Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

AT EIN GOHEBWYR. Aufonei erbyn BOREU 8ADWRN y fan bellaf Pob arcbebion a thaliariUti am Yr UDGOBN i'w hanfoa i'r GORUCHWYLIWR, 74, High Street. Pwllheli. Pob gohebiaeth i'w cyfeirio- YR UDGORN OFFICE, PWLLHELI. Bydd yn dda genym dderbyn goheb- iaethau oddiwrth ohobwyr ar faterion Heol o ddyddordeb cyboeddus.

NODION A HANiftiON

NODION A HANiftiON. Anwiredd Costus. Yr oedd dyn yn Melbourne mewn dyled o gan' punt, ac i osgoi ei thalu dywedodd fod lladron wedi ei ysbeilio o'r arian. I roi lliw ar ei stori sneth- odd ei hun yn ei fraich, a bu raid ei thori ymaith. 50,000p. o lawn, Yr wythnos ddiweddaf, caniatawyd i Miss Daisy Markham, chwareuyddes, y swm o haner can' mil o bunau oddiar Marchog Northampton, yn iawn am dor amod priodas. Dyma'r swm mwy- f at dalvvyd erioed mewn achos o'r fath. Damwain Angeuol mewn Glofa. Ddechreu'r wythnos o'r blaen cytarfu Moses Edwards, glowr o Radcliffe, a damwain angeuol pan yn gweithio yn y pwll glo. Syrthiodd rhan o'r to i lawr ar ei ben gan ei ladd yn y fan, a chafodd ei frawd hcfyd ei nivveidio'n ddifrifol. Tori ei Galon ar ol ei Gi. Bu farw dyn yn Woolwich o'r enw Francis Benson, saith a thriugain oed, o hiraeth ar ol ei gi, yr hwn a laddwyd gan fodur. Dywedai merch Benson yn y trengholiad fod ei thad yn wylo'n hidl ar ol y ci, ac effeithiodd gymaint arno fel y cafodd wasgfeuon, a bu farw. Drtia.-i o'r Merchsd. Yr wythnos ddiweddaf, apeliai Miss Gwyneth Majorie Bebb, Llanbedr, am j i'r GymJeithas Gyfreithiol ganiatau iddi gael ei derbyn fe! cyfreithiwr. Hys- byswyd ei bod wedi pasio ei harholiadau yn y dosbarth cyntaf. Dyfarnodd y Barrrwr yn erbyn derbyn merched i'r broffes gyfreithiol. Tori i Mewn i Gapeli. ToroJd rywun i mewn i gapel Taber- nact, Bangor, ac i Eglwys y Drindod, Llandudno. y dydd o'r biaen. Yn y capel yn Bangor yr oedd gwahanol jrypyrddau a drysau wedi eu malurio, a'r gwin cymundeb wedi ei yfed a'i luhjo hyd y llawr. Yr oedd amryw lyfrau cytrifon yn PI thyn i'r c Are: hefyd wedi eu malu yn ddarnau. Ffordd Beryglus. Y mae y ffordd rh wng Llanf air Fech- an a Phenmaen Mawr yn bervglus i'w thramwy. Ar un ochr iddi mai rhediad syth i lawr i'r mor, ac ar yr ch.hr arall ymgyfyd mynydd uchel. Mae'r mor yn bwyta'r tir yn raddol, a llithr i me ni i lawr o'r mynydd i'r ffordd yn baihaus. Credir y bydd raid tori twnel a gwneyd ffordd newydd trwy y mynydd cyn hir. Gustav H arnel yn Dod i Borth- i-n a d og. Cynhelir yr Arddangosfa Amaeth- yddol Genedlaethol Gymreigyn Mhorth- madog ar Awst y 7fed a'r Sfed, y flvvyddyn hon. Mewn cyfarfod o'r pwyligor a gynhcdiwyd ddvdd Gwcner diweddaf, hysbysodd Mr Neweil, y cadeirydd, eu bod wedi trefuu gyda Gustav Hamel, yr Awyrwr enwog, iddo ddod yno i roi chedlong ar ddau ddiwrnod yr Ar- ddangosfa *• Ffermwr a'i W s yn Boddi. Bu damwain d ¡:-ot iawn yn Uandilo, y dydd o'r blaen. Roedd James Davies, ffermwr o B entrecwm, wedi mynd gydtl'i was mewn cerbyd bychan i odro'r gwartheg, a phan yn dod yn ol ihedodd y ceffyl, a chafodd y ddau ddyn eu taflu i'r afon Taf. With cu gweled yn hir yn dychwel gartref aed i chwilio am danynt. Gwelwyd y ceffyl wedi boddi mewn llyn ùwfn, a chaed corff Davies a'i was ychydig ymhellach Esgeuluso ei Phlentyn. Cyhuddwyd dynes yn Manchester yr wythnos ddiweddaf o achosi marwol- aeth ei phlentyn trwy ei hesgeuluso. | Dywedwyd nad oedd wedi ihoi vmborth piiodol i'w geneth fach, nac wedi sicr- hau gwasanaeth meddyg iddi a hithau'n wael ei hiechyd, ac iddi drwy hyny brysuro ei marwoiaeth. Dywedwyd hefyd y orfodd y cyhuJdedig ei rhy- buddio lawer gw.iith gan ei chymydog- ion yn ei chylch. Hysbyswyd na phwys-d yr eneth ychydig cyn ei mar- wo'aeth ond tua saith bwys ar hugain, pryd y dylasai bwyso triugain pwys yn ol ei hoed. Gollyngwvd y gyhuddedig yn rhvdd. Cydnabod Gwaith Mr Lloyd I George. Yn Nghynhadiedd y Methodistiaid Cainnaidd yn Marram, Morganwg, yr wythnos ddiveddaf, pasiwyd cefnogi mudiad cenedlaethol i gydnabod gwas- anaeth mawr Mr Lloyd George i'r wlad ac i ddangos y werthtawrogiad o hono. j —Yn nghytarfod Cyngor Sir Caernarfon ddydd Iu diweddaf pasiwyd pleiJlais o ymddiriedaeth Iwyr yn Mr Lloyd lieorge ac o brotest llym yn erbyn y cyhuddiad- au a'r ymosodiadau gwaradwyddus a wnaed arno. i + Heddgeidwad yn Cael el Ladd. Cafodd y Cwnstabl Blythen, o'r Wyddgrug, ei daro i lawr gan todur yr wythnos ddiweddaf, a bu farw oddi- wrth effeithiau'r niwcidiau ddel byniodd Vrr oejd et a oatl arail yn sefyll ar yr heol ac yn edrych ar fodur oedd yn dynesu atynt. Symudodd Blythen gam neu ddwy yn ol i'r modut basio, a daeth mildur o gyfeiriad arall a tharaw- odd ef yn ei gefn nes y taflwyd ef i lawr. Torodd asgwrn ei ben, a bu farw ymhen dwyawr. Ei Saethu wrth ei Waith. Pan yr oedd dau was fferm o'r enw Marsh a Smith yn oweithio hero'u g-ilydd mewn cae yn VVoking, ddydd Sadwrn, clybmvyj swn ergyd, a gwaeddodd Marsh, Rwyf wedi ty saethu," a syrthiodd i lawr a bu tarw cyn y gallwyd cyrchu meddyg ato. Clywid swn yr ergyd yn dod o lwyn o goed gerllaw, a rhedodd Smith yno ar unwaith ond methodd a gweld neb. Yr oedd Marsh, meddir, yn ddyn neillduol o dawel, a thybir nad oedd neb wedi ei saethu'n fwriadol. Diaiir i Briodi. Yr wythnos ddiweddaf diangodd dyn ieuanc o'r enw Ivor Brown, o Tony- pandy, i briodi gyda geneth ieuanc ddwy ar bymtheg oed, o'r enw Violet Mildred Ellis, merch i oruchwyliwr Gwaith Priddfeini y Venwyllt. Aeth y ddau mewn cerbyd modur i Bontypridd, priodwyd hwy yno, ;.e wedi hyny aeth- ant i Lerpwl gyda'r bwriad c fynd tros- odd i'r Amerig. Ond hysbyswyd yr heddgeidwaid gan rieni yr eneth, ac o ganlyniad daliwyd y par ieuanc cyn iddynt hwylio, a chymerwyd Brown i'r ddalfa ar y cyhuddiad o gymeryd yr eneth ymaith. Pan ddygwyd ef i'r llys galwyd yr wys yn ol gan dad yr eneth, yr hwn a gymerodd ei ferch gartref. Dywed Brown, gan belled ag- tod yr eneth yn awr yn wraig iddo, ei fod yn benderfynol o'i chael. Cwn Ffyrnig. Pan oedd bachgen bychan yn cerdded yn goesnoeth hyd lan y mor yn Girvan, Ayr, ymosododd pedwar o gwn arno gan ei frathu'n erchyl) yn ei goesau a'i ddwylo. Llwyddwyd i yru'r cwn ym- aith, ond yr oedd y bachgen wedi cael ei andwyo'n enbyd. Ychydig yn ddi- weddarach cafodd geneth fach yn yr un lie ei hymlid gan gi, ond Uvvyddodd I nifer o ymvvelwyr i'w darfu ymaith. I Diacon yii Ymosod ar H eddgeid- waid. Yn y Drefnewydd, yr wythnos ddi- weddaf, cafodd ffermwr o'r enw Richaid Howell Bennett, • blaenor yn nghapel M.C. Pen e', gery Drefnewydd ei ddirwyo i ip. a 7s. 6c. o gostau am fod yn feddw ac afreo'us, neu bythefnos o garohar os ni byddai'r ddirwy yn cael ei thalu ymhen y pythefnos, ac i 5p. a'r costau am ymosod ar yr hedd- geidwaid, neu fis o garchar os na thelid y ddirwy. Dywedai heddwas iddo weled y diffynydd yn feJJw. Gofynodd i'r heddwas am fatscn i roi tan ar ei bibell, ac wedi rhoi un iddo aeth yr heddgeidwad yn ei aaeo, ond daeth y diffynydd ar ei ol gan ddechreu ei ddirmygu. Ceisiodd y swyddog ei gael i gychwyn am adref, ond galwoda y tyst ar bob en\ ac ymosododd arno, a chiciodd ef. Daeth heddwas arall i'w gynorthwyo i gael y dyn i'r carchar, a chicijdd hwnw draciiefn a tharawedd ef yn ei wyneb. Ymosododd hefyd ar y Rhingyll Davies pan aeth hwnw a'r meddyg i'r carchar i wneud archwiliad arno, tarawodd ef yn ei ben a daiii o haearn. Yn ei arnddiffyniad dywedai y diacon tod yr heddgeidwaid yn ei WYIIL) tel cath yn ;%N)ii, .) I'.ygoden, a'u bod wedi ymosod yn greulon arno, ond yr oedd yn adder ei fod wedi taro'r rhingyll. Porthmon o Sais a'r GyfraiLh Gymreig. Pan y dirwywyd William Berry, Rhyl, i 5s. a'r costau yn Abergele ddydd Sad- wrn, am oryru ceffyl a cherbyd trvvy'r heolydd, ac efe wedi ei rybuddio deir- gwaith rhag gwncud hyny, dywedai m,¡i ci,. n,i'r tro c; rrLaf iddo glywed am y fath gyfraith gymreig. Nid oedd gyfraith felly yn Lloegr, meddai ef, a bvvlJa! hob a Miser yn gyru ei gefTyi pO, noaint ag a aliai 11 V ffiridu Seisnig t> .¡ f. er Ii. wyn Cl ddangos allan. Nid oedd yn wybod fod y gyfraith yn wahanol yn ;Vghymru. Dywedodd y cadeirydd nas wydilai yntau sut y gwnaent yn LKiv-r, ond na chai wneud hyny yn Abergele. ■ £ *• Pris Sebon yn Codi. Ohervvydd %-r yti n,,h(-ist y detnyddiau y n.ae pris sebon wedi codi Jdimai y pvvj b.

Mr Lloyd George yn Talu yn ol I

Mr Lloyd George yn Talu yn ol. I EI GYFEILLION YN EI GROES- AWU. Yr oedd dyddordeb a brwdfrydedd mawr yn y cinio a roed i Mr Lloyd George i Syr Rufns Isaacs, yn y Chvb Rhyddfrydol Cenedlaethol, ddydd Mawrth diweddaf. Cafodd y ddau groeso anghyff-edin, yn arbenig y Cang heIlor. Yr oedd Mr Winston Churchili hefyd yn bresenol ac amryw wyr enwog eraill. Dyma'r tro cyntaf i Mr Lloyd George siarad yn gyhoeddus ar ol ymchvviliad Pwyllgor y Marconi i'r cyhuddiadau y n ei eibyn. Pan god(-dd i siarad cafodd dderbyn- iad ardderchog Yr oedd yn ei hwyl- iau goreu, traddododd araith gref, a chystwyodd ei elynion yn ddidruguredd. Yn y-.tod ei araith dywedodd y cafodd ef a'i gytaill lawer o lylhyrau o bob :han o'r wlad, ac amryw oddiwrth Geidwadwyr, yn protestio yn erbyn y medd anheg yr ymddygwyd atynt eu dau. Yr oedd rhai o'u gwrthwynebwyr hyd yn nod wedi addef—rhai yn llawen ac asrored, eraill braidd yn grintachlyd, a'r lleill gyda phoen—na wnaethant ddirn i JJianrhydeddu eu safle. Yr oedd newyddiaduron goreu a mwyaf dylanvvadol y blaid Doriaidd, yr oedd yn dda ganddo ddweyd, wedi gwrthod ymostwng a chymeryd rhan yn ei erled- igaeth. Carasai allu dweyd hyny am yr oil o honynt, a charasai ddweyd hyny am y blaid Doriaidd yn y Senedd. Ond yr oedd hyn i'w ddweyd am danynt, credent bwy fod Rhagluniaeth wedi eu penu i I)- xodraethu'r wlad, a phan nad oeddynt yn llywodraethu tybient fod rhywbeth allan o'i le. Cysurent eu hunain mai helbul tymhorol ydoedd sydd ar brydiau yn ymweled a hyd yn nod y cyfiawn. Ond pan welent y Rhyddfrydwyr yn parhau mewn gallu, mesurau yn pasio dtwodd, a'r wlad yn llwyddú-a gwaeth na dim, hwy yn gorfod ufuddhau i'r dedctfau fel pe baent yn bobl gyfTredin-aent yn wall- gof g;m syched. Yn y cyflwr hwnw nis gallent mewn unrhyw fodd adael yn llonydd y rhai oedd yn eu cadw oddi- wrth y ffynonau, nac ymddwyn yn deg tuag atynt. Gorfu iddo et a'i gyfaill eistedd yn lionydd am fisoedd, tra yr oedd pub eniiib a gwaradwydd yn cael ei luchio atynt. Nid cedd modd iddynt daro'n ol, ac nid oedd modd iddynt eu hateb oherwydd traddodiadau y Senedd. Yr oedd taio dyn pan mae ar lawr, a'i ddwylo yn rhwym, yn un o'r pethau mwyaf llwfr ac iselwael mewn bod Yr oedd wedi citel awgrym nad oedd i dalu'n ol. Ond carai wybod faint o'r rhai fu yn ei erlid fuasai yn pleidleisio dros iddynt hwy ddangos eu llyfrau am dair blynedd. Yr oedd yn anodd peidio talu'n ol, pan y gwelai rai yn gosod eu hunain fel barnwyr, a phan y cofiai yr hyn a welodd o dan weinyddiaeth Doti- aidd yn ystod ei yrfa yn y Senedd. Anodd oedd peidio ad-dalu, meddai, pan ticlal Air Bonar Law yn dweyd y dylid esgymuno pob Gweinidog fyddai yn euog- o wneyd carngymeriad, a phan y gwelai y Toriaid yn rhuthro o Ascot i basio cerydd ar rith o hap-chware. Yr oeddynt rhagllaw am ddal y Ceid- wadwyr 1 sefyll wrth y safon a osodwyd i fyny ganddynt hwy eu hunain. Yr oeddy.t wedi eu heiiid am y safasant yn bur at eu hegwyddorion, ac otnat r Toriaid yr hyn oedd ar ddyfod. Y fath syniad, oedd Lybio y buasai et a'i gyfaill yn barod i aberthu serch eu cyfeillion a'u cyd-aelodau am werth cyfnewidiol y farchnad ar ychydig gyfranau. Roedd ganddo ef ei uchelgais fel pob dyn arall. Ni buasai efe yn aberthu y mymryn lleiaf o serch a ffydulondeb Cymru tuag ato am iioll gyfoeth y brifddinas. Dy- wedai Arglwydd Robert Cecil na ddylai'r un dyn roi ei hun mewn safle ag y byddai ei fuddianau personoJ yn ymyryd a'i fywyd cyhoeddus. Gresyn, meddai Mr Lloyd George, na buasai Arglwydd Robert Cecil yn lyw i bregethu'r efengyl yna lawer blwyddyn yn ol. Roedd y Toriaid wedi bod mewn awdurdod ar bwys eu haddevvid- ion i'r werin, ac wedi manteisio ar eu swydd i loi arian yn !logellau y Li,tedd- ianwyr. Nid oedd ef am adael pethau'n llonydd, ac nid o dd ganddo ddim i'w olni Roedd anghenfil e^ch wedi bod yn ymnsod arnn ef a'i gytaill Yr oedd- ynl, nid a'u ll .w eu hunain, ond gyda help cyfeiliion, wedi ei ladd, ac os nad oedd yn camgymeryd yn fawr, byddai iddynt dynu mel 0'1 ysgerbwd a felysai fywyd miioedd oedd hyd yn hyn heb b.-ofi dim ond 11 well a chwerwder y byd. Cafodd Syr Rufus Isaacs hefyd dder- 'Rl byniad croesaw?ar inwn Rhoes ef yn ei araith deyrnged uchel i Mr Lloyd George. Pcenodd tawer ddartod i'r Canghellor ddioddef cymaint cherwydd ei amryfusedd ef, ond da oedd ganddo ei weled eto mewn cystal hwyl, ac yn twy o arwr nag erioed. Roedd wedi codi liawer cof-adail iddo'i hun, ond nid oedd yr hyn a wnaeth i'w gymharu i'r hyn a wna eto, ac yr oedd arwyddion sicr i'w gweled am fiVd-igoliacth fawr iddo. Dywedodd Mr V\ 1 ion Churchill, eu bod yno i anrhydeddu dau o'u cyf- eillion a'u cyd-aelodau, y ihai a gaw- sant y driniaeth fw yaf gwaradwyddus er eu mwyn. Roedd Mr Llovd George yn cael ei gashau gan ddosbarth arbenig yn y wlad hon, meddai, yn fwy hyd yn nod nag y casheid Mr Gladstone pan yn anterth ei ddyddiau yn 1886. Yr oedd y dt iniaeth a gafodd yn ddiweddar gan ei elynion mor isel, mor greulon, ac mor waradwyddus, fel yr oedd ym- ddygiad ei erlidvvyr yn ysmotyn du ar hanes y wlad.

Marw Arglwydd Lyttelton

Marw Arglwydd Lyttelton.) Foreu Sadwrn diweddaf, bu farw y Gwir Anrhydeddus Alfred Lytteiton, K.C A.S Efe oedd mab ieuengaf y pedwerydd .'i,.glvvydd Lyttelton. Yr oedd ei dad) n gyfeillgar iawn a Mr Glastone, a'i fam yn chwaer i Mrs Gladstone. Ganed ef ar Chwefror yfed, 1857. Vr oedd yn ddeugain oed pan atth gyntaf i'r Senedd, iel Rhyddf-ydwr Undebol tros Warwick a Leamingtiui Nid oedd «v rtlnvy ncbydd iddo y tro h w n vv. Yn 1903, er syndcd i'r byd politicaidd cafodd ei altv i'r Cyfrin Gyngor, yi. olynydd i Mr Chrmberlain fe! enydd y Trefedigaethau. 0 herwydd ei tarwolaeth bydd ethol- iad yn angenrheidiol yn ihanbmh St George, Hanover Square.

IEisteddfod Gwyl y BancI Pwllheli

Eisteddfod Gwyl y Banc, I Pwllheli. Dymunir atgoffa ymgeisvvyr gogyfer a'r Eisteddfod uchod fod yn ofynol i'r holl Gyfansoddiadau fod yn llaw eu priodol FeirniaiJ, a'r holl Gelfyddyd- waith yn llaw yr Ysgi ifenydd, wedi talu ) eu cludiad, ar neu cyn dydd lau, Gor- phenaf I¡eg, ac enwau yr ymgeisvvyr ar y Gerddoriaeth a'r Adroddiadau i fod yn llaw yr Ysgrifenydd ar neu cyn Gorphenaf 24am. --0--

I Prawf Coch Bach y BalaI

Prawf Coch Bach y Bala. I TAIR BLYNEDD 0 GARCHAR. Yn Chwarter Sesiwn Meirionydd, ddechreu'r wythnos ddiweddaf, dygwyd John Jones ("Coch Bach y Bala") i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad u dori i swyddfa yn y Bala, ac o ddwyn cyllell. Galwyd amryw i dystio am symyd- iadau y carcharor y noson yr honid y toro,!d i mewn i'r swyddfa, a chroes- holai y carcharor bob un ohonynt yn fanwl. Cafodd y rheithwyr ef yn euog, a sylwodd y cadeirydd y cytunai yn hollol 'l'U dyfarniad. Yr oedd hanes du i'r carcharor. Er y flwyddyn 1872 yr oedd wedi treulio bywyd o droseddu. Yr oedd ganddo eto ddwy flynedd i wneud i fynu y ddedfryd basiwyd arno yn N ghaernarfon am niweidio, a chym- eryd hyny i ystyriaeth, dyfarniad y liys oedd ei ddedfrydu i garchar eto am dair blynedd. Tynwyd y cyhuddiad o ladrad yn ol.

IYmladd am AurI

Ymladd am Aur. Dywedwyd stori hynod am ymladdfa hefo Chineaid mewn achos ynglyn a iawn-dal yn Bow y dydd o'r blaen. Dywedai Edward Harden, ynglyn a'r hwn yr oedd yr achos, iddo dderbyn y niweidiau mewn ymladdfa, pan yr oedd ef a Sais arall yn ymladd a deunaw o Chineaid am 3,500p. mewiv aur. Yr oedd Harden yn Stiward ar y ilong Atlantic City. A." Mai 13eg, y flwydd- yn ddiweddaf, yr oedd y liong yn Buenos Ayres. RoeJd y capten yn bryderus iawn ynghylch yr arian gan fod yr oil o'r Saeson oedd yn perthyn i'r criw wedi mynd i'r lan, ac ofnai i'r deunaw Chinead ddod i wyhod am yr aur yn y caban, a cheisio eu hysbeilio. Gan hyny gofynodd i Harden aros gydag ef i gadw gwyliadwriaeth. Yr oedd drws y caban wedi ei gloi. Bu'r capten yn gvvylio am bedair awr ar hugain, ac wrth weled dim yn dig- vvvdd aeth i orffwyso. Fodd bynag, oddeutu naw o'r gloch y nos, aeth y Chineaid yn ddistaw tros ochr y llong, torasar.t ddrws y ca!">an, ac ymosodas- ant ar Harden. Cafodd yntau afael mewn e:fyn a thorodd benglog dau neu dri o honynt gydag ef. Daeth y cap- ten hefyd allan hefo'i lawddryll a saeth- odd dri arall. Ond cafodd y capten a'r stivvard eu trechu, a churwyd a chic- iwyd hwy nes yr oeddynt yn anymwy- bodol. Clywyd y saethu oddiar y. Ian, a daeth yr heddgeidwaid i mewn i'r Hong i waredu y ddau swyddog rhag cael eu llofruddio. Cymerwyd y Chineaid i'r ddalfa a chawsant eu dedirydu bob un i dair blynedd o beiiycl-wasanaefh. --o

Dewisiad Pwllheli I

Dewisiad Pwllheli. I Pe bae referendum yn cael ei gymeryd o bob trigianydd ym Mhvvllheli ni fuasid yn canfod un na fuasai y.n dewis gweithredu yn ol gair pobl barchus ac adnabyddus Pwllheli, yn hytrach nag yn ol barn pobl ddieithr mewn trefi pell. Ond pan mae pobl yn teimlo'n adiolch- gar, ac yn awyddus i helpu eraill, y gellir eu cael i siarad fel ag y gwna y brodor yma o Bwllheli. Dywed Mrs E. Griffiths, Brynfednant, Carnarton Road, Pwllheli Gailaf yn gydwybodol gymeradwyo meddigin- iaeth dda ar gyfer afiechyd ar yr elwlod a'r yswigen. Bu fy ngeneth fach yn dioddef am rai blynyddau oddiwrth wendid ar yr organau hyn, ond gwell- hawyd hi'o hollol gan gwrs o Doan's Backache Kidney Pills." Mae cymaint o afiechydon marwol yn codi oddiar afreoleidd-dra ar yr elwlod a'r yswigen fel y dylid dechreu ar unwaith gyda Doan's Backache Kid- ney Pills mor gynted ag y gwelir ar- wyddion o anrhefn ar yr elwlod, megis dropsi, crydcymalau, drwg ar y dwr, grafel, penysgafnder, poen yn y cefn, poen yn y lwynau, &c. Pris 2s. 9c. bocs, chwe' bocs am 13s. 9c. j gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eylur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mrs Griffiths.

LLOSGI CAPEL SALEMi PWLLHELII

LLOSGI CAPEL SALEM PWLLHELI. DIM OND Y MURIAU YN AROS. YMGAIS I DDINYSTRIO CAPEL ARALL. GOLYGFA GYFFROUS. Oddeutu un o'r gloch y boreu ddydd Sadwrn diweddaf achoswyd cyffro ang- hyffredin yn Mhvvllheli pan glybuwyd fod Capel M. C. Salem ar dAn. Canfu Mr. R Evans, y meddyg esgyrn, yr liwn sy'n byw dros y ffordd i'r capel, fwg yn d'od allan o'r capel oddeutu un o'r gloch, ac aeth ar unwaith i roi hys- bysrwydd. Cyn pen ychydig amser yr oedd y tan-ddiffoddwyr a chanoedd lawer o bobl wedi ymgasglu at y lie. Canfuvvyd ar unwaith mai yn rhan uwchaf y capel yn siamber yr organ yr oedd y tan, ac aeth y tan-ddiffoddwyr yn cael eu cynorthwyo gan lawer o bobl eraiil a'u holl egni i geisio diffodd y fflamau, ond er pob medr methiant tu eu hymgais, a chyn pen ychydig iawn o amser yr oedd yr holl adeilad yn goelcerth. Cyn pen teiravvr nid oedd ond y muriau moelion yn aros- yr organ hardd, y pvvlpud a'r seddau, y to a'r holl goed oedd oddifrewn i'r adeilad yn lludw, a gwydrau'r ffenestri a'r pibellau yn toddi, ac yn rhedeg fe! dwtr. Fodd bynag, llwyddodd y tan- ddifToddwyr gyda chymorth eraill i gadw'r fflamau rhag cyraedd i'r festri I gysylltiol, a chyda cryn drafferth ar- bedwyd yr adeilad hwnw. Yr oedd yr olygfa'n arswydus i'r eithaf-gweled yr adeilad prydferth yn myned yn aberth i'r fflamau, a chan- oedd lawer o bobl yn edrych arno ac yn methu gwneud dim i'w arbed. Gymaint oedd y gvvres fel nas gaHesid sefyll o fewn llatheni lawer i'r lie, ac yr oedd llewyrch y tan yn weledig am filldiroedd o bellder. Pan oedd y to a'r nenfwd yn cwympo i mewn deuai desgrinad Eben Fardd o'r Dem! yn Ninystr Jerusalem i'n meddwl "Trwst hon clyw äcw'r trawstiau'n clecian. Uthr uchel oedd, eithr chwil hi,-try yn llwch, A drych o drist\ch yw edrych drosti Amlwg ydoedd fod y capel wedi ei roi ar dan yn fwriadol. Caed arwydd- ion amlwg hefyd y ceisiwyd llosgi y testri, gan y caed olion tan mewn rhai o'r cypyrddau, ond yr oedd y fflamau wedi diffodd cyn gwneud Ilawer o ni wed. Canfuvvyd hefyd fod ymgais gyffelyb wedi ei gwneud yr un noswaith ar gapel y Tabernacl fB.). Caed clo'r drws wedi ei dori, a'r safe, lie y cedwid arian a g weithredoedd y capel, wedi ei ddryllio, ond nid oedd dim gwerthfa wr wedi ei gymeryd oddiyno. Yr oedd y nwy hefyd wedi ei ollwng i redeg, a than wedi ei roi ar un o'r jets, ond canfuwyd y perygl mewn pryd, a thor- wyd y cysylltiad. I HANES Y CAPEL. Yn 1862 yr adeiladwyd capel Salem, ac yn 1864 yr agorwyd et. Yn 1893 aed i rai miioedd o gostau i'w adgy- weirio a'i brydferthu. Gosodwyd organ hardd o'i tewn, ac adeiladwyd festri eang yn gysylltiol ag ef. Yr oedd ynddo eisreddleoedd i gynwys tuag wyth gant a haner, ac yr oedd yn un o'r addoldai harddaf yn Nghymru. Rhifai yr eglwys tua phum cant. Am- cangyfrifir y golled yn agos i bum mil o bunau. CYMERYD DYN I'R DDALFA. Yr oedd dvtalu mawr o barthed i bwy oedd yn euog ol r fatli anfadwaith. Tybid ar y dechreu mai gwaith y suffragettes ydoedd, ond ni chaed dim arwyddion yn cadarnhau y dybiaeth hono. Wedi gwneud vmholiadau caed allan fod dyn dieithr wedi ei weled o gwmpas y dref nos Wener, ac fod amheuaeth ynghylch ei arncanion. Rhoed hysbysrwydd i'r heddgeidwaid gan Mrs. Plas Jones y gwelodd ddyn dieithr a golwg gyffrous aruo yn eis- tedd ger Ysgol Troedyrallt pan yr oedd y capel ar dan, a rhoddodd ddesgrifiad o hono. Hysbyswyd hefyd gan Miss Elizabeth Williams, King'shead Street, yr hon sydd yn glanhau ac yn agor capel y Wesleyaid, fod dyn dieithr wedi d'od i'r festri oddeutu 7 o'r gloch nos Wener, a gofynodd a oedd yno gytarfod i gael ei cynal y noson hono. Wedi deall tod, dywedodd ei fod wedi addaw cyfarfod cyfaill^no, a dywedodd wrtho am eistedd, ond aeth allan yn fuan drndiefn. Rhoddodd Mr. Evan Jones, Abererch Road, hysbysrwydd hefyd y gwelodd ddyn o'r un desgrifiad yn myned ar hyd Abererch Road tua phedwar o'r gloch y boreu. Yr oedd y tri desgrifiad a roed i'r heddlu yn cyfateb i ddyn yr oeddynt hwy mewn amheuaeth ac mewn ymchwil am dano ynglyn a thori i mewn i addoldai yn Mangor a lleoedd ereill ychydig ddydd- iau yn flaenorol. Mewn canlyniad i'r hysbysrwydd a'r desgrifiadau cymerwyd dyn o'r enw William Alexander Booth Ross i'r ddalfa yn Mhentre'rfelin yn hwyr nos Sadwrn, gan y Rhingyll Jones o Borth- madog, a dygwyd ef i Bwllheli. Y CARCHAROR 0 FLAEN YR YNADON. Am nor gloch boreu Llun dygwyd William Alexander Booth Ross o flaen yr Henadur W. Anthony, Dr. S. W. Griffith, a Dr. O. W. Griffith. Dywedodd yr Arolygydd Owen fod y carcharor yn y ddalfa ar amheuaeth o fod wedi rhoddi capel Salem ar dAn ac hefyd o dori i mewn i gapel y Bedydd- wyr. Gofynodd i'r Fainc am ohiriad o'r achos am wyth niwrnod. Dywedai fod ganddo resymau digonol i'w gyf- reithloni wrth wneud hyn. Daliwyd y carcharor oddeutu haner awr wedi un- ar-ddeg o'r gloch nos Sadwrn yn agus i Bentre'rfelin, gan yr Heddwas Jones (13), Porthmadog, a throsglwyddwyd ef wedi hyny i otal y Rhingyll Lloyd a'r Heddwas Roberts o Bwllheli. Tystiodd yr Heddwas Jones, Porth- madog, ei fod mewn dillad preifat nos Sadwrn, ac iddo ddo'd ar draws y car- charor yn Mhentre'rfelin oddeutu haner awr wedi un-ar-ddeg, a chymerodd ef i fyny ar amheuaeth o roddi capel ar dân yn Mhwllheli. Gofynodd y cai- charor iddo sut yr oedd. yn sylfaenu ei amheuaeth, a dywedodd y swyddog wrtho y clywai fwy am hyn eto. Gof- ynodd y carcharor iddo drachetn a oedd am ei gymeryd i Bwllheli, a dywedodd yntau .ei fod. Trosglwyddodd y tyst ef i ofal y Rhingyll Lloyd a'r Heddwas Roberts, Pwllheli, yn Llanystumdwy. Dywedodd yr Heddwas Jones ymhell- ach iddo gyhuddo y carcharor boreu heddyw (Llun) o dori i mewn i gapel yn Mhwlll."ii, ac o roddi capel arall ar dan, ac ^ewn atebiad dywedodd y carcharor fod hyny'n gywir. Rhoed y carcharor ymysg nifer o ddynion yn y llys, ac adnabuwyd ef gan Mrs Plas Jones, Mr Samuel Lloyd, Bee Hive (yr hwn a'i gwelodd yn ymyl- Capel Salem yn hwyr nos Wener), Mr Evan Jones, Abererch Road, a chan Miss Williams, King'shead Street. Gofynwyd i'r carcharor a oedd ganddo wrthwynebiad i ohirio yr achos am wythnos, ac atebodd yntau "Dim o gwbl, gan belled y caf ddigon o fwyd. Gohiriwyd yr achos yn unol a chais yr Arolygydd. GWEITHGARWCH YR HEDDLU. Y mae yr Atolygydd Owen, y Rhin- gyil Lloyd, a'r heddlu leol i'w mawr ganmol am yr ymdrech wnaethant ddod o hyd i'r sawl gyflawnodd yr an- radvvaith, a da genym i'w hymdrech droi allan yn llwyddianus. Yr oeddynt wrthi yn gynar foreu Sadwrn yn gwneud ymholiadau, a thrwy yr ymchwil hwn cawsant ddesgrifiad o ddyn oedd o gwmpas y dref nos Wener ac a welid hefyd yn ystod y tan. Nid oedd unman o fewn milltiroedd i'r dref nad oeddynt wedi bod yn chwilio am dano, a mawr oedd y llawenydd oddeutu haner nos pan ddeallwyd tod y dyn ddesgrifid wedi ei ddal yn Mhentre'rfelin. H RHODD HAELIONUS. Y mae Mrs Roberts, Hope House, wedi rhoi rhodd o gan' punt i eglwys Salem yn arwydd o'i chydymdeimlad a'r eglwys yn y golled drom a gafodd.

Streic y Gweision Ffermydd I

Streic y Gweision Ffermydd. Y mae rhagolwg y bydd i'r gweision ffermydd a'u meistriaid yn Nwyrain Lancashire ddod i gytundeb a'u gilydd Iriiag blaen, ac y dechreuir gweithio cyn diwedd yr wythnos hon. Y mae masnach wedi dioddef yn ddifritol oherwydd y streic. Nid oes ond rhan fechan o'r cynhauaf gwair wedi ei gael i ddiddosrwydd, ac nid oes nemor ddim o'r pytatws wedi eu codi. Aeth fferm fawr ar dan yn Ormskirk nos Sadwrn, gan achosi colled o tua mil o bunau, ond bernir y bydd i'r golled gael ei gwneud gan yswiriaeth.