Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
4 erthygl ar y dudalen hon
WYTHNOS BWYSIC

WYTHNOS BWYSIC. CYFRYNGIAD ITALI. Mae yr wythnos a aeth heibio yn ddi- ameu yn un o'r rhai pwysicaf yn holl hanes y Rhyfel. Wythnos o enill ac -o goUi i ni a fu. Collasom long-rhyfel fawr -y Triumph—ger y Dardanels, ond achubwyd ymron pawb oedd ar ei bwrdd. Collwyd llawer o fywydau gwerthfawr yn ymron bob rhan o'r maes-ond gyrrwyd y gelyn yn ei ol bob tro. Daeth adgyf- nerthiad mawr. ymron amhrisiadwy, i Bydain a'i Chynghreirwyr, drwy i Itali —oedd wedi bod megys yn cloffi rhwng dau feddwl,-gyhoeddi rhyfel yn erbyn Awstria, a thrwy hyny o angenrheidrwydd I dynu Germani hithau yn ei phen. Mynwn unwaith eto rybuddio'r dar- lienydd i beidio gosod gormod o bwys ai yr enill nell'r colli a ddigwydd i ni mewn rhanau unigol o'r maes, mewn brwydrau ydynt i bob diben ymarferol yn lleol o ran eu pwysigrwydcl, ac yn gyfyngedig o ran cylch eu dylanwad ar gwrs mawr y Rhyfel ei hun. Nid yn unig rhaid cofio na cheir mo'r melus heb y chwerw. a geill yr hyn a ymddengys ar yr oiwg gyntaf yn anffawd o'r fath waethaf yn y man gynhyrchu ffrwyth daionus.

IDA A DRWa SUDDOR TRIUMPH AR MAJESTIC

DA A DRWa SUDDO'R TRIUMPH A'R 'MAJESTIC.' Gofidiapawb gollio honom y Triumph a'r Majestic.' Dyma'r bedwaredd a'r pumed llong-ryfel o'r eiddom a gollwyd yn yr ymgais i enill y Dardanels. Mae y golled yn un drom, ond y drwg a ddengys eu colli sydd yn bodoli yn fwy. Nid yw'r hanes yn dweyd ai yn y Dardanels ei hun ai y tu allan i'r Culfor, y digwydd- odd yr anffawd. Os yr olaf, ac os mai yn y M6r Aegaidd y bu, gwna y drwg yn llawer gwaeth. Pe y digwyddasai yn y Dardanels gallesid ei briodoli i torpedo a saethwyd ati naill ai o'r lan neu ynte o un o'r ychydig suddlongau sydd gan Twrci ym M6r Marmora. Eithr os, fel y mae lie i ofni, mai yn y mor agored y tu allan i'r Culfor, y digwyddodd, mae yn achos llawer mwy o bryder. Dengys fod ym Mor y Canoldir ei hun erbyn hyn ryw nifer o suddlongau Germani-pa nifer na pha bryd y daethant, ni wyddis. Y ffaith bwysig yw ettbod yno. 'Svlweddolir efallai maint a natur y perygl pan gofir y pethau a ganlyn :— 1. Rhaid i'r llongau sydd yn cludo milwyr o'r wlad hon ac o'r Aifft i'r Dar- danels dramwvo llwybrau y moroedd lie y gwyddis bellach fod sudd longau Germani yn ceisio ysglyfaeth. 2. Fod v pellter sydd gan y Cludlongau hyn i deithio yri llawer iawn mwy nag ydyw o Loegr i Ffrainc, ac nad oes genvm erynifer o longau rhyfel i warchod y Cludlongau ym Mor y Canoldir ag sydd genym yn y Sianel Seisnig. 3. Nad oes le diogel yn ymyl yno 'i'n llongau rhyfel ni i bot thladdu megys ag y svdd ganddynt yn Lloegr a Ffrainc. Mae'r pethau hyn oll o'u cymeryd gyda'u gilydd yn dyblu a threblu perygl ein mil- wyr a'n morwyr pan yn morio yng nghym- ydogaeth y Dardanels o'i gydmaru a'r hyn a fyddai iddynt wrth groesi o Bryidain i'r Cyfandir.. < Rhaid hefyd i'n llongau rhyfel ni fod byth a beunydd yngnghymydogeth y i Dardanels, i gynorthwyo'r Fyddin yno, a llongau masnach yn feunyddiol yn cludo bwyd a phob cyfarpar rhyfel i'r milwyr yno, ac felly yn nod beunyddiol a chym- harol rwydd i'r sudd-longau i saethu eu torpedo atynt. Y syndod yw, nid fod y Triumph a'r Majestic wedi cael eu suddo ganddynt, ond na fuasai llawer yn rhagor o'n llongau ni wedi cael eu suddo cyn hyn. Ond er nad oes borthladd cyfleus i'n llongau ni, nid oes ychwaith borthladd cyfleus i sudd-longau Germani ar diriog- aeth Germani nac Awstria. Rhaid i suddlong gael lie cyfleus lie y gall lechu, I ac adnewyddu ei stor o gyfarpar o bob math. Ni eill suddlong gario ond nifer fechan, tri neu bedwar torpedo i'r eithaf ac ni eill gario ychwaith ond swm cyfyng- edig o olew yr hwn yw bwyd ei pheirianau a'i bywyd hithau. Os na fydd ganddi torpedo, by dd wedi colli ei cholyn ac os na fydd ganddi olew ni eill forio ol a blaen. Mae ychydig fannau ar dir Twrci yn Asia Leiaf lie y geill y sudd-longau Ger- manaidd gael ymgeledd a chyfarpar. Eithr nid hir y bydd y rhai hyn heb gael eu malurio gan ein llongau-rhyfel ni. Y perygl mwyaf yw fod gan y suddlongau leoedd cudd yn y cannoedd Ynysoedd sy'n eiddo Groeg yn y M6r Aegaidd ger- llaw. Gwaith ymarferol amhosibl yw chwilio yr holl gilfachau yn y cannoedd Ynysoedd hyn, llawer o honynt yn anial- wch heb breswylwyr. Mae Llywodraeth Prydain wedi cynyg dwy fil o bunnau am I wybodaeth pa le y mae y suddlongau yn llechu. Gwell hyd yn oed na hyn yw fod Llywodraeth Groeg yn awr wedi gyru I alian orchymyn caeth nad oes neb i roi cymorth nac ymgeledd i longau Germani I yn holl diriogaeth Groeg. Gyda hyn j mae y ffaith fod Itali yn awr yn rhyfela I ag Awstria, yn ei gwneud yn amhosibl < i longau ddwyn cyfarpar o fath yn y byd J o Awstria i For y Canoldir. Rhaid i'r I suddlongau felly ymddibynu ar Twrci am bob cyfarpar, gan mai yr unig ffordd arall y geill Germani ddanfon nwyddau iddynt fydd dros y mor o Germani heibio i lannau Prydain, ac mae ein Llynges odidog ni yn cadw gwyliadwriaeth fanwl ar bob llong masnach yn tramwyo'r moroedd hyn.

HERR ARALL IR AMERICA I

HERR ARALL I'R AMERICA. Mae Germani newydd roddi herr arall i'r America, drwy geisio suddo y Nebraskan -llong fasnach Americanaidd yn hwylio o Lerpwl am New York. Tarawyd hi ger traethau'r Werddon gan torpedo a dan- iwyd o suddlong Germanaidd, heb fod yn nepell o'r fan lie y suddwyd y Lusitania Ni roddwyd rhybudd o fath yn y byd i'r Nebraskan. Tarawyd a niweidiwyd y llong yn ddirfawr gan y torpedo, a ffodd v criw am eu heinioes i'r cychod. Ond pan welwyd nad oedd y llong yn suddo, dych- welodd y criw iddi, ac hwyliasant yn eu hoi i Lerpwl. Gan fod baner America a phob arwyddion eraill o'i pherchenogaeth Americanaidd yn amlwg ddigon ar y Nebraskan, ni eill Germani ddadleu mai camgymeryd hon am long Brydeinig a wnaeth y suddlong. Mae hyn felly yn j herr pendant i'r America yngwyneb llythy* yr Arlywydd Wilson ar ol suddo'r Lusit- j ania. Yn y llythyr hwnw, fel y cofir, j dywedodd yr Arlywydd yn groew y gelwid Germani i gyfrif am unrhyw niwed pellach a achosid gan ei suddlongau i eiddo neu fywydau Americaniaid. Nid yw Germani hyd yn hyn wedi ateb llythyr yr Ar- lywydd, ond mae yr helynt ag Itali yn ddigon o reswm dros yr oediad; mae'n debyg y daw i law yr wythnos hon. Ond gellir er hyny gymeryd yr ymgais i suddo. r Nebraskan fel ateb mwy pendant a chlir na'r un llythyr. Tybir na fydd i'r Ar- lywydd ysgrifenu ynglyn a'r Nebraskan I hvd nes y caffo ateb i'w lythyr yngkylch y Lusitania. I

Y CYNCRHAIR A DAL YN BERSONOL I CYFRIFOi I

Y CYNCRHAIR A DAL YN BERSONOL CYFRIFOi. Un o obeithion mawr end disail y Caisar er cychwyn y Rhyfel a fu, ac o bosibl eto yw, y medr efe greu anghydiod rhwng y Cynghreiriaid-Prydain, Ffrainc, a Rws- ia. Nid ocs neb a wyr yn well nag ef mai mewn undeb mae nerth," ac y bydd- ai ei siawn ef i orchfygu ei elynion yn llaSver mwy nag ydyw pe y llwyddai i'w gwahanu modd y gallai ef eu cyfarfod bob yn un ag un a phob un ar ei ben ei hun- Hyn oedd wrth wraidd y s6n o bryd i bryd am wneuthur heddwch a'r naill neu'r Hall f o'r gwledydd Cynghreiriedig ar wahan oddiwrth y lleill. Dywed Gweinidog Tramor Rwsia fod Awstria wedi ceisio amodau heddwch gan Rwsia ar ei phen ei hun, ac iddi hithau wrthod. Ceisiwyd gwneud heddwch rhwng Germani a Ffrainc —ond gwrthododd yr olaf. Ar ddechreu y Rhyfel cytunodd y lair, gwlad a'u gilydd na wnai yr un ohonynt heddwch a'r gelyn ond mewn cydym- gynghoriad a chydweithrediad a'u gilydd. j Mae Itali yn aw-r wedi ymuno a'r Cynghrah' ac wedi gwneud cyffelyb gytundeb a'f tair gwlad. I Mae mwy yn hyn nag a ymddengys ar y wyneb. Nid yn unig mae'r Cynghreir- wyr yn, aci, ymladdysgwyddynysgwydd, ond mae'r naill i gynortbwyo'r llall ymhob modd dichonadwy. Dyry Prydain gyn- otthwy ei Llynges a'i Chyfoeth anferth Dyry Rwsia ei miliynau o wyr arfeg j abertha Ffrainc ei threfi a'i phentjefi, ei dinasoedd gwych a'i gwlad fras. t Ond golyga hefyd y bydd yr Heddwch y cytunir arno ar derfyn y Rhyfel yn un a to a fynno a buddiannau pob cenedl yn Ewrop. Dyna un rheswm mawr paham yr ymuno dd Itali a'r Cynghreirwyr, a phaham y disgwylir gwledydd eraill etc i wneud. I Arwedd arall ddaeth yn amlwg yr wyth- nos ddiweddaf oedd fod y Gwledydd Cyng- hreiriedig yn hysbysu'r byd eu bod hwv oil yn dal Aelodau Llywodraeth Twrci bob i un o honynt yn bersonol gyfrifol am yr I erchyllderau a gyflawnir y dyddiau hyn gan filwyr Twrci ar yr Armeniaid druan- Disgwylir mynegiad cyffelyb yn fuan yn rhybuddio Awdurdodau Milwrol Germani v dygir hwythau ar derfyn y Rhyfel i [ brawf a barn bersonol am bob trosedd yn erbyn dynoliaeth a gyflawnir gan y neb sydd o dan eu hawdurdod hwythau.