Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 8 o 8
Full Screen
18 erthygl ar y dudalen hon
Gwr Enwog yn Marw I

Gwr Enwog yn Marw. I Blin genym glywed fod y Parch. W. P. Williams, D. D.. Glandwr, ger Aber- tawe, wedi marw. Y aymuniad a ddat- ganai bron bob amser oedd y carai "farw yn yr harness." Cafodd ei ddy- muniad. Er ei fod wedi rhoddi tri mis o rybudd i derfynu ei weinidogaeth, ni chafodd y tri mis ddod i ben. Ru farw nos Sul yn ei gartref ar ol cystudd byr. Yr oedd yn 74 oed. ac wedi byw a gweithio yn egniol am dymor hir. Brodor ydoedd o Langefni ym Mon. Yr oedd yn un o fyfyrwyr cyntaf Athrofa'r Bedyddwyr yn Llangollen. Dechreu- odd ei weinidogaeth ym Medwas; symudodd oddiyno i Frynmawr. Yr oedd er 1876 yng Nglandwr. Bu'o gadeirydd ei Clymanfa ac yn llywydd Undeb ei enwad. Ceir gair ymhellach am dano eto. I

CilfynyddI

Cilfynydd. I Mr Gol.,—Llawenydd o'r mwyaf, rwy'n sicr, gan hen drigolion tre'r Darian" fydd clywed fod y lie poblog hwn yn graddol fywiogi o dan oruch- wyliaeth ei mhab athrylithgar, H. H. Evans, Ysw., M.E., diweddar o Gwmdar. Yn un peth mae'r gan swynol wedi dychwelyd i'w chynefin. Arwydd er daioni bob amser ydyw gweled y delyn yn dychwelyd i dir ei gwlad. Bu'r pentref yn enwog un- waith am ei Gor Meibion. Gipiodd ami i wobr yn rhai o'n prif Eisteddfodau lleol. Ond aeth y parti, fel pob peth arall, i'r llawr yma. Ond trwy offer- ynoliaeth Mr Evans, mae wedi ei ail- godi, a'r enwog Glyndwr Richards, diweddar o Mountain Ash, yn ar- weinydd iddo. Y mae Mr Evans yn fardd ac yn gerddor galluog, yn Gym- reigydd dilredryw, yn Eisteddfodwr o fri, yn feirniad llygadgraff, ac yn ddar- lithydd penigamp. Bu yn beirniadu yma'r Nadolig, a gwnaeth ei waith i foddlonrwydd pawb. Yr ydym hefyd wedi cael y pleser fwy nag unwaith o wrandaw arno yn traddodi ei ddarlith -odidog, a rhaid i ni gyfaddef mai awr ddifyr ydyw'r "Awr gyda Cheiriog." Y mae pethau'n gwella'n gyflym tua'r lofa hefyd. Y mae ei oruchwyl- iaeth fedrus yn profi'n iachawdwriaeth eisioes i'r Albion. Mae'r ddawn ddaeth ag iachawdwriaeth i'r Bwllfa gynt wedi dod ag iachawdwriaeth yma. Cynhydda'r "output" yn wyth- nosol. Llwyddodd Mr Evans i gael gan y rhan-ddalwyr i gyfranu 65 at bob un o'r eglwysi hynny a golledwyd gan y tornado dychrynllyd hwnnw yn Hydref diweddaf. Goruchwvliwr y lofa ydyw D. Rowlands, Ysw., M.E., diweddar o Lady Lewis, Lewis Mer- thyr Collieries, Rhondda, ac is-oruch- wylwyr ydynt Mri H. John, David Hughes, Walter Jones, a J. Gwen- draeth Williams, gynt o Gwmdar. Bechgyn ffamws ydynt, ac y mae y cydweithrediad mwyaf yn ffynu rhyngddynt a'r Agent. Rhwydd hynt iddynt i fyned rhagddynt fel y goleuni, fwy, fwy, hyd ganol-ddydd llwyddiant. H. fl. ddyd fywyd glofaol—yn llawn Llawenydd gwastadol; Ar ei waith adwaenir ol Y gwirionedd gwerinol. lae'i alluog swyddogion—yn ymladd Am lwyddiant i'r Albion; A daw golud ei galon I ail fywhau y lofa hon. HEN LAFURWR.

Caerdyddi

Caerdydd. Dydd Gwener diweddaf cynaliwyd cyfarfod neillduol o'r Pwyllgor Addysg er ethol arolygwr ar ymarferiadau corphorol i ysgolion merched y ddinas, gyda chyflog o 120p. y flwyddyn, yn codi i i sop. Yr oedd yn bresenol o flaen y cyfarfod bump o foneddigesau, -dwy o honynt o'r lie, sef Miss Minnie A. Hughes, Llanishen, a Miss Nancy Richards, Caerdydd. Etholwyd .Miss Richards, merch Mr D. P. Richards, Marlborough Road, un o gyn-berchen- -ogion swyddfa y Gw ladgarwr," Abefrdar. Y mae rhagolygon am gyfarfod neillduol o dda gan blant ysgolion y ddinas hon ar dathliad dydd Gwyl Dewi Sant. Cynelir cyfarfod rhag-' barotoawl yn y Tabernacl bore Sadwrn nesaf.

Llwynbrwydrau I

Llwynbrwydrau. I Xos Fercher, Ionawr 28ain, cynhal- iwyd cyfarfod wythnosol y Gymdeithas Ddiwylliadol, pryd y traddodwyd dar- lith hynod ddiddorol ac adeiladol gan y Parch. J. T. Rogers (A.), Pentre- chwyth. Testyn y ddarlith ydoedd Williams Pantycelyn, a'i neges i'r oes." Dywedai y darlithydcl mai Williams ydoedd "super-man" Emyn- yddiaeth Cymru, a fod ei emynau yn tincian ar wefusau'r bobL fel clychau a'r wisg yr archoffeiriad gynt yn ar- wyddnod o bresenoldeb Duw." Dylid traddodi'r ddarlith hon yn ddiameu ym mhob cwr o Gymru. Talwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r darlithydd ar gyn- ygiad Mr. A. H. Thomas, Y.H., ac eil- iad Mr. Rhys Llewelyn. Y cadeirydd ydoedd y Parch. T. C. Lewis. I GOLWG Y MOR.

Ar Lannaur Tawe I

Ar Lannau'r Tawe. Bu farw Miss Pugh, o Heol Fardre, Clydach, bore Sul diweddaf, ar ol cys- tudd hir. yn 70 mlwydd oed. Darlithiodd y Parch. T. Sinclair Evans, Abertawe, ar The Largest Room in the World" yn Hebron, Clyd- ach, nos lau, Ionawr 29ain. Yr oedd y ddarlith dan nawdd Eglwys yr Annibyn wyr Seisnig, Bethel, a llywyddodd y gweinidog-y Parch. D. Thomas. Caf- wyd gwledd o'r fath oreu. "Room for improvement" oedd y "room" y traeth- ai'r darlithydd arno. Hyderwn iddo symbylu llawer i fynd i fewn iddo. Rhoddodd Miss Jones, nyrs y dos- barth, ei swydd i fyny dydd Sadwrn di- weddaf. Gwasanaethodd o ddwy i dair blynedd yng Nghydach, a Jblin yw ei cholli. Gwen oedd ar ei hwyneb bob amser fel y gweddai i'w swydd. Sibrydir ei bod a'i golwg ar sefyllfa well. Pob bendith iddi. Darllenodd Samuel Boundy bapur rhagorol ar "Ein Goreu" i Gymdeithas Pobl Ieuainc Calfaria nos Fawrth di- weddaf. Diolchwn iddo am bapur a chymaint o ysbrydiaeth ynddo. Dy- wedodd Addison: 'Tis not in mortals to command success, but they can do more-deserve it." Beth rydd fwy o foddlonrwydd na haeddiant, a phwy all wneud yn well na'i oreu ? Llywyddodd y Parch. T. V. Evans. Llwyddodd y Cyngor Plwy' i sicrhau i bob! Clydach anfoniad allan eu llythyr- rau gyda'r llythyrgod am ddeg o'r gloch yn y boreu. Disgwyliesid yn hir am y eyfleusdra hwn. Llongyfarchwn y Cynghorwyr. Darllenodd Gwilym Davies, Heol Fardre, bapur galluog ar y "Cymro, ei ddiffygion a'i ragoriaethau," i Gym- deithas Carmel, Clydach, nos Fawrth, lonawr 27ain. Llywyddodd y brawd David John, Brynderw. Dywedir iddo bwysleisio mwy ar ddiffygion y Cymro nag ar ei ragoriaethau. Credir fod y Cymro er's blynyddoedd wedi gadael ar ol y diffygion a goffawyd yn anghar- edig. Y mae i bob pwnc ddwy ochr, ac ni ddylesid esgeuluso dangos y goreu, fel y gallai'r bobl ieuaine efelychu y rhagoriaethau. Cofier mai nid yr un yw y Cymro yn awr ag oedd yn yr amser gynt, ac ni ddylesid taflu beiau'r gor- ffennol i wyneb y presenol. LLEW.

I Gwaencaegurwen ar Cylch

Gwaencaegurwen a'r Cylch. Gwell dau nag un oedd barn y cyfaill D. Lloyd Davies, a chymerodd yn wraig iddo Miss Agnes Morgans, merch Mr a Mrs Thomas Morgans, Bryndu, Cwmgors. I'r ddeuddyn ni eiddunwn Hedd a llwydd ar bob Haw. Xos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, digwyddodd damwain drist yn agos i'r groes-ffordd ar y Waun trwy i un Mrs. Morgans a'i baban bychan gael eu taro i'r llawr gan gerbyd. Lladdwyd y bychan, a niweidiwyd ei fam yn fawr, ond'y mae'n gwella. Marw trwy ddam- wain oedd y ddedfryd yn y trenghol- iad ar gorff y bychan. "Gruffydd Jones Llanddowror" oedd testun Eluned yn Nhabernacl, Cwmgors, lonawr 3lain, i Gymdeithas y bobl ieuainc. Hon oedd y waith gyntaf i'r Fonesig ymweled a'r ardal. Daeth cynhulliad lluosog ynghyd, a chaed darlith wir ddiddorol a buddiol. Llyw- yddodd y Parch. T. M. Roderick, y gweinidog. lonawr 25ain a'r 26ain, ymwelodd y Parch. Philip Jones, Llandeilo, a'r lie am y tro cyntaf ar ol ei daith trwy y Gorllewin. Pregethodd yn rymus i gynhulliadau Iluosog yn Siloh, M.C. Nos Lun darlithiodd ar 0 For hyd For." Cadwodd y bobl mewn hwyl am ddwy awr. Nos Sadwrn, Ion. 24, bu Eisteddfod lewyrchus yn y Tabernacl dan lywydd- iaeth Mr. Rees Morgans, Glen View, ac arweiniad Mr Henry Evans. Clorian- nwyd y cantorion gan Mr Robert Michael, Garnant; a'r amrywiaeth gan Mr Wm. Thomas, Waunleyshon. Cyf- eiliwyd gan Mr D. J. Evans, R.A.M. Gwobrwywyd fel y canlyn: Unawd i rai dan 10 oed laf, Dan Lloyd 2il, El- vira Williams. Adrodd, rhai dan 10 oed: laf, Gwenny Thomas a Bessie Jones 2il, Maynell Jones. Unawd i rai dan 16 oed: 1, Rosie Phillips a Jenny Evans yn gydradd; 2, Jane Williams. Adrodd, dan 16, Annie Rees. Unawd contralto.) Rachel Roberts, Garnant. Soprano, E. A. Davies a Bessie Jen- kins yn gydradd. Y tenor goreu oedd Garfield Roberts, Brynaman, a'r bass goreu Idris Smith, Cwmgors. Cipiwyd y gadair am yr adroddiad goreu o "Magdalen" gan Oswald Davies, Tai'r- gwaith. Yr wythawd goreu oedd eiddo Trefor Jenkins, Cwmgors; a'r goreu ar yr her unawd agored oedd Miss E. A. Davies, Brynaman. T.J.

I ESTYN EICH OES I

I ESTYN EICH OES I Bwytewch ac yfwch yn gymhedrol, ond I os digwydd annoethineb, gellwch ym- ddibynnu bob amser y bydd i BELENI LLYSIEUOL KERNICK I lanhau'r cyfansoddiad, cryf haii'r nerves, iachatt diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau l/l a 2/9 gan yr holl Fferyll- wyr.

I IY Gweithiwr Amaethyddol

Y Gweithiwr Amaethyddol. Nid oes amheuaeth nad oes llawer o wirionedd yn yt hyn ysgrifena Aronfa Griffiths. Ond gadewch i ni scfyll uwchben ei nodiadau a'u gwyn- tyllu yn hollol ddi-ragfarn. Da genyf fod Brynfab wedi gwneud, ond teimlaf nad ydyw Brynfab wedi myn'd digon pdl-a llcusgi'r us. Tystiolaetha Aronfa ei fod cf wedi ei fagu mewn amaethdy, ac felly yn ddigon cyfar- wydd a'r gyfundrefn esyd i lawr. Fel y digwydd, darfu i minnau gael fy ngeni am magu mewn gwlad amaeth- yddol, ond mai ym mwthyn y gweith- iwr y cefais i'r fraint aruchel honno; er hynny, nid ydwyf o bell yn cyd- synio ag Aronfa Griffiths pan ddywed fod rhai pethau yn ddeddfau di- amheuol ym mhlith gweithwyr amaethyddol. Sylwn ynte ar rai o'u nodiadati-beth yw'r gyflog? Yn ddi- floesgni dywedwn gyda Brynfab (a gwyr pawb hynny) ei bod yn druenus o sal, ond pa fodd y mcdr yr amaethwr gorthrymedig dalu llawer gwell dan yr amodau presenol ? Darllener ysgrif Mr Llewelyn Williams, M.P., yn y "Genincn ar y pwynt. Nid wyf yn caru cyfeiriadau personol, ond ai nid cyfiawn gofyn i A.G. faint salach ydyw gwas fferm nag ef ei hun ar ddiwedd blwyddyn (sydd yn gweithio dan gyfundrefn hollol wahanol). Ceisia brofi mai nid siarad yn y niwl a wna. Gallaf finnau dystio'r un modd fy mod yn y goleuni, heb arwydd o'r cysgodion, oblegid mae genyf brofiad o fod yn was fferm, yn gctyn o siopwr, a phrofiad helaethach o weithio dan y dywarchen, ond nid yn hollol fel y wadd. Sonia am yr amaethwyr fel rhyw greaduriaid gormesol eithafol; gwir y ceir eithriadau yn eu plith, fel pob dosbarth arall, ond hyn sydd sicr: mai yr hyn sydd wedi treulio rhan o'i oes i wasanaethu, a thrwy hynny gasglu ychydig o dda'r byd nes dod o honno i feddiant o dyddyn ei hun, ydyw'r meistr caletaf a'r gor- meswr helaethaf. Yno os yn rhywle y reir y "cawl cig moch" a'r "cawl ail- dwym." Rhodder, er hyny, bob un o'r ddau i mi o flaen y te gwenwynig sy'n difa'r wiad. Amodau Cysgu.—O bosibl y perthyn peth gwir i'r gosodiad hwn o'i eiddo. Bum fy hun yn cysgu ar y "dowlad," ys dywed pobl Sir Aberteifi, ac yn y gwely gwellt, ac ameuthyn yn awr ydyw cael gorphwys ambell i nos- waith ar y gwely gwellt pan ar fy nhro i fro fy mebyd. Mae'r gwely gwellt vn burion ddigon, a chredaf ei fod yn fwy iach na'r gwely plu, os bydd y cvfryw orwedd arno yn lan ac \n weddus ei arferion. Ai ar yr amaeth- wr mae'r diffyg o fod y gwas yn cysgu ar y dowlad ? Credaf yn gydwy- bodol na, a gwn fod genyf dir i sefyll arno. Ni amheu neb nad yw yn hen arferiad i ddechreu, ac mae digon o resymau drosto. Y rheswm pennaf yn bresennol fod yn well gan y gwas gysgu allan, fel y dywedir, nag yn y ty. Manteisia ar hyn i gymeryd ci ryddid yn ystod oriau'r tywyllwch-i fynd a dod pryd y mynn, ac i ddi- raddio ei feistr pan ddaw ei gyfle. Gyda golwg ar y rhai adawant y wlad am y gweithfeydd glo, y dywedir mai hwy sy'n achosi streics a thynu lawr y cyflogau. Yr wyf wedi clywed y chwedl hon filoedd o weithiau, ond ga'i ddweyd unwaith ac am byth wrth A.G. a phawb ar a gredant ynddi—dyma gamwri, ie, dyma enllib anesgusodol. Os oes ar rywun eisieu gwaith i ddifyru ei hun, chrvVilied a yw'r chwedl yn wir. Ni ddaw daioni byth o gondemnio dynion mewn dos- barthiadau. GLAN ARTHEN. Abercraf.

Advertising

¡   Gray, idtry. Bronchitis and Asthma of 8 years standing, cured. Itare curutivc principles, not found in ordinary preparations, are the secret of the. wonderful power of Veno's Lightning Cough Cure to overcome even the worst case.* of bronchial trouble. Mrs. Mavgaret Gray, Southfields, Long- niddry, Haddingtonshire, say- My trouble came on with an ordinary cough which got wors-e- an.d worse, and though I had doctors I got no relief. I used to cough until I was utterly exhausted, while Asthma kept choking me up till I could hardly breathe. After eight years of this suffering I got Veno's Liglitrrng Cough Cure, and then I soon felt easier. Veno's brought up the phlegm and gave me instant relief, and in a few weeks my trouble disappeared entirely." Awarded Grand Prix and Gold Madal, International Health Exhibition, Paris, 1910. 91 I For Cou.hs and Cold., ??—H Bronchitis, Asthma, 9-ids Influenza, Cata"rh, and all Chest and Lung Per Bottle. Troubles In old or young. Larger Sizes The surest and speediest remedy 1/H a: 2/9 known. VENcrs vsohiks w COUGH CURE

Gwahannod Llyfroniaeth y Darian

Gwahannod Llyfroniaeth y "Darian." GAN "WYDDONWY. I Dymunwn hysby.su'r darIlenwyr- yn mhob cwr o'r wIad-y gallant gael unrhyw lyfr neu gylchgrawn y sylwir arno yn y golofn hon drwy unrhyw ddosbarthwr o'r Darian." Rhodder yr archeb i'r dosbarthwr lleol; a phan gyrhaedda'r archeb yma mynwn ninau weld ei fod yn cael telerau ar- ferol. Cyfeirier Gwyddonwy Evans, "Darian" Bookroom, Aberdar.

No title

D.A.J.—"Eminent Welshmen" (cloth 10/6). Gellir ei gael oddiyma, drwy'r post, am flaendal o 7/6. Mae yn lyfr rhagorol, mewn cyflwr newydd, ac yn bwrpasol yn mheb ystyr i'w roddi fel gwobr. Llwydd i'eh anturiaeth. O.D.—Yr ydych yn camsynied, Nat Gould yw awdwr y "Miners' Cup," ac nid Keating. Mae holl weithiau Nat Gould yn awr yn cael eu cyhoeddi'n ar- graphiadau rhad, a gellir eu cael hwyfchau oddiyma yn ddidraul drwy'r post am 5c. yr un, neu haner dwsin dewisedig am 2s. E.A.G.—Yr ydym wedi derbyn nodyn oddiwrth Ap Rhidian yn dweud ei fod yn awr yn nghanol y drafferth o symud o un ty i'r llall. Mae efe yn awr yn dangos y gole gwyrdd i'r sawl sy'n galw arno, yn arwydd i gymeryd pethau yn araf ac yn bwyllog am beth amser. Bydd yn angenrheidiol iddo gael gole clir, a threfn ar bethau cyn dod o hyd i'r gole coch, y soniwch am dano. Mae wedi argraphu saith mil o gopiau, meddai ef, a gellwch fod yn sicr y cewch glywed ei swn yn fuan os na welir i oleu rhudd wawr. T.D.T.—Cyn y bydd hwn wedi ym- ddangos yn y Darian, diau y byddweh wedi derbyn y rhifyn cyntaf o'r "Welsh Outlook." Mae'r ail rifyn yn awr yn mron allan o'r wasg; ac yn ol a ddeall- wn o arwyddion yr amserau, bydd galw mawr am dano. Rhowch archeb i' ch, dosbarthwr neu'ch Ilyfrywerthwr ar un- waith. "MYFYRIWR."—Yr wythnos hon (Chwef. 4ydd) y daw'r "Candid Re- view" allan i'r cyhoedd. Nid yw yn debyg y bydd rhai ar werth gan lawer o lyfrwerthwyr. Mae yn hawddach cael gan lyfrwerthwyr, am resymau digonol, i storio llyfrau coron yr un na chylch- gronau fyddont yn goron y rhifyn. T.O M.—Mae genym ar law ddwy gyfrol o'r "Hibbert Journal" (Vol. 2 and 3) wedi eu rhwymo mewn llian. Mae ynddynt ysgrifau uwchraddol ar des- tynau amserol gan awduron blaenaf yr oes. Anfonwch 7/6 yma a chewch y ddwy yn ddidraul i'ch ty. "BEREM."—Awdwr "Yr Ysgol Gym- reig" yw Dafydd Morganwg. Y mae wedi mynd trwy bedair neu bump o ar- graphiadau chwe' cheiniog, a chyhoedd- ir ef yn awr gan Mr D. Davies, Strand, Ferndale; ond gellir ei gael drwy un- rhyw lyfrwerthwr neu ddosjbarthwr. X."—Gan eich mor agos, ac yn Abertawe mor fynych, ewch at y Mri. Morgan a Higgs. Mae yn bur debyg fod Odlau Serch a Bywyd" ganddynt hwy. Mae mewn' dau rwymiad-llian a lledr—1/6 a 2/6 y run. Gellir cael y naill neu'r llall oddiyma hefyd. Eto: Corph o Dduwinyddiaeth" (Brown), pris 2/- am 1/6; "Blodau Ar- fon" (Dewi Wyn), 3/6 am 2/6; "Bardd oniaeth Cynddelw," 3/6 am 2/6; "Lleferydd y Prophwydi" (Pregethau), 3/6 am 2/6; Gweithoedd Cawrdaf, 3/6 am 2/6; Gweithiau Robyn Ddu, 3/6 am 2/6. Cludiad yr oil yn rhydd. Addewir misolyn newydd arall yn neehreu mis Mawrth-" The Kitchen Magazine, pris 2g. Bydd ysgrifenwyr profiadol a golygwyr profiadol yn gyfrifol am ddygiad allan hwn, sydd i fod yn wahanol i bob cylchgrawn arall sydd yn awr ar y farchnad. Bydd y menywod yn rhedeg am dano Nid ffol fuasai i Bwyllgor Iechyd Aberdar bwr- casu digon o'r rhifyn cyntaf i roi un yn mhob ty yn yr ardal. Buasai mynd ag ysgol fel hyn at y mamau yn fwy effeith- iol na cheisio cael y mamau i'r ysgol i'w dysgu i wneud cymeriad gwell i'r ardal nag a ddangosir yn yr infantile mortali- ty returns diweddaf. Ati, Jackson, yn awr o ddifrif!

Aberafon I

Aberafon. I Pleidlais i fenywod oedd testyn dadl ddiddorol gafwyd yn Ebenezer nos Iau diweddaf yng nghyfarfod Cymdeithas Ddiwylliadol y Bobl Ieuainc, dan lyw- yddiaeth y gweinidog, y Parch. J. J. Richards. Dadleuwyd hawl y chwior- ydd i bleidlais gan Miss Sarah Thomas, ysgolfeistress, a gwrthwynebwyd hi gan Mr Emrys Phillips. Cymerodd nifer o'r bobl ieuainc ran yn y rhyddymddiddan. Da genym fod y Gymdeithas hon ar ei chynnydd. Y Sul canlynol cynhaliodd yr Ysgol Sul ei chyfarfodydd chwarterol. Pre- gethodd y gweinidog i'r plant yn y boreu, a bu'r plant yn adrodd a ehanu yn y prynhawn. Da gennym weled fod y Gymraeg yn cae l mwy o sylw yn y dref hon nag arfer. GOH. I

No title

Am bob math o Argraffwaitb I ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.

Bwrdd y GolygyddI

Bwrdd y Golygydd. I Aiae'r H\\rdd yn orlawn. a rhai pethau a gadwyd drosodd yr wyth- nos o'r blaen i'w cadw eto'r wythnos hon o ddiffyg gofod. Xi fydd' y rhai I hyn waeth o'u cadw, ac y mae'n es- mwythad meddwl i ni fod pethau o'r fath o'r tu cefn. Ymhlith y pethau I ncwyddion sydd ar law y mae Rhydri "FiurHau Geiriau," a thaler tipyn o sylw i'r ysgrif hon pan ddaw; Beirniadaeth y Ddrama yn yr Ynyshir"; Xodton Min y I^fordd"; Gohebiaeth Fasnachol Farddol rhwng Crymlyn a D. ab Owen," a dyma beth doniol; "Anrhegu'r Hen- adur Jordan"; "Cribynion," sef rhyw goflaid o bcthau digri oddiwrth Bryn- fab, ac ofnwn mai mewn llaw y bydd y Nodion o Frynamman y tro hwn. Daw atebiad Aronfa i Frynfab yn y rhifyn nesaf, a sylwed y rhai sydd dda ganddynt ddadl ar lythyrrau y rhai ysgrifennant ar y pwnc hwn—fel y maent yn trin y pwnc ac nid eu gilydd. Teg yw nodi mai stori a adroddir gan yr hen frawd Thomas Harris o'r Glais oedd y Drychiolaethau Dan y Ddaear," fu yn y "Darian" yr wyth- nos o'r blaen. "Dieithrwyd ynddi en- wau'r lleoedd a'r personau. Daeth y pethau perthynol i'r Cor Mawr o Awstralia i law, yn cynnwys llyfryn a'r beirniadaeth, copi o'r "Gwladgarwr," a "rosettes."

IAbertaweI

I Abertawe. Prydnawn dydd Sul, Ionawr 25am, yn Nghapel Gomer, cynhaliwyd cyf- arfod gwobrvvyo plant yr Ysgol Sul am eu ffyddlondeb. Llywyddwyd gan y Cynghorwr John Lewis, arolygydd, a gwnawd y trefniadau gan yr ys- grifenyddion, y Bonwyr Urias Wil- liams a Johnny Williams. Nodwedd- wyd yr amgylchiad gan bresenoldeb Maer a Maeres y dref, a chyflwynwyd y gwobrwyon gan y Faeres. Trefn y cyfarfod oedd fel y canlyn :—Adrodd pennod gan y Bonwr Evans, Fforest- ¡ fach; yna gweddiwyd gan y Brawd I Stephen Jones. Fmyn gan y Cor. Adroddiad gan y Bonwr Winstone Jenkins a'i ddwy chwaer, a chafwyd adroddiadau yn olynol gan y Bonwyr Fills Jenkins, Brynmill, a —. Evans, j Fforestfach, a'r Fonesi'g Phyllis I Waters. Yna cvflwvnwvd y gwo- brwyon, tua 1 So mewn nifer, gan y I Faeres. Yn ychwanegol rhoddwyd tair gwobr arbennig am ffyddlondeb fel y canly,n:-( I) Am bresenoldeb dros 40 gwaith; (2) presenoldeb dros 35am, ac yn 3ydd am 3oain gwaith. Trwy law y Maer cyfhvynwyd BeibI gan yr Arolygydd i Mrs Evans, Terrace Road, am y gwasanaeth hwyaf fel athrawes, a thraddodwyd gan y Maer aracth hynod o bwrpasol a chynwys- fawr yn y Gymraeg, er mawr boddhad i'r gynulleidfa, ac yntau yn Sais. Cynnygiwyd diolch i'r Maer a'r Faeres gan Cynghorwr Ivor Gwynne, ac eiliwyd gan Dr. Gomer Lewis, a chcfnogwyd gan y Bonwyr W. E. Rees a W. H. Jones.

ICyngherddau

I Cyngherddau. Nos lau, 29ain cynfisol, cynaliwyd cyngherdd longyfarchiadol i Mr Tom Bonnelil, y tenorydd enwog, yng nghapel Siloh, Pentre, Rhondda. Y datgeiniaid oeddynt Miss Ethel Bull, Brynmawr Miss M. L. Williams, Aber- tawe, a Mri. Tom Bonnell a NV. J. Davies, Rhymni. Adroddwyd gan Miss Gwladys Davies, Pentre, a Miss Lily M. Thomas, Treorci. Cyfeiliwyd gan Mr T. J. Price, Ton, a chadeiriwyd gan y Parch. J. J. Williams, gweinidog. Gwnaed y rhaglen i fyny o ganeuon. deuodau, a phedrawd, y rhan fwyaf o honynt yn Saesneg, ac yn deobyg i rhag- lenni braidd pob cyngherdd arall y dyddiau hyn. Un gan Gymraeg ar eir- iau Cymraeg gawd, a honno oedd "Glyndwr" (Dr. Parry). Ganwyd gan Mr W. J. Davies yn ardderchog. Can- odd Mr T. Bonnell" Friend (Madam Clara Novello), und can Saesneg yw honno ym mhob vstyr. Ni ehafwyd un adroddiad Cymraeg chwaith. Onid trueni yw fod eynnulliad lluosog o Gym- ry reI hyn yn cael eu hamddifadu mor llwyr o flasus bethau eu cenedl. Pa hyd? Pa hyd? Fy ngwlad, O! fy ngwlad." Nos Iau, y 27ain cynfisol hefyd, caf- wyd cyngherdd flasus iawn gan y "Rhondda-Pittsburg Male Voice Party" yn y Tabernacle newydd, Aberafon. Cyngherdd wedi ei drefnu gan bwyllgor o fonesau Aberafon a'r cylch oedd hwn. er budd cartrefu amddifaid Dr. Bar- nardo. Llanwyd y eapel eang, a chan- odd y parti tan arweiniad y Cynghorwr John Phillips yn ardderchog. Canodd y parti The Crusaders." "Castella," ac "0 Mor Ber" (Dr. Protheroe), Cydgan y Iyncod" n'r "Pererinion" (Dr. Parry), "What care I" (Blumen- thal) ac "In absence" (Dudley Buck," thai), ac "In absence (Dudley Buck), detholiad da iawn, ac o'r saith darn pump o honynt gan Gyrnry tellwng. Cafodd y parti a'i arweinydd yn y dat- ganiadau uchod dderbyniad tywysog- aidd. Canwyd hefyd Faner ein Gwlad" (Parry), "Cartref" (William Evans). "Friends" (Clara Novello), Cwm Llewelyn (Wm. Davies). Ym mhlith y rhestr arferol o ganeuon a deu- awdau Seisnig, da fyddai cael mwy o amrywiaeth fel triawdau a phedrawdau gan awduron Cymreig mewn cyngherdd- au fel hyn. Gorphwys hyn yn Ilwyr ar bwvllgorau sydd yn trefnu. Gobeithio y bydd iddynt ddihuno i'w gwaith.

Ferndale

Ferndale. Ionawr ijCg cynhaliodd Cymdeithas Mcrchcd y De, Dosbarth Rhondda Each, ci chyfarfod chwarterol ym Mhenuel. Yn y prydnawn cafwyd cynhadledd dan lywyddiaeth Mrs Jones, Mardy. Daeth cynrychiolaeth ragorol yn nghyd o wahanol ganghen- au y dosbarth, a chafwyd adroddiadau calonogol ganddynt. Llawenydd oedd ganddynt weled Cranogwcn yn bresenol yn ei hwyliau goreu o ran corph, meddwl, ac ysbryd. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus, Cranogwen yn lly\A'ddu, a chafwvd araeth amserol a meddyl- gar ganddi, ac adroddodd ei chyfarch- iad barddonol blynyddol i Undeb Mcrched y De. Awd yn mlaen a rhag- len amrywiacthol. Datganwyd amryw ddarnau inelodaidd gan Obeithlu Pen- uel dan arweiniad Mr Edward Rees. Cafwyd unawdau gan Miss Gwenny George, Penuel, a Miss Evans, Tre- rhondda, a gwnaeth y ddwy chwaer eu rhan yn rhagorol. Cafwyd adroddiad o'r gwaith effeithiol wna yr Undcb yn y cylch hwn gan Mrs Yaughan, Yn- yshir, a chyfrif o'i gwasanacth hi fel cenhades y Gymdeithas, yn arbennig yn llysoedd y Rhondda. Cafwyd anerchiad hwyliog gan y Parch. B. Watkins, Penuel. Terfynwyd drwy i'r Gobeithlu ganu "0 na allwn garu'r Iesu" a chyd-adrodd Gwcddi yr Arglwydd. I F" I 1 Ionawr 24ain, yn Festri Penuel, darUcnwyd papyr ar Hap-chwareu 1 gan Mr W. D. Davies i'r Gymdeithas Ddiwylliadol, a ehafwyd ymddiddan dyddorol arno gan yr aelodau. Ionawr 2iain traddodwyd darlith ddyddorol iawn yng Nghapel Tre- rhondda gan Dr. J. A. Rawlings, un o brif feddygon Ysbytty Abertawe, ar Burdeb." Daeth cynulliad rhagorol ynghyd, a llywyddwyd yn ddeheuig 1 gan y Parch. T. Bryn Thomas, Taber- nacl. Y mac yn orchwyl pruddaidd gcnym gofnodi claddedigaeth un o'r preswyl- wyr hynaf a pharchusaf yn y lie, sef Mrs Mary Williams, 100 Lake Street, anwyl briod Mr Howell Williams, fu yn "mechanic" dan Meistri D. Davis -t'i Feil)ioti. Cyfarfu yr vmadawedig a damwain drwy gwympo i lawr y grisiau yn ei thy a thorri ci dwy fraieh. Ni fu oddi ar y ddamwain o ran iechyd fel cynt. 7\"i fu ei chystudd olaf ond byr. Hunodd Ionawr 2 tain yn 72 mlwydd oed. Yn ddiweddar y darfu i Mr a Mrs Williams dathlu pen blwydd eu priodas curaidd. Yr oedd yr vmadawedig yn un o aelodau cyntaf a mwyaf dychlynaidd egiwys Salem Newydd B.), ac yn chwaer gymdeith- asgar a thawel. Y mae Mr Williams yn ftaenor )n yr un eglwys. Mab iddo yw Mr D. L. Williams, ysgol- feistr yn y Mardy. Cafodd yr yma- dawedig angladd barchus. Dacthai swyddogion y gwaith yno, a llu o aelodau Salem a'r eglwvsi eraill, ynghyd ag athrawon yr vsgolion ddyddiol. Hefyd yr oedd v gweini- dog-ion a ganlyn yno:—Parchn. B. Watkins, Penuel, a G. Penrith Thomas, Trerhondda. Claddwyd hi Ionawr 24am yng Nghladdfa Gy- hoeddus y lie. Gwasanaethodd ei gweinidog, y Parch., Isaac Jones, Salem Newydd, yn hynod o bwrpasol.

Aberteifi ar Cylch

Aberteifi a'r Cylch. os Sul diweddaf ar ol y gwasan- aeth arferol yn Eglwys y PIwyf, cyn- haliwyd cyfarfod eiriolaeth ar ran yr Eghvys Sefydledig yn Nghymru. Mae cgl wysi Y mneillduol dan yr angen- rheidrwydd o gael peth felly er ys deugain mlynedd o amser. Mae parotoadau yn y dref gan v Gymdeithas Ddiwylliadol sydd yma er ys blynvddau i ddathlu Gwyl Dewi nos Sadwrn, Chwefror 28ain. Bydd yno Gymry, Saeson, a Scotiaid yn y 1 dathliad. Disgwylir Mr John Row- land, M. Y O., yno. Nos Lun diweddaf yn Festri v Tabernacl cynkaliwyd cyngherdd a chyfarfod cystadleuoJ. Clorianwyd y cantorion a'r llenorion gan Mri J. Williams, C.M., J. Pughe Jones, a J. K. Richards, Caerfyrddin. Cymer- odd amryw bersonau rhan vn v gynghcrdd, a ehafwyd cynulliad da. y cadcirydd oedd Mr John Evans. Nos Ferchcr cafwyd "social yn hestri Capel Mair. Arweiniwyd gan y gweinidog. Cymerwyd rhan, ar ol mwynhau danteithion i'r corph, gan Miss Edith Morris. Darllenwvd pen- illion gan Mrs, Rees, Treforgan, o'i gwaith ei hun. -Can gan Mr John Thomas, Napier Street. Parti Mrs Timothy a pharti o hen bobl fu yn gwefreiddio y gwvddfodolion gyjla'u canu swynol. Cymerwyd rhan hefyd gan Mr W. Thomas, Carningli; Mrs Jenkin Evans, Mr W. J. Sambrook, a Gwladys Thomas. Cafwyd amser blasus yn y cyfarfod. D. JONES. Aberteifi. Printed and Published for the Pro- prietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff St., Aberdare, in the County of Glamorgan.