Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y BOBL IEUAINC

COLOFN Y BOBL IEUAINC. I [Anfoner defnyddiau ar gyfer Golofn hon i'r Parch. J. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin.] GAN DYFNALLT. YR ARWR NEWYDD. Daw'r lief heddyw at feibion y cedyrn. Ni thai neb ond yr iach, y eyhyrog, y chwimwth, y cymwys a'r dewr. Llawer anhepgor y rhaid i filwr heddyw wrtho rhagor yr hen filwr. Anhepgorion amlwg ddigon yw corff iach, cyhyrog; buchedd -lfin, ddiwair, a. chalon ddewr ddi-droi-yn-ol. Gweddi gyson yr eglwys a ddylai fod "Gwared ni oddiwrth ryfel a'i thrueni." Ond gwell rhyfel na. llonyddwch pwdr. Priodol ddigon felly oedd i'r diweddar F. W. H. Myers weddio, "From the torpor of a foul tranquility may our souls be delivered unto war." Onid yw geiriau o'r natur yma yn taro yn ddieithr-gras ar ein clyw-ICgware ni i ryfel." Ym merw'r apel am filwyr y mae llais croew yn galw am arwr newydd. Gair mawr lldn y canol oes- ,oedd oedd sifalri. Yng nghwrs tyfiant Ystori Rhamant trawsnewidiwyd yr hen Arwr Celtig yn Farchog Rhamant. Efe oedd patrwn sifalri. Yr oedd ganddo wisg ddi-rwyll am ei gorff, ac amcan pur yn ei galon. Ai i'r frwydr nid er ei fwyn ei hun, ond i daro o blaid y diamddiffyn a'r gwan. Yr oedd yn gysgod craig i arall mewn drycin, a thrwy fedr a de- heurwydd ei gamp oedd gwaredu'r diniwed o afael y creulon a'r gwrth- rymydd. Nidam enw na golud y rhuth- rai i faes y twrnameint. Dauddyblig ydoedd o ran ei nerth pan ymhlaid iawnder. Troai ei gefn ar foeth a Uawnder a hwyl y palas. Gwell gan- ddo na dim oedd y wyliadwriaeth unig ,ar gwr y gwersyll yng nghenlli'r nos, a mesur cledd gyda'i elyn. Ni pherthyn i Arwr ein hoes n. I braidd ddim o rwysg milwriaeth y dyddiau gynt. Ni fedd farch porth- iannus, gwisg amrywliw, amlwead, ac arfau yn disgleirio yn yr haul; nid oes ohebydd wrth law i groniclo'i wyrthiau. Lwc yn fwy na dim yw cyhoeddi ei gampau a'i orchestion. Mae'r arwr newydd wedi'i alw i'r maes i gyfarfod gofynion .oes newydd. Ac md yw'r newid ar amodau bywyd. yn ei wneud yn llai o wron. Cymerwn gipdrem fer ar ddau neu dri o neill- tuolion y gwir arwr. 1. Y peth cyntaf y rhaid i'r gwir arwr wrtho yw tymer wronol (heroic temperament). Ofer pob diwylliant oddieithr i'r arwr feddu y dymer wronol-y nwyd am frwydr, yr ysfa ymosodol. (Jystal darlun a'r un a ellir ei dynnu o'r wedd yma ar garictor yr arwr yw darlun Bunyan o'r ymladdwr am y palas yn Nhaith y Pererin. Chwi gofiwch fod y Cristion yn cael ei ar- wain gan y Dehonglwr "i fan hyfryd, lle yr adeiladwyd llys gwych a phryd- ferth i'r golwg." "Eithr y Dehonglwr a'i cymerodd ef, ac a'i harWeiniodd ef i fyny tua drws y palas, ac wele yr oedd Iluaws mawr o bobl yn sefyll wrth y drws, megis rhai yn chwenychu mynd i Hewn, ond nis meiddient. Ac yr oedd gwr hefyd yn eistedd yno, yn lied agor, i'r drws, wrth fwrdd, a Llyfr a Chorn Du Ysgrifehnydd I o'i flaen, i ysgrifennu i lawr enwau y 2a.wl a aent i mewn i'r llys. Ac efe a Welai hefyd lawer o wyr arfog yn sefyll ar y ffordd oedd yn arwain i'r drws, i'w ohadw, wedi ymroi i wneuthur cymaint ° rwystr aallertt i'r dynion a fynnent fynd i mewn. A synnu a wnaeth Cristion wrth hyn. O'r diwedd, pan oedd pawb yn cilio yn ol rhag ofn y gwyr arfog, fe welai Cristion wr a wyn- .P.ryd gwrol ganddo, yn dyfod i fyny at yr hwn oedd yn ((istedd yno i ysgrif- ;ennu, gan ddywedyd wrtho, Syr, dod- Iveh. i lawr fy enw i" a phan wnaeth efe hynny, fe welai y gwr yn tynnu ei gleddyf, ac yn gosod helm ar ei ben, ac yn rhuthro tua'r drws, ar draws y gwyr arfog, y rhai a ymosodent yn ei erbyn ef yn gynddeiriog ag arfau angeuol; I tnthr nid allent hwy ei ddigalonni ef mewn modd yn y byd, ac am hynny efe a ymladdodd a hwynt yn ddewr; ac fely, wedi ei glwyfo ganddynt, a rhoddi, i, ryw archollion iddynt, sef i't saw oedd yn ceisio ei gadw ef allan, fe a wnaeth ei ffordd trwyddynt oil, ac a yuiwthiodd ymlaen i'r llys." Dyna bictiwr byw iawn o'r gwir arwr. Palas Mawr yw Bywyd, ,1 ac y mae iddo amryw byrth, ond wrth bob d?ws y mae torf o rai ofnus, ilwfr, meddal yn ymdroi yno, yn ofni y gwyr arfog sy'n rhoi her i bawb a ddel dros y trothwy. Mae pob cyfle mewn bywyd yn hawlio gwroldeb. Dyma un gwyn yn erbyn pobl ieuainc ein hoes ni-fod yn well ganddynt lercian o gwmpas pen y drws na mentro mynd i fewn. Dy- Wedwyd am, lfynyddoedd mewn cy- hoeddiadau a phapurau fed ein gwar- eiddiad diweddar yn troi teip o ddyn ifanc gwlanennaidd, di-asgwrn-cefn allan o ffatri bywyd-teip o ddyn ieuanc gochelgar, hoff o bleser a chwarae, byd da, helaethwych beunydd, yn astudio pob moddion i osgoi bywyd caled, a dod i ymaflael a ffeithiau hagr, celyd, heb fflam yn ei lygaid, heb dan yn ei waed, heb ysfa na grym na menter i ddim mawr. Ond ar rybudd byr, mae'r broffwydoliaeth hon wedi'i phrofi yn un hollol ofer. Mi wn yn dda mai mewn awyrgylch marwaidd, diffrwyth, negyddol y ganed ac y maged ni. Plant Oes Cyfaddawd Ydym, „ c I wedi ein dysgu i fargeinio'n ffordd yn hytrach na'i hymladd. Ychydig a wyddom am ysbryd y croesgadwr-yr arwr beiddgar, mentrus, ymosodol. Ychydig o son a glywsom am neb yn digio ac yn ffyrnigo wrth ddrwg, ac yna, yn ymwregysu ac yn rhuthro ar y gelyn. Nid yw'r diafol hanner mor ddu ag y bu, yn wir, os yw yn bod o gwbl. Nid oes dim yn rhy ddrwg nad oes rhyw gymaint o dda ynddo, na dim yn rhy dda i ryw gymaint o ddrwg fod ynddo. Nid yn ami y tarewir ar ddyn ieuanc heddyw sydd wedi cymeryd rhan mewn crwysgad. Gwell gennym osgoi'r bwl- edi, ac ymladd tu ol i'r gwrych. xr ydym wedi chwerthin pob penboethyn allan o'r wlad. Nid un felly yw'r gwir arwr: nid yw'n chwarae "wic-wiw" gyda pherigl. G ellir dweyd am dano yng ngeiriau George Meredith: A creature matched with strife To meet it as a bride." Aiff allan i'r frwydr a'i einioes yn ei law fel Serfiah un o gedyrn Dafydd gan sefyll yng nghanol y rhandir, igan her- io'r Philistiaid yn y maes agored. Behold the life of ease it drifts, The sharpened life commands its course. Dyma dymer y gwir arwr: dyn a'i dymer yn wronol, yn ymosodol, yn fen- trus, yn feiddgar, yn chwennych y man- nau celyd, ac nid yn eu ho,g-oi. Llawer a sonir heddyw am yr athroniaeth a ddysgir gan un o broffwydi mawr Ger- mani-Vitalism-dynion yn ymysgwyd, yn dihuno i ofynion byw, yn cymeryd amcan-gyfrif o'r amgylchiadau, yna, yn spardynnu eu grymusterau, a ffwrdd a hwy i fuddugoliaeth neu i ogoniant. Mae Duw wedi ymddiried pob achos mawr i ddyniori sydd yn game. "I can- not consent to fail when y mind is set on a thing." Mae angen yr ysbryd yma ar ddynion ifane heddyw. Gwarad- wyddus o beth yw mai mewn rhyfel yn unig y darganfyddir y gwronidl. Ysbrydiaeth y gwir ai-wr yw ymdeim- lad o gymrodiaeth (the inspiration of comradeship). Dywedodd un awdwr galluog yn ddiweddar mai anhepgor mawr milwriaeth ddiweddar oedd medr mawr mewn arwain (great generalship) a chyfathrach dda rhwng y milwyr (good comradeship). Dyna pam yr ydym yn hoffi darlleniad Dr. Moffat o eiriau Paul wrth Timotheus, Ymuna a rhengoedd y rhai sy'n dioddef." Yr ymdeimlad yma o agosrwydd i'w gilydd, cyfeillgarwch, brawdoliaeth, undod, cymrodiaeth yw ffynhonnell gryraf y gwir arwr. Pam cerdd milwyr Prydain a gwledydd ereill i'r gad tan ganu gan chwerthin yn wyneb y tân 7 Nid am fod y mwyafrif o honynt yn gw bor gwerth yr ideal sydd iddynt, ond oher- wydd fod ysbryd yr arwr yn lioBgi o galon i galon, ac yn asio tynged y naill yn y llall. Yr ymdeimlad yma o gwm- niaeth yw un o'r hanfodion i fagj ar- wriaeth. All dyn ddim bod ar ei oreu ar ei ben ei hun. Mae'n hawddach marw mewn cwmni na marw ar ein pen ein hunain. Ewch yn ol i un o ystoriau mwyaf clasurol y byd-ystori cyfeillgarwch a chwmniaeth Dafydd a Jonathan. Y peth sydd yn rhoi anfarwoldeb i alar- nad Dafydd yw ei hiraeth a'i anwyldeb o Jonathan—" rhyfeddol oedd dy gar- iad tuag ataf, tu hwnt i gariad gwrag- edd." Ni ysgrifennwyd dim yn fwy aruchel na hyn. Ar lawer ystyr mae cyfathrach Tennyson a Hallam yn debig yn In Memoriam. x I He was rich where I was poor, And he supplied my wants the more, As his unlikeness fitted mine, Whatever way my days decline; I felt and feel, though left alone, His being working in my own, The footsteps of his life are mine."

Advertising

SARZINE BL009 MIXTURE. ,I ORDEN IACH A GWAED PUR.- Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi ga. groen afiach, ysfa, pimples, toriati (illan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur. mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix ture' gan y Druggist nesaf,atoc:b,l/li a «/0 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad TРHUGH DAVIES, Chemist. MAOHY.N LLETH.

I Yr Eglwysi a Phlaid Llafur

I Yr Eglwysi a Phlaid Llafur. I GAN MYRDDIN. Rhoddodd Twm o'r Nant gyngor i Thomas Charles o'r Bala, rywdro, gan ei annog i edrych ar ol y defaid tra y byddai yntau yn edrych ar ol y bteiddiaid. Cyfeirio yr oedd Twm o'r Nant, wrth gwrs, at ddefaid coll- edig y gorlan ysbrydol ac at fleiddiaid cymdeithas. Mae Cymru, byth oddi- ar hynny, wedi rhoi ei bryd ar achub y defaid; eithr ychydig iawn o sylw a dalodd i'r bleiddiaid. Un o'r dosbarth olaf a ddywedodd wrth gyfaill, yn ddiweddar, ei fod wedi gwneud can mil o bunnau aollan o'r rhyfel, gan ychwanegu "Y r wyf eisoes wedi syl- weddoli bod f ARIAN YN GOLYGU AWDURDOD A DYLANWAD, ac yr wyf yn bwriadu gwneud can mil arall! Ni bu ymosodiad yr Eglwys Gristnogol ar gyfundrefn a oddef peth fel hwn, ond eiddil a gwamal. Ni ofalodd nemor ddim am ddiogelwch tymhorol defaid cym- deithas, y diamddiffyn a'r anghennog. Braidd na ddywedwn iddi edrych ar dlodi fel peth dymunol a chysegredig, gan gysuro'r tlawd mai eiddynt hwy yw Teyrnas Nefoedd, ac mai haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw. Mae arweinydd pybyraf Cymru wedi cysegru eu doniau i'r gwaith o oleuo taith y pererin ysbrydol, ond prin y mae Cymru wedi codi un diwygiwr cym- deithas i arwain pererinion diwyd- iannol trwy anialwch y hiyd hwn. Gwyddom fod Cristnogion cywir heddyw yn coleddu'r farn na ddylai'r Eglwys ymyrryd mewn cwestiynnau diwydiannol rhag iddi gael ei llygru, a dyna draddodiad yr eglwys er's oesoedd lawer. Credwn, er hynny, ei bod yn hen bryd i Gymru ddymchwel y traddodiad am byth. Os yw Cymru am gadw'i gwerin yn WERIN GREFYDDOL « I bydd yn rhaid iddi ymaflyd yri fwy effeithiol yn nrygau cymdeithas, ac ymdaflu a'i holl egni i'r frwydr rhwng Llafur a Chyfalaf; onide, aiff y Deheudir mor anghrefyddol, a Ffrainc. Diflannodd y farn gyfeiliorn- us mai nid peth da yw i Gristnogion ymyrryd a phethau gwladwriaethol a chvmdeithasol. Mae'r werin heddyw'n werin bleuedig, tra y mae'r eglwys yn aros yn y tywyllwch. Nid yn yr Eglwys, eithr ymhlith Anffydd- wyr ac yn y Blaid Lafur y clywir y cwyn yn erbyn gorthrymder heddyw. Credwn y dylai'r eglwys ymuno &'r blaid honno yn ei hymgyrch yn erbyn YR ANGHYFIAWNDER A'R CAMWRI sy'n ffynnu'r dyddiau hyn. Nid yn yr eglwys, ychwaith, y clywir llais rhvddid. Oni ddylai Anghydffurfiaeth, o bob cyfundrefn eglwysig, godi ei llais o blaid rhyddid, Er mai Cymru ydoedd y wlad grefyddolaf ym Mhrydain Fawr, ac, hwyrach, yn Ewrop, ofnwn fod crefydd yn colli ei' afael ar y werin, yn enwedig yn y Deheudir, oherwydd diffyg diddordeb Anghydffurfiaeth mewn cwestiynnau diwydiannol. Ymladdodd am hanner canrif dros Ddatgysylltiad-neu gyd- raddoldeb crefyddol; beth a wnaed ganddi dros gydraddoldeb arall sy'n bwysicach o lawer i'r cyffredin o feibion llafur. Ni chollodd y werin ei ffydd, hyd eto, ni a hyderwn, mewn Cristnogaeth, os collodd ran helaeth o'i ffydd yn yr eglwys. Ar yr un pryd bydd yn rhaid i Anghyd-, ffurfiaeth sefyll yn gadarnach dros iawnderau dyn; onide derfydd fel cyfundrefn yn haeddu byw. Gwerinol ydyw yn ei tharddiad a'i hanes, ac o herwydd hynny disgwyl y werin lawer mwy oddiwrthi nag oddiwrth un gyfundrefn eglwysig arall. ■«. ———9

NI ODYCHWEL DDOEI

NI ODYCHWEL DDOE. I Er arian ac er eiriol-er wylo, Er alaeth beunyddiol; Er gwaeddi yn dragwyddol, Ni ddaw i neb Odoe yn 61. PWY YW'R AWDUR. I

Advertising

Y Feddygfnlaeth oreu at ddolurlau yr Afu a'r Cylla yw BEE'S BILIOUS BEANS. Peidiwch -a chwvno. ond anfonwqh heddyw am y feddysr'ni.-ieth ragorol hon. Mae y gost 0 fewn ty: iaedd pawb. Dim ond 1/3 a 2d. am y post. Don't complain that your Liver is wrong when the l ight medicine is at hand. You will feely 10 years younger after a few doses. Try them and see for yourself. Hundreds of men and women testify to the wonderful good this medicine has done them.. Agent for South Wales, J. HARRIS, PhiCh.. M.P.S., Major Phar jiacist, YSTRADCYNLAIS. BEES BILIOUS BEANS Cures Headaches, Constipation^. Indiges- tion, Dizziness, Piles, Sallow Complexion, Female Weaknesses, Pains in the Back, Pimples, Loss of Appetite, and gives tone to the whole system.

I Y Gymraeg ar Eglwysi

I Y Gymraeg a'r Eglwysi. r (Parhad.) Peryglon Eiddilwch Ysbrydol. Mae aelodau ieuainc yn cael eu der- by n i fewn i'r eglwysi—heb iawn ddeall ystyr eu perthynas ag Eglwys y Duw byw: Ac addefwyd wrthyf yn ddi- wetldar gan frawd rhagorol-ddarfod iddo dderbyn rhwng 20—25ain o aelod- au ieuainc heb fod un o honynt yn llwyr ddeall y Cyfamod Eglwysig. Pa gyflwr a ddisgwylir gael ar grefydd gwlad, os a peth fel hyn ymlaen yn ddi- -N i d eglwys o atalfa am ennyd eto. Nid eglwys o aelodau deallus a fyddant ond clym- ) blaid a dim yn eu dal wrth eu gilydd I ond clytiaith o Saesnig afler. Coiled Doniau yr Eglwys. I Derbyniais dro yn ol nifer dda i'r eglwys o bobl ieuainc o'r ddau ryw- rhai rhagorol; gwnant wasanaeth da yn ffyddlon ac ewyllysgar, ond nid oedd ond un a allai gymeryd rhan mewn cwrdd crefyddol yn ddibrofedigaeth mewn Cymraeg. Rhaid i'r gweddill fod yn fud yn yr eglwys, neu feddu digon o wroniaeth yn nghanol awyrgylch Gym- raeg i dorri trosodd a gweddio yn Saesneg, ac y mae mwy o anhawsder yn hynny nag a dybir gennym yn ami. Trafferth Swyddogion. I Daw hen ddiaconiaid aelwir i arwain yng ngwaith yr eglwys yn fuan i deim- lo, fod yn rhaid bod yn rhai dwy-ieithog cyn gellir cyfarfod a gofynion eu sydd yn y cyfnod hwn. Ac nid anaml y dlaw y gweihidog—os yn ieuanc, meddal a di- benderfyniad ar gyfer anawsterau cylch astrus-aiff i chwilio am gylch o wasan- aeth yn nes i fachlud Haul, am fod yno awyrgylch mwy Cymreig a llai o adfyd Trafferth yr Iaith." Mae'r ymlithr- iad wedi mynd yn un pechadurus mae hunan-laddiad ar raddeg eang yn mynd ymlaen ar foes, disgyblaeth, a chrefydd. Ymleda difrawder, cynhydda troseddau ymhlith plant, cedwir o'r Ysgol Sul, llenwir Siopau yr Italiaid, a gwel perchnogion Cinema a phob gelyV a ymbesga ar ddifrod ein nerth ei gyfle i hudo ein gweiniaid, ac i lethu delfrydau goreu ein gwlad. Ie, mae'r Babaeth yn ein gwylio, ac wedi darganfod na ddarfu i Grefydd y Sais f erioed gymeradwyo ei hun i'r llinach Gymreig," ac y maent yn darogan eu bod am argraffu Llyfrau Cymraeg, ac am fanteisio ar y difrod sydd yn ein plith i'n hadfer yn ol i fynwes yr Hen Babaeth; ie, pe y cymerai hynny gan mlynedd o amser," gwel Catholic Times Awst 25ain, ,1916. Mae gennym ninnau garedigion sydd yn gwylio pethau. 0., M. Edwards, M.A., er engraifft: Nod uwchradd yn y dechreu—fedd y ban Genfydd bwynt ei heisieu; Am wneud ei h61 mae'n deheu Ymgyrraedd am y goreu. Graff arwr, ymgorfforiad-o finiog Elfennau chwyldroad; A gwir d6g gawr diwygiad, A manwl wr mwy na'i wlad." Credaf yn gryf Ei Bod yn Llawn Bryd 1 i gael mudiad mawr cenedlaethol er rhoi bri diddorol ar y Gymraeg-a ,i hadfer i'w lie yn y bywyd Cymreig. ,N id yn unig i dderbyn moes-gyfarchiaqau, dilynwyr gwyliau ac arddangosiadati, ond parch ac anwyldeb dyddiol. Rhaid ei gorseddu yn yr Ysgol Ddyddiol o'r babanod i fyny, a chael lie teilwng i'r Famiaith i gael ei dysgu, nid rhyw gor- nel oer am awr a hanner neu ddwy awr yr wythnos. Mae cynllun Belgium yn annhraethol decach na chilgwthiad estronol fel ga'r Gymraeg yn Ysgolion Cymru. Rhaid cael yr etholaeth i ddewis dynion fo mewn Ilawn gydymdeimlad a'n gwaith a'n hanes a'n delfrydau fel Cymry i'n cynrychioli ar II Y Byrddau Cyhoeddus. Rhaid cael yr athrawon, a Cholegau Hyfforddiadol yr Athrawon, yn iach ar y pwnc, mewn trefn i roi addysg i' r athrawon ieuaine yn y Gymraeg, ac nid eu dadlwytho wrth ddrysau swydd- feydd Pwyllgorau Addysg, heb erioed gael un wers mewn Cymraeg. Rhaid i Golegau yr Enwadau Cref- yddols roddi gwersi mewn Cymraeg. Rhaid darparu athrawon i'r Ysgol Sui a'u dysgu mewn Cymraeg. Rhaid aml- hau Cymdeithasau Cymraeg ymhob ardal ac Eglwys. Rhaid cael cenhad- aeth fawr er cyffroi teuluoedd y wlad at eu gwaith-ag y maent wedi bod yn rhy hir heb synio ei bwysigrwydd. Rhaid rhoi darllenyddiaeth gyfaddas a swynol o'u blaen, a'u cymhell nid er ei mwyn ei hun yn unig ond er Crist a'i achos i'w darllen. Chwarae plant yw colli amser > i son am sefydlu Cadair Dduwinyddol yn y Brif Athrofa tra y mae'r Ysgol Sabothol, prif athrofa Cymru, mewn perigl enfawr o wrth drafferth yr iaith. (I barhan.),

Advertising

Bywyd 0 Drallod. PAH AM P 'Does braidd dim ao sydd ynaoholl mwy o Drallod, Pryder a Phoen na Chlefydav y Croen, y Cnawd, yr Asgwrn a'r Cymalau. Fe deimllr eemwythad buan drwy ddefnyddio GOMER'S BALM. Wedi cael fy mhoeni am fisoedd gan Eczema a J Llygriadau yng ngwahanol ranDhU *S? < o'r corff, yn peri ? .^qB poen a thrallod 1 "JlS lawer. Methu J .m cael lleshad er po- j peth. Wedi arfer Comer's Balm" .if mi gefais wellhad 'OKE buan. IIAL Mae Gomer's Balm yn awr yn cael ei gydnabod drwy yr holl wlad fel y meddyglin mwyaf effeithiol a llwyddiannus. DEFNYDDIER Gomer's Balm At bob math o Groen Darddiant, Clwyfau, Briwiau, Llosgiadau, Ysgaldan- au, Llid y Croen, Coesau Clwyfus, Vari- cose Veins. Gomer's Balm At Eczema, Cracb a Bryntni YI8 mhennau Plant, Llygriadau, Ysfa Phoethni y Cnawd, Benywod a Plant. Gomer's Balm At y Piles, Scurvy, Cyrn Llidus, Gouty Joints, Cymalau Poenus, Rheumatism yr Aelodau, Lumbago. Fe ddylai y Feddyginiaeth hon gael ei chadw a'l hymarfer ym mhob teuiu. "Fe a rodda derfyn ar bob trallod." Gofynner am Gomer's Balm, a mynnwch weled yr enw yn llawn ar y box, ac enw Jacob Hughes." Heb hyn twyll ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am 1/3, 3/ 5/- (gan gynnwys y War Tax). Neu danfoner 1/4, 3/2, neu 5/3 mewn Stamps neu P.O. at Jacob Hughes, M.P.S., L.D.8., Manufacturing Chemist, Pen&rth, Cardiff. ATHROFA ABERYSTWYTH (Un o'r Colegau ym Mhrifysgel Cymru) Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREUA'R Tymor newaf ar Ddydd Mercher, Hydref 3ydd, 1917. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaeth&u (amryw o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr ar- holiad le yn Aberystwyth ar y 17eg o Fis Medi, 1917. Am fanylion pellach, ymofynner A- J. H. DA VIES, M.A., Cofrestrydd. j| t.- f* A PAGE Book about Herbs and how to use Ote them. Post free. Send for one. Trimnell, Tne Herbalist, 144 Richmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that you geG" Estab lishel 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine.-Trimnell, The Herbalist, 144 Rich- mond road, Cardiff. T RIMNELLIB PILLS AND POWDERS JL have cured thousands. Why not you ? See that you get Established 1879 on every label. -Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond Road, Cardiff. Agents wanted. LAb; Foe I BLANCHARO'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, Sc., they speedily afford relief and neve pfail to alleviate all suSeriat; They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple; h. s, tilanchard's are the Bast of all Pills for Woton. I' Soldi n boxes, 1/11. by BOOTS' Branches, aad all Chemists, or post free, same price, frolD LESLIE MARTYR Ltd., Chemist* 3 DALSTON LANS, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrates Book, containing Valuable Information how aD Irregularities and Obstructions may be enfcirelj avoided or removed by simple means. Recom- snended by eminent Physicians, as the only !aIel Sure and Genuine Remedy. Never Fails, rh.?.d. of Testimonials. Established 186% MR. PAUL BLANCHARD, w>?*ioont House, Dalaton T -an8, T-ondo*.