Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
19 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L. D. S., R. C. S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Grocer, High Street, o li y boreu dan 4 y prydnawn.

PWLLHELI

PWLLHELI. CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.-Chwef. 1. •A "enlan (A.), am 10 a 6, Parch. J. Rhydderch, "eiuidog Seiani, (A ), Cardiff Road, am 11 a 6-30 arch. R. H. Williams, Coleg Bala-Bangor. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch. J. Pulestoti Jones, M. A., Gweiniuu^. Salem (M.C.), am 10 a 6, I'.ich. J. Hughes, B. A., B. D., Gweinidog. Capel Seisnig (M.C.) Ala lv>.nl, am 10 a 6, Parch. F. J. Sandy, Aberystw) l h Tabernacl (B.), am 10 a ü. Parch. T. P. Williams, Groeslon. Seion (W.), am 10, Mr. Joseph Jones, Nefyn am 6, Parch E. Mostyn Jones, Gweinidog. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street,am 2, Ysgol. Vsgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfcirtod Gweddi. Y&gol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi am 2, Ysgol. South Beach (M.C.), am 2, Parch. Owen T. Jones, Rhostryfan. Tarsia (M C.), am 10 a 6, Parch. Owen T. Jones, Rhostryfan. St. Pedr. 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch 1'. Woodings, B.A.. Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, 11. G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Y sgol am 6-30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. inlerour, benedicsiwn. Y FARCHNAD.—Ymenyn, is. 3c. y pwys wyau, 10s. yr 120 biff, 7c. i ioc. y pwys mutton,'8c. i I I c.; pore, 7c. i lokc. y pwys moch tewion, 5c. y pwys moch bach, o 17s. i 225 yr un. DRAMA.—Nos Fawrth diweddaf bu Cwmni Barlwyd, Ffestiniog, yn per- fformio'r ddrama Rhys Lewis," yn neuadd y dref. Yr oedd y cynhulliad yn lied luosog, a'r perfformiad o'r ddrama boblogaidd yn dda iawn. LLYS ARBENIG.—Ddydd Mercher di- weddaf, gerbron yr Henadur W. An- thony a Dr. S. W. Griffith, cafodd crwydryn o'r enw Warburton ei anfon i garchar am dair wythnos am wrthod gwneud ei dasg yn y tloty, ac am fod yn afreolus yno. MARWOLAEIH .—Heddyw (ddydd Mawrth), wedi cystudd maith, ba farw Mr J. P. Williams, Church Placc, yn 71 ain mlwydd oed. Bu'r ymadawedig un adeg yn oruchwyliwr Ariandy'r Met- ropolitan yn Nefyn, ond trigai yn y dref hon er's blynyddau. ANRHEGU.—Yn Nghyfarfod y Gwein- idogion y dydd o'r blaen cyflwynodd y gweinidugion ddarlun (group) o honynt eu hunain a llyfr yn anrheg i'r Parch D. W. Roberts ar yr achlysur o'i ym- adawiad o'r dref i weinidogaethu eg- Ivvys Seisnig Brinsway, Stockport. CYMDEITHAS LENYDDOL PENMOUNT. Y n y Gymdeithas uchod nos Wener diweddaf, Mr Cornelius Roberts, Y Maes, yn llywyddu, cafwyd dadl ar "Ddadblygiad." Agorwyd ar y naill ochr gan y Parch Puleston Jones, M.A., a Dr Jones Evans. Siaradwyd ymhell- ach gan y Parch Thomas Williams, Mri Chas. L. Roberts, Samuel Williams, Thomas Williams, Crown Boot Stores, a'r llywydd. Catwyd dadl hynod o fywiog, a phawb yn mwynhau eu hun- ain. CYMDEITHAS LENYDDOL PENLAN.— Nos Wener diweddaf, o dan lywydd- iaeth Mr G. M. Roberts, Marsley House, caed papurau rhagorol ar y Galluoedd i orchfygu Meddwdod,"— "Gallu'r Eglwys gan Mrs Rhydderch, fiaddef; a Gallu'r Llywodraeth gan Mrs Walis Thomas, Gwalia Hotel. Pasiwyd diolchgarwch mwyaf gwresog y Gymdeithas i'r ddwy tooeddiges am eu papurau ar gynygiad Mr John Ellis, New street, yn cael ei eilio gan Mr Richd. Jones, Argraffydd, a'i ategu gan Mr O. H. Roberts, Shop-yr-Eifl, a'r Llywydd. W HIS T DRIVE. -Cynhaii",yd whist drive lwyddianus iawn yn y Clwb Rhydd- trydol nis Iau diweddat. Yr oedd tros ddeg a thrigain yn bresenol, a darpar- wyd gwledd ragorol ar eu cyter gan Mr R. Albert Jones, Central Restau- rant. Mr R. Williams, Sheffield House, oedd y chwareuwr Uwyddianus ymysg y boneddigion, a Miss Davies, South Beach, ymysg y boneddigesau. Yn ystod yr hwyr caed detholiadau ar y gramophone gan Mr T. J. Williams, Bod- euon House. Mr R Griffith, Lleyn Street, oedd meistr y seremoniau, a Mr W. Windsor Jones oedd yr ysgrifen- ydd BYDDIN Y BLODYN EIRA.-Nos Fer- cher diweddaf yn festri capel Ala Road cynhaliwyd yr uchod o dan lywyddiaeth Mrs. O. Williams. Arweiniwyd i ddech- reu gan Miss A. W. Jones. Yn ych- wanegol at y gwnio, gwau, &c., canwyd ac adroddwyd gan Elsie Williams, Sydney E. Jones, K Elias, A. B. Rob- erts, J. Jones, ac eraill. Canwyd tonau o'r "Caniedydd Dirwestol, "-Miss Tilly Jones yn cyfeilio. Am 7-30 o'r gloch, yn yr un lie, cynhaliwyd Cym- deithas y Merched leuainc o dan lyw- yddiaeth Mrs. W. Thomas, a chynorth- wywyd hi gan Mrs. Davies, Mrs Williams, ac eraill. Mae Mrs. D. E. Davies wedi bod yn neillduol o ffyddlon o'r adeg y cychwynwyd y gymdeithas, ac y mae yn agos iawn at ei chalon. Diweddwyd trwy ganu a gweddio. TAI I WEITHWYR —Nos Fercher cyn- I j haliwyd cyfarfod arbenig o'r Cyngor Trefol Dr R. Jones Evans, y Maer, yn lIywyddu-i ystyried y priodoldeb o godi tai i weithwyr yn y dret. Yr oedd Mr Hancock, ysgrifenydd Cymdeithas Gymreig y Tai Anedd, yn bresenol, ac eglurodd fod y gymdeithas yn foddlon ymgymeryd ag adeiladu tai i weithwyr ar ran y Cyngor, ond i'r Cyngor wneud cais i fenthyca yr arian. Gallent hwy adeiladu tai tua 15 y cant yn rhacach nag adeiladwyr cyffredin, ac ni byddai dim cyfrifoldeb ar y Cyngor. Sicrhai y byddai y cynllun yn gwbl hunan gyn- haliol, ac ni byddai berygl iddynt fyned i bwyso ar y trethi. Eglurai Mr Evan R. Davies, y clerc, y byddai gan y Llywodraeth gynllun i adeiladu tai i weithwyr yn fuan, a byddai iddynt hwy gymeryd cynllun o'r fath yma drosodd. -Pasiwyd ar gynygiad yr Henadur O. Wynne Griffith, a chefnogiad Mr. O. Ellis Jones, fod y Cyngor yn gwahodd y Gymdeithas Gymreig i gyflwyno cyn- Hun i adeiladu ugain o dai i'w sylw. Deg o'r tai i'w gosod am tua 3s. 9c. yr wythnos, a deg arall am tua 5s. yr wythnos. Bwriedid adeiladu y tai ar dir perthynol i'r Cyngor. CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH D. W. ROBERTS, CARDIFF POAI). Rhyfedd fel y mae amser yn gwnend cymaiut 0 wahaoiaeth mewn tref ac eglwys. Flwyddyn yn 01 gallasai pob eglwys Ymneillduol yu y dref ymffrostio yu y ffaith fod garddynt weio- Idog yn eu bugeilio ond erbyn heddyw wele ddwy eglwys Seisnig ac un eglwys Gymraeg heb yr un gweinidog. Teimlir co lied tawr ar 01 y brodyr anwyl hyn ill yn llenwi lleoedd mor bwysig yn y cylchoedd hyn. Dyweder a fyno, colled fawr i eglwys Crist yw bod heb weinidog ami Hyderwn y bydd yr oil o'r eglwysi a enwyd yn symud ymlaen yn fu.in eto i gael brodyr addas i'w gweinidogaethu. Nos Iau diweddaf, yr 21ain cyfisol, daeth nifer luosog o aelodau eglwye Cardiff Road at eu gilydd i ddangos eu parch a'u hedmygedd o'u hanwyl weinidog, y Parch. 1). W. Roberts, ar ei ymadawiad o Bwllheli i gymeryd gofal eglwys Seisnig Brinsway, Stockport Yr oedd hefyd yn bresenol amryw o weinidogiou y gwahanol enwadau, dau o ddiaconiaid eglwys Penlan, a chyfeillion eraill. Ar ol mwynhau o'r danteithion melus oead wedi eu darparu gan y chwiorydd, aed ymlaeu at brif amcan y cyfarfod, sef cyflwyno anrheg- ion i'r Parch. D. W. Roberts ar ran yr eglwys ac hefyd ar ran Cyngor Eglwysi Rhyddion y dref. Arweinid yn ddoeth a medrus gan yr Henadur W. Anthony, U.H., un o ddiaconiaid yr eglwys. Cyfeiriodd Mr. Anthony at ddech- reuad yr eglwys yn Cardiff Road, ac at y ffaith mai gwan iawn ar y cychwyn ydoedd ffydd y fam eglwys yn Mhenlan y buesid yn gallu sef- ydlu achos mor lewyrchus yn Cardiff Road. Erbyn heddyw yr oedd hyny yn ffaith. Cyf. eiriodd hefyd at y gwaith rhagorol a wnaed o dau weinidogaeth Mr. Roberts. Cafwyd gair gan bob un o ddiaconiaid yr eglwys. sef y Mri. E, J Hughes, Llythyrdy, Heol Fawr; 0. J. Robinson, Allaudale; Rees Jones. Bryn Eirw, a Jason B. Joues, postfeistr, Myrddin House, a chan Mr Richd Jones, Argraffydd, un o ddi- aconiaid eglwys Penlan, ac hefyd gan y gwein- idogion a ginlyd,-y Parchn. John Hughes B A., H. D.; J. Rhyddeich; J. Puleston Jones, M.A.; Thomas Williams a J. Mostyn Jones. Tystiolaeth pawb oedd ein bod yn colli cymeriad pur a disglaer, a gweinidog da i Iesu Grist Hawdd oedd canfod oddiwrth yr hall siaradwyr fod Mr. Roberts, yn ystod ei arosiad o bum' mlynedd a haner yn y dref, wedi gallu enill serch dwfn yn nghalonau ei gyfeiilion. Dymun- iad pawb yw-Duw yu rhwydd iddo yn ei faes newydd. Cyflwynodd Mr. Anthony ar ran eglwys Car- diff Road swm sylweddol mewn aur ynghyda handbag i Mr. Roberts, fel arwydd feehan o'u parch a'u hymlyuiad wrtho fel eu gweinidf,g,- gyda dymuno iddo hir oes eto i wasanasthu ei ( Arglwydd yn Stockport. Hefyd, cyflwynodd y Parch. John Hughes. B.A., B.D., Salem, ar ran Cyngor Eglwysi Rhyddion y dief, swm anrhydeddus (mewn arian ac aur) fel arwydd o'u cydnabyddiaeth i Mr. Roberts fel ysgrifen- ydd gweithgar y Cyngor yn y dref.-Deallwn mai yr hyn ddewita Mr. Roberts bwrcasu gyda y rhodd o Cardiff Road yw Roll Top Delik a Revolving Desk, a chyda rhodd Cyngor yr Eg- lwysi Rhyddion—travelling trunk. Diolchodd Mr. Roberts mewn ychydig eiriau pwrpasol i'r eglwys yn Cardiff Road, ac hefyd i Gyngor yr Eglwysi Rhyddion, am eu rhoddiou gwei thfawr. Datganwyd hefyd yn ybtod y cyfarfod gan Miss Annie Davies, Arfor, a Mrs. Isaac M. Anthony. Cyfeiliwyd gan Mrs. 0. J. Robinson, Allaudale. Diweddwyd cyfarfod hynod o hapus drwv ganu God be with yon till we meet again," a.lln o Lyfr Sankey.-O.J. R -0--

BODFEAN

BODFEAN. MARWOLAETH.- Ddydd Gwener di- weddaf, wedi cystudd byr, bu farw Mr. Evan Griffith, Mathan lsaf, yn 48 mlwydd oed. Hebryngwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent Bod- fean heddyw (ddydd Mawrth) angladd anghyhoedd. --0-

I OUKCiiOSSKS

] OUKCiiOSSKS. MAR\VOLAETH.- DJydd Iau diweddaf, ac efe yn wyth mlynedd a deugain oed, bu farw Mr. David Thomas Jones, prif athraw ysgol newydd Fourcrosses, ac ysgol Plas Gwyn cyn hyny. Brodor o'r Bermo ydoedd, a bu'n ysgolfeistr yn St. Clear's, Caerfyrddin, cyn ei benodi'n athraw ar ysgol Plas Gwyn wyth mlyn. edd yn ol. Yr oedd yn aelod o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, a bu'n llyw- ydd caogen Caernarfon o'r undeb hwnw. -Claddwyd ei weddillion yn Llanaber, y Bermo, ddydd Sadwrn diweddaf. --0--

LLANENGAN

LLANENGAN. MARWOLAETH. —Nos Sul diweddaf bu farw Mr. Griffith Hughes, Deucoch, ) n ddwy ar bymtheg a thrigain oed. Yr oedd yn un o'r amaethwyr mwyaf adnabyddus yn Lleyn. Bu am flynydd- au yn aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Pwllheli, ac yn flaenor gyda'r Method- istiaid yn nghapel y Bwlch, ac yn arvveinydd y gan yno Yr oedd wedi diwyllio ei feddwl i raddau helaeth iawn trwy ymroad ac astudiaeth, heb gym- orth yr un athraw, ac ysgrifenodd er- thyglau dyddorol i'r Wasg Gymreig o dro i dro ar bynciau o bwys. Cleddir ei weddiJlion ddydd lau-angladd aug- hyhoedd.

I LLANAELHAIARN

I LLANAELHAIARN. YN GADAEL. — Drwg genym fod Miss Hughes, athrawes y babanod, wedi penderfynu gadael. Bydd ei hymadaw- iad yn golled fawr i Ysgol y Cynghor yn Llanaelhaiarn, ond yn enill i Four- crosses. Bu yn athrawes ffyddlon a medrus yma am yr ysbaid o bedair blynedd a haner, ac yn fawr ei pharch gan bawb. Deallwn y bwriedir cyf- lwyno tysteb iddi ar ei hymadawiad fel arwydd o barch. Dymunwn iddi bob llwyddiant yn y Four. CYNGHERDD MAWREDDOG. Cynhal- iwyd Cyngherdd ltawreddog yn Ysgol y Cynghor nos Wener diweddaf, o dan lywyddiaeth fedrus Rowland Rowlands, Ysw., Trefor, gan yr hwn y caed rhodd sylweddol. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mr. Edward John Hughes, A.L.C.M., Trefor. Caed cyngherdd o'r fath oreu. Elai yr elw tuag at gynorthwyo Mr. Edward Lloyd, Erw Sant Row. Ceir hanes cyflawn yr wythnos nesaf. RHODD.—Nos Iau diweddaf cyflwyn- odd yr eglwys barchus yn Saron (B.), rodd sylweddol mewn aur i'w gweini- dog, y Parch. J. Phillips, fel arwydd o'u parch a'u cariad tuag ato, a'u gwerthtawrogiad o'i wasanaeth fel gweinidog am yn agos i bedair blynedd a haner. Nid rhoddi tysdebau am ymadael mae hen eglwys Fedyddiol y lie hwn, ond am aros. MAB LLANHAIARN. o—'—

iLLANGYBI

LLANGYBI. MARWOLAETH —Dydd Mercher di- weddaf, a hi yn ei 74 mlwydd o'i hoed- ran, bu farw un o hen drigolion yr ardal, sef Mrs. Elizabeth Humphreys, Castell, gynt (priod y diweddar Thomas Humphreys). Cafodd gystudd mawr, ond dioddefodd y cwbl yn dawel a di- rwgnach. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn yr ardal i gael y pensiwn, sef Coron Lloyd George," fel y dywedai. Bu yn aelod selog gyda'r Methodistiaid ym Mhencaenewydd, o'r hon eglwys y bu ei hen dad duwiol, William Griffith, yn flaenor am flynyddau. Dydd Llun hebryngwyd ei gweddillion i orphwys i fynwent Capel Helyg gan dorf luosog a pharchus. Gwasanaethwyd yn y ty ac yn y fynwent gan y Parch. Thomas Williams. Gadawa amryw ferched a mab a theulu mawr i alaru eu coiled ar ei hoi. --0-- i

LLITHFAEN

LLITHFAEN. ) DAM WAIN.—Cafodd Mr. Ihomas Williams, 3, Liverpool Terrace, anaf i'w lygad tra yn dilyn ei orchwyl yn y chwarel fore Mawrth diweddaf Y mae'n awr tan ofal Dr. Williams, Bangor. DARLITH.—Bu Mr. Robert Jones, Pwllheli, yn traddodi darlith y nos o'r blaen i aelodau'r Gymdeithas Lenyddol Undebol. Datganwyd hetyd gan Mr. Walter S. Jones,—Mr W. H. Roberts, Post Office, yn cyfeilio. Arweinid gan Mr. Ellis Jones, Mount Pleasant. GWAELEDD.—Y mae llawer o gwyno yn yr ardal y dyddiau hyn. Ymysg y cleifion y n,ae'r cyfaill mwyn a'r bardd awengar Mr. E. Aidan Davies, ete yn gorwedd yn yr ysbyty yn N haernarfon i dan ofal Dr. Lloyd Roberts. Y mae Mrs. Mary Hughes, Tariyffordd, a Mr. Thomas Evans, Penygamfa, hwythau hefyd wedi eu cornelu gan gystudd blin. Eiddunwn iddynt gael adferiad i'w cynhefin iechyd oil yn fuan. --0--

NEFYN I

NEFYN. ANGLADD CAPT. ROBERTS, Y GROES. —Ddydd Mawrth diweddaf, yn myn- went Netyn, claddwyd gweddillion Capt. John Roberts, Y Groes (Ty Mawr, Pentreuchaf, gynt), ac efe yn 83 inlwydd oed. Yr oedd efe yn un o'r rhai gymerai ran yn Rhyfel y Degwm tua phum' mlynedd-ar hugain yn ol, ac yr oedd yn Rhyddfrydwr cadarn ac egwyddorol ar hyd ei oes. Bu'n warcheidwad ar Undeb Pwllheli dros blwyf Llannor am flynyddau, ac yr oedd yn aelod cyd-ddewisol o'r Bwrdd hyd yn ddiweddar iawn.

IRH DYCLAFDY

RH* DYCLAFDY. CLADDEDIGAETH.—Ddydd low di- I weddaf bu torf luosog yn hebrwng gweddillion Mrs. Julia Ann Hushes, priod Mr. Thomas Hughes, Craig aton, Rhydyclafdy (Madryn gynt), i dawel j orffwys yn mynwent Capel Dinas, yn 48ain mlwydd oed. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf dymunol a chrefyddol. Cafodd gystudd mawr am amser maith, yr hyn fu yn foddion i'w haddfedu i ogoniant. Gadawodd briod a dau o blant i alaru ar ei hoi. Ouw o'i ras I fyddo yn nodded ac amddiffyn iddynt yn eu trallod mawr. Gwasanaethwyd j wrth y ty ac yn y fynwent gan y Parch. Thomas Williams, Pwllheli. --0--

ITREFOR

I TREFOR. I REHEARSAL —Nos Sul diweddat eyn-I haliwyd rehearsal yn nghapel Maesyneu- adcl (A.) ar gyfer Cymanfa Undeb Ysgolion Annibynwyr Dosbarth Pwll- heli a Chymanfa'r Sir. Arweiniwyd y canu gan Mr. John Ellis, arweinydd canu eglwys Penlan, Pwllheli, ac ar- weinydd dewisedig Cymanfa Ganu'r Dosbarth. Caed cynulliad da, er mor anffafriol yr hin, a chanu rhagorol. --0

No title

Cafwyd Edward Jones, ffermwr, yr hwn oedd yn agos i bedwar ugain mlwydd oed, yn gorwedd yn farw yn ei fferm-y Morfa, ger rheilffordd Caer, nos Wener diweddaf.

Cyhuddiad yn erbyn Gwraigr I o Fon

Cyhuddiad yn erbyn Gwraigr o Fon. Yn Mrawdlys Mon, ddydd Sadwrn, rt cyhuddwyd dynes o'r enw Margaret Jones, chwech ar hugain mlwydd oed, o fod wedi priodi a'i gwr cyntaf yn fyw. Ar ran y diffynydd dywedodd Mr. Austin Jones iddi gael ei gadael gan ei gwr cyntaf bron gynted ag y priodwyd hwy. Ar ol dioddef tlodi a chyfyngder mawr am ddeunaw mis priododd forwr ieuanc o'r enw Richd Hughes Roberts. Yr oedd wedi dweyd wftho am ei sef- yllfa cyn ei briodi, a phenderfynodd yntau ei chymeryd yn wrai g er ei fod yn gwybod y ffeithiau. Yr oedd y ddynes, meddai'i chyfreithiwr, o gymer- iad rhag-orol ymhob modd, ac o dan yr amgylchiadau gofynai i'r barnwr ym- ddwyn yn dyner tuag 3ti. Dywedodd y barnwr with y gyhudd- edig ei fod yn derbyn tystiolaeth ei chyfreithiwr ar ei rhan Yr oedd, meddai, wedi troseddu ac yn gwybod beth allai'r canlyniad fod, ond efe oedd i benderfynu pa gosp a gai dan yr amgylchiadau. Ac ystyried y sefyllfa y bu ynddi, a'r ffaith tod Roberts yn addu ei chynal yn gysurus, yr oedd yn ei rhwymo i ddod i fynu i gael dedfryd pan elwid ami, yr hyn oJygai na chlywai ddim mwy ynghylch y peth os daliai i tyw bywyd parchus. --0--

IManion I

Manion. I Aeth festri capel Wesleyaidd ar dan yn Weaverham ddydd Sul, a llosgwyd yr adeilad yn llwyr. Llwyddwyd i ar- bed y capel. Daw hysbysrwydd o Ddinas Mexico fod cant o ferched a phlant wedi eu lladd ger Luis Potosi gan y gwrth- ryfelwyr. Ddydd Sadwrn mabwysiadwyd Mr. Hamlet Roberts yn ymgeisydd Toriaidd tros Fwrdeisdrefi Fflint, gan Gymdeith- as Gyfansoddiadol y Sir. Yn Mrawdlys Mon, ddydd Sadwrn, llongyfarchodd y Barnwr Avory y Sir oherwydd fod cyn lleied o droseddau yn cymeryd lie ynddi. Daeth hysbysrwydd o Queenstown gyda'r agerlong Cameronian ddydd Sul fod mor-ladron wedi ceisio ysbeilio agerlong ar ganol y Werydd. Cafwyd hen lane o'r enw John Wil- liams, yr hwn a drigai gyda'i nith yn Eryri Terrace, Penrhyn Deudraeth, yn farw yn ei wely fore Sul diweddaf. Mewn ymrysonfa bocsio yn Nghaer- dydd nos Sadwrn curodd Bombardier Wells ei wrthwynebydd, Gustave Pigot, y Ffrancwr, mewn dau funud o amser. Oddeutu blwyddyn yn ol prynodd tafarnwr yn Hull gi bychan am bum' punt. Yn ddiweddar prynwyd y ci gan Mr. G. W. Quintart, o New York, am bedwar cant o bunau. Pan oedd Mr. E. J. Pugh, Cae gwyn, Penrhyn Deudraeth, yn rhoi eithin ar dan ar ei fferm ddydd Sadwrn, cymer- odd ffrwydriad le. Wrth archwilio'r lie canfu yno nifer o ergydion gwn. Y mae hen wraig wedi marw yn yr Ysgotland gan adael ystad yn werth deng mil o bunau yn ei hewyllys i Mri. John E. Redmond, A.S., William K. Redmond, A.S., a James Keir Hardie, A. S. Rhoes Mr. E. N. Lewis, aelod Tori- aidd, rybudd ddydd Sadwrn y bydd yn cyflwyno mesur i ganiatau'r etholfraint i terched, ond nad oes neb ond mamau i gael pleidlais. Sylfeinir y mesur ar yr egwyddor,—" Dim babanod, dim pleidleisiau. Canfuwyd Thomas Lloyd Griffiths, ffermwr, o Lansanan, yn feddw chwil ar y ffordd fawr, a phan aed ag ef i'r llys ynadol i sefyll ei brawf nid oedd ganddo unrhyw ddirnadaeth ple'r oedd nac am beth y dygid ef yno. Cafodd ei anfon i'r tloty. Aeth dwy eneth yn Rotherham i gael baddon yn bakehouse eu tad nos Wener diweddaf. Clyv\ai eu mam un o hon- ynt yn gruddfan, a phan aeth yno canfu'r ddwy yn gorwedd yn farw ar lawr. Yr oedd y nwyon ddeuai o dan y pobty wedi eu gwenwyno. Bu cry n gyffro yn nghyfarfod y blaid Lafur gvnhaliwyd yn Birkenhead nos Sul. Yr oedd Mr. P. Larkin, brawd Mr Jim Larkin, yno'n siarad, a gal- wodd Mr. Havelock Wilson a Mr. Philip Snowden yn fradychwyr. Cod- odd llawer n'r dorf i fynu ar eu traed i brotestio yn erbyn ei ymadrodd, ond caed tawelwch yn y man. Bu Mr. William Jones, A.S., a Mr. Francis Neilson, A.S., yn anerch cyf- arfod Rhyddfrydol yn Llandudno nos Wener, ac er fod y cyfarfod yn hwyr yn tori i fynu arhosodd torf tawr tu allan i'r neuadd i wel'd y boneddigion yn myn'd am eu gwesty. Ni bu'r fath arddangosiad brwdfrydig yno er's llawer iawn o flynyddau, meddir. Yn Deganwy, ddydd Sadwrn, bu farw'r Parch. Ganghellor Bulkeley Owen Jones, ac efe o fewn deng niw.r- nod i fod yn ddeg a phedwar ugain mlwydd oed. Efe oedd y "Slogger I r Williams y sonir am dano yn y llyfr adnabyddus I- Tom Brown's School- days." Mab i reithor o Beaumaris yd- oedd, a hanai o ochr ei fam o un o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Digwyddodd anhap i glud, yn yr hwn yr oedd wyth o ddynion yn mynd i lawr i Lofa Westleigh, ddydd Sadwrn, a chafsdd y dynion ddihangfa gyfvng iawn rhag cael eu lladd. Cafodd rhaii o honynt eu hanafu'n ddifritol, ac yr oedd yr oil wedi eu hysgytio'n ddirfawr. Onibae am ddarpariaeth oedd wedi ei roi ar y glud ychydig amser yn ol, buasai wedi disgyn gyda'r dynion i tawr i waelod y pwll, dyfnde, o bedwar cant o latheni.

i Ffrwydriad ar y Mauretania

Ffrwydriad ar y Mauretania I TRI DYN YN CAEL EU LLADD. Neithiwr, nos Lun, digwyddodd ffrwydriad ofnadwy ar yr agerlong Mauretania, yr hon orweddai yn y Canada Graving Dock, Lerpwl Caf- odd tri o weithwyr Cwmni'r Cunard eu lladd yn y fan, ac anatwyd wyth eraill yn ddifritol iawn. Digwyddodd y ddamwain yn ystafell y peirianau, lie yr oedd nifer o weith- wyr yn adgyweirior peirianau. Yn gysylltiol a'r rhan adgyweirid yr oedd cylinder mawr yn llawn o nwy. Ffrwyd- rodd hwnw gyda nerth ofnadwy, gan ladd tri o'r dynion yn y fan, ac anatu wyth o leiaf. Llanwyd yr ystafell gan y nwyon, ac nid oedd modd myned i mewn iddi am ysbaid, ond gwaredwyd yr anafusion o honi gan eu cydweithwyr gynted ag y gellid. Ofnid ar y cyntaf yr ai'r Hong f.r ar dan, ond llwyddwyd i ddiffodd y fHamau cyn iddynt achosi nemor ddim ni wed. Yr oedd cyrff y dynion laddwyd wedi eu malurio cymaint fel nad oedd modd eu hadnabod, oddigerth oddiwth eu dillad a phethau eraill berthynai iddynt Enwau'r rhai laddwyd oedd,-Jeffrey Thomas, nis gwyddis ei gyfeiriad, ond dywedir ei fod yn ddyn ieuanc nerthol, pump ar hugain oed Samuel Gidman, o Egremont, a Gecrge Coventry, o Wallsend. Yr oedd un fraich i Coven- try wedi ei chwythu ymaith, \'i gorff wedi ei losgi drosto yr oedd coesau | Gidman wedi eu chwythu ymaith, a'i gorft wedi ei losgi'r un modd a Coven- try. Nid oedd archollion Thomas mor erchyll.

Advertising

Dandruff fW fciir it iD-liviag microbcs dw cause. Has is a commoa-scast M moacy-back remedy. Baldness, even partial, Ï8 a bar to good looks-and a hindrance to suc- cess. Baldness does not come suddenly —every sufferer has Nature's warnings. Dandruff, itching scalp, scurf, falling or "dead-looking" hair are the fore- runners of baldness. Heed the warning—take immediate steps to safeguard good look and good prospects by using Rexall 93 Hair Tonic. »/- and 4/- a bottle. This Hair Tonic will do all we claim for it. Rexall "93" Hair Tonic means satisfaction or money back-means silky, soft, glossy, healthy hair or no pay. Rexall "93" Hair Tonic is one of the famous Rexall Remedies of which there is one for each of the common human ills. Every Rexall Remedy, including Rexall "93" Hair Tonic, is sold upon this unqualified guarantee: "The United Drug Co., and the Rexall Shop selling this preparation, guarantee it to give you satisfaction, if it does not, go back to the shop where you bought it and get yo t. money. It belongs to you and we want you to have it." Rexall "93" Hair Tonic can only be obtained from the Rexall Chemists— there is one in almost every community. The Rexall Chemist in Pwllheli is R. O. GRIFFITH, 60, HIGH STREET, PWLLHELI.

Helynt Rhwng Dau Frawd 1 yn MonJ

Helynt Rhwng Dau Frawd 1 yn Mon. Yn Mrawdlys Mon, ddydd Sadwrn, dygwyd achos o flaen y Barnwr Avory, yn yr hwn yr oedd Thomas Davies Williams, cynrychiolydd cwmni yswir- iant, yn g-wysio ei trawd, John Will- iams, ffermwr a meliny dd, o Ty croes, am y swm o 200P dyledus o dan weithred arbenig. 0 dan y weithred hono yr oedd y diffynydd yn ymrwymo i roi bwyd a llety i'r achwynydd, a cbadw ei geffyl, tra byddo'r achwynydd heb briodi ac ymrwymai y diffynydd i dalu 200p. i'w frawd os methai gadw y cytundeb. Ilonai yr achwynydd nad oedd y diffynydd wedi cadw at delerau y cytundeb, ac o'r herwydd hawliai y 200p. O'r ochr arall haerai y diffynydd nad oedd y cytundeb wedi ei dori. Dangosai y tystiolaethau fod y plant, yn ol ewyllys y tad, i gael aros ar y fferm tra y byddont heb briodi, ond apwytiwyd y diffynydd yn ysgutor. Dytarnodd y rheithwyi yn ffatr y I diffynydd. _-Cl--

IMr J Hugh Edwards AS ag Ulster

Mr J. Hugh Edwards, A.S., ag Ulster. Wrth siarad yn Aberystwyth, nos Lun, dywedai Mr. J Hugh Edwards, A S., y gallai eu sicrhau nad oedd yn debyg y byddai rhwyg yn y Weinydd- iaeth yn awr pan oedchnt ar fin gafael yn eu gwobr. Gallai y byddai ychydig gynwrf yo Ulster, ond yr oedd Mr. Balfour yn dweyd pan yn Ysrifnydd i'r Iwerddon mai'r feddyginiaeth oreu at unrhyw afreoleidd-dra yn yr Iwerddon oedd dogn go dda o reol a chyfraith, ac yr oedJ ef (Mr. Edwards) yn teimlo'n sicr na bydda? i'r Llywodraeth betruso g\ ngud yr hyn gynghorai Mr. Balfour, pe t--te'( achlysur yn gofyn. Ar ol pasio Mesur Dadgysylltiad yr I Ebiwys, ni byddai yr Eglwyswyr ond 157-OOOP. y flwyddyn yn Ilai eu hincwm, a dylai Eghvys allai fforddio talu 17,ooop i'w phedwar Esob gasglu'r swm hwnw I yn rhwydd, os oedd yr Ymneilltuwyr yn medru casglu 4oo,ooop. yn Nghymru at y weinidogaeth.

Advertising

CONSERVATIVE CLUB, PWLLHELI. A GRAND WHIST DRIVE will be held at the above club On Friday Evening, January 30th, Commencing at 7 30 p.m. Admission (Refreshments included) 1/- E. Watkins, Secietary. Cwyl Dewi, 1914. DKAMA YN LLE EISTEDDFOD. SERCH HUDOL Pel fformir y Ddrama uchod yn Y NEUADD DREFOL, PWLLHELI, Nob Iau, Mawrth 5ed, 1914, GAX GWMNI ENWOG BEDD GELERT Hon yw y Ddrama y cystedlir arni yn Eisteddfod Bangor. Drysau yn agored 7 o'r gloch, dechreuir am 7.30. Tocynau 1/6 a 1 Yr Elw at Eglwys South Beach. DALIER SYLW, Cynhelir Cyfarfod Llenyddol Y TABERNACL NOS IAU, CHWEFROR 26ain. TESTUN YCHWANEGOL. Am y dernyn goreu, cyfaddas i'w adrodd, heb fod dim llai na 30 o linell- ai* Agored. Gwobr, 2s. 6c. Bcirniad Ap GWALLTER, Bodfean. W. GRIFFITH, Lleyn Street, Ysg. J. EVANS, Slate Works, MAES, PWLLHELI Llechi at bob gwasanaeth am Brisiau Rhesymol. Digonedd o ddewis 0 Artificial JSBB Wreaths. cSHHHflHI Gas Works Pwllhell GOSTYNGIAD YM MHRIS COKE. Er mwyn gwneud lie ar gyfer cyfnewid- iadau helaeth yn y gwaith uchod, V MAE'K STCK1 0 COKE SYDD AH LAW I'W GLIKIO AM Y PRIS (.OSTYNGOL 0 15s. Y D-C-NELL YN Y WASG. Beirdd Gwerin Eifionyda o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd yn bresenol, A'u Gwaith Anghyhoeddedig: YNGHYDA DARLUNIAU. GAN CYBI. Pris Llytr mewn Amlen Bapyr, 1/ Llian, 1/6 Wanted. WANTED well-educated youth as Chemist's Apprentice. Apply with full particulars to W. E. Roberts, Chemist, Penlan Street, Pwllheli. A PPRENTICES for the Drapery and 1 Millinery. Apply Morris Wil- liams, Emporium, Penlan Street, Pwll- heli. MOLESKINS. Gerrards, Furriers, Edinburgh, pay highest prices. Cash. Pioneers of this Industry. Send for particulars. pwllbeli fire Sritiaoc. THERE are a few vacancies tor Fire- men in the Brigade. Applications to be sent to the under- signed by Friday, the 30th inst. EVAN R. DAVIBS. Town lerk. January 27th, 1914.