Teitl Casgliad: Dydd

Sefydliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hawliau: Mae hawlfraint yr adnodd hwn yn eiddo i Cambrian News Ltd.

Gwylio manylion cyfan

Cyntaf Cynt Llun 2 o 8 Nesaf Olaf
Full Screen
5 erthygl ar y dudalen hon
CWAITH Y SUDDLONGAUI

CWAITH Y SUDD-LONGAU. Anffodus yw llongau rhyfel yr Eidal. | Yr wythnos ddiweddaf suddwyd yr ail o honypt gan un o sudd-longau Awstria ym Mor yr Adriatic. Dau'gysur a gafodd yr Eidal; achubwyd bywydau ymron yr 011 o'r dwylaw ar y llongau rhyfel-a I dinvstriwyd dwy o sudd-longau'r gelyn. Gwnaeth Rwsia waith nodedig yn y Mor Du. Yr oedd llynges liosog o longau masnach Twrci yn cludo arfau a chyfarpar rhyfel o bob math drwy'r Mor Du tua'r Dardanels fel adgyflenwad i Fyddin Twrci yno. Daeth llongau Rwsia i'w cyfarfod, a suddwyd mewn un dydd 49 o longau Twrci oedd yn cludo cyfarpar at ladd bechgyn Prydain yn y Dardanels. Mae suddlongau Prydain yn y Dardan- els yn parhau i wneud gwasanaeth a gwr- hydri mawr yin Mor Marmora. Suddas- j ant bedair o longau Twrci yn cludo ad gyflenwad ac adgyfnerthion i Fyddin Twrci yn y Dardanels. Ymosododd un o'n suddlongau ar borthladd Tyrcaidd yn Asia Lciaf gyferbyn a Chaer Cystenyn, porthladd mawr o'r hwn ygyrrir milwyr yn barhaus i'r Dardanels. Taniodd hefyd torpedo at long arall wrth y cei yng Nghaer Cystenyn ei hun.. Methodd y torpedo daro'r Itoi-ig aeth heibio iddi gan daro i yn erbyn, mur y cei, a chwythu darn o'r cei yn deilcliion. Boddlona suddloilgau Germani, ar y Raw arall, i ymosod ar longau pysgota ym Mor y Gogledd, ac ar deithwyr diniwed at For y Werydd. (

ITEYRNAS AG YMERHODRAETH i

I TEYRNAS AG YMERHODRAETH. i Dydd Mercher nesaf, Awst 4, yw dydd penblwydd y Rhyfel a ddaeth ar waethaf teyrnas ac ymerhodraeth Prydain a'r byd gwareiddiedig megys Ileldr yn y nos. Naturiol yw i ni ar adeg felly adgofio ffeith- iau Jiaiifodol yr achos. Gwneir hyn yn effcithiol mewn dau bcnderfyniad syml end cvnhwysfawr. Ym mis Tachwedd diweddaf, amlygodd Mr. Asquith, y Prif Wcinidog, ar ran | Tevrnas Prydain Fawr y penderfyniad 1 «Kamwy's a ganlyn :— "1\id yn ysgafn a difeddwl y dad- j weiniodd Prydain y cledd, ac ni esyd hi. j y cledd yn ol yn y wain hyd nes bo Belgium wedi cael yn ol y cwbl, a mwy j na'r cwbl a aberthwyd ganddi hyd nes y diogelir Ffrainc yn sicr rhag perygl ymosodiad creulawn cyffelyb eto hyd nes y gosodir cenhedloedd by chain Ewrop ar sylfaen gadarn lie y byddant yn ddiogel oddiwrth vmosodiadau ac hyd nes bo gorthrwm milwrol Prwsia wedi cael ei Iwyr ddifetha unwaith am byth." Y penderfyniad arall yw yr un a gyn- [ Itygir. ar ran Ymerhodraeth Prydain Fawr j yn holl drefi mawr yr Ymherodraeth mewn Cyfarfodydd Cyhoeddus ddydd Mercher j nesaf. Dywed "Fod dinasyddion heddyw, ar ddydd penblwvdd cyhoeddi Rhyfel cyfiawn, yn gosod ar got a chadw ein penderfyniad diysgog fel Ymerhodraeth i barhau hyd nes y ceir buddugoliaeth Iwyr ar y gelyn, ein hymdrech fawr bresenol i gynnal y delfrydau uchel o ryddid a chyfiawnder a gynhwysir yn achos cysegredig y Cynghreiriaid." Mae dros bum cant o wahanol Bwyll- gorau wedi eu sefydlu gan Bwyllgor Can- olog y Cymdeithasau Gwladgarol i drefnu'r Cyfarfodydd hyn. Mr. Asquith yw Llywydd y Pwyllgor Canolog, a'r Is- lywyddion ydynt Arglwydd Rosebery a Mr. Balfour.

PROFFWYDO CWRS Y RHYFEL i I

PROFFWYDO CWRS Y RHYFEL. Mae awdurdod milwrol uchel yn yr Unol Daleithiau newydd gyhoeddi barn anni- bynol am gwrs dyfodol y Rhyfel. Teg j iddo yw dweyd ddarfod iddo ysgrifenu ei j broffwydoliaeth cyn dechreu ymosodiad 1 diweddaf Germani ar Warsaw. Rhag- fynega yr ymosodiad hwnw, a dywed mai I cilio yn ol o Poland a wna y Rwsiaid o flaen y Germaniaid y tro hwn, ac y pery I yr enciliad ar hyd fis Awst. Ond tua mis Medi bydd Rwsia mewn cyflwr i ail-ymosod gan y bydd wedi cael adgyflenwad'-dlgonol o gyfarpar rhyfel. Gyrrir byddinoedd I mawr Germani yn eu hoi. Ym mis Hyd- ref adfeddianna Rwsia yr holl dir a gollodd yn Galicia a Poland, gan oresgyn Hungari hefyd yn y de a Dwyrain Prwsia yn y Gogledd. Erbyn hyny bydd pethau mor 1 ddrwg yn Awstria fel y gorfodir Llywodr- aeth Awstria i ffoi i Germani-fel y gor- fodwyd Llywodraeth Belgium i ffoi i Ffrainc. Enill a wna'r Prydeinwyr yn y Dardan- els, er mai araf a fydd yr enill tan tua diwedd Awst. Ond yn Medi bydd y clo wedi ei dori, a Llynges Prydain wedi cael lie agored drwy'r Dardanels a Mor Marmora i'r Mor Du, a Chaer Cystenyn wedi syrthio. Parha Byddin yr Eidal i enill ar Awstria, a bygythir Trieste ganddynt, os na fydd y I porthladd pwysig hwnw wedi cael ei enill ganddynt tua mis Medi. Y chydig d gyfnewidiad a gymer le yn I Ffrainc tan tua diwedd Awst, pan y gyrrir y Germaniaid yn 01 gan Syr John French yn y gogle Id a chan Joffre yn y dwyrain. t Ymuna Rwmafiia a Bulgaria gyda ni yn Awst i ymosod ar Twrci ac Awstria. Erbyn mis Hydref bydd Germaniaid wedi cael eu gwthio yn ol i'w gwlad eu hun, j ac yn mis Tachwcdd goresgynnir Germani r gan y Ffrancod a'r Prydeinwyr o'r gor- lie win, gan yr Eidal o'r deheu, a chan y Rwsiaid o'r dwyrain. Yna y bydd y I diwedd, ac y gofyna y Caisar am heddwch.

PA HYD Y PERY Y RHYFEL

) PA HYD Y PERY Y RHYFEL? < Gwelir fod yr Americanwr yn proffwydo y ceir heddwch tua diwedd Tachwedd, neu cyn y Nadolig. Barn Mr. Lloyd George er dechreu y Rhyfel ydyw na fydd drosodd cyn y Nadolig eleni. Ar y llaw 1 arall dywed Mr. Henderson, Llywydd Bwrdd Addysg, mai barn y Cabinei yw y pery v Rhyiel am flwyddyn arall. Mae lhvyddiant Germani yn gyrru y Rwsiaid yn ol o Galicia, gan ddiogelu felly deheu Germani a Hungari ffrwythten, wedi sicrhau y cynhaeaf eleni etc i Germani ac Awstria. Gan fod y bob! wedi bod yn uynnil o'u defnydd. bwyd, ac yn ddar- bodus i hau pob llathen o dir segur, dis- gwylir y bydd gan Germani ac Aw- tria ddigon o ddefnydd bwyd am flwyddyn gron eto. Gan fed digon o lo a meteloedd « ganddi, tybir y geill yn rhwydd gael digon ogyflenwad o gyfarpar rhyfel am flwyddyn arall o fewn ei therfynau hi ei hun. Felly, os na ddigwydd i'w byddinoedd ryw an- ffawd anisgwyliadwy, tybir y geill Germani barhau y rhyfel am o leiaf flwyddyn eto. Barna un awdurdod milwrol yn Lloegr y gorfodir Rwsia i encilio o Warsaw, ac y syrth y ddinas i ddwylaw Germani tua'r wythnos gyntaf neu yr ail yn Awst-a hyny yn benaf o ddiffyg cyfarpar rhyfel priodol a digonol gan Rwsia. Eithr byr, ebe fe, a fydd Ilawenydd Germani, canys yn mis Medi cyhoedda America ryfel yn erbyn Germani, gan gymeryd meddiant o'r llu Jongau Germanaidd sydd heddyw yn llechu ym mhorthladdoedd yr Unol Dal- eithiau. Pan wneir hyn gwel y Caisar fed y diwedd wedi dod, a cheisia wneud heddwch. Eithr ni bydd yr amodau a < gynygir ganddo yn dderbyniol gan y Cynghreirwyr, ac a y rhyfel ymlaen hyd nes y daw yn wasgu caled ar boblogaeth Germani tua'r Nadolig.

BWLEDI ARIAN LLOYD CEORCE

BWLEDI ARIAN LLOYD CEORCE. Dywedodd Mr. Lloyd George ar ddech- reu'r Rhyfel mai bwledi arian, ac nid rhai plwm na liaearn, a enillai'r fuddugoliaeth. Wrth hyny golygai y byddai cost y Rhyfel i bob gwlad mor anferth, fel mai'r wlad a feddai ddigon o gyfoeth i ddal allan hyd y diwedd a fyddai mwyaf tebyg o enill. Y ddwy wlad gyfoethocaf yn y Rhyfel yw Prydain a Germani. Mae Prydain yn gwario Tair Miliwn o bunnau bob dydd, Un filiwn ar hugain o bunnau bob wythnos, a dyweder Pedwar ugain a deg o filiynau ( £ 90,000,000) bob mis o'r flwyddyn. Mae Germani yn gwario mwy na ni, sef yn agos i bum' miliwn y dydd, pymtheg miliwn ar hugain bob wythnos, ac yn agos i gant a hanner o flliynau ( £ 150,000,000) bob mis. Gwyddis erbyn hyn ei bod yn gyfyng ar Germani am arian. Arian papur gan mwyaf a ddefnyddir ganddi yn awr- ac jnae gwerth arian papur Germani yn Germani, rai ohonynt, yn gallu talu llog o gwbl. Mae rhai o'r cwmnioedd mawr masnachol, yn enwedig cwmnyau Llongau Masnach, wedi myned yn fethdalwyr. Dyna dynged dau Gwmni mwyaf Germani, set yr Hamburg-Amerika, a'r Norddeut- scher. Rhaid cofio fod llongau masnach Germani oil wedi cael eu carcharu yn eu porthladdoedd. Nid oes un llong mas- nach o eiddo Germani a faidd hwylio ar y mor er's misoedd. Eto mae traul i'w cadw hyd yn oed yn segur. Costia £ 40,000 y dydd neu dros filiwn a chwarter ( £ 1,250,000) y mis i gadw llongau masnach Cwmni'r Hamburg-Amerika yn unig, yn segur. Ac i Lynges Prydain, ac i Lynges Prydain yn unig, y rhaid diolch am hyn. Llongau rhyfel Prydain sydd wedi cau llongau masnach Germani yn eu porth- laddoedd, gan eu rhwystro i hwylio i'r cefnfor i gludo nwyddau ac enill arian i Germani. Mewn ychydig wythnosau disgwylir can- oedd o weitliwyr profiadol, megis Feirian- wyr, llong-adeiladwyr, etc.. i Belfast P, manau eraill yn y fam-wlad o Canada, Unol Daleithiau'r America, De Affiica, etc.