Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
ADOLYCUR SEFYLLFA I i

ADOLYCU'R SEFYLLFA. I i DWYN TROSEDDWYR I FARN. I t Efallai mai digwyddiad pwysicaf yr wythnos a aeth heibio yw Adroddiad Llys Barn ar greulonderau Tywysogion a swyddogion milwrol uchel Germani yn Belgium a Ffrainc. Ychydig a dybiai yr uchelwyr hyn fisoedd yn ol pan yn gorchymyn i'w milwyr gyflawni yr anfad- waith y buasai neb yn gallu eu gwysio hwynt ger bron Llys Barn am eu brynt- waith creulon. Eto hyny a wnaed eisoes. Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn c. a phob peth dirgel." Llys 'Barn Cydwybod Byd mewn effaith yw Pwyllgor Arglwydd Bryce fu'n holi y tystion ac yn chwilio y tystiolaethau ynglyn a'r creu- londerau liyn. Derbynir dyfarniad Llys fel hwn yn ddigwestiwn gan yr holl fyd. Mae safle aelodau'r Llys yn gydnabyddedig ymhob gwlad fel dynion teg, cyfarwydd a phrofi tystiolaethau, yn ddynion oil na I wyrant farn, ac na wnant gam a gwr yn ei I fater. Mae ei ddatguddiedigaethau yn I un o'r pethau mwyaf ofnadwy a gyhoedd- wyd erioed—llawer ohonynt yn rhy ofn- adwy, i'w cyhoeddi mewn papur newydd. I Argyhoeddir yr holl fyd drwy ddyfarn- j iad unfrydol y Llys y rhaid, ar derfyn y I rhyfel, galw y dyhirod tywysogaidd hyn i gyfrif am eu hanfadwaith, a'u cospi J gyda llymder tostaf dynoliaeth. |

I I BETH AM AMERICA I I

I BETH AM AMERICA ? I Nid oes amheuaeth ym meddwl neb nad yw Unol Daleithiau'r America oil, o'r Llywydd Wilson i lawr hyd y gwladwr mwyaf distadl o'r Werydd i'r Tawelfor, wedi cael eu cyffroi i waelodion eu calon gan anfadwaith olaf y Germaniaid yn suddo'r Lusitania, ac ar ei bwrdd dros gant o ddinasyddion America. Eithr ni wyddis hyd yn hyn pa mor bell y caria eu digofaint cyfiawn hwynt. Mae yr Arlywydd- wedi gyrru yn swyddogol at Germani yn gofyn am eglurhad, ac yn hawlio gyda hyny:- I 1. Fod Germani 1 wneud ymddiheurad digonol a boddhaol i'r America. 2. Foct Germani i dalu iawn i berth- i ynasau y rhai a foddwyd gyda'r Lusi- tania. 3. Fod Germani i roi sicrwydd bodd- haol i'r America na niweidir na pherson nac eiddb neb Americanaidd o hyn allan tra bont ar eu goruchwylion cyfreithlon ar y mor neu ar y tir. A rydd Germani i mewn i ofynion j America, ac os na wna hynny pa mor bell I yr a America yn y mater sydd gwestiwn arall. Arwyddocaol yw y ffaith fod Germani eisoes wedi atal yr hysbysebu ym mhapurau'r America, yn rhybuddio teithwyr o'i bwriad hi i ymosod ar longau masnach a theithio fo'n morio o dan faner Prydain. Cymer rhai hyn fel yn arwyddo fod Germani am gadw ar delerau da a'r America. Ond bernir gan eraill fod v Caisar am orfodi'r America i gymeryd rhan Y nYR hvfeI. Dywedodd swyddog: uchel ym Myddin Germani fis vn ol v gorfodent yr America i dynu'r cledd o'r wain. Y tri rheswm dros wneud hyny oeddent 1. Fod gweithfeydd America yn awr yn cyflenwi Prydain a Ffrainc a chyf- arpar rhyfel. 2. Nad allai'r America wneud nemawr niwed i Germani fwy nag a wna eisoes, gan nas gallai yrru Byddin drosodd i Ewrop am fisoedd lawer. 3. Y bydd y gwledydd sydd yn rhy- fela yn tlodi eu hunain pa un bynag ai enill ai colli a wnant yn y brwydro a phe y dihanga America rhag cymeryd rhan y byddai hi ar ddiwedd y Rhyfel yn gyfoethocach lawer na Germani, ac yn gallu meddianu marchnadoedd y byd er dirfawr niwed a cholled i Germani yn y dyfodol. Dywedai ymhellach fod gan Germani 200 o sudd-longau yn barod i fyned allan i'r Werydd, i ymosod ar fasnach America i Ewrop, ac y codai y Germaniaid yn America mewn gwrthryfel yn erbyn Llyw- odraeth yr Unol Dalaethau. O'r ochr arall mae gwerth miliynau o bunau o longau masnach a rhyfel Germani ar hyn o bryd ym mhorthladdoedd America, a miliynau eraill mewn eiddo yno drwy'r wlad. Pe cyhoeddid rhyfel atafaelid yr eiddo hwn gan Lywodraeth America.

Y LLAW AR Y PARED

Y LLAW AR Y PARED. Mae'r Caisar a'i gwmni o ellyllon eisoes yn gweled llun Haw yn ysgrifenu ar y pared ei dynged agoshaol. Hir yr erys Duw cyn taro, Llwyr y dial pan y delo medd yr hen ddihareb. Y Maeslywydd Botha, Prif Weinidog De Affrica, sydd wedi gosod yr ysgrifen ar y mur yngwydd yr holMyd. Affrica Orllewinol yw Trefedigaeth fwyaf, bwysicaf, a chyfoethocaf Germani. Oddi- yno y gwnaeth Byddin Germani yr ym- osodiad fisoedd yn ol ar Dde Affriea. Bryd- einig, gan gymell Maritz druan a'i gyd- fradwyr ffol i godi mewn gwrthryfel. Wedi gorchfygu o Botha y gwrthryfelwyr, ciliodd Byddin Germani yn ol i'w Tref- edigaeth eu hunain. Erlidiwyd hwynt gan Botha a'i Gadfridogion mewn tail' byddin yn cychwyn o dri chyfeiriad gwa- hanol, ac oil yn teithio igyfeiriad I Windhoek, prif cldinas Germani yn Affrica. Ciliodd y Germaniaid 'yn ol gan ymladd t ambell i ysgarmes a dioddef colledion trymion. Yn awr mae Botha wedi medd- ianu Windhoek, a'r Fyddin Germanaidd wedi ffoi i'r de. Ond yno mai Byddin arall o dan' y Cadfridog Smuts yn dod i'w cyfarfod- Yn fuan gwelir y German- iaid rhwng meini' uchai' ac isaf y felin- Botha a Smuts-yil cael eu malu yn chwilfriw. Tynged y Drefedigaeth a'i Phrif-ddinas a fvdd yn y man yn dynged Germani a Berlin hefyd os deil Prydain a'i Cynghreiriaid ati yn ddygn.

rY BRWYDRO AR Y CYFANDIR I I

Y BRWYDRO AR Y CYFANDIR. ,I Mae datblygiad y sefyllfa ar y Cvfandir, yn y Gorllewin yn Ffrainc, yn v Dwyrain yn Galicia, ac yn y De ger y Dardanels, yn ddyddorol dros ben. Yn y tri lie mae brwydro o'r math ffvrnicaf a fu eto yn holl hanes y Rhyfel wedi, ac yn parhau i gym- eryd lie ddydd a nos yn ddiorffwys. Mae amseroedd enbyd ger Haw. 0 fewtt yr ychydig wythnosau nesaf bydd mwy o dywallt gwaed yn v tri lie nag a fu o gwbl hyd yn hyn oddiar ddechreu'r Rhyfel- Penderfyna'r ychydig wythnosau, efallai yr ychydig ddyddiau, nesaf pa un a yw y Caisar a'i lu i barhau am fisoedd eto i fedd- ianu tir o'r tu allan i derfynau Germani, neu a yw efe a'i fyddinoedd enfawr i gael eu gorfodi i gilio yn ol yn ystod yr haf presenol i'w wlad ei hun. Rhaid cofio nad yw Joffre na French hyd yma wedi ceisio o ddifrif i orfodi byddinoedd Germani yn Ffrainc a Belgium i gilio yn ol dros y Rhine i diriogaeth Ger- mani ei hun. Boddlon a fuont hyd yma i rwystro'r Germaniaid i dori trwodd i Paris a glan y mor, a'u gorfodi i golli milwyr wrth y deg, ar ugain, a'r can' mil mewn ymdrechioil ofer i wneuthur hyny. Ond yn awr daeth cyftawnder yr amser i fyned rhagddynt. Dengys yr holl ar- wyddion fod Joffre a French yn parotoi i geisio gyru'r Germaniaid yn ol tuag adi ef. Unwaith y dechreuir y gwaith da hwn yn llwyddianus, bydd asgwrn cefn y Rhyfel wedi cael ei dori. Unig iachawdwriaeth Germani ar faes rhyfel y Gorllewin yw dal ei thir yn y man lie mae hi. Unwaith y gorfodir hi i gilio yn ol tua'r Rhine bydd dydd barn wedi gwawrio arni. Pan fo argae Ilyn neu reservoir yn dechreu tori, boed y bwlch yn fychan neu yn fawr, buan yr ymleda y rhwyg, a llifa'r dyfroedd o'r tu ol yn rhuthr anwrthwynebol. Rhyw- beth felly yw'r safle yn Ffrainc a Belgium ar hyn o bryd. Mae Joffre a French yn ceisio gwneud crac neu agen yn yr argae sydd gan Germani yn eu rhwystio ymlaen. Pan geir agen yn yr argae, lledu a wna, a Ilifa Byddinoedd Ffrainc a Phrydain yn Ilifeiriant ofnadwyar waithaf y Geiman- iaid. Nid oes neb a wyr hyn yn well na'r Caissr a'i Faeslywyddion. Dyna a'u cymhellodd i wneud y rhuthriadau ofnadwy yn nghym- ydogaeth Ypres mewn ymdrechion ffyrnig i dori trwodd hyd lan y mor He y medrent rwystro Prydain i ddanfon adgyfrerthitn trosodd i Ffrainc. Bu ymron a llwyddo- Ond erbyn hyn mae French a Joffre yn gallu ergydio yn gryf a chyfiym, a thra yr wyf yn ysgrifenu hyn mae swn crano yn argar cryf Byddin Germani. )

Y DARDANELS

Y DARDANELS. Mae a fyno'r sefyllfa yn Galicia a Myn- ydd-dir Carpathia yn uniongyrchol gwaith ni yn y Dardanels. Tra bo drws y Dardanels yn aros yn gloedig i ni, ychydig a fedr Prydain gynorthwyo ar Rwsia mewn cyfarpar rhyfel. Unwaith y torir y clo, ac yr agorir drws y Dardanels, cryfheir breichiau Byddin Rwsia a digonedd o gvf" arpar rhyfel o bob math o Brvdain ac o Ffrainc. Dyma gymhelliad ychwanegol i weithwyr Prydain wneud eu goreu i droi allan ddigonedd o gyfarpar rhyfel o r gweithdai, ac i'r docwyr wneud eu rhan 1 Iwvtho yn gyflym. Ychydig a roddir i ni o hanes gweithred- iadau y Fyddin ar Orynys Galipoli- De- allwn fod yno frwydro caled ddydd a nos, tywallt gwaed yn lHf, a'r lladdedigion yn lliosog o'r. ddau tu. Ond deallir heiyd ein bod yn enill tir yn raddol ond sicr, ac yn fuan ceir fod Byddin Twrci ar yr Orynys yn cael eu dal mewn trap, un rhan o Fyddin Prydain a Ffrainc yn dal y tir ar draws yr Orynys tua'r dwyrain; byddin arall yn ymosod arnynt o'r gorllewin,- a dim He gan y Twrc i ddiorc.