Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 8
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
CWRS Y RHYFEL

Cwrs y Rhyfel. (Parhad o tudalen 1.) Oh!" ebe fe, cefais innau golled. Rhown fy ngholled i i gydbwyso eich colled chwi, a dyna ddiwedd ar y mater. Amddiffyn fy hun oeddwn i wrth dbrn i mewn i'ch ty chwi." Mewn difrif, a oes yr un o ddarllen- wyr y Darian a foddlonai adael i'r carn- leidr gael mynd yn rhydd ar hynny? Ond dyna, mewn dameg, wir ystyr cynnyg Germani heddyw, a gwir sefyllfa pethau fel y maent. Dyledswydd Lloyd George. Em cydwladwr Mr. Lloyd George sydd a'r hawl heddyw fel Prif-Weinidog i ateb dros Brydain. Pa beth a wna., a. pha beth a ddylai wneud ? Mynn rhai papurau Seisnig, Jingo- aidd eu hyspryd, a Germanaidd eu han- ian, iddo daflu cynnyg heddwch Ger- mani o'r neilltu yn ddiystyrllyd, a dweyd Wnawn ni ddim byd a chwi na' ell cynnyg." Chwarae i ddwylaw Germani a fyddai hynny. Un o arfau cryfaf German; hyd yma a fu ei gallu i dwyllo ac i wY, droi y gwirionedd, gan gadw ohoni el gwerin ei hun mewn dygn anwybodat't:)- Dyledswydd Gyntaf Mr Lloyd George yw eu goleuo. Rhoddodd Germani y cyfle iddo. Cyhoeddodd hi ei ;;hyrmyg- au goedd byd. Gwyr gwerin Germaiii heddyw am y cynnyg. Atebed Lloyd George, drwy gyd-ddealltwriaeth Chynghreiriaid Prydain, gan ddatgndd io twyll a brad a phechod Germani, a nodi beth yw safle Prydain a'r amodau hanfodol i heddwch. lawn am a fu-Diogelwch am a ddaw. Dywedodd Mr. Asquith dro yn ol mai sail hanfodol telerau heddwch ydyw mynnu iawn am a fu a sicrhau diogel- weh erbyn yr amser a ddaw. Ni fedr Prydain fforddio gwneud heddwch heb y ddau beth hyn. Y Rhyfel. Araf ac ychydig a fu symudiadau y Rhyfel ei hun yr wythnos a aeth fie:, io. Gellir erbyn y ddisgwyl gweled er- gydion mawrion yn cael eu taro yn fuan o'r naill du a'r llall.

Cerddi Nadolig I

Cerddi Nadolig. I Tymor Ilawn o swyn yw tymor Nadolig. Er ei fod yn digwydd ar adeg ddigalon yn hanes y flwyddyn, ni ddaw un amser heibio heb ddeffro ynnom lu o atgofion. Er fod yr hin fel rheol yn annymunol, a'r dydd yn fyr, er hynny pan gyferfydd cyfeillion o gylch y tan, 1 anghofir i fesur bob anghysur allanol, a sugnir diddanwch o'r ymgomio melus, a'r atgofion tyner, sydd Fel Angylion yn llenwi yr awyr a'u cwmni difyr. Huna anian, a mud yw telynau'r goed- wig, ond deffry y tymor ryw dannau yn ein henaid, sydd yn ddyfnach na thannau natur, a thyr can etxgyl a melodion byd arall ar ein clyw, yn ahawelwch yr ystafell glyd. Naturiol yw canu ar drothwy'r Nadolig, wrth gofio geni Gwaredwr y byd. Onid Ysbryd yr Hwn a Anwyd ym Methl'em gynt a welir yng Nghy- mwynasau'r tymor ? Dyma'r adeg y gyrr cyfeillion gyfarchiadau ac anrheg- ion i'w gilydd. Cofir y tlawd yn ei fwthyn llwm a diaddurn, yn unig yn ei neilltuedd, a'r methedig yn ei gystudd maith a blin. Ac nid yw y plant hefyd megis ar flaenau eu traed, yn croesawu y tymor, gan ddisgwyl rhoddion a theganau gwych, i'w llonni hirnos gau- af. Cyffyrdda'r Nadolig a thannau tyneraf calon dyn, nes yr hir- aetha am wneud daioni, a llonni bywyd rhywun na fu, hwyrach, iddo lawer o heulwen ar hyd y flwyddyn. Y mae tywallt gwin newydd caredigrwydd a chydymdeimlad i enaid blin ac ysig, a gloewi tant gobaith yn ei galon wan, yn waith teilwng o angylion. Y mae tang- nefedd yn yr awyr, a chluda'r awelon fiwsig clychau ewyllys da drwy'r dyffrynoedd. Y mae canu hefyd yn nodweddiadol o'r tymor. Cenid Car- olau gynt a chroesawai yr hen bobl y Nadolig yn swn can a moliant. Ofnwn nad oes yn awr gymaint o ganu ag a fu, a. bod y gerdd i raddau wedi ei tharfu ymaith, yn swn rhialtwch a glodaesta* Arferem ni pan oeddem yn blant fynd oddiamgylch acieg y Nadolig. I Ganu Carolau, ac er mai ychydig o bres gaem Yn fyn- ych, eto, caem lawer o aaifyrwch di- niwed, a mwynhad yn y gwaith, ac y mae gennym brofiad prudd-felus am itm- bell ymweliad. Derbynid ni yn siriol gan rai, a chan eraill yn oeraidd a swrth, a hyn sydd ryfedd. y mae gen- nym barch mawr, a lie cynnes yn ein calon i'r dosbarth cyntaf, ond ofnwn mai gras yn unig a bar i ni geisio meddwl y goreu am y dosbarth dial. Siom i Blentyn yw cael gwg lie y disgwyliai wen. Y mae gennym gof byw am un noson yr aethom allan. Yr oeddem yn barti o wyth1 o leisiau cymysg, yn amrywio o ran cylch ac o ran ansawdd. Nid oedd fawr bri ar y male voico, na'r ladies' choir y pryd hwnnw, oblegid planhig- ion cymharol ddiweddar yn ein gwlad ni yw y rhai hyn. Er mwyn cynorthwyo y canu a'i wneud yn fwy cyflawn, ceisiem gael gafael ar ryw fath ar offerynnau. Gwnelid i fyny y band o mouth organ bychan, whistle dd-ivy geiniog, triangle, a phar o clappers wedi eu gwneud o hen esgyrn. Canu yn unig wnai'r merched, a'r bechgyn ofalai am I i Y Cyfeiliant. I Yr oedd rhagarweiniad i bob darn a genid gan y band. Credem mewn cael digon o swn beth bynnag, ond ofnwn mai ychydig o gerddoriaeth a dynnid o'r gerddorfa hon. Y triangle a chwar- euem ni, a chryn ffafr oedd ei gael, oblegid perthynai i fy mamgu. Cedwid ef yn ofalus dr-wy'r flwyddyn ar y mur uwchben y lie tan, a mynych y buom yn syllu ar yr hen hoelen fawr oedd yn ei ddal, ac yn dymuno yn ddistaw iddi lacio ei gafael, a gollwng y triangle i lawr, er mwyn i ni gael y mwynhad o glywed ei dinc. Hwn oedd yr offeryn cerdd cyntaf i ni ei feistroli, a phe cydnabyddem y gwir yn onest, hwyrach mai hwn oedd yr unig offeryn a ddarfu i ni gyrraedd gradd o berffeithrvydd ynglyn ag ef. Un o'r darnau a genid gennym oedd II Yn y Man. I o Sankey, ac ar y cytgan yn unig y goddefid i'r triangle a'r clappers ddod i fewn. Canai y sopranos, a'r altos 0 mor ber," a sibrydai y clappers a'r tri- angle Yn y man yn dra defosiynnol. Er.tloted a gwaeled yr offerynnau hyn, diau eu bod yn cynrychioli rhyw hiraeth oedd yn llechu yng nghudd yn ein calon- Inau, am gerddi gwell, ac offerynnau amgenach. Buom yn ddiweddar yn gwrando ar gerddorfa ardderchog, yn canu yr overture i un o'r operas tlysaf, ac yn sydyn clywsomdinc, megis j Clychau Man ym Min yr Hwyr, I ac nis gwyddorn ai breuddwydio yr oeddem ai nad e, ond swniai ar ein clust m, yr un fath a'r triangle gynt. Dych- welem ghrtref o'n jierorindod bob nos, dan ymdeithio a chanu yr hen alaw dan- llyd Gwyr Harlech." Teimlem fel gwroniaid yn dychwelyd yn fuddugol- iaethus o faes y gad, a theimlai y brawd oedd yn chwareu y clappers mai hon oedd ei adeg ef, a thaflai ei ddwylaw i'r awyr gan wneud swn byrddarol. Credwn mai llawenydd a ddylai nod- weddu cerddi Nadolig. Llawenydd ] yw prif gyweimod y tymor, a dylai pob trawsgyweiriad gynnwys rhyw gymaint o heulwen. Nid oes dim fel canu i dyneru y galon, a deffro tannau cerdd I yn enaid dyn. Pan gyferfydd teuluoedd gylch y tan adeg y Nadolig, beth sydd yn fwy pryd- ferth, a mwy gweddus, na chanu e-myn neu garol er rhoddi mynegiant i deim- ladau dyfnaf y galon. Dylai pob capel ac eglwys hefyd ofalu am gerddoriaeth syml, swynol a chwaethus i roesawu y tymor. Er na fuom erioed yn rhyw or- hoff o'r Seindorf Bres, ac er mai llawer gwell gennym bob amser oedd I Miwsig y Llinynnau, eto carem glywed gwyr y cyrn yn cyn- hyrfu yr awyr a'u swn mawr adeg y Nadolig. Tua r adeg a grybwyllwyd gennym eisioes, byddai Seindorf Bres yn dod o gwmpas yn nyfnder y nos, a chan fod ein tad yn gryn gerddor, go- falent ganu rhai o'u detholion goreu o I flaen ein ty ni. Canent ddarnau tyner a swynol, a chludai I Awelon y Nos I y gynghanedd gyfoethog a'r seiniau per fel balm i, enaid ambell bererin a ad- waenem. Cawsem ninnau lawer o fwynhad wrth glustfeinio ar swn y band o'r pellder, ac wrth freuddwydio am dano rai nosweithiau yn olynol. Byddai hen delynor hefyd yn dod heibio ar ei hynt, a nef ar y ddaear i ni blant oedd gwrando hwn. I Gymro y mae rhyw swyn, a rhyw gyfrinach yn nhinc y delyn sydd yn ei gyffwrdd i waelodion ei enaid. I ni, nid oes un rhan o ddeg o swyn yn seiniau clyd y piano i'r hyn a geir yn nharawiad tyner tant y delyn. Frank oedd enw yr hen delynor, ac er nad oedd yn ddirwestwr, eto maddeuid iddo lu o'i bechodau pan d'rawai don ar ei delyn fwyn. Nid oedd yn fawr o gerddor, ac wrth y glust y canai ar ei delyn bob amser. Tri chord a ddefnyddiai, sef D, F, S, ac yr oedd ei gynghanedd yn hollol wreiddiol. Nid 'ready made' oedd, na 'Made in Germany' chwaiai. Ond, bid a fynno am hynny, yr oedd rhyw swyn angerdd- j ol i ni yn ei delyn, a melus yr erys yr j adgof am dani o hyd. Canai Frank fel rheol I Dri o Ddarnau, a byddai Codiad yr 'hedydd yn sicr o fod yn un o honynt. Er hyn, ambell dro, er mwyn amrywiaeth, caem yr hen alw leddf a phrudd Morfa Ruddlan," a swniai ar ein clustiau o'r pellder fel anthem angladdol ysprydion y nos. Hwyrach hefyd fod rhywbeth yn yr hen alaw ardderchog oedd yn apelio at galon yr hen frawd, canys I Llwm Ydoedd, a Chafed ei Fyd. Syml a diaddurn oedd gwisg yr hen delynor, ond yr oedd bob amser yn lan a syber. Gwisgai gadach mawreddog am ei wddf, fel eiddo Beethoven gynt, ond ei gap a dynnai fwyaf o'n sylw nil Cap glas tywy u ydoectcl o ran lliw, gyda thossel go fawr ar ei nen, a phan gynhyrfid yr hen Frank gan y gerdd, rhedai y gwefr fel petai i fyny i'r tossel, a chrynai hwnnw fel clychau sidan ar ei ben modrwyog a glfyn. Ymhen ys- baid distawodd ei delyn, a chlywsom iddo ofyn am ei hoff offeryn, fel Daf- ydd y Garreg Wen gynt, pan yn niwl- oedd y glyn. Ni bu fyw yn ofer, canys llonnodd fywyd ami un a seiniau per ei delyn swynol. Ni ddaw y Nadolig heib- io er ys blynyddoedd bellach, heb i ryw atgof tyner ddod gydag ef am Frank a'i delyn. Gan fod y Nadolig bellach wrth y drws, a ninnau yn byw mewn amseroedd enbyd, hyderwn y gwna pob cerddor yn ei gylch, yr hyn a fedro, i leddu, di- ddanu, a chysuro, y rhai hynny sydd yn griddfan dan eu beichiau. Gwawried y dydd pan fyddo swn melus cerdd wedi boddi swn erchyll y fagnel a'r cledd. DAVY JONES (Dewi Garno). Rhymni..

No title

Dydd Sadwrii, Rhag. 9fed, ym Moth* lehem Green, Castelinedd, priodwyd Mr. Morgan Rowlands, Pontneath- vaughan Road, a Miss Nellie Williams, merch hynaf y Parch, a Mrs. -D. Glan- nedd Williams. Hefyd Mr. Joshua Price, Ivorites Row, a Miss Florrie Jones, Pontneddfechan. Nos Lun, yn Ebenezer, Pontnedd- fechan, bu y Parch. Dyfnallt Owen yn traddodi ei ddarlith ar Dri mis yn y Ffrynt. Cafwyd disgrifiad byw o fywyd ein milwyr ar faes y gad llawer iawn mwy eglur na'r hyn a roddir fel rheol yn y papurau. Yr oedd ei ddis- grifiad o'r frwrdr yn yr awyr mpr effeithiol nes bron dod a'r awyr-longau i'n golwg. Diolchwyd yn gynnes i'r darlithydd gan y cadeirydd, Mr. vV. Davies, Y. H., Plasyfelin, ac eiliwyd gan Ficer Aberpergwrn.

1 Gwlad y Datguddiad j

1 Gwlad y Datguddiad. j GAN T. WILLIAMS, A.C. (EFELL 1 TREFOR.) (Parhad.) I MYND I JERICHO. I Dydd Mawfth, Ebrill 14--CYCII- wynasom yn fore y diwrnod hwn mewn cerbyd i fyned i Jericho. Wedi gadael y ddinas santaidd dringem ochr ogleddol Mynydd yr Olewydd, gan gymeryd y cyfleustra hwn eto i syllu gydag edmygedd a boddhad mawr ar Jerusalem a'i hamgylchoedd, ei muriau cedyrn, a'i phyrth amryw- iog heibio bryn bach Calfaria, dyffryn Jehosaffat yn agor ei fynwes o'n blaen, gwely troellog afon Cedron fel llinell arian yn ymestyn ar hyd ei ganol, a gardd addien GETHSEMANE, megis yn gwenu arnom, i'n croesawu i fewn, er mwyn cael cyfle o ddwndwr y ddinas, i sisial wrthym rai o'i chyfrinion mwyaf cysegredig i'w dwyn gartref, a'r awel dyner yn ysgwyd yn esmwyth ganghennau iraidd yr olewydd i'n llongyfarch. Gwenem ninnau yn ol gyda boddhad wrth fyned hc-ibio, gan addunedu galw yno y dydd canlynol. Teithiem y tro hwn y ffordd isaf, yn fwy ar hyd Ilechwedd y mynydd, na thros ei goryn. Cyfarfyddem a I LLAWER ASYN YN DWYN LLWDN cyfan, newydd ei ladd, i gyfeiriad Jerusalem erbyn y Groglith a'r Pasc, ac yn fynych heb gymaint a chledr Haw gwr o orchudd i'w guddio rhag gwres tanbaid yr haul. Yr oedd y lladd-dy ar yr ochr ddehau i weddill- ion pentref bychan Bethphage, hjeb gysgod o do uwch y fan, na'r un ty annedd yn agos iddo na chenffos i dderbyn y gwaed. Gadawem bentref enwog Bethania ar y Haw chwith, ac ymlaen a ni at I FFYNON YR APOSTOL) lie bu yr Iesu a'i ddisgyblion yn cymeryd llawer seibiant ar eu taith flinderus o Jericho i Jerusalem, a di- sychedu eu hunain, gan mai dyma y tarddiad naturiol olaf o ddwfr pur rhwng y lie a'r brif ddinas. Meddylia rhai mai dyma En-semes Joshua, un o nodau ffiniol rhwng Judah a Ben- jamin (Jos. xv. 7). Dyma fan diameu fydd-ysten Duw Yn estyn dwr beunydd; Odiaeth yfai i Chreawdydd Wirod hon ar wawr y dydd. Gwelodd Satan fod tarddiad o ddwfr gloew yn y lie, a hwnnw yn disychedu y pereririion wrth y degau, a'u mawl am dano yn perarogli ffroenau'r nefoedd; meddyliodd mai mantais i'w achos ef fyddai codi gwesty pwrpasol yn y He, i osod gwirf (alcohol) yn y dwfr i'w gryfhau, neu yn hytrach ei wanhau, a'i halogi. Aeth ei ganlyn- wyr at y gorchwyl yn ddioed, a chod- wyd ty cyfleus at y gwaith anfad hwn. Er hwylio'n rhwydd dewr elyn Rhi— a'i gedyrn A gododd dy breci; Ar dir eras i droi'r dwr cri Yn foddion i'r gwan feddwi. Nid ydym yn gwybod faint oedd nifer y rhai a yfent yn y ty,ond yr oedd I DEGAU 0 BERERINION ar eu ffordd i'r Iorddonen, yn eistedd allan yn y cysgod, ar y llawr noeth, i gael seibiant, a thorri eu syched a dwr y ffynnon, ac weithiau yn gosod bara yn y cwpan, a'i fwyta gyda boddhad, gan gredu yr addewid, Dy far a a'th dwfr fydd sicr i ti." Ychydig yn nes ymlaen mae darn o graig, neu'garreg fawr yn ymyl y ffordd a elwir "The stone of the father of backs, gyda cherrig bychain yngrugiau o gwmpas iddi. Mae y garreg hon wedi ei threilio yn llyfn mewn rhai mannau. Dywedir mai Abraham a'i cludodd yma o Hebron, fel y man mwyaf cyfleus i gyrraedd ei amcan. Dywedir fod rhwbio cefn sal yn ei herbyn yn cael ei ystyried yn wellhad sicr i'r llwyn- wst (lumbago), hynny sydd i gyfrif am ei llyfndra eithriadol mewn rhai mannau. Os gwir hyn byddai yn werth i'r dioddefwyr lluosog gymeryd y daith tuag yno yn hytrach na phwr- casu y meddyginiaethau ansicr cost- fawr at y dolur hwn, a hysbysir yng ngholofnau newyddiaduron ein gwlad sydd yn ochain dan eu pwysau. (I barhau. )

GLYN NEDDI

GLYN NEDD. I CynhaUwyd Cwrdd Plwyf yn ^sgol dy'r Bechgyn nos Wener, a phenderfyn wyd gwneud pob ymdrech i gael allot ments er mwyn gwrteithio cymaint ag sydd bosibi o'r tir yn nliymor y gwan- wyn nesai.

Nodion o Heolycyw I

Nodion o Heolycyw. I GAN "CREUDDYN." I Nos Sadwrn, Rhagfyr 2il, cyn- haliwyd cyngerdd lwyddiannus ym Methel Newydd dan nawdd pobl ieuainc yr eglwysi. Llywyddwyd gan y Bonwr G. Abraham, Tynrheol, House. Yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr, o bell ac agos. Cafwyd can, "Spring's Awaking," gan Madam Fairburn, Caerdydd. Can gan Madam Pickford, Penarth. Un-, awd ar y crwth gan Miss Elsie I' Roberts, Penybont-ar-Ogwr. Ad- roddiad, "J amie," gan Madam Pick- I ford. Can, "Y Marchog," gan Mr. Gomer Glanvllle Davies, Maesteg. Deuawd, Mesdames Fairburn a Pick- ford. Anerchiad gan y Llywydd. Can, "The Bugler," gan Mr. Glan- ville Davies. Gorfu iddo ail ym- ddangos. Can, "Songs of the Vivan- diere, Madam Fairburn. Can, I Madam Pickford. Unawd ar y crwth gan Miss Roberts. Can, "Y Gaeaf," gan Mr. Glanville Davies. Cyfeiliwyd' gan Madam M. M. Taylor, A.L.C.M., Heolycyw. Wedi pleidlais 00 ddiolch i bawb diweddwyd gyda "Duw gadwo'r Brenin." L- '1 ..fifi

01 Mynydd CynffigI

0  -1 Mynydd Cynffig. I Yn hwyr nos Sadwrn, Tachwedd 18, bu farw'r brawd annwyl John Ware. Jollodd Moriah yn ei symudiad ef un o'i harweinwyr ffyddlonaf. Gwasanaeth- odd yma fel blaenor am dro& 40 mlynedd. Gwelodd ddyddiau bore'r eglwys, a gwelodd yr eglwys yntau yn syrthio ar faner yn ei law. "Bu yn ffyddlawn yn yr holl dy megis gwas. Yn nechreu ei oes cyfarfu a dainwain ddifrifol, ac analluogwyd ef i ddilyn ei alwedigaeth fel gof. Cychwynodd fas- nachu ar raddfa fechan; bendithiwyd ei ymdrechion; cynhyddodd y fasnach. Gwenodd rhagluniaeth arno, a chyfrannodd yntau at y gwahanol gym- deithasau dyngarol a chrefyddol fel y llwyddai yr Arglwydd ef. Yr oedd yn un o'r brodyr mwyaf caredig, rhydd ei galon, yng Ngorllewin Morgannwg. Bydd Capel Penybryn yn goi-golofn i'w haelioni, gydag achos y Gwaredwr mawr am flynyddoedd lawer i ddod. "A'u gweithredoedd sydd yn eu can- lyn hwy." Dydd Mercher, Tachwedd 22ain, daeth torf ynghyd i'w hebrwng i Gladdfa.. Maudlam. Gwasanaethwyd gan y Parchn. James Llewelyn, Samlet Williams, W. H. Thomas, Maesteg, ac ar lan y bedd gan y Parchn. D. Teify Davies a Wm. Jones, Aberdulais. Llawen oedd gennym weld y brodyr annwyl, Charles Williams ac Edi Owen, yn dal mor gryf yn yr ystorm ofnadwy. Digon i ti fy ngras i. Yr oedd yn bresennol hefyd y Parchn. T. Howell, Pyle; David Howells, T. R. Williams, Ap Nathan, E. W. Price, J. R. Williams, Dan Williams (A.), T. H. Williams (B.). Y nodded lyddo dros y teulu.—Cyfaill.

INodion o BontardaweI

Nodion o Bontardawe. I Gyda'r amcan o ddeffro'r Eglwysi at eu dyledswydd tuag at y mudiad dirwestol, cynhaliwyd cyfarfod ar- bennig yn Nhabernacl, Pontardawe, nos Fercher dan lywyddiaeth y Parch. W. J. Rees, Alltwen, a'r Parchn. H. Seiriol Williams, Ll. Bowyer, D. G. Richards, ac ereill yn cyborthwyo. Dywedodd y Parch. J. T. Rhys, Abertawe, mai un o brif anghenion Prydain ar hyn o bryd oedd diwygiad dinvestol. Nid oedd dim a wnai cymaint niwed i ni yn yr argyfwng arswydlawn presennol ar Fasnach Feddwol. Yr oedd yn warth i ni fel teyrnas fod pobl ar hyn o bryd yn defnyddio eu nerth i wneuthur ac i werthu diodydd oedd yn gwenwyno ac yn lladd eu miloedd yn flynyddol. Yr oedd yn warth hefyd fod y fasnach wedi costio yn uniongyrchol ac an- uniongyrchol ^850,000,000 oddiar ddechreu y rhyfel, ac arferion ymyfol llu o weithwyr yn gyfrifol am gymaint o goll amset yn y gweithfeydd. Eto cai'r darllawyr swm enfawr o siwgr y sydd mor brinar fyrddau ein car trefi. Hawlid i'r Llywodraeth brynui fasnach ar unwaith a'i rheoleiddio yn fwy effeithiol nag a wneir ar hyn a bryd. Dywedodd y Parch. D. M Davies, Waunarlwydd, mai dyled- swydd bennaf yr eglwysi oedd galw cynadleddau i apelio yn ddifrifol at y Llywodraeth ar iddi osod terfyn ar y fasnach feddwol, o.leiaf, am dymor y rhyfel. Mae cyflwr truenus y byd yn rhoi cyfle euraidd i'r eglwys; os cyll yr eglwys y cyfle hwn cyll am oesau ymddiriedaeth y werin. Pasiwyd I penderfyniad yn galw sylw y Llyw- I odraeth at gyflwr enbyd y genedl. I g t

No title

Printed and Published for the Pro I prietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works. 19 Cardiff St., Aberdare, in the County of Glamorgan

Cwmaman

Cwmaman. ) MARWOLAETH HENAFGWR. Ganwyd yr hen frawd, Richard I Weekes, yn Sir Frycheiniog yn Y flwyddyn 1839. Daeth i fyw i ffermdy Blaenaman Fach, Cwmaman, yn y flwyddyn 1881, lie y bu fyw hyd ei farwolaeth—ysbaid maith o 35 mlyn- edd. Bu ef a'i briod byw yn hapus iawn gyda'i gilydd am 53 mlynedd, a chawsant lawer o wenau'r nef. Buont ynaelodau ffyddlon ym Moriah Aman, er yr amser y daethant i Gwm- aman. Un o blant natur oedd yf ymadawedig, tanllyd, gonest, cywir, trylwyr, a chalon dyner y tu ol i'r cyfan, a bu yn ymgeledd i'r gwan, y tlawd, a'r anghennus lawer tro, a thalodd yn dda iddo "oxherwydd yr enaid hael a frasheir," a gwireddwyd hynny yn ei hanes yntau. Ffieiddiai dwyll o hir bell, a charai gywirdeb a'i holl galon. Bu farw dydd Mercher, Rhagfyr 6ed, 1916, yn 77 mlwydd oed, ar ol cystudd byr, ond trwm iawn. Dioddefodd yn dawel a dirwg- nach, ac yr oedd ei ffydd yn ei War- edwr yn gryf hyd y diwedd. Cladd- wyd ef yng Nghladdfa Gyhoeddus Aberdar y dydd Sadwrn canlynol- Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. E. J. Owen, ac hefyd gan ei hen weinidog, y Parch. H. A. Davies Cafodd ei gladdu, fel y bu byw, y& syml a dirodres, yn ol ei ddymuniad ei hun. Angladd breifat fu iddo, yn yr hon yr oedd y plant, y perthynasau, a'r cyfeillion agosaf. Hir y cofir am dano gan y rhai a'i hadwaenent- Nawdd y nef fyddo dros y weddw aIr plant.

Advertising

¡.¡.- ? SESWCH ac ANWVD H A mhrisiadwy gyda ph'ant. Potel,i 1/3 a 8 f- GAN FFERYLLWYR A GRbSERS ttt