Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

AT EIN GOHEBWYE. i Aufoner erbyn hOREU i3Al'\YR,N j y fan bdlaf Fob arcbebiou H tliHlia-'au am i I UDOOBN i'w bfctfon i'r GORUCHWYLIWR, 74, High Stre et. Pwllheli j Pob gobebiaeth i'w cyfeirio- YR UDGOBN OFFICE, PWLI.HBLI Bydd vn dda genyro ddrrt-yn s»oh«V> i,agtban oddiwrth obf bwyr AT fatprion lleol o ddyddordeb cyboecldua

NODION A HANESION 1

NODION A HANESION. Pedair Agerlong yn Gwrlhdaro. Aeth pedair o agerlongau i wtth- darawlad a'u gilydd rywfodd ar yr afon Dafwys, tuallan i Greenwich, nos Sad- wrn, a suddwyd un o honynt Dihangfa gyfyng iawn gafodd y rhai oedd ar ei bwrdd rhag boddi. Rhuthrwynt yn yr Amerig. Ysgubodd rhuthrwynt drwy ranau o ogledd-orllewin Iowa nos Wener di- weddaf. Cafodd saith o bobl eu lladd ac anafwyd liawer eraill. Gwnaed ditrod mawr hefyd ar eiddo. Vn agos i le o'r enw Archer cafodd plentyn ei chwythu o freichiau ei dad, a'i daro yn erbyn mur ty gan gael ei ladd yn y tan. Awyren yn Ffrwydro. Bu damwain ofnadwy yn Ffrainc ddydd Sul. Aeth tri dyn i fynu mewn awyren yn agos i Set jaune, a phan yn yr uchclder o bedair mil o droedfeddi ffrwydrodd yr auyen. Cafod I y tri cedd ynddi eu lladJ ar amrantiad, a chatodd liawer iawn eu hanafu gan y malurion ddisgynent i lawr. has Ehedeg. Cynhaliwyd ras eheèe; o amgylch Llundain ddydd Sadwrn, am wobr o dri chant o buoau a dwy wobr arall. Enillwyd y ras gan Mr W. L. Brock, ehedwr Americanaidd. Ehedai yn ol 72}; milltir yr awr. Git ylid yr ymdrech- fa gan dros drigain mil o bobl yn Hen- don, a chan filoedd lawer mewn manau eraiM. Tir nad oes neb a'i Piau. Yrydys wedi cael allan fod tua haner can' acer o dir yn Treflys, Llangam- arch, Brycheiniog, nad oes berchenog iddo. Y mae rhybudd i'r perwyl hwnw wedi ei roi i fyny ar ganol y lie gan Adran Prisiad y Tir. Ymddengys nad oes neb a biau y tir, ac y mae yn werth rhwng tri chant a phedwar cant o bunau. Naid am Ryddid. Pan oedd carcharor yn cael ei gymer- yd o Uxbridge i garchai Brixton, ddydd Sadwrn, neidiodd o'r tren yn Bishops Road, Paddington, pan oedd y tren ar gychwyn Tynodd y cunstabl i'w gan- U n. yr hwn darawodd ei ben yn erbvn y platliom nes colloJd ei ymwybydd- iaeth, a bu raid ei gymeryd i'r ysbyty. Yn y cyfamser diangodd y carcharor ac nis daliwyd ef. Cystadleuaeth Seindyrf New Brighton. Ddydd Sadwrn cynhaliwyd y gyst-id- leuaeth seindyrf flynyddol yn Nhwr New Brighton. Yr oedd naw seindorf yn cystadlu am yr her-gwp-m ac am y wobr o 25p. Maritana oedd y darn cystadleuol, a'r rhai a ganlyn oedd y -,i,)reuoti :-i, Black Dike (Mr J. A Greenwood yn a wain) 2, Fodden's Motor Works (Mr W. Halliweil); 3, Hebden Bridge (Mr W. Halliwell). Dirwy Droiu. Yn Leigh, v dydd o'r blaen, cafodd un 0" I enw Thomas Kelv ei ddirwyo i h) mthe PUllt a thrigain a'r costau, ynghyd at t.-o-,tau inewn pui-np o achos- ion eraill, am ddefnyddio ei dy a'i siop i letio. Cadwodd heddgeidwad a chyd- letyur wyliadwriaeth ar y lie, a gwel- lawer o bobl yn mynd i mewo i'r ty amryw weithiau. Aeth yr heddgeid- waid i mewn, ac wrth eu gweled rhed- odd y cyhuddedig i'r gegin, ond fe'i daliwyd. Modur yn Mynd tros Glawdd. Bu agos i ddamwain ddifrifol iawn ddigwvdd rhwng Llanrust a Chonwy 1 ddydd Gwener pan yr oedd niter o ym- welwyr yn teithio mewn cerbyd modur mawr i ddyfryn Conwy. Ar y ffordd y mae Bryn Cyffin, yr hwn sydd ) n lie nodedig o beryglus Gan mor serth yw'r allt gofynir i'r teithwyr yn gyffredin gerddeJ i fyny ar hyd-ddi. Y tro hwn siopiodd y modur ar ganol ) r allt, a phan yr oedd y gyriedydd \n ceisio ei gael i ail gyclnvyn dechreuodd ycerbyd rcdeg- yn ol i lawr y bryn. Dychrynodd 1 y teithwyr a dechreuodd rhai o'r merched lefaru yn eu braw. Llwyddodd y gyriedydd i droi pen ol y cetbyd am y ciav\dd, ac aeth drwy'r clawdJ i'r cae. Cafodd y teithwyr eu hysgutio'n lied arw, a chafodd un dynes ei hanafu ych- ydig, ond ni dderbvmod '.r un niwed j difrifol Rhoi eu Hunain ar Dan. Cafodd ta;r n enethod bychain eu llosgi i farwolacih yn Dublin y dydd o'r blaen. Yn abseno'deb eu mam aeth y plant i chware gyda matsus, a rhoesant eu gilydd ar dan. Ariandy Llundeinig wedi Cau. Achoswyd peth cyffro yn Llundain ddydd Sadwrn fod ffyrm enwog o ar- innwyr a masnachwyr, y Mri Chaplin, Milne. Grernell a'u Cwmni, wedi ffaelu. Y-mae lyfrau'r cwmni wedi eu rhoi yn tixt yto'r Mri Deloitte, Piender a Griffith, y cyfrifwyr trwyddedig. Ofnir fod y rhwymedigaethau'n drymion iawn. Gwaeledd Mr Harry Lvans. Drwg- gan lu edmygwyr y cerddor adnabyddus, Mr Harry Evaus, ddeall ei fod yn wael ei iechyd, ac nas gall gadw ei ymrwymiadau cyhoeddus am beth amser o leiaf. Efe oedd i arwain yn Nghymanfa Anoibynwyr y Sir yn Nghaernarfon y Lion nesaf, ond y mae'r pwyllgor wedi derhyn hysbysrwydd i'r perwyl nas gall lanw'r ymrxvymiad. Deallir mai Mr \V. J. Evans, Aberdar, sydd i arwain yn ei le. I Arglwydd Haldane ag Ymreol- aeth. Wrth siarad yn Rhydychen ddydd Sadwrn dywedai Arglwydd Haldane y byddai i'r Llywodraeth yn y gwelliaot ar Fesur yr Ymreolaeth roi cynygion rhesymol i gwrdd a'r anhawster yn U'ster, ac na byddai iddvnt wrthod gwrando ar awgrvmiadau dilys o'r ochr arall. Yr oedd yn foment bwysig, a gwasanaeth gwael i'w wlad wnelai'r hwn a claflai olew ar y fflamau. Gwaredu Boneddiges rhag Boddi. Bu digwyddiad cyffrous yn Mau Llan- dudno fore Sul. Aeth boneddiges ieu- anc allan i ymdrochi oddeutu wyth o'r gloch, ac yr oedd y mor yn donnog iawn ar y pryd. Aeth i le rhy ddwfn, ac wrth gael ei churo gan y tonnau yr oedd mewn perygl am ei bywyd. Clywyd hi'n gwaeddi gan William Edwards, dyn ieuanc oedd ar y lan, a llwyddodd hwnw ar 01 ymdrech galed i'w chael i'r Ian Yr oedd y ddau wedi llwyr ddilfygio. + Cariadlanc Dialgar. Yr oedd ffermwr ieuanc yn Hoflany, j Awstria, yn ceisio am law a chalon | merch ieuanc oedd yn byw mewn He in cyfagos, ond aid oedd ei rhieni yn toddlon iddo ei chael. Aeth y dyn ieuanc yno a saethodd y ffermwr a'i wraig yn farw, ac archollodd y ferch. Clywyd yr ergydion gan weision y fferm y rhai redasant yoo, ond diangodd y llofrudd i glochdy eglwys a chauodd arno ei hun yno. Wedyn dechreuodd saethu at y rhai geisent ddringo'r clochdy ato. Bu raid galw milwyr yno i'w gael i lawr Anafodd bedwar ar bymtheg o'r mllwyr cyn rhoi ei hun i fyny. T Marw Theodore Watts Dunton. I I Ddydd Sadwrn bu farw'r bardd, y I lienor a'r critic enwog Mr Theodore Watts Dunton, yn djwy a phedwar ugain mtwydd oed. Yr oedd yn gyfail) mynwesot i Swinburne, y bardd Seisnig enwog, ac yn gydnabyddus a Rosetti, George Borrow a Dickens Ystyrid ef yn un beirniaid mvvyaf ar farddoniaeth a llenyddiaeth. Cymerai yntau fel Borrow ddyddordeb mawr yn y Sipsiwn a'u bywyd, ac yr oedd yn hoff iawn o'r Cymry a'u gv\lad. Y mae ei nofel enwog "Aylwin" yo ymwneyd yn fwyaf arbenig a Gogledd Cymru a'r Sipsiwn Cymreig. L'ofruddio Her. Wr. I y mae hen <\r or enw Umbler, yr hwn oedd yn cadw siop fechan yn Hull ac yn byw ei hun mewn ystafell tu ol i'r siop, wedi ei lofruddio Tuag wyth o'r gloch y bore aeth Mrs Harrison, yr hon oedd yn edrych ar ol y ty iddo, i mewn a gwelai'r hen wr yn gorwedd ar lawr a'r gwaed yn llifo o'i ben. Yr oedd dwy archoll citijfn yn ei dalctn, a bu farw ymhen teirawr. Dywedir y gwelwyd dyn dieitnr tua chwech ar hugain oed yn mynd o'r oddeutu saith o'r gloch y noswaith cynt, a bernir mai hwnw a'i licfruddiodd. Credir i-nai wedi mynd i'r siop yda'r bwriad o )s- beilio yr osdd, a bod yr hen wr wedi dod ar ei draws. Canfuwyd fod wm j arian ac oria",r wedi eu cymeryd oddiyno. Cyfoeth Dychmygol. I Yn Mrawdlys Moi ddydd Gwener, calodd un o'r enw Charles Reece ei ddedfrydu i dair blynedd o benyd-was- anaeth am gael dwy bunt drwy dwyll oddiar ffernix%,r )n Llanfair P.G. Gahvodd gyd

MR LLOYD GEORGE YN 1 NGHRICCIETH i

MR. LLOYD GEORGE YN NGHRICCIETH. | ANNERCH YR YMWELWYR 0 BRISTOL. Ddjdd Mawrth diweddat bu Mr. Lloyd George yn annerch nifer fawr o Ryddfrydwyr Bristol y rhai oedd wedi dod ar ymweliad a Chriccieth am y dydd Gynted ag y dechreuodd y Canghellor siarad aflonyddwyd arno gan ddwy o suffragettes, ond symudwyd hwy o'r lie yn ddiymdroi, a chatodd lonydd wedi hyny. Dechreuodd trwy groesavvu'r ymwel- wyr, a dywedodd eu bod yn cael tywydd hyfryd. Yr oedd yn syn, meddai, fod yr haul yn gwenu ag ytyried y pethau ddywedid am Rydd- frydiaeth ac arweinwyr y btaid Rydd- frydol. Da oedd ganddo weled Rhydd- hydwyr y gorllewin loned eu calon Yr cedd anterth yr haf a'r cynhauaf eto o'u blaen, a dymunai iddynt fod mewn hwyl i'w gasglu i mewn i'r ysgubor. Yr oedd y blaid Ryddftydol erbyn hyn yn tynu at derfyn yr ymdrech fawr i gael Llywodraeth y wlad yn nwylo'r werin. Yr oedd y Mesur Seneddot ar Ddeddlyfr y wlad er's dwy flynedd, ac yr'oedd yn awr yn aedd- fdu, ac nid oedd y Llywodraeth am roi i tynu nes medi 'r cynhauaf a hauwyd drwy orchymyn y rhai oedd wedi eu hanfon i'r Senedd. Nid oeddynt am roi i fyny hyd nes y byddo pob mesur yr anfonwyd hwy yno i'w cario allan wedi eu rhoi ar Ddeddtyfr y wlad. Yr oedd pob adran o'r Llywodraeth yn awyddus am i'r Mesur Seneddol ddod yn ddeddf blaid Lafur yn gystal a'r Rhydd- frydwyr. Meddai pob plaid y gwroldeb angenrheidiol i daro'r ergyd gyntaf, ond yr hyn enillai oedd y dewrder di ildio ddaliai drwy awr flin olaf y frwydr. Dyna oedd yn eisiau. Gofynid i'r Llywodraeth dori 'r Senedd i tynu a rhedeg oddiwrth yr ymddired roes y wlad ynddi. Ond ilwfriaid wnelai y fath beth a hyny, ac nid un o'r deunydd hwnw oedd y Prif Weinidog. Gwaeddai y Toriaid am iddynt dori'r Senedd i fynu a dywedent fod yr is- etholladau yn eu herbyn. Ond ni bu Llywodraeth erioed na chollodd is- etholiadau. Y rheswm pam y Uefent am ddadgol fforiad oedd eu bod yn ofni Mesur yr Aml-bleid eisiau Pan oedd y Toriaid mewn gallu yn 1900, collent bron pob is-etholiad nid ystyrid sedd lle'r oedd tair mil a mwy o fwyafrif yn ddiogel. Gwyddai am achosion lle'r oedd pump a ch we mil wedi troi. Ond glynai y Toriaid wrth fainc y Trysorlys fel gelod, a charient drwodd fesurau nad oeddynt erioed wedi gofyn am awdurdod y wlad i'w cyflwyno. Y rheswm am hyny oedd y gwyddent fod uwchafiaid y wlad o'u plaid, er nad oedd y wei in ddim. Plaid aristocrat- aidd oedd y blaid Doriaidd a honent eu bod o uwch gradd na'r Rhyddfrydwyr -plaid y gweithwyr a'r werin dlawd. Ond yr oedd y werin bobl am lywodr- aethu'r wliid. Eu heiddo hwy ydoedd. Eu llafui hwy a'i gwnaeth. Ceid gweled cyn hir fod dydd y werin wedi gwawrio. Dyna olygni y Mesur Sen- eddol, ac yr oeddynt am setyll wrth y Mesur oherwydd hyny. Gallai nad oedd yn ddeddf berffaith-ychydig o berffeit'nrwydd geid yn y byd hwn,- ond yr oedd yn cynwys yr egwyddorion hyny ag oedd yn rhoi bawl i'r werin ddewis ffurfio a dewis pa gyfreithiau oedd i'w llywodraethu. Yr oedd liawer o rwystrau ac an- hawsterau ymlaen meddai'r Canghellor. Beth oedd y graig fawr sydd o'u blaenau ? A bod yn onest y perygl mwyaf yw ymraniad yn ein rhengoedd ein hunain. Os na eilir gwella hwnw deuwn i hrofedigaeth. Os na bydd ini ei ,-e.1a, a riinau'n gwybod am dano, yn ei weled, ac wedi cael profiad ohono'n barod, nid ydym deilwng i edrych ar ol y buddianau mawrion sy wedi eu rhoi yng-ofal arweinwyr y blaid Uyddfrydol a'r blaid Lafur." Yr oedd thai papurau Toriaidd yn dweyd fod ;llll)niadau 'r etholiadau diwtfJdar yn profi fod y wlad yn erbyn y V\ elir, udiaelh bresenol a'i mesurau. Eithr yn hyt-ach, !.id oedd yr etholiad- au oiii yn danos fod y wlad yn oraw- yddu, "ni fynd ymlaen. Yn ei blaen yr oedd ar y werin eisieu mynd. Yr oedd wedi laru ar y cwesti/na gaent eu trafod am faith flynyddoedd, ac yr oedd yn hen bryd iddynt tynd oddiar ffordd mesurau eraill ag yr oedd y werin yn dyheu am danynt. Yr oedd yna bobl na chaent ddigon o gyflog- i bwrcasu cynhaliaeth iddynt eu hunain a'u plant. Yr oedd ihai yn dioddef oherwydd fod clo rhydlyd tirafaeliaeth yn cadw'r tir oddiarnynt, ac yn galw am i'r clo gael ei dori. Yr oedd eisieu gwell aneddau i fyw ynddynt. Yr oedd y wlad yn deffio, ac ni bu (ieffroad cyffelyb er's dyddiau Treth yr Y I. Y mae I!aturwyr ac amaethwyr y "d yn tyru i'r cyfarfodvdd, gan t) ;¡..J bellter ffordd iddynt. A thra y mae'r aristocratiaid a'u cyfeillion yn clochdar yn llawen uwchben ymgodiadau yn y fyddin-- uwchben gwrlhryfel yn Ulster ac is- etholiadau yn Lloegr, yr cedd y llif yn tirio o clan y domen y safent ami. Dyna oedd yn digwvdd iddynt, ac yr oedd arnynt eisieu etholiad cyffredinol cyn i'r dyfroedd fynd mor nerthol nes eu hysgubo ymaith. Ond ni chaent mhono. Ymlaen yr oeddis am fyned, ymlaen tuag at fywyd disgleiriach a gwell i'r lluoedd oedd yn byw ac yn nghysgodion cer a di^ysur y byd. y sut y byd.

Cymanfa Ysgolion MCI Dosbarth NefynI

Cymanfa Ysgolion M.C. I Dosbarth Nefyn I Cynhaliwyd yr uchod y Llungwyn yn Edeyrn. L'YI\ yddid cyfarfod y pryd- nawn gan Nlii T. J. Williams, Pistyll, ac arweinid gan Mr D. R. Wilson, | Nefyn. Canwyd y tonau a vanlyn o dan arweiniad Mr Hugh Griffith, Llithfaen—"Anwyl gartre'r lesu," "-a {1 rwy'n hoffi canu," Cadwediv trwy Ras," Dyddiau'r Nefoedd," Pwysa ar Ei traich," &c. Yn nghyfarfod yr bwyr llywyddid gan Mr Griffith Jones, Morfa Nefyn. Methodd y llywydd penodedig, Mr G. Jones, a bod yn bresenol, ac ar gynyg- iad Arifog, yr arweinydd, ac eiliad y Parch John H ughes, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad ag et yn ei lesgedd Caed anerchiad gan y Parch G. Parry Hughes, yn absenoldeb y llywydd. o dan arweiniad Mr Hugh Griffith, A.C., canwyd y tonau canlynol- Dennis," Caltari," Soar," Har- lan," Pwllglas," 44 Llangranog," Staincliffe," 44 Glan Geirionydd," Dyffryn Baca," a'r anthem Bydd melus gofio y Cyfamod (Isalaw). Yn ystod y Gymanfa caed adroddiad yr Arholiad Sirol, a rhanwyd tystysgrif- au yr Hyfforddwr ar Tonic Solffa. Daeth pymtheg o wobrwyon yr Arholiad Sirol eleni i ddosbarth Netyn. -0--

Pwllheli n Cefnogi Porth madog

Pwllheli 'n Cefnogi Porth- madog. Y mae Pwllheli'n cefnogi Porthmadog yn y farn uchel fynegir gan y brodor a ganlyn o dret cyfagos, Porthmadog, gan fod amryw o'n trefwyr wedi hysbyu am gyffelyb brofiad. Dywed Mr W. M. Jones, 62, Chapel Street, Porthmadog Credaf mai oherwydd oerfel ar yr elwlod y cefais y fath boenau brathol yn fy nghefn. Cefais y lumbago hefyd, yr hwn oedd yn boenus iawn, ac nis gallwn wneud braidd dim byd y pryd hwnw. Yr oedd fy mhen yn ddrwg iawn, ac yr oedd cyfundrefn y dwr yn afreol- aidd. Yr oedd y dwr yn boenus a llosga wI." 44 Cynghorwyd fi i roi cynyg ar Doan's Backache Kidney Pills, ac y mae yn dda genyf fy mod wedi gwneud. Buont yn effeithiol iawn i esmwythau ty nghefn a glanhau y gytuodrefn. I Gwellhawyd fi gan gwrs o'r feddyg-I iniaeth, ac yr wyf yn awr yn iach. (Arwyddwyd) W. M. Jones." Mae'r holl gorff yn dioddef pan mae'r elwlod wedi croni, gan fod cal thffosiad y cortf dynol yn cael ei rwystro. Yr elwlod sy'n puro'r gwaed. ac yn symud ymaith wenwyn yr hylif a'r sylwedd adewir yn y corff yr hyn heb ei symud a achoso dropsi, crydcymalau, out, sciatica, car reg, enyniad ar yr yswigen, &c. Ac yn yr anhwylderau hyn y mae Doan's Backache Kidney pills mor effeithiol, canys gwellhant yr achos, yr elwlod gweiniaid. Os oes genych y fath arwyddion digamsynio! o anhwylderali ar yr elwlod a'r yswigen a phoen yn y cefn, anrhefn ar y dwr, grafel, dropsi, lum- bago neu grvdcymalau, parhewch gyda Doan's Backache Kidney Pills hyd nes bo pob argoel o'r afiechyd ar yr elwlod wedi cilio. Mae Doan's Pills yn cyn- orthwyo'r gyfundrefn ddyfriol fel y mae meddyginiaeth ryddhaol yn cyn- orthwyo'r elwlod. Pris 2s. gc. bocs, chwe' bocs am 13s. gc.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells! Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn cyivr am Doan's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mr. Jones.

i Dinas y Meirwon

Dinas y Meirwon. ANGLADDAU YN QUEBEC. Ddydd lau diweddaf yn Quebec cleddid liawer o'r cyrff a gafwyd ar ol suddiad yr Empress of Ireland," ac yr oedd torfeydd mawrion yn y gwas- anaethau angladdol gynhelid yn eglwysi cadeiriol y Pabyddion a'r Protestaniaid. Yr oedd yr eirch yn y ddwy eglwys wedi eu gorchuddio bron yn llwyr gan flodeu. Yr oedd Capten Kendall ac amryw o'r swyddogion a'r criw wared- wyd yn bresenol, a nodweddid y gwas- anaethau gan ddwyster mawr. Ni phregethwyd yn Eglwys y Pab- yddion, ond yn yr Eglwys Brotestanaidd traddododd Dr. Williams, y deon gwledig, anerchiad byr, a thalodd deyrnged uchel i'r ysbryd rhagorol a'r gwroldeb mawr ddangoswyd yn y trychineb ofnadwy.

Llosgi Eglwys HenafolI

Llosgi Eglwys Henafol. I DIM OND Y CLOCHDY'N AROS. Cafodd un o'r eglwysydd hyoaf yn y wlad-Eglwys Breadsall, ger Derby, ei llosgi i'r Ilawr nos Wener diweddaf, ac nid oes ond y clochdy'n unig yn aros. Bernir mai'r suffragettes sy'n euog o'r weithred anfad hon eto. Caf- odd hen Feibi "cadwynog oedd yn yr eglwys ei ddinystrio, ond digwyddai tod y cofrestr, yn yr hwn y cedwid cof- nodion mor bell yn ol a 1573, ynghadw yn ddiogel yn y rheithordy. Gwas fferm welodd y tan gyntaf, a dywed rhai o'r pentrefwyr y clywsont amryw ffrwydriadau. Beth amser yn ol ceis- iodd rhai o bleidwyr y saffragettes gynal cyfarfod yn y pentref, ond torwyd y cyfarfod i fynu gan nifer o fechgyn y lie, a thybir y rhoed yr egtwys ar dan i ddiaram hyny.

I Y Suffragettes yn Nghric cieth I

Y Suffragettes yn Nghric- cieth. MALURIO FFENESTRI. Pan oedd Mr. Lloyd George yn annerch y cyfartod yn yr awvr agored yn Nghriccieth ddydd Mawrth, a'r heddgeidwaid yn brysur yn cad w trefn ?. y suffragettes aflonyddent ar y cy -teth d%y ddynes d wy'r brif I h,ol a ffenestri'r siùpau hefo morthwy)??????' '-siopauhefo otj.. Yr oeddynt "-ecil malurio dtx- y ?ir liu,)raiii "IJ cynw\'s ffenestri'r anandy. y ?thyrd?"? ?"estn'r s'?P? mwyat yn y lie, pan y ?? ??y" "?'Y' ac y'u cymerwyd i'r ddalf^J.uw,yd ,hwy, ( un o honvot yn bur ffyrmg, a °?? oedd g wraig y c?nstabt yn ei harcflJj wilio tarawodd hi yn ei mynwes. Aeth y si ar fed fod swyddfeydd y Mri. George a George wedi eu rhoi ar dan, a pharodd hyny gryn gyffro, ond caed allan mai anwiredd ydoedd. Dygwyd y ddwy ddynes i sefyll eu prawf yn Mhorthmadog ddydd Merche'. Eu henwau," meddynt, oedd Georgina Lloyd, a Phyllis North, o Birmingham. Yr oedd yr hon alwai ei hun yn Georgina Lloyd yn ymrwyfo yn enbyd yn y llys, a chyda thrafferth fawr y llwyddwyd i'w symud oddiyno tra y gwrandewid achos y lIall. Wedi ei symud dechreuodd y llall gythryblu drachefn, a cheisiodd ddianc o'r dystle, a bu raid i ddau heddwas ei dal yno drwy'r amser tra y gwrandewid ei hachos. J Yr oedd pump o gyhuddiadau yn eu herbyn, sef o dori ffenestr y Siop Newydd, gan wneud colled o 6p. 12s. ffenestri Stanley Stores, coiled o ¡6p. ffenestri Llys Caradog, y golled yn 4p. 19s. ffenestri'r Bee Hive, colled o 8p. 16s. a ffenestri Sheffield House, y golled yn yr achos hwn yn 20p. Syl- wodd Mr. W. George, yr hwn erlynai, nad oedd am ddwyn ymlaen ond y cyhuddiadau o barthed i Stanley Stores, Bee Hive, a Sheffied House. Pan roi y tystion eu tystiolaeth llefai y diffynyddion ar eu traws yn barhaus, a phan ddangoswyd y morthwyl gyda'r hwn yr honid y torodd un o honynt ffenestri, dywedai y deuai a morthwyl mwy y tro nesaf. Traddodwyd y ddwy i sefyll eu prawf yn Chwarter Sesivvn Caernarfon ar Gorffenaf 2il. --0--

I Boddi heb Ymgais iwI I Gwaredu

I Boddi heb Ymgais i'w I Gwaredu. Aeth dwy eneth ieuanc i ymblesera mewn bad ar y Dafwys yn nghwmni dau ddyn ieuanc o dramorwyr y dydd o'r blaen. Aeth bad arall ar eu traws gyda'r canlyniad i'r ddwy eneth gael eu taflu i'r afon. Ni wnaeth y ddau ddyn oedd gyda hwy unrhyw ymdrech i'w gwaredu, ond llwyddodd dyn ieuanc oedd gyda bad arall i waredu un o hon- ynt. Bu foddi'r eneth arall. Yn y j trengholiad ar ei chorf! dywedai y ?n,n? er fod y ddau ddyn ieuanc wedi ym. ddwyn fel cywardiaid, a'i bod yn debyg fod aroynt ormod o ofn gwlychu eu dillad i geisio gwaredu'r eneth druan. --0--

IY Gwr 11 Parchedig Is yn I Llundain I

I Y Gwr 11 Parchedig Is yn Llundain. I Yn How Street, cyhuddwyd dyn a alwai ei hun yn Parch. John Henry Conland, o ymddwyn yn ddifriol ar yr heol yn Llundain. Yn ol fel y dywedai heddwas, safodd y carcharor ar ganol un o heolydd bwysicaf Llundain a daliodd ei law i fynu gan alal y drafnidiaeth. Wedi hyny rhoes ei fraich am was, geneth a thynodd ei het i foneddiges a boneddwr ac aeth i siarad gyda hwy. Aeth i ganol yr heol drachetn a stopiodd y drafnidiaeth. Dywedodd y carcharor y deuai o Ghent, Belgium, a'i fod yn gyfeillgar iawn a'r consul yno. Yr oil allaf ddweyd, fy aowyl fanwr," meddai, yw nas gallaf, a bod yn onest a'm henaid fy hun, ddeall y mater, ac y mae'n ddrwg gsnyf. Yr wyf yn eich sicrhau y byddwch yn falch o honof yn tuan. Mae rhai o'r barnwyr goreu yn gyfeillion mawr i mi gartref." Wrth ei rwymo i ddod i tynu i gael dyfarniad pe y gelwid arno, dywedai y barnwr mai y ddiod oedd yr achos o'r cwbl, ac os y deuai yno drachefn na | ddangosid unrhyw drugaredd ato. j --0--

IMarwr Cadfridog Lloyd j Mostyn

Marw'r Cadfridog Lloyd- j Mostyn. Caed y CatJfridog Syr Savage Lloyd- Mostyn, Marchwiel, Gwrecsam, yn farw yn y haddon yn Coleorton Hall, Swydd Leicester, ddydd Mawrth diweddaf. Efe oedd trydydd mab yr ail Arglwydd Mostyn, a bu iddo yrfa filwrol nodedig. Ymunodd a'r fyddin drigain ac un (mlynedd yn ol, a gwasanaethai gyda'r Gatrawd Gymrelg yn rhyfel y Crimea. Cymerodd ran hetyd yn rhyddhad Lucknow adeg y gvvrthryfel yn India, ac enwogodd ei hun gyda'r Fyddin Gymreig yn Asbanti yn 1874. Cladd- j wyd ef ddydd Gwener diweddaf yn Eglwys Marchwiel. j

Deugain o Gychod wedi Colli

Deugain o Gychod wedi Colli. Hysbysir fed deugain o gychod pys- gota wedi colli yn ystod tymestl drom ger glannau New Brunswick nos Wen- er diweddaf. Ofnir fod yn agos i haner cant o bysgotwyr wedi trengu. Y mae wyth o gyrff wedi dod i'r Ian yn barod. Cododd y dymestl yn sydyn iawn, a chyda'r fath lym nes y cafodd liawer o'r cychod eu trci wynrb yn isaf mewn eiliad.

Tori i mewn i Balas Buckingham

Tori i mewn i Balas Buck- ingham. CYMERYD DYN I'R DDALFA. Yn gynar iawn fore Sul cymerwyd dyn ieuanc alwai ei bun yn Harry Pike i'r ddalfa yn un o'r rhodfeydd sy'n arwain i ystafelloedd Palas Bucking- ham. Llwyddodd i ddringo i'r lie, fel yr ymddengys, a chyda beiddgarwch digymar aeth drwy ffenestr ac i mewn i adeiladau'r Palas. Bernir nad oedd yn gwybod digon am y lie, a'i fod wedi colli ei ffordd nes cael ei hun yn agos i ystafelloedd y gwasanaethyddion. Pe bae wedi troi i gyfeiriad gwahanol yn un lie ar ei Iwybr huasai wedi mynd Frerft.i ystafell breifat ei Mawrhydi y Pan agtw oedd, meddai, (^firws^un o'r ystafell- y Frenhines, ac erfyffr un o weision gan ddweyd ei fod wedi"* -ei bardwn yr ystafell. Ond amheuodd -,vmeryd ac aeth ar ei ol, ac erbyn hyny yr c ef yr heddgeidwaid ar ei warthat a dal- iwyd ef. Ddydd Llun dygwyd Pike o flaen y llys yn Bow Street. Tystiwyd gan Mr. James Copple, yr hwn wasanaethai ar y Frenhines, fel y canfu y carcharor o fewn i'r Palas, ac fel yr aeth ar ei ol ac y'i daliwyd. Dywedodd Pike nad oedd ganddo unrhyw fwriad drwg. Yr oedd wedi bod yn llymeitian drwy y prydnawn, ac wedi hyny aeth am dro i gyfeiriad Palas Buckingham. Wedi dringo dros y mur canfu ffenestr yn agored ac aeth i mewn drwyddi. Ceisiodd agor amryw ddrys- au ond yr oeddynt wedi eu cloi. Cafodd fod un ystafell yn agored ac aeth i mewn iddi. Troes y goleuni trydanol yno a rhoes got oedd yno am dano, a cjpymerodd gydag ef ddilladau eraill. Wedi hyny aeth i ystafell arall lle:r oedd dwy foneddiges yn eu gweiyau. Ymddangosai y rhai hyny yn ddychryn- edig, a gotynasant iddo beth oedd arno eisieu Erfyniodd yntau eu maddeuant gan ddweyd ei fod wedi camgymeryd yr ystafell Y na aeth allan oddiyno, ac aeth i mewn i'r ystafell lle'r oedd Mr. Copple. Gwelodd ddyn yno yn y gwely yr hwn ofynodd iddo beth oedd arno eisieu, a gwelodd et yn dod o'i wely. Yna rhedodd am y grisiau, ac i lawr i'r gwaelod. Wedi hyny rhoddodd ei hun i fyny i'r dyn oedd wedi ei ddilyn. Tystiwyd gan yr Arolygydd Tappen- den ei fod wedi gwneud ymchwiliadau ac wedi cael allan fod tystiolaeth y car- charor yn gywir. Yr oedd yn gwasan- aethu mewn He yn Pimlico, a gair da iddo gan ei feistriaid. Yr oedd wedi cael profedigaelhau mawrion, ac wedi mynd i yfed. Gofynodd yr ynad i'r carcharor a oedd ganddo rywbeth pellach i'w ddweyd. Dywedodd yntau ei fod wedi clywed y methodd y suffragettes a mynd i mewn i'r Palas, a'i fod yntau wedi meddwl tybed a oedd yn bosibl mynd i mewn. Yna gohiriwyd yr achos am wythnos.

Cyngor Mrs Lloyd George i Famau

Cyngor Mrs. Lloyd George i Famau. Yn festri capel Rhostryfan brydnawn Sadwrn cynhaliwyd arddangosfa baban- od. Pwvsid pob un o honynt gan Dr. Parry E> i wards, swyddog meddygol Arfon, ac wedi hyny dygid hwy i'r capel lie yr oedd torf fawr wedi ymgynull i weld y gwobrwyo. Yr oedd y gystadieuaeth wedi cael ei threfnu gan Gymdeithas Famaethol Llanwnda, ac yr oedd Mrs Lloyd George, ynghyda Miss Olwen Lloyd George, wedi dod yno i agor y gweith- rediadau. Cafvvyd anerchiad dyddorol at tagu plant gan Mrs Lloyd George. Condemniai yn ddiarbed waith rhai mamau yn rhoi y dummy i'r plant t'w sugno. "Da chwi," meddai, "peid- i wch a gadael i'ch plant eu cael nhw." Soniodd hefyd am yr amser y magai hi ei mab hynaf. Ceisiai'r fydwraig gan- ddi gymeryd bara a chwrw, ac yr oedd mewn tipyn o benbleth am na chydsyn- iai hithau. Dywedais fod yn well genyf lefrith, meddai Mrs Lloyd George "ond yr oedd hi yn ofni nas gallwn fagu'r babi heb gymeryd bara a chwrw, ond megais hwnw a phedwar arall heb alcohol. o

Y Merched Cythrvblus

Y Merched Cythrvblus. Ymddengys y bu'r suffragettes mil- wriaethus yn brysur iawn yr wythnos ddiweddaf gyda'u hystranciau ynfyd. Yn Belfast aeth un o honynt i swyddfa golygydd newyddiadur i brotestio yn etbyn erthygl oedd wedi ymddangos yn y papur. Tarawodd y golygydd nes oedd i lawr a chiciodd ef. Yn yr- un lie ceisiodd rhai o honynt roi ty ar dau. Cafodd meddyg un o garcharau Llundain ei anafu'n dost gan ddwy suffragette. Ymosodasant aino hefo chwip pan oedd ar y ffordd i'r carchar. Aeth rhai o honynt hefyd i arlunfa en- wog Dore gan anurddo rhai o'r darlun- iau hardd yn y lie. o

Ysbeilio Bachgen ar Ffordd Llanystumdwy

Ysbeilio Bachgen ar Ffordd Llanystumdwy. Brydnawn Sadwrn ymosododd dyn ar fachgen ieuanc o'r Henry Roberts, Tai'r Efail, ar ffordd Llanystumdwy, yn agos i Nantglyn. Cymerodd ei oriawr oddiarno, a churodd ef. Crwydryn, yn ol pob tebyg, oedd yr ymosodydd, a bu'r heddgeidwaid ac eraill yn chwilio'r gymdogaeth am ddyn yn cyfateb i'r desgrifiad roddwyd o hono, ond nid ydys wedi cymeryd neb i'r ddalfa hyd ya hyn.