Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 7 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
7 erthygl ar y dudalen hon
Beirniadaeth I

Beirniadaeth I EISTEDDFOD CADAIR EBEN- EZER, LLANELLI, RHAGFYR 13. GAN Y PARCH. RHYS J. HUWS, II GLANAMMAN. (Parhad.) Pryddest bur anwastad ydyw eiddo "Bugail Hafod y Cwm." Hoff xx-n lithr esmwyth rhai darnau o'r gerdd, ond disgyn darnau ereill yn drystfawr I a garw ar y glust. Ceir rhannau o'r I gwaith yn rymus a meddylgar, a cheir, hefyd, rannau eiddil heb nemor ddim ond geiriau llanw ynddvnt. Y mae'r gerdd yn brin o ddisgrifiadau naturioi a bw, a cheir ynddi lawer ymadrodd t ystrydebol ac amhersain. Gallem bigo degau o engreifftiau i brofi'n gosod- iadau, ond gofod a ballai. Diau y gallai'r awdwr hwn nyddu llawer am- genach cerdd, ond rhaid iddo wrth fwy o ofal i gynyrchu gwaith da. Pryddest felys a gawn gan Pere- dur," wedi ei mydryddu'n esmwyth ag amryw o'i darnau yn farddoniaeth calon. Ccir llawer darlun naturiol yn y gerdd, a theimlwn ambell dro fod yr awdwr fel telynor yn taro'r tant nes tynnu'r miwsig melysa o hono. Dyma fel y can pan yn disgrifio- "Ddifyrred treulir hwyrnos y gaeaf gylch y tin Y tad yn prysur drin y ffon, a'r fam ei hosan wl&n; Y plant a'u gwersi frwydrant, a byw- iog chwery'r lleill, A chan y fam ei hemyn hoff wrth ddiwyd drin y gweill." Ond er yn canu'n rhwydd a melvs, nid yw agos mor gryno a chynnif ag y dylai fod. Can Aretina'n" bur ddidram- gwydd, ond y mae arddull y caniad cyntaf yn rhy bregethwrol. Cerdd foliant yw y bryddest hon, ac er yn weddol gain ei gwisg, nid oes ynddi lawer o angerdd teimlad nag o rym awen. Wele esiampi o ansawdd gyffre- dinol y gwaith:- "Aelwyd garedigol Mangre ddedwydd yw, Lie mae'r bywyd dynol Y n ogoniant byw." Y mae'r gerdd yn brin o wefr; ae, yn sicr, nid yw pob peth a blethir ynddi "o'r un waed a'r awen wir." Bardd awengar dros ben yw'r "Prydydd Du" a chanu'n reddf iddo. Moli'r aelwyd a wna yntau, ond yn ei foliant ceir ami i gyffyrddiad yn ddar- lun cyflawn ynddo'i hun. Barddon- iaeth ff lachiog iawn a geir yn y bryddest hon, fel rheol. Dichon mai gwell fuasai lliwio'n gynilach a syml- ach. Er yn mwynhau rhuthr llifeiriol yr awenyddiaeth mewn rhai darnau, mwy dymunol gennym fuasai cael y lli'n dawelach wrth ganu i'r "bwthyn diaddurn," a'i fywyd syml, glan. Darllener un pennill fel engraifft o'r hyn yw'r g&n drwyddi- "Fe ddawnsia boddlonrwydd yma Ar ruddiau y plantos man, Pa wledd fel storiau y penwyn daid Sy'n trefnu y mawnog dan? Ni ddrachtiant o wenwyn Bacchus— Diail ydyw gwin y nant, Cyfrinach eu cryfder yw'r llefrith gwyn A'r llymru sy'n fel i'w mant." Nid yw pryddest "Calon wrth Galon yn gyfartal drwyddi. Yn gymhlith a disgrifiadau naturiol a syml, ceir darnau trystfawr heb yn- ddynt ddim namyn ymchwydd geiriau. Efallai fod llinellau fel hyn vnfardd- onol- "A gwrendy y ser o'u haruchel gysawdiau, Chwedleuon yr aelwyd drwy'r hen simdde gam." Ond ni chymer pethau fel yna eu lle'n dda mewn pryddest ar destun fel hwn. Y mae'r awdwr yn fardd gwych, ac yn enor pur dda, ond y mae Hawer nodvn ug yn ei ganu'r tro hwn. Serch at gartref dnvy waith T JLlais or Mur," ond cerdd "ddi- ddrwg ddldda" ydvw hon ar v cyfan. yma ansawdd y bryddest yn gyffre- dll1- Daw'r hen wraig a'r trysor Pan mae'r teulu'n cwrdd, Blaenor mawr yr allor Nesha at y bwrdd." Mae'r frydryddiaeth yn llyfn ddigon fel rheol; ond ambell dro daw'r garreg arw yn erbyn ei Hif. Pryddest gyffredin yw hon. Y mae yspryd rhagorol yng ngherdd Llywarch Hen," ond cyffredin yw ansawdd ei barddoniaeth. Ni ellir ei rhestru'n uchel mewn meddwl na gwisg. Er fod moliant y bryddest yn trwd ac uchel, nid oes yn y gwaith nemor i ddarlun yn ein llygad ddenu. Canu'n bell a wna'r awdwr. Tvbed fod llinellau fel hyn yn talu am eu lle- Yr aelwyd sy'n yfed awelon v bryn- lau tragwyddol, I dn" ff.. drws a' i ffenestri9n agored i'r Haul anfachludol." (?) Eto- "Datguddia ei goleu ogoniant dech- reuad doethineb, A '0 h I henw dilychwin yn darddell o sivyn ac anwyldeb." A wdwr Cyfar 1 dd 0 A-d-r eyfarnkydd iawn a Ilunio ? ?eg? eth?? "Adl Torreth o. "lIe" als. orreth 0 aleg-ori'au fe10nyw'r bryddest ??yddi ? ??a;ir r? hyn fod ambe!! air hyn foci ambeII bennill yn gymysgfa ryfedd. Dyma fel y can Adlais''— "Teml ei hysbrydoliaeth, ffynnon ci mwynhad, Mvnydd ei chadernid, teyrnas mam a thad. Ceir llawer o gywreinrwydd a gallu yn y gwaith, ond nid yw'r dull hwn o ganu i'w gymcradwyo. Ysbryd pyrddest "Rhwng y Brwyn yw ei phrif ragoriaeth. Nid oes ynddi bortread tlws o'r aelwyd, ac nid yw'r gerdd, fel crefftwaith, yn orffenedig a glan. Ond y mae rhy .v ysbryd cydnaws a'r testyn yn ym- svmud dan ei llinellau. Moli yn d-eimladwv ac annwyl a wna'r bardd. Dyma fel y gorffen Rhwng y Brwyn ei gan, ac y mae'r llinellau vn dangos nodwedd y bryddest ar ei hyd— Hyd nes daw v fordaith olaf Dal i'th garu wnaf o hyd, Am i'm dderbvn ar dy fronnau Faeth i goncro brwydrau'r byd. Pryddest lawn o deimlad ydyw eiddo "Brython," ac yn cynnwys darlun pur gywir o Aelwyd y Cymro. Svlwasom ar luaws o fan feflau'n an- urddo wyneb y gwazth. Nid v-r awdwr yn feistr hollol ar y gamp o gyfleu ei ddefnyddiau. Gallesid wneuthur hyn yn llawer mwy celfydd nag a wnaeth efe. Dysged osod "afalau aur mewn gwaith arian." Bu hefyd yn esgeulus wrth gopio'i waitli. Er nad yw'r farddoniaeth yn ennein- iedig iawn, ac nid oes orffeniad da ar y gwaith, ceir rhai darnau gwlithog ym mhryddest "Brython." Ni ellir canmol llawer ar gynnyrch "LIef o'r Adail o ran syniadaeth na saerniaeth. Y mae'r bryddest hon yn ,bell o fod yn cloi synwyr mewn clysineb." Prin iawn yw ei melodi, ac afrwydd yw ei mydryddiaeth. Cymer- er darn yn esiampl o'r holl waith- "Llwyfan y myrdd amgylchiadau Yw ei aelwyd hardd a thlos; Heddyw y mae dan gymylau, Eilwaith dan yr heulwen dlos." Digon hyn i brofi nad yw'r gerdd j fynu a safon cadair. Efallai mai goreu fai dyfynnu darn o bryddest "Tant y Teimlad i brofi eto nad oes iddo yntau obaith am gadair y tro hwn- "Aelwyd yn llawn llawenydd Yw aelwyd y Cymro cu, Un dan swvnion hael a byw, Er hael a thlawd yw hi." Cyffredin iawn yw natur y farddon- iaeth, a cheir man feiau mewn gram- adeg yn afrifed drwy ei holl rannau. Nid oes ynddi ychwaith yr un darlun tlws i'n denu wrth ei darllen. Canu'n bur wria "Ifor Aelfryn." Ni cheir yn y bryddest hon waith y saer cywraint, ac yn ofer y gwrendy'r glust am acenion y per ganiedydd. Gall y cyfarwydd rag- wybod tynged "Ifor Aelfryn" ond darllen unrhyw ddarn o'i gerdd. Cymerer hwn ar antur- "Mae'n wir fod ambell aelwyd Yn aflan iawn ei gwedd, Amddifad yw o gysur Ac ni cheir ynddi hedd; l Fe welir Iwch a lludw Ac anfoesoldeb mawr, A'r Cymro druan arni Heb unrhyw hawddfryd 'nawr." Ofer ychwanegu. Y mae arwyddion gallu ym mhrydd- est Meirionfab," a chawn liw'r awen ar ambell syniad yn y gwaith; ond cerdd rodresgar ydyw yr eiddo ef ar y cyfan. Er yn ymddangos ar y wyneb yn loewlan, ffug farddoniaeth yw y rhan helaethaf o'r bryddest hon. Ni ddygymydd y profiadol a pheth fel hwn— "Os wyt yn hen, ieuenged wyt a'r wawr Roes i'th breswylydd hawl yn "Ngwlad y Bryniau," A thrwydded i gartrefu vn ei glynau Cyn geni duwiau Groeg a Rhufain Fawr. Llai o rwvsg ffugiol a mwy o symledd naturiol a ddisgwyliem. Naws ryddieithol dros ben sydd ar bryddest "Hiraeth." Y mae yn dref- nus a rheolaidd, ond yn od o ddien- einiad. Nid yw "anadl y peth byw yn y gerdd, ac er fod ynddi lawer o synwyr cyffredin, y mae ei barddon- iaeth cyn oered a goleu'r lloer ar noson rewllyd o Dachwedd. Dyma nodwedd y canu drwy'r bryddest— "Aelwyd gerddgar, farddonol yw hon, Mae'r gerdd yn fyw os ciliodd y delyn, EI phlant talentog arni yn lion Droion wenasant y gan a'r englyn." Er fod graen a glendid llenyddol ar y gwaith, a'i farnu fel barddoniaeth v mae yn hynod o ddi-swyn. (I barhau.)

Advertising

A RTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boofcts, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit" Trusses, etc. lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-2. -List free. Tel 1282.-Allen Pearce, 26 Charles Street, Cardiff.

DadlI

Dadl. SAFLE'R CHWIORYDD YN YR EGLWYS. Mair el, dyma ni wedi cwrdd, a dyma gyfle da i ni i setlo hen gwestiw n fu dan sylw genym lawer tro,sef,t Safle'r Chwiorydd yn yr Eglwys. I Martha Ie, yn wir, Mair; mae eisiau setlo'r cwestiwn hwn, oblegid 'rwy'n sicr fod yr eglwys yn colli llawer o'n -gwasanaeth a'n defnydd- ioldeb, am nad ydym wedi cymeryd ein I lie na chael y lie dyladwy i ni yn yr I eglwys. Hannah Yr wyf finnau yn cyd- hn'd yn hollol a chwi, oblegid y chwiorydd fel rheol vw'r mwyafrif bron ym mhob eglwys. Gwyddoch I gystal a minnau am y deyrnged gawn I yn barhaus gan ein gweinidog am I ein ffyddlondeb i'r cyfarfodydd, ac eto i gyd yn herwydd rhyw hen syniad- au paganaidd, diles a diwerth, does nemor i un o honom feiddia ddweyd gair mewn unrhyw gyfarfod. I Ruth Wei, yn wir, chwiorydd, 'rwy'n mcthu'n lan a deall sut nas gwyddoch ein safle yn yr eglwys. Yn sicr nid ydych yn darllen y Testa- ment Newydd, neu chwi fvddech yn gwybod beth ddywed Paul ar y mater. Dvwed ef yn eithaf pendant, "Tawed eich gwragedd yn yr egIwysi." Naomi Wrth gwrs hyny, a dywed Paul, ac os bydd eisiau gwybod rhyw- beth arnom, am i ni ofyn i'n gwyr gartref. "Y gwr yw pen y wraig," medd ef, a dylem fod yn dawel a darostyngedig iddynt bob amser. Orpah Mae'n deg i minnau ddweud fy marn, a does dim ofn arnaf i ddweyd chwaith. Fydda i byth yn rhoi pwys mawr ar yr hyn ddywed Paul am y chwiorydd, oblegid 'doedd ef ddim yn awdurdod o gwbl ar bwnc y chwiorydd. Hen fab gweddw oedd ef, a gwyddoch fod gwel'd menywod yn dan ar groen pob hen lanc, heb son am eu clywed yn siarad. 'Doedd yn syndod yn y byd ei fod ef yn dweyd, I "Tawed eich gwragedd." Pe buasai gwraig ganddo ef, ni fuasai erioed wedi mentro dwevd peth felly. Mair: Yr wyf finnau wedi sylwi hefyd yr un fath a Orpah fod Paul yn erbyn y chwiorydd yn barhaus. Meddyliwch am dano yn ei lythyr at Timotheus fel y ceisia esgusodi yr hen Adda, a bwrw'r bai i gyd ar Efa druan. Dywed fel hyn, u Ac nid Adda a dwyllwyd, eithr y wraig wedi ei thwyllo oedd yn y camwedd." Martha: Mae'n rhaid i ni beidio bod yn rhy hallt ar Paul hefyd. Dichon fod yn eglwys Corinth rywrai dipyn yn benboeth ac annoeth, ac eisiau iddynt dewi. Mac i bob cvf- nod ei gyflwr. Nid yr un fath yw yn awr ag oedd yn amser Paul. Fe ddyl- em ni yn yr ugeinfed ganrif fod yn meddu cymeriadau addfetach a syn- iadau cliriach am grefydd a chyd- raddoldeb yn yr eglwys. Hannah Wrth gwrs hyny, dylem gyd-ddwyn y baich yn fwy cyffredinol. Pawb ar yr un safon, dyna yw Crist- ionogaeth. Mae'r chwiorydd yn cael eu derbyn i fewn i'r eglwys ar yr un amodau a'r brodyr, a chant y fraint o gyfranu yr un fath yn gywir, ond pan fydd eisiau pcnderfynu unrhyw beth o bwvs, fe glywir y cyhoeddwr yn dwevd, "Arosed y brodyr ar ol." Ruth n wir, chwiorydd, yr ydych .I wedi fy synu i. Feddyliais i ddim erioed eich bod mor ddifrifol ac fod cymaint o dalent yn ein plith. Credaf yn awr ta\r peth gore allwn ni wneud yn v G-- vw ethol tua dwsin o ddiaconesau ar unwaith. Naomi Peidiwch siarad yn ysgafn, Ruth. Dywed Paul hefyd, "Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostv ngeiddrwydd. Orpah Hawyr amvyl, oes dim neb ond Paul wedi pregethu i'r chwiorydd? Beth ddywcd Iesu Grist? Mair Iesu Grist sydd wedi ein codi ni i'r safle yr ydym ynddi heddyw, a dyna paham y dylem ninnau wneud ein goreu o blaid ei achos ef. Os cymhellir ni gan yr ysbryd i wneud rhywbetn, peidiwn ofni beth ddywed dyn am danom. Martha Do, fe osododd yr Iesu anrhydedd ar y chwiorydd. Mair Magdalen gafodd y fraint o ddweyd yn gyntaf wrth y byd am Ei adgyfod- iad, ac fe gymerodd yr lesu drafferth i siarad a'r wraig o Samaria, er ei gwncud hithau yn genhades i'w phobl, a gwyr pawb am yr amlygrwydd rodd- odd Ef i weithred gariadlawn Mair o dori y blwch enaint a dwy hatling y weddw. I Hannah Mae'n rhaid ini gydna, bod nad oes yn nheyrnas Iesu Grist wahaniaeth rhwng y brodyr a'r chwi- orydd, cyfoethog a thlawd, caeth neu rhydd, pawb ar yr un safon, yn un ac yn gytun, a chariad yn llywodraethu. Ruth Yn wir mae llawer o briod- oldeb yn yr hyn ddywedwch, oblegid mae'n rhaid ini gofio mai gwinllan yw yr eglwys a gweithwyr sydd eisiau ynddi, ac nid rhai i eistedd a phlethu dwvlaw a beirniadu ereill. Fellv dewch ini gael cydweithio a'n brodyr, ac nid aros yn segur. Naomi Teimlaf finnau hefyd nad ydym fel chwiorydd yn gwneud yr hyn a allem a'r hyn a ddylem. Fe ddis- gynodd yr ysbryd ar y chwiorydd yr un .fath ag ar y brodyr ar dydd y Pente- cost, ac mae'r ysbryd o hyd yn erfyn ond i ni i ufuddhau. Ond cofiwn mai nid siarad yw'r cyfan; gwaith hawdd yw siarad. Beth pe byddem yn rhoi tro ambell waith i heolydd culion a "back slums ein cymydogaeth. Fe- allai fod yno lu yn barod i droi dalen pe bai ni ond gofyn iddynt a rhoi help Haw iddynt. Dyna beth fyddai gweithio dros yr Iesu. Orpah: Ie, yn wir, Naomi, mae'n dda genyf cich bod yn cyd-wel'd a ni. Yr ydym yn anfon chwiorydd yn gen- r hadesau i wledydd pellenig y byd, ac yn eu cynal yno, ac mae'n resyn meddwl ein bod ni fel chwiorydd > gartref yn plethu dwylaw ac yn llechu I dan ryw esgusodion er mwyn peidio gwneud dim. Gobeithio y bydd yr ymgom hon yn help ini ddihuno o'n cysgadrwydd. Mair NN-el, 'rwyn sicr ein bod wedi cael ymgom hapus iawn, a da genyf ein bod erbyn hyn o'r un farn, sef, J mai eisiau gweithwyr sydd yn ngwin- llan yr Iesu. Martha Canwn gyda'n gilydd ynte Gweithiwn vn y winllan, gweithiwn b dros yr Iesu, Daw y nos yn fuan, gweithiwn dros ein Duw, Melus yw cydganu, cariad yn ein tynu, Gweithio dros yr Iesu, 0, mor felus yw. Rhoddwn ein talentau, rhoddwn ein calonau, Boed ein cyrph yn demlau i'n Gwar- edwr gwiw; Chwilio am Ei berlau, deffro hen delynau, Gweithio dros yr lesu, 0, mor fclus yw," etc. -Ton, Rhif 152, Llawlyfr Moliant, Ysgol Sul.

SARZINE BLOOD MIXTUREI

"SARZINE" BLOOD MIXTURE. I CROEN IACH A GWAED PUR.- Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sierhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc.. yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, 1/li a 2.:6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH.

IPenderynI

Penderyn. I Y DDIWEDDAR MRS. HOWELL, I O DYLEMORGRUG. Byr oedd ein nodiad am y chwaer uchod yr wythnos ddiweddaf. Teiml- wn y dylem ychwanegu gair am dani ar gyfrif y teulu parchus yr hanai o hono. 0 holl deuluoedd parchus ac henafol yr ardal nid oedd un yn fwy fellv na "Jonesiaid Penyreithin." Yr oedd John Jones, a elwid Sion Peny— eithin, tad yr ymadawedig, yn wr neillduol a pnwysig yn ei ddydd. Heb- law ei fod yn amaethwr cvfrifol, yr oedd yn gontractor, ac efe a agorodd un o chwareli enwog Penderyn a ad- nabyddir wrth yr enw "Chwarel Aber- aman," am mai tuag at y gwaith haiarn hwnw yn amser Crawshay Bailey yr anfonid y ceryg. Cadwai Sion wedd o geffylau ar y dramffordd oeddent yn gredyd i unrhyw gon- tractor. Yr oedd y codi a'r llusgo ceryg at y gwaith gan y gwr o Ben- vreithin a'i feibion-Daniel, Herbert, William, a Dafydd, yr olaf oedd yr halier. Boneddiges ardderchog oedd gwraig Sion, a bu yn garedig, ie, yn '?'redig iawn i'r ysgrifenydd droion. Wrth ol llaeth i'n teulu ar foreuau oer ni chawsem fynd oddiwrth ddrws v fferm yn waglaw—darn o deisen gurrents o waith cartref neu feallai ffroisen dwym o'r ffwrn bob amser. Er fod dros 50 mlynedd oddiar hynny, i-iii dybiwn fod arogl y deisen a'r ffroisen yn fy ffroenau y fynyd yma gan mor rhagorol oeddynt. Bendith gyfoethog y nef fyddo ar y teulu er mwyn yr hen fam odidog hono, ac fel yr ydym wedi sylwi y mae ei dis- gynyddion braidd yr oil o honynt uwch ben eu digon o dda y byd hwn. Byw yn dangnefeddus a phawb oedd nod- wedd arbenig y teulu, a hynny oedd nodwedd bywyd Mrs Ann Howell, anwyl briod Mr Rees Howell, y gwr o Dylemorgrug. Fel y mae yn hysbys i lawer mai brawd i'r diweddar Jenkin Howell, argraffydd, Aberdar, yw Mr Howell, ac a fu gynt yn arweinydd y gan am dymor maith yn Eglwys Pont- prenllwyd, Penderyn. DEWI CYN ON.

Advertising

THE REALWELSH CURE HAYMAN^I BALSAM 1 WELLHA BESWCH ac ANWYD H A mhrisiadwy gyda phlallt. Poteli I/- a 216 t Gan oll Pferyllwyr a GrosersB Ri

Dosbarthwyr y Darian

Dosbarthwyr y 'Darian.' Wele restr o "newsagents" ydynt yn gwerthu y "Darian" yn rheolaidd Aberdare Valley. Mr. Ed. Parr, Canon Street, Aberdare. Mr. T. W. Thomas, Cardiff Street, Aberdare. Mr. W. Cable, Canon Street, Aberdare. Messrs. W. H. Smith & Son, Duke St., Aberdare. Mr. T. Phillis, Pembroke St. Mr. Gwyddonwy Evans, Gadlya. Mr. Evan Hopkins, Trecynon. Mr. Peter Davies, Cwmdare. Mr. David Evans, Llwydcoed. Mr. E. M. Evans, Abernant. Mrs. Norman, Aberaman. Mrs. Williams, Aberaman. Mr. M. Lewis, Aberaman. Mr. Joseph Griffiths, Cwmaman. Mr. W. R. Griffiths, 38 Bronallt, Aber- cwmboi. Mr. W. Peters, Mountain Ash. Mrs. Grier, Mountain Ash. Mrs. Davies, Mountain Ash. Mr. W. Badham, Mountain Ash. Mr. Chris. Evans, Mountain Ash. Mr. W. Magor, Penrhiwcelber. Mr. J. Powell, Penrhiwceiber. Mr. Ed. James, Penrhiwcelber. Mrs. Davies, Ynysboeth, Penrhiwceiber Mrs. Field, Abercynon. Mr E. R. James, Abercynon. Mr. D. Edmunds, Abercynon. Mr. D. T. Theophilus, Abercynon. Aberafon—Mr. J. H. Willsher. Abercrave-Mr. Daniel Jones, Grove House. Abertillery-Mr. D. Phillips, 7 Church Street. Ammanford-Mr. J. John. Barry Dock-Mr. D. Jones, Pyke Street Post Office. Bedlinog-Mr. S. Williams. Birchgrove, Liansamiet- Mrs. M. A. Richards. Blaengarw-Mrs. Clements. Blaengwynfi-Mr. W. Edwards. Bonymaen-Mr. W. Dacey. Bridgend-Messrs. Wyman & Sons, G.W.R. Bookstall. Messrs. W. H. Smith & Son. Brynamman-Mr. D. W. Lewis. Burry Port-Mr. C. Snook, Station Rd. Caerau-Mr. G. Thomas. Caerphilly-Mr. R. J. Price. uardift- Messrs. W. H. Smith & Son, Penarth Road. Messrs. Joyce & Co., The Hayes. Mr. Dyer, 95 Queen Street. Messrs. Wyman and Sons, St. Mary Street. Cardigan: Messrs. T. C. Roberts and Son, 10 High Street. Carmarthen- Mr. W. G. Lewis, Jackson's Lane. Mr. W. Picton Davies, King Street. Messrs. Wyman and Sons, G. W.R. Bookstall. Cockett-Mr. D. Mainwaring, Fforest- fach Mr. W. Davies, Fforestfach. Cilfynydd-Mrs. Lewis, Richard Street. Clydach--Mr. J. David. Clydach on Tawe-Mr. W. J. Davies. Clydach Vale-Mr. T. C. Davies. Cross Hands-Mr. Joshua James. Mr. Richard Jones. Mr. D. Roderick. Crynant-Mr. Thomas Jeffreys. Cwmbwrla-Mrs. Griffiths. Cwmllynfell-Mr. D. Williams, Goleu- fryn House. Cwmparc-Mr. Evan Evans. Deri-Mr. W. Jones. Oowlais- Mr. Howells. Mr. T. Jones, Gellifaelog. Mr. M. Jones, Burry Square. Mr. James, Victoria Street. Ebbw Vale--Mr. W. H. Prole. Ferndale- Mr. D. Davies. Mr. Burrell. Garnant-Mr. Dl. Williams. Gilfachgoch-Mr. W. Rosser. Glais-Mr. G. Jenkins. Glyn-Neath- Mr. A. G. Price, High Street. Mr. T. Hazell, Cwmgwraoh. Gorseinon—Mr. W. Llewelyn. Gwaencaegurwen—Mr. M. Thomas. Hirwain- Mr. H. Jones, High Street. Mr John Davies, Bethel Place. Mrs. Tweeny Mrs. Davies, High Street. Kidwelly-Mr. Jack Davies, Crwbin. Lianelly- Mr. Brinley R. Jones. Mr. Meudwy Davies. Mr. T. Eurwedd Williams. Messrs. Wyman and Sons, G.W.R. Bookstall. Mr. J. Thomas, 38 Thomas Street. Maesteg—Mr. I. J. Davies. Mardy-Mr. E. E. Jeremiah. Merthyr- Mr. LI. Davies, High Street. Mr. D. Bowen, High Street. Morrlston- Mr. R. Roberts. Mr. Hughes. Mr. D. Thomas. Nantyffyllon-Mr. J. C. Jones. Neath— Mr. Vv. Rosser Messrs. Wyman and Sons, G. W.R. Bookstall. Newcastle Emlyn-Mr. Joshua Eynon. Newport-Messrs. E. Joyce and Co. New Tredegar-Mr. Maurice Jones. Patagonia-Campania Mercantile, Tre- lew, Chubut. Pantyff ynon-D. Lewis, Fron Haul, Tycroes. Penclawdd-Mr. D. Davies, Gwalia Warehouse. Penrhiwceibr-- Mr Ed. James. Mr. O. Treharne. Pentrebach-Mr. B. Jenkins. Penygraig- Mrs. Williams, Tylacelyn Shop. Miss L. M. Evans. Pontardawe— Mr. J. L. Williams, Gwalia House, Mr. D. J. Phillips, Alltwen. Mr. W. Jones, Alltwen. Mr. Owen Jenkins, Herbert Street. Mr. Emlyn Thomas, Trebanos. Pontardulais- Mr. J. Thomas. Mr. D. Thomas. pontlottyn-Mrs. Jordan. Pontypridd-Messrs. Morgan Bro.. Mr. E. Williams, Post Office, Maes-y- coed. Pontycymmer-Mr. J. Fox. Pontyeats-Mr. D. D. Davies. Porth- Mr. W. Thomas. Mr. W. Fudge. Port Talbot-Messrs. Wyman & Sons, G.W.R. Bookstall. Resolven-Mr. Trevor Davies, 4 Cory Street. Rhymney-Mr. W. W. Davies- Senghenydd-Mr. D. Williams. Seven Sisters: Miss E. Harris. Skewen- Mr. E. Evans. Mr. Lloyd. Sirhowy—Mr. Gartwright. St. Clears: Mr. T. H. Thomas, Pleasanl View. Swansea- Messrs. W. H. Smith and Son. Messrs. Wyman and Sons, L W.R. Bookstall. Mr. G. Williams, High Street. Tonypandy- Mr. J. Howells. Mr. Richards, The Square. Mrs. Williams, Post Office. Treboeth, Landore: D. Roberts, Posl Office. Tredegar-Mr. E. G. Bowen. Treforest—Mr. Hill. Trehafod-Mrs. Edwards. Treharris— Mr. James Jones. Miss Jones. Treherbert- Mr. David Evans. Mr. Ed. Lewis. Treorchy- Mr. Prothero, High Street. Mr. L. Morgan, Bute Street. Mr. M. Williams, High Street. Miss Davies, High Street. Tylorstown- Mr. T. Thomas. Mr. C. Powell. Mr. David Thomas. Tumble-Mr. Lewis Treharne. Ynyshir-Mr. D. B. Davies. ynysy-bwl-Mr. D. Rogers. Ystalyfera-Mr. S. Baker. Ystrad Rhondda- Mr. David Jones. William Street. Mr. Ll. PbUlips, Ton. Mr. T. Thomas. Mr. W. Davies. Os oes rhyw ddosbarthwr o'r Dar- ian heb fed yn y rhestr uchod, bydded cystal a'n hysbysu, er mwyn dodi ei enw i mewn. Prepaid Small Advertisements Inserted at the following specialljtfow rates: One week 4 wks. 13 wks. s. d. 8. d. 4. å. 20 words 0 6 1 < I & 28 „ 0 9 58 3 — # • 36 ('" 1 0 3 0 7 « These charges apply only to the follow- ing classes of advertisements :-Apart- ments, Situations (Vacant or Wanted), To be Let or Sold, Lost or Found, ad Miscellaneous Wants. Remittances may be made by POI." Orders or half-penny stamps. If not prepaid double rate will b. charged. Advertising and Publishing OMeti, Cardiff Street, Aberdare.