Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR I

AT EIN GOHEBWYR. I Ai.foner prbyn BultEU SAL-WRN | y fal) belipf Poh rtrrhenion am Yr UflGORN l'w h-mfoii i'r Goruchwyliwr, 74, H jgh Stp.wt, Pwllbpli Poh gohebiaeth i'w cyfoirio— YR UDGORN OFFICE, Pwllheli. Bydd vn cloa genym ddpr>^yn coheh- iaetbau oddiwrth obfthwyr I4-r fntprion ilf'ol o ddvddordeh cyhooddus

NODION A HANESION

NODION A HANESION. Y Diweddar Ganon Royds. Ddydd Mawrth (wythnos i heddyw) rhoed gweddillion marwol y Parch. Ganon Francis Coulman Royds, yr hwn a tu farw yn Bryngolen, Penmaenmawr, i orffwys yn mynwent Dwygyfylchi. Cyhoeddus oedd yr angladd. Tren ar Dan. Achoswyd peth cyffro i deithwyr mewn tren a draitaelia i Birmingham y dydd o'r hlaen. Pan yn agos i Solihull canfuwyd y cerbydau cyntaf yn cael eu llenwi gan fwg, ac yr oedd yn arnlwg fod rhai o'r cerbydau ar dan. Pan stop- iwyd y tren canfuwyd tod y coed yn ngwaelod un o'r cerbydau wedi dechreu cyneu. Wedi i'r teithwyr adael y tren aed a'r cerbydau o'r neilldu, a diffodd- wyd y tan. Dau Fwnwr yn cael eu Lladd Cwympodd canoedd o dunelli o rwbel i lawr o'r to yn Nglofa Woodpark, Bardsley, ddechreu'r wythnos o'r blaen, gan gladdu tri o'r gweithwyr o'r golwiz. Lladdwyd dau o lion) iit, ond diangodd y trydydd heb gael ond ychydig niwed. Y ddau gafodd eu lladd oedd James Alfred Clarke, Ashton, a Thomas Hol- land, Hurst. Yr oedd gwddf Holland wedi ei dori, ac asgwrn bên Clarke wedi ei falurio. Ymguddio dan y Tren. Pan gyrhaeddodd y tren Orient i Paris y dydd o'r blaen disgynodd bach- gen bychan, yn ddu drosto gan Iwch j glo, oddiwrth un o'r ceroydau. Dywed- | ai mai o Roumania yr oedd yn dyfod, a'i fod wedi trafaelio o Bucharest i Paris, tros fil a haner o filltiroedd o fforad, trwy ymguddio o dan un o'r cerbydau. Yr oedd wedi bod yn y sef- yllfa hono am yn agos i ddeunaw awr ar hugain. Yr oedd bron a newynu, a rhoed pryd o twyd iddo ac aed ag ef i sefydliad dyngarol yn y ddinas. Cychwyn yn Ddrwg. Yn Sheffield y dydd o'r blaen cyhudd. id dyn hardd a thrwsiadus o'r enw Frederick Williams Crompton o fod wedi meddwi. Dywedai l. wnstabl fod y cyhuddedig mor feddw fel nas caniat- eid iddo fynd i gerbyd gan y gyriedydd. Yr oedd yn hollol analluog, a chloes y cwnstdbl ef yn nghell y carchar. Dy- wedodd y cyhuddedig mai y diwrnod cynt yr oedd wedi priodi a'i fod wedi treulio noson gyntat y "mis mel yn ngharchar. Goliyngwyd ef yn rhydd gan yr ynadon er rhoi cyfle iddo ddi- wygio. Dyrchafiad i Frodor o Edeyrn. Y mae Mr. Robert O. Williams, Cal- der Lodge, IJIlet Road. Lerpwl, i gael ei ddyrchafu yn oruchwyliwr ar gangen Castle Street o'r London City and Mid- land Bank. fel olynydd i Mr. William J. Powell, yr hwn sy'n ymcidiswyddo. I Brodor o Pwll Pare, Edeyrn, yw Mr. Williains-mab i Capt. a Mrs. Williams, a brnwd y Mri. Owen a Watkin Wil- liams. masnachwyr liongau, Caerdydd. Etc oedd un o aelodau cyntaf Cym- deithas Genedlaethol Gymreig Lerpwt, ac y mae yn flaenor yn eglwys Princes Road. - talu y ddirwy.

Marwolaeth y Foneddiges i o Prestatyn i

Marwolaeth y Foneddiges o Prestatyn. Y TRENGHOLIAD. Ddechreu'r wythnos ddiweddaf cyn- ha!iodd Mr. F. Llewelyn Jones, crwner Sir FRiiit, drengholiad i achos marwol- aeth Miss Humphreysr, Plas Uchaf, Prestatyn, yr hon fel y gwvddis a fu farw o dan amgylchiadau cyffrous. Y tyst cyntaf alwyd oedd Richard Robert Humphreys, brawd y drancedig. Tystiodd y gwelodd ei chwaer foreu diurnod y trychineb. Yr oedd yn ed- rych yn hollol iach a siriol, ac nid oedd arwydd unrhyw gwetyl rhyngddi ag Alice Hughes, y torwyn. Aeth ef gar- tref i Newmarket, ond (ilwyd ef yn ol wedi hyny gan y newydd fod ei chwaer yn wael Pan pyrhaeddodd yno 'roedd rhyw lerched yn rhoi ei chwaer yn ei gwely. Galwyd ar Thomas Jones, gwas y I ihs Uchaf, yr hwn a ddywedodd ei fod yn gwi-.sanaethu gyda Miss Hum- phreys er's pum' mlynedd. Yr oedd Alice Hughes yno'n gweini hefyd er's tri mis. Aeth i'r fferm tua haner awr wedi chwech y boreu hwnw. Yr oedd Alice yn eistedd ar ben y grisiau. Dy- wedai y bu yn wael drwy y nos. Dy- v. edodd yntau nad cedd yn ei gweled yn edrych yn debyg i wael, a'i bod yn gywilydd iddi flino ei meistres Aeth ef allan wedi hyny, ond ymhen ychydig galwyd arno i'r ty gan Miss Humphreys, yr hon a ofynodd iddo fynd i alw hedd- geidwad. Yr oedd ei feistres yn ym- ddangos braidd yn gyffrous. Dywedodd wrth ddyn ieuanc oedd yn mynd heibio am ddweyd wrth yr heddgeidvvad am ddod yno, ac wedi hyny aeth allan. Ymhen rhyw awr gwelai Alice Hughes yn cloi'r drws ac yn cychwyn tua'r dref. Gofynodd iddi i ble'r oedd yn mynd, ac atebodd hithau am iddo beidio holi. Yn fuan wedyn daeth dyn o'r enw Dowell yno. rc Alice gydag ef. Dy- wedodd Dowell fod yr eneth eisieu iddo ef fynd a hi mewn cerbyd i Gop Farm, end nid oedd yn hoffi mynd a hi heb ddod i'r ty gyntaf. Gyda hyny daeth yr Heddwas Nelson yno, a gofynodd i'r eneth heth oedd y mater, a dywedodd wrthi am ddod gydag ef i'r ty. Gwrth- odai yr eneth fynd, ond cydiodd ynddi a gwnaeth iddi fynd, a chymerodd yr alhvedd oddi ami. Dywedodd y for- wyn wrtho fod ei meistres yn y llofft. Aerh yr heddwas i fynu i'r Ilofft, ac at hosodd y tyst ac Alice Hughes i lawr. Ni ddywedodd yr eneth yr un gair wrtho. ond gofynodd am lymaid o ddwr, ac edrychai yn gyffrous. Yr oedd Miss Humphreys yn cwyno y gwanwyn diweddaf. ond yr oedd yn codi bob dydd. Nis gallai ddweyd a oedd yn ilawchwith ai peidio. Nis gwelodd hi erioed yn cael gwasgfa. Yr oedd yn dueddol iawn i gael ei chyfiroi. Ni chlp\odd hi ag Alice Hughes yn cwer- y!a y boreu hwnw. Cymerodd y Cwn- ?stabi Nelson yr eneth i'r ddalfa, a dywedodd e; fod am ei chymeryd i orsat yr hedd'u ar gyhuddiad o lofruddiaeth. Ni roes yr eneth un atebiad iddo. T) stiodd William Dowell am y modd v daeth Alice Hughes ato gan ofyn iddo fynd a hi i Gop Farm, Newmarket. Yr oedd yr eneth yn bur gyffrous pan ddaelh ato. I TYSTIOLAETH Y CWNSTABL. Dywedodd y Cwnstabl Nelson yr un stori ag sydd wedi ei chyhoeddi eisoes. Ychwanegodd y dywedodd Miss Hum- phreys wrtho fod y forwyn yn gwrthod codi 3 11 y boreu. Gofynodd yr eneth am ei chyflog gan ddywedyd yr a'i ad ref. Na," meddai Miss Humphreys wrthi, "byddwch yn eneth dda ac ewch yn mlaen hefo'ch gwaith" Yr oedd y ddwy yn hollol ddigjffro ar y pryd. Aeth et oddiyno, ac oddeutu haner awr wedi naw gwelai yr eneth yn rhedeg i lawr y stryd. Dywedai fod ei meistres yn wael. Aeth yntau yno a gwnaeth i'r eneth fynd gydag ef i'r ty. Gwelai Miss Humphreys yn gorwedd ar ei chetn ar lawr a'i gwyneb at y grisiau. Credai ef ei bod yn hollol farw. Yr oedd ystafeil y forwyn yn anrhefnus iawn-y dillad wedi eu tynu o'r drawers^ a'u gwasgaru hyd y llofft. Aeth a'r eneth gydag ef i orsat yr heddlu, a chyhuddodd hi o lotruddio ei meistres, und g wadodd ei bod yn euog, a dy- wedodd mai cael gwasgfa wnaeth ei meistres. ARCHWILIAD Y MEDDYG. Dywedodd Dr. Eyton Lloyd, Rhyl, iddo wneud archwiliad ar y corff yn unol a chyfarwyddid y crwner. Cyn- orthwyd ef gan Dr. Evans, Ffynon- groeyw, a Dr. Batten Williams, Pres- tatyn. Yr oedd briw ar ei hysgwydd dde xc ar hyd y gwddf. Yr oedd ol gwasgiad hefyd ar ochr ei gen. Nis gellid ffurfio barn derfynol ynglyn ag achos ei marwolaeth oddiwrth y marc- iau hyny heb wneud archwiliad mewnol. Gwnaed archwiliad manwl, ac nid oedd dim yn tueddu 1 ddangos fod y drancedig wedi cael ei llindagu. Yr oedd yn amhvg- ei bod yn tlrtddol i gael ei chyffroi, ac i gael \s--i\sodiad o beth tebyg i epilepticfil, yr ;i a ddilynid gan ddiffy- y galon a marwolaeth. Barnat e( mai dyna tu achos ei marwolaeth. Gallasai cyffro achosi gwasgfa felly, ac yn y vvasgfa bydd y person yn teimlo ei hun yn mygu, a gwnai ymdrech gated i gael rhyddhad. Buasai yn naturiol i'r marciau oedd ar y drancedig gael eu hachoi gan law y drancedig wrth geisio cael anadl. Yr oedd Dr. Evans a Dr. Williams yn cytuno ag ef yn hollol nad oedd y drancedig wedi cael ei llindagu. Yr oedd Dr. Evans o'r farn fod ei mar- wolaeth i'w briodoli i ddiffyg y galon. Beth aclioziodd hyny oedd gwestivvu arall. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i gysylltu y briwiau oedd arni a'i mar- wolaeth. Pasiwyd rheithfarn iddi farw o far- wolaeth natu. ALICE HUGHES 0 FLAEN Y LLYS. Ddydd Iau, yn Mhrestatyn, dygwyd Alice Hughes o flaen y Uys heddgeid- wadol. Er ei bod yn ymarferol wedi ei rhyddhau drwy y rheithfarn basiwyd yn y trengholiad, yr oedd ei hachos wedi ei ohitio ar gyhuddiad o lofrudd- iaeth, ac yr oedd yn y carchar yn aros ei phrawf. Dywedai Mr. J. Llovd, yr hwn a er- lynai ar ran Cyfarwyddwr yr Erlyniadau Cyhoeddus, fod y cyhuddiad yn un ag y dylid edrych yn fanw) iddo. Yr oedd yn angenrheidiol i'r holl dystiolaethau yn y trengholiad gael eu hanfon i'r Erlynydd Cyhoeddus. Gallai ef dybio y dylid mynd ymlaen hefo'r achos. Gan hyoy gofynai am archeb i ganiatau i'r Erlynvdd gael amser i ystyried y tyst- iolaethau ac i ddweyd a oedd digon o sail tros fynd ymlaen gyda'r achos. Dywedai Mr. Horatio Jones (yr hwn ymddangosai ar ran Alice Hughes) ei fod ef yn toddlawn gadael y mater yn nwylaw'r ynadon. Pasiodd yr ynadon ohirio'r prawf hyd ddydd Mawrth nesaf. Yr eneth i gael ei chadw yn ngharchar Walton yn y cyfamser.

Y Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol

Y Ddeddf Yswiriant Cen- edlaethol. BUDD MEDDYGOL O DAN Y DDEDDF. Mae trefniadau arbennig wedi eu gwneuthur i ddarpar budd meddygol i bersonau yswiriedig sydd yn symud yn bathaus o fan i fan dros gylch eang yng- nghwrs eu galwedigaeth. I'r per- sonau hyn, os profant tod amgylchiadau eu galwedigaeth yn gyfryw ag y gellir addasu'r trefniadau arbennig hyn idd- ynt, rhoddir Voucher" melyn ar- bennig, yr hwn a ddeil mewn grym yng nghylch unrhyw Bwyllgor Yswiriant ym M hrydain Fawr Gellir cael Ffurflen i wneuthur cais am gael dytod o dan y trefniadau ar- bennig hyn gan unrhyw Bwyllgor Yswiriant (y gwelir ei gyfeiriad yn un- rhyw Lythyrdy lleol) neu ynte gan yr Ysgrifennydd, Dirprwyaeth Yswiriant Cenedlaethol Iechyd (Cymru), Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Gwerth yn MhwheHI

Gwerth yn Mhw!!heH. I Cydnabyddir ar unwaith y mwyheid gwerth y datganiadau o Bwllheli a ym- ddangosodd yn y wasg leol am gym- aint o wythnosau'n ddilynol pe ceid tystiolaeth gadarn ynglyn a'r modd y safant brawf amser. Yn ffortunus rnae'r dystiolaeth hono i'w chael, yn cadarnhau ar ol ysbaid o flynyddoedd ddatganiad wnaed gan ddyn o Bvvliheli Ar Awst 23ain, 1905, dywedai Mr. T. J Roberts, 8, New Terrace, ger Capel New Street, Gadlys, Pwllheli:—" Rhaid oedd i mi fod allan ar bob tywydd, ac o ganlyniad dioadefais oddiwrth boen yn y cefn a drwg ar yr elwlod. 'Roedd y poenau yn fy nghefn ac ar draws fy Iwynau yn fy nyblu, a bu raid i mi roi fy ngwaith i fynu am amser oherwydd ly afiechyd. Yr oedd y poenau, fel yn fy nhynu i lawr, ac weithiau nis gallwn ymsythu. Wrth dJioddef yn barhaus es yn bollol ddi-yni. 'Roedd drwg ar y dwr hefyd, yr oedd yn boenus ac yn casglu syl- wedcl tywodlyd. Aethum yn anobeithiol gan nad oedd triniaeth feddygol yn rhoi ond rhyddhad tymhorol, ond yn ffodus i mi rhoddais brawf ar Doan's Backache Kidney Pills, ac yn fuan gwellasant fi. Gallaf yn awr blygu a gwyro'n rhwydd, ac y ri ae'r dwr yn hollol naturiol. Siaradaf yn uchel am Doan's Pills bob amser yn adaliad am yr hyn wnaethant i mi." (Arwyddwyd) T. J. Roberts. Ar Mawrth 13. 1913,—ymhen mwy na saith mlynedd-dywedai Mr. Roberts :— 41 Diolch i Doan's Backache Kidney Pills yr wyf yn parhau yn iach a diboen. 'Rvvyf yn sicr o fod wedi dweyd wrth | ugeiniau am danynt er's pan ganfum gyntaf y fath feddyginiacth ragorol ydynt. Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. gc.; gan bob siopwr, net., oddiwrth y Foster McCleilan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, Loiidon, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn egliir am Doan's Backache Kid- J ney Pills, yr un math ag a g^fodd Mr. Roberts. 0--

I Tarw yn Ymosod ar FachIgen o Fon

Tarw yn Ymosod ar Fach- gen o Fon. EI GORNIO I FARWOLAETH. I Ddiwedd yr wythnos o'r blaen cafodd bachgen pymtheng oed yn Llanddeu- sant, Sir Fon—mab i Mr. Parry, Pen- beblig, ei ladd gan darw. Yr oedd y bachgen wedi mynd i'r cae i nol y gwartheg, a gwelai y tarw yn dod yn ffyrnig am dano. Rhedodd yntau o'i flaen am y clawdd, ond pan ar fin ei gyraedd llithrodd a syrthiodd. Rhuth- rodd y tarw arno gan ei gornio'n erchyll. Aeth un o'i gym drwy ochr chwith y bachgen hyd at ei elwlen. Daeth cigydd heibio mewn cerbyd, ac aeth i geisio gwaredu Parry. Llwyddodd i yru'r tarw ymaith a chymerodd y llanc gar- tret yn ei gerbyd. Galwyd meddyg ato yn ddiymdroi, ond bu'r bachgen farw ymhen teirawr.

Llys Ynadoi Pwllheli 1

Llys Ynadoi Pwllheli. 1 Dydd Mercher, flaen yr Henadur Maurice Jones (yn y gad- air) Cyrnol Lloyd Evans Dr. S. W. Griffith Dr. J. Gwenogvryn Evans yr Henadur W. Anthony yr Henadur G. Hughes Roberts; C. H. Lloyd- Edwards, Ysw.; W. Thomas, Ysw, a ). Hughes, Parry, Ysw. Ymosod ar F(?chg(,,n. -Cyli ud did Evan Cartwriijht Jones, Llanystumdwy, o fod wedi ymosod ar Robert William Roberts, Llanystumdwy, bachgen naw mlwydd oed, ar Medi 6ed. — Dywedodd Mr. Hugh Pritchard, yr hwn a erlynai, i'r cyhuddedig dybio fod y bachgen wedi gwneud i'w blant ef golli p'araffin a garient, ac iddo ei guro yn anrhugarog yn ei freichiau a'i goesau gyda ffon. Bu'r bachgen o ganlyniad yn ei wely am dros wythnos, ac yn dioddef poenau arteithiol, ac yr oedd y briwiau i'w gweled arno o hyd.—Yn ei dystiolaeth dywedai y bachgen ei fod yn mynd ar hyd y ftordd gartref, a daeth plant y diffynydd i'w gyfarfod a paraffin, gan- ddynt. Yr oeddynt yn tywallt yr olew o un llestr i'r Ilall. Wedi hyny daeth y diffynydd yno a dywedodd wrtho ef (Robert William Roberts) ei fod wedi colli'r paraffin a churodd ef yn greulon hefo ffon. Yr oedd yn methu cerdded adret ar ol y gurfa, a bu mewn poenau mawr. Gweinyddwyd arno gan Dr. Gladstone Jones, a bu yn ei wely am ddyddiau.- Tystiwyd gan swyddog y Gyn deithas er atal Creulondeb at Blant iddo fynd i Lanystumdwy i weled y bachgen. Yr oedd briwiau dwfn ar ei goesau. Nis gallai y bachgen ddioddef i neb gyffwrdd ynddynt. 'Roedd briw- iau ar ei fraich hefyd. Tybiai y swyddog y cafodd ei guro'n greulon iawn.- Tystiwyd hefyd gan Richard Jones, Tyddyn Bach, Rhoslan, yr hwn ddy- wedai iddo weled y diffynydd yn curo'r bachgen hefo ffon. Pan aeth et yno gollyngodd y diffynydd y bachgen a dywedodd mai colli paraffin iddo ef a wnaeth.— Rhoed tystiolaeth hefyd gan yr Heddwas Thomas a Dr. Gladstone Jones, y naill a'r llall yn dweyd fod yn rhaid y curwyd y bachgen yn ddifrifol iawn.-Mr. Evan R. Davies, wrth am- ddiffyn, ddywedodd nad oedd y diffyn- ydd yn gwadu iddo guro'r plentyn. Tybiodd fod y bachgen wedi dychryn ei enethod bach. Yr oedd yn ddyn o dymer nwydwyllt, a churodd y bachgen pan oedd ei natur wedi ei chyffroi. Awgrymai Mr. Davies fod drwgdeirnlad rhwng y diffynydd a thad y bachgen, ac fod mwy yn y peth nag oedd wedi cael ei amlygu yn y Ilys.-Dywedodd y cyhuddedig iddo guro'r bachgen mewn canlyniad i'w eneth gwyno wrtho ef yn ei gylch. Yr oedd yn ddrwg iawn ganddo ei fod wedi gwneud dim iddo. -Dirwywyd et i 10s. gyda 2p. lIS. o gostau. Trwyddedol.—Ar apeliad Mr. J. R. Anthony caniatawyd trosglwyddo trwy- dded yr Inn, Fourcrosses, oddiar Miss HughesM Mr. E. A. Williams, Manod Hotel, Blaenau P'festiniog. Ilelynt mewn Siop. -Cyhuddid William Gould a Hugh Owen, Pwllheli, gan Zeraschi Guiseppe, yr hwn sydd yn cadw siop bytatws yn Heol Fawr, o fod wedi dod i'w siop yn feddw ar Medi ryeg ac ymosod arno.-Frlynid gan Mr. Hugh Pritchard, ac amddiffynid gan Mr. J. R. Anthony.—Dywedai yr achwynydd i'r diffynyddion ofyn am bytatws yn ei siop i ddechreu, a thal- asant am danynt. Yna gotynasant am bys, a phan ofynodd am dal am rheini ymosododd y ddau arno gan ei guro'n g-reulon.- Tystiwyd gan y Rhingyll Lloyd iddo gael ei alw i'r siop y noson hono, a gwelodd Hugh Owen yn dal ei ddwrn yn ngwyneb Guiseppe. Yr oedd golwg fygythiol iawn ar Gould hefyd. Yr oedd briw o dan lygad Guiseppe ag oedd yn ymddangos fel pe newydd gael ei achosi.—Yn ei amddiffyniad dywedai Mr. J. R. Anthony mai gofyn wnaeth Guiseppe i Owen dalu am y pys, er mai Gould oedd wedi gofyn am danynt. Ciciodd (Guiseppe) Owen a bygythiodd ef hetyd gyda brwsh a photel finegr. Yna tarawyd Guiseppe gan Gould.- Rhwymwyd y ddau ddiffynydd i gadw'r heddwch am ddauddeng mis, a gorch- ymynwyd iddynt dalu 10s. 6c. yr un o gostau. Cyhuddo o Greulondeb at Oeffyl.—Gwysid Owen Williams, Tan'rallt, Llanbedrog, gan swyddog y Gymdeithas er atal Creulondeb at Anifeiliaid, ar gyhuddiad o fod wedi dangos creulondeb at geffyl trwy ei guro yn anrhugarog hefo chwip. Taflwyd yr achos allan. Ysgariaeth.—Gwysid Robert Williams, yr hwn sy'n gweithio yn y Deheudir, gan ei wraig, Mary Williams, Tan rallt Terrace, Pwllheli, o esgeuluso ei chynal hi a'i hlant.-Mr. H ugh Pritchard yihddangosai ar ran y wraig, a dywed- odd na welwyd y gwr yn Mhwllheli er's yn agos i ddwy flynedd. Yr oedd y wraig a'i thri plentyn, meddai ef, yn gorfod dibynu i raddau helaeth ar gar- edigrwydd cymydogion am eu cynhal- iaeth, a bu raid iddi un tro geisio elusen blwyfol.—Dywedodd y wraig nad an- fonai y gwr iddi ond ychydig bach o arian yn awr ac yn y man. Cafodd chweigien oddiwrtho tua mis yn ol, a dim wedi hyny.—Caniatawyd archeb ysgariaeth o 15s. yr wythnos at gyn- haliaeth.

No title

Yn Mhorthmadog, ddydd Sadwrn, cafodd dau fachgen, y naill yn bymtheg a'r llall yn un ar bymtheg oed, eu gor- chymyn i gael eu chwipio am luchio cerrig at wydd ar y Traeth ar Medi iaf. Yr oeddynt wedi tori ei choes, ac wedi hyny tynasant ei llygaid ymaith.

Cymdeithas Casglu Wyau yn Lleyn

Cymdeithas Casglu Wyau yn Lleyn. Cynhaliwyd cyfarfod o ffcrmwyr ac ereill yn Neuadd Drefol, Pwllheli, gan Mr. Evan R. Davies, ddydd Mercher diweddaf, i ystyried y priodoldeb o sefydlu Cymdeithas Gyd-weithredol i Gasglu Wyau yn Lleyn. Cymerwyd y g adair gan Cyrnol Lloyd Evans, Broom Hall, ac yr oedd nifer dda wedi dod ynghyd. Y prif siaradwr oedd Cyrnol Cotton, Plas Llwynon, Mon, yr hwn a gyfeir- iodd at eu profiad hwy yn Mon ynglyn a chymdeithas gyffelyb sefyd wyd gan- ddynt yno tua dwy flynedd yn ol. j Cawsant golled ar y dechreu, ond yr oedd yn awr yn dechreu talu'n dda. Colled oedd pob cymdeithas o'r fath yn gael ar y dechreu, ond yr oeddynt yn sicr o dalu, a thalu'n dda, as byddai y ffermwyr yn ftyddlon i'r Gymdeithas. Y flwyddyn gyntaf collodd Cymdeithas A Aion tua coop, onerwydd dinyg proliad t:I mewn profi a phacio wyau, ond yr oedd, y golled yn lIai yr ail flwyddyn, ac yr oedd yn awr wedi talu haner eu dyled., ac yn hyderu y byddai y ddyled oil wedi ei chlirio'n fuan ac y byddis yn gwneud proffit. Yr oedd y prisiau yn cael eu penodi gan y Gymdeithas, a chai y ffermwyr lawer gwell prisiau nag a gaent o dan yr hen amodau. Telid i'r ffermwyr gan gasglwyr y Gymdeithas, a chaent lawer gwell pris nag a delid iddynt pan fyddai'r masnachwyr yn penodi'r prisiau. Byddai y n.asnach- wyr wyau yn sicr o wrthwynebu'r Gymdeithas, ond rhaid oedd eu gwrth- sefyll yn effeithiol. Nid oedd dim yn well na chydweithrediad yn hyn fel pob peth arall. Yr oedd y prisiau delid i ffermwyr yn Lleyn am wyau yn awr yn hynod o isel. Cai y ffermwyr hefyd dal ar eu llaw, ac ni byddai raid iddynt ddisgwyl am eu harian tel ag oedd raid iddynt wneud gyda'r masnachwyr wyau. Siaradwyd hefyd gan Mr. R. L. Edwards, ffermwr o Lanerchymedd, yr hwn a dystiolaethodd am y budd a ddeuai trwy y gymdeithas i amaethwyr Mon a hefyd gan Swyddogion Cym- deithas Mon. Mewn atebiad i Mr. D. H. Davies, 'Rorsedd, dywedodd Cyrnol Cotton y byddai i bob wy yn LIeyn gael ei werthu hyd yn nod pe cynyrchid miliwn o wyau yn yr wythnos. Yr anhawster mwyaf ar ol sefydlu'r gymdeithas tydd- ai cael digon o wyau ar gyfer y gofyn am danynt. Byddai'r wyau yn cael eu profi yn fanwl a'u graddio cyn eu han- Iton allan i'r marchnadoedd. Siaradwyd yn gryf o blaid ffurfio cymdeithas yn Lleyn gan Mr. Newell, Porthmadog, Mr. D. H. Davies, 'Ror- sedd, a chan Mr. E. R. Davies, Pwll- heli. Sylwodd yr olaf fod amaethwyr Lleyn yn colli llawer o arian trwy ddi- ffyg cydweithrediad mewn llawer can- gen o amaethyddiaeth. Ar gyfartaledd deuai ugain mil o wyau i farchnad Pwllheli'n wythnosol. Y pris isaf geid oedd 4s. 6c. y 120, a'r uchaf geid oedd 12S. Yn Sir Fon, o dan y Gymdeithas, y pris isaf oedd 6s. 8c., a'r uchaf oedd 17s. ic. Cynygiwyd gan Mr. Daniel Jones, Nefyn, fod cymdeithas o'r fath yn cael ei sefydlu yn Lleyn. Eiliwyd ef gan Mr. Daniel Jones, Brynodol, a phas- iwyd yn unfrydol. Ffurfiwyd pwyllgor cryf i gych Ivyn y mudiad.

I L Damwain Angeuol yn Nghonwy

-L, Damwain Angeuol yn Nghonwy. Ddechreu r wythnos o'r blaen bu damwain ddifrifol iawn gyda modur yn agos 1 Gonwy, yr hyn a achosodd far- wolaeth Mr. G. O. Jones, Merchllyn, ffermwr adnabyddus iawn yn Nyffryn Conwy. Yr oedd Mr. Jones wedi bod mewn arwerthiant yn Nhalycafn, ac yn nun yr hwyr cafodd wahoddiad i gael ei gario gartref yn modur Mr. Cunning- ham, Upton Lodge, a rhwng Eglwys Llangelynin a Roewen ceisiodd Mr. Cunningham osgoi twr o gerrig oedd ar y flordd, ac wrth wneud hyny aeth y modur yn erbyn y clawdd yr ochr arall a throes ar ei ochr gan daflu y rhai oedd ynddo allan i'r ffordd. Ni anaf- wyd neb yn ddifrifol, fodd bynag. oddi gerth Mr. G. O. Jones, yr hwn a gym- erwyd i'w gartref ym Merchllyn, lie bu farw y boreu dilynol. Yr oedd y trancedig yn fab i Mr. Owen Jones, Glan Beuno, ao yn gefn- der i Mr. Griffith Jones, Bodvel Hall, Pwllheli. Gedy ar ei ol weddw a saith o blant ieuainc. --0--

ICystadleuaeth Seindyrf yn y Palas Grisial

Cystadleuaeth Seindyrf yn y Palas Grisial. Yr oedd torf anferth wedi ymgynull yn y Palas Grisial ddydd Sadwrn i wrando ar tua dau gant o seindyrf yn cystadiu. Yr oedd yno naw o wahannl ddosbarthiadau, ond yn naturiol cym id y dyddordeb mwyaf yn yr her-g tadleuaeth agored i Brydain Faw T Trefedigaethau. Yr oedd darn c orol arbenig wedi ei gyfansoddi ar gyter y gystadleuaeth hon gan Mr. Percy E. Fletcher. Y beirniaid oedd Mr. Ord Hume, Mr. Fletcher, a Mr. M. Bilton. Yr oedd dwy ar hugain o seindyrf yn yrtigeisio yn y brif gystadleuaeth, ac yn eu plith yr oedd chwech o'r rhai tuont yn enill y llawryt yn flaenorol, sef Black Dike, Crossfield's Soap Works, Foden's Motor Works, Irwell Springs, Shaw, a St. Hilda's Colliery. Nid oedd Besses- o'-th'-Barn yn cystadiu y tro hwn. Dy- farnwyd fel y canlyn: i, Irwell Springs; 2, St. Hilda Colliery; 3, Black Dyke Mills; 4, Crossfield's Soap Works 5, Rrighouse and Rastrick 6, Kettering Town 7, Shaw. 1