Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
t AT EIN QOHEBWYR I

t-" AT EIN QOHEBWYR. Aufoner erbyn BUREU SADWRN I y fan belltf. Pob archebion a thaliadau am Yr UDOORS i'w hanfon i'r OOBUCHWTLIWR, 74, High StrAet. Pwllheli Pob gobebiaeth i'w cyfeirio— Ya UOOORN OIrFICit, PWLLHELI. Bydd yn dda genym dderhyn goheb- iaetbau oddiwrfch ohehwyr ar fatntion lleol o ddyddordeb cyboeddua.

NODION A HANESIONI

NODION A HANESION. Ymfudo. Aeth rhai miloedd o ymfudwyr allan o Lerpwl, yr wythnos ddiweddaf, yn Itongau Cwmni'r White Star. I Can- ada yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn mynd. Yr oedd canoedd lawer hefyd yn mynd i Australia. Gwyl Fat yn Llandudno. Ddydd Mercher diweddaf, am yr eil- fed tro ar hugain, cynhaliwyd Gwyl j Fai yn Llandudno, a choronw yd y Frenhines. Cymerwyd ci) ddordeb anghyffredin yn y gweMlvediadau, a bernir fod yno o leiaf bymtheng mil o edrychwyr. if Arvrres Oedranus Gallasai fod dyn wedi colli ei f) wyd yn mhentref Ebenezer, ger Caernarfon, yr wjthnos ddiwedual, onibai am Kyn- orthwy parod hen wraig o'r emv M rs Grace Jones, yr hon sy'n 75 mlwydd | oed. Canfu yr hen %raiv fod y ty yn llawn o fwg. Aeth i'r st.ifell lie cysgai lletywr, a gwelodd fod yr ystafell ar ddn. Ceisiodd ei ddeffro ond methodd, ac er ei bod yn egwan llwyddodd i'w lusgo rhwng cwsg ac effro allan o'r ty lie y cymerodd heddwas otal o hono. Nid oedd yr hen wrai g nemor ywaeth ar ol yr helynt, ond cafodd y lletywr ei niweidio ychydig. Perygl C) mru. Dywedai y Parch Silyn Roberts, wrth siarad yn y Bermo y dydd o'r blaen, y dylid cefnogi bechgyn Cyinru i astudio amaethyddiaeth, a sylwodd ar yr hyn a wneid yn y cyfeiriad hwnw yn Den- marc. Nid oedd y tir yn Denmarc ddim gwell na llawer rhan o Gymru, meddai ef, ond yr oedd amaethyddiaeth Denmarc wedi ei astudio'n wyddonol, a rhoed pob cefnogaeth i'r bechgyn mwyaf addawol i gymeryd y peth i fyny fel gwaith eu bywyd. Yr oedd perygl fod Cymru yn anfon eu dynion goreu i'r gwledydd tramor, ac yr oedd dyfodi 1 y wlad yn dibynu ar tod y dyn- ion hyny yn cael eu cadw gartref. Ala] Angladd. Yr oedd geneth un ar bymtheg oed i gael ei chladdu yn Bishops Offley, y dydd o'r blaen, ond ataliodd y crwner yr angladd i wneud ymchwiliad i achos ei marwolaeth. Yn y trengholiad hysbys- wyd tod rhieni yr eneth wedi bod yn gas wrthi, ac i hithau o ganlyniad gymeryd gwenwyn. Profwyd hefyd mai o effeithiau'r gwenwyn hw nw y bu'r eneth farw. Rhoes y crwner gerydd Jlym i'r rhieni, a dywedodd iddynt nid yn unig roi eu tystiolaeth mewn modd hynod anfoddhaol, ond hefyd i'w hym- ddygiad anynol at eu geneth yn ymar- ferol beri iddi wneud diwedd ar e bywyd. I » » Y Ftordd i LJeidr. Y Ffordd i Drin Lleidr. ioroaa neiar I ay yn Clapton, yr wythnos ddiweddaf oddeutu dau o'r gloch y boreu. Digwyddai'r ty fod yn perthyn i Fyddin yr Iachawdwriaeth, a di^sgai Capten Mary Booth, merch y diweddar gadfridog, yn yr ystafell agos- af i'r hon yr oedd y IK idr ynddi. Vn He galw ar yr heddgeidwaid i mewn aeth yr eneth at y lleidr a siaradodd yn ddifrifol gydag ef am ei bechod Pan ddeallodd mai newy" a'i hanfonodd i droseddu, aeth ag cf i'r gegin a rhoes bryd da o fwyd iddo gan siarad pydag ef am ei gyflwr tra y bwytai, ac ar ol gorffen y pryd gweddiodd gydag ef, a gwnaeth iddo weddio drosto'i hun. Gan addaw bod yn ffrynd iddo, os yr edrychai ar ol ei hun, gollyngodd ef allan o'r ty. Marw Telynores Lleifiad. Yr wythnos ddiweddaf, yn ei chartref yn Lerpwl, bu farw y delynores enwog, Mrs Jenny Roberts, yr hon oedd yn fwy adnabyddus wrth yr enw Miss Jenny Parry (Telynores Lleifiad), yn 37 mlwydd oed. Rhai o Dreffynon oedd ei rhieni, ond ganwyd hi yn Birk- enhead Daeth y dalent gerddorol a feddai i'r amlwg pan oedd yn blentyn bychan iawn, a chyn hir gymaint oedd ei henwogrwydd am ei gallu i panu'r delyn fel y cai alwadau parhaus i ber- fformio yn y prif iongherddau trwy Loegr, Cymru a'r Iwerddon. Bu hefyd gy.da Chor Meibion y Moelwyn yn yr Amerig, ac enillodd ei medr iddi glod ac enw mawr jmhobman yr elai. Cai ( alwadau mynych i ddifyru rhai o fcnedd ucbaf y wlad, a bu yn canu'r del) n o flaeo rhai o'r Teulu Breohinol. Priodas Frenhinol. I Yn Berlin ddvdd Sadwrn unwyd y, Dywysoges Vict- i ia Louise, unig ferch I yr Emprwr William, mewn priodas a'r Tywysog Ernest Augustus, mab y Due Cumberland. Yr ocdJ tri penadur yn bresenol yn y bricdas, y Brenin George, y Kaiser, a'r Tsar. Dywedir fod yr anrhfgion priodasol yn werth tros bum' can' mil o bunau. Bywln Hir ar ei Fferm. Vn ddiweddar bu farw Mr John' Worthington, Ty'n y Groesffordd, Llan- bedr, ger Rhuthin. Efe oedd yr am- aethwr hynaf yn Nyffryn CIwyd. Bu fyw am bum' mlynedd a phedwar ugain yn y fferm. Bu yn warden yn eglwys j Danbedr am naw mlynedd ar hugain, ac yn aelod o'r Bw rdd Gwarcheidwaid j am un mlynedd ar bymtheg. Coleg Bangor a Mr Harry Evans Y mae Mr Harry Evans, F.R C.O., wedi ei bencdi yn gyfarwyddwr cerddor- ol Coleg y Brifys^ol Bangor, ac yn athraw eerddoro: i'r myfyrwyr. Penod- ir Mr Evans i'r s\ dd yn olynydd i Mr Lloyd Williams, y hwn sy'n rhoi ei le i fyny oherwydd l j fcd wedi ei benodi i swydd arall yn y Coleg ynglyn a llys- ieuaeth amaethyddol. + 0 Gole-- Bangor i Faes y Gwaed Pan dorodd y rhv fel allan yn y Ba k

I Y Bedd yn y Goedw

Y Bedd yn y Goedw!? Bu William Walter Burton o flaen y llys )t) N%in-,borne drachefn ddydd iMercher diweddaf. Honir iddo hudo geneth ieunnc o'r en\ Winifred Mary Mitchell, vyda'r hon yr oedd yn cyfath- rachu. i goedw-ig, ac iddo ei saethu yno a'i chladdu mewn bedd oedd cfe wedi ei barotoi ar ei chyfer. Gymaint yw y dyddordeb ymel ir yn yr achos fel y cafodd amryw eu niweidio yn y rhuthr am fynediad i'r llys. Tysti^yd gan fachgen a weithiai yn y fferm He yr oedd Burton a'r eneth yn gwasanaetbu, iddo fynd gyda'r cvhudd- edig i'r goedwig. ac iddo weled Burton yn mynd a beisicl o'r coed i ymyl ty yr eneth. Dywedodd y carcharor wrtho nad oedd w iw iddo son with neb am y beisicl neu byddai'n ddrwg arno. Tystiwyd gan George Gillingham, lLdurwr, am y modd y canfu ef a'i w, élig d, i o ddanedd gosod ar lawr yn y coed, a thystiwyd gan Henry Palmer, bachgen bychan, am y modd y gwelodd ef ac eraiil y bedd agored pan yr oedd- ynt yn hel briallu yn y goedwig. Tyb- iodd ef fod an Mr Gord geffyl neu anih il t'di maria-, i'i fod yn bwriadu ei gladdii yno. Bu yn dangos y Ile i'r heddgeidwaid ar ol hyny. j I') v\ edodd y Rhinjjyll Stockley fel y bu yn ymddiddan a Mis Mitchell, ac fel yr aeth ar 01 hyny i Manor Farm lie y twelodd ddillad y di ancedig, ac y canfu ddHrn.iu <' b .purau ar y rhai yr oedd y geiiiau An\\ yl Win." Y diwrnod j wedyn. meddai'r rhingyll, aeth i'r gosd- bachgen Palmer, a gwth- iudd ffvMi i't pridd yn union yn y lie y d\wedai'r batht.cn yr lcdd y bedd. Pan dyiunld y tT,-1I allan o'r p idd yr oedd gwallt dynol ) IIglyn wrthi. Wedi cael i|p« tiriodd L, (i;i hi a daeth o hyd i goi fT M ss Mitchell. Yr oedd ei diilad am dani, ac yr redd ei hct am ei phen, a'i mei yg- am ei dwylo Pan hysbys- w jd y cit-cl)-,iror y cyhuddid ef o'r i trychineb, dywedodd yn frawychus y gwyddai y c IHlddid ef. gan mai efe a weiwyd nl" f yda hi Dywedodd hefyd y poenai yn ddirfawr dros ei wraig, ei hod yn ddynes ragorol. Gofidiai iddo erioed weled yr eneth, ac y bu yn ynfyd iawn i ysgrifenu llythyrau ati. Yna tyst \v)d gan Dr Watts iddo gael ei alw i weld y corff yn y coed. Symudwyd ef oddiyno tr.vy ei gyfar- wyddid ef. Nid oedd anaf yn unman ar y corff ond y pen. Yr oedd un ochr i'w hwyneb yn ymarferol wedi ei chwythu ymaith, ac yn ei farn ef gwnaed ) r archoliion gydag ergyd gwn o dair neu bedair llath o bellder. Darllenodd y cytreithiwr tros yr er- lyniad I) thyrau a gaed ymysg dillad y drancedig, nid oedd enw na dyddiad arnynt, ond yr oedd yn llawyogrif y carcharor. Soniai Burton yn y llythyr- au am ei serch tuag at yr eneth, a I hybuddiai hi Ihag gwneud diwedd ar ei by %k 3-d. Traddodwyd y carcharor i sefyll ei brawf yn y frawdlys. --0--

Digwyddiad Ofnadwy I

Digwyddiad Ofnadwy. Y mae digwyddiad trist ac anghyff- redin iawn wedi cymeryd He yn yr Amerig Cymerodd bancer enwog o'r enw Mr B Sanders Walker ddogn o wenwyn un diwrnod me?n camgymer- iaid am ei feddyginiaeth. PM) "naeth y peth )n hysbys i'w feddyg dywed?yd w.tho nad oedd ?ganie.o ond ychydig ddyddiau i fyw, nad oedd dim a allai arbed ei fywyd. Gwynebodd y boneddwr ei dynged yn wrol, a threfnodd bobpeth yn barod ar gyfer ei angau. Cynhaliodd wleddoedd a gwahoddodd ei gyfeillion iddynt i ffarwelio a hwynt Yr oedd yn siriol a llawen gyda'i gyfeillion, yn wir, efe oedd y siriolaf o lawer o'r cwmni, meddir. Ymgynullai tyrfaoedd oamgylch ty y boneddwr bob dydd, a chanent emynau a gweddient. Weithiai ai Mr Walker i'r ffenestr a chwifiai ei law mewn ffar- wet atynt. Yr oedd rhai yn anghredu y ffaith, ac yn honi nad oedd wenwyn a effeithia felly. Ond, fodd bynag, ymhen ychydig ddyddiau collodd Mr Walker ei ym" yhyddiaeth. a bu'r boneddwr diuan farw ddydd lau diweddaf. j

Addef iddo Ladd ei Blentyn

Addef iddo Ladd ei Blentyn. Cerddodd dyn yn Salisbury ddydd Sadwrn i orsaf yr heddlu, a dywedodd: 'Rwyf wedi lladd fy merch." Enw'r dyn oedd Frederick Charles Jefferies, a ctudwai sicp newyddiaduron gyfagos. O'r braidd y coeliai yr hedd- geidwaid ei stori, ond cadwyd ef yno, a theliffoniwyd am feddyg yr heddlu, Dr. Armitage, yr hwn aeth i'r siop. Yr oedd y wraig yn gweini ar y cws- meriaid fel arfer, ac nid oedd yno arwydd o drychineb o fath yn y byd. Aeth y meddyg i fyny'r llofft, ac ar y gwely cantu Dolly Jefferies, naw mlwydd oed, a'i phen bron wedi ei dori i ffwrdd oddiwrth ei chorff. Yr oedd Jefferies wedi myn'd c lofft a lhfivy.'r siop ar ei ffordd i'r t f heb ddweyd yr un gair wrth ei wraig. Ychydig tunudau cyn hyny yr oedd yr eneth yn chware hefo'i brawd a'i chwaer allan yn yr heol. Catodd bocsiwr enwog o'r enw Luther McCarthy ei ladd yn Alberta, yr Amer- ig, ddydd Sadwrn diweddaf. Ei wrth- wynebydd oedd Arthur Pelky, bocsiwr Americanaidd, yr hwn a'i tarawodd nes y bu farw ymhen yr haner awr. Ni ystyrid Pelky yn hafal i McCarthy fe) j ymladdwr.

Pregeth y Canghciior I

Pregeth y Canghciior. I TradLiod, d I Mr Lloyd George n r-! chiad yn iigH:tp<;l Seion, Criccieth, I Jdydd SuI V oedd y cyfarfod 0 darl nawdd Cotec oenedlacthol G) mreig y B-enin Edward. Sylwodd Mr Lloyd George ar y dechreu nad oedd angen jmddiheuro am gymeryd rhan mewn cyfartod o'r fath hwnw ar y Sul. N'r oedj yrngais i leddfu ing a chyni ) n waith teilwng i'w wneyd ar y dydd ^anctaidd, ac yr oedd yr awdurdod IICI;If yn cyfreithioni gwneyd h) ny. Nid oedd unrhyw afiechyd, meddai, yn dwyn haner cym- aint o anobaith a thrueni i gartrefi'r wlad a'r darfodedigaeth. Ha:nt ofn- adwy "ydoedd, nid yn unig am fod ei gyni yn hir-barhaol, ond hefyd am n:ai rhai yn ngwanwyn bywyd bron yn ddi- eithriad a syrthiai yn aberth iddo. Lladdai tua chwe mil o'r I hai hyny yn y deyrnas bob bl w 3 d d)- n. Gallent sylv\ eddoli'n well beth ohg ii hyny pe dywedai fod haint yn ysgubo ymaith mewn un flwyddyn bob un a drigai yn Ne Sir Gaernarfon fod yr un pla yn dinystrio pob dyn, dynes a phlentsn, ) i. Ngogledd y Sir y fl\\ydd) n ddi'ynnl; fod poblogaeth Meirionvdd yn cael ei difa yn y drydedd flwyddyn yr un modd, yn y bedwaredd flwyddyn fod Sir Fon yn cael ei gwnv.*yd heb enaid bvw o'i mewn. Wrth ddod i ^aitrei el ft byd o Lundain yn misoedd y walJ\' yn, pan oedd y wlad yn ei ^vv'Si; oreu a i phrydferlhv\ ch yn sxfaredd^l, tybiai n is gallai dim ond iechyd a llawenydd fod yn y fath amgylchoedd Ond yr ocJJ yn dychr^n with feduwl iii; i: i oi gyfoeclion gynt oedd wedi eu tori aw 1 )-n fill(--IdtU eU ti)-ClLii;IU ,'ilil p I -i N s gel'id edrych unrhwv yieiriaJ h-h wtled cattrefi wedi lJU gwn \;l yn anghyfanedd gan y p'a eichyli h\\n Pan feddjli'i am y t-ych:nebau hyn y oedd pr) dfe thweh y gymdogaeth yn diflanu a'i tlnvf yn gw-ywo, a gwelai ) r anghenfil hwn yn cerd Jed yn h) t drwy'r glyn gan herio unrh} alia i dllwyn ei ) slyfaeth yn fyw o'i graiangau Nr oeddynt hwy wedi ymgynull y noswaith hojio i dderbyn yr her, ac os y byddai i Gymru fod ddigon doeth a dyngarol i roi heibio pob gwahaniaeth plaid ac enwad, a sefyll fel un gwr yn y gad, byddai i'r haint gael ei dileu. Rhaid oedd cael cjdweithrediad. Nis gallai y Llywodraeth wneud dim heb help y dinesydd unigol, ac nis gallai y person unigol obeithio gorchfyzu heb gymorth y Llywodraeth. Yr oedd mudiad y Gofeb Gensdlaethol a'r Y s- wiriant Cenedlaethol wedi eu sylfaenu ar yr egwyddor hono. Rhan y person unigol, os oedd am osgoi'r afiechyd, oedd sylweddoli i'r eithaf y pwysigrwydd o gael digon o awyr iach, bwyd sylweddol a maethlon, goleuni, glanweithdra, ac yn al benig i'r plentyn, digon o gwsg. Busnes y Wladwriaeth oedd, nid yn unig gwella'r afiechyd, ond ei rwystro os oedd modd. Yr oedd yr olaf yn llawer pwysicach na'r cyntaf. Yr oedd dwy ffordd yn cael ei gosod allan yn y Ddeddt Yswir- iant trwy yr hyn y gellid gwneyd hyny. Un ffordd oedd dysgu pob un yn nedd- fau iechyd. Yr oedd yn rhatach dysgu dyn sut i gadw'n iach, nag ydoedd i roi ffysig a doctor iddo, a'i gadw pan yn wael. Y ffordd arall oedd edrych i mewn i'r amgylchiadau o dan y rhai yr oedd y bobl yn byw ac yn gweithio, ac i roi adroddiad, ac i hawlio fod diwygiad yn cymeryd He yn y manau yr oedd hyny yn angenrheidiol. Roedd llawer wedi ei wneyd yn y cyf- eiriad hwnw'n barod, meddai y Canghellor. Os darllenent newyddiad- uron arbenig, gallent dybio nad oedd dim wedi ei wneyd hyd yn bresenol tuag at iachau na meddyginiaethu neb oddigerth eu gorfodi i lyfu stamps un- waith yn yr wythnos, a'n bod yn credu mwy mewn gum na meddyginiaeth. Yn gyntaf oil yr oedd y Ddeddt Ys- wiriant yn rhoi miliwn a haner o'r neilldu tuag at sefydlu sanatoria. Rhaid oedd cael y moddion yn gyntaf. Tybiai rhai pobl, y funud y cyhoeddid y gyfraith, y codai temlau i fyny yn yr anialwch heb gymorth llaw ddynol. Nid felly yr oedd pethau yn cael eu gwneyd. Gallai deddfau ddarparu y meini, y calch a'r coed, ond yr oedd yn rhaid cael miloedd o ddwylo boddlon i ddefnyddio'r nwyddau. Ei gwyn et oedd fod rhai yn He cynorthwyo i gario'r meini i'r adeiladwyr, yn eu lluchio at y seiri ar y muriau. Ond er gwaethaf popeth, meddai, yr oeddynt yn mynd ymlaen yn rhagorol. Yr oeddynt trwy gyfrwng Deddf Seneddol yn dysgu gwers Ysgrythyrol i bobl y wlad hon, set Dyg-wch feichiau eich gilydd." Teimlai fod y tywydd yn gwella er gwaethaf arwyddion i'r gWfthwyneb- gauaf gwlyb a thymhestlog, a gwanwyn oer. Wrth gerdded drwy y ffair y dydd o'r blaen canfu nad oedd yr am. aethwyr yn digaloni. Dibynent ar bro- fiad y gorffenol a gwyddent y deuai pethau'n well. Gweleut y glaswellt yn tyfu er gwaethaf y gwynt, a'r blagur yn tori allan. Catodd y Ddeddf Yswiriant auaf ystormus iawn ar ol i'r had gatl ei hau. Cafodd hefyd wanwyn lied oer. Daeth awel lem iawn o'r siroedd dwy- reiniol y dydd o'r blaen. Ond er hyny gellid teimlo fod y tywydd yn cynhesu. Yr oedd y cynyrch yn tyfu, a cheid heulwen danbaid yn y man. Byddai y cynhaeaf yn doreithiog, a'r pryd hwnw byddai y rhai geisiasant ei ddinystrio yn llawen mai ofer tu eu hymgais.

No title

Y mae Cymry Llundain yn apelio am t gronfa goffadwriaethol gael ei chych- wyn er budd gweddw y diweddar R. S. Hughes.

Advertising

VMOBD I DDOD YN IACH. "Pob d-urfun II ddywed banes. A WcIIhant Gamdreullad, Geri (Biliousness), Rhwymiad, Palliant Gwae d t Cyfog, Gwynt, Cur yn y Pen, &c. Gellir tebygoli y stumog, yr afu, a'r ooluddion i dri bwa pont fawr os nad oadam bob bwa, anniogel fydd y bont. Ao 08 bydd y stumog, neu yr afu, neu y coluadion allan o drefn, yn ddiwad fe waela, o gydymdeimlad, holl organau ereill y gyfundrefn fawr hon. Dylid, felly, ymar- fer PELENI CINIAW DOAN ar yr arwydd cyntaf o annhrefn yn yr afu, yn y Btumog, neu yn y coluddion, fel ag i rwystro mewn pryd i'r drwg ledaenu. Os oes anhwylder yn etch stumog drwgeffeithir ar y tafod, bydd archwaeth anhvfryd yn y genau, a chewch gamdreuliad ynghyda'r mawr.ddrygau sydd bob amser yn ei ganlyn-balliant gwaed, llosg cylla, anhunedd, yr hunllef (nightmare), our pen, cyfyngdra anadlu, poenau rhwng yr ysgwyddau, ac yn y fynwes. PELENI CINIAW DOAN ydyw physigwriaeth fawr y stumog. Cynorthwyant dreuliad bwyd, ac adferant y stumog. Un o BELENI GINIAW DOAN (Doan's Dinner Pills) ar ol pryd trwm a rwystra bob effaith niweidiol. Os oes anhwylder ar eich afu, a. eich Y" ? ? ??? ??f L L-? '?'A  ?; ??'jt v?j??u?.J?W gwedd yn felyn a gwyn eich llygaid yn ddrwgliw; chwi deim- 1 w c h yn ddiawch ac yn bruddaidd, bydd yna gyfog, a'r geri bil4), lloag cylla, y bendro, ao arloesygiad (nausea). "Qwenieitha" PELENI CINIAW OAN yr afu, a chymhellant ddyliflad y geri, gan sicrhau gweithrediad iachua y peirianfc pwyalg hwn. Ond os esgeulutir yt anhwylder, fe arwain i'r cryd melyn (jaun- dice) a cherrig yn y bledren. 01 rhwymedig eioh coluddion (bowelt) oewoh boen yn nghesail eich morddwyd; bydd yna dynerwoh a phoen yn y stumog; collwch arohwaeth at fwyd, a ohnawd, A thrallodir chwi gan wynt, plorod croen, a ehlwyf y marchogion (piles). Gwenwynit y gwaed, a byddwch mewn perygl o gael 1 clwyfau adnabyddir dan yr enwau oppMl- dicitis a peritonitis. Effaith PELBlU CINIAW DOAN ydyw meddalhau talpiau 0 fwyd difudd sydd yn adfeilio, a chyffroi y coluddion i weithrediad esmwyth a natur- iol. Os a ddiwrnod heibio heb weithrediad y coluddion byddwch yn sicr o gymeryd dogn o BELENI CINIAW DOAN cyn myned i orwedd, ac yn y modd hyn rhoddi i'r coludd- ion y cynorthwy angenrheidiol i weith- rediad naturiol. Dylid bob amser gadw yn y ty flychiad o BELENI CINIAW DOAN, A dylai pwy bynnag o'r teulu sydd heb deimlo yn dda gymeryd dogn o honynt ar unwaith. Pris PELENI CINIAW DOAN ydyw 1/1J y blwch, chwe' blwch, 6/- I'w cael gan holl fferyllwyr, ac yn y Stores, neu yn syth oddi- wrth y Perchenogion, FOSTER MCCLELLAN Co., 8,-Wells Street, Oxford Street, London, W., yn rhad drwy y pott ar dderbyniad y prts. PELENI CINIA W DOAN (Doan's Dinner Pills).

Mr MKennan Nghaergybii

Mr. M'Kenna'n Nghaergybi Nos Werer diweddaf bu Mr. M'Kenna yn aneich cynhulliad lluosog iawn yn Neuadd tref Caergybi. Yr oedd darpariadau manwl wedi cael eu gwneud i rwystro i'r Ysgrifenydd Cartrefol gael ei aflonyddu gan y Suffragettes Gwnaed archwiliad man- wl ar bob congl o'r adeilad, ac nid oedd neb yn cael myn'd i mewn heb diced. Ceisiodd dwy ddynes fyn'd i mewn heb diced, ac erlidiwyd hwynt allan o'r dret yn ebrwydd. Dywedodd Mr. M'Kenna, i'r hwn y rhoddwyd derbyniad brwdfrydig, na ddylai y Cymry ofni fod y sail leiaf i'r son y gwneid cyflafareddiad rhwng y Llywodraeth a'r Wrthblaid ynglyn a Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys. Credai nad 'oedd y ciwradiaid yn Nghymru yn dda iawn allan ond ar yr Eglwys yr oedd y bai am hyny. Mewn gwirionedd yr oedd y mesur yn rhoi i'r ciwradiaid obaith am y dyfodol na feddent o'r blaen. Yna amddiffyn- odd Mr. M'Kenna yr adran hono o'r mesur sydd yn ymwneyd a'r mynwent- ydd. Gofynodd am i'r Cymry ei gef- nogi ef i basio'r mesur fel yr oedd. Credai ei fod yn cario allan ddymuniad y mwyafrif mawr o bobl Cymru. 'Roedd Esgob Llanelwy wedi rhoi i fyny bob ymgais i amddiffyn yr Eglwys, I ac wedi dechreu ymosod ar y Method- istiaid Calfinaidd. Meddai yr enwad hwnw afael cryf ar serch a theimladau y genedl Gymreig. ac yr oedd y gwaith a wnaeth yn un o'r pethau mwyat ardderchog yn hanes y genedl. Nis gall kii,, ddirnad ayt y medrai unrhyw Gristion na Chymro ddilorni y Method- istiaid Calfinaidd. Ond nid oedd raid iddynt ofni ymosodiad yr Esgobion mwy nag ymosodiad y blaid Doriaidd. Yr oedd y Toriaid yn darogan byth a beunydd y gyrai y Weinyddiaeth Ryddfrydol y* wlad i ddinystr. Ond beth oedd y ffaith? Ni bu y wlad erioed yn fwy llewyrchus mewn un- rhyw agwedd arni nag ar hyn o bryd. Gwaith y blaid Ryddfrydol oedd edrych ymlaen. Yr oedd gandd) nt i ymwneyd a phwnc y tir a chyflwr y trigfanau. Yr oedd llawer i'w wneyd hefyd ynglyn ag addysg, ac yn olaf, ond nid y lleiaf, yr oedd angen diwygiad ar y deddfau dirwestol. Nid oedd gan yr Wrth- blaid bolisi o fath yn y byd. Yr oedd- ynt wedi bwrw Diffyn Dollaeth heibio. Yr oeddynt wedi colli un arweinydd, ac wedi gwneyd i'r llall "gerdded yr ystyllen." Nid oedd ar y Rhyddfryd- wyr eu hofn, a disgwylient i bobl Cymru orymdeithio'n fuddugoliaethus ar y blaen i'r blaid Ryddfrydol.

Tan mewn Eglwys

Tan mewn Eglwys. Bu digwyddiad cyffrous iawn yn Eglwys Gatholig Notre Dome yn Leicester Square, Llundain, ddydd Sul. Dychrynwyd y gynulleidfa gan lefau geneth ieuanc yr hon oedd wedi ei hamgylchu gan fflamau, ac yn y cyffro cymetodd dillad dwy eneth techan arall dan, a rhu llrodd y gynulleidfa allan ar draws eu gilydd mewn braw a dychryn. Yr oedd y Mass ar fin terfynu trwy i'r "Gloria" gael ei ganu, a phan yr oedd y Tad Murphy yn myn'd i ddweyd "Amen "rhuthrodd geneth fechan o'r enw Fantoni Ida i'r oriel lie yr oedd llawer o blant eraill wedi bod yn der- byn y Cymmun, a'dychrynodd yr add- olwyr drwy lefain ac ysgrechian. Yr oedd dillad yr eneth ar dân, a rhedodd ar draws yr oriel a chymerodd dillad dwy eneth fach arall ddn oddiwrthi. Yn ffodus llwyddwyd i ddiffodd y fflamau ar y ddwy eneth rheini, ond gyda Fantoni Ida bu'n wahanol. Llefai fwyfwy fel yr oedd y fflamau yn cyn- yddu o'i hamgylch, a rhuthrodd y geuethod ati. O'r diwedd cymerodd boneddiges garped oddiar y llawr, tafiodd ef am yr eneth, a gwasgodd ef am dani nes diffoddodd y fflamau. Yr + oedd rhan fawr o'i dillad a llawer o'i gwallt wedi Hosgi. Yn y cyfamser yr oedd cyffro mawr ymysg yr addolwyr yn llawr yr eglwys, gan nas gwyddent yn iawn beth oedd wedi digwydd yn yr oriel. Gwelent y fflamau a chlywent y plentyn yn llefain. Tybiai llawer i fam mai ei phlentyn hi oedd, a thybiai eraill fod yr eglwys yn myn'd ar dan. Cyn- yddodd y cyffro, a rhuthrodd y bobl am y drysau. Syrthiodd rhai yn y rhuthr, a methrid hwy ar lawr, a llew- ygodd amryw o'r merched. Yn nghanol yr helynt chwareuai yr organydd yr offeryn yn hollol ddigyffro, ac ar awgrymiad yr offeiriad dechreu- odd y cor ganu, ac o dipyn i beth daeth y gynulleidfa yn eu holau i'r eglwys. --0--

Manion

Manion. Syrthiodd Mr John Jones, Ffynonau, Llaneiydd, yn farw oddiar ben y das yn y gaalas y dydd o'r blaen. Nid oedd ond ychydig ddyddiau pan fu farw ei dad yn sydyn iawn. Yn ystafelloedd y Mri Christie, yr arweithwyr enwog o Lundain, ddydd Gwener diweddaf gwerthwyd darlun o waith J. Maris am saith mil o bunau. Cafwyd baban ychydig tros flwydd oed yn y tren a redai o Manchester i Rochdale y dydd o'r blaen, ac nid oedd neb gydag cf. Cymerwyd ef i Dloty Dearnley.