Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

HVSBYSIAD. YSGDL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Scfydltvyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rhaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Atbro.

Advertising

Wo WILLIAMS, JEWELLER, &C., 21 Castle St., Swansea. Soecia/ities: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur, Oriadaron ao awrleiaiau, Gemau a chadwynau olaer: w Yspectol gelfydd, hln-fynegydd, Gwres-fesurydd, owmpawd mor Geirgan Williams, Heot y Castell Trowch i mewn i weltd ei stdr.

Y CYNHWYSIADI

Y CYNHWYSIAD. Yn Fan ae yn Amal 1 Ar v Twr yn Aberdar. 1 ■Col. ofn Llafur 1 o Deifi i'r )for 1 Beirniadaethau Llanelli a Llanarth- ney 2 Dai-lith Yr Alban 2 Colofn v Plant. 3 Dafvdd Thomas" 3 Enwadaeth, ei drwg a'i dn. 3 Nodiadau'r Golygydd 4 O'r Wv i'r D?vw" 4 Angladd Dr. W. P. Williams 54? Nodion o Abertawe 5 Cymrodorion A berdar  5 Y Golofn Amaethyddol 6 Taith i Lydaw 6 lawnderau Dyn 3 6 Y Stori-Marwor Tanllyd iI Pant y Coblyn 7 Byr tianes 7 Y Golofn Farddol g Nodion o'r Gogle(i(l 8

Yn Fan ac yn Amal

Yn Fan ac yn Amal. Y mae streic athrawon yn Swydd Henffordd. Dywedir mai yno y telir athrawon ac athrawesau salaf yn y Deyrnas. Una'r plant i ymosod ar y turncoats, ac i gynorthwyo eu hathraw- on i ymladd eu brwydr. Gadawodd Arglwydd Strathcona ei stad yn yr Alban ynghyda hanner mil- iwn o arian i'w etifedd. Gadawodd y gweddill, ag eithrio symiau i sefydl- iadau neilltuol i'w ferch yr Arglwyddes Strathcona. Ca athrofeydd yn y wlad hon ac Ajaerica oddeutu £ 350,000. Ymwelodd Ellis Griffith, A.S., a John Hinds, A.S., a C'hastellne wydd-Emlyn yr wythnos ddiweddaf. Cynhaliwyd cyfarfod gwleidyddol brwdfrydig yn Neuadd Cawdor. Yn Nowlais y inagwyd Aneurin Wil- liam, ..A. S., V1 tiewvdd dros Og- ledd Qrllewin i^ui^raair: Gwneir ymdrech i gau siopau Bryn- mawr ar y Sul. Cospir amryw yn wyth- nosol. Estroniaid o'r Eidal yw'r tros- eddwyr pennaf yno fel ymhob man arall. Plentyn bach wrth sylwi ar ei dad yn naddu pren ofynnodd: "Nhad, beth ydych yn ei wneud?" "Gwneud cafn bwyd i dy dadcu," ebai'r tad. Pan ewch chwi yn hen, nhad, byddaf fin- nau yn gwneud cafn i chwithau," ebai'r plentyn. Ar hynny syrthiodd y pren o'i ddwylo, a bu geiriau ei blentyn yn wers iddo tra fu byw. Bwriada Cymry'r Gogledd sydd yn byw yng Nghaerdydd drefnu cinio Mawrth 20fed. Gwahoddir y North. myn o'r Deheudir benbaladr yno. Talodd J. B. JoeL Llundain, £ 40,000 am y ceffyl Prince Paladine. Dyna'r ceffyl a enillodd yn St. Leger. Y mae'r awdurdodau yn Abergwaun, wedi penderfynnu cau ffynon Parcy- sht. Y mae merched Abergwaun un- waith yn rhagor vn dyiod i'r adwy, a dylent lwyddo i rwystro'i chau. Ymwelodd Ellis Griffith, A.S., a Phontycymer nos Fawrth, Chwef. 3, ar ran Mr Hugh Edwards. Peth diweddaf Y Pareb-. R. J. Camp- bell, y City Temple, yw awgrymu undeb rhwng yr holl eglwysi C-ristionogol. Da gweled y chwalw" Nn iiieddivi am gyfanu pethau. Bu farw Miss Christina Whithind yn ddiweddar yn Stockholm yn 93 oed. Pan yn 18 oed twvlhvvd hi gan un a addawodd ei chymeryd yn wraig, ac oddiar hynny caeodd ei hun yn ei thy. Penderfynnodd na chai yr un dyn ei gweled, ac ni ddaeth neb dros ei throth- wy heblaw morwynion. Gwaharddai hyd yn oed i'r goleuni dywynnu yn ei thy, oblegid cadwai y blinds i lawr ar y ffenestri dydd a nos. Agorir Arddangosiad Lyons, yn rainc, ar y cyntaf o Fai. Bydd o (tan .awdurdod Llyii,odraeth Ffrainc, ac agonr hi gan y Prif-lywydd. Diameu. iiial-iteisir gan lawer o 'r wlad hon arni I ymweled a'r Cyfandir. Bwriedir hysbysebu am Ysgrifennydd Cynredmol 1 Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth y tal fydd 2150, a S:,5 v cant am arian a gesglir. Ymysg  h Yrny,,g Ila-ysgi,ifau a ychwanegwyd gasghad y L Tf II G' ystod ??J ???1 Cenedlaethol vn Ylltod Y tair hI VI ld d. d -eldd T Je( l\ve daf cell' ??o Twm o'r W cei r J ?-y??niSy.?,??;? hwynt ,trwy haelioni 8 vr John a Lad." Williams. Anafwyd rhwng 30 a deugain o edrychwyr ar gae y bel droed yn Sheffield yr wythnos o'r blaen trwy i'r llwyfan ymollwng danynt. Derbyniodd y Parch. T. Edmunds, ) B.A., Aberystwyth, bwrs o aur a llyfrau yn rhodd ar ei ymadawiad i ofalu am Garmel (B.), Aberdar. Darlithiodd y Parch. T. Eli Evans ar yr "Emyn a'r Don" i Gymdeithas Ddi- wylliadol Seion (W.), Nos Fawrth, Ion. 27ain. Xid yw'n rhyfedd fod canmol ar y ddarlith oblegid gwr cyfarwydd a'i I fater yw y darlithydd. Bu farw Mrs. James, gweddw y Parch I 0. Waldo James yn nhy ei merch yn Aberafon, ddydd Mawrth, Chwef. 3ydd. Claddwyd hi yng Nghladdfa Gyhoeddus y lie. I I Trefna dy Dy yw pennawd cyfres o erthyglau da gan y Parch. E. U. j Thomas yn "8eren Cymru." Awgrymu y mae sut i wella'r enwad, ac y mae digon o le, ond cynghorem iddo newid ) y pennawd. Mae rhai nad ydynt yn darllen ond pennawdiau yn casglu fod naill ai'r Seren neu'r Enwad yn mynd i farw. Y mae'r Parch. Rhys G. Davies, M.C., Pontardulais, wedi derbyn gal- wad i Benclawdd. Canmolir llawer yn y papurau ar stori a glywsai Mr Lloyd George pan yn ieu- ane, ac a adroddodd gyda dylanwad ar ddiwedd ei araith yn Glasgow. Stori o gofiant Dafydd Evans, Ffynnonhenri, gan Myfyr Emlyn, ydyw. Gwasanaeth- ai Dafydd Evans yn angladd dyn y bu yn gyfyng arno yn ystod ei fywyd dy- munasai hwn ei gladdu ymhlith ei berthynasau, a chyfyng oedd y lie yn y fan honno eto. Mor agos ag y gallwn gofio dywedodd Dafydd Evans eiriau tebyg i hyn "Cyfyng oedd hi ar Dafydd yn y byd, a chyfyng yw arno vn y-fan • iian eto y mae wedi i hwpo'i ben i lawr rhwng ei befthjro- asau yn y fan yma, ond fe gwyd Dafydd i'r lan fore'r adgyfodiad, ac fe aiff fel cocas i'r nefoedd gan waeddi elbow room y d—— Gweld boreu adgyfod- iad y gorthrymedig oedd Lloyd George, a'r tlawd yn hawlio lie i fyw. Dywedir fod yn y Rhondda dros gant o lowyr yn talu treth yr incwm ar eu henillion, ac yr ychwanegir y nifer pan gyhoeddir rhestr newydd. Ymddengys fod cannoedd yn rhydd o'r dreth yn rhinwedd yr ad ran sydd yn caniatau rhyddhad ar ddeg punt ar gyfer pob plentyn. Wel, mawr lwc iddynt. Dy- lasem i gyd fedru talu income tax. Dywedai Mr Ellis Griffith yng Nghw*mgarw mai diddiolch iawn oedd gwleidyddiaeth, ond credai y dylem ad- goffa. ein hunain ar adeg fel hon, pan nad oedd pwys etholiad cyffredinol ar ein gwarthaf, mai'r Blaid Ryddfrydol, er gwell neu er gwaeth, a alluogodd weithwyr y wlad i gael llais llywodraeth- 01 ym materion y wlad. Xi honnai y dylasai'r gweithwyr ar gyfrif hyn fod yn Rhyddfrydwyr, ond dymunai ddweyd fod rhyw gydnabyddiaeth a diolch yn ddyledus i'r Blaid Ryddfrydol am yr hyn wnaethent yn y eyfeiriad hwn.

1Llwynbrwydrau I

Llwynbrwydrau. I Cyfarfod cystadleuol gynhaliwyd yn Festri Ebenezer, T.C., gan y Gym- deithas Ddiwylliadol, nos Fercher, Chwef. 4ydd. Daeth tyrfa lluosog ynghyd, a Ilanwyd y gadair yn ddeheuig iawn gan Mr. Thomas Hughes. Y beirniaid oeddynt:-Cerddoriaeth, Mr. Joseph Jones (Ehedydd Samlet) a Mr. J. S. Davies (Eilir Mai). Wele'r buddugwyr :Adroddiad i blant, Gwen Roberts. C nawd i blant, Gwendoline Evans. Darllen ar y pryd (dan 15), Mary Jones. Englyn i "Larkin Mri. Thomas Jenkins (Islwyn Villa) a James Jones (Corllwyn) yn gvfartal. Darllen darn heb atalnodau, Miss Rachel Lewis. lnawd tenor, Mr Arthur Phillips. Un- awd bass, Mr Johnny Beynon. Trio ar y flutes, Mri. John Jones, John Phillips ac Abner Griffiths. Y cyfeilydd oedd Mr Willie Roberts. Blin genym orfod cofnodi marwolaeth Mr James Rees, Lonlas. Cyfarfyddodd a damwain tua pythefnos yn ol yng glofa Cwrt-y-Bettws, a dygwyd ef 1 Ysbytty Abertawe, lie y gorfu iddo gael un glun i ffwrdd. Cydiodd y pneumon- ia ynddo, a bu farw dydd Mawrth, Chwef. 3ydd. Gedy weddw a phedwar o blant ar ei ol. Claddwyd ei weddill- ion yng Xgladdfa Ebenezer. Sadwrn, Chwef. 7fed, a gwasanaethwyd yn yr I angladd gan y Parch. T. C. Lewis. GOLWG Y MOR.

COLOFN LLAFUR

COLOFN LLAFUR. GAN PEBEDUR. Baddonau Pen y Pyllau. Gwelwn fod Mr Henry Davies, organ- izer Addysg Gelfyddydol yn y Sir, yn mynd ati o ddifrif i gymell y gweithwyr i fabwysiadu y cynllun o ymolchi ar ben y pyllau. Apeliodd yn ddylanwadol mewn cyfarfod yr wythnos ddiweddaf er mwyn y gwragedd. Dangosodd fel y mae eu gwaith a'u gofal hwy wedi ei ychwanegu oddiar gyfaddasiad yr wyth awr. Trueni fod mor lleied o sylw yn cael eu roddi i'r mater hwn. Credwn ei fod yn Ilawn bryd i swyddogion y Ffederashwn i gymeryd y mater hwn i fyny. 0 safbwynt iechyd a glanweith- dra, heb son am arbediad llafur, y mae yn bryd gwneyd symudiad tuag yn mlaen. Peryglon yn y Glofeydd. Arwyddion yr amserau ydynt fod y gweithwyr yn dyfod yn fwy byw i'w hawliau a'u breintiau o dan ddeddf rheoleiddiad mwnfeydd. Yn' canlyn adroddiad a chymelliad archwilwyr pen- nodedig eu hunain, daeth tua 2,500 o weithwyr Glofeydd Abertridwr allan ar streic, ac yn gwrthod gweithio o her- wydd fod cyflwr y lofa yn rhy beryglus. Y mae y gweithwyr yn dadgan eu parod- rwydd i fyned yn ol i weithio ar ol i'r peryglon gael eu symud. Cais am Ragor o Inspectors. Derbyniodd Mr. McKenna, yr Ys- grifenydd Cartrefol, dydd Mercher di- weddaf, ddirprwyaeth bwysig oddiwrth Ffederashwn y Glowyr, yn gofyn am drefniant deddfol i sicrhau mwy o ddio- gelwch yn y glofeydd i fywyd a iechyd y gweithwyr. Yr oedd yn bresenol gyda Mr McKenna dri o Brif Inspectors y Lvwodraeth. 9 Mr. W. Brace, A.S. Cyflwynodd Mr Brace yr achos mew n anerchiad grymus a dylanwadol, a chydag ergydion byw ac effeithiol dy- wedodd: Yn ngwyneb hanes y colliad ar fywyd ofnadwy yn y danchwa erchyll yn Senghenydd y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd yn sicr na fyddai yr Ysgrifenydd Cartrefol yn synu fod Ffederashwn Glo- wyr Prydain wedi gofyn iddo dderbyn y ddirprwyaeth." Lladdfa o 1571 o Fywydau. Dywedodd fod 1571 o farwolaethau wedi cymeryd lie y flwyddyn ddiweddaf mewn canlyniad i ddigwyddiadau tan- ddaearol yng nglofeydd y deyrnas hon. Golyga hyn fod mwy na phump o fywyd- au ar gyfartaledd wedi eu haberthu bob dydd gwaith drwy ystod y flwyddyn. Yr oedd y danchwa ddiweddaf a gymer- odd le yn Nghymru y fwyaf a fu erioed yn y wlad hon. Ac yr oedd hyn, cofier, yn digwydd yn rhwydd ar ol cyflwyniad gwelliantau newyddion yn Xeddf Rheol- eiddiad y Mwnfeydd. Archwiliad y Glofeydd. Achwynai y gweithwyr fod y trefnianl archwiliadol yn ddiffygiol. Ac os oedd y Llywodraeth yn wirioneddol ddifrifol am ddiogeli bywyd y glowr, yr oedd yn rhaid iddi ad-drefnu y cynllun o archwil- io y glofeydd. Nid oedd yn dwyn cy- huddiad yn erbyn yr Inspectors presen- ol, ond o herwydd lluosogrwydd y glo- feydd ,a nifer cymharol fychan yr In- spectors, yr oedd yn amhosibl gwneud y gwaith i'r perffeithrwydd gofynol. Cynllun Newydd. Yr oeddynt hwy ar ran y Ffederashwn yn awgrymu ac yn cynyg, fod yr Ys- grifenydd Cartrefol yn ail-drefnu y cyn- llun o Inspection. Dylid trefnu arwvn- ebedd mwnawl y wlad i ddosbarthiadau neillduol, a phennodi Inspector prif- raddol ar bob dosparth. Yn is-raddol, a than arolygiaeth y prif swyddog hwn, dylid penodi un arolygwr ar gyfer pob pum' mil o weithwyr, a'r pennodiadau I hyn i gael eu gwneyd drwy falot gan y gweithwyr, a'r Llywodraeth i dalu y draul o'u cadw. Gofynion y Ddeddf. I Gofynion y Ddeddf. Yr oedd y ddeddf newydd yn gofyn I arbrawfion neillduol mewn cysylltiad a phenderfynu cyflwr iachusol yr aw,yr yn y glofeydd. 0 herwydd y prinder mewn Inspectors, yr oedd yn amhosibl i hyn gael ei wneyd. Pwysleisiodd Mr. Brace y pwynt hwn i dre, fod y rheol hon, er wedi ei gwneyd, ac wedi dyfod i rym er Gorphenaf, 1912, y beiddiai ddweyd nad oedd 15 y cant o'r glofeydd yn ymarferyd yr arbrawfion hyn. Y Cost. Awgrymodd hefyd am y gost. Yr oedd tua 200,000 o weithwyr glofaol yn Xeheudir Cymru. Gofynal y nifer hwn 40 o Inspectors. Pe rhoddid £-200 y flwyddyn o gyflog bob un deuau hyny i'r cyfanswm o £ 8,000 y flwyddyn. A'r gost i gynal y nifer gofynol o'r Inspec- tors hyn dros yr oil o'r dosparthiadau mwnyddol drwy y wlad fyddai 940,000. A fyddai y pris hwn yn ormod i dalu, pe y gellid ond arbed un bywyd? Yr oedd cynllun o'r fath wedi ei fabwys- iadu yn Ffrainc, gyda'r canlyniad o lei- had mawr yn nifer y digwyddiadau angeuol. I Atebiad Mr. McKenna. I Wedi i amryw o'r ddirprwyaeth siarad, a gosod y gwahanol gwynion a. diffygion o flaen yr Ysgrifenydd Car- < trefol, atebodd yntau mewn dull hollol j gyfreithiol. Swm a sylwedd ei atebiad oedd, nad oedd angen am ragor o In- spectors. Wrth gwrs, y mae pobpeth yn dda gyda goruchwyliaeth y glowr. Y mae y swyddog mawr hwn yn gwybod yn well na chynrychiolwyr uniongyrchol y gweithwyr, nas gellir cael gwelliant diogeliadol drwy ychwanegu Inspectors. Dyma enghraifft o'r pryder a'r gofal sydd yn bodoli yn meddyliau y dos- barth cyfalafol, am ddiogeliad bywyd y gweithiwr cyffredin. Y mae y gost a'r drafferth tybiedig a osodid ar y meistri yn gorbwyso diogeliad bywydau y gweithwyr.

I Ar y Twr yn Aberdar I

I Ar y Twr yn Aberdar. I Perfformiwyd Creadigaeth Haydn yn Ebenezer, Trecynon, Chwef 4ydd a'r oed. Yr oedd y cor a'r orchestra yn perthyn i'r eglwys ag eithrio ychydig iawn, a gwnaethant eu rhan yn ganmol- adwy. Yr arweinydd oedd Mr W. E. Thomas, arweinydd y gan yn yr eglwys. Y mae llwyddiant y cyngherddau blyn- yddol hyn i'w briodoli i fesur mawr i alluoedd ac ymroddiad yr arweinydd. Yn ddiweddar anrhegwyd ef gan yr eglwys fel arwydd o werthfawrogiad o'i wk/'flfuaeth. Arweinydd yr orchestra oedd Mr Gomer Jones, R.CM., a'r cyfeilydd oedd Mr Isaac L. Davies; a gwnaethant hwythau eu gwaith fel arfer yn deilwng o honynt eu hunain. Cynorthwyd y cor gan Miss Myfanwy Jones, L.R.A.M., Llundain, a Mri. Dd. Hughes, R.A.M., a Rd. Thomas, Llan- elli. Cadeirydd y noson gyntaf oedd yr LTchgwnstabl, a'r ail noson Mr. R. R. Davies, M.E. Ysgrifennydd y Cyng- herddau oedd Mr W. J. Powell, a'r try- sorydd Mr T. H. Evans. Gwnaeth pawb eu gwaith yn odidog, a chawsant lawn dal mewn gweled graen da ar bopeth. Yr oedd y cynhulliadau yn lluosog a'r canmol yn gyffredinol. Yn ei araith y noson gyntaf dywedai yr Uchgwnstabl wrth gyflwyno tyst- ysgrif y Royal Humane Society i Mr. Benjamin Lewis, am achub dyn o'r mor yn Awst diweddaf ym Mhorthcawl, mai hon oedd y gyntaf hyd y cofiai i ddyfod i Aberdar. Ai gwir hyn? Beth ddywed y cyfaill llengar o Gilfynydd Da gen- nym ddeal fod Mr Lewis yn aelod o'r orchestra, sef yn grythor ynddi. Caf- odd gymeradwyaeth fyddarol y gyn- ulleidfa pan dderbyniai y dystysgrif. Bu y Parch. Philip Jones, Llandilo, yn darlithio yn Ebenezer, Cwmbach, ar "0 For i For," nos Fawrth, Chwef. 3ydd. Y cadeirydd oedd Mr. Ed. Pugh, M.E., Cwmdar. Mr. Jonah Lewis a etholwyd yn or- llchwyliwr y "minimum wage" yng Xghwmaman. Yr oedd ddigon ar y blaen i'w gydymgeiswyr. Llwyddiant iddo i wneud ei waith i foddlonrwydd cyffredinol. Ymwelwyd a'r ardal yr wythnos ddi- weddaf gan yr Athro Joseph Jones ynghyda Mr. Lleufer Thomas, ar ran y Llyfrgell Genedlaethol. Deallwn i Lleufer ymweled a Chwmaman, Aber- aman, a Threcynon. Bu Mr Jones yn Xh recynon a Hirwaun. Caed darlith ddarluniadol yn yr Hen Dy Cwrdd nos Lun, Chwef. 2il, gan y Parch. D. G. Rees, Trejbanos, ar "Wlad Palestina." Cynorthwyid ef gan y Parch. Grawys Jones gyda'r llusern. Dewisiwyd Sais o Gastellnedd yn brif glerc y Gwarcheidwaid, sef Mr George A. Cook. Nid yw yn alluog i siarad Cymraeg. Safodd rhai o'r aelodau dros gael Cymro, a diameu mai hwy oedd yn iawn. I Clywir swn paratoadau yn yr ysgol- ion er dathlu Gwyl Dewi Sant. Y mae'r yspryd Cymraeg ym myned ar gynnydd yma, ac y mae nifer o athraw- on gwladgar eu hyspryd yn amryw o'r ysgolion. Nid yw'r cyfarwyddwr addysg yn ol o wneud ei ran yn y cyfeir- iad hwn.

0 Deifi ir Mor

0 Deifi i'r Mor. HWNT AC YMA YNG NGHERB- DIGION. (Parhad.) Anhawdd gallu credu fod y bardd- (bregethwr Symlog yn cefnu ar Ddyffryn Teifi gan wynebu ar fryniau Tywi. Nid oes yng Nghymru lanerch lawnach o swyn nag ardal Castellnew- ydd Emlyn, ac unwaith y disgynir yno, yr ydym yn cael ein hamgylchu gan gwmwl o anfarwolion Cymru Fu. Glyn- odd Emlyn yn anwahanadwy ym mherson llawer i lenor a bardd a cherddor, er fod ambell un fel Emlyn- fardd wedi diflani yn y Keri! Gyda Haw paham y trodd Ceri yn Keri? A oes mwy o athroniaeth yn y K" nag yn yr "C "2 Y tro diweddaf y cawsom yr anrhydedd o rodio glanau y Deifi i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn, yr oedd y pridd heb lasu ar fedd y cerddor galluog Emlyn Evans, a dagrau Keri ei frawd a dagrau cenedl mewn hiraeth I heb sychu ar lwybr y fynwent. XIs gallwn beidio synu at ymadaw- iad yr anwyl Symlog o gylch mor llawn o ogoniant Eden, ac oddi wrth frawd- oliaeth mor anwyl o hono, ac o dref lie y mae yn asgwrn cefn iddi fel llenor a bardd. Nid oes berygl iddo o gyfeiriad awel oer y gauaf ar fryniau gwlad Myrddin. Y mae Symlog wedi canu, ac yn parhau i ganu, i ddyfnder y gauaf fel ag i hir-ddvdd mwyn yr haf. Llwyddiant iddo yn ei faes newydd, ond bydd ysbrydion Myfyr Emlyn a llu o anwyliaid athrylith yn aros yn ei galon i ba gyfeiriad bynag y bydd ry golofn yn ei arwain" yn y dyfodol. Swn cwynfan a galaru a glywir o rai cyfeiriadau mor gynar mewn blwyddyn newydd. Collodd y pregethwr byw a'r lienor coeth, y Parch. Tom Davies, Horeb a Bwichygroes, ei Jbriod ar ol byr cystudd. Nid oes ond cam byr o'r briodas i'r angladd, a rhwygwyd car- tref a orlanwyd gan wir fwynhad. Bu hi farw yng Nghaerdydd tra ar ym- weliad a thy ei thad, y Ca dben Davies, ac yng Nghaerdydd y cafodd fedd. Bedd mor gynar mewn bywyd, a bedd yng nghanol diwrnod o waith mor werthfawr. Dymunwn oleu'r nef ar lwybr tywyll Mr Tom Davies caled yw gwynebu ar y cartref gwag yn Horeb Oes, y mae ugeiniau o hen ffrvndiau yn cydymdeimlo, ac y mae gan lawer adgof melus am yr ym- gomio ym Mrynamman, yng rtghwmni Gwydderig a'r Pia, ie, ac yn yr Albion garedig. Hyderwn gael ambell awr eto rywbryd, er y cwmwl du, ar aelwyd glyd M in-y-ceunant. Hynod fod gweddw y diweddar Barchedig Phillips, Horeb, yn cael bedd yn yr un mis a Mrs Tom Davies! Pwy a glywodd yr hyawdl Phillips Horeb a fedr anghofio "y delyn aur" ? Bellach y mae y dyner ofalus Mrs Phillips wedi myned i gyfarfod "yr aduno." Bydd yr adgof am dani yn aros yn hir mewn llaWer calon yn Horeb a Bwlchygroes. A dyna y newydd fod yr Hybarch John Evans, AJaermeurig, wedi ei adael yn unig yng ngysgodion yr hwyr. Mae'r hen arwr hoff o Abermeurig wedi croesi terfynau y pedwar-ugain oed er's cyfnod bellach, ond deil yn hynod o ieuanc o dan faich yr holl flynyddoedd, a dalied yr Arglwydd ef yn dyner eto er chwerwed y storm. Chwaer i'r ysgol- feistr llengar Mr Dan Jenkins ydoedd Mrs Evans. Derbyniodd yr holl alarwyr o Horeb i Abermeurig gydymdeimlad dwysaf teulu'r Darian. LLEXORYN. I

Nodion o Frynamman I

Nodion o Frynamman. I GAN WALCH HYDREF. I Dydd Sul, lonawr :N5, eynhaliodd Ysgol Sul, Herraon, ei chyfarfod chwarter. Ar- weinnvyd yn y prydnawn a'r hwyr gan Mr. Daniel Thomas, Goleufryn, Park Street, a Mr Evan Evans, Noyaddfryn House, Bryn- amman Road, diaconiaid. Cyfeiliwvd gan Mr Fred Harries, Neuadd Terrace. Awd trwy.y i-liaglen ganlynol:-Stlm gan M. J. Davies. Can, May Williams. Adroddiad, H. M. Harries. Can, Ivy Thomas. Adrodd- iad, Cecil Jones. Can, Bessie Thomas. Adroddiad, Gwenny M. Thomas, Goleu- fryn. Triawd, Bessie a'i C'hyfeillesaui Adrodd Salm, Not-a4 M. Davies. Deuawd, Tom Thomas n Leys hon Diti-ics. Adi-odd- iad, Edith Lewis. Can, Elvira Davies. Adroddiad, Jemimah Evans. Can, M. J. Davies. Adroddiad, Sally Thomas. Salm, Samuel Price. Deuawd, M. J. Jones a J. A. Evans. Adroddiad, Leyshon Davies. Adroddiad, Daniel J. Evans. Cnn, Eliza- ] hoth Price Adroddiad, Elved Lewis. Can M -,I. Harries. Adroddiad, Evelyn .Tones. Can, M. J- Thomas. Adroddiad, Tom Thomas. Call, A. M. Griffiths. Adroddiad, Emrys Lewis. Adroddiad, Mr. Morgans. Deuawd, E. a M. J. Griffiths. Dvdd Sul, Ion. 25, yn y Neuadd Gy- hoeddus, ac yn Gibea prydnawn, cynal- iodd v brodyr Seisneg sydd yn yr ardal eu cyiartodydd" pregethu, pryd y gwasanaeth- wyd an y Parch. Enocli Hughes, Aber- canald, Merthyr. Cawd cyrddau rliagorol. Para i ennill anrhydedd mae Miss Mary Davies, Llandilo Road. Dyna. fu ei hanes nos Sadwrn, Ion. 24, yn Eisteddfod Tai'r- gwaith. Ennillodd y cwpan arian ynghyda r arian ar yr her nnawd allan 0 ni?riluosog 0 ymgeiswyr. Enmil?y" hefvd v soprano gan Miss A. M. DavIes, Llandilo Hoad. Etto yn v ^en.at,, lioc-cldti-?, I-lioddii-y(I ppr?ormiad 0 "Hohday on the Sands," Ion. 29, 30, 31, gan Cor y Band ot Hope Tabernacle, Cwmgorse. Cynortlw):Yd hwvnt gan Morgan's Orchestral Society o dan arwemiad Mr Tom Montw.  Cottage, Park Street. Cefais ar ??" fod v band hvn wedi f marc uc?hei èjsj()e, ('t.' mat dvma y tro cyntat 3, ???t wedi ymddallgos' ar "y ?-tan .n g. hoedus. Cefais ar ddeall eu bod wedl derbyn gal?ad i chware? gyda <.h;?orau ore ill etto yn fllan. Cwall. Gwelais vn v Darian ddiweddaf fod KS ?! U wedi' 'l:thio i fewn. IllS gwn ai tv i oedd y ba.. Wrth edrych dros emvRu v pwvllgor gwelais enw Enoch Waie, vp?YHgor gw?ais tod. ?'-h Corau ?? ?an<"ddylasai tod, G.? r C  rau CTt-eiHion.67; West End, 17 Music Lo\'ás. 69. Felly y bnddnKotydoedd??c End o dan ar?piniad Mr Gar held Roberts. SuI. (,hwef. 1.. bn etholiad dia- Nos Sul. Chwef. 1, bu etholiad dia- coniaid vn Si loam. Ychwanpgwyd ped- war at v rhai sydd eisioes yn y swydd. Y rhai newydd yw John Beddoe, Ban- wen; Tom Benjamin Evans, Park Lane Wni. Davies, Glyn Hoad, a John Hop- kin. Glyn Road, arweinydd y gan.

Advertising

CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID COFALU AM V "MAl HYN. Esgeulusdod o unrhyw niwed I rhal hyn drwy ddamwain neu glefyd aN achoai Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaeth Efleitklol. Er mwyn ysgol Perygl rhtld al ymarfcr mewn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUB A SICR A GOMERIS BALM. Mae Hwn yn awr yn cael ei gydnaked gan filoedd fel y meddyglin mwyal sicr a diogel a ddarganfyddwyd erioed at iachau Clwylau. Aichollion, Tardd- lantau y Cnawd, Eczema, Craoh A Ned d yll Mhenau Plant, Llosgiad. au, Yagal- danau, S cur v y, L i u grad Plant, 4r Benywod a y Babanod, Tarwden, Cowt, Cymalau qheumat- oodd Pf-t fy MIE-R ?"?? -Y? o?? ?- ? °'? r??n .? Pi? tyn mew '?t echrytic* Hynod 0 GweJlbaodd Gomer'. B?i- eneithtot hi yn bur ?° at CL WYFAU ar COESAU. Mi/oodd yn tystio i'w Effelthiau Rhyfeddol. RHQDDWCH BRAWF ARNO awallhcsd.loydd s/or. Ar werth gan bob Chemiit a StorBI aD 1/li. Gofyner am Comer » Balm. Mya- weh weled enw "aoolt Hughes ar bob blwch. Heb hyn Did yw gywir. Non danfoner ei gwerth (P.O. neu Stamp.) at Jacob Hughes, Manufacturing Chem- ist, M.P.S., L.D.S., Poinarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.