Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
16 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR 1

AT EIN GOHEBWYR. 1 Aufoner erbyn POREU 8AIJWRN y fan brllaf. Fob arcbrbion a th»liadaa am Y i UDGOBN i'w hanfon i'r GOBUCHWTLIWR, 74, High Strppt, i'wllheli Pob gohebiaeth i'w cyfeirio- YB UDGORN OFFICE, PWLLHBLI. Bydd yn dda genym dderbyn goheb- iaethau oddiwrth ohebwyr ar fatmion lltol o ddyddordeb cyhoeddus.

NODION A HANESIONI

NODION A HANESION. Creulondeb at Anifail. I Am fod yn greulon at gaseg mewn pwll gto cafodd un o'r enw Higgins ei ddirwyo yn heddlys Gwrecsam i 3P 14s. 4c. a'r costau. Yr oedd y gaseg, meddir, wedi bygwth rhoi tic iddo, a churodd yntau hi'n ddidrugaredd a darn o haiarn. < Telyn Gymreig y Brenin. Y mae Syr William Carrington wedi hysbysu ArgJuydd Faer Caerdydd (yr Henadur Morgan Thomas) fod y Brenin wedi datgan ei ddymuniad fod i'r delyn Gymreig hardd, sydd i'w harddangos yn Arddangosfa Gelfyddydol y Fenni, yn Awst, i gael ei rhoi i'r Amgueddfa Genedlaethol Gymreig ar jJuiwedd yr 4rdd;> -tfr <3 £, ,dUgO.3 a. Tad a'i Ddau Fab yn Boddi Yr wythnos ddiweddaf collodd tri o bysgotwyr eu bywydau yn Mhorthladd Blyth. Aethant allan mewn cwch bychan i edrych eu cewyll crancod, ac yn fuan gwelwyd y cwch wedi troi a'i wyneb yn isaf, ac yn cael ei guro yn erbyn y creigiau. Nid oedd yr un ar- wydd o'r dynion i'w gweled. Er eu bod yn nofwyr da, ofynid yn herwydd fod y mor mor donog na byddai gan- ddynt ond gobaith bychan am eu bywydau. < Digwyddiad Trist. Bu digwyddiad trist iawn mewn parti priodasol yn Oldham y dydd o'r blaen. Yr oedd Herbert Brearley. Whipp, dyn ieuanc un-ar-hugain oed, yn mhriodas ei frawd, a phan yr oedd y parti yn bwyta ar 01 y briodas, cwynai ei fod yn teimlo'n wael. Oaeth ychydig yn well, a bu yn chware cardiau am beth amser, ond dechreuodd gwyno drachefn, a phan yr oedd ei chwaer yn ei gymeryd gartref llewygodd. Gahvyd meddyg ato ond yr oedd wedi marw. Gogoniant, Haleliwia" Y dydd o'r blaen yr oedd pregethwr o'r enw Edward Alfred Fletcher yn cael ei brofi ar gyhuddiad o tod ar ol gyda'i daliadau tuag at gynal ei wraig. Dywedai mai pregethwr ydoedd, ac nas gallai. fforddio talu mwy na phum swllt yr wythnos yr oedd yn amhosibl, meddai, iddo dalu yn 01 15s yr wyth- nos fel yr oedd y llys wedi gorchymyn. Anfonwyd ef i garchar am fis, a phan glywodd y ddedfryd gwaeddodd, "Gog oniant, Haleliwia Ymddiriedaf yn yr Arglwydd. Rwyf yn hapus." Marw Mr Hugh Hughes, Bangor Prydnawn Mawrth diweddaf, bu farw Mr Hugh Hughes, y masnachwr hynaf I yn Mangor, yn 83 mfwydd oed. Yr oedd yn cadw busnes yn Mungor er's yn agos i driugain mlynedd, ac yn fawr iawn ei barch yn y ddinas. Bu yn Faer Bangor yn 1897 8, ac yr oedd yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid er's deng mlynedd ar hugain. Cynrychiolai y cymeriad Cymreig ar ei oreu, ac yr oedd yn gadarn yn holl agweddau ei fywyd, ei Galfiniaeth, ei fusnes, a'i Ryddfrydiaeth. oJ < Gadael y Weinidogaeth. Ar 01 bod yn weinidog am bum mlynedd ar hugain, y mae y Parch Eynon Lewis wedi rhoi y weinidogaeth i fynu ac wedi (ymayd y swydd o glerc i Bwyllgor Yswiriol Morganwg. Yn ei bregethau ymadawol i eglwysi Bryn- cethin a Brynmenin dywedai nad oedd yn tybio pan ddechreuodd bregethu na byddai yn ddim ond pregethwr tra byddai byw, ac yr oedd yn ddrwg ganddo eu hysbysu mai angharedig- rwydd a chrintachrwydd rhai aelodau eglwysig oedd wedi gwneud iddo droi ei wyneb i gyfeiriad arall. < Dau Gant o Fywydau mewn Perygl. Y dydd o'r blaen, pan oedd swyddogion llythyrdy dosbarth de-ddwyrain Llun- dain yn dosranu'r llythyrau, daethant ar draws pecyn ymhlith y papurau yn cynwys pylor a sylweddau ffrwydrol, a heb gyteiriad arno. Yr oedd y pylor oedd yn y pecyn yn ddigon nerthol i greu difrod arswydus. Prrodolir y weithred anfad hon eto i'r suffragettes, a bernir y tybid y buasai y pylor yn ffrwydro drwy ollwng y pecyn i mewn i'r bocs. Pe buasai wedi gwneud hyny, buasai dau gant o fywydau, yn fwy na thebyg, wedi eu colli. Cymfcrodd yr heddgeidwaid teddiant o'r pecyn. Mynydd yn Symud. Dywedir fod rrvnydd, ar lethrau yr hwn y mae corfforaeth Abertawe wedi adeiladu nifer fawr o dai i weithwyr, yn araf lithro tua'r afon. Y mae llawer o'r tai yn cracio, meddir, a phibellau nwy sydd tm y brif-fiordd yn tori'n barhaus. Marw Mab Dr. Joseph Parry. Mysbysir am farwolaeth Mr. Men- delssohn Parry, mab y diweddar Dr. Joseph Parry, y cetddor Cymreig en- wog, yn Kansas, Unol Dalaethau'r Amerig. Ymfudodd Mr. Parry i'r Amerig oddeutu deunaw mlynedd yn ol Yr oedd yntau yn gerddor lied wych. Y Llifogydd. Ar ol y givlaw parhaus y mae difrod mawr wedi ei wneud yn Scotland a manau eraill gan y llifogydd. Gorlif- odd yr afonydd tros feusydd cyfain o bytatws newydd eu planu, ac y mae llawer o ddefaid ac wyn wedi boddi. Mewn rhai parthau gwelid bugeiliaid yn ceisio achub eu defaid mewn cychod. Y GofTa Genedlaethol Gymreig. Yr wythnos ddiweddaf prynodd Mr. D. W. Evans, cyfarwyddwr cyffredinol Coffa GeDedaçthJI Gymreig y Brenin Edward, y stad adnabyddus Pontywal am tros bymtheng mil o bunau. Bydd i'r maenordy gael ei droi yn Sanatorium ar gyfer rhai yn dioddef oddiwrth y darfadedigaeth yn Siroedd Brycheiniog a Maeyfed. Her y Canon. Dyry y Canon Camber Williams, yn y "Llan a'r Dywysogaeth" her i'r Methodistiaid Calfinaidd i hysbysu a yw yn unol ag amodau aelodaeth eg- lwysig i Fethodistiaid gael dawnsio a chware cardiau, ac a yw y rheolau yn caniatau i bregethwyr ddilyn cwn hela. Os nad ydynt, mae'n gofyn, a gant hwy eu diarddel neu eu ceryddu ? Colli 33p. mewn Ffair. Yn Nghroesoswallt, yr wytbnos ddi- weddaf, cafodd un a alwai ei hun yn Benjamin Thomas Bostock, porthmon, Birmingham, ei draddodi i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o ladrata pwrs yn cynwys 33P. oddiar Edward Edwards yn ffair Croesoswallt y diwrnod cynt. Ni chaniatawyd meichiafon gan yr hysbyswyd nad oedd y cybuddedig yn adoabyddus yn ol y cyfeiriad a roes. Llygod y Tlotty. Dywedwyd yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Ty Ddewi fod y tlotty yn berwi o )ygod, a gofynwyd beth ceJd wedi dod o'r daeargi roed yn anrheg gan foneddwr neillduol i feistr y tlotty at eu dal. Dywedodd y meistr fod ar y d eu hofn. Yr oedd ar y ci ofn y Ilygod yn naturiol ar y dechreu, meddai Mr. Ellis, yr hwn a'i rhoes yn anrheg, ond nid oedd eto wedi cael cyfle gan na bu yno ond am ddau ddiwrnod. + Cantoriou Cymreig yn Ffrainc. Mewn cyngerdd pwysig a gynhelid yn ddiweddar yn ninas Paris, Ffrainc, cymerid rhan gan bedwarawd o Gymru, ac yn ol fel y dywedai y beirniaid yn y newyddiaduron Ffreni, Erioed ni chlywsid ganu mor bur a pheraidd cynt," yn Paris. Gymaint oedd yr ar- graff a wnaethant fel y gwnaed cais am iddynt gymeryd rhan yn y gwasanaeth yn Eglwys yr Esgyniad, a chanasant yno ddarnau cysegredig gyda'r fath ar- ddeliad fel y dywedai un newyddiadur nad oedd modd fod dim mwy perfFaith, ac nas gallai eu corau mwyaf enwog hwy yn Ffrainc gael yn agos yr un effaith. Cymru a'r Cancr. Yn ol adroddiad y Gymdeithas er Rhwystro a Gwella'r Cancr, yn Ngog- ledd Cymru y mae mwyafrif o fywydau yn mynd yn ebyrth i'r afiechyd ofnadwy hwn. Enwir tair Sir yn Nghymru fel y rhai y mae mwyaf yn marw ynddynt o'r afiechyd hwn, sef Ceredigion, Mon a Meirion. Y mae mwy o ferched yn rrarw ohono yn Sir Gaeruarfon nag un- man oddigerth Sir Huntingdon. Hys- bysa'r adroddiad hefyd fod bron cymaint yn mynd yn aberth i'r cancr erbyn hyn ag i'r darfodedigaeth Haner can' mlynedd yn ol nid oedd ond un-ar- bymtheg yn marw o'r cancr ar gyfer pob cant o'r darfodedigaeth, ond erbyn heddyw y mae'r cyfartaledd yn 96 ar gyfer poh cant. + Colli ei Bywyd wrth Achnb Ci. Yn Redhill, y dydd o'r blaen, gwnaed ymchwiliad i achos marwolaeth awdur- es o'r enw Miss Alice Maud Meadows, yr hon a gaed wedi boddi mewn llyn. Yr oedd ei chi badi yn gwylio ar y Ian pan oedd y ct%,nst;,bi yn codi ei chorff o'r M) n, a bernir rrai wrth arbed bywyd y ci y bu toJdi. Tystiwyd gan ei bra wd yo y treng hol"ld y buasai yn ei far 11 et yn un o'r rhai olaf yn y byd i. wneud diwedd ar ei bywyd. Yr oedd boh amser o ymwareddiad hapus a siri.»l iawn. Yr oedd yn nodedig hoft o to wn, meddai tyst arall, ac yr oedd wedi dweyd iddi syrthio i'r Hyn un- waith o'r blaen wrih achub ei chi, ond ei bi d yn gallu nofio'n iawn. Yr oedd Miss Meadows yn awdures lied enwog, bwriedid cyhoeddi llytr neuydd o'i gwaith yn fuan.

I Mesur Pleidials Ferched oj Flaen y SeneddI

Mesur Pleidials Ferched o Flaen y Senedd. El DA FLU ALLAN. I Ddechreu'r wythnos ddiweddaf bu Mesur yr Etholfraint i Ferched o flaen y Senedd pan y cynygid gwelliant ynglyn a'r cynygiad tros ail ddarlleniad y Mesur. Am y tro cyntaf erioed gwelid y Prif Weinidog a Syr Edward Grey yn gwrth- wynebu eu gilydd-y cyntaf yn erbyn y Mesur, a'r olaf o'i blaid, a thraddod- odd y ddau areithiau hyawdl. Cafodd y Mesur ei orchfygu, ac mor bell ag y mae a wnelo'r Weinyddiaeth bresenol ag ef, y mae wedi darfod am -dano. Bu y Uywodraeth yn hollol ffyddlon i'w hyinrwymiadau, cafodd y thai oedd yn galw am y Mesur y cyfle a ddeisyfent, a chan na ddaeth dim o'r cyfle hwnw nis gall y rhai a ffafrient y Mesur ddisgwyl unrhyw gaffaeliad pell- ach ynglyn ag ef. Pleidleisiodd tri-ar-ddeg ar hugain o'r Blaid Lafur tros y Mesur, saith Cenedlaetholwr, a phump o'r Cenedl- aetholwyr Annibynol, a phleidleisiodd haner cant a phump o'r Cenedlaethol- wyr yn ei erbyn. Ymys.< aelodau o'r Weinyddiaeth a bleid!eisiodd yn erbyn y Mesur yr oedd y Prif Weinidog, Mr M'Kenna, Mr Harcourt, Cyrnol Seely. Mr Churchill, Mr Hobhouse, a Mr J. A Pease. Ym- ysg arweinwyr yr withblaid a bleidleis- iodd yn ei erbyn yr oedd Syr Edward Carson, Mr Chaplin, Mr Walter Long, a Mr F. E. Smith. Ni phleidleisiodd Mr Balfour na Mr Bonar Law. Ymysg aelodau y n vci (I-iapth- gefnogai y Mesur yr oedd Syr Edward Grey, Mr Lloyd George, Syr Rufus Isaacs, Mr Birrel, Mr Buxton, Syr John Simon, Mr Runciman, Mr Acland, a Mr Masterman. --0--

Neb yn MhwllheliI

Neb yn Mhwllheli. Dyna oedd y rhwystr bob amser — 1 neb yn Mh\\Hhe!i Yr oedd pobl yn byw me An Ileoedd pell yn cynyg eu tystiolaeth, ond, er cystal hyny Dis gallai gymeryd lie tystiolaeth leol. Ond yn awr mae hyn wedi newid, gan fod pobl wedi eu geni a'u magu yn Mhwllheli, ac wedi byw ar hyd eu hoes yn y dref-pobl ag y mae eu gair uwch- law amheuaeth—wedi rhoi eu tystiol- aeth yn rhydd, ac y mae ymddiriedaeth Pwllheli wedi ei sefydlu yn gadarn. Dyma achos i briyfi Dywed Mrs S. Roberts, 10, Salem Terrac, gyferbyn a chapel Salem, Pwll- heli :Gailaf gymeradwyo meddygin- iaeth ragorol at ddrwg yn y cefn. Bum yn cael fy nhrwblo ganddo yn achlysurol, ond gwnai blwsh o Doan's Backache Kidney Pills fi yn iawn yn fuan. Dywedais wnh lawer o bobl am danynt." (Arwyddwyd) Mrs Roberts. Y mae llawer meddyginiaeth yn es- mwythau, ond y rhan fwyaf yn methu rhoi iachad parhaol. Fel y mae y corff yn arfer heto'r dognau, rhaid cymeryd dogn mwy a mwy o hyd, nes o'r diwedd mae'r feddyeiniaeth yn ffaelu. Nid felly gyda Doan's Backache Kidney Pills. Y mae achosion wedi cael eu gwylio am flynyddoedd ar ol i'r rhydd- bad cyntaf gael ei gofnodi. Rhoes amser ra wf arnynt, ac ymhob achos profodd y g wellhad yn barhaol. Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am '3'. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn cylur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs. Roberts.

IEglwys Fawr wedi ei Din I ystrio gan Dan I

I Eglwys Fawr wedi ei Din- ystrio gan Dan, I Yr wythnos ddiweddaf, cafodd eglwys hardd St. Catherine, yr hon a safai ar Pepys Hill, New Cross, Llun- i dain, ei dinystrio gan dân, a chytrifir fod y golled yn filoedd lawer o bunau. Pan oedd y ficer yn yr eglwys tua un- ar-ddeg o'r ?:)och y boreu, nid oedd ar- goel o dan yn y lie o gwbl, a phan yr oedd yn myned allan rhoes glo ar y drysau fel arter Ymhen tuag ugain munud rhedodd bachgen bychan i'r ficerdy i hysbysu fod mwg yn dod allan o'r eglwys, a phan ddaeth y ficer yno ymhen rhyw ddau funud yr oedd y to yn fflatnio. Cyrchwyd y tan ddiffoddwvr, ac aeth y ficer i mewn i'r eglwys, ond gymaint oedd nerth y tin fel y gorfu iddo droi'n ol Aeth i'r festri a chymerodd oddi- yno y cofrestriadau ac ysgrifau eglwysig ereill i ddiogelwch. Nis gallwyd arbed ond ychydig seddau a ffenestri lliwiedig coffadwriaethol ar un ochr i'r eglwys. Llosgwyd y gweddill yn IIwyr, yn cyn- wys yr organ hardd oedd ynddi. Nis gwyddis sut y dechreuodd y tân. Priodolid y gwaith ar y cyntat i'r suffragettes, ond r.id oedd dim yn agos l i'r fan ya awgrymu fod a wnelo hwy ddim ag ef.

I Agerlong ar y Creigiau

Agerlong ar y Creigiau. Gyrwyd yr agerJong Atalanta ar y creigiau tuallan i VVhiting Bay yn ystod y dymestl drom ddydd lau di- weddaf. Dygwyd yr holl deithwyr a'r criw i dir yn ddihangol yn mywydtadau yr agerlong. Gwnaed niwed mawr i eiddo mewn amryw fanau gan y dymestl. Aeth cwch pysgota i lawr yn Mhorthladd Wexford, ond ni chollwyd bywydau. Yn herwydd y ddrycin ar yr afon Fer- swy nis gallodd yr Adtiatic o linell 3, i Seren Wen adael Lerpwl yn ol ei ham- ser arferol.

Dirprwyaeth Gymreig yn Westminster

Dirprwyaeth Gymreig yn Westminster. "DIM BARGEINIO O'R TU CEFN 1 uYMRU." Ddechreu'r wythnos ddiweddaf, bu dirprwyaeth gref yn cynrychioli Eglwysi Rhyddion Cymru, ar ymweliad a Mr M'Kenna, A.S., yr Ysgrifenydd Car- trefol, a'r Blaid Gymreig, i ertyn na byddai yr un cyfaddawd eto yn cael ei ganiatau ynglyn a Mesur Dad^ysylltiad yr Eglwys. Y thai a ganlyn a ffurfient y ddirprwyaeth: M r Richard Jones (Caersws), y Parchn O. L. Roberts (Lerpwl), Gwilym S. Rees (Merthyr), Aitho Davies (Pont Llantraith), R. Peris Williams (Gwrecsam), James Evans (Ysgrifenydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion Cymreig), John Williams (Brynsiencyn), J. Morgan Jones (Caer- dydd), David Adams (Lerpwl) H. M. Hughes (Caerdydd), H. Elfed Lewis (Llundain), y Prifathraw Rees (Bangor) H. Eynon Lewis (Bryncethin), E. Parry (Aberdulais), E. K. Jones (Brymbo), y Proffeswr J. M. Davies (Caerdydd), a Thomas Hughes (Llan- dudno). Cyflwynwyd y ddirprwyaeth gan Mr Richard Jones, yjr hwn a ddywedodd eu bod yn cynrychioli pum' dirprwyaeth, y rhai oeddynt wedi pasio penderfyniad- au cryfion yn erbyn caniatau unrhyw gyfaddawd pellach ynglyn a'r Mesur. Yr oedd teimlad pobl Cymru, meddai, yn angerddol ar y mater, ac yn teimlo y dylai y genedl gael yr hyn oedd yn eiddo cyfiawn iddi. Sylwodd y Parch H. M. Hughes fod peth Arydp'* yn caE!! ci deimlo yn 1 Nghymru oherwydd y son y gwneir cyfaddawd eto, ac os y gwneid hyny y teimlent mai gwell fyddai taflu'r Mesur heibio. Yr oedd- ganddynt bob ym- ddiriedaeth yn Mr M'Kenna, ond nid oedd ganddynt ffydd yn rhai o'r aelod- au Rhyddfrydol Seisnig. ATEB MR M'KENNA. I Mewn atebiad dywedodd Mr M'Ken- na nad oedd unrhyw sail i'r son am gyfaddawd Ar ol dadleu'r Mesur yn I llawn yn Nhy'r Cyffredin, ni ddygodd yr wrthblaid unrhyw reswm ymlaen a'i hargyhoeddai ef nad oedd y Mesur yn un teg a chyfiawn. Dymunti ddileu unrhyw amheuaeth y gwnai y Llywod- raeth unrhyw fargen ynglyn a'r mater o'r tu cefn i Gymru. Rhaid oedd i bob cynygiad neu welliant o eiddo'r wrth- blaid, os y bydd:ii ganddynt yr unrhyw i'w gynyg, gael ei wneud ar lawr Ty'r Cyffredin, neu o Dy'r Arglwyddi, ac felly byddai gan Gymru y cyfle i'w gwrthwynebu neu eu cymeradwyo. Diolchodd Mr Richard Jones i Mr M'Kenna am y derbyniad croesawgar roes iddynt, a hefyd, diolchodd iddo ar ran Cymru am y modd rhagorol y car- iodd y Mesur drwodd yngwyneb y fath anhawsderau. Wedi hyny ymwelodd y ddirprwyaeth a'r Blaid Gymreig. Parhaodd y dra- todaeth rhyngynt am tua dwy awr. Dywedwyd wrth yr aelodau Cymreig am y teimladau chwerw oedd yn bodoli yn Nghymru yn herwydd y cyfaddawd wnaed, a'u bod yn ameu braidd fod yr aelodau yn ymwybodol o hyny, a barnu oddiwrth eu presenoldeb yn West- minster. Os y gwneid unrhyw gyfadd- awd pellach, delid hwy yn gyfrifol, ac os na byddai iddynt wrthwynebu, y tebygolrwydd fyddai y collent eu sedd- au. Os y gwfteid unrhyw gyfaddawd eto byddai y Mesur yn hollol ddifudd. Yr oedd rhai am i'r aelodau bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ar bob cwest- iwn, os yr oedd yn debyg o ildio eto ar y Mesur, ond yr oedd ereill yn ffafriol i'r aelodau bleidleisio yn erbyn Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn unig. --0

Brawd AnfrawdolI

Brawd Anfrawdol. Pan oeddynt newydd ddiffodd tan oedd wedi tori allan mewn fferm ar Fynydd y Berwyn, clybu tan frigad Llangollen rywun yn griddfan yn un o feudai'r fferm. Yno cawsant hen wr wedi cael ei losgi'n dost. Aed ag ef ar unwaith i'r yspyty, ac yno y mae mewn cyflwr peryglus. Dy"edai'r hen wr ei fod wedi myned i'r adeilad i gysgu, pan y deffrodd yn sydyn ac y canfu ei hun wedi ei aingylchu gan fflamau Gall- odd godi ar ei draed, a gollwng yr anifeiliaid allan, ac wedi hyny syrthiodd i lawr mewn Ilewyg. Ymhen ychydig ddyddiau bu tarw'r hen wr, ac yn y trengholiad gyhhatiwyd ar y corff, dywedodd ei frawd, Robert Jones, Cefn Uchaf, Glyn Ceiriog, y gwyddai nad oedd gan ei frawd le i gysgu, end na ofynodd iddo ddod i'r ty. Gofynodd y crwner iddo ai nad oedd yn ffaith ei fod wedi mynd i weld fod yr anifeiliaid yn iawn gyntaf, ac yntau'n gwybod fod ei trawd wedi Ilosgi. Nid oedd yn sicr o hyny, ond addefodd iddo gwyno wrth yr hedd- geidwaid oherwydd fod ei trawd yn cysgu yn y beudai.—Tystiwyd gan rai o'r tan-frigad y gwelsant y trancedig yn dod allan o'r adeilad a'i ddillad yn dan, a'i walit wedi ei losgi'n IIwyr. Yr oedd wedi gollwng yr anifeiliaid allan pan oedd ei ddillad yn fflamio. Tyst- iodd un arall y gwelodd yr hen wr yn gorwedd ar lawr ac yn griddfan, a sachau wedi eu rhoi trosto. Tystiwyd hefyd y gwrthwynebodd Robert Jones i gorff ei frawd gael ei gymeryd i'r ty.— Wedi pasio rheithfarn o farwolaeth ddamweiaiol, rhoes y rheithwyr a'r crwner gerydd llym i frawd y trancedig am ei ymddygiad anfrawdol a chreuton. --o

No title

Diangodd carcharor o garchar Derby I nos Fawrth diweddaf, trwy ddringo tros wal ugain troedfedd o uchder.

IMr Lloyd George ar Tir

Mr Lloyd George a'r Tir. Yn y Senedd, dd: ld lau diweddaf, mewn atebiad i gwestiwn o eiddo Mr Noel Buxton yn gofyn am eglurhad o barthed i waith Pwyllgor y Tir, dywed- odd Mr Lloyd George nad oedd ganddo ddim neillduol i'w hysbysu ar hyny o bryd. Dywedodd mai gwaith da wnaeth Mr Buxton drwy AIW sylvv at gyflwr anfoddhaol y llafurwr mewn ihai rhanau o Brydain. Yr oedd yn sicr nad oedd un dosbarth yn y wlad yn gweithio am gyflog mor fychan a'r llafurwr amaethyddol CreJai fod eu cyflog a chyflwr eu trigfanau yn warth i'r wlad. Sylwodd ar y nifer fawr oedd yn gadael yr ardaloedd amaethyddol i fynd i chwilio am waith i'r trefi a'r gwledydd tramor, a synai nad oedd mwy yn gwneud hyny ag ystyried leied y tal a gaent am eu llafur. Yr oedd gwahaniaeth mawr hefyd yn y cyflogau mewn rhanau neillduol o'r wlad. Telir gwell cyflogau yn ardaloedd mynyddig Cymru—lie yr oedd y tir yn llwm ac anhawdd i'w drin-nag yn rhai o sir- oedd Lloegr. Cwestiwn cenedlaethol oedd hwn, ac nid cwestiwn plaid, a da oedd ganddo weled yr edrychid arno felly. Gobeith- iai y byddai pob plaid yn cydweithredu ynglyn ag ef, ac os byddai angen, yn barod i aberthu er ei fwyn. Wrth fynd ar hyd a lied y wlad, synai wrth weled y gwahaniaeth oedd yn y dyn a weithiai am gyflog sylweddol a'r sawl na chai ond cyflog bychan. Yr oedd y naill yn nerthol a hoew, yn llawn yni ac ysbryd, a'r llall yn ddigalon a di-ysbryd, —heb nerth na bywyd ynddo. Yr oedd hyn yn golygu gwahaniaeth i'r amaethvvyr a'u cyflogai ac yn anunion- gyrchol i'r tir-feddianwyr. Nis gellid cael elw oddiwrth weithiwr di-ysbryd a di-yni. Byddai yn elw i'r gweithiwr ei hunan, ac yn benat oil yn elw i'r wlad. Yr oedd yn werth i bob plaid wneud ymdrech i adfeddianu i fywyd gwledig Prydain y safle y bu ynddi cynt, a'r hon oedd wedi golli i raddau helaeth iawn. Da oedd ganddo weled arwyddion na byddai yn gwestiwn plaid. Yr oedd mesur yn ymwneud a'r pwnc wedi ei gyflwyno y dydd blaenorol gan aelod Toriaidd. Pa blaid bynag a gymerai afael yn y pwnc-os yr ymdrinir ag ef mewn ysbryd eang-yr oedd yn sicr y byddai ei ddylanwad yn anrhaethadwy ar dynged y wlad. Sicrhai y Ty tod y pwnc yn cael sylw y Llywodraeth. Byddai y ffeithiau a ges-lir ynghyd gan Bwyllgor y Tir yn amrhisiadwy. --0--

I Rhostio Baban

I Rhostio Baban. Yn Southport, y dydd o'r blaen, cyn- haliwyd trengholiad ynglyn a marwol- aeth baban, yr hwn a gaed wedi ei gladdu mewn gardd. Baban newydd- anedig ydoedd i forwyn o'r enw Eliza- beth Hill, yr hon a wasanaethai gyda gweddw o'r enw Mrs Brown yn Birk- dale. Tystiodd Mrs Brown yn y trenghol- iad idcri ddod gartref o'r eglwys foreu Sul, Ebrill 2ofed, a phan aeth i'r gegin gwelai y forwyn yn rhoi Ilawer o lo a phapurau ar y tân. Dychrynodd yn ddirfawr, a gofynodd i'r forwyn esbonio yr digwyddiad Dywedodd ei bod wedi rhoi genedigaeth i'r baban yn y gegin, a'i fod wedi byw tua deng munud. Cymerodd Mrs Brown y baban, ac yr oedd yn bwriadu hysbysu'r heddlu o'r peth, ond rywfodd ni wnaeth hyny, a chadwyd y plentyn wedi ei rwymo mewn papur yn y lie golchi. Yr oedd y forwyn am wneud diwedd ar ei bywyd os y gwnai Mrs Brown hysbysu'r peth i'r heddgeidwaid, a chadwyd y plentyn yn y ty am dri diwrnod. Yna pender- fynwyd ei gladdu yn yr ardd Ond nis gallodd Mrs Brown beidio mynd i hysbysu'r heddgeidwais, a daeth swyddog yno a chafodd ef wedi ei gladdu. Nis gallai meddyg ddweyd fod niwed wedi cael ei wneud i'r plentyn pan oedd bywyd ynddo, a dywedodd y crwner nas gellid dwyn cyhuddiad yn erbyn y fam ond y bu yn euog o guddio'r enedig- aeth, onibae y gellid profi y bu'r baban fyw ar ol cael ei eni. Pasiwyd rheith- farn i'r perwyl tody plentyn yn farw pan y ganed ef.

FfrwydrBelen yn EglwysI Gadeiriol St Paul

Ffrwydr-Belen yn Eglwys Gadeiriol St. Paul. YMGAIS HERFEIDDIOL Y SUFF- RAGETTES. Er y ffaith fod y rhan fwyaf o'u har- weinwyr wedi eu cymeryd i'r ddalfa, y mae ymgyrch dditrodol y suffragettes yn dadblygu i raddau brawychus iawn. Yr wythnos ddiweddat canfuwyd pelen ffrwydrol yn agos i Orsedd yr Esgob yn Eglwys Gadeiriol St Paul, Llundain, ac un arall yn agos i swyddfeydd newyddiadur Llundeinig. DIfrodwyd pafiliwn mewn maes Cricet yn Fulham, a gwnaed ymgais i roi lard goed fawr ar ddn. Canfuwyd y ffrwydr-belen yn St. Paul gan y glanhawr, sylw yr hwn a dynwyd gan ganister bychan, oddifewn i'r hwn y clywai rywbeth yn ticio. Aeth i rei hysbysr" ydd ar unwaith a chymerwyd y teclyn ffrwydrol ymaith, a rhoed ef mewn dwr i'w wneud yn ddi- effaith. Gwnaed y darganfyddiad rhyw ddeng munud cyn yr amser i'r lie gael ei agor i'r cyhoedd. Yr oedd cudd-heddweis arbenig yn gwylio'r lie er's peth amser, ac yr oedd un o honynt ymysg y cor yn barhaus pan fyddai'r adeilad yn agored i'r cyhoedd. Rhaid gan hyny y bu y sawll a roes y belen ffrwydrol yn yr eglwys yn ddeheuig iawn.

nt Bohebiaethau

n t (Bohebiaethau. Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.-GOL. t AT GIGYDDION PWLLHELI, Gyd fasnachwyr,—Gwelwn fod yn mwriad y Cyngor Trefol wneyd Closing Order i fasnach- wyr y dref, yn ol darpariaefriiau Deddf y Shop- au, ac y bwriadant, hefyd, osod y cigyddion yn nghrafangau yr order hono. Fel y gwyddoeb, amddlffyn y gwas yw amoan Deddf y Shopau, trwy ohlu ei fod yn cael haner diwrnod o wyl bob wythnos ond chware teg i'r Ddeddf, nid yw yn gorfodi y meistr i gau ei fasnRcbdy er mwyn i'r gwas gael ei baner dydd gwyl, na, gedy ef at ei ryddid yn y mater hwo. Yn awr, gan ein bod yn rhyddioii, a ydym mor ffol a gwerthu ein genedigaeth fraint? A ydym yn ddigon ynfyd i fyned at y Cyngor Trefol gyda'n cap yn ein Haw i ofyn iddynt gymeryd trugaredd arnom, a'n rhwymo, draed a dwy law, fel na chawn agor ein masnachdai, na gwerthu ceiniogwerth o'n nwyddau, ond ar y dydd a'r awr a nodir ganddynt hwy. Oa y gwnawn hyn, yn sicr dylld ein symud 1 Ddin- bych, yn ddiymdroi. Gwyddom nas gall y Cyngor Trefol gy neryd y rhyddid hwn oddi- arnom heb ein caniatad, a gwyddom hefyd nad oes ond nifer bychan o honynt yn awyddus i'w gymeryd. Ond dylem gofio, os unwaith y ca y Cyngor y eaniatad hwnw, ac y gwneir y Closing Order, bydd raid ufuddhau i'w gorychymynion, pa beth bynag fyddo yr amgylchiadan-tywydd mwll a Haith, neu wres angerddol yn llygiu ein eigoedd-dim gwahaniaeth, rhaid ufuddhau ) ea. summons. Oblegid os y bygythir summons yn awr, cyn bod Closing Order mewn grym-yo sier, wedi y deio i rym, ni cblywir dim ond -sum. mons, summons, yn barhaus. Yn awr, a gawn ni ymuno ac anfon at y Cyn- gor Trefol, i'w hysbysu on bwriad i sefyll yn y rhyddid ganiateir i ni gan Ddeådf y Shopau. gan y tybiwn mai mwy dymunol bod tan ras hono, nac o fewn hualau yr Closing Order. Yr eiddoch, I Ala Stores. W. B. JONES. -0-

Observation Car on the Cambrain Railways

Observation Car on the Cambrain Railways. With a view to the development ot the traffic, especially the tourist traffic, m. on the railway, Mr Williamson, the General Manager, has decided as an experiment to run an observation car daily (except Sundays) on the Coast commencing on Whit-Monday. The train will leave Poitniadoc at 9.0. a.m. for Machynlleth, calling at all inter- mediate stations. There will be a connection at Barmouth with the 10-5. a.m. train to Dolgelley and the Great Western line, and at Dovey Junction wrth the 12-2. a.m. train for all stations to Aberystwyth. The train will leave Machynlleth at 12-50. p.m. for Aberystwyth and intermediate stations, returning from Aberystwyth at 2-30. p.m., due Portmadoc at 5-30. The Company are extensively advertis- ing the train and full particulars are shown on the posters and handbills already issued, and in our advertising columns. It is to be hoped that this enterprise on the part of the manage- ment will result in the train being a financial success. --0--

I Barfcomaetb

Barfc&omaetb. DILIÆUWEN I Mr Richard Pritchard, Shop Pen Bodlas, Garn Fadryn, ar ei uniad mewn glan briodaa gyda Miss Eleanor Jones, Llundain (Llanllyfni gynt) yr hyn gymerodd le yn Nghapel M.C. Dinas, Ebrill 30ain, 1913. Dymunol ydyw plethu can I rhyw ddigwyddiad hapus, Mae tanau'r awen fel ar din I swnio tine soniarus Myfinau blethaf gan o swyn, Ar hulol ddydd priodas I Richin i Pritchard, gyfaill mwyn, Gwr L wog Shop Pen Bodlas. Pan ganai'r g6g ar lasiad dydd Yr olaf ddydd o Ebrill, A'r haul yn taflu peledr gwyn Ar goryn Graig yr Imbill, Gwych gerbyd (ar benodol awr) A gaed a'i feirch yn trotian, Hyd odreu'r hen Garn Fadryn fawr, Tra'r benyr yn cyhwfan. 1 heD addoldy'r Dinas hen 9 A'r llawen gwmni cryno, Tra yn mynwesau mab a merch Roedd calon serch yn curo Rhyw enyd rbyfedd ydoedd hon, Nas gwyr ond serch am dani, Cyfnewid byd mewn eiliad bron A'r lleddf a'r lion geir yndii. Yr Hybarch T. J. Jones, Brynmawr, Yn siriol iawn ei wenau, Aeth drwy y 1, seremoni fawr 0 uno dau hyd angau Am fvs ei fwyn Eleanor Ian Rboes Richard y cylch eurgain, A theimlai hun mor lion ei gan A "hogyn un-ar-hugain." Ar ol y ddefod hwnt yr awd Drwy Sarn Meillteyrn, fro dirion, Hyd gwmwd Lleyn nes cyrhaedd wnawd, I ddinas Aberdaron Caed yno arlwy oreu 'rioed Yn barod ar eu cyfer, A phawb fwynha'i y felus wledd Mewn hedd a llawen dymher. Roedd Aberdaron yn ddigoll, Yn llawn 0 wir frwdfrydedd, Yn rhoi i'r brawd a garent oil, Rhyw hudol wir anrhydedd A chlywid murmur tonau't mor Pan ar y traeth yn suo Yn Hawen uno gyda'r cor, I roddi croesaw iddo. 'Roi treuiio yno oriau hir A mynd i'r man y mynent, Fin hwyr-y cwmni lion eu Ilef Hyd adref a gyfeiriant, A Richard gyda'i rian fwyn Ar hwyrddydd eu priodas, A deimlai fod rhyw newydd swyn Ar aelwyd Pen y Bodlas. I'r cyfaill—gyda'i fuddiol nwydd,— Drwy'r wlad boed llwydd yn dilyn, Yn awr, os prysur fydd-gall ddwyn Ei briod fwyn i'w ganlyn A boed i'r ddau gael nawdd y nef A'i fendith Ef i'r uniad Na ddeled angan flwyddi hir I dori'r pur gysylltiad. LLIIHFAEN. --o CFLYN.

No title

Mewn arwerthiant y dydd o'r blaen, cynhygid ar werth ddarlun o waith y Frenhines Victoria. Gofynai yr ar- werthwr bedwar ugain gini am dano. Ond ni chynygiwyd mwy na haner hyny.