Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 6 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
9 erthygl ar y dudalen hon
Abertawe Yr Ynadon Newydd

Abertawe: Yr Ynadon Newydd. Dydd Mawrth, lonawr 20, cyhoedd- wyd rhestr o'r Ynadon sydd newydd eu penodi i eistedd ar "Fainc" Bwrdeisdref Aberdare. Eu rhif ydyw chwech ar hugain, a lion ydyw gweled fod nifer o honynt yn Gymry blaenllaw gyda phob symudiad da. a dyrehafol yn y dref. Hefyd, y mae nifer o honynt yn genedl- garwyr pybyr, ac yn ffyddlon i bob mud- iad Cymraeg yn ein mysg, ac yn is-lyw- yddion Cymdeithas Cymrodorion Aber- tawe. Enwir y rhai hyn yn unig rhag digio y Gol., a chael ein cyhuddo o fyned a gormod o ofod y Darian. Henadur Ben Jones: Wrth gwrs, Benjamin Jones ydyw ei lawn enw, ond pe baech yn cyfeirio ato wrth gyfaill fel hynny, gofynai am bwy y byddech yn son, ond wrth ddweyd Ben Jones yr ydych yn sicr o gael eich deall. Felly nid oes ond un 'Ben Jones' yn Aber- tawe. Un o fasnachwyr llwyddianus Abertawe ydyw, yn cario ei fasnach yn mlaen o dan "Nod yr Afr yn yr Heol Fawr. Masnach yn dal perthynas yn fwyaf neillduol a'r mor ac a morwyr, sef dillad a nwyddau morwyr. A dy- wedir ei fod yn gwybod mwy na nemawr un am y llongau a'r Cadben- iaid sydd wedi mynychu ein Porthladd yn ystod y 30 neu 40 mlynydd diweddaf. Mae yn Henadur dros Adran Treforis, yn Gadeirydd Pwyllgor Nwyddfa'r Cyngor, yn Flaenor o Eglwys enwog y Trinity, yn Gyn-Lywydd Cymrodorion Abertawe, ac yn bybyr, bybyr dros y Gymraeg, a'i nod ydyw cael aelodaeth Cymrodorion Abertawe yn fwy ei rhif na un Caerdydd. Y Cyngorwr David Griffiths: Cerddor, Gwleidyddwr, Dirwestwr selog, a mawr alw am dano i feirniadu mewn Eistedd- fodau. Gwelsom yn ddiweddar hanes fod cyfansoddiad cerddorol o'i eiddo wedi ei ganu yn yr India bell. Mae yn- tau yn Gymro a Chymrodor selog. Y Bonwr J. Lovat Owen: Storiwr pennaf Abertawe. Pan gyfyd ar ei draed i siarad mae pawb "yn glustiau i gyd," fel y dywedir, canys gwyddant fod stori ddifyr wrth law, ac ni siomir y dis- gwyliad. Y dirgelwch yw, pa le y ca y fath gynhauaf toreithiog ? Mae yn fon- eddwr llawn ei hyd, a hynny heb fod lawer yn fyr o chwech troedfedd. Un o'r dynion mwyaf hoff a phoblogaidd yn Abertawe ydyw, ac adweinir ef oreu wrth Lovat, neu Lovat Owen." Mae yn Gyn-Lywydd Cymrodorion Aber- tawe, yn Flaenor yn Eglwys Bedyddwyr Cymraeg Brynhyfryd. Bu am ddeng mlynedd yn aelod o'r hen Fwrdd Addysg," ac y mae galw mawr am dano yn nghyfarfodydd etholiadol y dref. Goruchwyliwr Meistri Glasbrook a'i Cyfeillion, marsiandwyr coed, a "phartner" yn y Cwmni, ac aelod ffydd- lon o'r Mabinogion. Y Bonwr Richard Lewis: Un o fas- nachwyr llwyddianus Abertawe yw yn- tau hefyd, ac yn foneddwr mwyn a char- edig yn fawr ei sel ym mhob mudiad cymdeithasol er lies a budd y dinaswyr. Cymer ddyddordeb mawr yn sefydliad y Y.M.C.A. Mae yn un o flaenoriaid Eglwys Gynulleidfaol Seisnig Walter's Road, lie bu yr enwog Thomas Jones yn weinidog. Cymro selog yw er hynny, ac is-lywydd anrhydeddus o'r Cymro- dorion. Y Cyngorwr Ivor Gwynne: Un o ar- weinwyr llafur yw ef, a newydd ddych- welyd o'r Amerig, lie bu yn cynrychioli Plaid Llafur yn Nghyngrair fa.wr Llafur. Mae wedi bod yn aelod o'r Cyngor Trefol er 1907. Efe ydyw Cadeirydd Pwyllgor Addysg, ac y mae yn aelod .blaenllaw yn eglwys adnabyddus Capel Gomer. Y Bonwr William Edwards: Un o brif fasnachwyr nwyddau cyffredinol gwrag- edd, etc., yn y dref. Sefydlwyd y Fas- nach ganddo ef a'i frawd dros 30ain mlynedd yn ol. Aelod o Eglwys Saes- neg M.C. Argyle, ac is-lywydd anrhyd- eddus o Gymrodorion Abertawe. Y Bonwr John Williams (Dulais House) Mab ydyw i'r bonedwr hysbys a Chymro ffyddlon, yr Henadur William Williams (Wern). Y mae yn Rheolwr (Director) mewn nifer o Ddiwydiannau Alcan a Dur y cylch, a Phrif-Rheolwr Gwaith Alcan Clayton. Mae ei gysyllt- iad a hwn yn redeg yn ol am 29ain mlyn- edd. Y mae yn Rhyddfrydwr brwd, ac yn Annibynwr o ran ei gredo crefyddol. Y mae wedi cymeryd ran flaenllaw gyda'r achos yn Eglwys Hen Siloh, Glandwr er pan gychwynwyd 30ain mlynedd yn ol. Y mae yntau yn is- lywydd anrhydeddus o Gymrodorion Abertawe. Y Cyngorwr David Mathews: Bu ef yn Fair Abertawe am ddwy flynedd yn olynol, 1909-'10-1910-'11, peth na chymer le yn fynych yma. Golyga felly -ei fod yn uchel ei barch a'i safle ym meddwl pobl y dref. Llog-fettelydd wrth ei alwedigaeth. Is-gadeirydd Pwyllgor A ddysg a chadeirydd Pwyllgor Cyffredinol a Ceneddol y Cyngor, etc. Rhyddfrydwr ac is-lywydd anrhydeddus ICymrodorion Abertawe.

GohebiaethauI

Gohebiaethau. Y COR MAWR ETO. Syr,—Cefais y "Darian" Medi'r 18fed, 1913, a da gennyf i chwi dder- byn fy llythyr a'i gyhoeddi yn eich papyr. Y sgrifenaswn yn gynt onibae i mi fod yn wael fy iechyd am dymor. 'Cefais ddiddordeb neillduol wrth ddar- lien y gwahanol lythyrrau am y Cor Mawr. Dygent i mi hen adgofion melus am yr amser yr oeddwn yn y Cor. Mi garaswn yn fawr ddyfod pan fydd yr ail gynhulliad yn Mehefin nesaf, ond I ofni yr wyf fod y ffordd yn rhy bell. Yr ydym ein dau bellach yn tynnu tua .-1- --& machlud haul bywyd. Gwelais ddar- lun o'r cynhulliad yng Nghwm Nedd. Hoffus gennyf oedd gweled enw Eos Dar a llawer eraill a adwaenwn. William Thomas, Treorci, fu yma pan I yn Awstralia. Wel, yr wyf yn awr yn danfon i chwi y llyfr y soniais am dano wrthych, ac hefyd y "Gwladgarwr," a'r ychydig "rosettes." Gwell genyf iddynt fod ymhlith pethau yn t' perthyn i'r Cor I Mawr nag iddynt fynd ar goll. Yr oedd yn ddrwg gennyf glywed fod Hywel Cynon a llawer eraill o fy hen gyfcillion wedi marw. Terfynaf yn awr gan ddymuno llwyddiant i weddill y Cor Mawr i gyd-gwrdd fel y bwriad- ant, a blwyddyn newydd dda i chwi. Y r eiddoch, MRS. F. PARKER. Lambton Road, New Lambton, Via New Castle, New South Wales. ¡ [Diolch i Mrs Parker am ci llythyr diddorol. Nid yw y pethau eraill a nodir wedi cyrraedd y Swyddfa hyd yn hyn. Pan ddeuant i law gofelir eu bod yn mvned lie bwriedir iddynt. I Gol. ] GAS TAIBACH. Mr Gol.Dyma gas yw hwn Tua! dwy flynedd yn ol ar ol traul a thra- fferth fawr cafodd Cyngor Dosbarth Margam hawl gan y Llywodraeth i godi gwaith nwy iddynt eu hunain yn hytrach na chael nwy o Aberafon fel cynt. Costiodd y drafodaeth honno mewn cynghorion cyfreithiol, iawn- dal i Aberafon a phethau eraill tua 50,000. Cynhygiodd Cyngor Tref i-lberafon ostwng pris y nwy iddynt o 3s. a 6c. y fil i js., ar y telerau fod Margam yn derbyn nwy o Aberafon am nifer fechan o flynyddoedd. Aw- i grynnvyd o dair i saith mlynedd. Ni fynnai'r fargamiaid cyndyn ystyried y mater o gwbl, ac o herwydd eu doethineb ryfeddol hwy y mae'r rhai sydd yn defnyddio nwy yn talu 6c. y fil yn fwy nag a fuasai raid iddynt, heb- law eu bod yn talu 6c. y bunt yn y trethu ar gost y drafodaeth. Wedi'r cwbl nid oes yma waith nwy na go- baith am dano am gryn amser. Hynny yw os na ellid "tapo" dau neu dri o'r cynghorwyr sydd yma, celid felly "gasworks" digyffelyb a goleuni llachar. Yn bresennol y mae gan Gynghorwyr Margam beiriant bychan yn gwneud yr hyn a elwir yn "Loco Vapour Gas." Enw pert iawn ynte! A'r tegan hwn y maent yn medru di- wallu rhyw ddwsin o bobl a gas. [A ydyw pobl y Taibach yn byw ar gas, tybed ?-GoI.] Costia'r "vapour gas" lawer mwy na gas Aberafon. Mae'n debyg rhoddai ceiniog, o osod- id yn y "slot meter," oleu am bedair awr a hanner o dan yr hen drefn. Yn awr prin y cant ddwy awr o oleu am geiniog. Dywedir fod llosgi un burner," a dau yn achlysurol, yn costio yn Nhai- bach 2s. a 2c. yr wythnos, ond y dychwelir un ran o bedair i'r cwsmer, ac felly dynnu'r swm i lawr i is. 7^c. Nis gellir defnyddio hwn mewn "stoves." Yn awr yr wyf fi yn cael nwv Aberafon i ferwi dwr brecwast bob boreu, ac un goleu, a dau yn ami, am i ic. yr wythnos ar gyfar- taledd o ddivvedd Hydref i ganol Rhag- fyr. Gwelir felly mai o ddrwg i waeth y mae pethau'n mynd yn Nhaibach. Sonnir yn awr am experimentio gyda rhagor o'r teganau yma, a phawb ofn agor ei geg yn erbyn hynny. Ai ni ellid cael cyfarfod o'r trethdalwyr i ymdrin a'r mater ? Ymba le mae'r Cynghorwr Henrv Davies? Arferid clywed ei lais cyn iddo fynd i'r Cyngor. A oes rhyw- beth yn awyrgylch Cyngor yn peri i ddyn fynd i gysgu ac anghofio y trethdalwyr? Deffro Harri ar un- waith. LABRWR YN Y FELIN.

I Cymry Cymreig Abertridwr I

I Cymry Cymreig Abertridwr ] Caed cyfarfod lluosog a brwd ar y 24am o Ionawr. Yn absenoldeb y delyn trefnwyd cyfarfod amrywiaeth- ol. Wedi annerchiad y llywydd, sef y Parch. E. G. Davies (A.), adrodd- odd Maldwyn Howells Folawd Cymru," darn priodol iawn i Gymry Cymreig, a'r adroddiad o hono yn dda. Cafwyd eto: unawd ar y ber- doneg gan Annie May Jenkins, Bryn Gelli; areithio ar y pryd, v ddafad yn destyn, ac Evan Parry, Senghenydd, yn oreu; canu ar y pryd, a Miss Annie Isaac, Heol y Brenin, yn oreu; darllen darn heb atalnodau. Adroddodd Dan Davies, G.T.S.C., Abertridwr, í Groesaw Gwraig yn ddoniol a dramatig. Adroddiad o nodwedd arall gan Miss Annie Isaac. Dechreu- wyd y cwrdd trwy ganu, "Cofia'n gwlad, Ben Llywydd tirion," a di- weddwyd gyda "Hen Wlad fy Xhad- au." Felly y llanwyd y bwlch adawsai'r Telynor o Drebanos yn wag. Teimlir fod gan y Gymdeithas ddv- lanwad daionus yn yr ardal, a j divvygiad mawr ynglyn a'r Gymraeg ar yr aelwyd, yr heol, yn yr ysgolion j dyddiol, yr ysgolion Sul, yn yr eglwys I a'r pwlpud. Dysga plant yr eglwvsi | eleni cantawdau Cymraeg yn lie rhai Saesneg fel yn y gorffennol. IDa iawn, dilynned llawer eraill eu hesiampl.- Gol. ] Bendith ar ben y brawd ymrodd- gar A. J. Williams ac eraill am droi dalen mor benderfynol. Dyma i chwi engraifft o lwyddiant y Gymraeg vng Nghwm yr Aber. Hyderir yn fawr weled holl eglwysi ein hardal yn dilyn yn yr un llwybrau yn fuan ac yn alltudio yr ysbryd Die Sion Dafydd- ol o'r Cwm. DEWI AUR.

Taith i Lydaw

Taith i Lydaw. GAN "GLANLLYW." Pennocl II I. -SuI yn Sant Malo. Un o'r pethau a gwahaniaeth rhyngddynt ydyw'r modd y treulir y Sul. Nis gwn a ydyw pob Sul yr un fath, ond ceisiaf ddesgrifio'r Sul cyn- taf y bum i yno. Codais yn fore-nid am fy mod yn eithriadol hoff o hynny. Gwyr y rhai a'm hadwaen oreu mai fel arall y mae. Diddanaf fy hun fel y bachgen hwnnw y dywedai ei dad wrtho fod hwn a hwn wedi ffindio sofren ar y 'ffordd wrth godi'n fore. Atebai yntau na charasai fod yn lie yr hwn gododd yn foreach i golli'r sofren. Codais yn fore am mai dyna'r ffasiwn, a rhaid bod yn y ffasiwn gan nad faint y gost. Beth ydoedd colli vchydig o gwsg at ddioddef cyrn ar draed a phoen mewn pen fel rhai er mwyn bod yn y ffasiwn. "Protestant" i'r earn ydwyf, a pherthynaf i'r sect fanylaf hefyd, ond nid oedd na chapel nac eglwys Brotestanaidd yn y lie. Deallais ar ol hynny fod Eglwys Efengylaidd fechan yn San Servan. Felly troais fy nghamre i gyfeiriad yr Eglwys Gadeiriol. Mae hon mewn lie rhagorol ar ben y bryn, yn gan- fyddadwy o bob cyfeiriad fel y dylai eglwys fod. Saif hefyd ynghanol y dref, a dylai ei dylanwad dreiddio i holl gorneli a chilfachau'r lie, ond ofnaf nad felly mae. Yr oedd yn llawn; nis dywedaf o addolwyr, ond o bobl. Digon tebyg fod rhai wedi dyfod yno i addoli, eraill i syllu, rhai i fwynhau'r gerddoriaeth hyfryd. Cyn- ulleidfa eithriadol gymysg ydoedd. Cawd arddangosiad o ffasiynau di- weddaraf Paris gan rai. Syml a di- rodres ydoedd gwisg eraill. Yr oedd "cwilt" y gwely ar wyneb amryw, ys dywedai y diweddar Griffiths o'r Allt- wen, ac eraill yn dlawd eu gwedd a rheidus eu dillad. Ysgrifenai un awd- wr ar Athroniaeth Dillad," a dywedai y newidiai'r wisg nodwedd a chyfeir- iad y meddwl. Nis gwn a ydyw yn iawn ai peidio, ond gwn fod llawer o wastraff wrth wisgo ac y dilyna pobl eu gilydd." "Wa'th bod yn wraig gaffer na phido os na whisgiff dyn dipyn," meddai un, a chredaf iddi roi athroniaeth dillad yn weddol gywir. Adeilad ardderchog ydyw'r Cathe- dral hwn o ithfaen caled. Edrycha'r gadarn fel craig yr oesoedd. Mac ei nenfwd wedi ei "groino'n" dda, a cheir cerfwaith godidog a darluniau ysblenydd ynddi. Ychwaneger at hyn yr organ soniarus a'r canu hyfryd; y cor wedi ei wisgo mewn dillad coch- ion a gleision; yr offeiriaid yn ei du a gwyn, a'r rhai a weinyddent gerbron yr allor mewn gwisgoedd euraidd. Gall y darllenydd ddychmygu i mi gael gwledd i'r llygad ac i'r glust. Nid oes hafal i Eglwys Rufain am apelio at y synhwvrau. Prentis ydyw Eglwys Loegr yn ei man goreu yn hyn. Nid oes ymgais gan yr Anghydffurfwyr yn y cyfeiriad hwn. Er i'r llygad a'r glust gael gwledd, ni chafodd yr enaid fawr help oddiwrth y gwasan- aeth. Darllenai'r offeiriad ran o'r I Y sgrythyr yn ddieneiniad iawn, ac, ofnwn, difudd hefyd, ond pwy wyr "y mae y gwynt yn chwythu lie y mynno." Ni chawd yr un bregeth. Nis credant fawr yn hynny. Creai hynny feddy!- garwch yn y bobl, a symudent ymlaen at bethau gwell. Cadwed Cymru at ei phregethu. Dyna'i gwnaeth yr hyn ydyw. Ysbryd lied fasnachol welwn yn yr Eglwys ei hun. Gwnaed dau gasgliad yn y gwasanaeth. Nid oedd dim i ddywedyd yn erbyn hynny. Daeth yr offeiriaid eu hunain o gwm- pas yr ail waith. Heblaw hyn codent dal o ddimai neu geiniog am gadair i eistedd. Nid rhyfedd felly fod mas- nachu mawr yn mynd ymlaen tu allan i'r Eglwys ar Ddydd yr Arglwydd. Aflonyddid y gwasanaeth gan werthu tocynau'r sedd tu mewn, a chan grochlefain y gwerthwyr tu allan. Tra'n dod allan o'r Eglwys sylwais fod y siopau i gyd ar agor a mas- nach yn mynd ymlaen fel arfer. Yr oedd y cafes i gyd yn agored, ac yn gwerthu cymaint os nad mwy nag ar ryw ddiwrnod arall. Rhoid y prynhawn i gyd i bleser a chwareu. Yr oedd rhedegfa geffylau yn San Servan y prynhawn hwn. Gwelwn y bobl wrth y cannoedd os nad y mil- oedd yn tyrru tuag yno. Dywedir mai dyma'r diwrnod i gynnal popeth o'r natur hwn. Chwareuir y bel droed yn ddigywilydd, a rhoir y Dydd Sanctaidd i fvnv i bob rialtwch ac oferwaith annuwiol, a dywedir fod yr offeiriaid yn uno'n galonog gyda'r bobl yn hyn. Duw a'n gwaredo fel cenedl rhag syrthio i'r un pwll. Nid euthum gyda'r dyrfa y dydd hwn, gan nad oeddwn am dorri ar argyhoeddiad ac arfer oes. N1 ddaeth y dyrfa gyda minnau chwaith. Nid ydyw yn dilyn mae'r dorf oedd yn iawn. N.id ydyw'r mwyafrif yn an- ffaeledig. Nis medrwn aros yn y ty. Ni ddysgais y grefft o gysgu ar bryn- hawn Sul eto. Felly rhaid ydoedd myned allan. Crwydrais ychydig drwy'r dref. Tra'n cerdded yn hamddenol felly gwelais angladd— (I barhau.)

Advertising

GREAT SALE 01 Music, Songs, Piano Solos, Duets, Operas, Vio- lin, 'Cello. Organ. Catalogues free.— Dept. 5, Moon and Sons, Plymouth.

IByr Hanes

I Byr Hanes. I AM MRS MARY RICHARDS, EBEXEZER, TRECYNON. I IL I 0 WENT I GYNON. Fel mam ieuanc siriol a gwrol gyda'i chyntaf-ancdig yn ei mynwes, y gwel- wyd ein harwres gyntaf yn Aberdar. Ond gofalodd Gwent am roi iddi ddigon o gynysgaeth yn ei hysbryd a'i phrofiad cyn croesi o honi hi a'i phriod dros y mynyddoedd i ddechreu eu byd, ac i ymladd brwydrau'r anial yn ei thrigfan newydd. Pan yn ymfudo gan symud ei lluest o wydd coed tewfrig dyffryn yr Howi, ac oddiwrth gysgod mynydd-dir garw'r Gnol yn I I Rhymni, yr oedd twrf pell dyfodiad | diwygiad '59 i'w glywed ar y gorwel, b J ac iaith caniadau a charolau'r deffroad bythgofiadwy hwnnw dorasai fwyaf ar glyw ei mebyn cyntaf, ac yn swn a fflam diwygiad '59 a '60 y crefyddodd John fyth wedyn. Cafodd ef ei eni yn j naturiol ac yn ysbrydol yn awyrgylch I blynyddoedd deheulaw Duw, ac erys yn golofn gref fel diacon ffyddlawn ac hynaws ei ysbryd yn Nghana, Peny- waun, hyd y dydd hwn. Pan ddechreuodd ei gyrfa fel mam, gwerthfawrocach ydoedd na'r car- iDwncl; calon ei gwr a ymddiriedai ynddi. Ceisiai wlan a llin, a'r nod- wydd a'r edau. Y gweill a'r gwlan yn unig a wybuent am ddiwydrwydd ei dwylaw. Tebyg ydoedd i long mar- siandwr yn dwyn ei hymborth o bell- darbod cyn a chynilo wedi cael. Pryn- odd faes a phlanodd winllan; gwregys- odd ei llwynau ii nerth, ac a gryfhaodd ei breichiau. Diarregodd dir a di- wreiddiodd ddrain a mieri. Cloddiodd erddi, a danadl ni thyfasant drostynt. Ychwanegodd dy wrth dy, a'u magwyr gcrrig ni syrthiasai i lawr. Gallasai roi ei ddwylaw am freichiau'r ferfa drol, gan olwyno meini i'r seiri maen, a rhoi ei hysgwydd o dan yr hawc gan ei chludo a chymmrwd i'r dwbiwr; cystal ag a rwbiai gwyr i ddisgleirio ei dodrcfn dderi. Rhychiai bridd yr ardd, a medrai gnydio ei chnotiau llys- iau mor gelfydd ag y tylinau does a chrasu bara ceirch ar lechfaen. Son am wyrthiau'r fam Gymreig; nid mabinogi oedd gorchestion y cyfryw, attolwg Gwnaeth hon rai o honynt- a mwy na "gwau efo'r hosan a nyddu efo'r earth. Gwnaeth i lawer prinder droi yn lawnder, a gwelwyd ei bysedd mewn llawer cyfwng blin ar wala'r wlad yn "tynnu'r ddau linyn ynghyd" yn ddigon esmwyth. Pan waclodai'r blawd yn v celwrn a'r olew yn yr ystên, credai fwy yn ngallu'r law ddiwyd nag yn nichon gwyrth i'w cyflenwi. Codasai wrid i wynebau gwniedesau ucheldrem y cyfandir pe gwelent geined y pwythau glytiai a'r lodrau g\aith ei phriod a'i phlant. Amheuid gan ei chydnabod a fyddai gan Dorcas sampl o wniadwaith i'w ddangos a'i ddysgu iddi. Ni roi'sai hamdden i'w dwylo ar hyd y dydd, ac o'r braidd y cawsai ei hemrynt hun ar hyd y nos ganddi'r dwthwn hwnnw. Ganwyd hi yn freiniol i lafur. Cyflawn- odd lawer o galedwaith yn ngoleuni'r lloer; gwyddai'r llusernau am luaws o'i gorchwylion. Gwelsid ei Iludded yn ei gorfodi i gymeryd egwyl am ennyd yn awr ac eilwaith o'i hanfodd weithiau, ond ni allasai gormes cyfoeth na'i foethau, mursendod na balchder; diogi na chystudd ei dar- ostwng i fwyta bara seguryd. Trodd ei syniad cynhenid am urddas llafur; cysegredigrwydd dyledswydd, a dwy- foldeb rhinwedd yn amddiffyn iddi rhag cael ei llychwinio gan y gwarth- rudd hwnnw. Estynai geiniog i bob cardotyn ddeuai at ei drws i guro am gardod, ac os byddai yn iach ei wedd fi chryf ei gorff cawsai air neu ddau yn geryddol gyda llaw, a'r "gloddio nis gallaf a chardota sydd gywilyddus genyf." Ni chawsai hepian na chysgu na phlethu dwyIaw ynghyd yn anad dim ei dwyn i dlodi. Hawdd cyfrif am y nwyf a'r yni gadwai ei natur mor ramantus o egniol. Oni fu ei llygad yn gwylio'r cyniwair ym mhyrth y gwenyn rhwng blodeu'r ardd yn y Gnol, ac yn bwrw trem ar "droion yr yrfa" agorid trwy'r twmpathau pridd gan reddf v mor- grugyn? Suddodd eu portread hwy o fywyd llafurus yn ddwfn i'w henaid; pe amgen buasai seguryd wedi rhoi rhwd ei nod ar rod ei bywyd, ystalwm, ond cadwodd Mary Richards ei gwaed a'i giau i guro yn ddiwyd a chynes hyd ddydd ei pharlys. Annidd- igrwydd oedd rhan o'r gynysgaeth roes ei Chrewr o'r bru iddi, a bu hynny yn fwy o ff awd na pes ganesid hi yn aeres. Nid gwerth tyddynod da o berlau ar ei bysedd a dryeh drud i "ddysgu gewrsi o gymhendod min- dlws gafodd hi i ddechreu ei byd, ond dwy rudd cyn goched a gwin y rhasberi," a dwyfol ddelfryd yn ei chalon am ddiwyddrwydd bywyd. (I'w barhau.)

Advertising

FOR PRICE LIST. § MENDING BELTS and HAPHESS USE BIFURCATED RIVETS. Noneed to punch holes. Simply drive Rivets, and bend back the prongs. Neat and strong Of all local Troii- inongtrs, or st-ii d I;- for box (azsorte,l) to ■H Bifurcated and Tubular M Aylesbury. Bucks. I |Y MODD MOO YN IACHN J.DD I DD°f¡ YN .CHI,  J I =l' A Wellhant Gam d reu liad, Geri (Billousness ), Rhwymiad, Palliant Gwae d Cyfog, Gwynt, Cur yn y Pen, &c. Gellir tebygoli y stumog, yr afu, a'r (bile), llosg cylla, y bendro, ao arloesygiad coluddion i dri bwa pont fawr; os nad (nausea). Gwenieitha" PELENI CINIAW cadarn bob bwa, anniogel fydd y bont. Ac DOAN yr afu, a chymhellant ddylifiad y os bydd y stumog, neu yr afu, neu y geri. gau sicrhau gweithrediad iachus y coluddion allan odrefn, yu ddiwad fe waela, peiriant pwywig hwn. Ond os esgeulusir yr o gydymdeimlad, holl organau ereill y anhwylder, fe arwain i'r cryd melyn (jaun- gyfundrefn fawr hon. Dylid, felly, ymar- dice) a cherrig yn y bledren. fer I'ELEMI CrIAW DOAX ar yr arwydd Os rhwymedig eich coluddion (bowels) cyntaf o aiinlirefit yn yr afu, yn y stumog, cewch boon yn nghcsail eich morddwyd; neu yn y coluddion, fel ag i rwystro mewn bydd yna dynerweh a phoen yn y stumog; pryd i'r drwg ledaenu. colhveh areliwaeth at fwyd, a chnawd, a Os oes anhwylder yn eich stumog thrallodir chwi gan wyiit, plorod croen, a drwgeffeithir ar y tafod, bydd archwaetli I'hhvvt' y in;irchogion (/Jilt's). Gwenwvnir anhyfryd yn y ganau, a chewch gamdreuliad y gwaed, a bvddwch mewn pervgl o gael y ynghyda'r mawr-ddrygau sydd bob amser elwyfau adnabvddir dan yr enwau appen- yn ei ganlyn-balliant gwaed, llosg cylla, diciti. a jientonilis. Etfaith PELENI anhunedd, yr hunllcf (nightmare) cur CINIAW Do,õ ydyw meddalhau talpiau o pen, cyfyngdra anadlu, poenau rhwng yr fwyd difudd sydd yn adfeilio, a chyffroi y ysgwyddau, ac yn y fynwes. PKLKNI coluddion i weithrediad esmwyth a natur- CINIAW DOAN ydyw physigwriaeth fawr y iol. Os a ddiwrnod heibio heb weithrediad stumog. Cynorthwyant dreuliad bwyd, ac y coluddion byddwch yn sicr o gymeryd adferant y stumog. Un o BELENI CINIAW dogn O BELEI CINIAW DOAN cyn myned i DOAN (Doan's Dinner Pills) ar ol pryd orw(-vld, ae yn y iiiodd hyii rhoddi i'r coludd- trwm a rwystra bob effaith ni,weidiol. ion v cynorthwy angenrheidiol i weith- Os oes anhwylder ar eich afu, ä. eich rediad naturiol. Dylid bob amser gadw yn gwedd yn y ty tlychiad o BELENI CINIAW UOAX, a felyn a gwyn dylai pwy bynnag o'r teulu sydd heb d«mlo eich Ilygaid vii dda gymeryd dogn o honynt ar unwaith. yuddagymeryddognohonyntarunwaith. yn ddrwgliw; Pris PELENI CINIAW DOAN ydyw L/U y .j| chwi dei m- blwch, chwe' blweh, 6/- I'w cael gan holl 1 w c h y n fferyllwyr, ac yn y Stores, neu yn sytl oddi- L ddiawch ao wrth y Perchenogion, FOSTER HCCLELLAN yn bruddaidd, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, bydd yna. W., yn rhad drwy y post ar dderbyniad y c gyfog, a'1' geri pris. PELENI i???\?\.LS?.s?/ ?i?' CINIAW DOAN (Doan's Dinner Pills). j LLS (Doan's Dinner Pills).

I Drama Gwyl Ddewi ir PlantI

I Drama Gwyl Ddewi i'r Plant I I ACT III. Golygfa: Mynachdy, Ty Gwyn ar Daf (Whitland). Dewi yn ddyn ieuanc, tal- gryf, mewn gwisg Fynachaidd, yn gweini ar ei hen Athraw, Paulinus. Y ddau mewn ystum vmddiddanol. Paulinus: Dewi, frawd, dyna waith un dydd ar ben eto. Yr ydwyt yn gar- edig iawn i mi, ac yn wasanaethwr da i Dduw. Eistedd, cymer seibiant, gad i ni ymddyddanu er adeiladu ein gilydd yn y ffydd. A wyddost ti fod deng I mlynedd i heddyw oddiar pan ddaeth- ost i wasanaethu Duw gyda mi yn y ty hwn ? Dewi: Mi a wn, fy Arglwydd feistr. Ac y maent wedi bod yn ddeng mlynedd o bleser mawr i mi yn nghwmni gweis- II ion Duw. Paulinus Ha, fy mab, y mae y Tad Xefol wedi gweld yn dda i chwerwi y I cwpan i ti a minau yn y flwyddyn ddi- weddaf yma. I ti, yn benaf, o herwydd colli mam dda, ac i minau o herwydd y tywyllwch sydd yn dod dros fy ngol- ygon. Dewi: Ie, fy Arglwydd feistr, dyna brofedigaeth chwerwa fy oes. Ac oni bai am gysur gwasanaeth y ty hwn, byddai y gofid wedi fy llethu. Ac, 0 y mae yn ddrwg genyf am brofedigaeth fy Meistr hefyd. Paulinus: Amen. Diolch am dy ffyddlondeb, fy mab. Am dy weith- garweh. a'th ufudd-dod fel disgybl, a'th ffyddlondeb i ddeddfau y ty hwn, yr wyf yn awr yn myned i gyflwyno i ti y breintiau sanctaidd llywodraethol. Galw y brodyr i fewn. (Dewi yn canu cloch undonog tri neu bedwar o Fyn- achod yn dyfod i fewn yn araf, ac yn moesgryinu i Paulinus.) Y brodyr, y mae y brawd Dewi, drwy ei fywyd sanct- aidd ar hyd tymor ei wasanaeth, yn teilyngu cael ei ddyrchafu i'r sedd lyw- odraethol, a breintiau uchaf y frawdol- iaeth. (Wrth Dewi) Ymostynga, frawd. (Dewi yn ymgrymu o'i flaen. Yntau yn gosod ei ddwylaw ar ei ben ac yn cyhoeddi y cysegriad.) Yr wyf yn enw Duw yn dy gysegru di, frawd, i wasanaeth ac hawlfreintiau uchaf y ty hwn. Bydd ffyddlawn i dy Dduw, ac yn wasanaethwr i dy gyd-ddyn. Cyfod, fy mrawd. (Yn rhoddi Haw iddo i godi.) Y Gydgan Sancteiddiol, fy mrodyr. (Yn canu chant fer undonog.) Diolch am eich gwasanaeth, frodyr. Gellwch fyned yn awr at eich dyled- swyddau arferol. (Y Mynachod yn myned allan.) Dewi, frawd, yr wyf yn llawenhau fod yr oruwchwyliaeth o gyf- lwyno i ti v breintiau uchaf wedi ter- fynu. Ti wyddost fod fy ngolygon yn pallu, a'r cynheddfau corfforol i gyd yn marweiddio. Er hyny i gyd yr wyf yn llawen a ffyddiog, oblegyd dy fod di yn barod i gymeryd fy lie. Ha, y mae y llawenydd fel yn fy nallu! Dewi, ble'r wyt ti ? Dewi Ai ti sydd wedi myned neu fy llygaid i sydd wedi pallu yn gyfangwbl ? O yr wyf yn ddall; yr wyf yn ddall! (Dewi yn neidio'n mlaen ac yn ei osod i eistedd ar gadair.) Dewi: Beth sydd, fy meistr, my mrawd ? Beth sydd yn dy flino ? Paulinus Dewi, edrych ar fy llygaid. Oy maent yn fy mhoenu. (I barhau.)

Advertising

DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. 21 CABINBT WORKS :—  21 High St. 6 Morris Lane, hW?USCSL The Largest and Cheapest Steanj Cabinet Manufactory iq South Wales. Illustrated Catalogues free on applications IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above &10, or Delivered Free m out own VtM.