Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 4 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

Ac yn ail yr wyf am i chwi i wneud mwy o ymdrech nag a wnaethoch o'r blaen i werthu papurau a llyfrau Cym- raeg. Ond tybiaf eich clywed yn dweyd fod yn rhaid i chwi werthu yr hyn a elwir am dano. Fy ateb yw eich bod chwi yn gyfrifol i raddau am ohwaeth eich cwsmeriad, nad ydych yn y gorffennol wedi talu digon o sylw i'r hyn ddaw o'r wasg Gymeig, a'i bod yn ddyletswydd arnoch fel Cymro a Christion i ddod a llyfrau a phapur- au da Cymru o flaen llygaid y bobl a'u hannog i brynu ac i ddarllen yr hyn a'i dyrchafai yn ogystal a'u diddori. Efallai yn wir na wyddoch am y nifer fawr o lyfrau iach eu hys- bryd a diddorol eu cynnwys a ddaeth O' r wasg Gymreig yn y blynyddoedd diweddaf. Er mwyn i chwi godi yn eich cwsmeriad awydd i brynu a darllen cylchgronau a llyfrau Cym- raeg yr wyf am i chwi i ddarllen eich hun yn ofalus a mynnu gwerthu cynnifer ag a alloch o ddau lyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Teimlaf yn ddibetrus y bydd hyn yn symbyliad mawr i werthiant cylchgronau a Ilyfrau Cymraeg. Y cyntaf yw "DYSGU'r GYMRAEG," 6cH. Gellir ei gael oddiwrth y Cynghorwr W. Lewis, Morlais Villa, Penydarren, Merthyr Tydfil. Yr ail yw "A Nation and its Books, cyhoeddedig gan Fwrdd Addysg Cymru (is.), ac i'w gael oddiwrth Messrs. Wyman & Sons, 54 St. Mary Street, Cardiff. Rhoddir yn ddiameu yr elw arferol L lyfrwerthwyr. Er eich cynorthwyo eto ymhellach awgrymaf restr fer o gylchgronau a llyfrau na ddylech ar unrhyw gyfrif esgeuluso eu cadw mewn stoc a'u hargymell. Y mae pob un o'r llyfrau a awgrymir yn ddi- ddorol (darllenais hwy drwyddynt bron i gyd fy hun), ac y mae gennyf achos i gredu fod pob un o honynt yn boblogaidd ac yn gwerthu 1 yn dda. Cewch y manylion am danynt yn y ddau lyfr y cyfeiriais atynt. Papurau a Chylchgronau Cymru'r Plant, Cymru, Y Geninen, Y Beirniad, Y Darian, Y Faner, Y, Brython, a'r Cymro, yn ogystal ag wythnosolion a misolion y gwahanol enwadau., Llyfrau i'r Plant Lleiaf: Cyfres y Tylwyth Teg, Cyfres y Cymry Bach, Y Tair Arth, Geneth Fach y Clogyn Coch, Cyfres Plant Bach y Gwledydd Pell (i gyd yn geiniog neu ddwy yr un), Cyfres Ysgol y .Plant Bach, gyda darluniau lliwiedig (Hughes a'i Fab, Wrexham). I blant mwy Hen Chwedlau, Marchogion y Ford Gron, Teulu Bach Nantoer, Chwedlau Traddodiad a Hanes y Cymry, Ys- traeon Hanes. I blant o'r deg i'r pedair-ar-ddeg oed Cant o hanesion difyrus, Ystoriwry Plant, Chwedlau Cymru Fu, Goronwy ar Grwydr, En- wogion Cymru, Llyfr Nest, Llyfr Del, Yr Ysgol Gymraeg, Scholars' Dictionary English-Welsh and Welsh- English. O'r pedair-ar-ddeg i fyny at unrhyw oedran: Dirgelwch Dig, Mynd i'r Mor, Llyfrau Blodau, Dringo'r Andes, Plant yr Haul, Hunangofiant Tomi (yn iaith y Gogledd), Y Pentre Gwyn, Antur- iaethau Robinson Crusoe, Cit, Dir- gelwch yr Anialwch, Nofelau Daniel Owen, Cerrig y Rhyd, Brenin yr Afon Aur, O'r Aifft, Tro yn yr Eidal, Anturiaethau Cymro yn Affrica, Tro trwy'r Wig, Clych Atgof, Cartrefi Cymru, Dr. Griffith John, Arwr China; Tro i'r De, Tro trwy'r Gogledd, Clawdd Terfyn, Y Bydoedd Uwchben, Yr Iaith Gymraeg (Tecwyn), Geiriadur Spurrell, Cyf- ystyron y Gymraeg, Cwrr y Lien, Y Ffenestri Aur (Anthropos), a Chrefydd a Bywyd gan, Professwr Miall Ed- wards (Hughes, Dolgellau, 3s. 6d.), ynghyd a'r ddau lyfry cyfeiriwyd atynt eisoes—Dysgu'r Gymraeg ac A Nation and its Books. Aeth y rhestr yn hir cyn son am farddoniaeth a chan y cewch awgrymiadau ynglyn a hyn yn y ddau lyfr y cyfeiriais atynt eisoes. Gwnewch sylw arbennig o'r llyfrau hwiangerddi, adroddiadau, a chaneuon gwerin a gymeradwyir yno. Ac wedi i chwi fynnu stoc hysbys- wch y ffaith yn eich ffenestri, yn y papurau lleol, ac yn y Cymdeithasau Cymreig, fel y daw Cymry'r gymdog1 aeth i wybod BLE I EDRYCH AM LYFRAU CYMRAEG. Rhyfedd mor vehydig- o lyfrwerthwyr Cymru sydd yn hysbysebu mewn papurau Cymraeg. Ac os ydych am hysbyseb yn ddidal danfonwch i mi (yng ngofal y Golygydd) garden yn dweyd pa bapurau a chylchgronau Cymraeg a werthir gennych, a rhodd- af eich enw a'ch cyfeiriad, etc., yn y rhestr y bwriadaf ei rhoi fel atodiad ar ol y llythyrau os cyhoeddir hwy yn llyfr. Dywedwch gyda llaw os ydych yn barod i geisio gwerthu y llyfr. Ac yn awr am air atoch fel Cyhoeddwr. Bu cyhoeddwyr Cymru yn brysur iawn yn y blynyddau di- weddaf yn .argraffu. llyfrau destlus a diddorol. Y mae eisieu llanw llawer hwlch eto. Peidiwch a phetruso gofyn gair o gyngor amben waith oddiwrth wyr jy'n deall anghen- rheidiau'r bobl yn (y pethau hyn Darllenwch erthygl yn Y BEIRNIAD I. I am Hydref, 1916, ar Ragadolygiadau ar lyfrau yr hoffai '"llawer weld eu cyhoeddi. Gresyn na fuasai rhywun ohonoch yn barod i ymgymeryd a chyfres o lyfrau (ar raddfa lai) tebyg i'r People's Books (Jacks), Home University Library (Williams and Norgate), neu'r "Everyman books (Dent). Hapus iawn fyddai helaethu Cyfres y Fil i gynnwys llyfrau ar athroniaeth, gwyddoniaeth, ac yn y blaen. Cewch awgrymiadau am aughenion pellach yn y mater 0 lyfrau hefyd yn "Dysgu'r Gymraeg." Y mae angen mawr am lyfrau diddor- ol a thipyn yn gyffrous ond iachus eu ton i fechgyn, a ffugchwedlau chwaethii's a diddorol i ferched ieuanc, ilyfrau darluniau diddorol i'r plant lleiaf, a llyfrau ar rifyddeg, daear- yddiaeth. a phethau creilt ddysgir yn yr ysgolion. Ofnaf nad ydych yn dangos digon o fenter yn eich busnes. Nid ydych yn hysbysebu digon o'ch nwyddau, nac yn danfon digon o lyfrau yn rhad i bobl all eu cymeradwyo. A da fyddai i chwi fabwysiadu yr orgraff newydd yn eich llyfrau os nad ydych eisoes wedi gwneud. DEFNYDDIWCH BAPUR GWELL nag a wnaethoch yn y gorffennol ac ymdrechwch berffeithio'r darluniau a chryfhau rhwymiad y llyfrau. Ac fe fyddai yn hynod o werthfawr pe bai rhyw Gymro yn gwneud dros bapurau a llyfrau Cymru fel y gwnaeth W. H Smith dros lyfrau Saesneg, sef sefydlu busnes mewn mail canolog i ddosbarthu yr hyn a ddaw o wasg Cymru, fel y medr pob llyfrwerthwr wybod am un man lie y gellir caêl popeth a gyhoeddir yn y Gymraeg. Byddai.hyn yn symbyliad anghyffredin i werthiant llyfrau a phapurau Cym- raeg.—Yr eiddoch, AT\VEBYD. ¡ ATWEBYD. AT Y DARLLENWYR. I Diolchaf yn gynnes i bawb sydd wedi ysgrifennu ataf yn barod. Ond ni chefais chwarter digon o addewid- ion hyd yn hyn i'w cyfreithloni i fentro ar argraffu'r llyfr. Hoffwn gael gair oddiwrth lawer iawn o honoch. Bydd- af yn ddiolchgar iawn am bob awgrym i gyfeiriad perffeithio'r llythyrau. Hoffwn i'r gyfres fod yn gyflawnach a mwy awgrymiadol os ymddengys fel llyfr.—A.

Ddrllenwyr Aberdar Gwnewch Nodiad

Ddärllenwyr Aberdar, Gwnewch Nodiad. Cynllun da yw gwneud nodiad o un- rhyw beth sy'n werth ei gofio. Mae neges wedi ymddangos ym mhapurau Aberdar er's llawer o flynyddoedd bell- ach. Dichon eich bod wedi darllen rhai cannoedd. Os nad ydych, eto, wedi elwa oddi- wrthynt, gwhewch nodia,d gofalus o'r hyn a ganlyn. Nis gall ei ddurifwch lai nag apelio atoch. Mehefin 15fed, 1915, dywedai Mr. E. Evans, 4 North Avenue, Gadlys, Aber- dar: "Ryw ddeg neu un-mlynedd-ar- ddeg yn ol cefais ddolur drwg yn yr ar- ennau. Yr oedd y poenau yn fy nghefn fel gwaniadau, ac am beth amser bu raid i mi roddi fyny weithio. Yr oedd y dwfr yn llosgi ac yn cynnwys gwael- odion grafelaidd. Ar ol i fedaygin- iaethau eraill fethu anogwyd fi i roddi prawf ar beleni Doan at boen cefn a'r arennau. Cefais y rhai hyn yn effeith- iol o'r dechreu, a gwellodd ewrs o hon- í ynt n'n hollol. Ni chefais y fath ymos- odiad drachefn,—dim ond cyffyrddiadau weithian pan gawn annwyd, ond yr wyf yn cadw peleni Doan o hyd, a gwnant fi'n iawn yn fuan. Yr wyf wedi eu cy- meradwyo i gryn lawer o bobl, ac y mae yn deL" gennyf wneud hynny, am fy mod yn gwvbod eu gwerth. (Llofnodwyd) E. Evans. Ebrill 1af, 1916-yn agos i ddeuddeg mis yn ddiweddarach, dywedai Mr. Evans: "Mae peleni Doan yn rhagorol ac yn fy nghadw gyda m gwaith. Gwell- hasant fi flynyddoedd yn ol, ac ni pheid- iaf byth a'u canmol. Yr wyf yn eithaf da yn awr." Rhyddha, peleni Doan at boen cefn a'r arennau yr arennau a'r bledren megis ag y rhyddha meddyginiaethau arferol yr ymysgaroedd. Gyrrant allan y surni dyfrol sydd yn gymaint achos o boen cefn, gwynegon, a lymb.ego, a rhydd- hant y dwfr a gronnodd mewn achosion o ddyfrglwyf ac ataliad. Y maent yn hollol ddiogel i'w cymeryd ynihob am- gyl,phia,d, a cheir tyst-ysgrif purdeb gyda phob blwch. Oddiwrth, yr holl fasnachwyr, neu 2s. 9c. 'r blwch oddiwrth Foster Mc- Glellan Co., 8 Wells St., Oxford St., London, W. Peidiwch a gofyn am bel- eni at boen cefn neu'r arennau,-gofym- nwch yn behdant am beleni Doan at been cefn a'r' arennau, yr un fath ag a gafoddMr. Evans.

Colofn y CymdeithasauI ICymraeg

Colofn y Cymdeithasau Cymraeg. CYMRY CYMREIG ABERTRIDWR. Nos Fercher, Rhagfyd 6ed, cafwyd ddarlith gan Mr. Robert Morris, King. Street, Abertridwr, ar "Dewi Havesp." Y cadeirydd oedd Mr. Win. Margam, Abertridwr. Yn ei araith rhoddodd ef dystiolaeth uchel am gydymdeimlad eyinies y darlithydd a phopeth Cym- reig a'i barodrwydd bob amser i wasan- aethu ei iaith, ei wlad, a'i genedl. Yna galwodd ar Mr. Morris at ei waith. Anawdd iawn ydyw gwneud cyf- iawnder a darlith mor rhagorol. Bodd- lonwyd pawb tuhwnt i'n disgwyliadau. Siaradwyd gan y Cymrodyr Dewi Aur, Wm. Jones, Rees Jones, Thomas Evans, Richard Jones, Morgan Davies, Samuel Price, Isaac Lewis a Griffith Davies. Cawsom hefyd wiedd englynol ddawnus iawn. Gellir dweyd fod eglwvsi'r ardal yn ddyledus i'r Gymdeithas hon am dynnu allan dalentau oedd yn guddied- ig, gan eu deffro i bleidio yn fwy aedd- gar eu hiaith a llenyddiaeth eu gwlad. Robert Morris, gwr dewisol—ydyw, 0 rodiad meddyliol; Hoffwr awen len, ddi-lol, A hael fyrddau'r hil farddol. --I)ewl. Aur. GRIFF DAVIES, Ysg. CYMDEITHAS GYMRAEG RHON- DDA FACH. Cynhaliwyd ail gyfarfod y Gym- deithas uchod nos Fawrth, Rhagfyr v 6fed, yri Sion, Maerdy, pryd y cafwyd darlith gan Olygydd y "Darian ar "Addysg Cymry a Diwylliant ei Gwerin. Cadeiriwyd gan y Parch. Joseph Evans (B.). Cafodd y sawl oedd yno* wledd yn ddios. Trueni na. buasai yr adeilad yn llawn. Carem ddweyd wrth fynd heibio mai yr un faint o ffordd sydd i ddod i'r Maerdy ag sydd hefyd i fynd o'r Maerdy Ferndale. Gwelsom ddau heblaw yr Ysgrifennydd o Gymry aiddgar Fern- dale. Beth am y gweddill o horiynt, a beth am athrawon ac athrawesau ein i hysgolion? Dylasai y testyn fod yn un ■ tra diddorol iddynt hwy, beth bynnag. | Cafwyd dwy unawd gai} Miss Fjrances j Jones, Maerdy, a Mr. T. D. Lewis j eto. Cyfeiliwyd gan Mr. Joseph Griffiths, MiE. Cynhygiwyd y diolch- I iadau gan y Parch. Gwilym Owen, B.A., Ferndale, ac eiliwyd gan v Parch. W. E. Williams, B.A., Beth- ania, Maerdy. » ¡ MEIRIONA. • I ABERDAR. I Cyfarfu'r Cymrodorion nos Wener, I Rhag. 15fed, a Mr. D. Nevern Rich- ards yn y gadair. Cafwyd i ddechreu adroddiad da o gan Watcyn Wyn i'r Cor Mawr gan Alun Charles Basset, bachgen bychan y Parch, a Mrs. D. Basset, Gadlys. Ymweliad George Borrow a Chymru" oedd pwnc y cyf- arfod hwn, a chafwyd papur gwerthfawr arno gan Mr. John Isaac, Abernant. Cwynai ef i Borrow wneud cam a Chym- ru yn ei Wild Wales." Fel Sais y meddyliodd»ae yr ysgrifennodd am Gymru. Daeth yma i roi i Gymru y syniadau a ffurfiasai eisioes am dani. Yr oedd.y werin wedi deffro adeg ei ym- weliad ef, ond ni welodd Borrow mo oreu'r genedl. Yn y rhyddymddiddan, dywedai'r Parch. W. Davies, Bethania, nad oedd "Wild Wales" Borrow o werth 1 draff erthu yn ei gylph. Barnai'r Cyngh. G. Powell, y Parch: R. Wil- liams, Nazareth; y Parch. W. A. Jones, Cwmdar, a Golygydd y Darian* yn wa- hanol. Teimlent, er mai mewn tafarn- dai yr arosai, ac er mor bwysig oedd cwrw da yn ei olwg, iddo ganfod rhai pethau oedd yn werth eu dweyd. Wele gynnyrch awen bardd y Gymdeithas, sef Ap Hefin:- ALUN CHARLES BASSETT. I Alun Siarl sy4d eilun sywo wreiddiol t Adroddwr uchelryw Dywedwch mai "dwrned" ydyw,— I Dwrned o aur, onide, yw? MR. JOHN ISAAC AR "WILD I WALES" BORROW. Gyda mab Abram llwybrais,—gan Isaac Noson hyfryd gefais; Mawr olud Cymru welais, Gyda'i swyn, trwy lygad Sais. Cai'r cerddwr, deithiwr doetha' ,-fwyn- Cyfandiroedd eitha' (derau Braf yw toll ei brofiad da: Gwell it weled Gwyllt Walia Borrow, wir! be "vvyr e-o ogoniant GwY-ad y gan a. donie? Ni chymrodd farch na ohamre Drwy Aberdar-bri y De! AP HEFIN. I

NADOLIG 1916 I

NADOLIG, 1916. Mae Robyn Fron Goch Ar bendil ei gloch Yn canu Nadolig i'r tir; I A glywsid ei gan v Ar aden f ach lin, Pe na bae y Geni yn wir? Abertawe. HERMAS.

Eisteddfod Gadeiriol BodI ringallt Ystrad Rhondda

Eisteddfod Gadeiriol Bod- ringallt, Ystrad Rhondda. DYDD NADOLIG, 1916. I Derbyniwyd cyfansoddiadau yn dwyn y ffugenwau canlynol:- Pryddest: Owain o Lys Abad, Gobaith Gwell, Y Gorwel Gwyn, Gwyn ab Nudd, Chantre, Gloewach I Nen, Arwr Hedd, Pont-ar-Suen, Mab yr Awen, Gwlithyn y Wawr, Gwylied- ydd, Gwyn Hedd, Hedd Perffaith Hedd (i), Diehlais Dydd, Dan y Faner, Arthur Wyn, Calon Glwyfus, Dan y Derw, Llwydwedd, Anthem v Bore, Tempus Fugit, Tant Hedd, Baner Hedd, Ap Henry Richard, Hedd Perffaith Hedd (2), Madog, i Durtur v Bore, Pistis, Y Pant Gwyn, Mab y Wawr, Ithel Ddu, Ar y T'wr, Gwydion, Llef o'r Gwyll, Boed ?Felly, Gobaith Da, Eco'r Gan, Briwedig, Mab y Wawrddydd, Min Aman, Llad- merydd, Morlanfab, Gwawr y Dydd. Gwynfynydd, Aden Doredig, Telynor Hedd, ac un bryddest heb ffugenw. --47. Englynion: Not Guilty, Alun Mabon, Arthur Wyn, Cwta Cyfar- wydd, Ifor Hael, Gogin Fardd, Gwir Bob Gair, Bardd Penrhys, John Jones Syr, Trysorydd, Cri yr Anghenus, Lief y Tlawd, Hwen Tlgdi, Hogyn o Hil Agur, loan Marc, Nid Jew, Prwyydd Yswiriant, Arolygwr, Gwrth Dollwr, Gele'r Wlad, Gele'r Wlad eto, Cenedlddyn, Waeth Pwy, Nid Shylock, Sion Dafydd, Sem, Hebog, Boas, Dafydd Eryri, Rhin- gallt, Senoj, Ar y Plwy', Gofalus (i), Llef, Milwr, Lliw Nos, Cloch Anian, Ap Ceridwen, Adlais Awen, Noddwr Eisteddfod, Cloch Fardd, Iolo Gelli- deg, Caswallon, Pryderus, Gofalus (i), Estron, Gwan-47. Hir-a-Thoddaid Mab Hiraeth, Tan yr Yw, Cymrawd, Mwyn Atgof, Un o'i Gyfoedion, Gofudus, Hen Ffrynd, Y Gwr a fu ger ei Fedd, y Tant Mud, Calon Friw, I ago, Myrr Atgof, Bardd y Pentre, Tant Calon, Deigryn, Hir- aethus, Deigryn Parch, Cyfeillgar, Edmygydd Mawr, Melus Atgof, Dwys —20. Telyneg: Alltud Meirion, Tant Hyder, Irvon, Dan ei Gysg6d, loan (i), Salmydd Bach, loan Glanrhyd, Twrog, Y Brawd Llai, Alys, Arwydd y Groes, Llais Tangnefedd, loan (2). -13. Ysgrif: Un garai wneud yn well, Idwal, Macwy, Corsen Ysig, Ceitho. -5. Cyfieithu: Cymraes Fach, Cymro Bychan, Mair.-3. ENOS DAVIES, Ysg. I

Bronceitus I

Bronceitus. I Gwella'n fuan ymosodiad llym o hono ar blentyn Ban VENO'S LIGHTNING COUGH CURE. r Dywed Mrs. Meen, 33 College Road, Little Thurrock, near ?rays, Essex: Ni pheidiaf byth a chkmol Veno's Lightning Cough Cure. Gwellodd fy machgen byehan pan oedd ar lawr gan ymosodiad llym o Bronceitus, ae oddia; hynny yr wyf wedi ei ddefnyddio i'r o;l o'r teulu. Mae hyd yn oed y bab,n wedi cael Veno's, ac nid yw gymaint ag unwaith wedi methu rhoi gwellhad. Ymddiriedwch yn Veno's i wella pes- wch, anwydon, asthma, bronceitus, in ffliwensa, catarrh, a'r pas. Prisoedd, ll- £ c., Is. 3c., a 3s. ymhob man.

WhitlapdI

Whitlapd. I Marw.—Dydd Gwener, Rhag. 8, bu farw Mr. D. Cunnick, Greenfield House. Bu yng ngwasanaeth y-Lly wo draft th fel postman am yn agos i ddeugain mlyn- edd. Yr oedd yn adnabyddus i bawb o Whitland i Lanboidy, Blaenwaun, Hen- llan, Amgoed, a Chartrefle. Ar ei ym- ddiswyddiad ryw dair blynedd yn ol cafodd fedal arian gan y Postmaster- General, ac anrheg gan swyddogion lleol y llythyrdy fel cydnabyddiaeth. o'i waith a'i ofal. Yr oedd yr ymadawedig yn ddiacon yn Eglwys Tabernacl, a chymerai ddiddordeb mawr yn yr Ysgol Sul. Claddwyd ei weddillion ym Myn- went Soar; gwasanaethwyd gan y Parchn. G. Higgs, B.A., Morgan Jones, B.A., a D. E. Williams. Daeth torf fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'r ymadawedig. Cwrdd Chwarter. Prynhawn Sul cynhaliwyd cyfarfod chwarter Ysgol Sul Tabernacl. Cadeiriwyd yn ddeheu- ig gan Mr. David Nicholas, St. John Street. Cafwyd anerchiad i'r plant gan y Parch. J. Davies, Capel Isaac. Aeth y plant trwy eu gwaith o ganu ac adrodd yn neillduol o dda. Canodd Cor Plant Tabernacl a Soar amryw I ddarnau o dan arweiniad Mr. Isaac N. I Rees. Mwynhaodd pawb yr wyl. Cyngerdd.—Nos Wener cynhaliwyd j cyngerdd yn Tafarnspite er mwyn dan- fon anrhegion i'r milwyr ar y Cyfandir. Cadeiriwyd gan y Cynghorwr William Thomas, Whitland. Da gennym ddeall i fod y gyngerdd wedi bod yn llwyddian- nus, ac y bydd i'r bachgyn sydd allan ar y maes gael yr anrhegion erbva y Nadolig.

Advertising

CYMERWCH gYiN — YN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich huoaln ix un a ddylai Parotc-td, gan ba mc&, y mae Enw da yn ei wlad ei bus ac yn mhlith ei bobl ei hue Itt mhob man, bwyso gyda chwi fpt prawt o'i Werth Gwirioned(0 £ a'i Adnoddau lachaol ar ol uor;t, mlynedd o Boblogrwydd c-yri do ol, neu feddyginiaeth ddietJ^ wedi ei pharotoi gan dramorwvl anadnabyddus, gan beidio rhr'dii enw i'r cyfansoddiad, a dim r)1 dirgelwch i'ch harwain? Y PWNC 0 IECHYD V mae hyn yn tat r sydd yn sicr c fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilyddt yn neillduol pac y mae yr Anwydwst mor gyffre- dia, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er udw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol bwn ymaith, ac i frwydro ag ef o daa ei ddylanwad helbulus, ac yet neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau. Maa QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan haw", sydd wedi rhoddi prawf teg idifi fel y feddyginiaeth hysbysol ore* er delio a'r Anwydwst yn ei w-,p kanol ffurfiau, gan ei bod jo Barotoad sydd wedi ei barotoi ye fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwao& burol eilbill, addas i'r Afu, Tread- iad, a'r holl anhwylderau evdt. yo galw am Adgyfnerthydd cryf faaola ac adnoddau giaugynyddoi Y mae yn anmhrisiadwv pan ya. dioddef gan Anwyti, Pneuconis. cwsg neu bryder o unrhyw fatfc pan y mae teimlad cyffredia « wendid a lludded ar y corff aeu unrhyw afiechyd difrifol nor leagedd wedi ei achosi gan ddiff yp pEIDWCH OEDI. YSTYRIWCH YNIAWR Gyrwch am gopi o bamph ed y tyitiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch ya dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy ag af, ond pan yn prynu mynweb weled fod enw Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn -irion- cddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Jews Potelau, 2s. gc. a 4s. 6cb. yr ex U ail Berchenogion QUINP BIHERS f4ANUFkCTURIN • COMPANY, LIMITED, CtANlLMT, tarth Walai.