Teitl Casgliad: Darian

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Nid yw statws neu berchnogaeth hawlfraint yr adnodd hwn yn hysbys.

Gwylio manylion cyfan

Llun 1 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising

HYSBYSIAP. YSCOL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlwy# 1880. PRlF ATHBO: J. Gwill Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rhaglen a hanes Llwyddiant at y Prif A thro.

Advertising

w. Williams ICe. JEWELLERS, Ao.. 29 Castle St., Swansea. speoialltle8 l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22Ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewoh rt y Cymro Oa am heirdd fodrwyau aur, Oriadaron M awrIeiMM. Geman a cbadwynau olaar Yapecto! gelfydd.mD-fynegyad, YoGpwecrteosl -ft,ifi m e Geirgan Williams, Reo y C'"?" Trowch i mewn i wal'd ei sr.

Y CYNHWYSIAD

Y CYNHWYSIAD. Yn Fan ac yn Amal Tud. 1 .Colofn Llafur 1 Cyngor Plwyf y Chwarter Bach 1 Y Stori: Llwybrau'r Sarff 2 Adolygiad ar Gofiant y Parch. R. Thomas. 2 Beirniadaeth I n0 2 II Colofn y Bobl leuainc 3 Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. 3 Rhyfel—I ba beth? 3 Cymrodorion Aberdar 3 Pynciau'r Dvdd 4 Hanesion L eol 5 Adroddiad Arholiad yr Ysgolion Shbathol C.M 5 O Dir y Gog)edd 5 Ar Lannau Tawe 5 Y Golofn Amaethyddol 6 I O Deifi i'r Mor 6 Y Methodistiaid a Dirwest 6 Colofn y Plant 7 Cinio'r GogleddWyr ii Canmlwyddiant Seren Gomer 7 i Colofn y B.eirdd 8 Cwrdd iSefvdlu Emrys James .I I Briwsion o Aberpennar 8

Yn Fan ac yn AmalI

Yn Fan ac yn Amal. I Yn ei araith i Gymdeithas Gymraeg Casnewydd dywedodd Sarnicol mai Ceiriog yw y bardd a ysprydolodd Cymru yn anad neb yn ystod yr banner can mlynedd diweddaf, oddi- wrtho y derbyniasai Tom Ellis, Lloyd George, a gwladgarwyr ereill yspryd- iaeth. Er hynny dywedodd yr Athro W. J. Gruffydd yn Nhonyrefail mai Pantycelyn yw bardd cenedlaethol Cymru. Beth ddywed Sarnicol am hyn ? Llongyfarchiadau i John Penri Williams, Tygwyn ar Daf, ar ei lwyddiant yn sicrhau y lie uchaf yn arholiad clercod y Llythyrdy trwy yr holl o'r Deyrnas. Bu y gwr ieuanc hwn yn gwasanaethu yn y llythyrdy yn Llandrindod a Chaerdvdd. I 0 ■w Bu hen eglvfys J^iangyieiacrt yn ddi- tveddar dan driniaeth y seiri. Dar- ganfuwyd hen dywodfaen a chroes arni. Ar y groes yr oedd y geiriau "Crux Christi" (Croes C/ist). Barn Syr John Rhys a'r Col. Morgan yw y perthyn y garreg i'r nawfed ganrif. Dydd Sul diweddaf terfynnai y Parch. W. T. Francis, y Gwawr, ei weinidogaeth yn yr eglwys honno. Siom i lawer yw colli gwr hynawsed a phregethwr hyotled o'r cylch. A i faes eang yn Llanelli, sef Calfaria, lie bu y bardd Machno am flynydd- oedd yn barchus a llwyddiannus. Mae y Parch. Ben Davies, gwein- idog Eglwys Annibynol Plasmarl, Abertawe, wedi derbyn galwadau i'w ,gweinidogaethu oddiwrth Eglwysi Annibynol yn Llandyssul a Merthyr. Deallwn nad ydyw hyd yn hyn wedi penderfynu derbyn yr un. Mae Is-bwyllgor Gwyddor a Chelf Cyngor Abertawe wedi penderfynu cymmeradwyo agor "Orielau Celf" y ,dref ar brynhawn y Sabbath i gych- wyn y Sul cyntaf ym Mai. Mae hyn wedi peru cryn gynnwrf ymhlith yr eglwysi a'r dref yn gyffredinol, ac yn y papurau lleol mae amryw o flaen- orion y dref a gweinidogion yr .eglwysi (Rhyddion a Sefydledig) wedi datgan eu barn dros ac yn erbyn y syniad. Bydd dadleu brwd ar y mater pan ddaw ger bron y Cyngor mewn ychydig ddyddiau. Nos Sadwrn, Mawrth 21, bu y Bon- wr J. Conway Davies, B.A., Llanelli, yn darlithio yn y Llyfrgell Gyhoeddus. Darlith Saesoneg oedd ar "The Welsh Revolts of Edward II." Cadeiriwyd gan y Bonwr D. Morlais Samuel, a chafwyd cynhulliad ar- dderchog. Profodd y darlithydd ei fod yn feistr ar ei destyn, a dadlennodd Tffeithiau hynod o ddiddorol i'w wrandawyr, gan fod ei ddarlith yn ymwneud a digwyddiadau cyffrous cyfnod ei. destyn yn ac ogylch ein tref a Morgannwg yn gyffredinol. Mae Syr Alfred Mond, yr Aelod Seneddol dros Abertawe, wedi addaw cyfrannu jQ500 tuag at gronfa y Llyfr- gell Genedlaethol; hefyd addawodd y boneddwr haelionus, Roger Beck, Ysw., ychydig amser yn ol £1,000 i'r i, ooo i'r > un gronfa. Dylai'r esiamplau hyn ryddhau llinynnau codau cyfoethog- ion. eraill yn yr ardal yma sydd a digon o dda y byd hwn yn eu meddiant.

Advertising

A RTIFICIAL LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit" Trusses, -etc. lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, ..etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-2. List free. Tel 1282.-Allen Peaice, 2d 'Charles Street, Cardiff.

Ar y Twr yn Aberdar

Ar y, Twr yn Aberdar. Gwych oedd gweled yn y "Darian" ddarlun o'r briodas hardd yng Nglyn- nedd. Daw rhianedd y rhamantau i gof wrth ddarllen hanes y briodas hon. I Cymered ereill yr awgrym i briodi yn iaith Branwen, Enid, ac Olwen; a'i mabwysiadu yn iaith y cartref yn ol Haw. j Yn Ngwyl Dewi Sant yn y Park j Hall, Caerdydd, ddwy flynedd yn ol, wrth annerch y plant, sylwodd y i Cynghorwr Evan Owen, Y. H., y dylai i pobl ieuainc Cymru siarad Cymraeg a'u gilydd a phriodi yn Gymraeg, er I mwyn byw yn Gymraeg. Deilliai budd o'r awgrym pe'i mabwysiedid. Gwasanaethai y Parchn. R. B. I Jones, Ynyshir, a J. J. Richards, Aberavon,. yng ngwyl bregethu Beth- I ania, Cwmbach, Sul a Llun, Mawrth I yr 22ain a'r 23ain. Cynhefid yr I odfaon yn y Neuadd Gyhoeddus am fod y capel yn cael ei jkdgyweirio. Yr oedd y gweision yn traethu'r gen- hadwri yn nerthol ac effeithiol. Y Sul a'r Llun cynhelid cyfarfod sefydlu y Parch. T. Emrys James yn weinidog ar eglwys Bethesda, Aber- nant. Y mae'r gweinidog newydd yn bur adnabyddus yn Aberdar fel un o wahoddedigion yr eglwysi eu huchelwyliau. Derbyniodd y Sul blaen- orol 32 o aelodau newydd i'r eglwys. Hyderwn fod hyn yn flaenffrwyth llaw- er i ddilyn ac o weinidogaeth Iwydd- iannus iawn. Nos Fawrth, Mawrth 24am, bu y Parch. Cefni Jones yn darlithio i Gymdeithas Pobl Ieuainc Noddfa, Trecynon, ar "Hanes Ymneillduaetfc yng Nghymru." Caed hwyl i ddweud ac i wrando. Diau fod eisieu trwytho meddyliau ein pobl ieua!nr vn hn?es ¥ maeillduaeth. y Sul, Mawrth 22ain, ymwelodd y Parch. Justin Evans, Llundain, ag Aberdar. Pregethai yn y Tabernad, addoldy yr Annibynwyr Saesneg drwy y Sul. Nos Lun darlithiai ar "Fynd Y mlaen." Dadi thiai yn ddoniol a phoblogaidd, aC yr oedd torf dda yn gvvrando wrth ei bodd. Cynhaliwyd gwyl bregethu Aber- cwmboi Sul a thrwy'r Llun diweddaf. Y gwahoddedigion oeddynt y Parchn. W. Rhys Watkin, M.A., Moriah, Llanelli, a J. Griffiths, B. A., B.D., Ammanford. Yr oedd y pra gethwyr ar eu huchelfannau, a'l weinidogaeth yn cael ei gwerthfawr ogi. Diau yr erys dylanwad yr odfaon yn hir. < Cymerodd damwain alaothus le yng ngwaith y Dyllas nos Wener, wythnos i'r diweddaf. Tarawyd Evan Evans, un o swyddogion y gwaith, gan y siwrnai ar ei ffordd gartref ar yr incline." Bu farw yn fuan wedi ei ddwyn adref. Nid oedd ond 37ain oed, ac yr oedd yn neilltuol o barchus gan ei gydweithwyr a'i gydswyddog- ion, ac yn un a fawr edmygid mewn amryw gylchoedd. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdfa gyhoeddus Aberdar. Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai mwyaf a wel- wyd yn y cylch. Gedy weddw ac un plentyn ar ei ol. Billy Bray oedd darlith y Parch. Hermas EvaM, Cwmbwrla, yn Nebo, Cwmdar, nos Iau diweddaf. Canmol mawr sydd ar y ddarlith. Daeth Hermas yn lie y dihafal ddarlithydd Dr Gomer Lewis, a analluogwyd i gadw ei gyhoeddiad oherwydd an- hwyldeb. Xi allasai gael ei well, a bu yn garedig yn llanw'r bwlch ar fyr rybudd. Claddwyd Ehedydd Emlyn dydd Iau diweddaf yng Nghastellnewydd Emlyn. Yr oedd yn ewythr i Towyn Jones, Ysw., A. S., yn ogystal ag i vsgrifennydd cyfrinachol y Ctnghellor Lloyd George, sef Mr J. T. Davies. Y mae dwy ferch iddo yn Aberdar, sef Mrs D. Evans, Trecynon, a Mrs T. Davies, Broncynon, Cwmdar. Collir un o hen gymeriadau doniol- af a gwreiddiolaf Heolyfelin ym mar- wolaeth John Humphrey. Yr oedd yn gyfoed i Garadog, ac yn ganwr ar ben ei hun. Y r oedd yn aelod ym Mryn Seion, ac yn un o blant y Diwyg- iad diweddaf. Rhydd Parcwyson ddar- lun da ohono ac enghreifftiau o'i dywediadau pert yn ei gyfrol, "At- gofion am y Diwygiad." Gwr diddos- barth, diddefod, diddiwyg, a di- ddiwylliant yw ei ddisgrifiad o hono, oc y mae yn hynod. gywir o hono Claddwyd ef yn y Gladdfa Gyhoeddus dydd Litin diweddaf, pan y gwasan- aethwyd gan y Parch. J. Morgans, y gweinidog.

COLOFN LLAFUR

COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUB. Achos i Ymfalchio. Y mae Aelodau Llafur Cyngor Aber- dar yn cerdded yn o syth ar eu sodlau y dyddiau diweddaf hyn. Oddiwrth adroddiad a roddwyd i'r Cyngor gan brif swyddog y Tramways Department, dangoswyd fod elw sylweddol iawn wedi ei wneyd yn yr ychydig fisOedd oddiar pan ddechreuwyd rhedeg y trams drwy y lie. Gestyngiad yn y Dreth. Gymaint yw yr elw, fel y galluogir gostwng y dreth gyffredinol (general district rate) ddwy geiniog yn y bunt am y flwyddyn ddyfodol, a gosod zC3,000 heibio yn gronfa er sicrhau na fenthycir arian oddiwrth y Bank pe digwyddai galw neillduol yn ystod y flwyddyn. Arbeda hyn dalu Hog diangenrhaid i'r Bank. Clod yn Ddyledus. Pan gofir am y gwrthwynebiad mawr, y difrio, a'r sarhad roddwyd ar ym- drechion yr aelodau Llafur yn ystod y deng mlynedd y buwyd yn ymdrechu cael y gwasanaeth hwn i drigolion Aber- dar, y mae yn syndod eu bod wedi gallu dal o dan y fath driniaeth. Ond heddyw, meddyliwn fod eu balchder a'u llawenydd yn deilwng iawn iddynt, ac yn lie gwg a gwawdiaeth, dyledswydd y trigolion yw diolch iddynt a'u llongyf- arch yn galonnog am yr ymdrech a'r dyfalbarhad sydd wedi diweddu mewn llwyddiant mor ardderchog. Cyhoeddi ar Bennau y Tai. Y mae y llwyddiant hwn yn engraifft odidog o effeithiolrwydd cynrychiolaetb lafurol ar y fcyrddau lleol yn deilwng o'i gyhoeddi ar hyd a lied y wlad; a go- beithio y bydd yr amgylchiadau yn ys- prydiaeth bellach i weithwyr a dineswyr Cymru i wneyd yr oil a allant i osod gweithwyr profiadal yn hytrach na pherchenogion cyfalafol i'w cynrychiolu ar y byrddau lleol. Etholiad y Cyngor Dinesig. Mae tymor blynyddol etholiad y cyngor dinesig yn Aberdar wrth y drws. Felly hefyd y cynghorau dinesig drwy Gymru. Y mae Llafur wedi ennill un sedd eisioes yn Ward 4 (Aberaman) drwy ddychweliad diwrthwynebiad Mr D. E. Davies, shop assistant yn Maelfa Gydweithredol Aberaman. Ymddi- swyddodd Mr John Howell o herwydd afiechyd a llesgedd corfforol. Yn Ward 5, Aberaman. ail-etholwyd yr aelod Llafur gwasanaethgar Mr Owen Powell yn ddiwrthwynebiad. Felly hefyd Mr. George Powell, yr hwn sydd yn aelod ffyddlawn a diwyd dros Ward 2. Yn y Ward 1 (Llwydcoed), yn unig y mae ymdrechfa i fod rhwng Mr Willie Llewelyn, M. E., un o feibion y Bwllfa, a Mr John Griffiths, glowr yn un o lofeydd y Bwllfa. Y mae yr olaf yn dyfod allan o dan nawdd y Cyngor Celf a Llafur. Drwy amgylchiadau anawdd eu hesbonio, y mae y Ward hon yn groendew iawn i ddylanwadau egwyddorion llafurol. Mor bell ag y gallwn gofio. nid oes yr un cynrychiol- ydd llafur wedi llwyddo yn hon. Bydd yr ymdrechfa eleni yn sicr o fod yn frwd a chaled. Y mae y ddau ymgeisydd yn ddynion o gymeriadau ffafriol iawn. Ond gan taw a theilyngdod cynrychiol- wyr Llafur y mae a fynof fi yn union- gyrthol, dywedaf am yr ymgeisydd llafur ei fod yn fachgen diwylliedig iawn, yn ddarllenwr mawr, yn feddyliwr, cryf a choeth, ac yn uwch na'r cyffredin mewn gallu i resymu ei bwngc. Y mae yn deilwng o gefnogaeth pob gweithiwr sydd yn parchu unplygrwydd meddwl a cllywirdeb cymeriad. Os gwna gweith- wyr y Ward 1 eu dyledswydd tuag at achos eu hunain. gosodant John Grif- fiths i gydeistedd a'r aelodau llafurol eraill sydd wedi gwneyd gwaith mor ar- dderchog i lesoli Aberdar. Tom Mann. Gwelwn fod Tom Mann, yr arweinydd Llafur Prydeinig, wedi glanio yn ddi- ogel yn Ne Affrica, ac wedi cael derbyn- iad brwdfrydig ac heddychol. Anerch- odd gyfarfod o tua thair mil o bobl yn Neuadd y Ddinas, Cape Town, ar hWYr- ddydd ei laniad. Yr oedd maintioli a chyfansoddiad y cyfarfod, meddai gohebydd newyddiadurol. yn arddang- osiad hynod o'r teimlad brwdfrydig sydd wedi ei gynyrchu yn erbyn polisi alltud- iol y Llywodraetb. I Dydd 0 Brysur Bwyso." Y mae y Llywodraeth Ryddfrydol bresenol wedi bod yn y glorian yr wyth- nos ddiweddaf yma, ac egwyddorion syl- faenol llywodraeth werinol wedi eu siglo i'r gwaelodion. Bu yr amgylchiadau yn foddion i dynu allan ddatganiad dwys a dwfn o benderfyniad cynrychiolwyr Sen- eddol i sefyll dros egwyddorion syl- faenol y cyfansoddiad Prydeinig. Y mae lie cryf i gredu fod y Brenin, ynghyda'i gyfeillion yn y llys, wedi defn- I yddio eu dylanwad i ffafrio anufudd-dod a gwrthwynebiad Swyddogion Milwrol uchel ei safle i awdurdod a gorchymyn y Llywodraeth drwy y Swyddfa Ryfel. f Yr oedd yr anufudd-dod hwn yn gosod y I Wladwriaeth ar unwaith yn nwylaw y I Dosbarth Milwrol, a thrwy hyny yn ein gosod yn amgylchiadau pump neu chwe cl ant o flynyddau yn ol, pan oedd y fyddin a'r gallu Milwrol yn nwylaw y Brenin a'i Lordiiaid i wneyd yr hyn a. fynnent a'r werin dlawd. I John Ward, A.S. Anfarwolodd y gwr uchod ei hunan nos Fawrth diweddaf drwy godi i siarad av y drafodaeth hon. Yng nghanol ban- llefau dywedodd mewn Ilais taranaidd, Y peth yr ydym ni yn ei hawlio, Mr. Llywydd, yw yr hawlfraint i wneyd deddfau heb ymyriad o gwbl oddiwrth frenin na byddin." Gellir dweyd yn ddibetrus fod y cynrychiolwyr llafur wedi cymeryd rhan bwysig ac effeithiol iawn yn y ddadleuaeth gynhyrfus hon. f Mr. William Brace, A.S. I Dywedodd Mr. Brace mewn cyfarfod yn Nghaerdydd dydd Sul fod ymgais wedi ei gwneyd yr wythnos ddiweddaf i ymyrryd a rhyddid y bobl. A phe na byddai y Cabinet wedi condemnio a thynmi yn ol y llythyr a'r cytundeb a roddwyd gan Colonel Seely, y Gwein- ;.J »g Rhyfel, i'r Cad-Lywydd Gough, na. h ddai y Llywodraeth wedi aros bedair- awr-ar-ugain mewn bodolaeth. Byddai yn rhaid i'r blaid Lafur dalu mwy o sylw irFyddin yn y dyfodol, ac yr oedd yr amgylchiadau diweddaraf yn sicr o fod wedi hwylysu'r dydd pan y bydd y Fyddin yn llwyrach o dan reolaeth y wlad. I I Achos i Lawenhau. I Vng nghanol y miri a'r berw, y mae gan y Dosbarth Llafurol le i la wenhau a bod yn galonog. Er holl ymffrost gwladweinwyr poblogaidd ychydig fiyn- yddau yn ol y byddai i welliantau cynyg- iedig y Llywodraeth ladd a difodi cri ac awyddfryd y werin am welliantau cym- deitfiasol, gwelwn yn hytrach y cri a'r awyddfryd yn cryfhau ac yn llanw yn uwch uwch o hyd. Ac yn lie boddloni ar y gwynt cynygiedig, galwant yn fwy penderfynol fyth am welliantau syl- weddol a pharhaus. Duw gadwo'r bobl.

I Heolgerrig ger Merthyr I

I Heolgerrig, ger Merthyr. I Cyngerdd. Nos lau, Mawrth 26, yng nghapel yr Annibynwyr, Salem, yn y lie uchod, cynhaliwyd cyngerdd 4DOidog gan gor y lie dan arweiniad Mr Abraham Williams, arweinydd canu yr eglwys uchod. Cynorthwyid ef gan y cantorion enwog canlynol Sopranos, Madame T. Morgan a Miss Gwen Evans; contralto, Miss H. E. Evans a Miss Sarah M. Williams; tenor, Mr W. E. Jones; bass, Mr E. Rowlands. Cyfeilwyr berdoneg, Master Idris Morgan; ,yr almoneg, Mr James Williams. Cadeiriwyd yn fedrus gan Mr H. M. Lloyd, Maer Merthyr, a chafwyd araith fedrus ac addysgiadol ganddo. Anthem, "Ben- digedig fyddo Arglwydd Dduw' Is- rael, cyfansoddiad o waith y Pencerdd Thomas, Llanwrtyd. Caf- wyd datganiad meistrolgar, y lleisiau yn dda, yn dreiddgar a soniarus. Hawdd oedd canfod fod yr arweinydd k'i gor yn deall eu gilydd. Canodd y tenor, Mr Jones, Baner ein gwlad a "The Sailor's Grave," ac ail alwyd ef, a chanodd "Mary of Argyle." Mae gan y cyfaill hwn lais tenor o gwm- pas da, a medr ganu ei ganeuon yn ddeallgar a gorffenedig. Gresyn na chawsom gan Gymreig ganddo, ac yntau yn byw ar ael y bryn yn Heol- gerrig. "Light of the World gan Miss Gwen Evans. "The Two Gren- adiers gan Mr E. RoNvlands "Glimpse of Heaven" gan Mrs T. Morgan. Mae gan y gantores hon lais llawn, o gwmpas rhagorol, yn medru canu yn feistrolgar, mewn arddull orffenedig. Cafodd ail alwad, a chanodd Gymraeg gloew. Testun ei chan oedd "Merched Cymru. Can oedd yn goglais calonnau Cymru Cvmreig Heolgerrig. Anthem gan y cor, Lead Kindly Light (gan y diweddar Pughe Evans). Sicr fod y cor ar eu goreu yn datganiad hwn. Yr oedd yn ddiweddglo campus yn wir i'r rhan gyntaf o raglen y gyngerdd. Ail ran y gyngerdd: Datganiad cyflawn o'r gantawd brydferth, Shepherd of Souls gan Mr Thomas Brookfield. Mae yn y gwaith hwn wyth corawd, tri phedwarawd, unawd- au i'r sopranos, contralto, tenor, a'r bass. Ystyriwn i'r arweinydd wneud yn ddoeth wrth dyblu y lleisiau yn y pedwaradau. Canasànt yn wir gan- moladwy. Canwyd y "recits" a'r unawdau gan y cantorion eraill gyda chryn ddeheurwydd. Prif arwyr y nos, er hynny, oedd y cor. Cahasant, "Make haste, 0 God," The Thun- der Burst," a'r corawd olaf yn y rhan gyntaf, "The Lord is loving," yn ardderchog. Yn yr ail ran, rhagorol oedd y datganiad o rif y i5fed. Un- awd soprano (Mrs Morgan). Pedwar- awd, a chydgan, "The King of Love." Da oedd y gydgan olaf, "Blessed be the Lord" yn ddiweddglo meistrol- gar o'r perfformiad hwn. Llongyf- archwn y cor a'r arweinydd ar waith mor orffenedig a hwnnw'n llafur cariad. Hyderaf y bydd iddynt bar- hau i ddysgu eto weithiau cyflawn. Rhoddwyd diolch i'r Maer am lyw- yddu, ond anghofiwyd ddiolch i'r foneddiges hawddgar, y Faeres, am ei phresenoldeb. Diolchodd un arall i'r boneddigesau am arwisgo y llwyfan, ond anghofiodd yntau y cor a'r arweinydd. Sicr eu bod yn haeddu diolch mwyaf gwresog eglwys a chynulleidfa Salem am eu gwaith y noson hon.

Cyngor Plwyf y Chwarter Bach

Cyngor Plwyf y Chwarter Bach. Cynhaliwyd cyfarfod o'r* Cyngor uchod yn Neuadd y Gweithwyr, Blaencaegurwen, nos Lun, Mawrth y 23am. Yr oedd yn bresennol: y Mri. M. Rees (cadeirydd), J, Thomas, J. Hughes, W. M. Jones, G. L. Wil- liams, G. B. Williams, J. Rees, D. R. Bowen, a S. Morgan. Darllenwyd gohebiaeth oddiwrth y Post-feistr Cyff redinol yn cydnabod y cwyn a wnawd yn erbyn awdurdodau y Llythyrdy yn gosod Sais unieithog I yn llythyr-gludydd yng Nghwmllyn- fell. Hysbyswyd gan Mr J. Hughes fod y person dewisedig wedi rhoddi y swydd i fyny, ac felly fod y maes yn agored i'r awdurdodau wneud ail- ddewisiad a rhoddi cyfle i Gymro y tro nesaf. Hysbysodd y Clerc fod y cais a wnawd am gyfres o ddarlithiau gan Mr Pickard ar Arddwriaeth wedi ei wrthod y tro yma. Derbyniwyd cyfrif o'r arian a gasglwyd o dy i dy drwy y plwyf er dwyn y draul o wrthsefyll y prawf ynglyn a'r "Amman Valley Sewerage Scheme." Casglwyd y swm o ^24 16s 6d. Bu yr ymgyrch yma yn llwydd- iannus iawn, ac yn ol tystiolaeth y Clerc, yr hwn a weithiodd yn egniol er dwyn y farn i fuddugoliaeth, mae y gwrthsafiad hwn wedi arbed amryw filoedd o bunnoedd i'r plwyfolion. Talwyd allan mewn treuliau o'r arian uchod yn cynnwys treuliau y cyfreith- iwr, y cynllunydd, y. clerc, a manion ereill y swm o jQ22 13s Sd. Cyn- hygiwyd gan Mr J. Hughes, eiliwyd gan Mr J. Thomas, a phasiwyd fod y gweddill o £ 2 3s id i'w gosod yn y bane ar enw'r trysorydd a'r clerc, hyd nes daw galw am danynt yn y dyfodol. Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor ar sefyllfa llwybr y Rhosfa. Cynhygi- wyd gan Mr J. Thomas, eiliwyd gan Mr G. B. Williams, a phasiwyd i dder- byn.y telerau ddaeth i law am adgy- weino y cyfryw. Hysbysodd Mr G. L. Willioms fod Mr D. Evans yn gwrthod y swm a dalwyd am adgyweirio Llwybr Tomenowen. Hysbysodd y Clerc ei fod wedi boddloni ar y ddealldwriaeth y bydd y mater yn cael ystyriaeth bellach gan y Cyngor. Cafwyd adroddiad manwl o dreuliau y Cyngor am y flwyddyn, ac wedi trafodaeth faith ar y cyfryw, cynhygi- wyd gan Mr J. Rees, eiliwyd gan Mr S. Morgan, a phasiwyd fod yr oil i'w talu. Cafwyd adroddiad manwl o dreuliau goleuo heolydd Ward i, ac yn unol a phenderfyniad Pwyllgor y Goleu. Cynhygiwyd gan Mr W. M. Jones, eiliwyd gan Mr S. Morgan, a phasi- wyd fod y biliau am y swm o £ 30 3s i' talu. Dygodd y Clerc ei gwyn gerbron y Cyngor am fychander ei DELI am ei wasanaeth, gan fod y gwaith wedi cynhyddu yn ddirfawr yn ddiweddar, ac i gynhyddu eto yn ol pob argoelioo. f Dywedai y rhoddai rybudd y cyfarfod nesaf i geisio ychwanegiad yn ei gyflog- j Penderfynwyd fod y cyfarfod blvn- yddol i'w gynal ar Ebrill 6fed.

Advertising

OROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID OOFALU^ AM V RHAO HYN. Esgeulusdod 0 unrliyw aiwed I rkal hwn drwy ddamwain men Llielyd iiii ashool Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaatlt Cflcithiol. Er mwyn ysgol Pwygl rhaid at ymorter mawn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANUI A SICII A GOMER'S BALM. sv ssa",r.3as'™s gan filood d fol V maddyglin tic? a diogal a ddtrganfyddwy? erioad at iaahau Clwyfau, Archolllon, Tardd- lantau y Cnawd, Eczema, Crach a Hodd yn M h a n a u Plant, Llosgiad. au, Vagal, diniu, 8 0 u r v y, L I u g r ad Plant, Benywod a Babanod, Tarwdan, Cout, Cymalau Poanus, Rhaumat* los, Poen Cefn, Plies. Hynod a affelthlof at CL WYfAU ar COESAU. Yr oedd pen fy mies- tyn mewn stat schrysica. Gwellhaodd Gomer's Balm hi yn bur fuan." Miloodd yn tyatio i'w Effelthlau Rhyfeddol. RHODDWCH BRAWFARNO Gwel/had sydd s/or Ar werth gan bob Chemilt a Store. am 1/1 J. Gofyner am comer's Balm. Mji- wch weled enw Jaoafc Hughes ar bob blweh. Heb hyn nid yw gywir. Nit. danfoner ei gwerth (P.O. neu Stamps) at Jacob HUIMI, Manufacturing Chow- 1st, M.P.S., L.D.S., Panarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F I Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES VOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. 8.. 1 Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway-Fare allowed to Purchasers .1. P e upon mentioning this Paper. Telir Pris 1 tea prynwyr yma ac yn ol on iddynt enwi Tarian y Gwbithiwr. YN AWR VN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 163 Pages 1/- net; Posl Free 1/3. Addresses delivered at the United School of Social Service for Wales." A book every Patriot should read. Send without dølay to the Pitblish,T,s- MORGAN & HIGGS, PubliahaN, P'PintePO, Ac., 18; Heathfiold Street, Swansea.