Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
17 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

AT EIN GOHEBWYR, A..fone.r nrbya BoiiEU SAI WRN y fan t)t..I!af Poh .I'fhebo'i th>«.li»d»ti am Yr I'TWOUN iV hftltnlt i'r OOKUCHWYLIWR, 74, H i h Street, Pwllheli. Foli ohehiaeth i'w eyfeirio- YR UDGOBN OPPICX, PWLLHELI. Bydl vu d'a gp'-vn. dderV»yn g.iheb- -th-n n(ifli wrtli (,hphwyr -ir tqte, hu ileol o '

NODION A HANESION

NODION A HANESION. Tori i Siop yn y Bermo. Dydd Sadwrn diweddaf torwyd i mewn i siop eillydd yn y 'Bermo. Dyg- wyd oddiyno sp. mewn arian. + Colled o Bum' Miliwn o Bunau. Dywedir yr amcangyfrilir y golled yn yr helynt glofaol diweddar yn swydd Yoik yn bum' rriliwn o bunau. Pa"- haodd y streij yn y Sir am dair wythnos ac yn y rhanau deheuol am ddeng wythnos. ir Rhodd i Gapel Y mae larll Ancaster, yr hwn sydd yn berchen llawer o diroedd yn Ngogledd Cymru, wedi datgan i awdurdodau Capel Annibynol Bettws- y-coed ei fwriad o'u hanrhegu a'r tir rhvdd-ddaliadol ar bu un y sail y capel. if + Esgeuluso ei Blant. Yn heddlys Ru-ibon, ddydd Gwener, cyhuddwyd Edward Jones o St. Helens o esgeuluso ei blant, ac hefyd ei chwaer, Jane Ellis o Cefn, gyda'r hon y trigian- Jane Ellis o Cefii, ?, ent, o drosedd cyffelyb. Dedfrydwyd y tad i dri mis o garchar, ond taflwyd allan yr achos yn erhyn Jane Elliv Cau Ysgolion Oyddiol Caernarfon. Yn herwydd parhad y frech goch yn Nghaernarfon penderfynodd awdurdod- au adjys- y Sir, ar anog-aeth y swydd- og iechydol, i gau holl ysgolion dyddiol y dref, ac anogant hefyd tra y pery yr ysgolion yn gauedig ar fod yr holl ysgolion Sul a chyfarfodydd y bobl ieuainc yn gwneud yr un peth. < Y Mab yn dilyn ei Dad. Dydd Gwener diweddaf appwyntiodd Ustusiaid Porthmadog Mr. D. Bteese, fel eu clerc, yr hon swydd wnaed yn wag- trwy farwolaeth Mr Randal Carson tra yn treuiio ychydig vvyliau yn Sicily. Ail fab yw y clerc newydd i'r diweddar Mi. Edward Breese, yr hwn am flyn- yddau a lanwodd yr un swydd. ♦ ♦ Eisteddfod Genedlaethol 1916. Bwriada Cymry Birkenhead wneud cais am Eisteddfod Genedlaethol 1916. Dydd Gwener bu cyn> ychiolaeth o lionynt yn ymueld a'r Maer er cael ei gemogaeth ef a'r Cyngor i'r symudiad. Addawodd y Maer vvneud ei oreu o blaid y symudiad. Bydd iddynt wneud y cais yn yr Eisteddfod yn Mangor mis Medi nesaf. Ei Ladd gan y Motor Bus. Pall yr oedd John Garatv ii ùyhweyù oddiwrth ei waith yn Warri-igton. ddydd Sadwrn, tarawyd ef i lawr gan fnlor l>u< perthynol i Gorphoraeth War- rington. Aeth y modur drosto gan ei niweidio yn ddifritol. Cymerwyd ef yn 01 i'r gwaith, ond yr oedd ei niweidiau mor ddifrifol fel y bu farw cyn pen ychydig funudau. Trvchineb mewn Tren. Trychineb mewn Tren. Uydd lau diweddaf canfnldwvd W Edward Bank- glow r o Abertil'ery, wedi ei s;iethu yn ei hen mewn cerbyd- res ar Hnei) Ctrcut Western rhwng Newport a Llanhilleth. Pin ddeuwyd o hyd iddo yr oedd Banks yn fyw. ond bu farw ymhen ychydig tunudau. Canfvddwvd IhwdJ", II wrth ei ochr. Ni wyddis beth achosodd y drychineb Dau Farnwr Newydd. Hyshysir yn swyddogol fod y Barnwr Channel wedi ymddisvvjddo o fod yn farnwr yn adran Maine y Brenin, ac fod y Brenin wedi cytuno air appwyntio Mr. Montagu Shearman, K.C., a Mr. John Sankey, K.C fel barmvyr yn adran Maine y Brenin. \'r oedd un o'r appwyntiadau hyn mewn canlyoiad i ddyrchafiad y Birnwr Pickford ychydig ddyddiau'n o!. Torf anferth yn gwyl o'r Bel Droed. Dydd Sal,k-rn diwedlaf, )t) y Palas Gnsial, Llundain, chvva'aewyd y jinnl tie < am y Gwpan Brydeinis* ynglfn a'r Bel Droed Y ddau glwb i dynu'r dorch oeJd B.iniley a Lerpwl Amcangyfrilir fod I hi; yr edrychwyr yn 85.000, ac vn eu plith yr oedd y Brenin, yr hwn JO tlwynodd y g-wpan i gipteo y clwb Ilwyddianus. Clwb Burnley a orfu o un g61. Cyflwynodd v Rrenin hefyd fedal- au i aeloduu y jdau glwb. [ 1 Bachgen Dewr. Er nad yw ond ibeg oed y mae Jack Boucher o BrisUu wedi achub pump o fyuydau rhag boddi Y dydd o'r blaen fjvvelodd ddynes yn neidio i'r gamlas, ac heb gymeryd amser i vstyried o I-bi neidiodd yn ei ddi lad ar ei hol, a llwyddodd i'w ihynu i'r Ian Coel ei ChorfT yn y Dwfr. BlyeU Sadwrn aeth Miss Bullock, 25am oed, merch i hrchenog- v Stanley Arms Hotel. Macclesfield Foiest, allan am dro, a dywedodd u rth ei rhieni na byddai'n hir. Aeth oriau heibio. a j chan na ddychwelodd aed yn anes- mwyth vn ei chylch, ac awd i chuilio am dnni. Deuwyd o hyd i'w cho ff yn yr afon Dan^, ychydig bellder oddiwrth ei chartret. Berni r iddi syrthio i'r afon, ac iddi fethu dod o'r dwfr. Codi CyflogauY Plismyn. Yn Mhwyllgor Heddgeidwadol Sir Gaernarfon ddvdd lau diweddaf hys- bysodd Mr. J. R. Pritchard fod y I pwyllgor ai ianol wedi ystyried cais y Prif Gwnstabl (Mr. John Griffith) am godiad yn ei gytl. Y cyflog presennl ydoedd 300P. y flwyddyn, ac yr oedd y swm lleiaf delid drwy yr oil o Gymru. Pasiwyd yn unfrydol i argymhell codiad o 50p. — Hefyd pasiwyd argymhell cod- iad u IS 2C. yr vvvihnos i bob rhingyll. 2750p. am Fywyd Meddyg. Yn Mrawdlys Lerpwl y dydd o'r blaen, gwysiwyd Cwinni y Cheshire Lines am iawn gan weddw a thri phlentyn y diweddar Dr. William C. i O'Donogline, yr hwn a laddwyd tra yn trafaelio o Fanceinion i Lerpwl. Dy- wedid i'r meddyg gael ei daro yn wael yn y tren, ac iddo roi ei ben allan o'r fTenestr. Y pryd hyny daeth tren arall heibio, a tharawyd ef gan ddrws Un o'r cerbydau gan ei ladd yn y fan. Dy- larnodd y rheithwyr 2.750P o iawn. + Y Cofnodion yn Gymraeg. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Addysg y 'Hermo a'i cylch, yr wythnos ddiwedd- af, cynygiodd y Parch. David Davies fod i'r holl gofnodion o hyny'n mlaen i'w croniclo yn Gymraeg, ac i'w hanton yn Gymraeg i Bwyllgor y Sir yn lie yn Saesneg fel yn bresenol. Paham, meddai, y dylai yr iaith Seisnig fod y bwysicaf mewn ysgolion Cymreig.— Wrth eilio'r cynygiad svlviodd Mr. John Wynne ei fod ef bob amser yn anfon ei archebion am nwyddau i Lerpwl a Manceinion yn Gymraesr, ac yr oedd pobpeth yn dod yn iawn.—! Wedi ymdrafodaeth faith pasiwyd trwy twyafrif tod i'r holl gofnodion gacl eu croniclo yn Gymraeg. Cyngor Abergele mewn Pet. bieth. Nos Lun, yr wythnos ddiweddaf bu Cyngor Abergele yn pleidleisio ar gadeirydd. Cafodd Mr. W Pierce Morris naw o bleidleisiau, a rhoed yr un nifer i Mr. john Hannah. Gan nas gellid cytuno gohiriwyd y cyfarfod hyd y noson ddilynol, gan obeithio y gelJiJ dod i ddealltwrineth Pan pleidlei.siwyd yr ail noswaith caed tod y ddau drachefn wedi derbyn yr un nifer. Dywedodd y clerc yr aent felly am byth os oedd v partion am ymlynu wrth eu dyn, ac mai y peth goreu ar eu rhan er dod i allan o'r anhawsder (CLid penodi cad- eirydd arall am g\ fnod. Bu ymryson lled boeth rhwng y capelwyr a'r | Etrlwyswyr yn ystod y cytarfod. Ar ol eisteddiad maith dewisiwyd y Cynghor- ydd Edward Williams yn gadeirvdd am gyfnod Ceisio Llad 1 Eí Wraig Yn heddlys Lerpwl ddydd Sadwrn cy- hudduyd llafurwr O'I enw Gibson Cotter o niweidio gyda'r bwriad o ladd ei wraig, Martha Jane Cotter.-Dyw,-d- wyd fod y ddynes yn byw ar wahao i'w gwr, ac iddo oddeutu haner awr wedi pump y boreu hwnw dori i fewn i'w thv yn Arnett Street. Rhedodd y ddynes allan, ond dilynodd ei gwr ar ei hol a thaniodd ati gyda Ilawddryll gan ei niweidio yn ei ch >rlT. Tvinnid ei bloeddiadall sylw y svvyddog heddgeid- wadol yr hwn a gymerodd Cotter i'r ddalfa.-Cymr\\yú ei wrai.: ïr yspyty, lie y gorwedda mewn cyflvvr ciifrifol.- Dywedodd Cotter pan gymerwyd ct i'r ddaifa Nid oedvlwn yn bwriadu ei saethu, ond yn Llni- ei dychryn. Yr oeddwn wedi bwriadu lladd fy hunan." Gohiriwyd yr achos hyd ddydd Gwener nesaf. 4 Yriiosod ar ei Feistr. Yn liedd-ys Corwen, ddydd Gwener, cvhuddwyd Humphrey Thomas, gwas fferm, o Stamberwen, Cynwyd, o ym- osod ar ei feistr, Mr David Jones o'r un lie. Dyvvedid fod y cyhuddediy wedi ei b:u lysn un ochr, ond nad oedd „randdo rcolaeth ;If ei dymer. Dydd Mawrth gwandiodd ei feistres yn y bv-udy. ac aeth MJones ato i siarad yoyrhylch hyny. Cydimhi y cyhuddedig nuvvn ei fyn tru m a tha awodd ei feistr ei ben, ond yn ffodus torodd het y 11 oistr nerth y i -ra"iatl. Ciliodd y T..Mstr tua'r drws, ond cydiodd y L! ilynydd mewn l\orch deito a Uuchiodd hi uan anafn yn ei wyneb.— D) wed- Owl y ditfyns Lill iddo fod yn ngwasanaeth Mi. Jones am dduy flynedd,. ac yr oedvlynt wedi bod yn hynod o garedig wrtho, ac yntau id iynt hw)-tliati.-Dir- iwywyd ef i 5p vn cvnwys v costau, a rh\?,m\?-i,d qf 'L i l ;tin LIL]cLiddeng rhwymwyd ^f (J;- dd ;.m ddcuddeng

Mesur DatgysyNtiad yr Eglwys yn Nghymru

Mesur DatgysyNtiad yr Eglwys yn Nghymru. PASIO'R AIL DDARLLENIAD UN- WAITH ETO. MWYAFRIF 0 84. I Yn Nhy'r Cyffredin nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf, aed ymlaen gyda'r ddadl ar Fesur Dadgysylltiad a Dad- waddoliad yr Eglwys yn Nghymru. Agorwyd y dratodaeth gan Mr W. Fisher (C.), a dilynwyd ef gan Syr D. Brynmor Jones (cadeirydd y blaid Gymreig) yn ffafr y mesur.* Siaradwyd yn erbyn y mesur gan Mr. A. J. Balfour (C.) Dywedai fod yna herygl i Gymru gario y syniad o genedlaetholdeb yn rhy ball. Un genedl oedd pobl y Deyrnas Gyfunol i fod. Nid oedd cydraddoldeb i'w enill trwy Ddadgysylltiad. Yr oedd y wlad yn dechreu teiinlo mai mesur i ysbeilio Eglwys oedd yn gwneud ei dyledswydd ydoedd y mesur. Dywedai y Prif Weinidog ei bod yn anhawdd dweyd dim o berthynas i'r mesur na ddywedwyd gan' waith o'r blaen. Cyflwynodd ef ugain mlynedd yn ol fesur oedd yn llai rhyddfrydig gyda'r gwaddoliadau ca'r mesur pres- enol, ac yr oedd y rhesymau ddefnydd- iwyd y pryd hwnw wedi eu defnyddio o'r newydd yn ystod y ddadl bresenol. Yr oedd barn yr etholaeth Gymreig yn ystod yr ugain mlynedd hyny wedi ei dadgan a'i chadarnhau drosodd a thros- odd drachetn o blaid y mesur. Siaradwyd hefyd gan y Mri. Oimsby Gore (C.), John Williams (Llaf.), Haydn Jones (R.) a Llewelyn Williams (R.). Dadleuai Mr. Bonar Law y dylai crefydd fod yn gysylltiedig a'r Wlad- wriaeth. Dywedai mai dyledswydd gyntaf y Ceidwadwyr pan ddeuent i awdurdod fyddai adfer i'r Eylwys yn Nghymru yr arian ag oedd y Llywod- raeth bresenol yn myned i'w hamddifadu o honynt. Clowyd y ddadl i fyny gan yr Ysgrif- enydd Cartrefol (Mr. McKenna). Dy- wedodd mai bwriad v mesur oedd gwneud yr Eglwys yn Eglwys rydd yn Nghymru. Nid oedd yna un dymuniad i ysbeilio'r Eglwys. Yn 1906 yr oedd cyfanswm incwm yr Eglwys yn Nghym- ru yn S6o,oooP.30o,oooP. o ba rai a ddeilliai o gyfraniadau gwirfoddol, a'r gweddill oddiwrth waddoliadau. Ymranodd y Ty, ac yr oedd y ffigyrau fel y canlyn Dros wrthod y mesur 265 Yn erbyn 349 Mwyafrif y Llywodraeth 84 Cytunwyd a'r ail ddarlleniad wedi hyny yngC, lianol cymeradwyaeth uebel. __n

I Maen rhaid ei fod yn Wir i

Mae'n rhaid ei fod yn Wir. RHAID I DDARLLENWYR PWLLHELI DDOD I'R PENDERFYNIAD HWN. Nid yw yn ddywediad am un achos yn unig ym Mhwllheli ond y mae ugeiniau o'r trigolion yn tystiolaethu. Y mae tystiolaeth gan bobl adwaenoch bob amser yn ategu y gwir. Nid yw a ganlyn ond un allan o'r amryw ddatganiadau cyhoeddus wnaed yn Mhwllheli. Dywed Mr. O. Jones, Glan Eifion, Sand Street, Pwllheli — Cetais fy nhrwblio gan boen yc fy elwlod o dro i dro am rai blynyddau. Y mae fy ngwaith fel teiliwr yn hynod boenus i'r cefn, ac ar adegau byddai yn anhawdd i mi ymsythu ar ol gwyro. Yr oedd y poenau yn drwm ar draws fy elwlod, a chefais fy nhrwblio yn ogystal gan gur dirdynol yn fy mhen. Rhoddais brawf ar driniaeth fedd- j j ygol a chyffeiriau eraill, ond gwnaeth Doan's Backache Kidney Pills fwy o les i mi na dim arall. Y maent wedi fy rhyddhau o'r boen, a theimlaf yn hynod o iach yn awr. Ni byddaf byth yn anghofio cymeradwyo Doan's Pills. (Arwyddwyd) O. Jones." NID yw Doan's Backache Kidney Pills ar gyfer rhwymedd, anhwyldeb yr ysgyfaint neu drwbl yr ystumog. Y maent yn unig ar gyfer diffyg ar yr elwlod a'r yswigen, megis dropsi, grafel, gwaelodion yn y dwfr, diffyg ar y dwfr, poen yn y cefn, lumbago, crydcymalau, a gwenwyn yn y cyfan- soddiad. Rhyddhaent yr elwlod a'r yswigen fel y gvvna rhyddgyffyr ryddhau y coluddion. Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eglur am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mr. Jones.

Llofruddiaeth mewn Tren

Llofruddiaeth mewn Tren. Nos Sadwrn diweddaf cymerodd trychineb le mewn tren o Lundain i Brighton, pan y llofruddiwyd dynes anadnabyddus. Ymddengys tod y -nmunicatioit cord wedi cael ei dynu vMdeutu milltir a haner o orsaf Three Bridges, ond pen- derfynodd y guard i aros hyd nes y cyr- haeddai y tren yr orsaf cyn gwneud ymchwiliad. Pan stopiodd y tren neid- iodd dyn allan o un o'r cerbydau a chyllell fawr yn ei law, yr hon oedd a gwaed arni. Cydiodd y guard ynddo a gwaeddodd am gynorthwy. Yn un o'r cerbydau canfyddwyd corff dynes ieuanc yn farw. Yr oedd ei gwddf wedi ei dori, a niweidiau trym- ion eraill wedi eu hachosi ar ei chorff. Cymerwyd y dyhiryn mewn cerbyd modur i garchar East Grinstead

Llys Ynadol Pwllheli I

Llys Ynadol Pwllheli. I Dydd Mercher, Ebrill 22ain.—Gerbron Cyrnol Lloyd Evans (yn y gadair) yr Henaduriaid W. Anthony, G. Hughes Roberts, Mau, ice Jones C. H. Lloyd- Edwards, Ysw., a W. W. Griffiths, Ysw. Esgeuluso anfon ei blentyn i'r ysqol.- Gwysiwyd Hugh Owen, Lletty, Bryn- croes, gan Mr J. T. Davies, swyddog presenoldeb yn yr ysgolion, am esgeu- luso anton ei blentyn i'r ysgol.- Gwnaed archeb presenoldeb, a'r diffyn- ydd i dalu'r costau. Cyhuddiad o Ymosodiad.-Cyhuddwyd Robert Parry, Penybont, Seithbont, Humphrey Hughes, Neigwl Plas, a William Griffith, Neigwl Ganol, gan Annie Roberts, Ty'r Eglwys, Rhiw, am ymosodiad arni. Dywedodd yr achwynyddes ei bod yn dychwelyd gyda'i chwaer o gyfarfod cystadleuol Llun y Pasg pan y tarawodd un o'r diffynyddion hi yn ei gwyneb Cydiodd y ddau arall ynddi, a thaflodd un o honynt hi i'r ffos gan ddifetha ei dillad. -Dywegodd yr Heddwas fod tad yr achwynyddes wedi gwneud cwyn iddo. Yr oedd- briw ar drwyn yr achwynyddes, a scriffiadau ar ei dwylaw.—Dywedodd Mr Cradoc Davies ar ran y diffynyddion i'r cyfan gael ei wneud mewn hwyl yn unig. Nid oedd bwriad o gwbl i'w niweidio. Yr oedd pymtheg o bobl ieuainc yn dychwelyd o gyfarfod cys- tadleuol y Nant. Aeth chwaer yr achwynyddes gydag un dyr. ieuanc, ac yn naturiol meddyliodd y lleill y buasai ei chwaer yn hoffi cael cwmni. Yr unig beth wnaeth y diffynyddion oedd rhoi eu breichiau am ei chanol, a disgynodd. Ni waeddodd am gyn- orthwy o gwbl. — Rhwymodd y Fainc y partion i ymddwyn yn briodol am chwe' mis, a gorchymynwyd hwy i daiu y costau, a gwneud i fyny'r golled i ddiliad yr eneth,—yn gwneud y swm cydrhyngddynt o 44s.-Dywedodd y Cacleirydd fod nifer o gwynion yn erbyn dynion ieuar.c yn ymddwyn yn arw tuagat ferched ieuainc yn y nos. Gobeithiai y byddai yr achos hwn yn wers iddynt. Byddai i'r Fainc ym- ddwyn yn galetcich tuag at drosedd- wyr syffelyb yn y dyfodol. j Mcddicdod. Cyhuddwyd Thomas Roberts, Scifltan, o fod yn feddw. Gchiriwyd yr achos am dri mis.- Dirwywyd William Mullan, a George Fleming, Lianaelhaiarn. 10s. ac 8s. 6c. o gostau yr un am yr un trosedd. H(,,b Olett.Cyhuddwyd William P. Roberts, Moranedd, Morfa Nefyn, am yru cerbyd modur yn Tydweiliog heb oleu oddeutu ugain munud i ddeg yn y nos. Dirwywyd ef i 20S, ac Ss. 6c. o gostau.

UI Gwarcheidwaid Caernarfon I ar Gym raeg

-U- Gwarcheidwaid Caernarfon a'r Gym raeg. Yn nghyfarfod blynyddol Bwrdd Gwarcheidwaid Caernarfon, ddydd Sad- wrn diweddaf, cynygiodd Mr Henry Parry fod cotnodion y BwrJd yn cael eu cadw a'u darllen yn Gymraeg. Os y codai UwrdJ y Llywodraeth Leol wrth- wynebiad i hyn, yr unig ffordd allan o'r anhawsder fyddai iddynt gadw dyniol1 ieuainc yn hyddysg yn yr hen iaith yn y Swyddfa yn Llundain. Eiliwyd y penderfyniad gan Mr T. J Lloyd, a dywedodd y deallai fod Bwidd Amaeth- yddiaeth yn anfon allan gwestiynau ar wahanol faterion i ffermwyr yn Gym- raeg. a bod y Bvadd Addysg wedi anfon i ofyn a ddymunai rheolwyr ysgol- ion gael adtoddiad blynyddol yn Gym- raeg. Yr oedd o'r fam y dylai fod y cofnodion yn cael eu cadw yn eu hiaith eu hunain. Wedi ymdrafodaeth pellach appwyntiwyd pwyllgor i ystyried y mater ac i gyflwyno adroddiad i'r cyfar- fod nesaf. n--

Cofgolofn ir Prifathraw T Charles Edwards DO

Cofgolofn i'r Prifathraw T. Charles Edwards, D.O. Y n nghyfarfod haner blynyddol Llywodraethwvr Coleg Aberystwyth, gynhaliwyd yn Harlech ddydd Gwener diweddaf, cynygiodd y Parch. Gwynoro Davies, y Bermo, benderfyniad y dylid symud ymlaen i wneud rhywbeth i gofio am y diweddar Barch. Thomas Charles Edwards, M.A., D.D., y Prifathraw cyntaf yn Aberystwyth yn nglyn a'r Coleg Cenedlaethol cyntaf yn Nghymru. Dywedodd, fel un o hen efrydwyr y Coleg, uad oedd eisieu cyfiawnhau dygiad ymlaen y penderfyniad i un oedd wedi rhoddi y fath wasanaeth i sefydlu y Coleg Cenedlaethol cyntaf yn Nghymru. Eiliwyd ef gan y Prifathraw Ellis Edwards, M.A., ac ategwyd gan Dr. J. Gwenogvryn Evans, Llanbedrog. Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol, a phenodwyd pwyllgor i gyflwyno CYi1-1 llun i'r cyfarfod nesaf. r\

Dirprwyaeth o Ynys Manaw I yn Madryn

Dirprwyaeth o Ynys Manaw I yn Madryn. Dydd Sadwrn diweddaf bu dirprwy- aeth o Dy'r Cyffredin Ynys Manaw ar ymvveliad ag Ysgol Amaethyddol Cas- tell Madryn Yr oedd y ddirprwyaeth yn gynwysedig o Lefarydd y Ty, y DerbynydJ Cyffredinol yr Ynys, a phump o aelodau a swyddogion Ty yr Allweddau. Yr amcan dan sylw gan- ddynt wrth ddod oedd eu bwriad i sefydlu cynllun o Addysg Amaethyddol yn yr Ynys, a daethant drosodd er gweled sut yr oedd y cynllun yn cael ei gario allan yn y Sir hon. Hefyd tal- wyd ymweliad ag ysgol newydd Four- crosses. Cafodd y ddirnrwyaeth, y rhai a arwelnid gan Mr E. R. Davies, c!erc addysg y Sir, eu boddhau yn fawr yn nafblygiad addysg ac amaethyddiaeth yn y Sir. I

Beddaur ProfPwydi I

Beddau'r ProfPwydi." I Nos lau diweddaf bu cwmni enwog y Ddraig Goch, Caernarfon, yn per-, fformio y ddrama uchod o waith Mr W. i J. Gruffydd, M.A., yn Neuadd y Dref, Pwllheli. Daeth cynulliad liuosog i ynghyd, a chafodd pavvb eu boddhau yn fawr yn mherfformiad uwchraddol y cwmni adnabyddus hwn. lJo peth nodweddiadol a ganfyddid yn rhedeg fel gwythien euraidd drwyddi ydoedd y wers foesol a amcanant ei chyraedd i glyw a chalon y crefyddwyr deddfol, a llwyddasant tu hwnt i bob disgwyliad i gyrhaedd y nod. Yr ydym f wedi bod yn gwrando ar amryw o g wm- niau Cymreig o dro i droyn pcrlformio, j ond yn ddiamheuol yr oedd perfformiad y cwmni hwn uwchlaw i ddim a wran- da\\som eto, ac nid rbyfedd genym iddynt gael eu dewis yn un o'r ddau sydd i ymddangos ar lwyfan yr Eistedd- fod Genedlaethol ym Mangor yn mis Medi nesat. Gwneir y ddrama i fyny o bedair golyfa. ac'vr oedd y sceneries mor fyw a naturiol nes swyn-gyfareddu y cynull- iad i fonllet o gymeradwyaeth. Yr olygta gyntaf ydoedd Cegin 'Sgellog Fawr." Yr ail olygfa ydoedd Ystafell y Diaconiaid." Y drydedd olygfa yd- oedd Ystafeil mewn Tloty." Y bed- waredd olygfa ydoedd Cegin y 'Sr-,ell- og Fawr yn dlotach ei gwedd na chynt. Er fod y pedair golygfa yn cael eu pertformio yn rhagorol gan y cwmni, teimlem eu bod yn rhagori llawer yn yr ail a'r drydedd olygfa. Gwnaeth Huw Bennett, yn ol ein tyb ni, ei ran yn hynod o feistrolgar. Yr oedd ei natur- ioldeb a'i ddull diymhongar fel ffermwr a diacon, a'r ddyooliaeth noble, a feddai, yn hafal i ddim a welwyd ym myd y ddrama Gymreig ym Mhwllheli. Gwn- aeth Emrys, yr hwn a ddiarddelvvyd o'r seiat, ac Ann, yr hon a gadwodd ei chalon yn bur iddo ymhob drycin, eu rhan yn ganmoladwy. A'r un modd y gwnaeth Twm Huws waith. rhagorol pan yn rhoddi ei farn am dano ei hun a phobl eraill yn y Tlotv. Eiddunwn iddynt bob lwc i fyned yn mlaen i enill y gamp uchel yn yr Eisteddfod, ac os y deuant i'n tref eto bydd Neuadd y Dref yn sicr o fod dan ei sang.

Cymdeithas Amaethyddol Lleyn ac Eifionydd

Cymdeithas Amaethyddol Lleyn ac Eifionydd. Prydnawn Mercher diweddaf yn y Neuadd Drefol cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod. Cym- erwyd y gadair gan Dr. R. Jones Evans, Maer, Pwllheli. Rhoddodd yr Ysgrifenydd (Mr. D. H. Parry, Vron- allt), grynbodeb o gyfrifon yr Ardd- angosfa ddiweddaf ynghyd a sefyllfa arianol y gymdeithas. Wedi talu y gwobrwyon yn llawn yr oedd gweddill i'w drosglwyddo i dynu yr hen ddyied i lawr. fel erbyn hyn nid yw swm y ddyied ond 24p. Ni fu y gymdeithas er's blynyddau mewn cystal safle, a chyda ymdrech egniol ar ran y pwyllgor eleni gellir yn hawdd glirio y swm hwn i flwrdd. Pasiwyd y Mri. D Morris Parry, Gwynfryn, a Owen G. Jones, Tyddyn Llewelyn, yn archwilwyr. Penderfynwyd cynal yr Arddangosfa nesat ar yr 21ain o Awst, ac etholwyd yn llywydd y Cyrnol Lloyd Evans, U. H. Broom Hall; is-lywyddion Mri. David Williams, Shop Pwlldefaid, Pwllheli, a W. G. Roberts, Nanhoron. -Dewiswyd oeirniaid ar y gwahanol j adranau, a phasiwyd i gael cystadleu- aeth neidio. -o

Gynau i Ulster

Gynau i Ulster. Yn gynar foreu Sadwrn llwyddodd Gwirfoddolwyr Ulster i lanio gynau ac ergydion, ac i'w rhano trwy bob rhan o Ulster, er fod yr awdurdodau yn cadw gwyliadwriaeth ar y lie. Amcan- gyfrifir fod o 25,000 i 50,000 0 ynau wedi eu glanio, a ihua tair tunell a haner o ergydion. Yn hwyr nos Wener amgylchynwyd tref Larne gan y Gwirfoddolwyr, rhwystrwyd pob trafnidiaeth, a chad- wyd y swyddogion rhag anfon pellebron na defnyddio'r teliffon. Yn fuan ar ol hyn cyrhaeddodd llong i'r porthladd, a dadlwythwyd yr arfau, ac nid hir y buont nad oedd y cwbl wedi eu clirio ymaith yn unol a'r trefniadau. Pan gyrhaeddodd y newydd i Lun- j dain yr oedd y Prif Weinidog wedi myned i'r wlad i dreulio'r Sul, ac anfonwyd brysneges iddo ar unvvaith, a dychwelodd yn ol. Bu ef ynghyda Mr. Harcourt a'r Cadtridog Macready mewn ymgynghoriad am dros awr o amser.

I Cael Corff ar y Traeth i

Cael Corff ar y Traeth. Prydnawn Sul diweddaf gwe!wyd corff ar y traeth yn Llanfwrog, Sir Fon, gan un a ddigwyddai fyned heibio. Yr oedd y corff mewn cyflwr difrifol. Yr unig ffordd y gwnaed allan gweddillion pwy ydoedd oedd trwy bapurau gaed yn un o'i logellau. Enw y trancedig ydoedd G. W. Hobart o Lundain, llongwr ar y scwner Gaven- hood o Pastow, Yr oedd y scwner yn harbwr Caergybi ar y 18fed o Chwefror, ac yr oedd y, cadben a'r trancedig wedi bod ar y Ian. Pan ddychwelasant yn ol syrthiodd y tranc- edig i'r mor wrth geisio myned i'r llong o gweh bychan. Ar y pryd yr oedd yr ystorm yn arw. o Tra yr oedd Mr. Henry Goulding, ffermwr o Ringwood, Hampshire, yn i gwisgo am dano ddydd Sadwrn i fyned i gynhebrwng ei ferch tarawyd ef yn | wael a syrthiodd yn farw.

Yr Esgob Owen a Dadgysylltiad yr Eglwys

Yr Esgob Owen a Dadgys- ylltiad yr Eglwys. Beth bynag a ddyvvedir am yr Esgob Owen, rl-jaid i bawb gydnabod ei fod wedi gwneud ei waethaf i geisio lladd Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Wrth reswm, mae'n ber- ffaith naturiol iddo wneud hyny. Mae r Esgob ) n gwyboJ y bydd pasio^ mesur yn erg-yd farwol i'r parch paganaidd a delir i'r Egiwys yn y safle y mae ynddi ar hyn o bryd. Mae wedi chwareu ar bob tant er ceisio enill ei amcan. Cotus genym wrando arno yn y parthau hyn dro yn ol, yn fostfawr i'w ryfeddu, yn dweyd y byddai dadgysylltu yr Eglwys yn fwy o drychineb na'l Li-id\vaddoii,- y gellid cael digon o arian i gynal yr Eglwys, ond pe y dadgysylltia hi nad oedd dim arian yn y byd fyddai yn ddigon er adfeddianu y parch a de:d iddi wedi ei dadgysylltu, ac eto yr oedd Eglwyswyr y parthau hyn, yn mhen ychydig fisoedd ar ol araeth yr Esgob, yn begio, ar eu gluniau bron, ar i'r Ymneillduvvyr arwyddo deiseb, nid yn erbyn dadgysylltiad yr Eglwys, sylvver, ond yn erbyn ei dadwaddoli! Druan o'r Esgob, mae'n rhy ddall i ddeall ar- wyddion yr amserau. Bu wrthi yn Bromley, Kent, ddydd Sadwrn diwedd- at. Ceisio enill cydymdeimlad y Saeson yr oedd y tro hwn. Byddai Dadgysyll- tiad yr Eglwys yn Nghymru, meddai ef, yn ymosodiad ar yr Eglwys yn Lloegr. Ni oddefai yr Eglwyswyr byth i'r mesur ddod yn ddeddf y wlad. Yr oedd yr Eglwys wedi dal yr eiddo yn ei meddiant am 250 o flynyddoedd. Paham na fuasai yn ddigon teg i ddweyd mai eiddo ydoedd nad oedd gan yr Eglwys hawl iddo o gwbl.

0Cael Dau Hen Wr wedi Boddi

-0- Cael Dau Hen Wr wedi Boddi. Cynhaliwyd trenghohad yn y Dref- newydd ddydd Llun ar gorff hen wr, 83ain oed, o'r enw David Worthington, a gaed wedi boddi yn afon Dulas toreu Sul. Pasiwyd rheithtarn agored. Tra yr oedd yr ymchwiliad hwn yn myned ymlaen hysbyswyd yr heddlu fod corff hen wr arall o'r enw Richard Lewis wedi ei ddarganfod yn Cefu Mawr wedi boddi. Deuwyd o hyd iddo yn y ffynon yn ymyl ei gartref. Gan nad oes yno fan manteisiol i gynal trengholiad cynhelir ef yn yr awyr agored.

No title

Yn heddlys Donegal anfonwyd Pat- rick McHugh, yr hwn dderbynia ben- siwn yr hen yn Glasgow, i gfychar am bymthegnos am geisio derbyn yr un pensiwn yn Donegal --0--

ECOlpgiao

EC)Olpgiao. "BEIRDD G" ERIN EIFIONYDD." Lybl). Argrarhau rhad, t.d. 12, iiiewn amien is. Iliaii is. 6c. eto, gyda llythyren aur is. gc. cludiad 2C. l'w gael gan yr Awdwr, Chwilog. Nodweddir y blynyddoedd diweddaf hyn gan y sylw mawr roir mewn llawer gwlad i lenyddiaeth y bobl-cynnyrch y Folk." Arwydd er da yw hyn yr oedd yn hen bryd symud; esgeuluswyd lien y werin yn rhy hir. Mae'r ysbryd newydd yn cyniwair yn y tir. Yr un cynhyrfiad ag a barodd i ereill gasglu hen taled;, alawon, interliwdiau, a phenillion telyn Cymru, symbylodd Cybi i ) rifennu cyfrol ddiddorol a gwerthfawr iawn ar Feirdd Gwerin Eifionydd. Mae i'r "prophwydi lleiaf" o hyd eu He, ac mae ein dyled yn fawr iddynt. Dywed y daearegwyr na ellid cael Wyddfa onibai am fynyddoedd llai yr Eryri o'i hamgylch, ni ellid chwaith gael cewri tel Dew i Wyn o Eifion, Robert ap Gwilym Ddu. Eben Fardd, ac ereill, onibai am y beirdd llai y ceir eu hanes a dylniadau o'u gweithiau yn y gyfrol hon. Nid oes neb yn byw iddo ei hun ym myd lien, mwy nag mewn cysylltiadau ereill. Da y gwnai llawer, pe dilynent yr esiampl geir yn y gyfrol hon-ysgrifennu ar feirdd un cwmwd neilltuol. Yn fynych ceir nifer o feirdd yn codi mewn ardal ag elfenau cyffredin yn perthyla iddynt, llawer o debygrwydd yn eu testynau, ac yn eu dull o'u trin. Beth gyfrif am y pwynt- iau hyn o debygrwydd ? Rhoddai y fath gynllun ymhellach gyfte rhagorol i astudio geiriau ac ymadroddion gwlad berthyn i ardaloedd arbenig. Gweithia Cybi y maes o gwmpas ei gartref, fel y dengys ei weithiau cyhoeddedig— Ardal y Cewri," Llofion yr Ardd," Beirdd Gwerin Eifionydd," etc., ac yn hyn dengys lwybr y talai yn dda i ereill i'w ddilyn. Os ca Cybi hamdden, rhodded i ni eto gyfrol er dangos y cei r ym meirdd Eifionydd, gynrychioliad o brif nodweddion a thueddiadau bardd- oniaeth Gymreig mewn gwahanol gyf- I. nodau. Teimlwn yn ddiolchgar iawn am y gyfrol hon, a hyderwn y rhoddir i'r awdwr diwyd gefnogaeth a lawn haedda.-Parch. D. D. Williams, Man- ceinion, yn yr Herald Cymraeg. Cynwysa y Uyfr dyddorol hwn fyw- graffiadau byr a chryno o Feirdd Gwerin Eifionydd am y cyfnod a nodwyd, ynghyd a darnau o'u gweithiau ang- hyhoeddedig. Tywysir y darllenydd i gwmni hen gymeriadau dyddorol dros ben, a chyfodir cwr y lien i weled sut yr oedd yr hen bobl yn treulio eu dyddiau. Yr amcan penaf yw cadw rhag difancoll yr hen gymeriadau hyn a'u nodweddion byw, a chyrhaeddir yr amcan mewn ffordd ddyddorol iawn. Y mae yn un o'r llyfrau hyny y bydd yn rhaid i'r hanesydd wrtho. Ami i orig ddifyr a geir yndclo.-Parch. J. Davies, B.A. (Isfryn), Llanarmon, yn Y Llan a'r Dywysogtietk.