Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BùltEU SAi "WRN y fan bollaf Fob arcbeoiou a tbaliadan aru Y I UDGOBN i'w hsnfon i'r OOBUCHWYLIWR, 74, Hih Street, P*i:heii Pob gohebiaeth i'w cyfeirio- YB UDGORN OFFICE, PTVLLHBLI Bydd yn dda genyio dderbyn gohel>- iaetban oddiwrtb ohebwyr ar ftNion Henl o ddyddordeb cyboeddue.

NODION A HANESION

NODION A HANESION. Priodi mewn Du. Mewn gwisgoedd duoo y prioda gwyryfon Belgium tra y parhao'r gelyn i oresgyn eu gvvlad. Iaith Aflan, a'r Penyd. Yn Nghroesoswallt y dydd o'r biacn cafodd gwraig weddw o'n enw Jane Davies ei dirwyo i bedwar giui am fod yo anweddus ei hiaith. Nai Mr. J. Chamberlain wedi ei Glwyfo. Y mae y Second Lieut. John Cham- berlain, o'r South Wales Borderers, yr hwn sydd wedi ei glwyfo ar faes y gad, yn fab i Mr Arthur Chamberlain, ac yn uai i'r diweddar Mr J. Chamberlain. Marw'n Gant a Pliump. Bu Mrs Edmond, boneddiges adna- byddus a drigai yn Nghaerdydd, tarw ddechreu'r wythnos ddiweddaf a hi wedi cyraedd ei chant a phum' mlwydd oed. Brodor o'r Alban ydoedd. Pan yr ymwelodd y Brenin a Chaerdydd arbosodd wrth breswyl Mrs Edmond, a bu'n ysgwyd llaw ac yn ymddiddan a hi. Pvy Roes y Tren ar Dan ? Pan gyrhaeddodd y tren o Lundain i Chelford ddydd Mercher diweddat can- tuwyd fod un ran ohono ar dan. Tyn- wyd y cerbydau oedd yn llosgi i flfwrdd a diffoddwyd y fflamau. Yr oedd nwyddau gwerthtawr yn perthyn i'r fyddin yn y tren, ac y mae yn ddirgel- wch mawr sut y dechreuodd y tan Lied gredir fod rbywun wedi ei gyneu yn fwriadol. < Y Serbiaid a Mr. Lloyd George. Pan yn darlithio yn Llundain y dydd o'r blaen dywedai Miss Annie Chris- titch, boneddiges o Serbia, y canfu hi filwyr a phobl ei gwlad yn ymwynfydu uwchben cyfieithiadau o areithiau Mr Lloyd George. Yn wir, credai llawer o'r trigolion yr hanai y Canghellor o waed Serfiaidd Yr oedd maer un tret fechan wedi gofyn iddi ddweyd wrth Mr Lloyd George y carent e: weled yno ryw ddydd, ac y cai y croeso gore gafodd erioed. Marw'r Parcli. 'Josiah Jones, Machynlleth. Yr wythoos ddiweddaf bu farw'r gweinidog adnabyddus uchod, efe oedd y gweinidog hynat oddigerth un a berthyoai i'r cyfundeb Annibynol*. Yr oedd yn bedair a phedwar ugain mlwydd oed, a bu'n bugeilio eglwys y Graig, Machynlleth, am haner cant a chwech o flynyddau. Yr oedd yn lienor da, ac ysgrifenodd lawer yn ystod ei oes faith i gvlchgronau ei en wad, ac eraill. Yr oedd ei wraig yn wyres i Williams Pantycelyn. Ei Lie i'r laith Gymraeg. Caniateir yn awr i'r milwyr Cymreig ysgrifenu eu llythyrau o taes y frwydr yn eu hiaith eu hun. Ni chaniateid hyny ar y dechreu, a galwyd sylw Arelwydd K-tchener at y mater gyda'r Cfitiiyniad i'r anhegvvch gel ei symud. Yr ai.hawster oedd, meddd, cael digon o caters yn deall yr iaith Gymraeg, gan y byddai raid cael un gyda phob cat- 'Hwd os y p.Ttbynai iddi Gymro yn ysgrifenu yn ei iaith ei hun. Ond ym- ddengys y Hwyddwyd i wneud i fynu'r diffyg o'r diwedd. Tan Mawr yn Aberdyfi. Ddydd lau gwnaed galanas mawr gan dAn ar Neuadd Aberdyfi. Gwelwyd fed yr adeilad eang yn dechreu mynd ar dan gan ddyn ieliatic a'i heibio at ei waith yn y bore a rhybuddiodd y pres- wyiwyr. Daeth br'gà dan Dolgellau yno'n fuan a th,oes. trl,olion Aberdyfi allaa yo llu mawr i geisio diffodd fflamau, ond er eu gwaethaf cafoctd y prif adeilad ei losgi at y mnriau moel, a gwnaed coiled o rai miloedd o bunau. ond yn tfodus m choHoi'd neb ei fywyd. Yr oedd mintai o ymweiwyr o'r Amerig wedi ystorio eu pethau yn y lie a choll- asant yr oil a teddent. Adeiladwyd y neuadd ar y cyiitaf yn westy hardd ar t.ost o bymtheng mi; o bunau bu wedi hyny yu yol, ac ar ol bod yn wag am liymor cymerwyd y He gan Gyngor Gwledig Towyn a Dyti at wahanol am. canion. Yr oedd yno neuadd gynull cang, ystafell i'r Cyngor, ystorfeydd, I gweithdni, swyddtejdd a thai anedd. I

LLWYDD Y CYNGRHEIRIAID YN FLANDERS BRWYDRO FFYRNIG

LLWYDD Y CYNGRHEIRIAID YN FLANDERS. BRWYDRO FFYRNIG. LLONG RYFEL FFRENGIG WEDI EI SUDDO. SUDDO DAU FAD GERMANAIDD GAN FADAU PRYDAIN. UN BAD PRYDEINIG WEDI COLLI. 0 DDYDD I DDYDD. Yr oedd yn amlwg oddiwrth y man- ylion gyhoedduyd ddydd Mercher fod y Cyngrheiriaid wedi cymeryd yr ymos- odol yn Flanders, a'u bod yn gwneud cynydd boddhaol. Aeth ein milwyr yn mlaen yn agos i St. Julien, ac ail gym- erwyd Hetas gan y Ffrancod. Daeth Lizerne, yr hwn le gollwyd am ysbaid, eilwaith i law y Cyngrheiriaid. Heblaw dinystrio cyfrwng y rheilffordd yn Cour- trai ddydd Llun. ymddengys i'r ehedwyr Prydeinig hefyd wneud galanas mawr ar-yr holl orsafau yn y gymydogaeth, gyda'r bwriad o ddinystrio moddion cysylltiadau y gelyn. Addefai y Germaniaid eu bod wedi gadael Lizerne, a bod ein cyflegrau wedi dinystrio'r He. Hooent fodd bynag eu bod yn dal y bont ar y chwith i'r lie hwnw. Yr oedd ein Cyngrheiriaid yn gwneud gwaith Ja hetyd yh y rhanau ereill o'r cadfaes maith. Adfeddianwyd bryniau Hartmannsweilerkopf gan y Ffrancodr a symudasant ymlaen ar y llechweddau dwyreiniol. Trechasant hefyd bob ymosodiad yn nghymydogaeth Les Es- parges. Dywedai gohebydd fod y brwydro oedd yn mynd ymlaen ar y pryd yn Flanders y frwydr fwyat gyda chyfleg- rau tu yn y byd erioed. Yr oedd adroddiad y SwydJfa Ryfel hefyd yn foddhaot iawn ynglyn a'r gweithredoedd yn y Dardanelles. Yr oedd ein milwyr wedi glanio mewn amryw tanau ac wedi cadarnhau eu safleoedd. Yr oedd y Ffrancod, meddid, wedi cymeryd pum' cant o garchaforion. Wele gnewyllun yr hysbysion gy- hoeddwyd ddydd lau :—Nid oes dim cyfnewidiad yn y safle i'r gogledd o Ypres, ond y mae y Cyngrheiriaid yn dal y tir adfeddianwvd -vricidynt -yn ystod y tri diwrnod diweddaf Edrydd, Syr John French fod atalfa hvyr wedi ei rhoi ar ymosodiad y Germaniaid. Pan yn wynebu ein gwrth-ymosodiadau ar lechwedd Ypres detnyddiodd y gelyn nwyon gwenwynig a ffrwyd-belenau wedi eu gwneuthur yn groes i ddeddfau Cyngrair Hague. Gwedir gan y Ger- maniaid fod y Ffrancod « edi nieddianu Hetsas. Yn Champagne, yn rhanbarth Beausejour, cymerodd y gelyn feddiant o tua thri chan' llath o ffosydd blaenaf y Ffrancod, ond llwytidwyd yn rhanol i'w henill yn of. Hona'r Germaniaid nad yw y Ffrancod wedi ail feddianu Hartniannsweileikopf, ond y mae'r hys- bysion Ffrengig yn mynegi na wnaeth y gelyn ymosodiad ar y lie, oddigerth ei dan-be!enu. Y mae ehedwr Ffrengig wedi gwneud cryn alanas ar weithfa drylliau Mauser yn Obendorf. Y mae y Llynges Ffrengig wedi cael coiled drom drwy i'w Hong ryfel Leon Gambetta gael ei suddo gyda llawer o'r criw- oddeutu chwe' chanty Yr oedd y Hong o fewn ugain milltir i fanau ltali pan y tarawyd hi gyda torpedo yn ystod y nos gan fad tanforawl Awstriaidd, a suddodd ymhen deng munud. Daeth llongau Italaidd i'r fan yn tuan, ond ni lwyddwyd i waredu ond 136. Bu foudi'r holl swyddogion. 0 barthed i'r gweithrediadau yn y Dardanelles nivnegid fod ein milwyr wedi ymsefydlu ar Benrhyn Gallipoli o'r gogledd-ddwvrain o Eski-Hissarlik hyd i enau'r afon yr ochr arall i'r pen- rhyn. Trechasant bob ymosodiad wnaed arnynt yn Sari Bahr, ac yr oeddyot yn symud ymlaen yn gyson. Yr oedd y Tyrciaid wedi gwneud darpariadau hel- aeth i rwystro i'r milwyr lanio. Yr oeddynt wedi go sod maglau gwifrau o dan y mor yn ogystal ag ar y tir, ac wedi tori pyllau dyfnion a'u gwaelodion yn llawn piceii d. Ddydd Gwener cyhoeddwyd adrodd- iad maith gan ohebydd ynglyn a'r ^weithrediadriu yn y Dardanelles, a rhoddai ddes^riiiad byw o'r tan-belenu :aa y llongau L yngiheiriol ar y caerau. Dechieuwyd )r ymosodiad ddydd Sul :an y Fyddin a'r Llynges, gynau y Hongau i ddchreu yn tanio fel ag i roi evfle i'r mi'wyr lanio, ac i ddinystrio am yr ail d'o y caerau ar y fynedfd i'r Culfor. cui hyny aeth amrai o'r II ngau ymhellach i fynu'r Culfor gan dClOio ar y caerau nesaf i mewn. Cyn- yddai y tan-bele:iu fel yr ai'r amser heibio, ac erb) I. JJydd Liun yr oedd yr olygfa yn olnauwy. Mor bell ag y gnHnrr gohebydd tarnu o'r '!der yr oedd tan y !!ongau yn -ffeithio iawn. j Nid atebodd y Tyrciaid hyd yn hwyr nos Lun. Nid oedd dim pwysig iawn yn cael ei hysbysu yn yr adroddiadau Ffrengig ] am y brwydro yn Flanders. Yr oedd y Ffrancod wedi dal y tir ail feddianwyd I ganddynt yn ystod y dyddiau cynt, ac jyn parhau i wneud cynydd mewn cyd- iweithrediad a'r Belgiaid. Yn ystod nos iFercher ymosododd y Germaniaid ar y Belgiaid i'r gogledd o Ypres, ond trech- wyd hwy yn rhwydd. Yr oedd ehedwyr Germanaidd wedi igollwng pelenau ffrwydrol ar dref Epcr- j nay, yr hon sy'n llawn o sefydliadau meddygol. Yn ei adroddiad am ail frwydr Ypres dywedai y L'ygad-Dyst" fod holl Isiawns y Germaniaid i lwyddo yn di- bynu ar y nwyon gwenwynig ddefnydd- jiant, Yr oedd yn amlwg eu bod wedi bwriadu a threfnu'r ymosodiad er's cryn amser. Nid oedd dim pwysig chwaith yn cael ei hysbysu o'r cadfaes yn y dwyrain. Parhai yr Awstriaid i wneud ymosod- iadau yr. y Carpathians, yn nghymdog- aeth Bwlch Uzsok, ac ar y bryniau i'r gogledd-orilewin o bentren Labnia a Butla, end caent eu trechu gan y Rws- iaid. y ihai vvnaent ddinystr mawr ar y I gelyn gyda'r maglau gwifrau a thrwy ruthriadau gy 'a'r bidog. Ddydd Sadwrn cyhoeddwyd manylion o barthed i'r brwydro yn ystod yr wyth- nos yn y Dardanelles. Desgrifir y gwrthsafiad ystyfnig wneid gan y Tyrc- iaid pan laniai ein milwyr. Yr oedd yr anhawsterau i lanio yn y chweched Iman, yn agos i Sedd-al-Bahr, yn neill- i duol fawr, ac ni sicrhawyd y safle hyd jdranoeth pan y gwnaed yrriosodiad ffyrnig ar y ffrynt ac y meddianwyd y safle. Bu y milwyr o Awstralia a New Zealand, y rhai laniasant yn Sari Bair, i'r gogledd o Gaba Yepe, mewn brwydr barhaus gyda'r gelyn, yr hwn ymosodai beunydd arnynt. Yn gynar fore Mawrth daeth y gelyn ag adgyfnerthion i fynu, ;i wneud rhuthr yn cael ei ragflaenu gan jdAn-belenu trwm gyda'r magnelau. Methiant fu yr ymosodiad hwn fel y rhai a'i rhagflaenoda, ac yna cymerodd miiwyr y Trefedigaelhau yr ymosodol gan yru y gelyn o'u blaen. Yn Kum Kale, ttechodd y Ffrancod bedwar ymosodiad grymus gan gym- leryd pum' cant yn garcharorion Hysbysid fod y colledion yn y brwyd- rau hyn yn drwm iawn, ond ni roddid y ffigyrau. Ddydd lau a dydd Gwener gorflfwys- odd y rntlwyr Cyngrheiriol gan gadarn- hau eu safleoedd, gan yru yn ol yn y cyfamser ymoscdiadau parhaus y gelyn. Dyddorol yw sylwi oddiwrth yr ad- 1 roddiad- fel yr ofnir y llong fawr Bryd- einig, y Queen Elizabeth, gan longau'r gelyn. Ceisiudd llyn;;es Twrci ddod i fynu'r Culfor amryw weithiau, ond en- cilient ar ffrwst bob tro y bygythid hwy gan y Queen Elizabeth. Ddydd Mawrth dalil,d..1 y long ryfel fawr gjudlong fawr o eidJo'r gelyn a suddodd hi gyda'r drydydd eryJ Mynegid o Paris fed y Ffrancod wedi enill tir i'r gogledd o Ypres ar hyd yr holl ffrynt. Cymerasant ddwy linell o i ffosydj, gan gymeryc llawer o garchar- orion Hysbysai Syr John French yn ei ad- roddiad nad oedd gyfnewidiad yn y sefyllfa ar y ffrynt Prydeinig, ond fod jtanbelenu trwm gar, y cyflegrau yn i rhanbarth Ypres. Yr oedd ehedlong F flengig wedi goll- wng pelenau ffrwydrol ar y rheilffordd i shedian y llongau awyr Germanaidd yn nghvmdogaeth Vafencieanes. Bu agerlongau Germanaidd drachefn ar ymweliad a glanan dwyreiniol Lloegr Gwelwyd un yn ein e uwchben South- wold, ar lanau St. k, ac ymlidiwyd hi gan ddwy ehedlong Brydeinig. Bu awyrlongau eraill uwchben Ipswich a Bury St. Edmunds yn gynar fore Gwen- er, a gollyngwyd peleni ffrwydrol i lawr I ganddynt, a gwnaethant golled o tua dwy fit o bunau. Hysbyswyd fod badau tanforol y gelyn wedi bod wrthi drachefn. Sudd- wyd y llong lo Mobile, o West Hartle- pool, a'r cwch pysgota Lilydale, yn perthyn i North Shields. Suddwyd y illong 10 i'r gorllewin o Ynys Lewis, ag (ynddi lwyth o 10 o Dde Cymru. Yn ngenau y Tyne y suddvvyd y cwch pysgota. Oddeutu'r Sul llwyddodd y badau. gelynol drachefn i suddo taiir u longau masnachol, set y Svorono (4,700 o dun- elli), tuallan i lanau Kerry yr Edale (3,100 o dunelli) tuallan i Scilly. Ager- long Americanaidd oedd yr olaf enwyd. Yr oedd yn llwythog o naphtha o Port Arthur i Rouen. Cariai 36 o griw, a chafodd 33 eu gwaredu. Neidiodd dau dros y bwrdd a buont foddi, a bu tarw'r capten o ddiffyg y galon. Gwaredwyd criw yr Edale a'r Svorono. Llong lo yn perthyn i Rwsia oedd hi. Dyma oedd yr hysbysion gyrhaedd- odd o Pari s ddydd Sul Nid oes dim newydd i'w gyhoeddi o Belgium. Yn yr Argonne cafodd y ddau ym- osodiad Germanaidd ar noswaith Ebrill y 30ain eu trechu'n rhwydd. Yn Bois Le Petre yr ydym wedi meddianu amryw ffosydd. Cymerwyd 130 o garcharorion, ac wedi meddianu ur. gwn peirianol. Dywed un sydd wedi dianc o'r fyddin Gern.anaidd fod peirianwyr Krupp er's agos i ddau fis yn gosod i fyny wn mawr yn nghymdogaeth Dixmude, yr hwn sydd yn gallu taflu ergyd bellder mawr o ffordd. Bernir mai hwn yw't gwn fu yn tanbelenu Dunkirk. Gan nad oes ond naw o belenau wedi disgyn yn y dref credir fod y fagnel wedi ei ddytetha gan y tan, neu gan belenau o ehedlongau Ffrengig. Ddoe, buom yn tanbelenu ar y caerau ar y ffrynt dwyreiniol i wersyll Metz. Nos Sul gwnaed yn hysbys gan y Morlys nifer a natur ein colledion yn y Dardanelles, rhwng Ebrill 25ain a'r 30am, gan roi y ffigyrau a ganlyn :— Wedi eu lladd, 26oddynion clwyfwyd yn beryglus, 4 clwyfwyd yn dditrifo!, 17; clwyfwyd yn ysgafn, 31; ar goll, i. Yn yr ysgarmes yn Nieuport ar Ebrill 24 cafodd tri dyn eu clwyfo yn dditrifol. Hysbysir fod y llongau Cyngrheiriol yn parhau i danbelenu ar y caerau Tyrcaidd, a bod y milwyr ar y Ian yn symud ymlaen. GWRHYDRI MILWYR CANADA. YN WERS PR HOLL YMEROD- 1. RAETH. Y mae swyddog wasanaethai gyda milwyr Canada wedi anfon adroddiad maith am y rhan gymerodd ei gymrod- yr yn mrwydr Ypres, pan y llwyddas- ant i achub y sefyllta," yn ot fel y dywedai'r Maes Lywydd, ac i enill yn ol y magnelau gollwyd. .Dywedai fod y Germaniaid yn rhifo llawer mwy na'r Canadiaid. Wynebid hwy gan o leiaf bedwar adran o'r gelyn. Bu raid i'r Canadiaid hefyd, oherwydd fod y Ffrancod yn gorfod encilio o flaen y nwyon gwenwynig, yrnestyn eu llinell. o bum mil o hjtheni i naw mil. Ond ymladdasant fel dywalgwn," a dywed yr adroddiad fod eu gwrhydri yn wers i'r Ymerodraeth. Rhoed iddynt y tasg n,wyaf anodd i'w gyflawni, ac ni thybiai yr un o hon- ynt y deuent yn ol yn tyw o'r ymosod- iad. Ond rhuthrasant ymlaen i wyneb y tan, ac nid oedd elyn yn fyw ar y rhan hwnw o'r maes wedi'r rhuthr. CAMDRIN CARCHARORION PRYDEINIG. CREULONDEB Y GERMANIAID. Yn Nhy'r Cyffredin ddechreu'r wyth- nos o'r blaen rhoed manylion am y modd creulon yr ymddygir at garchar- orion Prydeinig yn Ger'nani. Yr oedd rhai o'r ffeithiau mor arswyd- us fel y mae'n anodd credu tod ceaedl a eilw ei hun yn genedl wareiddiedig yn gallu vmostwng i gyflawni eu bath. Ac meddai y Prif Weinidog, wrth sylwi ar y dadleniadau, Ni bydd ini byth anghofio y creulonderau gwarad- wyddus y mae Germani yu euog o hon- ynt. Y mae yn un o'r ysmotiau duaf yn hanes Germani. Pan ddeuwn i der- fyn y rhyfel, cyfrifwn yn ddyledswydd arnom fynnu'r ad-daliad eithaf oddiar y rhai sydd euog." Gwnaeth Arglwydd Kitchener s yI- wadau i'r un perwyl yn Nhy'r Arglwyddi Yr oedd Germani wedi s'taenio ei han- rhydedd am byth. Nid oedd ond bar- bareiddiwch y Derfisiaid i'w gyffelybu i'r hyn a wnaeth.

I BRWYDR AR Y MOR

BRWYDR AR Y MOR. SUDDO DAU FAD GERMANAIDD. j HEN LONG BRYDEINIG WEDI EI SUDDO. Gwnaed a ganlyn yn hysbys gan y Morlys ddydd Sul Digwyddodd ysgarmesoedd bychain yn nghymdogaeth goleulonga Galloper a North Hinder. j Yn ystod y prydnawn cafodd y bad dioystriol Prydeinig, y Recruit, ei suddo gan fad tanforawl. Cafodd pedwar swyddog ac un ar hug-am o ddynion iu | g wal edu gan y eweh Daisy. i Oddeutu tri o'r gloch y prydnawn ymosodwyd yn ddirybudd ar y cwch Columbia gan ddau fad torpedo Ger- manaidd. Cafodd y Columbia ei daro gyda torpedo a'i suddo, ac ni wared- wyd ond un o'r morwyr. Aeth adran o fadau Prydeinig, sef y Laforey, y Leonidas, y Law ford, a'r Lark, ar ol badau'r gelyn, ac wedi eu hymlid am oddeutu awr suddasant y ddau. Ni wnaed unrhyw niwed na cholled i'r'badau Prydeinig. Cafddd dau swyddog Germanaidd a phedwar a deugain o'r criw eu gwaredu a'u cymeryd yn garcharorion rhyfel. Perthynai y Recruit i'r dosbarth C o fadau dinystriol, y rhai gwblhawyd oddeutu deunaw mlynedd yn ol. Gallai fod arno oddeutu trigain o swyddogion a chriw. Pedwar swyddog oedd arno yn ol y rhestr lyngesol, ac telly y mae'r oil wedi eu gwaredu. Oddeutu pym- theg o griw oedd ar y eweh Columbia. Ymddengys gan hyny y bu'r colledion Prydeinig oddeutu haner cant. Perthynai'r Latorey, Leonidas, Law- ford a'r Lark, i'r dosbarth "L" o fadau, a'r flwyddyn ddiweddaf y cawsant eu cwblhau. Y mae eu cyflymder ychydig dros naw milltir yr awr. Gyrir hwy gan olew yn unig. Y mae eu hartogaeth yn cyowys tri gwn 4 modfedd, a chariant gant o griw a swyddogion. Y mae y dosbarth hwn o fadau wedi amlygu.eu hunain mewn amrai )sgar- mesoedd yn Mor y Gogledd. Yr oedd yr ysgarmes ddiweddaf hon: yn digwydd rywle rhwng genau'r afon Dafwys a glanau isaf Holland. FEL Y TRECHODD Y CYMRO Y NWYON GWENWYNIG. Daeth nifer o glwyfedigion i Gaer- dydd yr wythnos ddiweddaf, ac yn eu mysg rai o'r Canadiaid dewr a enlllas- ant yn ol y magnelau oddiar y German- iaid yn Ypres. Dywedai un o honynt, Cymro o'r enw David Jones, fod y nwyon gwenwynig ddefnyddiai y Ger- maniaid yn gwneud galanas mawr ar tywydau. Gwelodd un ffos yn llawn o Algeriaid wedi eu Hadd gan y nwyon. Fel hen lowr yr oedd ef yn gwybod fod finegr yn betli da i wrthweithio eu heffaith. Gwlychodd ei gadach mewn finegr o botel pic1, a rhoes y cadach ar ei ffroenau, ac ni w naeth y nwyon ddim niwed iddo MILWR 0 BWLLHELI WEDI Eli LADD YN Y RHYFEL. 17mysg y milwyr o Canada laddwyd yn y frwydr gerth yn Ypres, ceir enw y Lieut. Ernest Owen, mab Mrs. Owen, Green Hill, South Beach, Pwllheli. Cafodd Lieut. Owen ei ddwyn i fynu yn Mhorthmadog a Phortbaethwy. Aeth trosodd i Ganada, ac yr oedd yn brisaer yno cyn ymuno a'r fyddin. Y mae ei frawd hefyd, Lieut. Elias Owen, yn y ffrynt gyda'r Royal Garrison Artillery. Peirianydd yw efe wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn y gwaith aur yn y Myn- yddoedd Creigiog pan glybu am y rhyfel a daeth gartref ar unwaith i ymrestru.

Y Gweithwyr Segur ar Rhyfel j

Y Gweithwyr Segur a'r Rhyfel. PRYDER V LLYNGESYDD JELLICOE. Gellir gweled cymaint effeithiai y segurdod ymysg gweithwyr Hey gwneir defnyddiau rhyfel, oddiwrth y llythyr anfonwyd gan y Llyngesydd Syr John i Jellicoe i'r Morlys. Y mae y Trysorlys wedi cyhoeddi rhan o'r Ilythyr, ac y mae i'r gerwyl a ganlyn 44 Yr wyf yn bryderus iawn ynghylch y sefyllfa yn y gweithfeydd ar lanau y Clyde a'r Tyne. Yr wyf wedi anfon bry"nges unwaith neu ddwy yn ddi- weddar yn ei gyleh. Gellwcb dybio fy mod yn mynd tuhwnt i gylch fy nyled- swyddau drwy wneud hyny, ond efteith- iolrwydd y llynges yn cael ei lesteirio gymaint fel y tybiaf ei bod yn ddyled- swydd Hrnaf bellebru. Heddyvv cyrhaeddodd swyddog, yr hwn sydd mewn sefyllfa gyfrifol, ac y mae ei adroddiad yn ddigalon iawn. Dywed fod y dynion ar y Clyde yn gwrthod gweithio o gwbl brydnawn Sadwrn, eu bod yn colli haner diwrnod ddydd Mercher bob wythnos, os nad diwrnod cyfan, ac yn gwefthio drwy ddydd Sul am y caent ddwbl dal am dano. Dywedai hefyd nad oeddynt yn gweithio mor ddiwyd ag y dylent pan gyda'u gwaith. 44 Y mae rhai rhanau perthynol i'm llynges yn cael eu hoedi yn ddirfawr gan y segurdod hwn, ac y mae yr ad- gyweiriadau yn cymeryd gymaint ddwy- waith o amser ag y dylent. 44Teimlaf y dylech wybod y ffeithiau, ac am hyny rhoddaf hwy ger eich bron. 1

Y DDIOD AR RHYFEL

Y DDIOD A'R RHYFEL. MODDION Y LLYWODXAETH I WELLA'R DRWG. Yn Nhy'r Cyffredin, ddydd lau, gwnaeth Mr Lloyd George yo hysbys fwriadau y Llvwodraeth i ymwneud a mawr ddrwg y ddiod feddwol yn ei pherthynas a'r rhyfel. Bu yn siarad am dros ddwy awr, a rhoes fanylion cywilyddus o effaith niweidiol y ddiod yr oedd wedi casglu'r ffeithiau yn fanwl, a chafodd ei araith ddylanwad mawr ar y Ty. Yr oedd pob Llywodraeth, meddai, wedi cael losgi ei hysedd wrth gyfTwrdd a'r pwnc hwn, ac amharod oedd pawb i ymdrin ag ef, a buasai et ei hun yn barod i gymeryd mesurau mwy eithafol pe cai rywbeth tebyg i gydsyniad cyffredinol. Ar ol y profiad a gafodd ynglyn a'r mater yr oedd yn barod iawn i ymrwymo i beidio cyffwrdd a'r ddiod yn wleidydd- ol mwy. Ar y gwaith wneid yn yr iardau llong- au yr oedd diogelwch ein glanau yn dibynu, a dangosodd drwy ystadegaeth glir a diamwys fod nifer fawr o'r gweith- wyr yn hollol ddidaro o'u cyfrifoldeb. O'r ochr arall ceid fod y gweithwyr mewn rhai dociau yn gwneud yn rhag- orol. Yn irociau Portsmouth, er eng- raifft, yr oriau cyffredin weithid mewn wythnos oedd 48, ond yr oedd 78 y cant o'r dynion yn gweithio 60 awr yr wythnos, a 37 y cant yn gweithio 70 awr. Mewn cyferbyniad i hyny difynodd o dabl wythnosol gweithfa arall, lie y gwneid badau tantorawl, ac y cyflogid ynddi 135 o ddynion. Ddydd Llun ni weithiodd ond 60 o'r dynion ddiwrnod llawn, ddydd Mawrth qa, ddydd Mer- cher 86, ddydd lau 77, ddydd Gwener 91, a ddydd Sadwrn 103. Mewn wythnos gyffredin yn amser heddwch yr oeddis yn gweithio am 7,155 o oriau, ond yn amser rhyfel nid oedd ond 5,533 o oriau gwaitb wedi eu cofnodi. Mewn iard arall, yn ystod saith wyth- nos o amser, collwyd o 32 i 37 y cant o amser bob wythnos. Dangosai tablau o ddeg ar hugain i ddeugain o weithfeydd fod 493 allan o bob mil yn gweithio Ilai na 45 o oriau yn yr wythnos mewn adeg ag yr oedd eu gwasanaeth o'r pwysigrwydd mwyaf i'r wlad. Mewn un weithfa, lie nad oedd nemor ddiin gwaith yn cael ei wneid ar y Sul, caniatawyd tri diwrnod o wyliau i'r dynion oddeutu'r Pasg. Ddydd Mawrth methodd 1,800 allan o 8,000 a dod yn 01 at eu gwaith y diwrnod nesaf yr oedd 3,000 wedi colli chwarter, a 1,670 wedi colli diwrnod llawn ddydd lau yr oedd 2,500 wedi colli chwarter, a 1,500 heb ddod at eu gwaith drwy'r dydd. Yr oedd pawb yn cytuno mai'r ddiod oedd y prif achos fod y dynion hyn yn colli eu gwaith, a bod yn rhaid i'r Llywodraeth gymeryd moddion i gyf- arfod a'r drwg. Bwriadai y Llywodraeth wneud hyny, ond nid drwy waharddiad, ond trwy osod tollatt ychwanegol a rheolaeth ar y fasnach. Dyma gynygion y Canghellor yn fyr Dybio r don o 14s. gc. y galwyn ar wirodydu yn eu llawn nerth. Caniatau gwerthu diodydd 35 y cant o dan eu llawn nerth yn lie 25 y cant fel yn bresenol. Codi'r tollau i gymaint bedair gwaith ar winoedd. Yr oedd'y tollau ar win- oedd i fynu i 30 y cant ar wirodydd yn eu llawn nerth, yr hyn gynwysai y rhan fwyaf o winoedd yfid yn y wlad hon, yn IS. 3c. y galwyn heb ei botelu, a 2s. 3c. wedi ei botelu ar winoedd serig (cham- pagne, Saumur, Moselle, &c.), 3s. gc. y galwyn, neu 7s. 6c. y dwsin o boteli. Dyma fydd y tollau newyddion Gwin yn ei lawn nerth, 5s. y galwyn heb ei botelu, a 9s. wedi ei botelu gwinoedd serig, 15s. y galwyn. Gyda golwg ar gwrw, i fyny i 7 y cant o wirod nerthol ni wneir gwahan- iaeth, ond rhwng 7 y cant ac 8 y cant bydd gordoll o 12s. y baril (4c. y gal- wyn) ac felly'n mlaen yn ol nerth y gwirod i fyny i 36s. y baril. o

Trychineb yn Nghaernarfon a

Trychineb yn Nghaernarfon a Bu digwyddiad trychinebus yn Nghaernarfon nos lau diweddaf. Caf- wyd John Graham, henwr trigain oed, yn farw yn ei dy oddeutu deg o'r gloch, a chymerwyd dynes o'r enw Mary Butters i'r ddalfa ynglyn a't' helynt. Dywedai merch Graham, yr hon sy'n byw yn y gymdogaeth, fod ei thad a Butters yn cweryla tua'r adeg nodwyd. Aeth swyddog i'r lie, ond yn gweled dim anarferol, tybiodd tod yr helynt drosodd. Ymhen ychydig funudau fodd bynag galwyd ef yno drachefn, ac yr oedd yno dorf wedi casglu. Aeth i'r ty, ac wedi cael goleu canfu Graham yn gorwedd ar lawr yn farw. Yr oedd darnau o lestri hyd y llawr ac olion gwaed hyd-ddynt. Ond nid oedd un- rhyw arwydd ar y corff fod v trancedig wedi ei gamdrin. Ymddengys oddiwrth y tystiolaethau yn y trengholiad gynhaliwyd ddydd Sadwrn mai y ddiod oedd yr achos o'r helynt. Tystiai y meddyg mai o afiechyd y galon y bu Graham farw ac na wnaed unrhyw niwed bwriadol iddo. Dywedai Mary Butters na wnaeth hi ddim ond ceisio arbed ei hun. Yr oedd Graham wedi ei chicio a'i churo, a phan syrth- iodd i lawr tybiodd mai meddw ydoedd. Pasiwyd rheithfarn mai marw'n ddam- weiniol wnaeth Graham, ac nad oedd unrbyw fai ar Mary Butters.