Teitl Casgliad: Dravod

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
Croesau CrefyddwyrI

Croesau Crefyddwyr. PENNOD XII. Yr oedd Lora wedi ei "gwisgo a'r wisg ddisglaerwen oleu," ac yr oedd ei theimladau tyner yn denu serch a bryd pawb-yn hen ac ieuanc, yn ddynion a merched ac yr oedd creaduriaid gwylltion yn dofi yn ei phresen- oldeb. Gwirfod rhai o'r merched ieuainc yn yn eiddigeddu wrthi oherwydd ei bod yn enill mwy na neb o sylw y dynion ieuainc. Yr oedd ei hysbryd addfwyn a gostyngedig yn ei gwneud yn fwy atdyniadol a swynol na'r lili dlos fel nas gallai y merched eiddigeddus ddirn peidio hoffi Lora-yr oedd ei charedig- rwydd a'i haddfwynder yn eu gorchfygu. Mewn attebiad i gwestiwn Lora, a oedd rhywbeth yn ei flino ? attebodd Fred, yr wyf yn teimlo fel arfer, ond paham y gofynwch Lora ? Cyn i Lora gaol amser i atteb dy- wedodd Abel, feallai mai hiraethu am Kate y mae Fred. Yr oedd gan Abel ddull an- nghelfydd a dirybudd o gyflwyno ei feddwl. Y mae Kate ych wanegai Abel yn dyfod adref cyn pen yr wythnos a chewch weled Lora y daw Fred atto ei hun. Yna bu ychydig ddis- tawrwydcl annaturiol a Lora o gydymdeim- lad a Fred yn cochi fel rhosyn yn llygad yr haul. Y mae genyf awydd dechreu pregethu meddai Fred wrth ei dad. Deallodd Lora mai poen meddwl yn codi oddiar ei fwriad i ddechreu pregethu oedd yn lladratta ar- chwaeth Fred at fwyd. Gwell i ti beidio dechreu pregethu meddai Abel. Paham, gofynai Fred ? Am fy mod, attebai Abel, yn gwybod am yr helyntion blin yr aeth Tom Thomas trwyddynt pan yn dechreu pregethu. Os wyt ti am ddechreu pregethu Fred, meddai Abel, byddi yn wrthrych ymosodiad ffyrnig nid yn unig ysprydion dieflig y tywyllwch ond byddi hefyd yn nodgwawd ami i ysgog- y 11 anwybodus, hunanol, a diras, yn ogystal ag yn nod i saethau rhai alwent eu hunain yn Gristionogion. Aros Abel, meddai ei dad, paid a bod yn rhy ftyrnig a llawdrwm- dyro chwareu teg hyd yn nod i ysprydion dieflig y tywyllwch. Fel yna y bu pethau, ychwanegai Abel, gyda Tom Thomas, a pheth arall nhad, os yw Fred am fyned yn bregethwr, rhaid iddo benderfynu peidio myned i ddanfon Kate adref ddim yn rhagor, ond o ran hyny gallaf fi ei danfon gartref os na allaf bregethu. Yr wyt ti Abel, meddai ei dad, yn tueddu i fod yn rhy ysgafn a chwareus gyda phethau sydd yn gofyn sobrwydd a dwysder. Rhyw brydnawn pan yn casglu at y Feibl Gymdeithas dywedodd Kate wrth Lora fod Fred yn son am ddechreu pregethu, ond cadwodd Lora y cwbl iddi ei hun. Dywedai pobl yr ardal fod blodau boneddigeiddrwydd Lora a Kate yn tarddu o'u crefydd-eu crefydd oedd yn eu gwisgo mor dlws. Wel Fred, meddai ei dad, os wyt wedi penderfynu myned yn bregethwr, ac wedi meddwl digon cyn penderfynu, ni raid i ti roddi heibio Kate, ond dichon y gwna rhyw rai dy flino o'i phlegid. A phe byddai raid i ti roddi Kate heibio cyn cael caniattad i ddech- reu pregethu yr wyt yn sicr o wneud hyny os yw y syniad o ddechreu pregethu yn tarddu oddiar amcan cywir. Rhaid gadael pob peth, a phawb, os bydd galw, er mwyn Crist. Wei, Fred bach, meddai ei fam, os wyt yn caru Iesu Grist fe ddymunwn dy weled di yn ei bregethu er fod dy dad a finau yn hoff iawn o Kate hefyd. Pa uu fyddai oreu genyt Fred, gofynai ei dad, troi cefn ar Iesu Grist ai ar Kate ? Troi cefn wir! meddai Abel; os yw Fred am fod yn bregeth- wr bydd Petr Davies, a'i ffon ar ei gefn byth a hefyd ac fe wyddoch, nhad, y byddaf finau yn rhoi rhywbeth ar gefn Petr Davies os nad ar ei ben hefyd. Aros Abel, meddai ei dad, i mi ofyn cwestiwn i tithau. Pa un ai er mwyn Iesu Grist ai er mwyn Petr Davies y mae Fred i fod yn bregethwr ? Gobeithio yr anwyl, attebai Abel, nad er mwyn Petr Davies. Ie, nac er mwyn yr un Petr arall chwaith ychwanengai ei dad. Onid wyt tithau Abel yn barod i ddioddef er mwyn Iesu Grist? Onid wyt ti yn barod i groes- hoelio hunan er ei fwyn Ef ? Ydwyf nhad, meddai Abel, a byddaf yn meddwl hefyd y byddwn farw, pe byddai galw am hyny, er mwyn Iesu Grist. Da iawn, Abel, meddai ei dad, yr wyf yn synio yn lied uchel am dy grefydd di yn y gwraidd er dy fod yn arfer geiriau lied fryntion weithiau ac yn bygwth rhoddi rhywbeth ar gefn os nad hefyd ar ben Petr Davies. Yr hen benbwl gan Petr Davies yna sydd yn gwneud i mi golli fy nghrefydd, nhad, meddai Abel. I'w barhau.

Ein Sefyllfa

Ein Sefyllfa. Yr hyn sydd bwysig fel y syhvasom, yw cael gweinyddiad gonest ar ein Rheolau Cyfreithiol, a gorphwysa hyn yn gwbl ar ysgwyddau y swyddogaeth. Fel rheol etholir genym y dynion goreu yn ol ein syniad pan yn pleidleisio,—dynion o ymddiried, dynion wedi eu sancteiddio mewn cyfiawnder. Syl- wch hefyd mai dynion wedi enill ymddiried- aeth byd ac eglwys ydynt. Yr wyf yn deall fod eu lie yn bwysig, os nad yn gyfyng. Y maent dan lygaid beirniaid craft, rhai sydd i raddau yn ymddibynu arnynt am eu bara beunyddiol. Mae y presenol a'r dyfodol yn gorffvvys ar ffrwyth eu barn. Disgwylia y presenol am weinyddiad cyfiawnder ar ffrwyth eu llafur, ond disgwylia y dyfodol am seiliau cyfiawnder i'w gweinyddu yn y dy- fodol, a bydd ein gweinyddiad yn awr yn esiampl i'r oes sydd yn dyfod ar ein holau. Beth bynag fydd y gweinyddiad ar y rheolau newyddion yn bresenol, hyny fydd y gwein- yddiad yn y dyfodol, oni chyfyd rhyw ddi- wygiwr cawraidd i'w cymhwyso. Ond cych- wyn yn iawn daw cyfiawnder i'w le yn ddi- rwystr. Dyna sydd ar bob yspryd cyfiawn eisiau, onide. Onid yw yr addewid genym "Oblegid hwn yw y cyfammod a ammodaf fi a thy Israel, medd yr Arglwydd, myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonau yr ysgrifenafhwynt, a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw a hwythau a fyddant i minnau yn bobl." Frodyr anwyl, a yw yr ammodau yn ysgrifenedig yn nghalonau ein dynion sydd yn ein harwain ? Dyma atteb- iad Iesu Grist i rhyw ysgolor o ysgrifenydd a ofyuodd icIdo-" Pa un yw y gorchymyn cyntaf o'r cwbl?" "Car yr Arglwydd dy Ddliw a'th holl galon a'r ail sydd gyffelyb id J u, Car ly gymydog fel ti dy hun." Dyna yr b. Os cawn ni weinyddiad yn ol yr ammou. a uchod daw tangnefedd i Gamles- ydd y Wladfa, i'n hardaloedd a'n heglwysi. Dyna amcan y rheolau newyddion. Yn y Pen. cyntaf a'r bedwaredd adnod o'r rheolau, dywedir fod Parhad y Cwmni i fod yn naw deg o flynyddoedd." Cofier y bydd ygwein- yddwyr cyntaf yn sicr o fod yn Gymry. Gan hyny beth bynag fydd ein gweinyddiad hyny fydd ein gwersi j'r ceuhedloedd sydd yn byw gyda ni ac o'n cwmpas am naw deg o flyn- yddoedd, a'n plant ninau a ddaw ar ein hol. Credai llawer o'r Sefydlwyr cyntaf fod ein dyfodiad yma yn halen i buro y rhan yma o'r byd, yn enwedig cychwynydd y sefydliad -y Parch. M. D. Jones y Bala, yr hwn sydd wedi offrymu gweddiau lawer, nad oes ond yr Hwn sydd yn gwybod pob peth wyr faint, ar ran purdeb ein gwasanaeth i S. America. Credai ef ei fod wrth offrymu y miloedd punau yn hyrwyddo lledeiniad Efengyl Crist. Hyderwn ei fod felly, er mor anhebyg ydyw, Pob peth sydd bosibl gyda Duw." Bydd i mi yn y dyfodol, os byw ac iach, gydmaru y gweinyddiad yn y gorffenol a'r hyn ddylai fod yn y dyfodol.-Il OTRO."

Y Diweddar Edwyn Clarke Roberts

Y Diweddar Edwyn Clarke Roberts Bu farw y gwladfawr y mae ei enw uchod am 10 o'r gloch foreu Mercher y 26ain cyn- fisol, yn ei saith neg ac un mlwydd o'i oedran. Bu yn dyhoeni am flynyddau dan yr anhwyl- deb a brofodd yn farwol iddo, a chafodd gystudd caled yn ystod y ddau fis olaf o'i fywyd. Brodor ydoedd v cyfaill ymadawedig o Rydymwyn gerllaw y Wyddgrug, Swydd Gallestr, G. C. Teithiodd lawer yn ystod ei oes; bu yn yr Uiiol Dalaethau am gyfuod, daeth ef a'i deulu i'r Wladfa o Ddeheudir Cymru rhyw dri neg a dwy o flwyddi yn ol, a chymerodd dyddyn yn ardal Treorci ar yr hwn y bu yn byw am y deng mlynedd a r hugain diweddaf. Gorfu iddo fynd drwy 'y profiad chwerw o golli ei briod yn fuan wedi ei ddyfodiad i'n plith, a daeth ami i gorwynt garw i chwythu i'w erbyn yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf o'i fywyd gwladfaol, eithr y blynyddau dilynol bu i'w ymdrechion gael eu coroni a graddau o lwyddiant, a mwynhaodd beth cysur oddiwrth ei lafur mor belled ag yr oedd a fyno hyny a'i amgylchiadau tymhorol. Yr oedd yr hen gyfaill yn gymeriad ar ei ben ei hun mewn mwy nag un ystyr, nid oedd yn berffaith mwy na'r rhelyw o honoin, meddai ei ffaeleddau, eithr yr oedd yn ym- wybodol o'i feiau i raddau pellach na llawer sydd yn hom pethau mwy nag et. Y no wedd amlycaf ynddo ydoedd y garw,—cwrs, rhoddai y gair gwaethaf ym mlaenaf, a dy- wedai yn ddifloesgni yr hyn tyddai ar ei feddwl, eithr o dan y gerwinder ymddangos- iadol yr oedd y galon dyneraf yn curo. N oedd neb yn yr ardal yn dod i fyny a gw r ystyr y gair cyinydog-tieu yr hyn a ddylai cymydog fod, yn well na'r hen frawd Edw\ 11 Roberts. Yr oedd yn llllplyg, teg a chyin- wynasgar. Oherwydd ryw reswin, ni tyu- ychai le o addoliad yn ystod y blynyddau di- weddaf, ond er hyny yr oedd yn llawn o gyd- ymdeimlad a chrelyddwyr yn gyflfredinol. Cadwai o'r addoliad ail y credai fod rhai crefyddwyr yn medry gwneud troion seilion. Parchai y dyn ym "Iha le bynag y cyfarfyddai ag ef ac os gelllr barnu oddiwrth ei ym- ddygiadau yn ei wythnosau olaf, rhai jn pro- ffesu bod yn ddilynwyr yr Addfwyn Oen ydoedd ei gyfeillion penaf. Hiraethai ar y diwedd am i'r alwad ddyfod yn fuan credai fod lie gwell yn ei aros yr ochr draw Yn nhy fy Nhad," meddai, "y mae llawer o drig- fanau." Gadawodd deulu lluosog i hiraethu ar ei ol, y rhai sydd yn addurn i'r ardal ac yn awyddus i efelychu eu tad yn ei bethau goreu. Bu yn eithriadol o ofalus yn ei drefniadau yn y rhagolwg ar ei ymadawiad. Dywedai wrth y perthynasau sut i wneud, a phwy hoffai gael i wasanaethu yn ei angladd, a chafodd ei ddymuniad. Gosodwyd ei weddillion y dydd dilynol gan gynhulliad parchus, i orwedd ym myn- went Moriah, hyd ganiad udgorn Duw, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Tudur Evans a'r Brodyr J. E. Jones, a W. E. Williams. Huned mewn hedd.—CYFAILL.

I DIOLCHGARWCH

I DIOLCHGARWCH. Dymunaf fi sydd a'm henw isod ynghyd a'm brodyr a chwiorydd, ddatgan ein diolch- garwch puraf i'r Iluaws cyfeillion am eu cydymdeimlad a ni yn ystod gwaeledd ein diweddar anwyl dad. DANIEL JAMES KOBERTS.

I MESUR DADGYSYLLTIAD

I MESUR DADGYSYLLTIAD. Y'mae'r Arglwyddi wedi gwrthod Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru gyda 250 o bleidleisiau yn erbyn 52.