Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

HYSBYSIAP. YSGOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Sefydltvyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M. A. Anfoner am y Telerau a'r Rbaglen a banes y Llwyddiant at y Prif Athro. -Decbren y Tymor nesaf Ionawr 6ed.

Advertising

W. WILLIAMS, JEWELLER, lie., 21 Castle St., Swansea. Specialities: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, 18ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh at y Cymro Oa am heirdd fodrwyau anr, Oriadaron ao awrleisiau, Gemau a chadwynau claer: Yapecfcol gelfydd, hln-fynegydd, Gwrea-fesurydd, owmpawd mdr Geir gan Williams, fleol y Castell Trowch i mewn i welld ei stdr.

Y CYNHWYSIAD

Y CYNHWYSIAD. Colofn Llafur .Tudalen 1 Difyrion y Nadolig. 1 Bwrdd y Golygydd. 2 Eisteddfod y Ddrama Mer- thyr, Beirniadaeth Bassett 2 CJolofn Amaethyddol Brynfab 3 Taith i Lydaw. 3 Llythyrau Sion Sana 3 Nodiadau'r Golygydd 5, 4 Hwnt ac Yma 5 Colofn y Bobl leua-inc. 6 Llyfr Du Ben Bowen. 6 Y Stori-Edwart Dafydd y Pererin 6 Colofn y Plant. 7 .Siop Dafydd ap Huw—Gan Gwili 7 Y diweddar Mr T. Roderick „ 7 Beth yw Russelliaeth „ 7 Colofn y Beirdd. 8

COLOFN LLAFUR

COLOFN LLAFUR. Blwyddyn Newydd Dda I weithwyr y byd dymunwn yn galonog. ,Flwyddyn Newydd Dda mewn gwell cyflog, amgylchiadau mwy diogel, ac hamdden ychwanegol i fwynhau ben- ,dithion tymhorol bywyd. Edrych yn 01. Wrth edrych yn ol dros gamrau yr hen flwyddyn, gwelwn linell o lwybr wyrgarn iawn, yn ymestyn yn aneglur i'r gorphenol. Daw adgofion am lawer o droion chwerwon, ami i ymdrech galed i gadw ar lwybr dyrchafiad y Rordd welliantol. Ar y cyfan, Achos i Lawenhau a Llongyfarch ein hunain sydd genym fel gweithwyr I am y jyaddau o lwyddiant sydd wedi bod ar ein hymdrechion. Er nad yy. swm a sylwedd ein llwyddiant yn ym- gorphori yn arianol, eto i gyd y mae yr ymwybyddiaeth gymdeithasol, social consciousness, a'r yspryd brawdgarol ac undebol wedi gwneyd dadblygiad mawr yn ystod y flwyddyn sydd yn ,efnu. I Undebau Newyddion. Achos i lawenhau sydd genym wrth glywed am y cynydd aruthrol sydd w( bod yn niferi aelodau yr oil o'r Undebau Llafur. Hefyd, y ffaith galonogol o sefydliad undebau yn mhlith dosbarth- iadau o weithwyr na feddyliwyd erioed y gallesid creu ymwybyddiaeth o'r egwyddor undebol a brawdgarol yn- -ddynt. Y mae yn ymddangos fel pa fwyaf o ymdrech a wneir gan y dosparth rcyfoethog a chyfalaf i atal ymledaeniad yr egwyddor undebol, taw mwyaf i gyd yw y cynydd. Yn yr holl gynwrf welir drwy y wlad ben-bwy-gilydd, i lygad y prophwyd a'r delfrydwr y mae .yn achos o lawenydd. Gwel fod yr hen jyfetheiriau yn tori, caethion i dra- ddodiadau crefyddol a chymdeithasol yn YlllrÝddhau o'u cadwynau, a gweith- wyr y Ib yd yn cymeryd arnynt yn wir- foddol iau y brawdgarwch cyffredinol, ac yspryd undebiaeth gydweithredol, yr hyn oil, yn ein syniad ni, sydd yn ffrwyth yspryd byd-dreiddiol y Crist. O ydyw, yn sicr,—er profiad siomedig yr eglwysi crefyddol yn lleihad parhaus yr aelodau, y mae yr egwyddor frawdol Gristionogol gyffredinol ar gyn- ydd. Trugaredd a chydymdeimlad yn cael ei drosglwyddo mor fendithlawn .drwy gyfrwng yr Undebau Llafur i fil- oedd truenus Dublin, a gweithwyr an- ffodus rhanau eraill o'r deyrnas. Cyd- ymdeimlad sylweddol yn Jbwrlymu dros £ 100,000 o bunoedd i blant, gwragedd, a dioddefwyr oddiwrth alanas Senghen- ydd. Y Galon Ddynol. Yn nghanol yr holl drychinebau ofn- adwy ac amgylchiadau cynhyrfus ar for ac ar dir, y mae 'y gwroldeb, yr aberthu disystyrweh o beryglon sydd wedi ddango,, gan lawer ddynion, yn brawf ° i galon ddynol o hyd yn barod i gael ei chYffwrdd, a, i ateb i ofynion y foment. Nid ?? eisiau ond cael y sym- bvlvdrl r. chyfrwng priodol i osod y sym- bvliad m° T11 Sweithrediad, a thuedd- iad naturin^ ??, yw cadw a meithrin bywyd. Dyna paham yr annogwn ac y cymeradwywn Cndebau Lafurawl a chYdweithrediad cymdeithaso1 i weith- V LvH  i weithwyr Cymru yn edlduol. Oblegyd ?? oes iachawdwr- iaetb weithfaol a chymdeithasol mewn ?? Cordd Ma?. ''?y??e?hasol mewn Ar Ddechreu Blwyddyn Newydd credwn fod yr amgylchiadau yn cyfiawn- hau i ni dilro tant gobeithiol (optim- istic) am y dyfodol. Gobeithio y cawn weled y gweithwyr a'r cenedlgarwyr Cymreig yn gwneyd mwy o ddefnydd o'r "Darian" er meithrin a dadblygu bywyd yn yr hyn oil sydd yn werth i fyw. ) Blwyddyn Newydd Dda  i'r Darllenwyr, Gohebwyr, Golygydd a'r Cyhoeddwyr.—Yr eiddoch, I i PEREDUR. í J

Tanchwa Etoj

Tanchwa Eto. Boreu LIun digwyddodd tanchwa yng Nglofa'r Great Western, Pwll No. 3, ger Pont-y-pridd. Daeth cwymp o'r nenfwd a mwy gydag ef. Ni wyddis sut y taniodd y nwy. Lladdwyd dau, sef Harry Bowkett, River Street, Tre- hafod; Evan Jones, 71 Queen Street, Treforest. Mor gyfnewidiol yw am- gylchiadau bywyd. Nid oedd y rhai hyn ond dechreu gweithio ar ol llawen wyliau'r Nadolig.

0 Drer DarianAberdar

0 Dre'r Darian-Aberdar. I Cydnabod Gwroniaeth. Derbyniodd dyn ieuanc o'r enw Ben- jamin D. Lewis, crythor, o'r lie hwn, dystysgrif am neidio i'r mor yn Awst diweddaf i achub dyn mewn cyfyngder. Llwyddodd i dynnu'r dyn o'r dwfr, ond bu farw o ddolur y galon. Nid oedd y weithred o herwydd hynny yn llai, a chydnabu y Gymdeithas Frenhinol e-f yn deilwng o'r thystysgrif. I "to ¡ I Marw Dinesydd Blaenllaw. Bu farw Thos. Rhoderick, prif gyfar-- wyddwr Cwmni John Morgan a'i Feib- ion, Sul, Rhag. 22il. Brodor o Ferthyr ydoedd. Cafodd annwyd pan yn cyf- lwyno allwedd i agor Iechydfa Merthyr, a brofodd yn angeu iddo. Yr oedd yn Rhyddfrydwr brwdfrydig, a bu unwaith yn ysgrifenydd y Clwb Rhyddfrydol. Dygai sel dros Ddirwest. Gwasanaeth- odd Eglwys Calfaria am flynyddoedd fel diacon, a bu yn ysgrifennydd Cwrdd I Dosbarth y Cwm. Efe oedd is-gadeir- ydd y bwrdd hwnnw yn bresenol. I Bwrdd y Tlodion. Cwyna'r Gwarcheidwaid y telir gor- mod o arian i bobl dlodion mewn out- door relief. Ar yr un pryd y mae y Bwrdd hwn yn gwario degau o filoedd ar adeiladu palasau. Adeiledir Tloty yn Aberdar, a chartrefi yno, palas gwych i'r dyn sydd yn edrych ar eu hoi, a'r bwyd gore i ddegau o swyddogion a chwn, tra y cwynir fod ein hen bobl a'n tlodion gwirioneddol yn derbyn ychydig sylltau or arian a gesglir yn eu henw hwy, sef Tal y Tlawd. Awgrymwn enw newydd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, sef Y Bwrdd Adeiladu. I Cinio Nadolig yn yr Homes. Rhoed cinio i blant y Cartrefi dan nawdd Gwarcheidwaid Merthyr ar Ddydd Nadolig. Addurnwyd yr adeil- adau ag arwyddion yr wyl flynyddol, ac edrychent yn siriol dros ben. I Y Wraig o Samaria. Perfformiwyd y gwaith uchod gan y Gymdeithas Gorawl sydd yng Nghwm- aman yn y Neuadd Gyhoeddus yno Ddydd Nadolig. Caed cynhulliad rhagorol a chanu da. Arweinid yn fedrus gan Mr. Ed. Lewis. I Cwrdd Ebenezer. I Cynhaliwyd Cwrdd Blynyddol Eben- ezer, Trecynon, Ddydd Nadolig. Gwas- anaethai y Parchn. Emrys James, Pontypridd. a W. J. Rees, Porth. Yr oedd yn gwrdd poblogaidd iawn. I Cor Calfaria yn Perfformio Heseciah. i Canwyd gwaith Benson gan y cor i uchod dan arweiniad Mr. Dl. Griffiths, nos Wener, Gwyl y Bane. Cymerwyd rhan yn y Gyngherdd gan amryw ddat- ganwyr lleol. Gwnaeth pawb eu rhan yn dra chamnoladwy.

Difyrion y Nadolig ar Lanan y Cynon ar Aman j y Cyno ar Aman

Difyrion y Nadolig ar Lanan y Cynon a'r Aman. j y Cyno a'r Aman. I GAN "COCH Y BERLLAN." Di-dwf oedd Die Shon Dafydd—a'i enw Heb un yn olynydd I A mwy o'r swyn i Gymru sydd Y daw yn hau'r ddramod newvdd. < Noson Ion yn llawn o ddysg a I doniolwch Cymreig a gaed y Nadolig gan Gwmni Dramyddol Saron, Abet I Aman. A'r trydydd eynyg- oedd hwn [ i'r Celtiaid yma-i droi allan Die Shon Dafydd yn y lie. Ac hawdd ddeall wrth wladgarwch y gynulleidfa fod y ddrama eisioes wedi gwreiddio yn eu serch, a phris isel fydd ar snobydd. ( iaeth Seisnigol yn y cylch hwn os try y Cwmni eu talent i roi rhagor o ddramodau i'r werin. Adwisgwyd y cymeriadau gan y Celtiaid yma —Die Shon Dafydd, Tom Evans; Wil y Crydd, Tom Ed- wards; Beto Wil y Crydd, C. A. Davies; Jac Dafydd, T. J. Phillips; Sion Huw, Ben Stephens; Sion Dafydd, Tad Die, Oakley Rees; Sioned Dafydd, ei fam, Sarah Wil- liams; Angharad Lloyd, Lizzie Ann James; Let, ei morwyn, C. A. Wil- liams; Mari William Dafydd, Anne Jane James; Sian Morus, A. M. How- ells; Dau Seguryn, T. Lloyd a J. Perkins; Clercdod, D. J. Phillips a D. R. Phillips; Heddgeidwad, D. E. Davies; y Llwyfanwr, yr awenydd cain Dewi Aeron, etc. Chwareuwyd rhan y penbwl snob- yddol gan Die yn eithriadol o dda, ac eglurwyd iddo drwy brofiad tost fod gwerthu iaith a byw ar fradwriaeth yn magu poenedigaeth ddi-fesur. I'r dim oedd portread Mr. Jenkyn yr ¡ ysgolfeistr o'r trybestod sydd wedi ei wneyd yn Nghymru ar egin y Genedl ynglyn ag addysg. Ach a fi, y mae penbocthiaid fel hyn wedi bod ac yn bod fel Cantre'r j Gwaelod yn cadw y Ilif-ddorau ar agor i iaith a gwladgarwch a chrcfydd y Genedl i soddi i waradwydd oesol. Camp oedd Wil y Crydd. Crydd gonest, ac yn Gelt i'r earn. A Beto ei wraig cystal ag yntau, ac yn cario llond calon o garedigrwydd. Profodd Jac Dafydd ei hun yn impyn o ysgolor penigamp, ac iaith ei fam wedi cael y lie goreu yn ei galon ac yn ei barabl. Trodd Sion Huw mas gydag ysbryd losgedig, ac fel bollt o fo'n y clawdd i fesur yr ysgolfeistr am orfodi ei grotyn bach i beidio arfer y Gym- raeg. Penigamp tybiwn i oedd Sion Dafydd. Tad Die, a Sioned ei fam. Yr oedd yn eu goslef a'(i hymadrodd drwch o brofiad henaint, a theimlad fel tad a mam digellwair. Angharad Lloyd, blodyn Bryn- gwyddon, oedd y rhian yma, a chad- wodd urddas y teitl i'r lan yn gamoi- adwy yn ei hymadrodd a'i hymddos- iad. Ysgarmes flin fu rhwng Jac Dafydd a Richard Jones Davies am galon a llaw Angharad. Ond y mae hanes y "Ferch o Gefn Ydfa" a'r Ferch o'r Seer yn bethau byw o hyd, ac felly y bu yn ngharwriaeth Angharad; dewisiodd gymeriad a gwybodaeth yn hytrach na dwli a ehvtfoeth. A Let, morwyn Angharad, oedd yn llawr asbri fel morwyn ac yn cadw trefn yn y Plas. A Mari AMlliam Dafydd oedd yn llawn bywyd a gwaith, a lliw yr afal ar ei gruddiau. A Sian Morus yn ei gwisg Gymreig yn dangos fod cenedlgarweh v Celt heb farw, ac fod ystyr i'r ddrama vn nyfodol Cymry. Doniol i'r pen fu y Ddau Seguryn, a'u harebedd yn cario llonaid col o gymhorth i chwerthin. A di-dr\vst ond gofalus oedd yr Heddgeidwad, ac yn chwilota am ladron ar lwybrnu Llanfynyddog. Difyr dros ben oedd caneuon y plant, a dysger rhagor. o alawon Cymry iddynt. Llanwyd y gadair o fraich i fraich gan y Parch. T. Jones, Pontyrhyl, un o fechgyn Aber Aman trwyddo. A chafwyd cnwd o benillion telyn gan y Fonesig ieuanc Nellie Jones, Cwm- aman, a'i brawd Evan Jones yn taro v tanau, ynghyd a chan Gymreig lan gan James Davies. Diolchodd John Davies, o Goleg Aberhonddu, i'r ead- eirydd am ei rhan, ac eiliwyd gan Gwynwawr. Diweddwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." "SANTA CLOS" YN YSGOLDY SILOA. Noson ddifyr Ion gafwyd nos dranoeth i'r Nadolig gan Geltiaid ieuainc y lie hwn. Rhan o esgobaeth y proffwyd a'r gwreiddiol Silyn Evans sydd yn cadw Gair Duw yn uchaf yma. Ac mae prydferthwch Rhosyn Saron yn ei dwf a'i liw yn y Taber- nacl hwn trwy y blynyddoedd. Dyma enwau y rhai fu yn noddi y plant yn feibion a merched cerdd, ac yn rhoi dwy awr o fiwsig calon i'r dorf:—Ar- weinydd, T. Parry; D. Stephens, G. Parry, J. Parry, F. John, S. James, Mrs Griffiths Mrs Parry, S. A. Wil- liams, M. A. Jones, L. M. Phillips, a A. James. Camp o beth fyddai erbyn y tro tiesaf i'r plant i ddysgu rhywbeth Cymreig, a lliw y rhedyn a'r grug arno yn lie gadael i fywyd Hengist i flaguro fel y lawryf gwyrdd yn ein capeli, a Phantycelyn yn gwywo fel blodeuyn y glaswelltyn. Mor o gan yw Cymru i gyd yw hen arwyddair Celtiaidd Cerdd Cwm Aman. Y Nadolig cafwyd datganiad gan Gymdeithas Gorawl y lie o'r "Woman of Samaria" (Bennett); Hear my Prayer (Mendelssohn) a Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw. Israel (John Thomas). Pen y gan oedd Mr. Edward Lewis, ac yn cyn- orthwyo oedd Miss F. Hilda Richard- son, Madame Hambly Spry, Mr. Ben Davies, Mr. D. Bodycombe. Wrth y tanau yr oedd Miss Morfydd Lloyd a Mr. Austin H. John, ynghyd a cherddorfa gref. Cafwyd gwledd uchelryw, a nawddogaeth lwyr i'r cor i droi allan eto doraeth o fiwsig fel yn y blynyddoedd a fu. Ai nid mor hawdd yw cael cwmni ar lanau yr Aman i gwympo i fewn i'r dvffroad ynglyn a'r ddrama Gymreig? Gwn fod digon o athrylith yn yr hen Gvvm Gymreig, dim ond i'r ysbryd ddechreu symud ar wyneb y dyfnder.

Cymanfa Ddirwestol Penygraig ar Cylch

Cymanfa Ddirwestol Peny- graig a'r Cylch. Cynhaliwyd yr uchod dydd Gwener, Rhag. 26ain, yn Nghapel Nazareth (M.), Trewilliam. Trefnwyd cyfarfod y boreu gan Mr Rd. Morgan (B.), Pen- boreu a'r prydnawn i'r plant yn fwyaf arbenig. Llywyddwyd yn y rhiwfer, ac arweiniwyd y canu gan Mr D. Hoskins, Pisgah. Holwyd y plant yn y ffydd ddirwestol gan y Parch. J. Ivor Jenkins, Nazareth (M.). Dechreuwyd y cyfarfod hwn trwy ddar- llen a gweddio gan Mr. T. Davies, Pis- gah, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. Noah Jones, Seion (W.). Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan y Parch. D. G. Evans, Tabor (A.), Penygraig. Arweiniwyd y canu gan Mr. Rd. Morris, Saron (A.), Trewilliam. Holwyd y plant gan y Parch. E. Turner, Seion (W.). Adroddwyd pennod a, Air Duw gan Elvet Lewis, Seion, a chaf- wyd unawd swynol gan Katie Smith, Tabor (A.). Dechreuwyd y cyfarfod hwn trwy weddi gan Miss Rosina Davies, yr Efengyles anwog, a gor- phenwyd yn y ffordd arferol gan y llywydd. Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan y Parch. Ll. S. Davies, Trewilliam. Ar- weiniwyd y canu gan Mr. D. Hoskins. Cafwyd yn y cyfarfod hwn ddau anerch- iad gwir ragorol. Y cyntaf gan Miss Rosina Davies, a'r ail gan y Parch. Rowland Hughes (A.), Tylorstown. Yr oedd y plant yn canu yn swynol ar hyd y dydd, ac ar waethaf y tywydd wlaw- og a gwyntog, cafwyd cynulliadau gweddol iawn. Ni ddylid er dim llaesu dwylaw gyda'r gymanfa hon, oblegid v mae yn amlwg ei hod yn gwneud gwaith rhagorol o blaid sobrwydd yn y cylch poblog hwn. Nid yn fuan yr anghofir cyfarfod yr hwyr. Yr oedd Miss Davies yn siarad yn naturiol ac effeithiol dros ben, a'i geiriau yn myned at y galon. Rhoddodd i ni hefyd un o'i melus ganeuon, nes tynu dagrau o lygaid llaweroédd. Hefyd, yr oedd y Parch. Rowland Hughes ar ei uchelfanau. ac yn gwlawio tan a brwmstan ar benau noddwyr y fasnach feddwol. Profodd fod y fasnach fel masnach wedi ei syl- feini ar dwyll ac ar anonestrwydd. Byddai yn dda i'r wlad i gael clywed yr anerchiad hwn, oblegid y mae yn gyn- yrch meddwl ac ymchwiliad. Dechreu- wyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. R. Hughes, a therfynwyd gan y Parch. D. G. Evans. Llwyddiant eto i'r Gy- manfa.

ICrynhodebI

Crynhodeb O'r Gwelliantau a gynhygir yng Nghyn- llun Tirol y Llywodraeth. I. Ynglyn a'r Llafurwr. i. Fod Comisiwn "o awdurdod deddfol cyflawn" i benderfynu cyflog- au ac i sicrhau i bob llafurwr o ym- drech a doethineb cymharol, delerau bywoliaeth rhesymol, ac y'mhlith pethau ereill ei fod i gael digon i dalu rent, fyddo yn deg, am ei dy. 2. Os gall yr amaethwr brofi fod hyn yn faich ycliwanegol, fod y Comisiwn i ystyried pa rent ddylasai ef dalu, gan gymeryd i ystyriaeth pa un a yw yn talu gormod neu rhy fach. I 3. Fod y Wladwriaeth i wneud archwiliad i ansawdd tai byw yn y wlad, gyda golwg ar i'r Wladwriaeth adeiladu tai lie byddont yn brin. 4. I fwrw golwg eangach a mwy cyffredinol er galluogi y llafurwr ddyfod yn berchennog ar ei dyddyn ei hun, y Comisiwn i feddu awdurdod i benderfynu pris y tir at y cyfryw dy. II. Ynglyn a'r Amaethwr. i. Dim bwriad o gwbl i gyfaddasu trefn Iwerddon at y wlad hon; nid ydym yn credu fod amaethwyr Lloegr ar y cyfan yn talu crog-bris, ac y mae cryn lawer yn talu llai na gwir werth y tir. Prif gwyn yr amaethwr yw an- sicrwydd ei afael yn y tir, o ganlyn- iad nid oes ganddo yr un galon i weithio ac i wario ei eiddo ar y tir, a phe byddai ganddo afael a sicrwydd am y dyfodol. Rhoddir awdurdod i'r amaethwr ddwyn ei gwyn o flaen y Comisiwn pan goder pris ei fferm, neu pan ddigwyddo gyfarfod ag amgylchiadau amaethyddol croes neu anffodus. 2. Fod amaethwyr bychain a thai- dalwyr i gael hawl gyffredinol i ddwyn telerau eu cytundeb o flaen y Comisiwn. v 3. Fod y "Ground Game Act" i gael ei gwella, fel ag i wneod ffwrtld yn helacth a'i colledicn ga'r ulcih- wyr dan y drefn bresenol. 4. Ei fod i gael iawn gyfiawn a theg, ac nid fel y mae yn bresenol, pan fyddo'r meistr-tir yn ymyryd a'i fferm neu yn ei symud o hono. 5. Cyfreithiau a gweinyddiadau esmwythach er sicrhau modd i dros- glwyddo nwyddau a chydweithredu, a gwasgaru addysg a gwybodaeth ar faterion amaethyddol. 6. Gweinyddiaeth dirol er cyfuno'r gwahanol adranau amaethyddol sydd yn bresenol ar wahan ac yn ddidrefn, i brynu a meddianu tiroedd sydd yn ddiwrtaith yn bresenol, a'i gwneud yn wrteithiedig, neu godi'r planigfeydd. III. Tiroedd Trefol. i. lawn am wclliantau ac adeiladau wedi eu codi gan y tenantiaid. 2. Personau wedi codi lesoedd am dros un-flynedd-ar-ugain i gael hawl i apelio at y Comisiwn am ei had- newyddu am gyfryw amser a chyfryw rent a thelerau (heb wneud cam a'r meistr na'r cyhoedd) ac y gwel y Comisiwn yn rhesymol. 3. Mewn lesoedd newydd nad yw'r gwelliantau ar adeiladau godwyd gan y tenant i'w cymeryd i ystyriaeth wrth adnewyddu y Ies a thelerau y rent. 4. Fod ymchwiliad cenedlaethol i gael ei wneud o'r tai byw yn y tre- fydd, pa un fydd yn safon i weithred- iadau dyfodol yr awdurdodau lleol, y I rhai mewn amser fyddant yn feddianol ar fwy o awdurdod a gallu i weithredu. I KARL. I

Nodion HeolycywI

Nodion Heolycyw. I GAS CREUDDYX. I Dydd Nadolig. I Bu y brodyr a'r chwiorydd perthyn- ol i'r gwahanol eglwysi yn y lie yn prysur barotoi yn ystod yr wythnosau diweddaf gogyfer a dathlu yr hen wyl gysegredig—y Nadolig. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod adloniadol ym Methel Newydd. Cymerodd Gobeith- lu Bethel ran o dan arweiniad medrus Madam Taylor, A.R.C.M., Heolycyw. Awd trwy raglen dyddorol a chwaethufc. Cymerwyd y gadair gan Mr. John Evans (Cenin), yr hwn a'i llanwodd hyd y ddau ymyl. Wedi cael anerchiad pwrpasol o'r gadair ar amcan y cyfar- fod, awd drwy y rhaglen ganlynol:— Unawd ar y crwth gan Eunice Chil- cott. Cydgan gan y Gobeithlu yn swynol ddigon. Unawd gan Mr. Ted Jones, Nanty- moel. < Deuawd gan Mr. John Williams a Miss Bronwen Williams ar yr offerynau cerdd. Deuawd gan Mri. Jones a Rees, "Mae Cymru'n Barod," yn feistrolgar dros ben. Deuawd ar y berdoneg gan Mary a Janet Edwards. Can gan Mr. Ted Jones. Adroddiad gan Miss Doris Davies. Yn neillduol o dda, a gorfu iddi ail ym- ddangos ar y llwyfan. Can a chydgan gan y Gobeithlu. Can gan Katie Hawkins. Can a chydgan gan Mary Edward. Deuawd ar y berdoneg gan N eta Hawkins a W. J. Hawkins. Unawd gan Mr. W. Rees. Adroddiad gan Doris Davies. Can gan Miss Mary J. Thomas. Cydgan gan y Gobeithlu. Y mae clod mawr yn ddyledus i Madam Taylor am barotoi y rhaglen mewn cyn lleied o amser. Wedi talu diolch i'r cadeirydd a'r oaiitorion di- weddwyd drwy ganu Hen NVItti fy Nhadau." Paratodd Ainon, Eglwys y Bedydd- wyr. (iaden Xadolig er difyru y plant. A chafwyd difyrwch ddigon wrth dynu y teganau a'r ffrwythau oddiai- y cangau, yn neillduol felly i rai mewn oed. Cynhaliwyd cyfarfodydd preTetlvu Salem, M.C., Pencoed, dydd Nadolig. y Parchn. W. Thomas, Tabor. Maesteg, a R. Roberts, Glyncorrwg, yn traddodi y genadwri i gynulleidfaoedd lluosog ar hyd y dydd. Dymunwn flwyddyn newydd dda i Gwmni newydd y Darian; derbynied y gohebwyr a'r derbynwyr yr un dymun- iad.

Advertising

CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y IIMAt HYN. Esgeulusdad a unrhyw niwed I rhmi hyn drwy ddantwain neu glefytf aN achoti Blood Poisoning a Marwolaeth. Maddyginiaeth Effeithiol. Er mwyn ysgol Perygl rhali II ymarfar mewn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUS A SICII A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn Met ei gydnabM gan filoedd fel y meddyglin mwjil sicr a diogel a ddarganfyddwyi erioed at iaehav Clwyfau, AYchollion, Tardd- iantau y Cnawd, Eczema, Craoh A Nedd ya Mhenau p I a n t, Llosgiad. au, Yspl. danau, Sou r v y, L I u 8 r ad P I a n t, 4rp Senywad a Baba-nod, Tarwden, Cout, cymalau t Rheumat- les, Poen Yr oedd pen fy mles- :J:, Flies, tyo mewn st-sit eohry«l< ;'nod If h .)¡L"odd voir-s effelthict hi yu bur fuan- CLWYFAU E'lli- ar COESAU. Miioedti yn tyatio I'w Effeithiau Rhyfetldoi. RHODDWCH BRAWFARNO G weiihad sydd slcr, Ar werth gan bob Chemist a Stores an l/H. Gofyner am Comer's Balm. Mtb- wch weled enw jaoob Hughes ar bob blwcb. Heb hyn nid yw gywir. Neu danfoneir ei gwerth (P.O. neii Stamp.) at Jacob Hughes, Manufacturing Chem- ist, M.P.S., L.D.S., Panarth, Cardltt. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.