Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
2 erthygl ar y dudalen hon
Y RHYFEL

Y RHYFEL. LLWYDDIANT Y FFRANCOD. Dim i'w adrodd," dyna yn fyr oedd cynwys yr adroddiadau swyddogol o Paris ddiwedd yr wythnos. Ond y mae'r Ffrancod wedi gwneud gwaith da yn ystod yr wythnos. Maent yn agoshau at amddiffynfa Metz yn ddyddiol. Maent wedi meddianu Eparges —llWyddiant pwysig. Mae y llwyddiant yma wedi dod a hwy filltir yn nes i Metz. 0 uchelderau Eparges y mae eu gynau mawr mewn safleoedd manteisiol gyda golwg ar y ffordd sydd yn arwain i Metz. 4 SYMUD YN MLAEN. Dywedai gohebydd o Paris, sydd mewn cysylltiad agos a. materion milwrol yno, fod y Galluoedd Prydeinig, Ffrengig, a Belgiaidd mewn safle i daro yn gryf, a phendant, pan ddaw'r adeg. Cyn y bydd wythnos neu bymthegnos wedi myned heibio gellir disgwyl y bydd symud unol wedi cymeryd lie gan y Cyd-fyddinoedd yn Ffrainc. Dywed y gohebydd swyddogol fod Prydeinwyr wedi cael llonydd ar ol brwydr Ne-&e Chapelle, yr hyn sy'n profi fod y gelyn yn rhy wan i aUu anfon atgyfnerth- ion i'r lie. Egwyl cyn y storm yw hi ar hyn o bryd, a gellir cyn hir ddisgwyi clywed am symudiad mawr ar hyd y lliriell. Daw hyny pan y bydd y Ffrancod wedi cario allan eu cynlluniau rhagbaratoawl, a phan y bydd em byddin fawr ninau wedi ei hanfon trbsodd ac wedi ei chyflenwi a digon o arfau a phelenau i wneud yr oruchafiaeth yn sicr a llwyr. fADDEFIAD Y GERMANIAID. Fel arfer y mae'r adroddiad swyddogol o Berlin ddydd Sadwrn yn gwadu'y rhan fwyaf o'r enillion hawliwyd gan y Ffrancod. Ond yma a thraw ymddengys addefiad fod ymdrechion y Ffrancod wedi bod yn fwy Ilwyddianus na wna y gelyn gydriabod. Gellir disgwyl pethau mawr oddiwrth y Ffrancod eto. Y maent yn cau ar St. Mi hi el, lie mae nifer fawr o filwyr German- aidd wedi ymgasglu. Mae arhosiad y Ger- maniaid yn St. Mihiel yn golygu y bydd yn rhaid iddynt wanychu eu llinell mewn manau eraill er dod a milwyr yno i'w am ldiffyn- Tra mae y Germaniaid yn ceisio am- ddiffyn St. Mihiel nid anhawdd fydd i'r Cyd-Fyddinoedd ymdaith ymlaen mewn fhan.au eraill o'r Ilinell. Mae y Ffrancod yn gwneud gwaith da. Cyn hir bydd y Cotes de Meuse yn eiddo eto i Ffrainc. Ac ar ol hyny wastadedd y Wj-evre. Y RWSIAID. Deil Rwsia i ymdaith yn mlaen yn iuddugoliaethus tua gwastadedd Hungari, gan vsgu,bo'r Awstriaid o'i blaen. Y mae byddinoedd mawrion o'r ddwy ochr yn ymladd am yr oruchifiaeth y dyddiau hyn. Yi-i-I ngoleuni symudiad presenol Rwsia, ceir golwg gliriach nag o'r blaen ar gynllun I i mawr y Grand Duke, yr hwn sy'n profi ei I hun yn rhyfelwr o'r rhenc fiaenaf. Tra'n gwneud am oruchafiaeth jawr mewn un rhan o'r maes', ceidw y gelyn yn ddiym- I f adferth yn y rhanau ereill, eu tft> hwythau. I Cafwyd adroddiad swyddogol gan y Rwsiaid o Petrograd. Dywedant fod y Rwsiaid wedi ymosod 'ddydd Gwener ar safleoedd y Germaniaid rhwng Kalvariya a Ludvinovo" ac fod y Rwsiaid wedi cym- cryd 600 o Germaniaid yn garcharorion, j ac wedi cael wyth o ynau. Mae'r Rws- j iaid yn ymdeithio ymlaen. I gyfeiriad Rostock darfu i'r gelyn gael ei adgyfnerthu, ac ymosod ar safleoedd y Rwsiaid. Ond gwrthsafwyd yr ymosod- iad, a chymerodd y Rwsiaid 1,000 o gar- j charorion, yn cynwys 20 o swyddogion. I Dywedai yr adroddiad swyddogol fod pentref Cdexnowitz wedi ei ddinystrio gan dan a dorodd allan mewn ysbytty perthyn- ol i'r Germaniaid a'r Awstriaid. I SON AM HEDDWCH? Yn ol adroddiad o Switzerland dywedir fod swyddogion milwrol Awstriaidd wedi ymweled a phrif swyddogion milwrol Rwsia er mwyn trafod posibilderau hedd- wch gyda Rwsia ar wahan i'r gwrthwyn- ebwyr eraill. Dywedir na ddarfu iddynt ddod i ddim penderfyniad. Credir fod Awstria wedi ei meddianu ag ofn Itali. Mewn cvlch arall dywedir fod Awstria tra yn foddlon i ollwng o'i dw^daw Galicia, Bosnia, a Herzegovina, yn dymuno cael sicrwydd y gall ddal ei gafael ar Trente a Transylvania. t; ';¡\ ;0. l I CAMDRIN CARCHARORION PRYD- EINIG.. I Y n, ystod y dyddiau diweddaf caed tyst- iolaeth annibynol am y driniaeth annynol roddir i'r carcharorion Prydeinig yn Ger- mani. Ceir yr hanes gan ddinesydd American- aidd, yr hwn a ymwelodd a'r gwers^ll yn Doeberitz. Mewn datganiad wnaed gan- ddo i'r Cyngor Milwrol Prydeinig, dyweda fod cyflwr y 9,000 carcharorion sydd yno yn druenus. Yr oedd yno yn nghanol y gaeaf, ac yr oedd y dynion yn cysgu mewn hen babell- au. Ychydig o ddillad oedd am danynt, ) bwyd sal roddwyd iddynt, ac yr oeddynt { yn dioddef oddiwrth bryfaid, ac undon- I edd poenus eu bywyd yn y gwersyll. j I Y DARDANELLES. Dywedai gohebwyr o Mitzlehe tod ym- osodiad morwrol ar amddiffynfeydd mewn- ol y Dardanelles wedi ail-ddechreu ar y 4ydd a'r 7fed o'r mis hwn, ac fod rhyfel- longau ac awyrlongau Prydeinig a Ffrengig I wedi cymeryd rhan yn yr ymosodiad. Yr oedd y niwed wnaed gan y ffrwyd- belenau i'w weled o Tenedos, ond hyd yn hyn n-d yw y Morlys wedi gwneud hys- bvsrwj dd am y gweithrediadau hyn. .i I HELYNTION GARTREF. I Tra mae'r Llywodraeth yn ystyried pa I gamrau i'w cymeryd o berthynas i roddi atalfa gorfodol ar werthiant diodydd meddwol, dyddorol yw sylwi beth yw yr ymgais wirfoddol wnaed yn ystod yr wythnos ddiweddaf yn y rhanbarthau lie y mae angenrheidiau rhyfel yn cael eu gwneud. 'i' Yn ol yr adroddiadau o'r canolfanau I gweithfaol y mae pethau yn gwella, ac yn rhoddi lie i galondid. Hyd yn oed yn y lleoedd nad ydynt yn dangos lleihad yn swm y ddiod y mae gwelliant mawr wedi cymeryd lie parthed cyflenwad y nwyddau a drowyd allan. Yr, oedd docwyr Birkenhead, y rhai oeddynt yn atal gwaith y Llywodraeth trwy streics ddiwedd pob wythnos yn. ystod y mis diweddaf, wrth eu gwaith ddydd Sadwrn—arwydd dda o'r teimlad gwell sydd yn bod ar hyn o bryd. I SUDDO AGERLONG BRYDEINIG. I Daeth newydd nos but tod yr agerlong Brydeinig Harpalyce (5940 tunell) wedi ei suddo gan torpedo o gwch tan-forawl Germanaidd. Credir fod deuddeg o fywydau wedi eu colli. Achubwyd 28 o'r dwylaw gan lestr Ellmynaidd. Ni chafodd y dwylaw amser i fyned i gychod, ond yn unig neidio i'r mor fel yr oeddynt. Suddwyd hi ym Mor y Gogledd. Chine- aid oedd y dwylaw. oddigerth y swyddog- ion. Ofnir fod y capten wedi boddi Anafwyd rhai,o'r dwylaw achubwyd yn ddifrifol. Yr oedd y llestr wedi ei chyf- logj gan Gymdeithas er Cynorthwyo y Belgiaid. Y mae y llong-hwylio Ffrengig, y 'Chateaubriand' (2,300 tunell) wedi ei suddo gan fad-tanforawl Germanaidd rhwng yr Isle of Wight a Barfleur. Bu dwylaw y Hong yn y cychod am ddau t ddiwrnod a dwy noson heb fwyd, ac yn y I j diwedd cyrhaeddasant lanau mOr Ffrainc, a glaniwyd hwy yn Trefort. IY GERMANIAID YN COLLI 30,000. x r oeaa y ?ermaniaid wedi caei gorcn- ymyn i ddal eu gafael yn Eparges, costied agostio- Dywedodd y Cadfridog German- aidd ei fod yn barod i aberthu 100,000 o ddynion i gadw y safle os byddai angen [ Maet colledion y Germaniaid, meddai'r adroddiad Ffrengig, yn ystod y misoedd diweddaf, o amgylch Les Eparges yn 30,000 o ddynion. i CYFARFOD MAWR YN Y CLYDE. Yr wythnos ddiweddat bu Mr. Horati < Bottomley (golygydd John Bull ") yn anerch cyfarfod mawr, 4,000 mewn nifer, o weithwyr ierdydd y Clyde ar ran y Llywodraeth. Aeth yno, meddir, ar ddymuniad Mr. Lloyd George, Mr. Winston Churchill, ac Arglwydd Kitchener. Pob dyn," meddai, na fyn weithio anfoner ef i ymladd dros ei wlad." Cafodd ei araeth ddylanwad mawr ar y gweithwyr. —<3>—

IABARMAW

I ABARMAW. Etholiadol.-Dydd lau, enwyd Mri Evan Griffith, Cambrian House, a J Llewelyn, Davies, St. Ann's, fel ymgeiswyr am y sedd wag ar y Cynghor Dinesig trwy farwolaetli Mr. Moore, Lion Hotel.. Anrheg Briodasol.- Fawrth, yn Neuadd Eglwys St. loan, anrhegwyd y Parch. Henry Williams, B.A. (curad), yn awr o Borthaethwy, a phwrs o aur ar achlysur ei briodas a Megan, ail ferch y diweddar Henadur John Evans a Mrs. Evans, Tanrhiw. Cymerodd y,seremoni le y dydd canlynol (Mercher) yn Eglwys St. loan.