Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

pY DARIAN"; FIEL CYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFODAU. PL ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddiwrth Ysgrifoan- Iddion E!ateddfodau a roddasent ?*Yabysiad yn y Darian eleni, am y 4tO cy?af, yn tystio eu bod yn synnu 1 gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- it dY yru mhoblogrwydd a llwyddiant eu ■eiat^vldfodau. f

PETH OR CYNNWYS

PETH O'R CYNNWYS. Oyfarchiad y Tymor 1 Cyfnodolion 1 Y Rhyfel i Maes Llafur Llenyddol—'Caniadau' John Morris Jones 2 Cartrefi Dyffryn Nedd 2 Pwy ydyw fy mrawd 2 Yr.Arwr Newydd 3 Yr Eglwysi a Phlaid Llafur 3 Y Gymraeg a'r Eglwysi 3 Y Senedd 4 At fy Nghydwladwyr 4 Cymdeithasau 5 Y Symudiad Ymosodol 6 Llerlladron 6 Dewi Harran 7 Catholieiaeth, etc 7 Cerddi N adolig 8 Gwlad y Datguddiad 8

Advertising

MAP Y RHYFEL YNG NCWLEDYDD Y BEIBL YN DANGOS SAFLE A SYMUDIADAU Y GWAHANOL FYDDINOEDD YN EU PERTHYNAS A Theithiau Hanesyddol y Beibl. -0- GANBERIAH GWYNFE EVANS.' Cyhoeddedig gan Gwmni'r Darian, ac i'w gael o'r Swyddfa. Pris 6c.

It iNadolig Llawen

t Nadolig Llawen. Dyrnunwn l en i bob un Dymumvni8,d;Eg i-bob un gohebwyr a'n darllenwyr. Swn dieithr sydd yn y geiriau erbyn hyn, a'r byd yn goch gan waed, a chalonnau mammau a thadau ymhob gwlad yn j friw. Er hynny i gyd y mae, llawenydd nad yw amgylchiadau'r byd yn effeithio .arno-y llawenydd ddaw o dangnef-! edd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall." Y mae balm yng Ngilead, y mae yno Physigwr, a chynhelir myrdd o galonnau briw gan yr ymwybyddiaeth fod Un mwy na brenhinoedd balch y llawr yn teyrnasu. Y mae'r ddaear yn wyn gan eira'r pan ydym yn ysgrifennu a chraethau hagr dwylaw dyn ar ei hwyneb wedi eu cuddio gan wyndra'r nef, a hwnnw fel pe yn ceisio argraffu arnom fod yr Hwn a annwyd i fod yn Dywysog Tangnefedd o hyd yn cofio cenhadaeth ei ras yn y byd. Fe brofir eto dynerwch cariad, swyn gwasanaeth, a maddeuant rhad, yn alluoedd cryfach na phylor a magnel a chledd. Teyrn- &sa lesu Mawr."

At Ein Gohebwyr

At Ein Gohebwyr. Oherwydd y Gwyliau bydd rhaid i ni Sau pen y mwdwl ddydd Sadwrn nesaf "er mwyn cael y Darian allan fel arfer fore dydd Mawrth. Anfoner, felly, newyddion o bwys yn ddioed. Yr ydym wedi gorfod cadw amryw ohebiaethau yn ol yr wythnos hon o ddiffyg gofod, ond byddant yn hwylus i ddechreu llanw y rhifyn nesaf. Ymhlith yr ys- grifau yn hwnnw bydd un ar "Brynfab" gan Richard Basset o Bendeulwyn, un arall gan Henry Lewis oddiar ei wely y11 Cheltenham, ynghyd ag eiddo Llyn- fellydd ar y diweddar Barch. John Rees, Cwmllynfell. Dichon hefyd y teeir peth o feddyliau'r Gol. ar ben tg-ir jWynedd o lafur ynglyn a'r Darian. Drwg gennym orfod cadw'n ol Golofn Moelona yr wythnos hon.

Cyfnodolion

Cyfnodolion. Mae'r Beirniad, Oymru, Y Dysged- ydd, Welsh Outlook, Seren Gomer ar y bwrdd, ond diffyg amser a gofod wedi r h ivystro i roddi'r sylw dyladwy rhwystro i roddi'r sylw dyladwy iddynt y tro hwn. Beth bynnag, car- em alw sylw'n darllenwyr at lith At- Webyd sydd ar dudalen arall. Wedi darllen hono, odid na theimla llawer un åwydd i ddod yn dderbyniwr o un, neu'r oil o'r cyhoeddiadau uchod. Maent bob un o honynt yn gyfoethog, a dy- lasai fQd iddynt lu o dderbynwyr new- y?d Y flwyddyn nesaf. Mae ei IIenydd- iaeth gyfnodol yn glod mawr i Gymru; n amheus gennym er hynny a ydyw CYlnruyndèilwng p'r llenyfidiaeth a adarperir iddi. Dymunwn i bob cy- hoeddia-d Cymraeg, ac i bawb a wasan- aethant Gymru ynglyn a hwynt, flwyddyn Newydd D-da.

CWRS Y RHYFEL

CWRS Y RHYFEL. GAN BERIAH. A OES HEDDWCH? AM BA BETH Y BRWYDRIR? I Y BLAIDD DINIWED, A'R OEN RHEIBUS. CYNHYGIAD GERMANI-EI YSTYR AM WERTH. DYLEDSWYDD LLOYD GEORGE. ¡ Rai misoedd yn ol, yn un o'r ysgrifau hyn yn y Darian, anturiais ddywedyd I y gallesid disgwyl gweled Germani yn gwneud cynnyg am heddwch—ond y I dewisai ei hamser ei hun i wneuthur hynny. Dywedwyd ymhellach y ceisiai pan fyddai yn cynnyg heddwch, ber- swadio'r byd ei bod yn fawrfrydig, yn fuddugoliaethus, ac yn dyoiuno hedd- wch nid yn gymaint er rnwyn ei lies ex hunan ag er mwyn dynoliaeth. Yr wythnos ddiweddaf cyflawnwyd y brot- wydoliaeth honno ymron yn llythrennol. Germani yn Cynnyg Heddwch Dydd Mawrth diweddaf gwnaeth Ger- mani gynhygiad swyddogol i adfer heddwch yn Ewrop. Gwnaed y cyn- hygiad gyda phob rhwysg ac arddang- hosiad yngwydd y byd. Galwyd cyfarfod arbennig o Senedd Germani yn Berlin ac o Senedd Awstria yn Vienna, ac ymhob un o'r ddwy tra- ddodwyd anerchiad ar ran y Llywodr- aeth gan- y CLIxiglie, "ysb bod yn gwneud I un cynnyg mawr am heddwch. Yr un dydd danfonwyd cais swydd- ogol o'r ddwy Senedd at Unol Daleith- iau America, at Yspaen, atyr Yswisdir, ac at y Pab o Rufain, yn erfyn arnynt drosglwyddo cynhygiad Germani i Bry- dain, Ffrainc, Rwsia a'r Eidal. Beth ywlr Cynhygiad? Nid yw areithiau'r dda*u Ganghellor, na'r genadwri swyddogol i'r gwledydd, yn amlygu dim o'r telerau ar y rhai y byddai Germani yn awr yn barod i wneud heddwch. Cynnyg hollol ben- agored ydyw, heb delerau o fath yn y byd mor bell ag y mae y genadwri swyddogol yn myned. Ond yn ol arfer twyllodrus Germani, yn lie nodi yn eglur yr amodau, gyrr hwynt allan yn answyddogol, modd y gallo, pan ddelo rhaid, arddel neu wadu yr hyn a fynno o honynt. Rhaid i ni gasglu felly oddiwrth yr hyn a ddywedir yn answyddogol, beth sydd ym mryd Germani i'w gynnyg fel sail ymdrafod- aeth heddwch. Gellir eu rhannu yn ddau ddosparth, sef yr amodau y gellir bod yn dra sicr y boddlona Germani jiddynt, ac y mynnai eu cael, a'r amodau y byddai o bosibl yn barod i'w gwadu neu eu rhoi o'r neilldu pe y gweliai obaith drwy hynny ddod i gytundeb. Wele hwynt:— 1.—Yr Amodau fcicr. (a) Ymadael o Ffrainc. (b) Adfer Belgium. (c) Sefydlu Teyrnas yn Poland. (d) Dim iawn i'w dalu o'r naill ochr nar,llall. (e) Dychwelyd i Germani yr holl Drefedigaethau Tramor a gollwyd ganddi yn y Rhyfel. (f) Cael cadw ei Llynges Filwrol a Masnachol yn gyfan. (g) Sicrhau na. cha na Lloegr na iltrainc ymosod ar Germani drwy diriogaeth Belgium yn y dyfodol. 2.—Yr Amodau Amheus. (h) Fod Awstria i gael meddiannu Serbia. (i) Fod, Bwlgaria, i gael yn ol oddiar Rwmania a Serbia y tiriogaethau a gollodd, Bwl- garia yn Ail Rhyfel y Bal- kans, bedair blynedd yn ol. (j) Fod Awstria i roi rhyw diriog- aeth (na enwir) i Rwsia yn dal am gymeryd o honi hithau Serbia. (k) Fod Germani i gael bod at ei rhyddid i setlo fel y mynno hi a Twrci. Ystyr y Cynhygiad. Pan ddadelfennir y cynhygion hyn gwelir:— 1. Fod cynhygion Dosparth 1 (o a" hyd "g") yn golygu fod popeth yn cael myned yn ol i'r safle yr oedd pethau cyn dechreu y Rhyfel. 2. Fod cynhygion Dosparth 2 (o "h" hyd "k") yn golygu fod Germani i en- nill rhywbeth sylweddol iddi ei hun drwy y Rhyfel. 3. A chymeryd y ddau ddosparth gyda'u gilydd, golyga nad yw Ffrainc, na'r Eidal, na Rwsia, na Phrydain, i gael ennill dim mewn nac arian, na thir- iogaeth, na diogelwch am y dyfodol, na dim arall, fel till am yr aberthau an- nhraethol fawr a wnaethant mewn eiddo ac mewn bywydau yn ystod y ddwy flynedd a hanner Rhyfel. Cysylltir a'r cynhygiad I Fygythiad Amhenodol ond Ofnadwy I Dywed y (Janghellor yn ei araith os I gwrthodir cynhygiad presennol Germani am heddwch, yna 1. Aiff y Rhyfel ymlaen. 2. Mai Prydain a'i Chynglireiriaid fydd yn gyfrifol am bob tywallt gwaed pellach. 3. Y caria Germani y Rhyfel ymlaen yn ddidosturi, heb ystyriedi dim am hawliau neb nac am y, dioddefaint a achosir felly i ni ym Mhrydain. Ni eill y bygythiad olaf hyn olygu dim ond: (a) Y gyrrir y Zepelins i dywallt tan o'r nefoedd ar bersonau diniwed a di- amddiffyn. (b) Yr ymddyga y suddlongau (sub- marines) yxy fwy ami, yn fwy beiddgar, ac yn fwy creulon nag a wnaethant hyd yn hyn, gan suddo o honynt bob rhyw fath o lestr a igeir yn nofio gwyneb y mor, a hynny -yn. ddirybudd. Dyna ddisgrmad hollol deg o'r safte "fel y mae heddyw ar ol Araith y Gang- hellor a'r cais a ddanfonwyd allan gan- ddo i'r gwledydd. Cyn dod i ystyried pa ateb a ddylid ei roi i'r cynhygiad, gadewch i ni edrych ar Resymau Germani Dros Gynnyg I Heddwch. I: Yn ei araith yn y Senedd yn Berlin, I ac yn ei genadwri at y Gwledydd Amhleidgar ar iddynt ceisio ein per- I swadio i wneud heddwch, noda Gang- hellor Germani a ganlyn ymhlith y cym- hellion dueddasant Germani i wneud heddwch yn awr:- 1. Fod Germani wedi ennill buddug- oliaethau mor fawr ar ei gelynion, yn dal cymaint o'u tiriogaethau, fel y gall fforddio cyhnyg gwneud heddwch. 2. Fod Prydain a'i Chynghreiriaid wedi methu torri trwodd yn Ffrainc, wedi methu gosod troed ar dir Germani, wedi methu yn y Balkans, ac mai methu wnant. 3. Gwthiwyd y rhyfel hwn ar Ger- mani o'i hanfodd gan Ffrainc, a Rwsia, a Phrydain. Gwlad a, phobl sy'n caru heddwch yw Germani, ac yn awr wedi ennill ohoni fuddugoliaeth ar ei gelyn- ion, mae am fod yn fawrfrydig. 4. Er mwyn diogelu hawliau cenhedl- oedd Ewrop yn erbyn rhaib a gormes a thrfichwant Prydain, yr aeth Germani i ryfel. 5. Tosturi mawr dros gyflwr gresynus dynoliaeth, sydd yn cymell Germani yn awr i gynrtyg gweinio'r cledd fel yr atelir yr alanas. Dyna y rhesymau a roddir i'r byd gan Germani heddyw dros geisio am hedd- wch. Gwel y mwyaf diniwed ymhlith darllenwyr y Darian mai gau yw y rhesymau hyn un ac oil, ac mai twyll a rhagrith na welwyd mo'u cyffelyb er- ioed yw yr hyn a ddywed ac a wna Ger- mani yn awr. ) Datguddio'r Twyll. I Er mwyn i'r darllenydd gael y sefyllfa yn glir yn ei feddwl, cymerwn y pump rheswm honedit uchod i'w pwyso a'u mesur yn wyneb ffeithiau. 1. Buddugoliaethau Honedig Ger- mani; Golyga buddugoliaeth fod y buddugwr yn cyrraedd y nod oedd gan- ddo. Edrycher ar igyfres ymdrechion Germani: (a) Amcanodd ac ymdrechodd ennill Paris. (b) Amcanodd ac ymdrechodd ennill Calais. (c) Amcanodd ac, ymdrechodd ennill Verdun. (f) Amcanodd ac ymdrechodd ores- gyn yr Eidal. (d) Amcapodd ac ymdrechodd ennill Riga, ac Odessa, ac hyd yn oed Petrograd yn Rwsia. (e) Amcanodd ac ymdrechodd ores- gyn yr Aifft. (f) Amcanodd ac ymdrechodd ddi- fetha Camlas Suez. (g) Amcanodd ac ymdrechodd fedd- iannu Meusydd Olew Persia, a meddiannu Glannau Mor Persia. (h) Amcanodd ac ymdrechodd ddi- fetha dinas Llundain a'i Zepelins. (i) Amcanodd ac ymdrechodd ddi- fetha Llynges Prydain. (k) Amcanodd ac ymdrechodd ddi- fetha, drwy ei suddlongau, holl fasnach Prydain ar y mor. I Dyna bethau y gwyr y byd yr amcan- odd ac yr ymdrechodd Germani eu gwneud yn y Rhyfel. I Methodd yn yr Holl Amcanion Hyn. Yr unig fan lie y gellir dweyd ddar- fod iddi ennill buddugoliaeth yw yn y Balkans. Mae i'r Rhyfel chwech neu saith ffrynt gwahanol, sef: (1) Ffrainc a Belgium. s (2) Yr Eidal. (4) Y Balkans. 11 (5) Yr Aifft. • (6) Mesopotamia. Gellir rilannu'r ffrynt yn Ffrainc yn ddau, a'r ffrynt yn Rwsia yn dri, a'r ffrynt yn Mesopotamia yn ddau (gan gynnwys y Caucasus). Gwnai hynny ddeg ffrynt. Ar un allan o'r deg ffrynt yn unig y mae Germani wedi ennill buddugoliaeth ddiamheuol-sef y Balkans. Llwydd- odd yn rhannol mewn un hanner o ffryat Mesopotamia, sef ar Fyddin Gardd Eden yn Kut el Amara. Methiant amlwg a fu ar bob fTrynt arali. 2. Ein Methiant Honedig Ni. Gwir nad ydym wedi torri trwodd yn Ffrainc. Gwii" nad ydym wedi gosod troed ar dir Germani. Ond gwir mor wir a hynny yw mai damwain yn unig sydd yn cyfrif am na buasem wedi torri trwodd ar lan- nau'r Somme ddechreu'r mis diweddaf. Ni chaniateir i ni hysbysu natur y ddam- wain honno. Pan ganiateir mynegu ffeithiau ceir gweled pa mor agos y bu Germani i golli'r dydd yn hollol yn Ffrainc. Yr ydys wrthi yn adgyweirio j effeithiau'r ddamwaiii, a bydd German i yn fuan mewn cyflwr mor beryglus eto yn Ffrainc ag ydoedd ddeuffs yn ol. Od oes neb yn ameu yr hyn a ddywed- wyd uchod, gellir ei hysbysu fod Ger- mani ddiwedd Medi diweddaf yn ofni cymaint am safte ei byddinoedd yn Ffrainc fel y ceisiodd am gad-oediad— hynny yw rhoi heibio brwydro o bob tu gyda'r amcan o geisio dod i gyd ddeall- twriaeth am heddwch. Gwrthod eu chais a wnaeth Ffrainc a Phrydain. Dyna ddwy ffaith hanfodol—y ddam- wain, a chais am gadoediad—na chy- hoeddwyd mo honynt erioed o'r blaen, ond if ydynt yn bwysig annhraethol yn wyneb honiad y gelyn yn awr mai meth- iant yw y mdrechion Prydain yn y Rhyf el. 3. "Gwthiwyd y Rhyfel ar Germani." Gwyr y byd mai celwydd noeth yw hyn. 4. Mai Gofal am Hawliau Cenhedl- j oedd. Eraill" gymhellodd Germani i Ryfel. Gwelir maint ei gofal am danynt yn yr hyn a wnaeth a Belgiurn ae a Serbia. 5. Mai Tosturio Wrth Drueni Dynol. iaeth 11 sydd yn cymhell Germani i wneud heddwch yn awr. Gwelwyd maint tosturi Germani yn ei gwaith yn anrheithio Belgium, yn difetha Serbia, yn ymosod o'r awyr ar y diniwed a'r! diamddiffyn yn y wlad hon. Do, gwel- wyd profion o fewn y mis neu'r chwech wythnos diweddaf, canys o fewn y cyf- | nod yna- (a) (3aethgludwyd degau o filoedd o breswylwyr Belgium i weithio fel caeth- ion yn Germani; ymddygwyd yn greu- i lonach tuag at y caethion hyn nag a j wnaed gan weision Pharaoh at Genedl Israel gynt. (b) Gwnaed dros 14,000 o blant bach o dan dair blwydd oed yn amddifaid heb dad na mam yn Rwmania yn unig o fewn y mis diweddaf. Yr oedd Herod gynt yn llai creulawn na'r -Caisar. Lladd y bechgyn bach o ddwy flwydd oed a than hynny ym Methlehem a wnaeth Herod. Lladd tadau a mamau 14,000 o blant bach o dan dair blwydd oed a wnaeth y Caisar yn Rwmania. Tosturi at ddioddefaint dynoliaeth yn wir! A fu Phariseaeth mwy rhagrith- iol erioed [ Gwir Resymau Germani. Gwelir felly mai gau yw y rhesymau a roddodd y Canghellor, i'r byd. Pa beth ynte yw y gwir resymau ? Wele- yr am- j lycaf o honynt:-— 1. Mae gweithwyr Germani yn gwaeddi am heddwch. Gresynus iawn yw eu cyflwr. Gwelai'r awdurdodau fod perigl cythrwfl, ac y gallai hynny ¡ ddatblygu i fod yn wrthryfel os na ellid argyhoeddi'r werin mai amddiffyn ei heinioes ei hun y mae Germani, ac nid ymosod ar eraill y mae. Mae Deddf- Gorfodaeth Genedlaethol mewn grym I yn Germani bellach. Deddf a rydd i'r awdurdodau hawl ar wasanaeth pawb, yn wrryw ac yn fenyw i fyny hyd 65 mlwydd oed. Yr ymdeimlad fod bywyd y genedl mewn enbydrwydd yn unig a gymhellai'r werin i ymostwng i'r ddeddf hon. Geill yr awdurodau bellach ddweyd:— I Cynygiasom wneud heddwch. Gwrthododd ein gelynion. Mynnant ¡ barhau y Rhyfel nes difodi Germani. Rhaid i ni amddiffyn ein bywyd fel f cenedl. Cynorthwywch ni." 2. Maent am ddylanwadu ar y gwled- ydd amhleidgar, er ceisio eu hargy- hoeddi mai ar Brydain ac nid ar Ger- mani y mae y bai am barhad y Rhyfel. Cofier fod y gwledydd amhleidgar yn dioddef oddiwrth y Rhyfel, fel ninnau, er nid i lawn cymaint graddau. Os | gellir taflu arnom ni y cyfrifoldeb, yna enynnir Hid gwledydd amhleidgar yn ein herbyn ni yn hytrach yn erbyn Ger- n)ani. 3. Mae yr adran eithafol yn Germani, y Junkers Milwrol, y Jingoes Prwsiaidd, am gael esgus dros droseddu et,, ymhellach ddeddfau'r gwledydd a dynoliaeth. Mae gwledydd amhleidgar. megys America, wedi gwrthdystio yn erb.vn Ilof ruddiaethau'r mor a'r awyr. Mynn y Junkers barhau y rhai hyn a'u gwneud yn waeth a mwy erchyll nag erioed. Os gellir taflu arnom ni y cyfrifoldeb o wrthod ymdriniaeth heddwch, bydd gan y Junkers esgus os nad rheswm dros ddadleu fod popeth yn gyfreithlawn iddynt wneud er mwyn ein rhwystro i ddifodi teyrnas Germani oddiar wyneb y ddaear. Gan nad pa olwg felly a gymerir, am- lwg yw mai prawf o gyfyngder cyflwr Germani, ac nid prawf o'i ffydd yn eu gallu i orchfygu, ac yn sicr nid prawf o'i mawrfrydigrwydd yw cais presenol- deb Germani am heddwch. Gwerth y Cynnyg Mewn Cyffelybiaeth. Swm a sylwedd cynnyg Germani yw i ni ysgwyd dwylaw, maddeu i'n gilydd a bod yn ffrindiau. Mae fel pe bae, earn leidr wedi torri i mewn i'ch ty chwi, gan fatu'r, ffenestri, dryllio r dodrefn, lladd rhill o'ch plant, gan fwriadu dwyn ohono eich holl eiddo, a'ch einioes hefyd. Yr oedd ganddo bastwn mawr a'r hwn y gwnaeth y di- frod. Llwyddasoch.. i'w gloi allan o'r parlwr, ac o'r gegin oreu, a'i rwysf; -o 1 ddi-ingo'r grisiau i'r llofft. Ond c-y- merodd feddiant o'r gegin fach, ac o'r fynedfa, y passage o ddrws y ffrynt i ddrws y cefn. Ond wrth falu a dryllio eich eiddo chwi, holltodd ei bastwn a gwelai mai myned yn ddiwerth a. wijai cyn hir. Erbyn hyn yr oeddech chw^th- au wedi cael pastwn mwy a thrymach na'i eiddo ef, ac yn parotoi ddod i ddial eich holl gam, gan wybod o hon- och chwi ac yntau y caech y trechaf arno yn y man. Yntau, pan welodd hynny, a ddyrch- afodd ei lef gan alw ar y cymydogion i wrando. Ac ebe fe wrthych Mae yn ofnadwy o beth ein bod ni ein dau yn ymosod ar ein gilydd. Yr wyf yn tosturio am y dioddef a achosir drwy ein bod ni yn cweryla. Gadewch i ni roi heibio ymladd, a bod yn ffrind- ian. Os gadewch chwi lonydd i mi gadawaf finnau lonydd i chwithau. Ni all dim fod yn decach na hynny. Mae fy nghalon yn gwaedu am y dioddef di- raid a achosir drwy ymladd a'n gilydd. Arnoch chwi bydd y bai os aiff yr ym- ladd ymlaen." Ond beth," meddech chwithau, am y golled a wnaethoch i mi a'm teulu, am y ffenestri maluriedig a'r do- drefn drylliedig, a'r plant llofrudd- iedig ? Pa iawn 31 dalwch am y golled hcm r' (Parhad ar tudalen 8).