Teitl Casgliad: gwyliedydd newydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

ALWAYS USE I. I I DELICIOUS 'VE' '? REFRESHING I FLAVOUR. I &?. QUALITY.

Advertising

f DRINK. i" DWYRYD TEA." The Tea of Old Time Flavour.

Y Diweddar Barch IPeter Jones B

Y Diweddar Barch Peter Jones (B.) [Gan y Parch. H. O. HUGHES.] 1 "A glywsoch chi, y mae Peter wedi marw Dyna'r geiriau cyntaf pan agorwyd y drws i'm croesawu gartref wedi fy llafur, nos Sul, Ionawr 25ain. Daeth dwfr i'm llygaid, a thrallod i'm calon trwy y newydd galarus. Nid oedd angen defnyddio ei gyfenw, na dweyd Peter pa le, i ni fel teulu. Nid oedd ond megis un mewn bod o'r enw hwnw, sef Pedr o Gaerwys." Gan fod fy ngwraig wedi ei geni a'i mhagu yn Ngfyaerwys, yr oedd yn ei adnabod yn llanc ieuanc, tal, main, a du, fel y fran. Hefyd yr oedd yn gydnabyddus a'r teulu o'r hwn y dewisodd briod ei fynwes, ac a fu yn ymgeledd mor rhagorol iddo ar hyd ei oes. O'r ochr arall yr oedd yr ymadawedig yn gydna- byddus iawn a rhieni fy mhriod, trwy eu bod yn hen gyindogion, ac ar delerau cyfeillgar. At y cwbl, heb fod yn neppell yr oedd y dref, lie y ganwyd ac y magwyd finau., Trwy y pethau hyn, ac eraill, tyn- wyd ni yn agos iawn at ein gilydd., a ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngom a barhaodd hyd y diwedd. Galwai i edrych am danom fel teulu bob amser pan o fewn cyraedd, ac yn y modd hwnw cawsom gyfleusderau i'w adnabod y tuhwynt i lawer, a'r fantais o weled gwerth y trys- orau oedd ynddo.' I'r rhai oedd yn ei adnabod oreu, yr oedd swyn a phrydferthwch yn ei natur a'i gy- meriad. Cydnebyrld pawb fod cin hanwyl frawd yn foneddwr yn yr ystyr uwchaf. 0 ran ei feddwl a'i galon yr oedd mor ddidwyll a'r baban, mor bur a'r golomen, ac mor ysprydol bron a'r angel. Yr oedd Gwr Duw yn dyfod i'r golwg hyd yn oed yn ei osgo a'i gerddediad. Ond nid oedd dim arliw o'r Pharisead arno na gronyn o'r Sych Dduwiol ynddo. Cariai heulwen gydag ef i bob man, Yr oedd mor siriol a'r blodeuyn, ac mor llawn ohurnour a ffynon o ddyfroedd byw. Gallai chwerthin mor galonog a'r un a glywais erioed, a mwyn- hai, pan yn rhydd i ollwng ei deimlad allan, dipyn o firi diniwed cystal a neb. Cofiaf y funud hon am y difyr- wch a gawsom yn ystod Cyfarfod Talaethol y Porth. Gyda ni yr oedd Mr Jcnes yn llettya, a'r di- weddar Jiarch Thomas. 1anuel gydag ef. Bu y ddau yn cydlafurio ar yr un gylchdaith, ac yr oeddynt yn gyfeillion mynwqsol. Tra gyda ni yr oedd rhyw yspryd nwyfus a direidus wedi meddianu y ddau. Pleserant mewn herian ar eu gil- ydd. Ceid hwyl i adrodd am ddi- gwyddiadau ysmala a doniol yn hanes y naill a'r llall, a dawn i yn waxed y troion trwstan a gy- merodd le yn eu hanes. Ceisiai y naill ragori ar y llall yn y pethau digrif a adroddid am eu gilydd. Yr oll- yn berffaith ddiniwed, ac yn yr ysbryd goreu, ond cafwyd difyrwch rhyfeduol, hwyl fawr a chwerthin afiaethus y nosweithiau hyny a hir gofir, ac nid oedd neb yn y cwmnl yn mwynhau y miri chwareus yn fwy na Mr Peter Jones. Yr offeryn a ddefnyddiwyd i ddwyn Peter Jones i gysylltiad a Wesleyaeth oedd Mr Edward Jones y Pandy, ger Caerwys. Y mae genyf adgobon dymunol iawn am y brawd hwnw. Pan oeddwn yn weinidog yn Nghae$wys, yr oedd efe yn fyw, ond wedi myned yn hen wr, a'i beirianau lleisiol wedi eu treuiio allan trwy ganu cyfiiaint. Cvdnabyddid ef yn gerddor gwych yn ei ddydd, nc nid oedd ei we?il' v lie fel ar& einydd canu ac arwein- ydd cor. Gwnaeth wasanaeth werthfawr i'r achos Wesleyaidd werthfawr acbos Wesle?7aidd,l oedd yno yn ei amser, mewn, gwa- hanol foddau. Ond ei gamp waith oedd symud yr hogyn Peter Jones i ben y ffordd arweiniodd ef i'r weinidogaeth Wesleaidd. Yr oedd Mr Edward Jones yn Weslead selog iawn. Anwylid ef gan holl blant y dref, a tynai blant o bob enwad i'w "Ysgol Gari." Yn mhlith eraill tynwyd trwy swyn y canu y bach- genyn Peter Jones o Eglwys y Llan i gapel y Wesleyaid, a cafodd aros yno, er fod ei dad a'i fam yn eg- Iwyswyr pur selog. Diau mai Mr Edward Jones oedd ei athraw cyn taf mewn cerddoriaeth. Pa un bynag, cyrhaeddodd raddau o wy- bodaeth mewn cerddoriaeth, a medrai gynghaneddu yn lied rwydd. Yr oedd yn hoff iawn o ganu hyd y diwedd, a'r fath lais, yspryd a hwyl oedd yn ei ganu Yr oedd clywed a gweled yr hen gyfaill yn canu, bob amser yn wledd wirioneddol i mi. Ond er cystal cerddor ydoedd, credaf mai fel pregethwr a gweddiwr y rhag- orai. Nid wyf yn bwriadu ym- wneyd dim am ei nodweddion fel pregethwr. Ceir hyny, gobeithiaf, yn hanes ei gladdedigaeth, ac mewn "Cofiant" ysgrifenir am dano gan rywun. Ni chefais y fraint o'i glywed yn pregethu ond unwaith yn unig. Byddaf yn rhyfeddu weithiauam hyny, a ninau mewn cysylltiadau mor agos a'n gilydd, a hyny am gynifr o flynyddoedd, ond clywais ef yn gweddio lawer gwaith mewn pwyllgorau, a chyfarfodydd eraill. Gweddiai yn rymus a gafaelgar, fel rheol yr oedd yn gwybod y ffordd ar ei union at Boith y Nef- oedd, a theimlais ami i dro trwy ei weddiau fod goludoedd Gras y Brenin yn dyfod i lawr fel mana deifiol i'm henaid. Treuliais hefyd ami i "SeiatFawr" o dan ei ar- weiniad ef, a chofiaf yn hir am rai o honynt ar gyfrif yr hwyl oeddji ynddynt, a'r gorfoledd bendigedig. Byddai fy hen gyfaill ar ei uchel- fanau yn y cyfarfodydd hyn. Cad- wodd-y tan i gyneu yn ei brofiad, a'i ysbryd yn fyw iawn yn y gwaith hyd yr awr olaf. Daeth hono yn anisgwyliadwy iawn i'w deulu anwyl, ac i bawb. Y mae hiraeth a dwysder arnaf, o feddwl na wna yr Hen Deithiwr'' ddyfod heibio eto i'm gweled, ac na chaf ei gym. deithas yr ochr hyn. Y tro olaf y cefais y fraint o'i gwmni dyddan oedd SuI yn Awst y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd yn pregethu yn Pontypridd y Sul hwnw, a gwahoddwyd ei hen gyf- aill Mr J. Anwyl, tad Syr Edward Anwyl, a'r Parch J. B. Anwyl atom i yfed cwpanaid o de a chael sgwrs am yr amser gynt. Arferai Mr Jones a Mr Anwyl fyned efo'i gil- ydd i'r un ysgol elfenol, a buont o dan aadysg yr un meistr. Yr oedd y ddau yn gyfeillion pur er eu hieu- engtyd, a pharhaodd y cyfeillgar- wch rhwng y ddau ar hyd eu hoes faith. Dyddorol oedd eu clywed yn myned dros hanes taith eu pererindod: cyfeirio at y cyfne- widiadau yr oedd biynyddoedd wedi ei effeithio yn hanes personau a theuluoedd; ac ymgomio ar helyntion y Blwyddi Fu." Syl- wais fel yr oedd adgofion un munyd yn peri chwerthin, a'r funyd nesaf gwelid y deigr distaw yn disgyn. Cafwyd amser pleserus iawn, ond yr oedd yn rhy fyr o lawer. Pan yn ysgwyd Haw cyn ymad- aeJ, a dyrnuno yn dda wrth wneyd hyny, ychydig feddyliodd yr un o honom ein tri ein bod wedi cyfar- fod felly am y tro olaf, ac y byddai yr hynaf o honom yn croesi mor fuan i'r "ochr arall." Chwith ydyw genyf feddwl fod gwyneb fy hen gyfaill anwyl, erbyn hyn y tu arall i'r lien, ond Cawn gyfarfod hen wvriebau Wedi croesi niwl y glyn." Gwelir llawer wyneb, a bydd eu gweled yn hyfrydwch mawr. Yn mhlith eraill daw hefyd i'r golwg wyneb siriol a hawddgar fy hen gyfaill Peter Jones. Bydd cael gweled ei wyneb ef a mwynhau ei gwmni wedi croesi yn gwneyd y nefoedd yn fwy o nefoedd i mi. [Gan y Parch. J. E. THOMAS.] Chwith yw meddwl fody brawd anwyl a'r gweinidog da y Parch Peter Jones yn ei fedd. Nis gallaf adael i'r cyfie hwn fyn'd heibio heb ddwyn tystiolaeth i gvmeriad a gwaith un oedd yn hoff yn fy ngolwg. Edrychwn at yr hybarch dad fel un o frenhinoedd ac offeir- iaid y Duw byw. Cafodd' oes faith, ymdrechodd ymdrech deg, cadwodd y ffydd, a gorffenodd ei yrfa yn rrhydeddus. Nid oes amheuaet "< na fu marw yn elw iddo, ac er i'r diwedd ddod yn sydyn yr oedd yn barod i gyfarfod a Duw. Ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei svrnud ef, canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth ddarfod iddo ryngu bodd Duw." Mae'r atgofion sydd gennyf am ein diweddar frawd yn felus a chys- egredig iawn. Daeth i gysylltiad agos iawn ag ef oddeutu chwe blynedd yn ol, adegei vmneillduad i restr barchus yr Uwchrifiaid. Yr adeg honno daeth i ymgartrefu yn ninas boblog Caerdydd; yr oeddwn innau ar y pryd yn dechreu ar fy m 1 wyddyn .-)Iaf yn. y, Gylchdaith. Mawr oead disgwyliad caredigion yr achos yng Nghaerdydd am ei ddyfodiad i'n plith, a mawr oedd y croesaw a dderbyniodd ef a'i deulu. Ynflaenorol i hyn yr oedd gan y cyfeillion syniadau uchel iawn am dano fel dyn, Cristion a phregethwr, ac yr oedd gan nifer o'r aelodau atgofion tyner am ei weinidogaeth rymus yn eu plith yn ystod y ddau dymor y bu'n llaf- urio ar y Gylchdaith yn flaenorol. Wedi ei sefydliad yn y ddinas taflodd ei hun yn llwyr i mewn i fywyd yr eglwys fechan. Nid oedd dim yn ormod ganddo i'w wneud er lies a llwyddiant yr achos. Cymerai ddyddordeb by w yn holl weithrediadau yr eglwys. Pryderai a gweddiai lawer dros Iwyddiant y gwaith da. Byddai yn bresenol bron ymhob odfa ond pan oddicartref yn pregethu. Yr oedd yn amlwg ei fod wrth ei fodd yn adcloli Duw. Yr oedd ei galon gynes ar ei goreu yn addoli ac yn mawrygu enw'r Arglwydd. Nid addolwr oer, ffurfiol, a difywyd oedd Peter Jones, ond gwir addol- wr y Tad yn ei addoli Ef mewn. ysbryd ac mewn gwirionedd. Pwy o'r rhai a gafodd y fraint o gyd addoli gydag ef a all anghofio ei brofiadau a'i weddiau yn yr ys. tafell fechan ynglyn a'r capel yng Nghaerdydd ? Mor wresog, mor afaelgar, mor rymus y clywsom ef yn canmol ei Waredwr ac yn clodfori ei ras. Cefais ef yn un o'r brodyr mwyaf dymunol ymhob ystvr. Nid oedd ganddo y duedd leiaf i ymyryd, os na ofynid am ei farn a'i gymorth. Yr oedd bob amser yn deyrngarol iawn i'w frodyr. Gallaf ddweyd yn ddibetrus 1 mi ei gael yn frawd teilwng yn y Weinidogaeth. Mewn pwyllgorau yn y gylchdaith yr oedd ei bresenoldeb a'i gynghorion pwyllog a'i- farn aeddfed yn an- mhrisiadwy bron. Gellir dvwevd llawer am dano fel dvn a Christion. Perchenogai ddynoliaeth dda,—yr oedd yn ddyn yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd rhai o elfenau amiycaf gwir ddyn- oliaeth yn cyd-gyfarfod ynddo. Llawer yragom ddifyr a gawsom ganddo, a threuliasom adegau hapus yn ei gwrnni. Teimlem bob tro yn ei gymdeithps ein bod yng nghymdeithas dyn cywir, gon- ¡ est, egwyddorol. Yr oedd yn llawn o natur dda. Yr oedd yn amrlosibll bronbeidioeihofn. Mor siriol ac j mor sionc fyddai ar adega u. Cawsom lawer hamdden hapus felly yri ei gwmni ef a'i gyfaill hoff Mr J. Price Powell. Nid oedd neb yn amheu duwioldeb y Parch Peter Jones. Yr oedd ei dduwiol- deb yn argraffedig ar ei wedd a'i ymarweddiad. Gallai ddweyd fel yr Apostol, Canys ein hymar- weddiad ni sydd yn y nefoedd." Dyma'r dystiolaeth a ddywedid yn barhaus am dano, "Yn sicr mae Peter Jones yn ddyn duwiol." Clyw- som rai yn dweyd ganodd o weith- iau "Mae e' yn hen wr duwiol," Pa ryfedd fod ganddo brofiad mor ddisglair, yr oedd ei gymeriad mor loew. Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda'r rhai a'u hofnant Ef." Gyda'r rhai uniawn y mae ei gyfrinach Ef." Dechreuodd yn fore a charu lesu Grist, a clywsom ef droion yn crybwyll am ddylanwad un hen flaenor yr adeg honno arno yri ei gartref yn N ghaerwys. Fel gweinidog cydnebydd pawb iddo gyflawni ei wasanaeth yn deilwng iawn. Teithiodd yn reol- aidd am 46ain o flynyddoedd. Gadawodd ddylanwad a daioni ar bob cylchdaith. Gwnaeth ei waith yn ofalus, vn fanwl a threfnus. Profodd ei hun am flynyddoedd lawer yn Arolygwr rhagorol, ac yn un y gellid ym- ddiried cylchdeithiau pwysig i'w ofal. Mor ddeheuig y cyfiawnodd ei waith fel swyddog amlwg yn Nhalaith y De. Bu ah1 27ain n I flynyddoedd yn Ysgrifenydd y I Capelau yn y Dalaith. Golygai y swydd yma lawer o waith iddo, ond gwnaeth y cyfan yn raenus, ac hefyd yn ddirwgnach. Rhoddai ei hun yn llwyr eto yn y gwaith hwn. Pwy a all anghofio yr hwyl a gawsai wrth ddarllen ffigyrau sych yr ystadegau blynyddol yn y Cyfarfod Taleithol ? Anadlai fyw. yd i esgyrn sychion y ffigyrau fel yr oedd pawb wrth eu bodd yn ei wrando. c Drachefn fel pregethwr yr efeng- yl, yr oedd ein hanityl frawd yn gymeradwy neillduol. Cefais y fraint o'i glywed rai troion, a teimlwn bob tro wrth ei wrando mai ei amcan mawr wrth bregethu oedd gogoneddu'r Gwaredwr a dwvn dynioti i afael o'r bywyd sydd ynddo ac i blygu mewn ufudd-dod ger Ei fron. Darparai yn dda ar gyfer y pulpud; yr oedd ol llafur a meddwl ar bob pregeth o'i eiddo. Ceid ganddo ymhob preg- eth, frawddegau cryfion, caboledig yn llawn o farddoniaeth fyw, a'r rhai hyny yn cynwys mer yr efengy 1. Nid oedd dim yn ysgafn nac yn arwynebol yn perthyn iddo fel pregethwr. Rhoddai amlygrwydd yn barhaus i wirioneddau sylfaen- ol crefydd, a byddai yn angherdd- ol awyddus i ddwyn dynion i afael y gwirionedd. Dywed Phil- lips Brooks un o bregethwyr mawr America mai dyna yw pregethwr "the bringing of truth through personality dwyn y gwirionedd i orffwys ar feddyliau eraill trwy y bersonoliaeth. Dyna wnai ein diweddar frawd. Ceisiodd afael yn y gwirionedd drosto- ei hun. Sylweddolodd yn ei galon ei wertli a gwnaeth bob ymdrech i enill eraill i garu'r gwirionedd. Fel pregethwr yr oedd iddo ei wahan fodedd. Ni phregethai ond fel efe ei hun. Peter Jones y. dyn gwresog, calonagored ac ysbryd ol oedd Peter Jones y pregethwr oedd bob amser mor gymeradwy. Yn ystod y blynyddoedd olaf hyn edrychid ymlaen gyda boddhad gaii eglwvsi y cylch at ei Sabboth ef. Dro ar ol tro clywsom garedigion yr achos yng Nghylchdeithiau Caerdydd, Pontypridd, Merthyr, a Threorci a lleoedd eraill yn cyfeirio gyda. diolchgarwch at fendithion a gaf- i wyd dan ei weinidogaeth. Fel cenad dros Dduw cadwodd yn agos at Grist a'i groes..Ar derfyn ei I dvii-ior fel pregetewr gallai ddweyd wrth bob cylchdaith y bu yn llaf- urio ynddi, Ni fernais i mi wybod dim yn eich plith am lesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio." Ar ol bywyd o lafur a lludded fel milwr da i lesu Grist daeth y diwedd yn sydyn. Y noson cyn clywed am ei symudiad yr oeddwn yn ymddiddan am dano gyda'r Parch Robert Jones, Towyn. Cyf- eiriai Mr Jones ato fel dyn o dduw- ioldeb diamheuol ac fe: ymgeisydd am y weinidogaeth yr un flwydd- yn ag ef yng Nghyfarfod Taleithol Amlwch yn 1862. Ymhlith ym- geiswyr eraill hefvd yr oedd y Parchn R. T. Owen, a Daniel Anwyl Williams. Ychydig fedd- yliem pan yn ymgomio ar yr aelwyd y noson hono fod ein brawd anwyl Peter Jones wedi ei symud o farwol i anfarwol fvd. Bwriad- wn dranoeth anfon gair i'm hen gyfaill, ond er fy siom y peth cjn- taf a welais yn y Gwyliedydd Newydd" oedd y newydd an- isgwyliadwy ei fod ef wedi ein gadael. Cysured yr Arglwydd y weddw a'r plant yn eu galar a'u hiraeth. Mae ein brawd mewn gwell Ile ac yn uchel iawn ei gan. I- Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr vsbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt." Y GLADDEDIGAFTH. Claddwyd yr hyn oedd farwol C'z- Parch Peter Jones (B.) yn Ngbaerdydd, prydnawn dydd Mercher, Icnawr 28ain. Daeth tyrfa fawr i ddangos eu parch i'r ymadawedig. Cynhaliwyd gwasanaeth fer yn y ty, pryd y darllenwyd rhan o'r Ysgrytnyr gan y Parch Thomas Row- lands, a gweddiwyd gan y Parch Creigfryn Jones. Wedi hyn fe awd i Gapel y Wesleaid, Crwys Road, a chyn- baiiwyd gwasanaeth gyhoeddus o dan Sywyddiaeth y Parch W. J. Arter. Yr ndd y canu o dan arweinyddiaeth Proff. Harris, E.A.M. Darllenwyd rhan o Air yr Arglwydd gan y Parch D. Lewis Jones, a gweddiwyd gan y Parch Emrys Jones. Siaradwyd yn ddwys am yr ymadawedig gan y brodyr canlynol:— Mr Anwyl (tad Sir, Edward Anwyl), y Parchedigion David Morgan, Robert Lewis, A. C. Pearce, Thoma's Hughes (A.), Thomas Jones, T. J. Pritchard., Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch Evan Isaac. Ar lan y bedd fe ddarllenwyd gan y Parch W. J. Arter, a gweddiodd y Parch E. D: Thomas. Yr oedd yn amlwg iawn fod y Parch Peter Jonss yn anwyl iawn oddiwrth y galar dwys a feddianai pawb. Gwelwyd yn yr ang- ladd, ymhlith llawer ereill, y Parihn H. 0. Hughes, Aberdare; E. G. Turner, Penygraig; G. Grey, gweinidog gyda'r Wesleaid Seisnig. Anfonwyd llawer o wreaths' o bob cyfeiriad. Nos Sul canlynol traddodwyd pregeth angladdol gan y\Parch W. J. Arter i gynulleidfa fawr yn Bethel. Chwith yw meddwl na welir yr hen dad Peter Jones ar y ddaear byth mwy. Yr oedd yn Gristion glomv, bynod am ei gariad brawdol ac am ei ddefosiwn. Yr oedd yn weddiwr mawr,—yr hyn oedd an- adlu i'w fywyd naturiol hynny oedd gweddi i'w fywyd ysbrydol. Yr oedd yn bregethwr da. Credai yr efengyl a bregethai, a pregethai bob amser yn frwdfrydig a gonest. Yr oedd yn yr oil a wnai yn urddasol. Fe deimlif colledi fawr ar ei ol yn Nghylchdaith Caerdydd ac yn y Dalaeth. Bydded i Dduw gys- uro ei weddw a'i blant.

Advertising

ER COF. Er Serchog Gof am EIN IIANWYL GWILYM, Yr 'hwn a lranodd Chwefror 8fed, 1908. Derfydci aur, a dsrfydd arian, Derfydd melted, derfydd sidan, Derfydd pob dilledyn helajeth, Eto, er hyn, ni dderfydd hiraeth. Ei DAD A'I FAM. G. ac E. Woodfine, 6, Worslay Street, Golborne.