Teitl Casgliad: Udgorn

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 3 o 4 Nesaf Olaf
Full Screen
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

Dalier at yr Eisteddfod Fawr a Chenediaethol ar bob cyfrif, ond y peth pwysicat at gadw'r iaith Gymraeg yn fyw, a chael y to sy'n codi i ymgynefino a'n 116n a'n cerddoriaeth, ydyw Eisteddfodau Plant. "-Y Brython. CRONFA Er sicrhau COF-ADAIL i fechgyn Pwllheli a syrthiasant yn y Rhyfel. CYNHELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG Y PLANT YN Y NEUADD DREFOL, DYDD GWYL DEWI, Mawrth laf. Cystadleuaethau Corawl, Deuawdau, Unawdau, Penillion Telyn, Adroddiadau, Celfyddydwaith, &c., &c. Amryw Bartion yn Cystadlu ar y Ddrama a'r Gan Ystum (Action Song). Liu mawr o Ymgeiswyr yn mhob adran. Bydd Prelim ar yr Adrodd yn Festri y Tabernacl am 1 o'r gloch pryd- nawn dydd yr Eistedefod, ac ar y datganu am 2 o'r gloch. Yr oil o'r cynyrchion i fod yn llaw eu priodol Feirniaid erbyn Chwefror i6eg, ac enwau yr Ymgeiswyr ar yr oil o'r adranau eraill i'w hanfon i un o'r Ysgrifenyddion ar neu cyn Chwefror i8fed. Bydd haner yr elw yn cael ei drosglwyddo i Bwyllgor y mudiad teilwng uchod. MISS E. MORRIS, Llys Pedr i Ysgrifenyddion. MISS M. HUGHES, St. Tudwall's Terrace ??Yssg?rr.itfeennyvdctdctiioonn. HYSBYSIAD. Dymunir gwneyd yn hysbys y bydd busnes y diweddar Mr. Ranleigh Jones yn cael ei gario yn mlaen fel arferol gan ddyn profiadol BOB DYDD MERCHER yn siop Mr. BOWEN, Grocer, High Street, oily boreu hyd 4 y prydnawn.

PWLLIIELI

PWLLIIELI. CYHOEDDIADAU SABBOTHOL.—Chwef. 17. Penlan (A.), am 10 a 6, Parch. W. Walters, Groeslon. Capel Seisnig (A.) Cardiff Road, am 11 a 6.30, Parch. David Thomas, y Gweiivdog. Penmount (M.C.), am 10 a 6, Parch. Alun T. Jones, Bethesda. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch. Richard Hughes, Brymbo. Capel Seianig Ala Road (M.C.), am 10 a 6, Parch. ————— Tabernacl (B.), am 10 a 6, Parch. H. H. Williams, y Gweinidog. Seion (W.), am 10. Parch. John Price, Criccieth j am 6, Parch. R. Conway Pritchard, y Gweinidog. Tarsia (M.C.), am 10 a 6, Cyfarfod Ysgol. South Beach (M.C.), am 10 a 6, Parch W. E. Hughes, M.A., Criccieth. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street, am 2, ysgol. Yøgol Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Parch Ysgol Genhadol North Street (A.), am 2, Ysgol. St. Pedr, 9.30 a 6 (Cymraeg), 11 a 6 (Seianig), Parch. J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch. T. Pierce Owen, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R.G., am 10-30, Offeren Sanctaidd; am 2, Y sgol; am 5, Pregeth,—Father Hayden WEDI EI GLWYFO —Derbyniodd Mrs Evan Williams, Penrhydlyniog, hysbys- rwydd fod ei mab ieuengaf, Private Morris Williams, wedi ei glwyfo yn Mhalestina. Ni wyddis eto faint na pha mor ddwfn yr archollwyd et, ond dymunem iddo bob hwylusdod i adfeddianu ei nerth DAMWAIN DOST.—Drwg genym ddeall fod Mr G. Jones Roberts, Yokehouse, y meddyg anifeiliaid hysbys, wedi cyfarfod a damwain dost. Ymddengys iddo, tra'n gweinyddu ar geffyl yn Madryn, gael cic ganddo yn mhen ei lin nes cracio yr asgwrn. Aeth Mr Roberts yn ddiatreg i'r ysbytty i Lerpwl, a deallwn ei fod yn gwella yn foddhaol. ENILL ANRHYDEDD MILWROL. Llon- gyfarchwn Sergt. Major R. H. White, mab hynat Mr a Mrs White, New Street, ar ei waith yn enill y D C.M. am wroldeb arbenig o'i eiddo ar faes y gwaed yn Mhalestina bell. Gwr ieuanc gwrol ac anturiaethus wrth reddf yw White, ac ni ryfeddem glywed enill o hono anrhydedd uwch eto, gan ei fod yn un pwyllog a nerthol o feddwl. EIN MILWYR.—Yr wythnos ddiweddaf daeth ychydig o'n irilwyr gartref. Golwg cdymunol geir arnynt, yn lion o ysbryd ac yn llawn o afiaeth. Gwelsom y rhai a ganlyn :—Sergeant Gwilym E. Thomas, Fron Oleu; Driver Evan Roberts, M. C., Penmount Place Privates David Jones, i, Glanaton Terrace John. Summers, Birmingham House, Station Square W. Stanley Jones, Gaol Street William J .,hn Evans, Lleyn Street; Evan Parry, Tan- 'rallt Terrace; John Walter Roberts, Lleyn Street; Richard Roberts, Abererch Road. YN EISIAU ADDRESS MILWR.-Derbyn- iodd y Maer (Mr G. Cornelius Roberts) lythyr oddiwrth F. E. Andrews, Ysw., yn ei hysbysu ei fod wedi cael gair oddi- wrth y ffirm oedd yn anfon ef anrheg o Cigarettes i'r Milwyr yn dweyd eu bod yn methu a d'od o hyd i'r un sy'n dwyn yr enw a'r cyfeiriad Driver E. Jones, R. F. A., West Dene Hospital, St. Leonards-on-Sea, Sussex, ac yn erfyn am yr un cywir yn ddiymdroi. Dymuna'r Maer o ganlyniad gael gwybodaeth briodol gan yr un a wyr rywbeth yn ei gylch, er mwyn iddo gael ei anfon ar tyrder iddynt. CYNGOR YR EGLWYSI RHYDDION.—Nos Wener cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngor uchod, o dan lywyddiaeth y Parch. R. Conway Pritchard. Cyflwynodd Mr M. G. Jones, Artro, yr ysgrifenydd, bender- fyniad yn protestio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn caniatau i'r bragwyr roddi mwy o bris am yr haidd oa masnachwyr cyffredin, a phasiwyd yn unlrydol. Cyn- ygiodd y Parch, J. Puleston Jones, M. A., benderfyniad yn gwrthdystio yn erbyn bwriad y Senedd i amdditadu'r gwrthwyn- ebwyr cydwybodol o'u pleidlais. Dywed- odd Dr. R. Jones Evans ei fod yn ofni fod t Ilawer iawn o'r gwrthwynebwyr cydwybod- ol yn ffugio er mwyn osgoi y fyddin. Cyd- nabyddai y Parch J. Puleston Jones y gallai fod amryw o ragrithwyr yn mysg y gwrthwynebwyr cydwybodol Yr oedd cydwybod yn gysgod hwylus iawn i rai pobl mewn y-storm fel yr un bresenol, ond yr oedd yna ragrithwyr n.ewn cylchoedd eraill hetyd Yr oedd rhai pobl yn honi gwladgarwch uchel ac yn goralwa ar waed y milwyr yr un pryd. Nid oedd hyny ond ffurf ar ragrith ac eto i gyd yr oedd rhag- rithwyr yn cael eu parchu yn mhob cylch, ond yn mysg y gwrthwynebwyr cydwyb- odol. Pasiwyd y penderfyniad 1 PLANU IATWS --Nos Wener, yn Neuadd y Dref, cynhaliwyd cyfarfod lluosog o arddwyr a rhanddalwyr y dref i ystyried eu safle ya wyneb archeb Bwrdd Amaeth- yddiaeth yn eu gwahardd i blanu tatws a arbedwyd ganddynt, o gnwd y flwyddyn o'r blaen, am fod y clwy yn y gerddi. Llywyddai Mr T. J. Houghton Davies. Darllenodd Mr J. J. Edwards, Gwalia, lythyrau a dderbyniwyd ganddo ef a Mr E. R. Davies o'r Bwrdd Amaethyddol yn ateb i gais y gymdeithas am i'r Bwrdd dynu'r archeb yn ol. Dywedai Arolygydd y Bwrdd fod 85 y cant o'r gerddi a arch- wiliwyd gan yr Arolygydd wedi eu hamaru gan y clwyf, ac fod y gerddi na archwil- iwyd yn teimlo i'r an graddau oddiwrtho. 0 dan yr amgylchiadau ni theimlai y Bwrdd yn ddoeth i dynu'r gwaharddiad yn ol, ond yr oeddynt yn foddlon i ganiatau i'r gardd- wyr b anu'r tatws cynar a godwyd gan- ddynt y llynedd am y flwyddyn hon yn unig. Ond rhaid cael trwydded i blanu tatws ail gynar a diweddar, a sicrhau yr hadyd gan fasnachwyr a nodid gan y Llywodraeth. Anfouwyd penderfyniad cryf i ddiolch iddynt am eu cytarfod gyda'r tatws cynar, ac yn pwyso arnynt i ganiat- au iddynt blanu tatws ail gynar a diwedd- ar eleni. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Dr. S W. Griffith, Mri R. Albert Jones, D. H. Williams, M. A., Griffith Griffiths, Hugh Evans, Richard Jones, John Kenney, a Rees Jones. Ar ddiwedd y cyhrfod ymunodd nifer luosog a'r Gym- deithas, ac etholwyd 12 o bwyllgor gweith- iol i gaiic'r gwaith ymlaen

I Cyngor Tref Pwllheli

I Cyngor Tref Pwllheli. Cynhaliwyd nos Fawrth —Dr. R Jones 1 Evans, y cyn-Faer, yn y gadair. CYDYMDEIMLAD. Pasiwyd penderfyniad yn cydymdeimlo a theulu y diweddar Henadur R. Ifor Parry, ac yn datgan gwerthfawrogiad o'i wasanaeth i'r Cyngor ac i'r dref. Siarad- wyd ar yr achlysur gan y Cadeirydd a Dr. O. Wynne Griffith.-tiefyd pasiwyd pleid- lais o gydymdeimlad a theuluoedd y milwyr a syrthiasant yn y rhyfel yn ystod y mis. CYDNABOD LLONGYFARCHIAD. Darllenwyd llythyr dyddorol oddiwrth Sergt Major R. H. White yn cydnabod llongyfarchiad y Cyngor ar ei lwydaiant yn enill y D.C.M Dywedai fod amryw o filwyr Pwllheli wedi enill enwogrwydd am eu gwroldeb ar faes y gwaed. Hefyd llongyfarchai Mr. G. Cornelius Roberts, y Maer, ar ei ail benodiad i'r gadair faerol, a hyderai y gwelai y milwyr yn d'od yn ol cyn diwedd y flwyddyn, gan ei fod wedi gwneyd cymaint i'w sirioli a'u cyfnerthu PwYLLGQR YR YMBORTH Cynygiwyd amryw bersonau i'r sedd wag ar Bwyllgor yr Ymborth, a phenod- wyd Mr. David Pugh, yr hwn a enwid gan Undeb Gweithwyr y Rheilffyrdd. NWYDDAU I'R FARCHNAD. Argymhellai y Pwyllgor Cyffredinol i ddiolch i'r ffermwyr canlynol am anfon ymenyn a nwyddau gyda chysondeb i'r farchnad Mri. John Thomas, Bronllwyd, T. E. Jones, Plas Tudur, J R. Jones, Ty Engan, a W. Davies, Ty'nycoed. Dywed- ai Mr. T. W. Thomas fod y priswyr a Mr. J J. Edwards yn gwneyd eu goreu i ranu y nwyddau mor gyfartal ag yr oedd modd. Gofidiai na ddeuai digon i't farchnad i gyfarfod y gofynion, ac yr oedd yn ddrwg ganddo am y merched oedd yn gorfod aros am oriau yn y Neuadd am ymenyn Yr oedd rhai o'r masnachwyr wedi gwneyd eu goreu i gynorthwyo y farchnad, tra yr oedd eraill yn gwneyd eu goreu i roddi rhwystrau ar eu ffordd. Gofynai Mr. R. A. Jones a oedd yn ffaith fod swm mawr o ymenyn yn cael ei anfon o'r farchnad i drefi eraill, tra yr oedd teuluoedd y dret yn methu a chael dim- Eglurai Mr. T. W. Thomas nad oedd gan y Pwyllgor awdur- dod i rwystro ymenyn i fyned o'r dref. Sylwai Mr. Hugh Pritchard nas gallai ef ddeall sut yr oedd neb yn anfon ymenyn ymaith o'r dret tra yr oedd y pris uwchat i'w gael am dano yn y dref. Y CYNGOR A'R GERDDI. Cyflwynai Mr. Lewis Jones adroddiad Pwyllgor y Rhanddaliadau, yr hwn a ad- roddai fod diffyg ar y cyfrit, ac yn argym- hell i godi rhenti y gerddi yn ogystal a'r caeau a osodid i Mr. G Cornelius Roberts. Bu Mri. Edward Japheth, R. Hughes, G. Griffith, John Thomas, Owen Jones, David Williams, a J. J. Edwards yn ymgynghori a'r Pwyllgor ar ran y garddwyr. Dywedid fod Mr. Roberts wedi cynyg i roddi tenant- iaeth y caeau i fyny os oedd rhywun arall yn foddlon i roddi rhagor o rent am y tir. Argymhellid i wahodd cynygion am y tir mor fuan ag y rhoddid hwy i fyny gan Mr. Roberts. Gofynai Mr. R. Albert Jones paham y codid y rhenti o gwbl. Eglurai Mr. E. R. Davies, y Clerc, nad oedd y derbyniadau yn ddigon i gytarfod y gofvn- ion. Yr oedd yno ddwy ardd heb eu gosod. Dywedai Mr. Hugh Pritchard nad oedd yn iawn i godi rhenti y than- ddalwyr er talu am y darnau oedd heb eu gosod. Credai ef mai eu dyledswydd oedd prisio y tir i'w werth masnachol. Dywedai y Clerc tod y rhanddalwyr yn honi fod y meusydd a osodid i Mr. Cornel- ius Roberts yn werth rhagor nag a delid gan Mr. Koberts am aanynt, ac na bydaai angen codid eu rhenti hwy pe y codid rhent teg am y meusydd hyny Sylwodd Mr. W. M. Toleman y gwyddai ef am ddyn a roddai fwy o 3p. 10s. am y meus- ydd yn awr. Dywedai Mr. Hugh Pritch- ard nad oedd ef yn credu mewn gwahodd tenders am y tir. Yr oeddynt yn ymos- twng i weithredu yn fwy anheilwng na'r math salaf o landlords. Buasent i gyd yn condemnio tirfeddianwr pe baent yn gwa- hodd rhywun i gynyg am fferm uwchben tenant. Heblaw hyny, te allent gael rhywun i gynyg rhagor am y lie o falais neu o awydd i wneyd bywoliaeth ar draui anwybyddu hawliau pobl eraill. Credai Mr. O. Ellis Jones mai y tir berchenogion ddylai ostwng rhent y tir os oedd y der- byniadau yn rhy tach i gyfarfod y galwad au. Dywedai Mr. John Ellis (y cyfrifydd) fod Mr. Cornelius Roberts wedi cymeryd y meusydd hyn oddiar ddwylaw y Cyngor flynyddau lawer yn ol pan yr oeddynt yn methu a chael neb i'w cymeryd. Pasiwyd ar gynygiad Mr. Hugh Pritchard, yn cael ei gefnogi gan Mr. Richard Jones, i anfor. y mater yn ol i'r Pwyllgor. T AI AC ANFOESOLDEB. Cyflwynai Mr. T. W. Thomas adrodd- iad y Gynhadledd Sirol a gynhaliwyd i ystyried cwestiwn y tai i weithwyr. Dy- wedai fod angen 5° o dai yn y dref, a thua 183 yn y wlad. DywedodJ Mr. Hugh Pritchard, yr hwn gymerai ran flaenllaw yn y Gynhadledd, fod y ffaith fod mor ychydig yn priodi yn Lleyn i'w briodoli i ddiffyg tai. Yn rhanol mae cwestiwn y cyflog hefyd yn gymhlethedig. Cytunai Dr. O. Wynne Griffith, gan sylwi nad oedd yno dai i lafurwyr amaethyddol nac i feibion ffermydd i fyned i fyw iddynt ar ol priodi. Yr oedd llawer o fan-ddal- iadau wedi eu diddymu a'u gwneyd yn un fferm fawr. Ategai Dr. R. Jones Evans fod prinder tai yn gyfrifol am lawer iawn o'r afiechyd a'r anfoesoldeb oedd yn y wlad. Cyflwynodd Mr. Charles Lloyd Roberts hefyd adroddiad o'r Gynhadledd.

Tafarnau Pwllheli

Tafarnau Pwllheli. Cynhaliwyd y Llys Trwyddedol blyn- yddol dydd Mercher. Yr oedd unarddeg o Ynadon yn bresenol sef: -Mri. J. G. Jones. (Cadeirydd); C. H. Lloyd Edwards; G. H Roberts; J. H. Parry; W. W. Griffith; W. Thomas; Dr. Gwenogfryn Evans; Dr. S. W. Griffith; Dr. O. Wynne Griffith; Surgeon-General P. M. Ellis. Cyflwynodd yr Arolygydd ei adroddiad blynyddol, yn dangos na chosbwyd ond 11 am eddwJod yn ystod y flwyddyn o'i gydmaru a 56 yn y flwyddyn 1914 Erlynwyd dau drwyddedwr yn ystod y flwyddyn a chosbwyd un o honynt, ond cosbwyj personau gafwyd yn feddw yn y tai yn y ddau achos. Yr oedd y Four- crosses Inn, wedi ei chau, ac ni ofynid am drwydded yno, hefyd y Farmers Arms, Efailnewydd, yn ymarferol wedi ei. chau, er nad oedd arian yr iawn dal wedi eu talu eto. Gwrthwynebai ef i adnewyddu trwydded Penlan Bach, i Ellen Griffith, am fod y trwyddedydd wedi ei dirywio i bunt am ganiatau meddwdod yn y ty. Adnewyddwyd yr holl drwyddedau, a dy- wedai y cadeirydd y cymerai y fainc olwg ddifrifol os y deuai cwyn o'r fath yma ger eu bron eto.

Llythyrau Oddiwrth ein Milwyr

Llythyrau Oddiwrth ein Mil- wyr. Derbyniodd y Parch. J Rhydderch y llythyr canlyuol oddiwrth Private Griffith John Thomas, o'r dref hon Gwlad yr Addewid, lonawr gfed, 1918 Anwyl Mr Rhydderch,— Yr wyf yn cymeryd y pleser mawr o ysgrifenu ychydig linellau atoch i ddiolch i chwi am P.O., yr hwn a dderbyniais yn ddiogel. Daeth i law prydnawn Sul pan oeddwn mewn pentref sydd a hanes dydd- orol iddo yn y Beibl-sef Bethel-y fan He y cafodd Jacob y breuddwyd rhytedd hwnw. Yr ydym yn gweled golygfeydd rhyfedd yn y wlad hon. Mae'n debyg y buasai llawer iawn y ffordd yna yn falch o'u gweled. Bum am dro dydd Nadolig drwy Jerusalem, a chawsom y fraint o weled y fan lie cafodd Iesu Grist ei d'eial gerbron Pilat, a'r fan lie cafodd ei fflan- gellu. Buom hefyd ar hyd y ffordd I!e y cariodd ei Groes i Galfaria. Mae y manau hyn wedi eu nodweddu yn Rhuteinig. Bu- om hefyd i Church of the Holy Scnlpture, oddimewn i'r hon y mae bedd newydd Joseph. Buom oddimewn i'r Oruwch- ystafell ac yn Nghardd Gethsemane. Yr oeddym yn gwersyllu tua'r gwyliau heb fod yn mhell o Fynydd yr Olewydd. Yr ydym wedi cael brwydrau caled iawn yn y fan yma, ac wedi colli tipyn o ddynion— ond dim yn agos i'r hyn gollodd y gelyn. Mae tri o fechgyn Pwllheli wedi eu lladd, a rhy w bedwar wedi eu clwyfo. Fe ddaeth- um i yn ddianaf drwy y cwbl diolch i'r Brenin Mawr am hyny. Nid oes genyf rhyw lawer mwy o newyddion i'w dweyd, heblaw fod y tywydd wedi troi -ma hi yn eira mawr yma heddyw ac yn oer dros ben-yr ydym b on a starvio." Mae hyn yn sudden change i ni ar ol y tywydd hafaidd yn yr Aifft. Dywedwch with eglwys Penlan fy mod yn dra diolchgar iddynt am eu caredigrwydd, a dymunaf Flwyddyn Newydd Dda i chwi i gyd, gan obeithio y daw y flwyddyn hon a heddwch i bob gwlad —Ydwyf, GRIFFITH JOHN THOMAS.

Advertising

Welsh Eglt Fund towards Netiey Hospital. STATEMENT OF ACCOUNT For the Year ending December, 1917. RECEIPTS. s d. Balance in hand from 1916 12 14 5 Weekly Collections 48 18 I Netley Flag Day 21 5 o Sundry Donations 8 10 2 Bank Interest o 6 9 £ 9* 14 5 PAYMENTS. £ s. d. Netiey Hospital 71 5 o Carriage ot Egg Boxes 6 2 o Sundry Expenses (Stationary, Stamps, &c.) 1 10 o Cheque Book 0 4 6 Balance 12 12 11 i,91 14 5 Audited and found correct, JOHN ELLIS, Borough Accountant. AT FFERMWYR LLEYN AC EIFIONYDD. DYMUNAG.J. ROBERTS, F.R.C.V S, hysbysu ei fod wedi trefnu gyda Mr Wynn Lloyd, M.R.C.V.S., Caernarfon, i ofalu am ei gysylltiadau proffeswrol. Bydd Mr Lloyd yn Mhwllheli bob dydd fel y gall ateb pob galwad am ei wasanaeth. PYTATWS HADYD. MAE y Proffeswr Evans, Ysgol Madryn, wedi hysbysu Mr J. J. Edwards y bydd iddo anfon yr oil o'r Stoc o Bytatws GREAT SCOT" (Immune) sydd ganddo i'r Farchnadfa. Bydded i'r rhai hyny sydd eisieu Pytatws anfon at Mr J. J. Edwards. SALES GAN MRI. R PARRY A'l FAB 6, SALEM TERRACE, PWLLHELI. SALE OF HOUSEHOLD APPOINTMENTS. MESSRS. ROBERT PARRY & SON r are instructed by Mr. J. G. Jones to Sell by Public Auction at the above place ON THURSDAY, FEB. 14th, 1918, HOUSEHOLD FURNITURE, compris- ing 5ft. 6in. Mahogany Sideboard, home- built Mahogany Suite of Couch, Easy Chair, and 4 Small Chairs, upholstered in hair; Mahogany extending Dining Table; Mahogany Hall Stand and Tabic Card Table; Walnut 4ft Overmantel; 2 Inlaid Whatnots Well built Oak Kitchen Dresser; Several Mahogany Chairs up- holstered in hair; Iron Bedstead with wire mattress Invalid Wicker Chair with hair mattress Washstand Dressing Stand Looking Glasses Toiletware Bedroom Chairs Towel Rails Oak leaf and other Tables; Easy Chiir; Nest of Wooden Dishes Timepieces Iron Garden Table; Fenders Fire Irons and Fire Screens Folding Screens Copper Kettles & Brass Candlesticks Preserving Pan Dally Flat Iron Hand Sewing Machine in Case; Lamps Pictures Stair Rods Carpets Linoleums; Oilcloth; Door Mats; China- ware Crockery, Kitchen and Culinary Utensils; Dust Bin; Step Ladder; Mangle almost new Hangings and Poles and numerous other articles. Sale to commence at i p.m. o'clock. Terms Cash. 5, Salem Terrace, Pwllheli. AT AMAETHWYR, CIGYDDION, A PHORTHMYN. JAYMUNIR hysbysu y bydd Gwartheg Tewion yn cael eu graddoli a'u pwyso yn ol gofynion y Llywodraeth yn y lleoedd canlynol :— Pwllheli Station, bob dydd Llun, am 9-30 y boreu. Portmadoc (Snowdon Street) bob dydd Mawrth, am 11 y boreu. Criccieth, bob dydd Mawrth, am 2 y prydnawn. Erfynir ar i'r Amaethwyr anfon bymtheg diwrnod yn mlaenllaw pa nifer o Wartheg fwriadant dd'od i'w pwyso i Mr. Robert Parry, Arwerthwr, Pwllheli. Trefnir i wneyd canoltan yn Sam Meillteyrn mor fuan ag y sicrheir modd- ion i bwyso yr anifeiliaid. Graddolir a phwysir yn ddidal i'r Amaethwyr. Robert Parry, Arwerthwr, Pwllheli. R L. Griffith, Tiewen, Pwllheli. Richard Newell, Central Buildings, Pottmadoc. Graddolwyr appwyntiedig dros gylch Undebau Lleyn a Glaslyn. Mr. John Davies, Auctioneer & Valuer, Blaenau Ffestin.og & Pwllheli. SMITHFIELD, PWLLHELI. BYDD GRADDOLI GWARTHEG -D TEWION A DEFAID TEWION yn y Smithfield uchod DYDD LLUN NESAF, CHWEFROR i8fed am 10 o'r gloch y boreu. Erfynir ar i'r Amaethwyr anfon eu hentris rhag y blaen i'r Auctioneer i Blaenau Ffestiniog, hetyd derbynir Entries yn yr Office yn Penlan Street, dydd Mercher, (yforu) o un i dri o'r gloch y prydnawn. Wern Fawr, Llanbedrog. KHYBUDD I BERCHENOGION CWN. RHODDIR rhyhudd drwy hyn y saethir bob ci welir ar yr ystad hon, ar ol y dyddiad hwn. Chwef. 4ydd, 1918. A. W. HOWARD MOTOR CARS FOR HIRE MORRIS JONES, Central Garage, PWLLHELI All kinds of Repairs undertaken. Fares from PWLLHELI to ABERDARON 16/- ABERERCH 3/- ABERSOCH 7/- BOTTWNOG 9/- EDEYRN 9/- EFAIL NEWYDD 2/6 LLANBEDROG 4/- LLANAELHAIARN 7/- LLANNOR 4/- LLITHFAEN 7/- MORFA NEVIN 7/- NEVIN 7/- RHYD Y CLAFDY 4/- SARN TYDWEILIOG n/- TREFOR 8/- WEST END 1/6 SOUTH BEACH 1/6