colledion enbyd gafwyd yno ac yn St. Eloi. Yn ol pob tebig "honno oedd y frwydr fwyaf gostus ymladdwyd gennym. Daeth y newydd fore Llun fod yr yspiwyr Germanaidd a ddihangasent yng Ngogledd Cymru wedi eu dal yn Llanbedr gerllaw'r Bermo brynhawn Sul. Daethant o'r mynydd yn wlyb, yn neWynog, ac yn lluddedig. Gwel- wyd hwy ar y ffordd gan wyliedydd afon a hysbyswyd yr heddgeidwaid.

Aberdar I

Aberdar. Cynhaliwyd cyfarfod chwarter Ysgol Sabothol Soar prynhawn Sul diweddaf. Llywyddwyd gan y Parch. T. Eli Evans, y gweinidog. Cymerwyd ran gan y rhai a ganlyn :—Adroddiadau Tommy Walters, Gwennie Abraham, Mri. W. John Jones a John Thomas. Caneuon: Idwal Gray, Elwyn Gray, Misses Maggie Abraham a Marian T. Gray, a Mr. W. Lewis. Deuawd, Mri. D. A. Lewis a 'W. Lewis. Cafwyd anerchiadau cynhwysfawr ar waith yr Ysgol Sul a dyledswydd yr aelodau at yr hen sefydliad, gan y cadeirydd, a Mr Wm. Walters, arolygydd yr ysgol. Cyf- eiliwyd gan Mr W. M. Lewis, A.V.C.M.

ICymanfaoedd Canu y Pasg

Cymanfaoedd Canu y Pasg. Cenwch yn llafar i'r Arglwydd" sydd orchymyn gariwyd allan yn lied gyffredinol yn rhannau uchaf Cwm y Rhondda Fawr ar wyl y Pasg eleni. Rhyfedd fel y mae y Gymanfa wedi ,n f a wedi symud yr Eisteddfod o'r ffordd ar wyl y Pasg. Yn fore iawn y Llun gwelid miloedd o blant ar yr heolydd ac yn y tram- cars yn mynd mewn hwyl i ganumawl. Ymhen uchaf y Cwm, tan gysgod Pen-Pych, cynhaliodd y Bedyddwyr eu gwyl yng nghapel Blaen-y-Cwm, Dr. T. D. Edwards, Treharris, yn arwain, a chaed hwyl dda ar emyn, ton, ac an- them. Yr oedd yma ol llafur ar y gwaith, oblegid Mr Gwilym Ithel Thomas fu yn arwain y rhag-baratoad. Yn Nreherbert yr oedd yr Annibyn- wyr Seisnig yn cadw eu gwyl, ac wedi dod ynghyd wrth y cannoedd tan ar- weiniad Mr. David Jones, organydd Eglwys Sant Pedr, Pentre, ac i lawr ychydig yn is, ym Methania, Treorci, daeth cynhulliad mawr o Wesley aid Seisnig ynghyd i gael ei arwain gan Mr Howell Howell, ysgolfeistr Treorci. Ac i Gapel y Methodistiaid (Bethle- hem) yr oedd hefyd swn dylifiad y tyr- faoedd fel ar bob Pasg bellach, er ys blynyddau. Mr Jenkin Morris, Caer- dydd, arweiniai yma, a gwnaeth waith ardderchog, a pha rhyfedd hynny, onid yw yn un o blant Trecynon, Aberdar, onid oedd ei annwyl dad yn arweinydd af cherddor da, ac oni ddechreuodd yn- tau ganu yn gynnar yn ei fywyd ar yr offeryn cerdd yng Ngymanfa Dosbarth Hirwain? Nid rhyfedd ei fod yn cael Cymanfa ardderchog yn Nhreorci, lie sydd wedi fwydo ag yspryd y gerdd oddiar dyddiau Eos Cynlais.

Hirwaun I i

Hirwaun. Cafwyd hwyl a bendith yng nghyfar- fodydd Pasg y Tabernacl. Y dewisol- ion oeddent Parchn. Stanley Jones, Caernarfon, a D. J. Lewis, Tumble. Methodd y blaenaf a bod yn bresennol, a llanwyd ei le y Llun gan y Parch. R. M. Rhys, Ystradgynlais (un o blant yr eglwys). Fel y gwyddis, y mae Mr. Lewis yn un o brif bregethwyr yr en- wad, a llanwodd hyd yr ymylon yr holl ddisgwyiadau. Dymunwn i'r cyrddau fod yn adgyfnerthiad ysbryd i'r eglwys a'r gweinidog, y Parch. R. Derfel Roberts. Diolchwn iddynt am ddod a goreugwyr eu henwad yma o wyl i wyl. Dydd Mawrth cynhaliwyd Cymanfa Ganu y Methodistiaid. Cyfansodda yr Undeb Eglwysi Hirwaun, Penderyn, a Phontneddfechan. Yr arweinydd oedd Mr. T. Hopkin Evans, Mus. Bac., Oxon. Y chwareuwyr oeddynt Misses Muriel Davies a Jennet Davies a Mr. Tom Richards, Hirwaun. Cadeiriwyd yn ystod y dydd gan Mri. M. J. Rees a D. Jones, Grove House, Hirwaun, a'r Parch. D. G. Williams, Glyn Nedd. Siaradwyd yn ystod y cyfarfodydd gan amryw, yn eu plith gan Mr Davies, masnachydd o Lerpwl oedd ar ymweliad a'r lie. Rhoddodd y cor a'r arweinydd foddlonrwydd neilltuol, ac mae clod nid bychan yn ddyledus i'r rhai fu a Haw yn paratoi, sef Mri. T. Lewis (Bont), Benj. Thomas ac Abel Davies, Hirwaun. Dydd Sadwrn cymerodd angladd Mrs Martha Morris, Wind Street, le. Claddwyd ei gweddillion yng Nghladd- fa Aberdar. Yr oedd o dueddiadau mwyn a thawel. Y mae ein cydym- deimjad llwyraf a'r ferch, Miss Lizzie Mary Morris, yr hon sydd wedi ei gadael yn ei hunigrwydd a'i hiraeth. Bore Sul bu priod Mr Philip Jones, High Street, farw. Dihocnai oddiwrth yr hyn a elwir y Bright's disease." Dioddefodd ei chystudd yn dawel. Yr oedd yn 63 oed. Cleddir hi dydd Mercher, on d ni fydd yr angladd yn un gyhoeddus. Ni anghofir eu hymddy- ddanion. Daw y rhai hyn fel rhyw ad- sain felus o'r ochor draw.

j Or Pentre i Dreforus I

O'r Pentre i Dreforus. Nos Lun olaf ym Mawrth cynhaliwyd cyfarfod ymadawol y Parch. J. J. Wil- liams, Siloh, Pentre. Fel y gallesid yn naturiol ddisgwyl yr eedd y capel eang yn llawn, a chymysglyd iawn oedd teim- t ladau'r gynnulleidfa. Llywyddwyd gan y Parch. J. Oldfield Davies, B.A., Bethesda, Ton, cyfaill a chymydog agos i weinidog ac eglwys Siloh. j Yr oedd y sedd fawr yn llawn o wein- idogion y cwm o bob enwad, ac ni chafodd y ddegfed ran a honynt gyfleus- tra i ddweyd gair. Derbyniwyd hefyd ryw ddwsin a hanner o lythyrau yn egluro absenoldeib, ac yn mynegu lleddf deimladau amryw Q gyfeillion. i "J.J." Siaradwyd gan yr Henadur E. H. Davies, Y.H., a Mri. Evan Jones a Hugh Davies, blaenoriaid yr eglwys. Lleddf iawn oedd mynegiant y rhai hyn am. fynediad ei gweinidog ymaith,- ac edrychent yn gilwgus iawn i gyfeiriad Cwm Tawe, am ddwyn o'r bobl yno ei bugail ymaith. Doniol iawn fel arfer oedd araith Dr. Thomas, Y.H., Llys-y- graig, un o aelodau parchusaf yr -eglwys; rhyw gymysgfa o Ion a lleddf oedd teimladau y cyfarfod drwyddo. Byddai ar adegau ddagrau gloewon ar ami rudd yn cael ei hysgwyd ymaith gan chwerthiniad sydyn a achosid gan rhyw sylw miniog a ffraeth. Cafwyd gair byr ac i bwrpas gan Mabon, yr aelod anrhydeddus, a da oedd gan bawb ei weld a'i glywed yn siarad cystal ag erioed. Blin iawn oedd ganddo yntau golli gwr mor rhagorol a Mr. J. J. Williams o'r lie. Canwyd hefyd yn swynol gan Mr Tom Bonnell, David Evans, Arthur Wil- liams, ac Arthur Morgan; caneuon Cymreig bob un yn cael ei canu yn dda, ac yn cael banllefau o gymeradwyaeth. Cyflwynwyd gan Mrs. E. H. Davies, ar ran yr eglwys, ddesc dderw dda, ac i Mrs. Williams set o gadeiriau yn taro i'r ddesc. Cyflwynwyd i "Iorwel" hefyd rhoddion priodol gan yr eglwys a'i dosbarth yn yr Ysgol Sul. Daeth y Cymreigyddion ymlaen hefyd i ddangos eu parch hwythau i J.J." j fel un o'i llywyddion, ei phrif-fardd, a'i chyngorydd parod bob amser. Gwnaed y cyflwyniad hyn yn urddasol gan Mil- wyn ac 0. J. Owen mewn areithiau byr- ion, ond yn fflachio gan deimladau cyl hes. Daeth y beirdd ymlaen hefyd i ddangos ei parch, ac y mae cynhyrchion y rheiny wedi ei hanfon i'w nithio gan Frynfab. Cyflwynodd J.J. hefyd i Eglwys Siloh ddarlun da mewn ffram dderw o hono ei hun, i'w hongian yn ystafell y gwein- idog. DerJbyniwyd y rhodd hon hefyd gyda pharodrwydd. Fel yna y treuliwyd cyfarfod ym- adawol "J.J." o Gwm Rhondda, a theimla llawer o honom fel pe bae rhan fawr o'r Cwm wedi ei symud. Ni bu gweinidog erioed a aeth yn agosach i galon y werin. Carai lowyr v. wm Rhondda yn ei holl gysylltiadau; can- odd ei Fagdalen yn nhafodiaeth y Cwm, a chanodd i galon Cymru drwy hynny. Rhoddodd ddarlun da o fywyd y Cwm yn Bachan Bidir yw Dai," ac yr oedd yn dda gan holl Gymru ei gael, a hoff fydd gan Dai bob amser o'r darlun hwnnw. Gadawodd ei ddarlun ar pi yn Eglwys Siloh, ond gadawodd fwy o lawer yn nylanwad ei fywyd pur, a theilwng fel gweinidog a phregethwr da i Iesu Grist. Gadawodd hefyd ar ei ol ysbrydiaeth dda i lenydda, i farddoni, ac i darllen y goreu yn y Gymraeg, a llenyddiaeth oreu'r byd. Blin gennym ei golli, ac fel y canodd Milwyn mewn un pennill Dyna biti mynta'r Shonis, Fod a'n myned i Dreforris, Achos falla cyll a 'i iechyd, Poor Dab mewn lie mor fyglyd." B.D. i ?_

A RG RAFF WAITH

A RG RAFF WAITH. —— Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.

Cymdeithas Gymraeg Gwys

Cymdeithas Gymraeg Gwys Mae dwy gymdeithas Gymraeg yng Nghwmtwrch. Cyferfydd y fam gym- deithas yn Festri Beulah, yn y Cwm Isa'. Cawsom hanes ei gweithrediadau mewn rhifyn diweddar o'r Darian." Cyferfydd y ferch, sef Cymdeithas Gymraeg Gwys, yn y Neuadd Ddir- westol, yn y Cwm Ucha\ Y mae'r ferch yn llawn ynni a brwdfrydedd, ond nid yw eto wedi ennill profiad y fam: daw'r profiad gydag amser, a gobeithio na fydd i'r ynni a'r brwdfryd- edd leihau. Wele grynhodeb o waith y tymor :Darlith ar Bererinion Pa- tagonia," gan Eluned. Dadl ar Y Clnemi,rhwiig Mri. Lewis Williams, Gwys, ac Evan Kinsey-aeth y bleid- lais yn ffafr y cinema. Dadl rhwng y ddau gerddor, Mri. D. Dyfrig Owen a Dd. Davies, L.T.S.C., ar "A yw cys- tadleuaetlt cisteddfodol yn ffafriol i ddatblygiad cerddorolf 'Roedd y mwyafrif yn erbyn cystadleuaeth. Dar- llenwyd papurau-ar "Gyfrestriad" (Conscription) gan y Cynghorydd Lewis Thomas ar Moses gan Mr. Tom H. Williams, Rhiwfawr "Dr. Parry" gan Mr Lewis L. Williams, j Glan-yr-afon Owain Glyndwr" gan Mr David J. Price, ysgolfeistr, Rhiw- fawr "Williams, Pantycelyn," gan Mr Griffith D. Williams; Cadwraeth yr Iaith Gymraeg," gan yr ysgrifen- ydd, Gwilym Twrch; Y Dydd," gan Mr. Dd. Rees, llythyr-gludydd; Dr. Samuel Johnson," gan y llywydd, Mr. Thomas R. Thomas. Nos Wener di- weddaf, i orffen y tymor, cafwyd ym- gomwest, a chanmolir gweithgarwch a medr y boneddigesau fu'n paratoi. Yr oedd yn dda gennym weled yn bresen- nol Mr Roland Thomas, B.A., yr^ rife"- nydd Cymrodorion Aberhonddu, ac un o feibion glewaf y Cwm. Cynrychiolid y fam gymdeithas gan y Cynghorydd ,Sirol James Powell, a Mr J. Dyfrig Owen. Blin gennym i afiechyd luddias y bardd awengar Dewi Glan Twrch i fod yno. Anfonodd nifer o fcenillion a ddatganwyd yn y cyfarfod, a derbyn- iwyd hwy gan y gynulleidfa gyda chy- meradwyaeth mawr.

Hyn ar Llall o Donyrefail

Hyn a'r Llall o Donyrefail. Yn ystod y Groglith braidd ymhob man, mae y gwahanol enwadau naill ai yn cynnal eu cymanfaoedd canu neu eu cyrddau pregethu. Mae gan bob eiR- wad rywbeth er cadw yr ieuenctyd yn eu cartref. Mae yn rhaid cyfaddai fod Ymneilltuaeth yn ymdrechu sobreidd- io'r wlad hyd eithaf ei gallu. Teilwng o'r dysteb a roddwyd iddo oedd Mr. John Llewelyn. Rhoddasai ei wasanaeth yn rhad am yr ysbaid maith o 35 o flynyddau. Efe oedd arweinydd y gan yn Ainon. Penderfynodd yr eglwys ar gwrandawyr ddangos eu gwerthfawrogiad o'i lafur mewn tysteb. Daeth adroddiad o weithrediadau Eglwys Ainon am 1914 i law. Mae clod neilltuol yn ddyledus i'r gweinidog ac i swyddogion eglwys am eu hymdrech ar hyd y flwyddyn. Mae yr aelodau a'r gwrandawyr wedi bod yn selog a ffydd- Ion. Mae yma waith eto'n aros, gan fod y ddyled arosol ar y capel yn £ 520. Ond nid oes un baich yn drwm pan fo'r galon yn y gwaith. Mae marwolaethau yn ami yn Nhon- yrefail fel pob lie arall. Dydd Gwener, y 5ed o'r mis hwn, galwyd Mr W. Lloyd. Red Cow Inn, yn ddisymwth allan o'n plith. Yr oedd Mr Lloyd yn ddyn a gerid gan bawb am ei fod yn barod ei gymwynas ac yn barchus o bawb. Caf- odd Ymneilltuaeth ef yn haelionus iawn. Yr oedd yn nychu er ys dwy fiyn- edd. Cydymdeimlir yn fawr a'i weddw. Dyna yw y siarad heddyw rhwng pob dau. Rhai yn condemni Lloyd George am ymyrraeth a'r cwrw. Dywedodd y meddwyn penaf yn y Ton wrthym y dydd o'r blaen fel hyn :—" Carwn weled pob tafarn yn cael ei gau am byth a'i lanio i fyny a inuck.' Mae yn fwy na thebig y bydd cyfnewid mawr ynglyn a'r tafarnau ar unwaith, a bydd hyn er lies ymhob cwr o'r wlad. TONFAB.