Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

HYSBYSIAP. YSGOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlwyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rbaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Athro.

Advertising

W. WILLIAMS, JEWELLER, &c., 21 Castle St., Swansea. Specialities: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewch at y Cytaro Os am heirdd fodrwyau aur, Oriaduron ao awrleieiau, Gemaa a chadwynan olaer: Yspectol gelfydd, btn-tynegydd, Gwres-fesurydd, owmpawd mor Geir gan Williams, Heol y Castell Trowch i mewn i weJ'd ei stdr.

Y CYNHWYSIADI

Y CYNHWYSIAD. I Yn Fan ac yn Amal.Tud. 1 Colofn Llafur 1 O Deifi i'r Mor „ 1 Stori'r Marwor Tanllyd 2 Colofn y Plant 3 O'r Wy i'r Dywi 3 Cymrodorion Abertawe a Chyn- ddelw ,5 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Nodion o Ogledd Cymru 4 Ar y Twr 4 Y Gwersylloedd yn Symud. 5 Pat y Coblyn 5 Sefydlu Gweinidog yn Abernant 6 Ynadon Newydd Abertawe 6 Cymry Abertridwr 6 Taith i Lydaw 6 Dadl: Safle'r Chwiorydd yn yr Eglwys 7 Llyfroniaeth 8 Y Golofn Farddol 8

Yn Fan ac yn Ami

Yn Fan ac yn Ami. Y mae y cerddor adnabyddus Dr. Dan Protheroe yn bwriadu ymweled a'r hen wlad eleni eto; y mae i feirniadu yn Eisteddfod Clydach, Gorphenaf yr lleg- Dau Gymro selog, sydd yn ffyddlon i bobpeth o duedd Cymraeg ddaw dan sylw Cyngor Sirol Abertawe ydyw yr Henadur Ben Jones, Y.H., a'r Cyngor- wr John Lewis, dilledydd, Heol Fawr. Son am y ddrama glywir ym mhoo- man drwy Gymru y dyddiau hyn. Ar yr lleg. o Chwefrof, yn NWtiadd Cory, Caerdydd, chwareuir Beddau'r Pro- ffwydi" (W. J. Gruffydd) gan gwmni lleol. Hwn fydd yr ail dro i'r ddrama odidog yn Ngbaerdydd, end gwyr y rhai a'i gwelsant urnaith y deil i'w .gwc 1-3 a TV^x/yjui-, am y cwmni y tro hWiftefyd, y deil ei gymharu, a dweyd y lleiaf, a'r un yn y wlad. Beth yw barn cwmniau ereill a'i chwery tua'r De yma am hynny ni wyddis eto. Tawn yw i'r Brifddinas ar- wain yn hyn hefyd, wrth gwrs. •- Cydymdeimlir a'r Parch. W. P. Wil- liams, D.D., Glandwr, Abertawe, yn ei waeledd. Yr oedd wedi rhoddi tri mis o rybudd i derfynu ei weinidogaeth yng nghapel y Ddinas, ychydig amser cyn ei gymeryd yn wael. Y mae wedi gweinidogaethu yng Nglandwr er's yn agos i ddeugain mlynedd. Efe yw Gol- ygydd "Seren Cymru," ac y mae wedi gwasanaethu yn y swydd hon yn hwy na neb a fu o'i flaen. Y mae ei erthygl- au arweiniol bob pnser yn werth eu darllen a chystal a dim a geir yn unrhyw bapur. Dywedai Mr Llewelyn Williams, —.IS., yng Nghymdeithas Gwyr Sir Gaer- fyrddin yng Xghaerdydd a'r cylch, nos lau, lonawr 29ain, fod yr hen chwedlau enwog sydd wedi dod yn rhan o lenydd- iaeth y byd wedi deilliaw o Gaerfyrddin. ? nhafodiaeth y sir hon yr ysgrifenasid  oH o'r Mabinogion. Yma hefyd, 1 T8 Dewi ? Theilo, y bu'r frwydr grefyddol gyntaf yng X ghymru. Yr oedd enwau fel Hywel Dda, Rhys ap Tewdwr, Gruffydd ap Rhys, a holl wron- laid hanes y Deheudir yn gysylltiedig a. r hen sir. Honnai mai yn hen Fyn- achlog Ialley y claddwyd Dafydd ap Gwilym- ac nid yn Ysfrad Fflur, fel y credai ei ffrvndiau o Geredigion. Teim- lem yn falch o orffennol yr hen sir wrth ddarllen araeth Llewelyn, ond beth am dani yn y dyddiau diweddaf hyn ? Hyd yn gymharol ddiweddar cosfa greulon fyddai rhan plant ei hysgolion os clywid hwy yn yngan gair o iaith yr hen wron- iaid. Mae llawer o bobl yn hen drefydd bychain gwledig Shir Gar gyda'r mwy-af lfiaidd o Ddic Sion Dafyddol a gyfar- fuasom erioed. Y mae Mr. David Jones, o Lanbadarn. myfyriwr o Athrofa Bala-Bangor, wedi derbyn gwahoddiad i weinidogaeth Eglwys Annibynol Trealaw. Dywed y Daily News y "bydd yr eis- teddutd nesaf yn un o'r rhai pwvsicaf yn hanes y Sennedd. Mae'r Mesuraii ddeunt gerbron yn bwysig ynddynt eu hunam. ond bydd eu dyfodiad yn ddeddfau yn golygu rhywbeth mwy o lawer nag Ymreolaeth i'r Iwerddon neu DdadgysylJtiad i Gymru. Y Mesurau hyn fyddv i,hii cyntaf i ddod -vn ddeddf- 1J? ?edd(ParH? Act) few 'Lh'- a°,yn ddWdiolch i'r Act), fel ? y gelwir hi. ac  ddiddiolch i'r Arglw yd1 dI-- 13ydd K*'0,ed gweithrediad D ded dI ,1-toti  trn iynta' yn fater ? ddidd ordeb ?,??? ? ?ter Dyma ffigyrrau difrifol: Cyst darpar- iadau ar gyfer rhyfel yn Ewrop bum' can' miliwn o bunnoedd y flwyddyn, a chynhydda'r swm yn gyflym. Mae tua phum miliwn o bobl yn gwasanaethu yn barhaol yn y byddinoedd a'r llynghes- oedd Ewropeaidd, a chan y gallai y rhai hyn ennill mewn bywyd dinesig bum can' miliwn o bunnoedd, cyst arfogaeth tua mil o filiynau y flwyddyn yn amser heddwch. Gwaria Y merodraeth Pryd- ain gan' miliwn y flwyddyn ar ei byddin a'i llynges. Mae tua phum' can mil o bobl Prydain yn barhaus dan arfau, a chan y gallai y rhai hyn ennill mewn bywyd dinesig hanner can' miliwn, cyst I 'I arfogaeth i ryfel i'r wlad gant a hanner o filiynnau y flwyddyn. A oes air yn taro'r ffeithiau hyn yn well na "gwall- gofrwydd" ? Clywsom am oesoedd tywyll, yr ydym yn aivr mewn oes wall- gof. Yn Etholiad Gogledd-Orllewin Dur- ham dydd Gwener cafodd y Rhyddfryd- wr fuddugoliaeth ar Dori ac ymgeisydd Ilafur. Yr oedd y ffigyrrau fel y can- lynA. Williams (R.), 7,241; J. O. Hardicker (T.), 5,564; G. H. Stewart (LI.), 5,026. Adroddir hanes diddorol am un c brif ddynion un o'n sefydliadau cenedlaethol sydd yn fwy dieithr i'r iaith nag y dylai fod, yn gofyn i is-swyddog wrth sylwi ar y gair Nadolig yn ymddangos yu fyn- ych mewn pethau Cymraeg: Nadolig," yr aeen ar y syll gyntaf, "wherever is this place ? It seems to be pretty com- mon in Wales." Gofalodd yr is- swyddog droi ei gefn ato cyn ateb, a dywedir ei fod yn dioddef oddiwrth y gofyniad hyd heddyw.

Oddiar Lechweddau Caerfyrddin

Oddiar Lechweddau Caerfyrddin. -Nlwyn- i lawer uii t ffoJ:ta yma ol^d edrych ar ddarluniau y ddau frawd athrylithgar y Parch. W. R. Watkin, M.A., Llanelli, a Morgan Watkin, M.A., Paris, ar y Cardiff Times yr wythnos hon. Da gan bawb ar y llechweddau hyn am eu llwyddiant eithriadol ym myd dysg. Gyda Haw, onid yw yn bryd i Mr Watkin, Moriah, gyhoeddi ei draeth awr ar Bedo Brwynllys 1 Carai ugein- iau yng Nghymru gael golwg ar weith- iau Bedo, gweithiau sydd mor gain ag eiddo Dafydd ap Gwilym, ac mor lawn o gyfaredd serch bob tipyn. Cymer y glowyr gryn dipyn o ddiddor- deb yn newisiad y stib-agent dros faes y glo carreg. Ac o gwrs, gan fod y ballot wedi dod rhwng dau, sef Mr James, Gwauncaegurwen, a Mr. Stephen Davies, Tumble, naturiol i bob un y ffordd yma ddymuno yn dda i'r gwron I ieuanc o'r Tumble. Gallem feddwl wrth yr hyn glywn am dano fod ei hanes yn ddiddorol iawn. Gwyddys am ei ddysg a'i ddawn, ac yn ddiddadl fod dyfodol disglaer o'i flaen sut bynag y try y fallot y waith hon. Carwn i chwi gywiro un gwall yn fy nodiadau yr wythnos ddiweddaf, Mr. Gol. "Eisteddfod dau (two) ddala," nid 'dan ddala,' olygwn iddo fod. Tebyg i Gymrodorion Llanelli gael gwledd nos Wener ddiweddaf. Miss M. A. Watkins, Aberdar, oedd yno ei hannerch ar "Geiriog, a'i brawd, y Parch. W- R. Watkin, Llanelli, yn llyw- yddu. Nid yn fynych y ddigwydd peth fel hyn yn hanes y Cymdeithasau Cym- rodorol. Brawd yn Uywyddu a chwaer yn darlithio. Clywais innau air da i ddarlith y Parch. Hugh Jones, Llanelli, ger bron Cymdeithas Gymrodorol Pont- arddulais ar "Ddyrchafiad y Werin." Nid rhyfedd gan ei fod yn wei inwr may selog ei hun. Y mae miri mawr yn ardal Llanon. Y Gad Ddirwestol wedi ymgodi fel un i geisio cau un o'r tafarndai sydd yn yr aaidal. Y mae yno frwdfrydedd ac iiii- frydedd mawr—yr eglwysi a'i gweinid- ogion yn gweithio yn egniol. Y mae Eglwys Annibynol Pontyates a l holl egni yn darparu rhaglen flasus a chwaethus ar gyfer ei Heisteddfod flynyddol y Pasc nesaf. Y brawd ieuanc Mr Tom Griffiths (Lie-bach), Brynhyfryd, ddarllenai bapur i Gymdeithas Lenyddol Horeb, Pump Heol, nos Fercher diweddaf, ar Y Hybarch Robert Jones, Llanlljfni." MYRDDIX MIN Y MOR.

COLOFN LLAFUR

COLOFN LLAFUR. GAN PEBEDDR. I Plaid Llafur yn Glasgow. Wythnos bwysig yn hanes y Blaid Lafur oedd yr wythnos ddiweddaf ar lawer o ystyriaethau. Digwyddodd ani- ryw amgylchiadau pwysig a difrifol yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yng ngwaith y blaid, ac yr oedd disgwyliad pryderus iawn am yr eglurhad oedd i'w • roddi gan y swyddogion ar yr amgylch- |■ iadau hyny. Gwaith Deugain o Ddynion. I Llafur y Blaid, ac ymddygiad yr ael- odau yn y Senedd, ac oddiallan, oedd y I pwngc mawr dydd Mawrth, y dydd dech- reuol. Ac fel mae arferiad cynrychiol- } wyr llafurawl bob amser yn eu cyfarfod- ydd siaradwyd yn blaen a didderbyn- j wyneb. Gwnawd amryw gyhuddiadau personol a chyffredinol yn erbyn Mr. Ramsay Macdonald fel arwreinydd ac eraill o'r aelodau am eu llacrwydd fel eisteddwyr ar wahanol bwyllgorau breiniol. Ramsay Macdonald, Arweinydd y Blaid. I Yn ei atebiad dywedodd Mr. Macdon- ald fod rheolau y Senedd yn anfanteis- iol iawn i weithrediad effeithiol mewn deddfwriaeth. Yr egwyddor hap- chwareuol oedd yn penderfynu amser a lleoliad y siaradwyr a'r pyngciau yn gyffredinol. A chondemnia y gallu a roddid i Dy'r Arglwyddi i ddal yn ol un- rhyw fesur am dair blynedd. Yr oedd yn dreth annioddefol ar amynedd y werin, ac yn brofedigaeth chwerw i Blaid Llafur yn y Ty. Y rheswm am yr holl oediad hyn oedd taw dim ond deu- gain o gynrychiohvyr llafur oedd yn y Ty, yn lie 340. Yr oedd yn beiddio dweyd y byddai yn amhosibl i ddeugain o ddynion wneyd yn well, os cystal, a'r deugain oedd yn cyfansoddi y Blaid Lafur yn awr. Undebiaeth a jpwleidyddiaeth. I Penderfynwyd gyda mwyafrif mawr fod llwyddiant parhaol y gweithwyr yn gorphwys ar eu cyduTeithrediad mewn undeb llafurawl, a chynrychiolaeth wleidyddol annijbynol yn Nhy y Cy- ffredin. Yr oedd hyn yn brawf fod mwyafrif y gweithwyr yn erbyn athraw- iaeth y Syndicalwyr sydd yn honi ym- wrthod yn gyfangwbl a chysylltiadau gwleidyddol mewn undebiaeth lafurawl. 4. I Cynllun Etholiadol a Chynrychioliadol. Dydd lau bu trafodaeth fawreddog ar y cwestiwn hwn. Bu y cewri yn ym- godymu. Macdonald, Snowden, Ander- son, a Roberts, yn siarad gyda gallu a dylanwad. Gwledd feddyliol ac areith- yddol o'r mwyaf blasus oedd clywed Snowden a Macdonald yn siarad bob Un dros ei safbwynt. Pan mae dynion o allu a saile fel y rhai hyn yn gwrth- wynebu eu gilydd ar unrhyw fater, gellir penderfynu fod llawer i'w ddweyd o'r ddwy ochr. Llwyddodd Macdonald i gario y Gynadledd gydag ef yn erbyn y cynllun o proportional representation. Deheudir Affrica. I Y mae yr amgylchiadau cysylltiedig a'r cynwrf mawr llafurawl yn Xeheudir Affrica wedi cyrhaedd ei uchafbwynt yr wythnos ddiweddaf, a hyny drwy fod gallu Llywodraethol y Dalaeth wedi gorchymyn cymeryd deg o arweinwyr y gweithwyr yn garcharorion, eu cludo yn ddirgelaidd i fwrdd llong, a'u trawsfudo o'r wlad hono tua Phrydain. Disgwylir y cyrhaeddant yma tua diwedd y mis hwn. Y mae y weithred hon o eiddo y gallu Llywodraethol yn Ne Affrica wedi taro y byd llafurawl a syndod chwerw. Xi fu y Gynadledd Lafurawl yn Glas- gow yn hir heb godi ei llais yn gryf rnewn protest yn erbyn y fath anfad- waith. Y mae yr hanes geir, hefyd, o agoriad tymorol Senedd y Dalaeth, a'r anerchiad roddwyd gan Lord Gladstone ar yr achlysur, yn dangos ei fod ef yn ymwybodol o'r drafodaeth, ac yn cyd- synio a'r hyn a wnawd. Elfen Ddrwg I iawn yn y gweithrediadau hyn ydyw taw Botha, un o hen Gad-lywyddion y Boer- iaid, sydd yn uniongyrchol gyfrifol am y gweithrediadau. Tuedda yr ymwy- byddiaeth o hyn i rwygo a chwerwi teimladau dialeddol oeddynt i raddau wedi myned i gysgu. Y rheswm mawr roddid am y rhyfel ddinystriol a chostus yn Neheudir Affrica oedd fod angen hawlio cyfiawnder a rhyddid i Brydein- wyr. A dyma'r canlyniad, sef fod Llywodraeth y wlad wedi syrthio i; ddwylaw y cyfalafwyr diegwyddor fu yn syii),bylu y rhyfel, a'r brodorion gorch- fygedig Botha a Smuts yn cael eu defn- yddio yn offerynau i wneyd Prydeinwyr yn gaethion, a'u caethgludo o wlad sydd wedi ei phrynu mor ddrud, drwy arian ih bywydau. Cyneu Tan. Bydd disgwyliad mawr am ddych- weliad y caethion llafurawl hyn i'r ■ft lad hon. Tebygol iawn taw'r cam- synied mwyaf a wnaeth Arglwydd Glad- stone erioed oedd caniatau yn oddefol. os nad yn orchymynol, i'r peth hyn i gy- meryd lie. Anffodus iawn yw ei was- anaeth wedi bod yn mhob swydd y mae wedi lenwi hyd yn hyn. Nid yw y blaid Ryddfrydol yn elwa dim i'w hanrydedd drwy ei wasanaeth ef. Cri mawr y byd llafurawl heddyw ydyw: Galwer Ar- glwydd Gladstone yn ol o Ddeheudir Affrica." Pan y glania y deg caethwas ar diriogaeth Prydain, a dechreu egluro yr amgylchiadau o'u caethiwed, pryd hyny y cyneuir tan na fydd yn hawdd ei ddiffodd.

Llwyddiant Eisteddfodol yn America

Llwyddiant Eisteddfodol yn America. Achos o lawenydd nid bychan i mi a Iluaws o ardalwyr canolbarth Llansam- let oedd llwyddiant Mr Dd. R. Davies, gynt o Bentredwr, mewn Eisteddfod yn Iowa, America, ddydd Nadolig di- weddaf. Pedr Alaw, gynt o Llundain, oedd y beirniad cerddorol. Enillodd Mr. Davies am ddatganiad o unawd. Hefyd enillodd ei gor o wrywod a'i gur menywod, a'i gor cymysg. Daeth agos oil o'r gwobrwyon iddynt, a chaf- cdd yntau amryw fedals. Cyfanedda Mr Davies a'i deulu yn Hiteman, Mon- roe County, Talaeth Iowa. Aeth efe a'i deulu allan rai blynyddoedd yn ol, a llafuria yn ddiwyd yn y cylch cerddor- ol, ac y mae efe a'r cor wedi enill «■ r.obrwyon lawer gwaith o'r blaen. N-id rhyfedd fod ei ymhyfrydiad mor fawr mewn cerddorifleth, ac mewn el- fenau dyrchafol, a'i chwaeth mor Jbur, ac mor goeth yn ngweithlad allan y darnau cerddorol, canys y mae cerddor iaeth yn y gwaed. Yr oedd iddo dri ewythr, John, Thomas, a, Dafydd, yn gantorion gwych. Aeth Dafydd i Aws- tralia yn gymharol ieuanc, a bu farw vno. Gelwid hwy yn ol arferiad y rhan- barth yn blant Shon o'r Bangc. Daeth Thomas Davies yn un o fasswyr goreu y plwyf, ac yn arweinydd yr achos yn Mhentredwr. tti farw W. Davies, tad Mr D. R. Davies, Iowa, Gorphenaf di- weddaf. Yr oedd yn un o wyr mwyaf deallus y plwyf. Bu yn oruchwyliwr glofeydd yma ac mewn manau eraill. Oyfanedda tair chwaer a brawd, a nith (sef Miss Jones, head teacher Council School, Lonlas, Llansamlet) yn Taly- waendda Terrace, ger Pentredwr. WILLIAM O'R DE. I

Nodion o Rymni

Nodion o Rymni. Tua wyth o'r gloch nos lau brysiau y moduriaid yma o bob cyfeiriad yn llawnion o foneddigion a boneddigesau i gyd-fwynhau o wledd iawr y ddawns uwchraddol, a baroto- wyd yn benaf i gael ehv i'r ysbytty, sefydliad teilwng o gefnogaeth. Ond bosibl y gellid llwyddo yn well yn yr ystyr uwchaf pe ceid haelioni y cym- helliad cryfaf, ac nid y ddawns. Digwyddodd dam wain yng Nglofa New Duffryn. Rhedodd tram allan i'r pwll, o wythien newydd, gan wneyd cryn niwed. Ni laddwyd neb, er fod ceffyi yn y "cage" pan ddisgynodd y tram ar y gwaelod. Diangodd hwnw megys yn wyrthiol hcb yr un anaf. Yr oedd tua 1x5 o weithwyr nos heb obaith dyfod i fynu am oriau; yn ngwyneb hyny prysurodd Mr Jones, under-manager, i gael y cyfryw i fyny trwy Bwll y Terrace oedd gerllaw, ac a gedwid mewn parodrwydd hyd nes y daw pwll y Mardy yn barod, yr hwn sydd o dan gyfnewidiadau. Nbs Wener cafwyd gwledd o'r fath oreu yn Gosen. Darlithiai v Parch. W. F. Phillips, B.A. Ei destyn yd- oedd "Arwyddion Dirywiad Cened- iaethot." Gwn y cawn wledd odiaeth eto gan Dewi Carno, ein cvfaill trifflyg, bardd, lienor, a cherddor, y tro nesaf. "Dewch yn lluoedd fawr a man I fwynhau y wledd ar gån." Cerddorion Rhymni a'r Cylch" yw ei destyn, cofier.

0 Deifi ir Mor I

0 Deifi i'r Mor. I HWNT AC YMA YNG NGHERE™ DIGION. Tra yn dechreu crwydro Sir Aber- teifi mewn nodiadau i'r Darian," daw dwy linell o gywydd Deio Ab Ieuan Ddu i'r meddwl:- "Y sir oil a fesuraf 0 Deifi i Ddyfi 'ddof." A naturiol cofio dwy linell eto o'r un cywydd- I "Troi f'wyneb traw i fynydd, Drwy y sir o dre y sydd." A gwell genym grwydro drwy Cere- i digion yn hytrach nag hofran mewn I awyr-long o fynydd i fynydd ac o'r afon i afon; nid dymunol yw edrych i lawr ar neb o ddynion da gwlad y Cardis. Ar ol cychwyn y daith gyda Deio ab Ieuan Ddu yn ei gywydd, naturiol hollol yw galw heibio i rai o feirdd Ceredigion heddyw. Diotch i Cenech awengar am roddi tro dros "Yr Hen Rodfeydd mor swynol farddonol yn y "Darian." Nid bardd "yn ceibo" llinellau yw Cenech, ond yn canu mor naturiol fwyn dyner a'r aderyn du ar gangen brydferth y gwanwyn. Nid rhigymwr ydyw, ond bardd, ac nid "labrwr" di-awen yn tuchan a glywir yn eu ganeuon, ond un o wir etifedd- ion yr awen, a barddoniaeth lond ci enaid. Caned eto i'r "Darian," nid can flynyddol fel pe yn dyfod i'r byd am dro ar ddechreu pob bhvyddyn newydd, ond fel Pren y Bywyd "— "bob mis yn rhoddi ei ffrwyth," a cheir bias ar y wledd. Cofied bechgyn y Ton a'r Rhondda, heb anghono Llangenech ar lanau'r I.lwchwr, mai un o feirdd-bregethvyr Ceredigion yw Cenech bellach, a diolcha beirdd a saint am gan a phre- geth ganddo, a'r bregeth yn bryddest fyw, nid yn unig ar goryn iach Di- hewid a rhwng bryniau man Cilcenin, ond drwy y sir a drwy y De a'r Gogledd. Gweinidog ieuanc ar ei oreu ydyw; prophwyd a chenadwri Duw yn onest i'w oes, ac er ei holl lafur a'i ofal, nis gall beidio canu Wei, caned yn y blaen, ac ar ol cael mwy na digon o le i eistedd mewn dros ddeugain o gadeiriau, caned goron am ei ben, a rhodded gyfrol o ffrwyth ei-awen i flasu calon ei genedl. Nid Cenech yw'r unig fardd cad- eiriol yng Nghanolbarth Ceredigion, er fod perygl i'w aneirif gadeiriau ef i guddio pob bardd arall yn ei gadair Oes, y mae llawer o fechgyn a merched glanau yr Aeron wedi gwledda am flynyddoedd ar Fara'r Bywyd a dorwyd iddynt gan yr add- twyn Carolan, bardd-bregethwrj ag sydd wedi llafurio-am lawer blwydd- yn bellach-yn ddidwvll a fiyddlon, ond heb uchelgais am gwrdd mawr nag yni cystadlu, ond yn cael ei guddio yn ei waith, a'r gwaith yn llwyddo'n ardderchog drwy ei ymdrechion ef a bendith y Meistr. Gwyn fyd pobl Ty'n- ygwndwn o dan y fath weinidogaeth Bob amser ar ei oreu, a bob tro vn arwain y ffyddloniaid i'r porfeydd gwelltog. Clywsom ei anerchiad ar Dr Livingstone," a'r syniadau a'r iaith megis gemau mewn aur pur; ac nid rhyw orchest eithriadol yn ei hanes ydoedd hwnw, ond "rhywbeth just fei arfer." Eistedda yntau yn es- mwyth fel bardd-cadeiriol, a llanwa y swydd o ysgritennydd Cyfarfod Chwarterol Annibynwyr Ceredigion gydag urddas teihvng o'r Cyfundeb. Disgwylia Llangybi a Llanddewi- brefi am Tardd-bregethwr yn weinidog i'r Annibynwyr yn gynar yn Chwefror -y Parch. T. E. Nicholas, y Glais, Cwmtawe. Nid bardd na lienor na phregethwr o'r golwg ydyw cf; y mae wedi barddoni ac ysgrifenu a dadleu ei hunan i sylw Morgannwg, y De, a Chymru gyfan erbyn hyn. Un perygl mawr ydyw i'r bobl hwnt vina ei gamddeall, a meddwl mai ymladdwr mawr fel Sosialydd ydyw, ac nid bardd swynol a phregethwr galluog. Ar ol disgyn yn nghanol gwlad dawel dangnefeddus, heb son am ddoniau Stanton, na golwg ar wallt Keir Hardie yn hofran yn y gwynt, mae'n bosibl y ca Mr Nicholas lonydd i bregethu, i farddoni, a darlithio, heb ond brefiadau'r wyn ac unawdau ceilogod yn tori ar y distawrwydd thvvfol hvawdJ. Daw y Gymanfa Ys- golion i alw am ei sylw, a cha ddigon o le i ddadblygu fel holwr a chroes- f holwr gyda'r Pwnc," ac fel tamed o amrywiaeth vn amaethyn, fe ddaw "Pwnc v Tir fel angel i gynhyrfu y llyn amaethyddol, a dyna ddigon o ddyfnder i nofio i'r Sosialydd penaf, ie, yn y wlad. Bendith ar yr undeb, ac vmdafled yntau i holl gylchoedd gwas- anaeth ei gyfundeb newydd. Na feddylied y darllenydd rnai dim ond pregethwyr sydd yn medru barddoni vn Sir Aberteifi, ac mai pre- gethwyr yn unig sy'n gwvbod y ffordd i eistedd mewn cadeiriau! LIon- gyfarchwn y lleygwyr barddol lwydd- ianus o Dregaron i Cellan, ac o Cellan i Langybi. Un o feirdd Tre- garon gipiodd y gadair—yn hollol deg -yn Llangybi flwyddyn yn .01. y s- o-rifenydd eglwys Mr Nicholas yn Llangybi enillodd y gamp y tro hwn, a chadair arall i gyfeiriad y MO". Rhagorol, Brynog! A ddisgynodd deuparth o vsbryd ei weinidog newydd ar ei delyn. Mr Griffitil John xvii- liams, o Brif Y sgol Aberystwyth, gurodd ar Dafydd ab Gwilym yn Ysbvttv Ystwvth beth amser yn olv ac efe gurodd ar y lelynegion yn Nghastellnewvdd Emlyn tua r un dyddiau. Mae'r ysgolor awengar hwn yn myn'd i dori ei fare yn uehel yn myd dysg a barddas yn y dyfodol, er mor ddiymhongar ostvngedig > Un o feibion Cellan ydyw ef, mab y cerddor enwog o'r Llythyrdy. vVel, dvn haid o feirdd; rhwydd hynt chwi oil—ac eraill na soniwyd am danynt— i farddoni vn y blaen, a gwnt 10 a bod vn fendith yn y blaen. (I barhau.)

Advertising

CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM V RNA$ HYN. Esgeulusdod o unrhyw niwed I rkal hyn drwy ddamwaill neu clafyi aM achosi Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaeth Effeithiol. Er mwyn ysgol Perygl rhald el ynuirfer mewn pryd. 'DOES DIM MOR LLWVDDIAMUS A SIOR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn cael ei gydnabod gan filoedd fel y meddyglm mwyaf sicr a diogel a ddarganfyddwyd erioed at iaeheu Clwyfau, Archollion, Tardd- lantau y Cnawd, Eczema, Crach a Nedd yn r4honau Plant, Liosgiad. au, Vsgal- danau, S cur v Y, ¡ L lug r ad Plant, Benywod a A Babanod, Tarwden, Cout, GymalaU Pasnus, Rhoumat- ?" Fn "Yrceddpenfyml? r?n P?? ?n m?" "?? c?ebryaws ?.d 0 ùwedhaodd Gomer". B.? ??h.? hi yn b- fuan." at CL WYFAU ar COESAU. Miioedd yn tystfo I'W Effelthlau Rhyfeddoi. RHODDWC" BRAWF ARID Gwell had sydd sler Ar werth an bob Chemi.t a Store, am lIlt. Gofyner am Comer'. Balm. My.- S' W I* blwch. Hab hyn nid yw gywir, Non  ai gwerth (P. o. nu Stamp.) ?t

ARCRAFFWAITH

ARCRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaith ymo- yner vn Swyddfa'r Leader ale 'Darian," 19, Cardiff Street, Aberdar.