Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

HYSBYSIAP. YSGOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Befydlioyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rbaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Athro.

Advertising

W. WILLIAMS, JEWELLER, &c., 21 Castle St., Swansea. Soeoict/itios: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh at y Cymro Os am heirdd fodrwyan aur, Oriaduron ac awrleisiau, Geman a chadwynau claer: Yapeotol gelfydd, bin-fynegydd, Gwrea-fesnrydd, owmpawd mor Geir gan Williams, Heot y Castell Trowcb i mewn i wel'd ei stdr.

Y CYNHWYSIADf

Y CYNHWYSIAD. Yn Fan ac yn Amal Tud. 1 Ar y Twr yn Aberdar. 1 Colofn Llafur 1 Y Stori, Drychiolaethau Dan y Ddaear 2 Beirniadaethau 2 Y Golofn Amaethyddol. 3 Cymanfa'r Annibynwyr 3 Llyfroniaeth 3 Nodiadau'r Golygydd p 4 Dydd Gwyl Dewi 4 •O Deifi i'r Mor. 5 Ar Lannau'r Tawe 5 Oddiar Lechweddau Caerfyrddin 5 Colofn y Plant g O'r Wy i'r Dywi 6: Coffa Mrs. Mary Richard 6 Cymanfa'r Bedyddwyr 6 Colofn y Bobl Ieuainc 7 Yr Eglwys a Chwestiynau Cym- deithasol 7 j 'Colofn Barddoniaeth 8 11 L __—_

Yn Fn ac yn AmLI

Yn Fån ac yn AmL I Pamffledyn gwerthfawr ydyw eiddo M. H. Jones, B.A., Ton Pentre, ar Undeb Ysgolion Sul y Byd, ac yn rhoddi hanes Cynhadledd Zurich a gynhaliwyd Gorffennaf 8—15, 1913. Ceir yma gip- drem ar waith y Gynhadledd a chryn- hodeb o'r areithiau draddodwyd yno. Hon oedd y seithfed o gyfres o Gynhad- leddau a gynhelir bob tail- blynedd. Diddorol yw deall i'r Gynhadledd fod ar ei thro yn Jerusalem ac yn Rhufain. Yr oedd cynrychiolwyr n ddeg a thri- ugain o wledydd yn Zurich. Yn eu plith yr oedd deuddeg cynryohiolydd ar hugain o Gymru. a dyehwrlodd y rhai uuy yu llivvvii 'urut? we E-'v:uu Sul eu gwlad eu hunain, ,a ch.,isir treinu -cynhadledd i'r perwyl. Wrth son am hyn dywed yr awdwr fod "arnom eisiau mewn Cymraeg fwy o lenyddiaeth Ys gol Sul." Cydolygwn yn hollol ag ef. Os oes rhywun a garai bamffledyn byw, diddorol, a'i ddarllen yn ysbryd- iaeth, anfoned at yr awdwr am hwn. Ei ,bris yw dwy geiniog, neu 1/6 y dwsin, a 15/ y cant. Yn yr Eidal ni cheir ond un BeibI ar gyfer pob tair mil o'r bobl, a gwna'r Pabyddion bob ymdrech posibl i gadw'r Ysgolion Sul dan draed, fel na ddelo'r werin i wybodaeth o'r gwirionedd. "Digalon yw'r gwaith yn Rwsia hefyd. Gorchymyna'r Llywodraeth gan pob Ysgol Sul, a chosbir y werin am ddar- llen y Beibl.O bamffled y Parch. M. H. Jones. Y mae digon o Feiblau yng Nghymru, ac ni chosbir neb yma am eu darllen. Am wneud yr hyn orchymyna'r Beibl y ,.cosbir llawer yma. Llyfryn destlus yw Dydd Gwyl Dewi 1, a gyhoeddir gan Adran Gym- reig y Bwrdd Addysg. Rhoddir ynddo awgrymiadau gwerthfawr sut i gadw'r WYI Genedlaethol yn Ysgolio)i Elfen- nol a Chanolradd Cymru, a chyfarwydd lie 1 gael defnyddiau Rhaglen. Ymhlith y pethau a gymeradwyir y mae canu alawon Cymraeg a chaneuon gwerin, canu penhillion, adrodd storiau o'r 1 clasuron Cymreig, canu'r delyn, chware drama, ac yn y fclaen. Da gennym weled yr awdurdodau mor bendant gyda golwg ar ddysgu CyUl- raeg, a theimla pob Cymro yn ddiolch- gar o galon iddynt. Awgrymir fel cys- tadleuaeth i blant ysgrifennu am y goreu a ganlyn :— At Blant Cymru. I Y mae gennych chwi, blant Cymru, waith mawr i'w wneud. Rhaid i chwi gadw yn fyw yr ysbryd cenedlgarol, yr ysbryd a wnaeth yr hen Gyinrv y gwyr I a'r gwragedd dewraf a'r puraf yn y byd. I gadw'r ysbryd yna, rhaid i gadw yr hen iaith, 'hen iaith fy nhadau., Byddwch falch o' ch cenedl. byddwch falch o iaith eich cenedl, a, siaradwch hi bob amser." Seren Gwent. Caniateir cadw'r wyl yn y Gymraeg neu yn y Saesneg fel y? byddo'r am- gylchiadau yn gofyn, neu vn v ddwy nodiari Da gennym er hJ nny weled y nodiad 0 ganlyn: Dysgu'r famiaith yw Bydder ??i? addysg yr -'?? Yddr Syd? ? gwir ?? ?? ysgol- ymheu yg?? ?? ni fydd ?? achwyn ymhen ychYdig ilynyddoedd ar gadw Gwyl Dewi'n Saesneg. (7?eir v y llyfryn hefyd grynhodeb li'-Il wyddisa?Dewi??g?Bt?? ,t, ?? ??? ?y ?n Cymru yn y Diddorol iawn yw yr hanes am Syr Huw Ganoldre, a'i Afon Newydd i ddiodi miloedd Llundain. Yn y flwyddyn 1613 y gorffennodd y gorchest- waith o ffurfio afon i arwain dwfr o ffynhonnau'r Afon Lea i ganol dinas Llundain. Gorfu ar anhawsderau di- ddiwedd, a gwrthwynebiad mawr yn yr anturiaeth hon. Llawenychem, pan yn mynd gyda glan yr "Afon Newydd" yn Llundain yn ddiweddar, fod prif ddinas y byd yn ddyledus i Gymro am un o'r cymwynasau pennaf a wnaed a hi. Synnem hefyd fod pob un y crybwyll- asom y peth wrthynt yn Llundain heb wybod dim am y Cymro yr oeddent o hyd yn yfed dwfr o'i "afon." Yn Abertawe dydd Mawrth diweddaf gwysiwyd Amy Parker a'i bachgen i'r I llys am ladrata gwerth wyth ceiniog o lo oddiar gilffordd Tanygraig. Dywed- odd y fam y cymerai hi y bai i gyd, a gwnaeth apel ddwys am dynerwch. Dy- wedai nad oedd ganddi dan, fod ganddi wyth o blant ac nad oedd cyflog ei gwr ond gini'r wythnos. Bu raid iddi dalu deg swllt a'r costau. Yr ydym wedi cymeryd y ffeithiau noethion hyn o bapur arall. Os gwyddai'r ynadon am rywbeth nas dywedir yn yr adroddiad uchod, dylesid ei wneud yn hysbys. Y mae'r adroddiad fel y mae yn adlew- yrchu yn ofnadwy arnynt. Diau fod y ddynes druan wedi troseddu, ond o dan yr amgylchiadau dylasai'r ynadon dalu ddirwy a'r costau yn ei lie. Ffaith ddyddorol ydyw fod y H Darian" yn cychwyn penod newydd yn ei hanes. Gan' ralynedd i'r mis, a bron i'r diwrnod y cychwynodd y newyddiadur cyntaf yn y Gymraeg, sef "Seren Gomer," dan olygiaeth yr an- farwol Joseph Harris, ac hefyd fod Golygydd itenv),dd L)ariati yn oyw mor agos i Abertawe. Ymddangosodd y rhifyn Cyntaf o hono ar Ionawr laf. 1914, a dyma i chwi deitl ac argraffeb y Seren":—"Seren Gomer I neu I- Hysbysydd Wythnosol Cyffredinol dros holl Dywysogaeth Cymru. Cyf. i. Rhifyn i. Dydd Sadwrn, Ion. i, 1814. Pris Chwe Cheiniog a Dimai.! Abertawe. Argraphwyd a Chyhoedd- wyd gan D. Jenkin vn Heol-v-Cas- tell. [Maint 4 tudalen, Crown; 20 modfedd wrth 15.] Ceir ysgrif hynod o ddyddorol a gwerthfawr gan y Parch. T. Shank- land ar "Joseph Harris a Chychwyn- iad Llenyddiaeth Gyfnodol yng ghymru" yn hrafodion." Cym- deithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1912-1913." Mewn cysylltiad a Llenyddiaeth Gyfnodol Cymru, mae Abertawe yn hynod am dri pheth :—Yn Abertawe y cychwynwyd y newyddiadur wyth- nosol Saesoneg cyntaf yn Nghymru, sef 1804. Yn Abertawe y cychwyn- wvd y newyddiadur Cymraeg wythnos- ol gyntaf, sef 1814, a dylai ddathlu canmlwyddiad y cychwyniad eleni. Yn Abertawe y cychwynwyd y newydd- iadur Saesoneg dyddiol gyntaf yn Nghymru, sef -1861. Dylai Abertawe vmffrostio yn hyn. Noson gerddorol oedd trefniant Cymdeithas Lenyddol a Dadleuol Eglwys y Trinity (M.C.) nos Fercher, lonawr 22ain, a'r rhaglen dan ofal y Fonesig Ada Williams. Cymerwyd ran gan y rhai canlynol :—Boneddi- gesau Morfudd Williams, Gwladvs Jones, Gwen Davies, Morgan, Boneddwyr Cerwyn Phillips, Edwards, \V. T. Jones, T. Rees, a'r Fonesig Ada Williams a'i chwmni. Llj^ydd- wyd gan y Bonwr B. Watts Jones.

Aberafon I

Aberafon. I I Drwg genym gofnodi marwolaeth un 0 r brodorion mwyaf adnabyddus a pharchus yn Aberafon, sef y brawd Robert Morgan, "Cwmafon Road. Bu farw SuI. y 18fed o'r mis hwn, yn 70 nilwydd oed. Yr oedd yr ymadawedig o deulu parehus ac yn perthyn yn agos i'r diweddar Barch Rhydderch ap Mor- ga.n, gweinidog cyntaf Eglwys y Taber- naci, AJoerafon. Robert Morgan oedd y diacon hynaf yn yr eglwys hon. Yr oedd yn avolygydd o'r Ysgol Sul, yn cy- meryd dyddordeb mawr yn nghaniad- aeth y cysegr, yn Ilenor gwych. ac nid yn anaml yr jmiddangosai rhai o'i weith- iau barddonol yn y "Tyst." Cafodd gynhebrwng tywysogaidd, a chymerwyd rhan ynildo gan amryw weinidogion lleol ynghyd a chvn-weinidog a gwein- idog dyfodol yr eglwys. sef y Parchn. James Evans, B.A., Caerdvdd, a T. Og- wen Griffiths, Rhyl.

Ar y Twr yn Aberdar

Ar y Twr yn Aberdar. Y Parch. J. IsaacJEvans. Y Parch. J. Isaac.Evans. Bu farw y gwr uchod yn Ironbridge, Salop. Gwasanaethodd yr eglwysi An- nibynol yn Heolgerrig, Merthyr, a Bethesda, Abernant, am tua 40 mlyn- edd. Ymddiswyddodd o ofal bugeiliol yr eglwysi hyn rhai blynyddoedd yn ol, a threuliodd weddill ei oes mewn neill- tuaeth gyda'i fab yn y He uchod. Yr oedd yn 75 mlwydd oed. 0 Drecynon i Batagonia. Cydweinidog y Parch. Evan Evans, Cwm Hyfryd, Patagonia, yw Mr. Ed-: ward D. Rees, o Drecynon. Yn Eben- ezer, Trecynon, y mae ei rieni. Gwein- idog arall ymhell o'i wlad a fagwyd yn yr eglwys hon yw y Parch. J. Rogers, I Deheudir Affrica. I Galwad i Weinidog. I Rhoddwyd galwad unfrydol yn ddi- weddar gan eglwys Calf aria (B.), Llan- elli, i'r Parch. W. T. Francis, Gwawr. Y mae Mr Francis yn un o'r pregethwyr hyotlaf yn y pulpud ac yn gwasan- aethu mewn cyfarfodydd mawr fynych- ed a neb yn ei enwad. Llwyddodd mewn ychydig amser i wneud lie ddwfn yn serch llu o gyfeillion yng nghwm Aberdar. Gwr hawddgar yw efe sy'n taenu heulwen ar ei lwybrau, a byddai'n golled iddo gefnu mor fuan. Gwyrth yn ol y diweddar Barch. W. James, Bethania. Yn ei adolygiad yn y Goleuad ar Ddarlith Davies am 1913 gan y Parch. 3E. O. Davies, Bala, cyfyd Dr. Cyn- ddylan Jones sytiiad Mr. James, Bethania, mewn darlith flaenorol ar bwnc y gwyrthiau. Barn y Diwinydd o Bethania am wyrth oedd ei bod yn effaith deddfau cyfrin y cread sydd hyd yn hyn heb eu darganfod, ond oedd yn wybyddus i Grist ac a fyddant yn wy- byddus i wyddonwyr y dyfodol. Y mae Cynddylan yn unfarn a'r gwr o'r Bala mai effaith galluoedd tuallan i natur yn dyfod i mewn i natur yw gwyrth, er hynny fceia y darlithydd diweddaf am anwybyddu ohono y meddyliwr dwfn a fu'n traethu o'i flaen ar y pwnc tra'n cydnabod awduron estronol. Cymry yn lselu Cymry. I Beia Cynddylan Gymry am gyfeirio at awduron Saesneg a Germanaidd ar draul anwybyddu eu cystal a.'u gwell yng Nghymru. Dywed mai darostyng- iad yn nheimlad awdur Cymraeg yw difynnu Cymro. Gwel yr un peth yng ngwaith arholwyr yn nodi testyn-lyfrau Saesneg i'r arholiadau yn bytrach na llyfrau Cymraeg rhagorach. Diameii fod hwn yn air yn ei bryd. t Y Cymrodorion. I Yng nghyfarfod diweddaf y Cymro- dorion cafodd tair o'r chwiorydd y noson iddynt eu hunain. Darllenwyd papur gan y Fones S. M. Morgan ar "Ddiffygion yr Eisteddfod," y Fones Emily Morris ar Gelf yng Nghymru," a'r Fones M. A. Jones ar Ofergoeledd Cymru." Gwnaeth pob un o honynt ei gwaith yn deilwng-, a chaed cyflawn- der o ddefnyddiau rhyddymddiddan hwyliog ar y diwedd. Dywedai Miss Morris fod tri arlunydd wedi llwyddo i adael argraff ar gerf Prydain, sef Rd. Wilson, G. F. Watts, ac E. Burne Jones. j Prif gerflunydd y genedl oedd John Gibson, o'r Fforddlas, ger Conwy. Gweinidog Bethel, Abernant. I Cynhaliwyd cyfarfod sefydlu y Parch B. Williams, Llwynhendy, yn weinidog ar yr eglwys yn Abernant, Ionawr 26. Cadeirydd y cyfarfod oedd y Parch. J. Griffiths, Calfaria, Aberdar. Siarad- wyd dros eglwys Abernant a Llwyn- hendy yn ystod y cyfarfod yn ogystal a thros Aberdar yn croesawi y gweinidog newydd gan frodyr o'r cylch. Gwasan- aethwyd yn ystod y Sul gan weinidog- ion lleol, a nos Lun gan y Parch. E. R. Jones, Llanelli.

ROBYN BACH I

ROBYN BACH. I Robyn bychan ar y llwyfan, I Gwelaf di; Ar ddiwrnod heb dy lonod, Bur i ni. Cwyd dy galon, fe ddaw'n union Wanwyn mwyn; Wna ddihoeni llymder oerni, Grea gwyn. I EQS HAFOD. "'1

COLOFN LLAFUR

COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUR. Llongyfarchiad. Llongyfarchwn y pum cynrychiolydd llafur yn Abertawe a benodwyd yn Ynadon Heddwch yr wythnos ddiwedd- af. Y rhai hyn ydynt: Y Cynghorwyr Ivor Gwyn, T. Merrells, W. Morris, D. Williams (Cyn-Faer), a Thomas Wil- liams, gyriedydd peirianol ar y Mid- land. Rhoddwyd i Abertawe 26 o Ynadon Heddwch newyddion. Gyda'r pump a enwyd cafodd 15 o Ryddfryd- wyr a 6 o Geidwadwyr eu dewis. Hwyr- frydig iawn yw yr awdurdodau yn j gwneyd eu dyledswydd tuag at y dos- barthiadau gweithiol yn y penodiadau hyn. Meddylier am ddosbarthiadau mawrion gweithfaol y Rhondda, Aber- dar, Merthyr, y Garw, yr Ogmore, a'r Western Districts, heb ond ychydig neu ddim o weithwyr profiadol yn eistedd i farnu ar y Meinciau Ynadol. Yn sicr, fe ddylai yr Undebau Llafur yn y gwa- hanol ddoabarthiadau hyn godi eu llais I yn gryf ac awdurdodol, a hawlio y fraint warcheidiol hon o gael dynion sydd yn fyw i amgylchiadau eu gwaith a'u bywyd, i farnu ac i weini cyfiawn- der cyfreithiol yn y gwahanol lysoedd. Ysgol Fwnyddol. I Y mae cryn dipyn o ymdvafodaeth wedi bod yn ddiweddar rhwng gwahan- ol awdurdodau addyegiant ganolradd ac uchradd yn Neheudir Cymru. Wedi sefydliad yr Ysgol Fwnyddol gan Feistri Glofaol y Deheudir yn Nhrefforest, y mae ymgais wedi ei gwneyd i gyfuno gwaith yr ysgol hon gyda dosbarthiad- au Pwyllgor Addysg y Siroedd Deheu- o, atj hefyd eu chysylltu a'r Brif Ysgol yll ^STghaerdydd. Y mae cyfarfodydd brwd wedi eu cynal o gynrychiolwyr y gwaha.nol awdurdodau. Yn mhlith y cyfryw yr oedd cynrychiolwyr Ffeder- ashwn y Glowyr, ac yng nghwrs y dra- fodaeth, y mae y rhai hyn wedi con- demnio a gwrthwynebu yr hawl a'r llywodraethiad a ofynir gan Jberchenog- ion Ysgol Trefforest ar gyfundrefn addysg Pwyllgor Sir Forganwg. Go- fyna Mr Tom Richards, A.S.: Pa reswm sydd dros erfyn i Bwyllgorau Addysg y Sir a'r Brif Ysgol i gylymu eu hunain gydag Ysgol Trefforest, yr hon a berchenogir ac y lywodraethir gan berchenogion glofeydd." Trueni fod ymddygiad cyffredinol y meistri mewn cysylltiad ag enillion a bywyd y gweith- wyr y fath, fel ag i greu drwg-dybiaeth ar eu gweithrediadau yn nglyn ag addysg wyddonol a chelfyddydol. Brwydr Eto yn y Golwg. [ Mewn cysylltiad ag achos gweithwyr pen y pyllau, y mae y falot sydd wedi ei gwneyd gan Ffederashwn y (n'lowyr yn dangos fod 402,000 yn ffafr gwthio y mater i ben, ag i hawlio y codiad gofynedig, sef 15 y cant, neu dri swllt yn y bunt, i'r gweithwyr uchod, tra yr oedd 242,000 yn erbyn. Y mae y mwyafrif yn sylweddol iawn, ac yn gymelliad i'r cynrychiolwyr i fod yn eofn a gwrol yn eu cais i'r meistri. Cyfarfod Blynyddol Plaid Llafur. I Yr wythnos hon cyferfydd y Blaid Lafur yn Glasgow. Bydd y gweithred- iadau yn bwysig a dyddorol i luaws gweithwyr y wlad. Dau gwestiwn neill- duol, ar ba rai y mae'n debyg y bydd cryn ddadleu o bob tu, ydynt, gais Undeb y Glowyr yn Chesterfield i gael caniatal i Mr. Barnet Kenyon, yr Aelod Seneddol newydd etholedig, i ymaelodi gyda'r Blaid Lafur yn y Senedd. Fe gofir fod y boneddwr hwnw wedi methu a chael ei gydnabod yn ymgeisydd rheolaidd gan y Ffederashwn, na chan y Blaid Lafur, o herwydd ei gyfathrach a swvddogion y Blaid Ryddfrydol ych- ydig cyn yr etholiad. Mr. Philip Snowden, A.S. I Edrycha Mr Philip Snowden gydag amheuaeth ar y priodoldeb o gmiatau i bersonau fel hyn i ymaelodi yn y blaid. Dynion felly sydd wedi bod yn rhwystr penaf i effeithiolrwydd y blaid yn y goi-phenol. Os na cheir ymlyniad di- ysgog ar ran yr oR o aelodau y blaid, i'r ymrwymiad o Iwyr annibyniaeth ar y pleidiau politicaidd eraill, collir am- can bodolaeth y blaid, ac nis gellir dis- gwyl yr un lies o'u gweithrediadau yn y Senedd. Y perygl yn yr achos neillduol hwn ydyw, os na chaniateir aelodaeth i Mr Kenyon yn y Blaid Lafur, y bydd i I Undeb Glowvr Chesterfield dori on eysylltiad a'r Ffederashwn. I.L.P. I Yn y cysylltiadau hyn bydd yn amser pryderus a.r aelodau y gymdeithas uchod. yr hon sydd yn ffurfio rhan o'r Bio id Lafur Seneddol. Wrth gwrs, hawlia yr I.L.Piwrs mai hwynt-hwy I sydd yn rhoddi cadernid ac annibyn- iaeth i'r Blaid Lafur, ac os yw y blaid I yn mynd i lyngcu rhagor o ddynion I meddal fel hyn i'w chyfansoddiad, bydd j yn rhaid i'r I.L.Piwrs i ystyried y priod- j oldeb o ymwahanu ac ymddidoli oddi- wrth y Blaid Lafur, a myned i'w ffordd eu hun eto yn llawen, i geisio gwneyd j' rhagor o Gymdeithaswyr. t I Cynrychiolaeth yn ol yr herwydd (Pro-! portional Representation). I Cwestiwn arall sydd yn hawlio ystyr- iaeth ddifrifol ydyw yr uchod. Y mae yn golygu cynllun newydd mewn cyn- rychiolaeth Seneddol. Y mae y farn yn j rhanedig iawn eto ar y pwngc, a bydd ( yn ddyddorol iawn sylwi a dilyn y ddad- [ leuaeth a wneir ar y cwestiwn. j Streic yn Llundain. Taflwyd y brif-ddinas i annibendod a I thrafferth yr wythnos ddiweddaf drwy I i'r cludwyr glo wrthod cario y nwydd i hwn, heb gael ceiniog yn rhagor y dunell am wneyd hyny. Gymaint yw yr anhrefn fel y gorfodir i brynwyr glo fyned a'u certi a'u modurion, i'w gludo eu hunain, o'r gwahanol faelfaoedd. Bygythiad o Streic Arall. I Bygythiol iawn yr ymddengys pethau gyda gweithwyr adeiladu Llundain. Gofyna y Meistri Adeiladwyr i'r gweith- wyr undebol i lawnodi cytundeb eu bod i gydweithio mewn. heddwch gyda gweithwyr anundebol ga eu cyflogi. Gwrthodir hyn gyda dirmyg gan y gweithwyr, a dydd Sadwrn diweddaf rhoddodd y meistri rybudd y byddai yn rhaid cymeryd y telerau newyddion neu fod y gweithfeydd i'w hafcal. Yn sicr y mae armagedon wedi dechreu. Cywiriad Gwall. I Rhag i neb gredu fod lliw y Golofn hon yn newid yn wleidyddol, ac i beidio gwneyd cam a Mr. Ramsay Macdonald, teg yw dweyd fod y gair "Rhyddfrydol" wedi llithro i fewn yn lie y gair "Llafur- awl" ar ddiwedd y paragraff sydd wrth eu enw. Y darlleniad cywir yw: "Y mae yn ymdaflu mor frwdfrydig ag er- ioed i waith y Blaid Lafurawl."

Ferndaler

Ferndale. r Cydolygwn a phenderfyniad Cym- deithas Masnach y lie hwn fod angen adeilad mwy o faint ac ynddo leoedd mwy cyfrin fel llythyrdy, ac hefyd fod angen nifer fwy o wasanaethwyr yn llythyrdy lie poblog fel hwn i wneud y gwaith yn briodol. Da y gwneir wrth ahv sylw y prif swyddog at hyn. Papur cynhwysfawr gafwyd yng Nghymdeithas Ddiwylliadol Penuel lonawr iyeg gan Mr J. T. Davies ar y "Tadau Methodistaidd." Llywydd- odd Mr John Edwards, Ty Capel. Darlith odidog gafwyd gan y Parch. R. Silyn Roberts yng Nghapel Weslev Ionawr igeg ar yr laith Gymraeg a Chrefydd a Moes Cymru." Llywydd- odd y Parch. T. Jones, Capel Wesley. Un o gyfres darlithiau yr Eglwysi Rhyddion ydoedd. Y mae Cyngor Dosbarth y Rhondda yn parotoi i oleuo y ddau gwm a thrydan, a thrwy hysbyslenni mewn lleoedd amlwg anogir pawb sydd am dani i'w geisio mor fuan ag y bo modd. Llwydd i'r antur. Nid yw'r goleu yn awr yr hyn ddylai fod. Blin gan lawer fydd clywed fod Mr John Thomas, Gilfach House, yn beryglus glaf ers wythnosau. Da gennym ddeall pan yn ysgrifennu fod yn awr lewyrch o obaith am ei adfer- iad. Cysur fydd hyn i'w deulu ac i Eglwys Penuel, lie mae yn flaenor ac arweinydd y gan. Brawd cyhoeddus arall sydd wedi ei analluogi gan afiechyd yw y Parch. T. E. Harris, gweinidog Eglwys North Road. Beth amser yn ol bu dan drin- iaeth y llawfeddyg yng Nghaerdydd. Daeth trwyddi yn llwyddiannus, ond daeth ymosodiad eilwaith o gyfeiriad arall. Dymunwn ei adferiad.

Advertising

t LIST. MENOfN" BELTS and H'PNCSS B ■ USE BIFURCATED RIVETS. B d?i,e Ri,ets. nd beiid the lirongs. Nf-at an,.i ?ztrni, morgers, or ,-n d for box (assarte?1) to- CROEN. UNA WD. ASGWRN. RHAID COFALU AM Y HMAt HYN. Esgeulusdod 0 unrhyw niwell i rbal hvn drwy ddamwain neu glefyd elf achoti Blood Poisoning a Marwolaeth. MeddyginiaetH EHeithiol. Er mwyn ysgol Paryfl rhaid al ymarfar mewn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANut A 81011 A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn cael ei gydnsbgd gan filoedd fel V meddyglin mwyol sicr a diogel a ddarganfyddwyd erioed at insham Clwyfau, Aychol Hon, Tardd- iantau y Cnawd, Eczema, Craoh a Medd yn Mhenau Plant, Ltosgiad. au, Ysgal. danaji, Sou r v y, L I u g r ad Plant, Babaito. Tarwden, Cout, Cymalau Poenus, R hwmat- ?P?en «Yroeddp.nfy?- ?!n P?? tyn mewn ''?? echry«lo». ?od Gwellhaodd Gomer'. B.I. eflelthlof hi yn bur fuan." at ClWYFAO ar COESAU. Miloodd ynV-"tYStio?ilw Effeith/au Rhyfeddol. RHODDWCq BRAWF ARNO Gwellhad^sydd sior Ar werth gan bob Cheiniot a SWres am 1/1 i. Gofyner am Comer's Balm. Myw wch weled enw Jaoob Hughas ar boa blwch. Heb hyn d yw gywir. Nea danfoner ei gwerth (P.O. neu Stamp.) at Jacob Hughes, Manufaoturing Chan- 1st, M.P.S., L.D.S., Ptnarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.

Cymdeithas Ddirwestol

Cymdeithas Ddirwestol. Deheudir a Mynwy. Yn Addoldy Bethel, M.C., Ystrad, Rhondda, cynaliwyd cynhadledd o'r gymdeithas bwysig uchod prydnawn Iau, Ionawr 22ain. Llywyddwyd gan y Cynghorwr David Griffiths; U.H., Aber- tawe. Darllenwyd papur gwerthfawr ar Y Mesur Dirwestol i Gymru" gan y Parch. John Williams, Abergwynfi- Dilynwyd a sylwadau galluog gan y Parchn. John Williams, Trehafod; Tertius Phillips, a Mr. T. Millward, cyfreitRiwr, Ton, Pentre. I ganlyn yll yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nebo (B.), Ystrad, yr un boneddwr yn gadeirydd. Appeliodd am gyd- weithrediad bywiog yn nglyn a r achos da. Caed i ddilyn nodiadau pwrpasol gan y Parchn T. H. Morgan. Abertawe; Maurice, Talywain; Morn. Morgan, Abertawe a chanwyd yn dleithiol gan v Parch. Arthur Davies, Gogledd Oym- ru. Gwelwyd yn bresenol y iarohn. v W. Davies, Hebron, Ton; T. D. Jones Bodringallt; E. W. Pearce, Horeb (W.), Ystrad; a J. Williams, Ponty- gwaith. Gadawodd y cyfarfodydd ar- graph dda, gan i bresenoldeb cynifei o foneddigion o ddysg a dawn ddyfod i: r ardal i ddillgos eu sel dros buro cym- dpithas yn mhob gwedd arm. Yr oedd yn bresenol gynrychiolaeth galonogoi o gymdeithasau gwahanol t'anau. EOS HAFOD.

Advertising

..0. GREAT SALE oi Music, Songs, Piano Solos, Duets, Operas, Vio- lin, 'Cello. Organ. Catalogues free. Dept. 5, Moon and Sons, Plymouth.